Recriwtio Arolygydd Cymheiriaid & Arolygydd Ychwanegol – sector Addysg Gychwynnol Athrawon
Hoffech chi ddatblygu eich medrau proffesiynol a chyfrannu at welliant yn eich sector?
Rydym ni’n chwilio am ymgeiswyr â phrofiad fel uwch arweinywyr mewn Addysg Gychwynnol Athrawon i fod yn Arolygwyr Cymheiriaid ac Arolygwyr Ychwanegol.
Mae Arolygwyr Cymheiriaid ac Arolygwyr Ychwanegol yn rhan allweddol o’n timau arolygu. Os byddwch chi’n cymhwyso, byddwch chi’n defnyddio‘ch gwybodaeth a’ch sgiliau i:
- arsylwi sesiynau, siarad â dysgwyr a chraffu ar enghreifftiau o’u gwaith;
- cael trafodaethau gydag arweinwyr partneriaethau a staff, a defnyddio’ch arsylwadau i ddrafftio adrannau o’r adroddiad arolygu.
Fel Arolygydd, byddwch yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle unigryw i weld arfer effeithiol ar waith, a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch darpariaeth i gefnogi gwelliant. Rydym yn cynnig hyfforddiant, ac os caiff ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwn yn ychwanegu’ch enw at ein cofrestr o Arolygwyr Cymheiriaid neu Arolygwyr Ychwanegol.
Rydym yn gobeithio annog cymaint â phosibl o ymgeiswyr er mwyn sicrhau bod gennym dimau arolygu cadarn. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rhai sydd o gefndiroedd amrywiol a’r rhai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ddogfen arweiniad i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion ar sut i ymgeisio.
Ymgeisiwch nawr: https://www.smartsurvey.co.uk/s/IPIPTD/
Dyddiad cau: canol dydd, 24 Mawrth 2026
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn yr wythnos yn dechrau 13 Ebrill 2026.