Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol (Gradd EO) - Estyn

Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol (Gradd EO)


Rydym yn chwilio am Ymgynghorydd Pobl a Datblygu Sefydliadol sy’n siarad Cymraeg, sydd â phrofiad o weithio mewn rôl adnoddau dynol gyffredinol. Byddwch yn chwarae rôl bwysig yn ein swyddogaeth Pobl – gan roi cyngor, cefnogi rheolwyr, datblygu polisi, rheoli gweithgareddau recriwtio a chefnogi dysgu a datblygu.

Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo i ddarparu sawl maes allweddol, gan gynnwys recriwtio, dysgu a datblygu, polisi a chysylltiadau â chyflogeion, ymgysylltu, ac amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Datblygu polisïau a gweithdrefnau Pobl a sicrhau y cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol
  • Darparu gweithgareddau recriwtio ac ymsefydlu effeithiol
  • Cydlynu’r gwaith o ddarparu a gwerthuso gweithgareddau dysgu a datblygu
  • Cyswllt / pwynt cyfeirio ar gyfer ymholiadau Pobl a datblygu sefydliadol
  • Cynnig cyngor a chefnogaeth ar ystod o faterion Pobl, gan gynnwys presenoldeb a rheoli perfformiad, materion disgyblu a datrys anghydfodau
  • Cynorthwyo i ddatblygu a gweithredu Pobl a mentrau
  • Cadw cofnodion yn unol â gofynion polisi, archwilio a chyfreithiol (gan gynnwys llywodraethu gwybodaeth a chydymffurfio â GDPR) a sicrhau y caiff gwybodaeth ei phrosesu i’r gyflogres mewn modd amserol
  • Casglu a dadansoddi gwybodaeth reoli ar gyfer adroddiadau (misol/chwarterol/blynyddol)
  • Cynorthwyo i gyflwyno’r Arolwg Pobl blynyddol
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a all fod yn ofynnol yn rhesymol gan reolwyr

Hyd: Parhaol

Cyflog: £29,657 – £33,748

Y Gymraeg: Ar gyfer y swydd hon, mae medrau Cymraeg (llafar ac ysgrifenedig) yn hanfodol.

Oriau gwaith a gweithio hyblyg: Yr oriau amser llawn yw 37 awr, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os hoffech weithio’n hyblyg, byddwn yn hapus i ystyried hyn yn unol â’n Polisi Gweithio Hyblyg

Dyddiad cau i ymgeisio: 10:00am 17 Gorffennaf 2025