Uwch-Swyddog Ymchwil
Rydym ni’n chwilio am ymchwilydd profiadol sy’n mwynhau llunio sut caiff tystiolaeth ei defnyddio i lywio dealltwriaeth, gwelliant a gwneud penderfyniadau ar draws Estyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain y swyddogaeth ymchwil o fewn Estyn i ddatblygu’r strwythurau a’r systemau sydd eu hangen i gefnogi’r sefydliad i ddod yn sefydliad sy’n cael ei lywio mwy gan ymchwil ac yn llythrennog o ran ymchwil, a chefnogi integreiddio egwyddorion ymchwil ar draws gwaith Estyn, gan sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei harfarnu’n feirniadol, ei dehongli’n glir, a’i chymhwyso i flaenoriaethau a pholisi / arfer strategol.
Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Cynllunio dull ar gyfer archwilio ein tystiolaeth bresennol yn gynyddol ac yn systematig i gefnogi gwaith Estyn
- Cynghori ar ein dadansoddiadau o ddeilliannau arolygu ansoddol yn y dyfodol
- Datblygu protocolau ar gyfer defnyddio offer dadansoddol, yn cynnwys meddalwedd dadansoddi data ansoddol
- Datblygu dull trylwyr ar gyfer dadansoddi sylwadau ansoddol mewn arolygon
- Arwain ar gynghori ar ein gofynion staffio yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau ymchwil Estyn
- Sicrhau bod yr holl ddadansoddi yn foesegol drylwyr a thryloyw, ac yn cael ei gyfleu ag eglurder am gryfderau, cyfyngiadau a goblygiadau.
- Arwain ar ddatblygu arweiniad a dysgu proffesiynol dilynol ar gyfer arolygwyr
- Cyflwyno’r broses friffio a hyfforddi ar gyfer arolygon thematig i arolygwyr, yn cynnwys casglu gwybodaeth gefndir berthnasol a darparu cyngor ar gynllunio prosiect, dulliau ymchwil ac offer
- Sicrhau ymagwedd sy’n ystyriol o ymchwil at gynllunio arolygon, dadansoddi a sicrhau ansawdd i gefnogi gwaith arolwg thematig a sail dystiolaeth ehangach Estyn, yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol ac arolygu
- Lledaenu ac ymgysylltu â chanfyddiadau ymchwil yn amserol i gynulleidfa fewnol Estyn, yn cynnwys llunio Diweddariad Ymchwil rheolaidd
- Arwain ar ddatblygu a chynnal cysylltiadau strategol â’r gymuned ymchwil ehangach a hyrwyddo defnydd o dystiolaeth allanol
- Gweithio ar draws y tîm i ddarparu cyngor dadansoddol integredig i gydweithwyr Estyn
- Cyfrannu at ddatblygu a chynnal ymagwedd systematig at storio deallusrwydd a gwybodaeth berthnasol, yn cynnwys datblygu offer a systemau i rannu gwybodaeth sy’n ystyriol o ymchwil
Hyd: Parhaol
Cyflog: £47,698 – £56,471
Dyddiad cau: 10:00yb ar 10 Chwefror 2026