Inspection Questionnaire Category: Holiaduron - colegau arbenigon annibynnol
Fel rhiant/gofalwr, rhowch eich barn i ni am y coleg y mae eich plentyn yn mynd iddo. Darllenwch bob datganiad gan ystyried eich profiadau eich hun a thiciwch y blwch sy’n cyfateb orau i’ch barn. I rai cwestiynau, cewch gyfle i esbonio pam y dewisoch chi’r ateb hwnnw, os hoffech wneud hynny.
Mae eich barn yn bwysig i ni. Byddwn yn defnyddio’ch atebion i’n helpu i ddeall eich barn chi am goleg eich plentyn. Gallem ddefnyddio eich atebion chi ac atebion rhieni/gofalwyr eraill i’n helpu i ddeall beth yw barn rhieni/gofalwyr am golegau ar draws Cymru.
Mae barn rhieni a gofalwyr yn rhan werthfawr o’n proses arolygu. Hoffem annog pob rhiant/gofalwr i rannu eu barn am goleg eu plentyn trwy ein holiadur i rieni/gofalwyr. Bydd yr arolygydd cofnodol yn cael amser cyn yr arolygiad i ddarllen eich sylwadau a bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda’r tîm arolygu.
Mae holiaduron ar gael mewn nifer o ieithoedd ac mae blwch testun agored ynddynt i chi rannu adborth mwy penodol. Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod eich adborth yn gyfrinachol i Estyn ac y bydd ar gael i’r tîm arolygu yn unig.
Mae’r arolwg yn ddienw. Mae eich ymatebion yn gyfrinachol ac nid ydym yn gofyn am eich enw.
Bydd arolygwyr Estyn:
- yn darllen eich atebion
- byth yn datgelu eich atebion unigol i goleg eich plentyn nac i unrhyw un arall y tu allan i Estyn. Yr unig amser pan y gallem ni rannu gwybodaeth gyda phobl eraill yw os oes gennym ni bryderon am ddiogelwch disgyblion.
Bydd eich atebion yn cael eu storio’n ddiogel yn ein cronfeydd data yn unol â’n polisiar gadw data.