Cyfle i fod yn Arolygydd Cofrestredig Meithrin
Hoffech chi ddatblygu eich medrau proffesiynol a chyfrannu at welliant yn eich sector?
Rydym ni’n chwilio am ymgeiswyr â statws athro cymwys a phrofiad dysgu sylfaen i fod yn Arolygwyr Cofrestredig Meithrin.
Mae Arolygwyr Cofrestredig Meithrin yn rhan allweddol o’n timau arolygu. Os byddwch chi’n cymhwyso yn Arolygydd Cofrestredig Meithrin, byddwch chi:
• Yn arwain a rheoli arolygiadau o leoliadau nas cynhelir sy’n cael eu harwain gan Estyn;
• Yn ymgymryd â gwaith arolygydd tîm mewn arolygiadau sy’n cael eu harwain gan Arolygiaeth Gofal Cymru
Fel Arolygydd Cofrestredig Meithrin, byddwch yn wneud cyfraniad amhrisiadwy at arolygiadau Estyn. Byddwch yn cael cyfle unigryw i weld arfer effeithiol ar waith, a mynd â’r enghreifftiau hyn yn ôl i’ch lleoliad i gefnogi gwelliant. Rydym yn cynnig hyfforddiant, ac os caiff ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwn yn ychwanegu’ch enw at ein cofrestr o Arolygwyr Cofrestredig Meithrin. Wedyn, gallwch ddechrau tendro am waith yn y sector nas cynhelir.
Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai o gefndiroedd amrywiol.
Lawrlwythwch y pecyn cais i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion am sut i wneud cais.
Dyddiad cau: hanner dydd, 12 Rhagfyr 2025
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn yr wythnos yn dechrau 19 Ionawr 2026.