Arolygydd Lleyg
Ymunwch â’n timau ysgolion ac UCDau fel Arolygydd Lleyg
Rydym yn chwilio am aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn addysg ond nad ydynt yn gweithio mewn addysg, i ymuno â’n timau arolygu.
Mae bod yn Arolygydd Lleyg yn gyfle ardderchog i helpu’ch cymuned a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc. Mae Arolygwyr Lleyg yn ystyried sut mae agweddau ar fywyd ysgol yn effeithio ar ddiogelwch, lles ac agweddau disgyblion. Nid ydynt yn arolygu ansawdd yr addysg yn uniongyrchol.
Os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwch yn defnyddio’ch gwybodaeth a’ch medrau i gasglu gwybodaeth am fywyd a gwaith yr ysgol o safbwynt disgyblion a staff.
I fod yn gymwys, ni allwch fod wedi cael eich cyflogi mewn ysgol, ond gallwch fod wedi bod yn wirfoddolwr neu’n llywodraethwr. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rhai sydd o gefndiroedd amrywiol a’r rhai sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn gwerthfawrogi gwahanol safbwyntiau a phrofiadau byw sy’n ein helpu i wneud penderfyniadau gwell, mwy gwybodus ar gyfer dysgwyr.
I gael mwy o wybodaeth amdanom ni, y rôl a sut i ymgeisio, lawrlwythwch y pecyn a’r ffurflen gais:
Ymgeisiwch erbyn canol dydd, 22 Gorffennaf 2025
Ddim yn siŵr o hyd? Gwyliwch yr arolygydd lleyg, Jeremy Turner, yn trafod ei brofiadau fel arolygydd lleyg isod: