Holiadur cyn arolygiad - dysgwyr (Cymraeg i Oedolion) - Estyn

Holiadur cyn arolygiad – dysgwyr (Cymraeg i Oedolion)



Dros yr wythnosau nesaf, bydd arolygwyr Estyn yn arolygu y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Cyn iddynt ei harolygu, hoffen nhw gael gwybod beth yw eich barn am yr addysg neu’r hyfforddiant a gewch. Cymerwch ychydig o funudau i ddarllen pob datganiad ar y dudalen nesaf a dewiswch yr ateb sy’n adlewyrchu orau beth yw eich barn am eich darparwr.

Os oes angen cymorth arnoch i lenwi’r holiadur hwn, rhowch wybod i’ch tiwtor/hyfforddwr. Bydd eich atebion yn cael eu defnyddio gan arolygwyr Estyn i ystyried safbwyntiau dysgwyr am y darparwr.

Ni fydd eich ymateb unigol yn cael ei rannu y tu allan i Estyn neu gyda’ch darparwr. Yr unig bryd y byddwn yn rhannu ateb unigol yw be bai’n codi pryderon ynghylch diogelu.

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel ar ein cronfeydd data yn unol â’n polisi cadw data.