Swyddog Cynllunio
Mae gan ein Swyddogion Cynllunio rôl allweddol yn creu a chynnal ein rhaglen waith. Rydym ni’n chwilio am unigolyn trefnus, sy’n canolbwyntio ar fanylder, sy’n gallu cydlynu gweithgarwch arolygu, rheoli data a systemau cynllunio, a helpu sicrhau bod rhaglen waith Estyn yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon.
- Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Amserlenni a chynllunio gweithgarwch arolygu a gweithgarwch dilynol ar draws sectorau yn unol â’r rhaglen waith flynyddol
- Gweithio’n agos gyda Chydlynwyr Arolygu a staff Contractau i gefnogi cynllunio a hysbysiadau arolygu
- Rheoli newidiadau i amserlennu arolygu ac ailgyfeirio adnoddau i gyflawni blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg
- Cynllunio a rheoli gweithgarwch thematig a gweithgarwch nad yw’n ymwneud ag arolygu o fewn y rhaglen waith
- Nodi a datrys gwrthdaro o ran adnoddau a materion capasiti
- Rhoi cyngor a chymorth i Gyfarwyddwyr Cynorthwyol ar faterion adnoddau arolygu
- Rheoli a chynnal systemau cynllunio a defnyddio, gan sicrhau cywirdeb ac uniondeb data
- Datblygu a chynnal gwybodaeth reoli i lywio cynllunio, adrodd a monitro perfformiad
- Nodi gwelliannau i systemau, cyfrannu at fanylebau a chefnogi profion derbynioldeb i’r defnyddiwr
- Datblygu a chymhwyso prosesau sicrhau ansawdd i sicrhau cywirdeb gweithgarwch cynllunio a defnyddio
- Cynnal cofnodion cywir yn ymwneud â defnyddio’r gweithlu, diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith a gweithgarwch gweithredol arall
- Bod yn gyfrifol am broses y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a phroses adnewyddu arolygwyr dan gontract
- Cyfrifoldeb rheolaeth llinell am Swyddog Gweinyddol
Hyd: Parhaol
Cyflog: £30,769 – £35,014
Dyddiad cau: 10:00yb ar 13 Ebrill 2026