Swyddog Ymchwil - Estyn

Swyddog Ymchwil


Rydym yn chwilio am Swyddog Ymchwil i chwarae rôl ganolog mewn cryfhau galluogrwydd dadansoddol a gwerthusol trwy ymchwil o ansawdd uchel. Bydd yr ymgeisydd llwyddianus yn gyfrifol am arwain a chefnogi gweithgareddau ymchwil ar draws Estyn, yn cyflwyno dadansoddiad ansoddol a meintiol o ansawdd uchel sy’n llywio arolygu, gwaith thematig a gwneud penderfyniadau strategol.

Mae tasgau allweddol yn cynnwys gweithio gydag Uwch Swyddog Ymchwil i:

  • Cynllunio a chyflwyno astudiaethau ymchwil thematig, hydredol neu ddulliau cymysg sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Estyn.
  • Datblygu cwestiynau ymchwil, methodolegau, offer a dulliau samplu, gan ddefnyddio arfer orau mewn ymchwil addysgol a chymdeithasol.
  • Arwain elfennau ymchwil ansoddol, yn cynnwys cyfweliadau, grwpiau ffocws ac astudiaethau achos; integreiddio canfyddiadau gyda thystiolaeth feintiol wedi’i darparu gan ystadegwyr a dadansoddwyr.
  • Creu allbynnau ysgrifenedig o ansawdd uchel, yn cynnwys adroddiadau thematig, crynodebau gwerthusol a mewnwelediadau strategol ar gyfer uwch arweinwyr.
  • Sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn ddilys, yn ddibynadwy ac yn foesegol, gan lynu at safonau perthnasol, yn cynnwys Cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR).
  • Gweithio gyda thimau arolygu i nodi patrymau neu faterion sydd angen ymholi dyfnach.
  • Darparu cyngor sy’n cael ei lywio gan ymchwil a thystiolaeth gefndir i arweinwyr prosiectau thematig, yn cynnwys briffiau ar lenyddiaeth berthnasol, fframweithiau ac arfer ryngwladol.
  • Cyfrannu at sicrhau ansawdd tystiolaeth a ddefnyddir mewn astudiaethau thematig a’r Adroddiad Blynyddol.
  • Sganio’r tirlun mewnol ac allanol i roi gwybod i Estyn am ymchwil berthnasol, datblygiadau polisi a thystiolaeth sy’n dod i’r amlwg.
  • Creu diweddariadau mewnol rheolaidd sy’n cyfosod ymchwil a chefnogi dysgu gan arolygwyr a dysgu sefydliadol.
  • Hyrwyddo arfer sy’n cael ei llywio gan ymchwil ar draws Estyn trwy gyflwyniadau, gweithdai a deunyddiau arweiniad.
  • Cydweithio â dadansoddwyr i nodi tueddiadau y mae angen ymchwilio iddynt yn ddyfnach a throi canfyddiadau’n naratifau hygyrch.
  • Meithrin perthnasoedd cadarnhaol â Llywodraeth Cymru, sefydliadau partner, sefydliadau academaidd ac arolygiaethau eraill i gefnogi rhannu tystiolaeth a gweithgarwch ymchwil ar y cyd.
  • Cyfrannu at strategaeth ymchwil a rhaglen ymchwil flynyddol Estyn yn y tymor hir.

Hyd: Parhaol

Cyflog: £37,129 – £45,399

Dyddiad cau: 10:00yb ar 10 Chwefror 2026