Adroddiad newydd yn dangos addewid ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn ysgolion Cymru, er gwaethaf heriau

Mae adroddiad thematig newydd gan Estyn wedi darganfod datblygiadau addawol mewn addysg ieithoedd rhyngwladol ar draws ysgolion Cymru, yn enwedig yn y sector cynradd lle mae llawer o ysgolion wedi gwneud cynnydd cadarnhaol ers integreiddio ieithoedd yng Nghwricwlwm i Gymru yn 2022.
Mae’r adroddiad yn archwilio sut mae ysgolion yn rhoi ieithoedd rhyngwladol ar waith a’r effaith ar ddysgwyr o’r blynyddoedd cynnar trwodd i addysg ôl-16. Mae’n amlygu enghreifftiau o arfer dda, yn enwedig mewn ysgolion cynradd ac ysgolion pob oed lle mae disgyblion yn cael eu hamlygu i ieithoedd o oedran cynnar ac yn datblygu ethos amlieithog cryf. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau’n dangos nad yw pob dysgwr yn elwa ar yr un ansawdd o addysgu a dysgu.
Er bod y rhan fwyaf o’r ysgolion uwchradd yr ymwelwyd â nhw yn darparu cyfleoedd addas ar gyfer disgyblion ym Mlynyddoedd 7 i 9, mae niferoedd y disgyblion sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol mewn TGAU a Safon Uwch yn parhau i fod yn isel. Mae tystiolaeth a gasglwyd yn rhan o’r adroddiad yn awgrymu bod cyfyngiadau amser yn y cwricwlwm, amgyffrediad disgyblion fod ieithoedd yn anodd, a diffyg perthnasedd i yrfaoedd yn y dyfodol, yn cyfrannu at y gostyngiad hwn.
Dywedodd Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, Owen Evans:
“Mae dysgu iaith ryngwladol yn ehangu gorwelion ac yn agor drysau i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’n galonogol gweld datblygiadau cadarnhaol, yn enwedig mewn ysgolion cynradd, lle mae disgyblion yn dechrau ar eu taith ieithoedd yn gynharach nag erioed. Fodd bynnag, rhaid i ni sicrhau bod pob dysgwr, ni waeth ble mae’n byw, yn cael mynediad cyson at addysg ieithoedd rhyngwladol o ansawdd uchel. Mae hyn yn golygu arweinyddiaeth gryfach, pontio gwell rhwng y sector cynradd a’r sector uwchradd, a buddsoddiad parhaus yn natblygiad athrawon.”
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu rôl dyngedfennol arweinwyr ysgolion o ran cefnogi a chynnal darpariaeth ieithoedd rhyngwladol. Pan fydd arweinwyr yn blaenoriaethu ieithoedd, mae disgyblion yn fwy tebygol o elwa ar addysgu difyr, llwybrau dilyniant clir, a chyfleoedd cyfoethogi.
Dangosodd mewnwelediadau fod cydweithio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd yn aml yn wan, sy’n effeithio ar barhad mewn dysgu. Yn ychwanegol, mae recriwtio athrawon yn parhau i fod yn her sylweddol, ac nid oes digon o athrawon dan hyfforddiant yn dechrau gweithio yn y proffesiwn i fodloni’r galw yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol, gwasanaethau gwella ysgolion a Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar wella addysgu a dysgu, datblygu trefniadau cwricwlwm cryfach mewn cyfnodau pontio, a chefnogi ysgolion i gynnal darpariaeth ar gyfer cyrsiau ieithoedd rhyngwladol TGAU a Safon Uwch.