Holiadur cyn arolygiad - staff (dysgu yn y gwaith) - Estyn

Holiadur cyn arolygiad – staff (dysgu yn y gwaith)



Rhowch eich barn i ni am eich darparwr hyfforddiant, fel tiwtor, hyfforddwr, aseswr neu aelod o’r staff cymorth (h.y. staff nad ydynt yn addysgu).

Darllenwch bob brawddeg, meddyliwch am eich profiadau fel tiwtor, hyfforddwr, aseswr neu aelod o’r staff cymorth, ac wedyn dywedwch i ba raddau rydych chi’n cytuno trwy roi tic yn y blwch sy’n fwyaf priodol.

Os nad yw datganiad yn berthnasol i chi, neu nid ydych yn gwybod amdano, ticiwch y blwch ‘Ddim yn gwybod’.

Bydd eich ymatebion unigol yn aros yn gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn datgelu sylwadau unigol i’r darparwr hyfforddiant nac i unrhyw un y tu allan i Estyn.

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.