Rheolwr Ariannol
Rydym ni’n chwilio am arweinydd cyllid blaengar sy’n gallu ffurfio dyfodol swyddogaeth ariannol Estyn. Byddwch yn dod â mewnwelediad strategol cryf, stiwardiaeth gadarn o ran cyllid cyhoeddus ac ymrwymiad i foderneiddio sut rydym ni’n gweithio. Mae’r rôl hon yn addas ar gyfer rhywun sy’n mwynhau gwella systemau, cydweithio ac arwain tîm medrus trwy newid.
Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Arwain rheolaeth ariannol Estyn, gan ddarparu cyngor ariannol awdurdodol.
- Datblygu a chynnal strategaeth ariannol wydn, flaengar sy’n cefnogi cynllunio a newid sefydliadol.
- Goruchwylio cynllunio ariannol, cyllidebu, rhagweld ac adrodd ariannol arferol, gan sicrhau cywirdeb, tryloywder a chydymffurfiaeth.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â fframweithiau rheoli ariannol y sector cyhoeddus, gofynion a chyfrifoldebau statudol Llywodraeth Cymru a Medr.
- Arwain y broses ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, yn cynnwys cyfrifon blynyddol, gweithgarwch archwilio a sicrwydd.
- Cynnal goruchwyliaeth o gaffael a rheoli contractau, gan sicrhau gwerth am arian a llywodraethu masnachol effeithiol.
- Arwain ac ysbrydoli’r tîm cyllid trwy drawsnewid, cydweithio a chynnal morâl.
- Darparu arweinyddiaeth a chymorth i’r tîm cyllid, gan sicrhau galluogrwydd, gwydnwch a pherfformiad cryf.
- Cryfhau rheolaethau ariannol, rheoli risg a gweithdrefnau ariannol mewnol, fel y bo’n briodol.
- Gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Gwasanaethau Canolog i sicrhau arweinyddiaeth gydlynus a chyson ar draws pob swyddogaeth gorfforaethol.
- Cefnogi cynllunio ar draws y sefydliad, dyrannu adnoddau a gwelliant busnes parhaus.
- Meithrin perthnasoedd gwaith cryf â Llywodraeth Cymru, Medr, Archwilio Cymru, archwilwyr mewnol a chyfarwyddwyr anweithredol Estyn.
- Bod yn rheolwr llinell ar y Pennaeth Gwasanaethau Cyllid a Busnes.
Hyd: Parhaol
Cyflog: £76,752 – £89,791
Dyddiad cau: 10:00yb ar 17 Chwefror 2026