Cydlynydd Ymchwil
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Ymchwil sy’n gallu cefnogi a chryfhau gwaith ymchwil a gwerthuso Estyn trwy arfer o ansawdd uchel, wedi’i llywio gan dystiolaeth. Trwy weithio’n agos gyda’r Swyddog Ymchwil, ystadegwyr a dadansoddwyr, byddwch yn cyfrannu at gynllunio, cyflwyno ac adrodd am ymchwil sy’n sail i astudiaethau arolygu a thematig. Byddwch yn cefnogi ymchwil ansoddol a meintiol, yn helpu dadansoddi a chrynhoi tystiolaeth, ac yn cyfrannu at allbynnau ac arweiniad clir a hygyrch.
Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
- Cefnogi cynllunio a threfnu prosiectau ymchwil thematig a gwerthusol
- Cynorthwyo i ddrafftio offer ymchwil fel amserlenni cyfweliadau, cwestiynau arolwg a thempledi casglu data o dan arweiniad y Swyddog Ymchwil
- Cefnogi prosesau samplu a chydlynu gweithgarwch ymchwil
- Gweithio gydag ystadegwyr i integreiddio canfyddiadau meintiol i allbynnau ymchwil drafft
- Crynhoi patrymau sy’n deillio o dystiolaeth arolygu, data arolwg ac ymgysylltu â rhanddeiliaid
- Cynorthwyo i gyfrannu at ddrafftio adrannau o adroddiadau thematig, briffiau mewnol a chrynodebau gwerthusol
- Drafftio crynodebau ymchwil a diweddariadau mewnol hygyrch
- Cefnogi datblygiad arweiniad a deunyddiau wedi eu llywio gan ymchwil
- Cynnal ymwybyddiaeth o ymchwil addysg a datblygiadau polisi perthnasol yng Nghymru
- Cefnogi cydymffurfio â safonau moesegol ac egwyddorion perthnasol Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth
- Cynnal cofnodion a dogfennu prosesau ymchwil yn gywir
- Cefnogi sicrhau ansawdd y dystiolaeth a ddefnyddir mewn adroddiadau a chyhoeddiadau
- Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer ymgynghoriadau yr ymatebir iddynt
- Rheoli’r system monitro gwleidyddol, yn cynnwys crynodebau wythnosol
Hyd: Parhaol
Cyflog: £30,769 – 35,014 y flwyddyn
Dyddiad cau: 10:00yb 27 Mai 2026