Partner Dysgu a Datblygu - Estyn

Partner Dysgu a Datblygu


Rydym ni’n chwilio am Bartner Dysgu a Datblygu i gefnogi mentrau allweddol ar draws gweithrediadau Dysgu a Datblygu, Datblygu Sefydliadol, a gweithrediadau Pobl cyffredinol.

  • Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
  • Partneru â rheolwyr i gynnal dadansoddiad o anghenion hyfforddi datblygu’r sefydliad a hyrwyddo dilyniant gyrfa, a chadw
  • Gweithio gydag Ymgynghorwyr Pobl a Datblygiad Sefydliadol i gynllunio a chefnogi cyflwyno gweithgareddau hyfforddi a datblygu
  • Datblygu a chyflwyno atebion dysgu teilwredig i fynd i’r afael â bylchau mewn medrau a chefnogi twf cyflogeion
  • Rheoli a goruchwylio rhaglenni ymsefydlu ar gyfer gweithwyr newydd, gan sicrhau profiadau cynefino di-dor
  • Cefnogi newidiadau mewn polisïau trwy raglenni hyfforddi sy’n denu ac arloesol
  • Gyrru mentrau ymgysylltu â chyflogeion, gan gynnwys arolygon blynyddol, a datblygu strategaethau i fynd i’r afael ag anghenion a nodwyd
  • Rheoli’r gyllideb dysgu a datblygu yn unol â threfniadau llywodraethu’r sefydliad
  • Cefnogi mentrau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys cynorthwyo rheolwyr â chwblhau asesiadau o effaith ar gydraddoldeb
  • Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd rhaglenni dysgu ac addasu strategaethau i ddiwallu anghenion sefydliadol sy’n esblygu
  • Mynychu cyfarfodydd mewnol perthnasol, gan gynnwys pwyllgorau, byrddau a grwpiau a dirprwyo dros y Rheolwr Pobl a Datblygu Sefydliadol, lle mae angen
  • Datblygu ein dulliau a’n strategaethau i ddysgu a datblygu o fewn Estyn
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill a allai fod yn ofynnol yn rhesymol.

Hyd: Cyfnod Penodol am 12 mis (i gyflenwi yn ystod cyfnod absenoldeb mamolaeth)

Cyflog: £37,129 – £45,399

Dyddiad cau: 10:00yb ar 8 Ebrill 2026