Dadansoddwr Data
Rydym yn chwilio am Ddadansoddwr Data sy’n gallu troi data cymhleth yn fewnwelediad clir, y gellir gweithredu arno i gefnogi gwaith Estyn fel rheoleiddiwr sy’n cael ei lywio gan dystiolaeth. Bydd y rôl hon yn gyfrifol am reoli, dadansoddi a delweddu data ar draws Estyn, gan greu mewnwelediadau clir, y gellir gweithredu arnynt sy’n cefnogi arolygu, gwerthuso ac ymagwedd ragweithiol, wedi’i harwain gan ddeallusrwydd, at wneud penderfyniadau.
Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Cyrchu, glanhau ac integreiddio data o systemau lluosog — yn cynnwys tystiolaeth arolygu, deilliannau dysgwyr, mynegeion amddifadedd, a metrigau ar lefel darparwr.
- Nodi, monitro a mynd i’r afael ag anghysondebau data neu faterion llygredd.
- Dyfeisio a gweithredu dulliau o sicrhau bod data’n cael ei adnewyddu ar adegau priodol, gan sicrhau y glynir at brotocolau rheoli newid.
- Cynnal metadata, geiriaduron data, a dogfennau i gefnogi tryloywder a rheoli fersiynau.
- Sicrhau bod prosesau rheoli data yn cydymffurfio â GDPR, llywodraethu gwybodaeth, a pholisïau data Estyn.
Trwy weithio dan gyfarwyddyd yr ystadegwyr, byddwch chi:
- Yn cynnal dadansoddiadau disgrifiadol, diagnostig ac archwiliol i nodi tueddiadau a risgiau ar draws sectorau addysg.
- Creu pecynnau data cyn-arolygiad a briffiau dadansoddol yn amlygu ffactorau cyd-destunol a materion sy’n dod i’r amlwg.
- Creu dangosfyrddau ac adroddiadau rhyngweithiol (e.e. Power BI) i gynorthwyo arolygwyr, ymchwilwyr ac uwch arweinwyr.
- Datblygu dangosyddion perfformiad i olrhain effaith gorfforaethol a strategol Estyn.
- Datblygu a chynnal llifau gwaith data ac adroddiadau awtomatig atgynyrchadwy.
- Cynorthwyo â chynllunio a gweithredu offer a phlatfformau dadansoddol ar y cyd (e.e. mannau gwaith Power BI, warws data).
- Cyfrannu at greu “un ffynhonnell o wirionedd” ar gyfer data arolygu a pherfformio.
- Gweithio’n agos gydag ystadegwyr i wirio ansawdd a chymharedd setiau data.
- Cydweithio ag ymchwilwyr i gyflenwi tystiolaeth feintiol a helpu rhoi canfyddiadau yn eu cyd-destun.
- Troi canlyniadau dadansoddol yn ddeunyddiau gweledol a chrynodebau clir sy’n hygyrch i gynulleidfaoedd annhechnegol.
- Cyfrannu at gymuned ddadansoddol Estyn trwy rannu gwybodaeth, offer ac arfer dda.
- Gweithio gyda sefydliadau partner i gynnal cysondeb diffiniadau ac alinio setiau data ar draws y system addysg.
Hyd: Parhaol
Cyflog: £37,129 – £45,399
Dyddiad cau: 10am ar 3 Chwefror 2026