Recriwtio Arolygydd Cymheiriaid - Annibynnol ac Arbenigol ADY Annibynnol - Estyn

Recriwtio Arolygydd Cymheiriaid – Annibynnol ac Arbenigol ADY Annibynnol


A hoffech chi ddatblygu eich medrau proffesiynol a chyfrannu at wella yn eich sector chi?  

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr i ddod yn Arolygwyr Cymheiriaid sy’n uwch arweinwyr yn y canlynol ar hyn o bryd: 

  • Ysgolion annibynnol neu ysgolion ADY arbenigol annibynnol. 

Mae Arolygwyr Cymheiriaid yn rhan allweddol o’n timau arolygu. Os byddwch yn cymhwyso fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch: 

  • yn defnyddio eich gwybodaeth a medrau i arsylwi sesiynau, siarad â dysgwyr, arweinwyr a staff, a chraffu ar samplau o waith disgybion;  
  • yn cyfrannu at drafodaethau, gan helpu’r tîm arolygu i lunio gwerthusiadau cytûn; 
  • yn defnyddio eich arsylwadau i ddrafftio rhannau byr o’r adroddiad arolygu. 

Fel Arolygydd Cymheiriaid, byddwch yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle unigryw i weld arfer effeithiol ar waith a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch lleoliad chi i gefnogi gwelliant. Rydym yn cynnig hyfforddiant ac, os byddwch yn ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwn yn eich ychwanegu at ein cofrestr o Arolygwyr Cymheiriaid. 

Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rhai sydd o gefndiroedd amrywiol. 

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth a’r ddogfen arweiniad i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion am sut i wneud cais. 

Dyddiad cau:  5yh, 5 Tachwedd 2025 

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cadarnhad erbyn yr wythnos sy’n dechrau ar 17 Tachwedd 2025.