Rheolwr TG - Estyn

Rheolwr TG


Rydym ni’n chwilio am reolwr TG sydd ag ymagwedd bwyllog a meddylgar at reoli risg, ffurfio systemau diogel, a chefnogi’r sefydliad trwy newid digidol ystyrlon. Byddwch yn cyfuno mewnwelediad technegol cryf gydag arddull gydweithredol, gan helpu cydweithwyr i lywio materion cymhleth gydag eglurder a hyder. Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n mwynhau gwella systemau, cryfhau gwydnwch, a meithrin perthnasoedd cynhyrchiol ar draws timau a phartneriaid.

Byddwch chi’n gyfrifol am sicrhau bod Estyn yn cydymffurfio â gofynion statudol a rheoleiddio o ran diogelwch gwybodaeth, parhad busnes, adfer yn sgil trychineb, a sicrwydd technoleg. Byddant hefyd yn goruchwylio prosiectau newid, yn cynnwys mudo systemau a gwasanaethau i blatfformau cwmwl, gan sicrhau arfer orau seiberddiogelwch a chysoni â safonau’r llywodraeth, fel Hanfodion Seiber.

Mae tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Arwain ar ddatblygu, gweithredu a monitro fframwaith Estyn ar gydymffurfio o ran TG, gan sicrhau cysondeb â pholisïau’r llywodraeth, canllawiau NCSC, a deddfwriaeth berthnasol.
  • Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Gweithrediadau Arolygu a Sicrhau Ansawdd i sicrhau bod ein systemau TG hanfodol yn rhedeg yn esmwyth.
  • Goruchwylio parhad busnes y sefydliad a’i gynllunio ar gyfer adfer yn sgil trychineb, gan sicrhau bod cynlluniau’n gyfoes, yn cael eu profi’n rheolaidd, ac yn cael eu cyfleu’n effeithiol i staff.
  • Gweithredu fel arweinydd Estyn ar gyfer cydymffurfio â Hanfodion Seiber, cydlynu asesiadau, gweithgareddau cyweirio, ac ardystio.
  • Rheoli a chyflwyno prosiectau newid sy’n cynnwys mudo gwasanaethau i mewn i’r cwmwl, sicrhau diogelwch, cost effeithiolrwydd, a chyn lleied o darfu ag y bo modd ar weithrediadau busnes.
  • Arwain ymarferion caffael TG, yn cynnwys datblygu manylebau, tendro, gwerthuso cyflenwyr, a dyfarnu contractau.
  • Rheoli desg gwasanaeth TG Estyn i sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn cael ei ddarparu, sy’n cefnogi anghenion gweithredol a strategol y sefydliad.
  • Sicrhau rheolaeth gadarn o ran contractau a chyflenwyr, herio atebion arfaethedig, monitro cyflawni yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol, rheoli risg, a chyflawni gwerth am arian.
  • Datblygu a chynnal perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid mewnol, cydweithwyr Digidol Llywodraeth Cymru, a chyflenwyr allanol, gan sicrhau dealltwriaeth ar y cyd o risg, rhwymedigaethau cydymffurfio, a disgwyliadau o ran cyflawni.
  • Darparu sicrwydd ac adrodd yn rheolaidd i uwch arweinwyr a’r Pwyllgor Archwilio a Risg ar risg TG, cydymffurfio, gweithgarwch caffael, a gwydnwch.
  • Hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, rhannu gwybodaeth, ac ymwybyddiaeth staff o ran diogelwch seiber, gwydnwch TG ac arfer caffael.
  • Bod yn rheolwr llinell ar y Swyddog Systemau Gwybodaeth a Hysbysrwydd.

Cyflog: £45,974 – £54,430 (codiad cyflog yn yr arfaeth)

Hyd: Parhaol

Dyddiad cau i ymgeisio: 10yb 5 Ionawr 2026