Arolygwyr Cofrestredig – Sector Cynradd
Hoffech chi ddatblygu eich medrau proffesiynol a chyfrannu at welliant yn eich sector?
Rydym ni’n chwilio am Arolygwyr Cymheiriaid ac Arolygwyr Ychwanegol profiadol i hyfforddi’n Arolygwyr Cofrestredig yn y sector cynradd.
Mae Arolygwyr Cofrestredig yn chwarae rhan allweddol yn ein timau arolygu. Os byddwch chi’n cymhwyso’n Arolygydd Cofrestredig, byddwch:
• yn arwain timau arolygu, gan drefnu a sicrhau ansawdd gwaith y tîm;
• yn gyfrifol am ysgrifennu’r adroddiad arolygu.
Fel Arolygydd Cofrestredig, byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn dylanwadu ar addysg yng Nghymru ac yn ymgymryd ag ystod lawn o weithgareddau arolygu.
Rydym yn cynnig hyfforddiant ac, os caiff ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwn yn eich ychwanegu at ein cofrestr Arolygwyr Cofrestredig. Yna, gallwch ddechrau tendro am waith yn y sector cynradd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a phobl o gefndiroedd amrywiol, yn arbennig.
Lawrlwythwch y y pecyn cais i gael mwy o wybodaeth am y rôl a manylion am sut i wneud cais.
Dyddiad cau: canol dydd, 20 Mai 2026
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn yr wythnos yn cychwyn 1 Mehefin 2026.