Cynorthwyydd Gweithredol - Estyn

Cynorthwyydd Gweithredol


Rydym ni’n chwilio am Gynorthwyydd Gweithredol trefnus a rhagweithiol sy’n Siarad Cymraeg i ymuno â’n tîm ysgrifenyddiaeth, yn darparu cymorth o ansawdd uchel i uwch reolwyr a grwpiau llywodraethu allweddol ar draws y sefydliad.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu cymorth gweithredol ac ysgrifenyddol i Gyfarwyddwyr dynodedig a Phrif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (PAEF). Byddant yn rheoli dyddiaduron, gohebiaeth a chyfarfodydd, yn cynnwys papurau, cofnodion a chamau gweithredu. Byddant hefyd yn cefnogi gweinyddu corfforaethol a diogelu ehangach.

  • Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
  • Darparu cymorth uniongyrchol i Gyfarwyddwyr dynodedig a Phrif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru (PAEF)
  • Darparu cymorth ysgrifenyddol ar gyfer cyfarfodydd – yn cynnwys rhaglennu amseroedd cyfarfodydd a dyddiadau trwy drafod ar y cyd â’r tîm Cynllunio, coladu a lledaenu papurau, cymryd cofnodion a rheoli camau gweithredu
  • Rheoli a chydlynu calendrau, negeseuon e-bost a gohebiaeth copi caled Cyfarwyddwyr dynodedig / Prif Arolygydd Ei Fawrhydi, a threfniadau teithio a hawliadau cynhaliaeth
  • Rheoli trefniadau ymarferol ar gyfer cyfarfodydd a phwyllgorau
  • Diweddaru dogfennau’n ymwneud â threuliau a thaliadau cyfarwyddwyr anweithredol
  • Cydlynu gwybodaeth a phapurau i’w hystyried a’u cyflwyno gan reolwyr
  • Cefnogi gweinyddu’r cofnod Amddiffyn Plant a thasgau cysylltiedig, yn cynnwys sicrhau bod rhybuddion ynghylch diogelu yn cael eu cyfeirio at y swyddogion arweiniol diogelu
  • Cynorthwyo â rheoli cyfarfodydd diweddaru timau yn gysylltiedig â diogelu
  • Cynorthwyo â rheoli coladu a phrawfddarllen dogfennau corfforaethol
  • Gweinyddu cynigion statudol ar ad-drefnu ysgolion
  • Cynorthwyo â rheoli prosiectau, yn cynnwys cynnal cyfarfodydd grwpiau cynghori, cyfarfodydd tîm prosiect a Diwrnodau Cwrdd i Ffwrdd
  • Cyflenwi yn lle aelodau eraill o’r ysgrifenyddiaeth yn ystod cyfnodau o absenoldeb
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel y gallent fod yn rhesymol ofynnol gan reolwyr

Hyd: Parhaol

Cyflog: £30,769 – £35,014

Dyddiad cau: 10yb 24 Chwefror 2026