Arolygwyr ychwanegol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Ymunwch â’n timau arolygu – arolygwyr ychwanegol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Rydym yn chwilio am weithwyr proffesiynol profiadol i ymuno â’n timau arolygu fel arolygwyr ychwanegol ADY.
Caiff arolygwyr ADY eu defnyddio yn ystod ein harolygiadau o Ddosbarthiadau Arbenigol Awdurdodau Lleol (DAALl) mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed. Maent yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu, yn ystyried ac yn gwerthuso cynnydd disgyblion, ac yn rhoi adborth fel rhan o’n tîm arolygu. Os ydych yn teimlo y gallwch chi ddod â’ch profiad a’ch ymroddiad gwerthfawr i’r rôl hon, hoffem glywed gennych chi.
Lawrlwythwch y pecyn cais i gael gwybod mwy am y rôl a sut i ymgeisio.
Mae ceisiadau’n cau am ganol dydd ar 30 Medi 2025.
Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus yr wythnos yn cychwyn 6 Hydref 2025.