Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd
Rydym yn chwilio am Reolwr Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd sydd â chefndir mewn cyfathrebu creadigol a strategol sy’n gallu datblygu ymgyrchoedd Cysylltiadau Cyhoeddus a marchnata, meithrin perthnasoedd partner cryf, a helpu codi ymwybyddiaeth am waith Estyn ledled Cymru.
Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Creu a gweithredu ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith Estyn a meithrin gwelededd brand – gan ddefnyddio sianelau cyfathrebu Estyn ac archwilio cyfleoedd newydd i uchafu effaith.
- Sicrhau ansawdd gwaith tîm bach i sicrhau gwasanaeth sy’n gyson broffesiynol sy’n darparu gwerth am arian.
- Datblygu perthnasoedd gwaith effeithiol â staff mewnol ar draws y sefydliad.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd â’r cyfryngau, newyddiadurwyr a dylanwadwyr i fagu diddordeb yng ngwaith Estyn a sicrhau sylw ac ardystiadau yn y wasg.
- Cydlynu cyhoeddiadau a diweddariadau allweddol trwy baratoi a dosbarthiad targedig datganiadau i’r wasg, pecynnau’r cyfryngau, pecynnau cymorth partner a deunyddiau hyrwyddo eraill.
- Monitro a dadansoddi sylw yn y cyfryngau a metrigau cysylltiadau cyhoeddus i fesur effeithiolrwydd ymgyrchoedd.
- Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Cyfathrebu Digidol i gynllunio cynnwys a sicrhau negeseuon a brandio cydlynus ar draws pob un o sianelau cyfathrebu Estyn.
- Gweithio’n agos gyda’r tîm digwyddiadau i sicrhau bod negeseuon corfforaethol Estyn yn cael eu cyfleu trwy’r rhaglen amrywiol o hyfforddiant a digwyddiadau partner. Cefnogi hyrwyddo digwyddiadau allweddol a datblygu deunyddiau difyr i amlygu negeseuon corfforaethol allweddol.
- Gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid i reoli cyfathrebu ynghylch argyfwng yn effeithiol a chynnal delwedd gadarnhaol o frand.
- Gwerthuso ymgyrchoedd sydd wedi eu seilio ar ystod o ddadansoddeg ac adborth er mwyn nodi ffyrdd o wella gwaith y tîm yn barhaus.
- Cael y wybodaeth ddiweddaraf yn gyson am dueddiadau’r diwydiant a’r dirwedd gystadleuol i nodi cyfleoedd ar gyfer mentrau cysylltiadau cyhoeddus.
- Sicrhau arfer orau o fewn y tîm trwy fonitro’r GCS diweddaraf a diweddariadau perthnasol eraill i’r fframwaith cyfathrebu, gan eu gweithredu yng ngwaith y tîm.
Cyfrifoldebau rheoli neu oruchwylio:
Bydd gennych chi gyfrifoldeb rheolaeth llinell am 1 x Swyddog Gweinyddol (AO), yn darparu cymorth, arweiniad a goruchwyliaeth i sicrhau bod swyddogaethau gweinyddol yn cael eu cyflawni’n effeithiol.
Hyd: Penodiad cyfnod penodol am 9 mis, gyda’r posibilrwydd i ymestyn am hyd at 12 mis i gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth
Cyflog: £37,129 – £45,399 y flwyddyn
Dyddiad cau: 10:00yb ar 10 Mehefin 2026