Recriwtio Arolygydd Cymheiriaid – sector Gwaith Ieuenctid
A hoffech chi ddatblygu eich medrau proffesiynol a chyfrannu at wella yn eich sector chi?
Rydym yn chwilio am uwch arweinyddwyr yn y sector Gwaith Ieuenctid i fod yn Arolygwyr Cymheiriaid.
Os oes gennych chi o leiaf dair blynedd o brofiad yn y maes, cymhwyster proffesiynol mewn Gwaith Ieuenctid ac wedi gweithio mewn rôl o safon mewn Gwaith Ieuenctid, hoffem glywed gennych chi.
Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn rhan allweddol o’n tim arolygu. Maent yn defnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i arsylwi gweithgareddau, siarad â dysgwyr a staff, a chasglu tystiolaeth uniongyrchol am fywyd a gwaith y darparwr gwaith ieuenctid.
Fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle unigryw i weld arfer effeithiol ar waith a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch lleoliad chi i gefnogi gwelliant.
Rydym yn cynnig hyfforddiant ac, os byddwch yn ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwn yn eich ychwanegu at ein cofrestr o Arolygwyr Cymheiriaid.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rhai sydd o gefndiroedd amrywiol a’r rhai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyddiad cau: canol dydd, 4 Mawrth 2026
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cadarnhad yr wythnos yn dechrau 16 Mawrth 2026.