Swyddog Cyfathrebu Digidol - Estyn

Swyddog Cyfathrebu Digidol


Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol ym maes cyfathrebu cymdeithasol sydd â medrau digidol cryf, sy’n gallu creu cynnwys difyr a hygyrch, gweithio’n hyderus yn Gymraeg, a chydweithio’n effeithiol i gefnogi cyfathrebu a nodau strategol Estyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd cyfrifoldeb am gydlynu a chynnal cynnwys gwefan a chynnwys cymdeithasol cywir, sy’n hawdd i’w defnyddio ac yn hygyrch, a bydd yn dod â phrofiad cryf mewn rheoli cyfryngau cymdeithasol, dylunio graffeg a golygu fideos.

Mae tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Cynorthwyo â datblygu a gwerthuso ymgyrchoedd cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith Estyn a chreu gwelededd brand. 
  • Drafftio cynlluniau cynnwys amlgyfrwng i gefnogi hyrwyddo ein trefniadau arolygu, adnoddau gwella, cyhoeddiadau allweddol, ymgyrchoedd recriwtio, a meysydd penodol eraill o’n gwaith.
  • Dylunio cynnwys perthnasol, difyr a chreadigol, gan gynnwys fideo a graffigau i gynulleidfaoedd mewnol ac allanol ei ddefnyddio ar draws cyfuniad o sianelau cyfathrebu, yn cynnwys ein gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol.
  • Arwain ar sganio’r gorwel ar draws cyfryngau cymdeithasol; nodi a rhannu tueddiadau a chyfleoedd i amlygu ein gwaith yn greadigol ar sianelau newydd fel Instagram, TikTok a phlatfformau eraill a nodwyd.
  • Darparu adroddiadau rheoli a dadansoddi ar ddefnydd o’r wefan, ymgysylltu â chyfryngau cymdeithasol ac ymgyrchoedd marchnata i werthuso effeithiolrwydd a llywio gwelliant parhaus.
  • Cefnogi ein cysylltiadau rhagweithiol ac adweithiol â’r cyfryngau, gan fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau i’r cyfryngau, drafftio datganiadau i’r wasg a pharatoi briffiau ar gyfer pobl sy’n cael cyfweliad.
  • Cynorthwyo â chydlynu cyhoeddiadau corfforaethol allweddol, gweithio gyda’r Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd i gyflawni dosbarthiad targedig datganiadau i’r wasg, pecynnau cymorth rhanddeiliaid, e-saethiadau a deunyddiau hyrwyddo eraill.
  • Arwain ar gynllunio, coladu a drafftio’r cylchlythyr allanol bob hanner tymor, sef Datgan.
  • Rheoli’r amserlen flogiau, y broses olygu a chyhoeddi.
  • Hyrwyddo a chefnogi tôn llais, canllawiau brand a chanllawiau hygyrchedd Estyn, gweithio gyda rheolwyr i gynllunio cynnwys a sicrhau negeseuon a brandio cydlynus ar draws holl sianelau cyfathrebu Estyn.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel a allai fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr.

Hyd: Parhaol

Cyflog: £30,769 – £35,014

Dyddiad cau: 10:00yb ar 9 Chwefror 2026