Fel rhiant/gofalwr, rhowch eich barn i ni am Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) eich plentyn. Darllenwch bob datganiad gan ystyried eich profiadau eich hun a thiciwch y blwch sy’n cyfateb orau i’ch barn.
I rai cwestiynau, cewch gyfle i esbonio pam y dewisoch chi’r ateb hwnnw, os hoffech wneud hynny.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Byddwn yn defnyddio eich atebion i’n helpu i ddeall eich barn am UCD eich plentyn.
Gallem ddefnyddio eich atebion chi ac atebion rhieni/gofalwyr eraill i’n helpu i ddeall beth yw barn rhieni/gofalwyr am UCDau ar draws Cymru.
Mae’r holiadur yn ddienw. Mae eich ymatebion yn gyfrinachol ac nid ydym yn gofyn am eich enw.
Bydd arolygwyr Estyn:
- yn darllen eich atebion
- byth yn datgelu eich atebion unigol i UCD eich plentyn nac i unrhyw un arall y tu allan i Estyn. Yr unig amser pan y gallem ni rannu gwybodaeth gyda phobl eraill yw os oes gennym ni bryderon am ddiogelwch dysgwyr.
Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.