Arfer effeithiol Archives - Page 69 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Pen-bre wedi’i lleoli yng nghanol pentref Pen-bre, tua phum milltir i’r gorllewin o Lanelli. Mae’n gwasanaethu’r pentref ei hun a’r ardal gyfagos a disgrifir yr ardal fel un nad yw naill ai’n arbennig o ffyniannus nac ychwaith dan anfantais yn economaidd. Mae 209 o ddysgwyr ar y gofrestr ar hyn o bryd, ac mae gan ryw 13% ohonynt hawl i gael prydau ysgol am ddim.

Strategaeth

Datblygwyd strategaeth gan bob un o’r staff yn yr ysgol i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o faterion ariannol a’u medrau i wneud penderfyniadau ariannol annibynnol. Mae gan yr ysgol aelod dynodedig o staff i gydlynu’r ddarpariaeth addysg ariannol, sy’n cael cefnogaeth dda gan y pennaeth a’r uwch dîm arweinyddiaeth. Mae gan yr ysgol bolisi addysg ariannol sy’n amlygu tasgau, ymagweddau, dulliau, adnoddau ac asesiadau eglur sy’n gysylltiedig ag addysg ariannol. Mae’r polisi hefyd yn nodi prosiectau ysgol gyfan a phrosiectau wedi’u harwain gan ddisgyblion.

Gweithredu

Mae’r cydlynydd wedi mapio gweithgareddau sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau ysgol gyfan eraill gan gynnwys llais y disgybl ac addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy. Mae’r ysgol wedi llunio cynlluniau gwaith helaeth ar gyfer pob grŵp blwyddyn a chynlluniau gwersi ac mae wedi rhannu’r rhain â phob aelod o staff. Mae amcanion penodol sy’n gysylltiedig ag addysg ariannol. Mae pob un o’r staff wedi cael hyfforddiant ac maent i gyd yn ymwybodol o weledigaeth yr ysgol i hyrwyddo ac ymestyn gallu ariannol y dysgwyr.

Deilliannau

O ganlyniad, mae dealltwriaeth dysgwyr o faterion ariannol a’r medrau perthnasol wedi gwella’n sylweddol. Gall dysgwyr yn awr drafod ystod o faterion ariannol yn hyderus, gan ddefnyddio ystod o eirfa gywir, sy’n benodol i bwnc.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Ynystawe yn rhan isaf Cwm Tawe ac mae ganddi 195 o ddisgyblion ar y gofrestr o ystod eang o gefndiroedd cymdeithasol. Mae’r ysgol wedi ymrwymo i herio pob disgybl i gyflawni’r safonau uchaf, yn cynnwys 17 disgybl y nodwyd yn ffurfiol eu bod yn fwy abl a dawnus. Mae’r pennaeth, y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol a’r cydlynydd ar gyfer disgyblion mwy abl a dawnus yn sicrhau bod pob un o’r staff wedi ymrwymo’n llawn i ymagwedd yr ysgol, ac yn darparu hyfforddiant a mentora ar gyfer staff newydd.

Gweithgaredd

Mae ymagwedd ysgol gyfan at ddysgu, o’r enw ‘Effaith Leonardo’, yn datblygu medrau meddwl beirniadol a medrau dysgu annibynnol disgyblion. Yn ystod tymor cyntaf pob blwyddyn, mae disgyblion yn caffael medrau a gwybodaeth am destun penodol.

Yn yr ail dymor, maent yn rheoli eu dysgu eu hunain am y testun. Defnyddir y trydydd tymor i ddatblygu medrau gwyddoniaeth a medrau creadigol mewn perthynas â’r testun. Mae athrawon yn annog creadigrwydd, medrau ymchwil, archwilio a datrys problemau disgyblion trwy gydol y flwyddyn.

Mae’r pennaeth yn arfarnu safonau trwy arsylwi gwersi yn uniongyrchol trwy fonitro cynnyrch disgyblion. Defnyddir y wybodaeth hon i sicrhau trosglwyddo didrafferth rhwng grwpiau blwyddyn a chyfnodau allweddol. Mae’r ysgol yn defnyddio diwrnod hyfforddiant mewn swydd bob blwyddyn i staff arfarnu eu gwaith, dadansoddi deilliannau disgyblion a chynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Nodweddion da a rhagorol

Mae’r nodweddion da a rhagorol yn cynnwys:

  • arweinyddiaeth gymhellol sy’n sicrhau ymagwedd ysgol gyfan ac ymrwymiad gan y staff;
  • dealltwriaeth ar y cyd o’r math o addysgu sy’n cefnogi ac yn herio disgyblion mwy abl i gyflawni ar y lefelau uchaf;
  • ymagweddau cyson y mae disgyblion a rhieni yn eu deall; ac
  • ymagweddau creadigol ar gyfer datblygu medrau meddwl, datrys problemau a llefaredd lefel uwch.

Effaith a budd

O ganlyniad i’r gwaith hwn:

  • mae’r disgyblion mwyaf abl yn cyflawni lefel 6 mewn un pwnc craidd neu fwy ar ddiwedd cyfnod allweddol 2;
  • mae llawer o ddisgyblion yn dangos gwybodaeth a dealltwriaeth dda iawn o destunau penodol ac mae eu medrau mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig yn aml uwchlaw’r lefelau disgwyliedig am eu hoedran; ac
  • mae gwaith disgyblion mewn celf a dylunio yn greadigol a dychmygus.