Holiaduron - dysgu yn y gwaith Archives - Estyn

Inspection Questionnaire Category: Holiaduron - dysgu yn y gwaith


Inspection Questionnaire Category: Holiaduron - dysgu yn y gwaith


Rhowch eich barn i ni am eich darparwr hyfforddiant.

Darllenwch bob brawddeg, gan ystyried eich profiad yn eich darparwr hyfforddiant, ac wedyn dywedwch i ba raddau rydych chi’n cytuno trwy roi tic yn y blwch sy’n cyfateb i’ch barn.

Meddyliwch amdanoch eich hun a’ch profiadau chi yn eich darparwr hyfforddiant, nid profiadau pobl eraill. Rhowch eich atebion gonest eich hun i ni.

Os nad yw datganiad yn berthnasol i chi, neu nid ydych yn gwybod amdano, ticiwch y blwch ‘Ddim yn gwybod’.

Bydd eich ymatebion unigol yn aros yn gyfrinachol. Dim ond arolygwyr Estyn fydd yn eu darllen nhw ac ni fyddant yn dweud wrth eich hyfforddwyr neu’ch aseswyr beth rydych chi’n ei ddweud. Ni fyddwn byth yn datgelu eich sylwadau unigol i’r darparwr hyfforddiant nac i unrhyw un y tu allan i Estyn.

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.

Inspection Questionnaire Category: Holiaduron - dysgu yn y gwaith


Rhowch eich barn i ni am eich darparwr hyfforddiant, fel tiwtor, hyfforddwr, aseswr neu aelod o’r staff cymorth (h.y. staff nad ydynt yn addysgu).

Darllenwch bob brawddeg, meddyliwch am eich profiadau fel tiwtor, hyfforddwr, aseswr neu aelod o’r staff cymorth, ac wedyn dywedwch i ba raddau rydych chi’n cytuno trwy roi tic yn y blwch sy’n fwyaf priodol.

Os nad yw datganiad yn berthnasol i chi, neu nid ydych yn gwybod amdano, ticiwch y blwch ‘Ddim yn gwybod’.

Bydd eich ymatebion unigol yn aros yn gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn datgelu sylwadau unigol i’r darparwr hyfforddiant nac i unrhyw un y tu allan i Estyn.

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.

Inspection Questionnaire Category: Holiaduron - dysgu yn y gwaith


Hoffem glywed eich barn am eich darparwr hyfforddiant fel cyflogwr.

Darllenwch bob datganiad, meddyliwch am eich profiadau fel cyflogwr, ac wedyn dywedwch i ba raddau rydych chi’n cytuno trwy roi tic yn y blwch sydd fwyaf priodol i’ch barn.

Os nad yw datganiad yn berthnasol i chi, neu nid ydych yn gwybod amdano, ticiwch y blwch ‘Ddim yn gwybod’.

Bydd eich ymatebion unigol yn aros yn gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn datgelu eich sylwadau unigol i’r darparwr hyfforddiant nac i unrhyw un y tu allan i Estyn.

Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisi ar gadw data.