Rheolwr Llywodraethu - Estyn

Rheolwr Llywodraethu


Rydym ni’n chwilio am Reolwr Llywodraethu sy’n siarad Cymraeg fydd yn dod ag eglurder, trefn, a barn gadarn i rôl sydd wrth wraidd ein gwaith llywodraethu. Byddwch chi’n mwynhau gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad, yn eu helpu i lywio prosesau, cyflawni cyfrifoldebau statudol, a chynnal safonau uchel o dryloywder a chydymffurfio. Mae’r rôl hon yn gweddu i rywun sy’n gwerthfawrogi cywirdeb, perthnasoedd da, a chydlynu cyson ar draws blaenoriaethau lluosog. Os ydych chi’n cael eich cymell gan wasanaeth cyhoeddus ac yn awyddus i gefnogi llywodraethu cryf sy’n ein helpu i weithredu’n effeithiol ac yn gyfrifol, byddem yn falch o glywed gennych chi.

Byddwch chi’n gyfrifol am arwain a chefnogi mentrau allweddol ar draws llywodraethu corfforaethol a rheoli gwybodaeth, gan ganolbwyntio ar reoli materion llywodraethu o ddydd i ddydd, yn cynnwys ein rhaglen archwilio mewnol, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a Cheisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun, ac adborth a chwynion.

Mae tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Rheoli rhaglen archwilio mewnol Estyn, yn cynnwys cydlynu cyfarfodydd archwilio, adroddiadau a chynnydd yn erbyn argymhellion
  • Gweithio gydag uwch reolwyr a staff gwasanaethau canolog i lunio a monitro Cynllun Blynyddol Estyn, a monitro dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) a dangosyddion rheoli (DRh) Estyn 
  • Rheoli’r broses a’r arweiniad Adborth a Chwynion, cydlynu graddfeydd amser ac ymatebion, a chefnogi rheolwyr
  • Rheoli trefniadau Rheoli Gwybodaeth, yn cynnwys cydlynu graddfeydd amser ac ymatebion i Geisiadau am Fynediad at Ddata gan y Testun, a diweddaru neu ddarparu drafftiau cychwynnol o bolisïau fel bod y sefydliad yn parhau i gydymffurfio 
  • Bod yn aelod gweithgar o’r Grŵp Llywodraethu Gwybodaeth a Data (GLlGD), a’i gefnogi
  • Rheoli’r contract gwasanaethau cyfieithu a’r broses gyfieithu, a goruchwylio ceisiadau cyfieithu bob dydd 
  • Rheoli’r gyllideb gyfieithu yn unol â threfniadau llywodraethu sefydliadol
  • Gweithio gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad i lunio a monitro Adroddiad a Chynllun Gweithredu Amgylcheddol Estyn
  • Llunio adroddiadau rheoli perthnasol ar gyfer grwpiau a phwyllgorau
  • Cadw a chynnal system ffeilio electronig gywir
  • Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd polisïau, a’u haddasu i ddiwallu anghenion esblygol y sefydliad
  • Cyflenwi r gyfer Rheolwr Swyddfa PAEF yn ystod cyfnodau o absenoldeb a chynorthwyo yn ystod cyfnodau prysur o ran abaich gwaith
  • Mynychu cyfarfodydd mewnol perthnasol a dirprwyo dros y Pennaeth Llywodraethu, pan fydd angen
  • Bod yn rheolwr llinell ar aelodau o’r tîm Llywodraethu, yn ôl yr angen

Cyflog: £35,787 – £43,758 (codiad cyflog yn yr arfaeth)

Hyd: Parhaol

Dyddiad cau i ymgeisio: 10yb 5 Ionawr 2026