Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF) - Estyn

Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF)


Rydym ni’n chwilio am yr arweinwyr disgleiriaf a gorau o bob cefndir i ymuno â ni i gyflawni rhagoriaeth i bob dysgwr yng Nghymru. Mae rôl Arolygydd Ei Fawrhydi (AEF) yn un gyffrous ac amrywiol sy’n rhoi golwg unigryw i chi ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Daw ein AEF o ystod amrywiol o gefndiroedd arweinyddiaeth mewn addysg a hyfforddiant. Pa lwybr bynnag y mae’ch gyrfa wedi’i ddilyn hyd yn hyn, bydd gennych hanes cryf o wella ynghyd â phrofiad o arloesi ar lefel strategol. Byddwch hefyd yn deall y dirwedd addysg a hyfforddiant ehangach a rôl arolygu fel grym ar gyfer gwella.

Er enghraifft, efallai y byddwch:

• yn uwch arweinydd mewn ysgol uwchradd neu’n uwch arweinydd uwchradd mewn ysgol pob oed
• yn uwch arweinydd mewn ysgol gynradd neu’n uwch arweinydd cynradd mewn ysgol pob oed
• yn gyfarwyddwr / cyfarwyddwr cynorthwyol gwasanaeth gwella ysgolion neu’n bartner gwella ysgolion
• yn rheolwr ansawdd neu’n arweinydd mewn darparwr prentisiaethau dysgu yn y gwaith
• yn is-bennaeth neu’n gyfarwyddwr dysgu mewn coleg addysg bellach
• yn uwch arweinydd sy’n gyfrifol am ddarpariaeth Addysg Gychwynnol Athrawon ar draws partneriaeth Sefydliad Addysg Uwch

Ar gyfer yr ymgyrch recriwtio hon, rydym yn chwilio am bobl sydd â chefndir yn y canlynol:

• Addysg Gynradd, lle mae medrau Cymraeg yn ddymunol
• Addysg Uwchradd – Mae dwy swydd ar gael. Mae medrau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn ac yn ddymunol ar gyfer y llall
• Ôl-16/Colegau addysg bellach, lle mae medrau Cymraeg yn hanfodol
• Addysg Gychwynnol Athrawon, lle mae medrau Cymraeg yn ddymunol

Mae statws athro cymwysedig (SAC) yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob un o’r swyddi, ac eithrio’r swydd Ôl-16/Addysg Bellach.

Cyflog: £73,978 – £86,546 y flwyddyn (codiad cyflog yn yr arfaeth).

Hyd: Parhaol

Diogelu – Mae gwiriad datgelu estynedig trwy’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer rôl AEF. Bydd y rôl yn golygu eich bod yn dod i gysylltiad uniongyrchol â phlant neu oedolion bregus, ac yn rhoi mynediad i chi at ddeunydd neu wybodaeth sensitif am blant ac oedolion bregus.

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 10yb 7 Ionawr 2026