Holiadur cyn arolygiad – disgyblion cynradd (gyda symbolau) - Estyn

Holiadur cyn arolygiad – disgyblion cynradd (gyda symbolau)



Rho dy farn i ni am dy ysgol.

Darllena bob brawddeg a rhoi tic yn y blwch sy’n cyfateb i dy farn. Does dim atebion cywir nac anghywir. I rai cwestiynau, byddi di’n gallu esbonio pam y dewisaist ti’r
ateb hwnnw, os hoffet ti wneud hynny.

Meddylia am dy brofiadau dy hun ac nid am brofiadau dy ffrindiau.  Ateba’n onest. 

Mae dy farn yn bwysig i ni. Byddwn ni’n darllen dy atebion ac yn eu defnyddio i ddysgu rhagor am yr ysgol. Hefyd, gallem ni ddefnyddio’r holiaduron hyn i’n helpu i ddeall beth yw barn disgyblion am ysgolion ar draws Cymru.

Mae’r holiadur yn ddienw. Dydyn ni ddim yn gofyn am dy enw. Mae hyn yn golygu bod dy atebion yn gyfrinachol.

Bydd arolygwyr Estyn yn:

  • darllen dy atebion
  • dweud wrth bobl eraill beth rwyt ti wedi’i ddweud dim ond os ydyn nhw’n poeni am dy ddiogelwch di neu am ddiogelwch disgybl arall. Os wyt ti’n poeni am unrhyw beth yn yr ysgol, mae’n bwysig dy fod ti’n siarad ag oedolyn yn yr ysgol neu gartref.

Bydd dy atebion yn cael eu cadw’n ddiogel yng nghronfeydd data Estyn yn unol â’n polisïau