Erthyglau newyddion |

Absenoldeb athrawon yn llesteirio cynnydd disgyblion

Share this page

Adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn yn tynnu sylw at ddibyniaeth gynyddol ar staff cynorthwyol a staff cyflenwi yn yr ystafell ddosbarth.

Yn ôl adroddiadau a gyhoeddir gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn heddiw, nid yw trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon yn ysgolion Cymru yn gwneud digon i sicrhau cynnydd dysgwyr ac nid ydynt yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau chwaith.

Mae tîm o Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru wedi ymweld â 23 ysgol gynradd ac uwchradd, a chyfarfod â dysgwyr, penaethiaid ac athrawon cyflenwi. Maent hefyd wedi cynnal arolygon a chyfweliadau, a dadansoddi data.

Mae'r adroddiadau'n dangos cynnydd yn y defnydd o athrawon a staff cyflenwi i addysgu disgyblion, gyda bron i 10% o wersi'n cael eu haddysgu gan staff heblaw athro arferol y dosbarth bellach. Mae hyn yn cael effaith ariannol ar ysgolion ac yn llesteirio cynnydd dysgwyr hefyd wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth.

Yn ôl adroddiad Estyn, mae dysgwyr yn gwneud llai o gynnydd pan fydd athro arferol y dosbarth yn absennol, a bydd eu hymddygiad yn aml yn waeth. Yn aml, mae staff cyflenwi na chânt eu cyflogi gan yr ysgol yn llai effeithiol oherwydd nad ydynt yn gwybod digon am anghenion y disgyblion yn eu dosbarth. Gall gwersi fod yn rhy araf a disgwyliadau fod yn rhy isel hefyd.

Yn y rhan fwyaf o ysgolion cynradd, staff a gyflogir gan yr ysgol ac sy'n gyfarwydd ag anghenion y plant sy'n cyflenwi yn ystod absenoldebau tymor byr gan amlaf. Ond mewn ysgolion uwchradd, gall absenoldeb athrawon gael effaith fwy niweidiol. Yn aml, nid yw'r gwaith a osodir yn ddigon heriol a diddorol ar gyfer y dysgwyr. Mae disgyblion 11-14 oed yn fwy tebygol o ddioddef gan fod ysgolion yn gwneud ymdrech i sicrhau trefniadau gwell ar gyfer dosbarthiadau arholiad.

Yn ôl y Swyddfa Archwilio, amcangyfrifir bod ysgolion a gynhelir yng Nghymru wedi gwario £54 miliwn ar drefniadau cyflenwi yn yr ystafell ddosbarth yn 2011-12 – cynnydd o saith y cant ers 2008-09. Mae'r rhesymau am absenoldeb yn cynnwys salwch, hyfforddiant a mynychu cyfarfodydd. Gan ystyried y cynnydd yn y defnydd o staff asiantaethau, amcangyfrifir bod nifer y diwrnodau y bu'n rhaid defnyddio staff cyflenwi wedi cynyddu 10 y cant yn yr un cyfnod.

Canfu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru y gallai ysgolion leihau absenoldeb athrawon a'r angen am drefniadau cyflenwi drwy reoli a monitro absenoldeb salwch yn well. Pe bai modd gostwng lefelau absenoldeb salwch yng Nghymru i fod y un fath â Lloegr, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn amcangyfrif y byddai angen 60,000 diwrnod yn llai o ddarpariaeth gyflenwi – a gallai hynny arbed £9 miliwn y flwyddyn.

Mae adroddiad y Swyddfa Archwilio yn galw ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion i roi mwy o ystyriaeth i effaith gwersi dan ofal staff cyflenwi ar gynnydd dysgwyr, a gwneud mwy i fonitro i ba raddau mae gwersi'n cael eu haddysgu gan staff cyflenwi, ansawdd y gwersi hynny a'u heffaith ar ddisgyblion.

Mae'r ddau adroddiad yn cyflwyno argymhellion gyda'r nod o leihau amlder ac effaith absenoldeb athrawon, yn cynnwys:

  • Gwella'r broses o reoli trefniadau cyflenwi mewn ysgolion, gan gynnwys datblygu polisïau sy'n canolbwyntio ar gynnydd dysgwyr a defnyddio adnoddau'n fwy effeithiol;
  • Gwella ansawdd yr addysgu a dysgu mewn gwersi dan ofal staff cyflenwi drwy sicrhau bod gwaith yn cael ei osod ar lefel briodol; a
  • Sicrhau bod athrawon cyflenwi'n gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi a datblygu a chynyddu mynediad at raglenni hyfforddi cenedlaethol sydd ar gael i athrawon ar gontractau parhaol

Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:

Mae'r adroddiad a gyhoeddir heddiw'n dangos y ddibyniaeth gynyddol ar staff cyflenwi ledled Cymru. Er mwyn defnyddio staff cyflenwi yn effeithlon ac yn effeithiol, mae angen i ysgolion ddeall yn well y rhesymau sydd wrth wraidd absenoldeb athrawon a datblygu trefniadau cyflenwi mwy effeithiol. Bydd hyn yn arbed arian i ysgolion ar yr un llaw ond bydd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad disgyblion.

Meddai Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant,

Mae'n amlwg bod disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd yn gwneud llai o gynnydd pan fydd athro arferol y dosbarth yn absennol. Mae'n hollbwysig i ni fynd i'r afael ag effaith absenoldeb athrawon er mwyn sicrhau bod safon yr addysg a roddir i bobl ifanc bob amser yn heriol. O ganlyniad, ni fydd unrhyw ddisgybl o dan anfantais pan fydd ei wersi dan ofal athro cyflenwi.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Paratowyd a chyhoeddwyd adroddiad Estyn, ‘Effaith Absenoldeb Athrawon’, yn dilyn cais am gyngor gan Lywodraeth Cymru yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Addysg a Sgiliau i Estyn ar gyfer 2012-13. Mae'n canolbwyntio ar effaith trefniadau cyflenwi ar gynnydd dysgwyr ac mae ar gael yn www.estyn.gov.uk.
  • Estyn yw'r Arolygiaeth dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Ein nod yw cyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru trwy ddarparu gwasanaeth arolygu a chyngor annibynnol, o ansawdd uchel.
    Ein gweledigaeth yw cael ein cydnabod trwy arbenigedd ein staff fel llais awdurdodol ar ddysgu yng Nghymru.
  • Paratowyd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon', fel rhan o raglen yr Archwilydd Cyffredinol o astudiaethau gwerth am arian ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n asesu pa mor effeithiol yw trefniadau cyflenwi ac yn cynnwys tueddiadau gwariant, pa mor dda y defnyddir adnoddau a'r goblygiadau ar gyfer strategaethau Llywodraeth Cymru a strategaethau lleol i wella canlyniadau i ddysgwyr. Mae'r adroddiad ar gael yn www.wao.gov.uk
  • Cenhadaeth Swyddfa Archwilio Cymru yw hybu gwelliannau, fel y gall pobl yng Nghymru elwa ar wasanaethau cyhoeddus atebol, sy'n cael eu rheoli'n dda ac sy'n cynnig y gwerth am arian gorau posibl. Mae hefyd wedi ymrwymo i ganfod a lledaenu arferion da ledled sector cyhoeddus Cymru.