Holiadur cyn arolygiad - cyflogwyr (dysgu yn y gwaith) - Estyn

Holiadur cyn arolygiad – cyflogwyr (dysgu yn y gwaith)



Hoffem glywed eich barn am eich darparwr hyfforddiant fel cyflogwr.

Darllenwch bob datganiad, meddyliwch am eich profiadau fel cyflogwr, ac wedyn dywedwch i ba raddau rydych chi’n cytuno trwy roi tic yn y blwch sydd fwyaf priodol i’ch barn.

Os nad yw datganiad yn berthnasol i chi, neu nid ydych yn gwybod amdano, ticiwch y blwch ‘Ddim yn gwybod’.

Bydd eich ymatebion unigol yn aros yn gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn datgelu eich sylwadau unigol i’r darparwr hyfforddiant nac i unrhyw un y tu allan i Estyn.

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.