Arfer effeithiol Archives - Page 66 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol gymysg 11-18 oed a gynorthwyir yn wirfoddol yw St Joseph’s RC High School, Casnewydd, sydd yn ninas Casnewydd ac yn archesgobaeth Babyddol Caerdydd. Mae 1480 o ddisgyblion ar y gofrestr, gyda 320 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth. Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ddinas Casnewydd a daw lleiafrif bach o Risga, Cilycoed a Chas-gwent.

Daw disgyblion o ystod eang o gefndiroedd economaidd gymdeithasol. Mae gan gyfanswm o 15.6% o ddisgyblion hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn ychydig islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.4% ar gyfer ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae tua 29% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r ysgol yn cydnabod bod arweinyddiaeth ganol dda yn ffactor pwysig wrth wella safonau. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi ymrwymo i gefnogi a datblygu arweinwyr canol profiadol, arweinwyr canol a benodwyd yn ddiweddar a darpar arweinwyr canol fel rhan o’i thaith i wella.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae cyswllt sylfaenol rhwng ansawdd uchel uwch arweinyddiaeth ac arweinyddiaeth ganol yn St Joseph’s RC High School a’r deilliannau rhagorol ar gyfer disgyblion.

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ‘feithrin’ arweinwyr ac mae’r diwylliant hwn yn treiddio trwy’r ysgol. Dros y tair blynedd diwethaf, mae dros 30 o athrawon wedi cael hyfforddiant mewn arweinyddiaeth a rheolaeth a ddarparwyd gan yr ysgol a’u cefnogi gan hyfforddiant arweinyddiaeth allanol o ansawdd uchel. Mae llawer o’r athrawon hyn yn arweinwyr canol newydd, yn arweinwyr canol a benodwyd yn ddiweddar neu’n ddarpar arweinwyr canol.

Canolbwyntiodd yr hyfforddiant ar wella’r medrau sydd eu hangen ar gyfer rheoli, hunanarfarnu a chynllunio gwelliant llwyddiannus. Adlewyrchir effaith yr hyfforddiant hwn ar ansawdd y gwaith a wneir gan benaethiaid adran a phenaethiaid blwyddyn yn y safonau cyson uchel a gyflawnir gan ddisgyblion. Nod cychwynnol yr ysgol oedd darparu pecyn hyfforddi ar gyfer arweinwyr canol a benodwyd yn ddiweddar a oedd yn ymarferwyr ystafell ddosbarth effeithiol, ond nid oedd ganddynt ryw lawer o brofiad o arwain neu reoli pobl eraill.

Dechreuodd y rhaglen hon yn 2010 gyda grŵp o 15 o athrawon. Cynhaliwyd hyfforddiant yn ystod sesiynau hyfforddi cyfnos, ac roedd yn canolbwyntio ar rôl arweinwyr canol mewn:

  • olrhain cynnydd disgyblion a defnyddio data yn effeithiol;
  • sut i gynnal arsylwadau gwersi; a
  • rôl llais y disgybl mewn hunanarfarnu.

Yn ystod tymor yr haf yn 2010, darparwyd rhagor o hyfforddiant allanol fel rhan o ddigwyddiad deuddydd ar gyfer datblygu arweinwyr canol. Canolbwyntiodd yr hyfforddiant hwn ar fedrau arwain a rheoli ac roedd yn cynnwys sesiynau ar ddarparu adborth effeithiol, datblygu tîm, hyfforddiant a mentora. Arweiniodd llwyddiant y rhaglen hon at ddatblygu ail garfan o 15 o athrawon yn 2011-2012. Roedd llawer o’r rhain yn ddeiliaid swydd â chyfrifoldeb addysgu a dysgu neu’n bobl a oedd yn anelu am swyddi arweinyddiaeth ganol. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r ysgol wedi datblygu rhaglen deilwredig ar gyfer penaethiaid blwyddyn ac mae’n datblygu rhagor o gyfleoedd ar gyfer arweinwyr canol sy’n anelu tuag at gael rolau uwch arweinyddiaeth.

Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn gweithio’n agos iawn gydag arweinwyr canol i ddatblygu hunanarfarnu a chynllunio gwelliant adrannol. Yn ystod cyfarfodydd penaethiaid adran, mae arweinwyr canol yn adolygu gwersi wedi’u ffilmio ac yn trafod ansawdd yr addysgu a’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion. Trwy drafodaethau gyda staff, mae’r ysgol wedi cytuno ar eirfa gyffredin er mwyn arfarnu’r addysgu a’r dysgu.

Arweiniodd y trafodaethau hyn at lunio ffurflen newydd ar gyfer cynllunio gwersi a ffurflen arsylwi gwersi. Cynhelir pob adolygiad adran ar y cyd, ac mae arweinwyr canol ac uwch arweinwyr yn cynnal arsylwadau gwersi, yn craffu ar waith disgyblion ac yn gwrando ar safbwyntiau’r dysgwyr. Mae’r dystiolaeth o’r adolygiadau hyn a’r cylch hunanarfarnu y mae adrannau’n ymgymryd ag ef yn bwydo’n uniongyrchol i’r adroddiadau hunanarfarnu a’r cynlluniau gwella adrannol o ansawdd uchel.

Mae cyfarfodydd cyswllt bob hanner tymor rhwng uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn cyd-fynd â’r gwaith datblygiadol hwn. Mae’r cynllun gwella adran, cynnydd yn unol â chamau gweithredu a’u heffaith, yn eitemau sefydlog ar yr agenda yn y cyfarfodydd hyn. Mae’r pennaeth yn mynychu pob un o’r cyfarfodydd hyn, gan ddarparu rôl sicrhau ansawdd a chael trosolwg ar draws yr holl feysydd pwnc. 

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae ansawdd arweinyddiaeth ganol yn nodwedd ragorol yn yr ysgol, ac mae wedi arwain at y canlynol:

  • addysgu a dysgu o ansawdd uchel ar draws yr ysgol;
  • safonau uchel iawn ym mhob cyfnod allweddol; a
  • lefelau uchel lles disgyblion.

Mae bron pob arweinydd canol, gan gynnwys penaethiaid blwyddyn a phenaethiaid adran, yn gwneud cyfraniad rhagorol at lwyddiant yr ysgol ac mae ganddynt ddealltwriaeth gref o’u rôl. Mae diwylliant datblygedig iawn o atebolrwydd ar gyfer safonau, cynnal hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwelliant. Mae arweinwyr canol yn rhoi cymorth a her effeithiol iawn i’w timau. Mae perthnasoedd gweithio cryf a phwrpasol iawn rhwng arweinwyr canol a’u huwch gydweithwyr cyswllt. Mae cyfathrebu effeithiol a lefelau uchel o ymddiriedaeth wedi bod yn ffactorau arwyddocaol wrth barhau i godi safonau.

Caiff y deilliannau o’r gwaith hwn eu cydnabod yn ein hadroddiad arolygu diweddaraf, sy’n datgan:

  • ‘Mae’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion yn rhagorol. Mae’r ysgol wedi cynnal lefelau uchel o berfformiad dros y pum mlynedd diwethaf ac mae nifer o nodweddion cryf iawn. Mae’r rhain yn cynnwys cynnydd a chyflawniad rhagorol yr holl ddisgyblion, gan gynnwys bechgyn a disgyblion mwy abl’; ac
  • Mae lefelau presenoldeb dros y pum mlynedd diwethaf yn rhagorol ac yn golygu bod yr ysgol yn y chwarter uchaf o ysgolion tebyg yng Nghymru yn gyson. Mae hon yn nodwedd ragorol. Mae ymddygiad disgyblion yn eithriadol o dda. Maent yn gwrtais ac yn uniaethu’n dda iawn â’i gilydd, yn ogystal â phob un o’r staff ac ymwelwyr.’

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Ceredigion yn ddarpariaeth gan awdurdod lleol Ceredigion ar gyfer disgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Nod yr UCD yw cael yr holl ddisgyblion yn ôl mewn addysg brif ffrwd a/neu addysg neu hyfforddiant pellach, neu gyflogaeth.

Mae’r holl ddisgyblion yn cael darpariaeth amser llawn o ganlyniad i’r bartneriaeth ragorol ag ysgolion prif ffrwd, y coleg addysg bellach, y darparwr hyfforddiant a darparwyr galwedigaethol. Mae’r UCD hefyd yn cynnig gwasanaeth cymorth ymddygiad allymestyn ar gyfer ysgolion prif ffrwd yr awdurdod lleol.

Bu’r awdurdod lleol yn gweithio gydag ymgynghorydd allanol i archwilio ansawdd darpariaeth yr UCD yng ngwanwyn 2010. Daeth y gwaith hwn i’r casgliad nad oedd patrwm y ddarpariaeth yn yr UCD yn addas at ei ddiben ac nad oedd yn bodloni anghenion dysgwyr. I ymateb i hynny, crëwyd model darpariaeth newydd i gefnogi dysgwyr o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 4. Mae’r awdurdod lleol wedi cefnogi a monitro’r ddarpariaeth hon yn ofalus iawn. Mae wedi cryfhau rôl y pwyllgor rheoli ac mae hyn wedi bod yn ganolog i lwyddiant yr UCD. Cyflwynwyd adroddiadau rheolaidd o gynnydd i bwyllgor craffu’r cyngor a chyfarfodydd y cabinet. O ganlyniad, mae uwch swyddogion ac aelodau etholedig y cyngor yn gyfarwydd iawn â’r gwasanaeth.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae rôl fonitro’r pwyllgor rheoli’n cynnwys adolygu safonau, cwricwlwm a pholisïau rheoli’r UCD. Caiff amserlen ar gyfer monitro’r safonau a’r ddarpariaeth ar draws yr UCD ei phennu ymhell o flaen llaw er mwyn galluogi holl aelodau’r pwyllgor i wneud y trefniadau angenrheidiol i chwarae rôl weithgar yn y broses gyfan. Prif nod y gweithgareddau hyn yw cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r ddarpariaeth a’r safonau yn yr UCD.

Mae’r UCD wedi pennu aelodau penodol o’r pwyllgor i fod yn gyfrifol am fonitro gwahanol agweddau ar y ddarpariaeth. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys aelodau’r pwyllgor yn monitro samplau o waith disgyblion, cynlluniau gwersi a chynlluniau’r cwricwlwm. Mae aelodau’r pwyllgor yn arsylwi ar sampl o wersi ar draws yr UCD ac yn trafod gwaith gyda grwpiau o ddisgyblion. Mae arweinwyr y cwricwlwm yn trafod canfyddiadau yng nghyfarfod llawn nesaf y pwyllgor rheoli. Mae’r gweithgareddau hyn yn helpu’r pwyllgor rheoli i gynyddu ei ddealltwriaeth o beth mae disgyblion yn ei ddysgu a sut, ac mae’n helpu aelodau’r pwyllgor i herio’r UCD ynghylch ei pherfformiad.

Caiff cyfarfodydd y pwyllgor rheoli eu strwythuro i sicrhau bod hunanarfarnu a monitro cynnydd yn ganolog i’w gyfarfodydd. Mae’n cael amrywiaeth o adroddiadau er mwyn monitro cynnydd yn ôl Cynllun Gwella’r UCD. Caiff arweinwyr yr UCD eu dwyn i gyfrif am gynnydd yn ôl camau gweithredu’r Cynllun Gwella a pherfformiad ar draws safleoedd amrywiol yr UCD. Os oes anghysondebau rhwng y camau gweithredu cytûn a’r deilliannau, rhoddir strategaethau ar waith i sicrhau gwelliant. Mae’r pwyslais bob amser ar wella safonau a lles disgyblion.

Mae gan yr UCD system gadarn a thrylwyr i olrhain cynnydd a monitro bod camau gweithredu yn cael effaith gadarnhaol ar safonau

O ganlyniad, mae’r holl staff yn deall pam maent yn llwyr atebol am sicrhau gwelliant gan ddisgyblion. Mae rôl aelodau’r pwyllgor fel ‘ffrindiau beirniadol’ yn eu galluogi nhw i herio arweinwyr yr UCD mewn modd cefnogol.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae’r holl ddisgyblion yn yr UCD wedi cael anawsterau yn eu lleoliadau addysgol blaenorol; mae’r rhain yn cynnwys cyfnodau wedi’u gwahardd o’r ysgol. Gydag amser yn yr UCD, maent yn gwneud cynnydd rhagorol yn eu hymddygiad a’u hagweddau.

O ganlyniad i reoli ymddygiad yn gyson gan staff, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da iawn ar draws amrywiaeth o ddangosyddion:

  • Gostyngiad yn nifer y gwaharddiadau – yn y flwyddyn cyn mynychu’r UCD, collodd y grŵp presennol o ddisgyblion 370 o ddiwrnodau ysgol o ganlyniad i waharddiadau, ac roedd un wedi’i wahardd yn barhaol. I’r gwrthwyneb, yn 2011-12, roedd gan yr un disgyblion gyfanswm o un hanner diwrnod o waharddiad. Dyma welliant eithriadol.
  • Gwelliant mewn Presenoldeb – yn 2011- 12, roedd yr holl ddisgyblion wedi gwella’u cyfraddau presenoldeb a/neu wedi cadw uwchlaw targedau’r awdurdod lleol a’r UCD. Mae presenoldeb cyffredinol wedi gwella o 60% ar gyfartaledd cyn mynychu’r UCD i 90.7% yn dilyn cyfnod yn yr UCD.
  • Mynd yn ôl i’r brif ffrwd – mae disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 yn mynd yn ôl i ysgolion prif ffrwd yn llwyddiannus. Mae bron pob un o’r disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 yn symud ymlaen i addysg neu hyfforddiant pellach, neu gyflogaeth.
  • Medrau – mae disgyblion ym mhob un o’r tri chyfnod allweddol yn gwneud cynnydd da wrth ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd. Mae’r holl ddisgyblion yn gwella’u medrau cymdeithasol a chyfathrebu ac yn dysgu sut i ymddwyn yn fwy priodol yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyrhaeddiad disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 yn dda iawn.

Mae hynt y gwelliant yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn arwyddocaol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Herbert Thompson mewn ardal ddifreintiedig yng Nghaerdydd ac mae oddeutu 58% o ddysgwyr yn cael hawlio prydau ysgol am ddim.

Strategaeth

Annog rhieni i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol a dangos diddordeb agos yn addysg eu plant. Mae cyngor y rhieni yn nodwedd arbennig o dda. Dyma amcanion y cyngor:

  • gweithio mewn partneriaeth â’r ysgol i greu ysgol sy’n croesawu pob rhiant;
  • hyrwyddo partneriaeth rhwng yr ysgol, ei staff, ei dysgwyr a phob un o’i rhieni;
  • datblygu a chymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cefnogi addysg a lles ei dysgwyr; nodi a chynrychioli barn rhieni am addysg a lles y dysgwyr; ac
  • ystyried materion eraill sy’n effeithio ar addysg a lles y dysgwyr.

Mae’r cyngor yn cynnig ffordd effeithiol o sicrhau bod yr ysgol yn ymgysylltu’n effeithiol â rhieni drwy wrando ar farn y rhieni a sicrhau bod rhieni’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Camau gweithredu

Mae cysylltiadau effeithiol gyda rhieni a gwybodaeth am gefndiroedd teuluol y dysgwyr yn llywio system olrhain y dysgwr fel bod yr ysgol yn gallu nodi strategaethau penodol i wella cyflawniad y dysgwyr. Mae’r ysgol yn casglu ac yn dadansoddi data’n dda iawn sy’n rhoi tystiolaeth bod strategaethau fel cyngor y rhieni yn cael effaith ar les a chynnydd academaidd dysgwyr.

Deilliannau

Mae deilliannau cyfnod allweddol 2 ar gyfer y pynciau craidd wedi gwella’n sylweddol dros y pedair blynedd diwethaf ac mae’r dangosydd pwnc craidd yn llawer uwch na’r cyfartaledd ar gyfer ysgolion tebyg. Mae’r bwlch rhwng cyflawniad dysgwyr sy’n cael hawlio prydau ysgol am ddim a’r dysgwyr eraill wedi culhau dros y pedair blynedd diwethaf ac, erbyn hyn, mae’n is na’r cyfartaledd ar gyfer ysgolion tebyg a’r cyfartaledd cenedlaethol.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru (GGGC) yn uned addysgol fechan, bwrpasol ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 18 oed. Bob blwyddyn, mae tua 25 i 30 o bobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl cymhleth a difrifol yn mynychu’r uned i gael ymyriadau therapiwtig sy’n eu cynorthwyo i fanteisio ar eu hawl i addysg, ar lefel briodol ac effeithiol. Mae’r holl bobl ifanc yn gleifion preswyl yn y cyfleuster iechyd ac addysg ar y cyd.

Mae’r uned addysg wedi’i lleoli o fewn cyfleuster pwrpasol Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHs) a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB). Caiff yr uned addysg ei hariannu a’i rheoli gan awdurdod addysg lleol (AALl) Conwy.

Am nifer o flynyddoedd, mae ymyriad therapiwtig llwyddiannus iawn, Therapi Ymddygiad Dialectegol*, wedi bod yn elfen amlwg o’r driniaeth seicolegol a gynigir yn GGGC a darpariaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed arall ar draws Cymru. Caiff y dull therapiwtig hwn ei ymgorffori yn y rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh) yn yr uned. Fe’i cyflwynir gan dîm amlddisgyblaeth o seicolegwyr, athrawon a gweithiwr cymdeithasol trwy addysgu therapiwtig yn ymarferol. Ffocws y grŵp medrau Therapi Ymddygiad Dialectegol yw addysgu pobl ifanc sut i reoli eu hemosiynau a’u perthynas â phobl eraill yn effeithiol. Mae’n helpu pobl ifanc i ymdopi â sefyllfaoedd anodd heb droi at ymddygiad difudd neu ddinistriol. Mae’r gwaith hwn yn elfen annatod o gwricwlwm ABCh yr uned.

Mae cyflwyno’r rhaglen fedrau ar y cyd gan y tîm amlddisgyblaeth yn sicrhau parhad y therapi drwy gydol y flwyddyn, yn ystod y tymor a gwyliau ysgol.

Yr amcan yw i bobl ifanc weld gwerth y medrau sy’n cael eu haddysgu ac adnabod eu perthnasedd i’w lles personol eu hunain. Y nod yw i bobl ifanc ddod yn fwy cadarnhaol ynghylch dysgu ac ymgysylltu â’r agweddau eraill ar yr addysg a’r therapi a gynigir yn GGGC.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae elfen Therapi Ymddygiad Dialectegol y rhaglen ABCh yn cynnwys amserlen dreigl o addysgu a gyflwynir deirgwaith yr wythnos. Caiff tri maes pwnc eu harchwilio dros gyfnod o wyth wythnos, sef:

  • rheoli emosiynau;
  • rheoli perthnasoedd; ac
  • ymdopi ar y pryd.

Mae pwyslais cryf yn llawlyfr y rhaglen, a ysgrifennwyd gan y staff seicoleg, ar ymarfer y medrau a addysgir fel rhan o’r profiad o fyw yng nghymuned yr ysbyty. Caiff un o’r tri sesiwn grŵp wythnosol ei neilltuo i gynorthwyo’r bobl ifanc i fyfyrio ar y tasgau ymarfer a osodwyd ar gyfer yr wythnos, i sicrhau eu bod yn parhau i ymarfer eu medrau y tu allan i’r ystafell ddosbarth trwy ‘waith cartref’ gosod.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Caiff yr holl brofiadau dysgu eu teilwra i anghenion unigol disgyblion a’u nod yw sicrhau bod y disgyblion yn cymhwyso’u dysgu’n llwyddiannus yn eu bywyd bob dydd. Yn ystod trafodaethau sy’n cychwyn mewn grwpiau medrau, mae pobl ifanc yn magu hyder yn eu gallu i ddatrys problemau a mynegi eu hunain mewn ystod o themâu cymhleth. O ganlyniad, mae iechyd, lles, medrau bywyd a phresenoldeb dysgwyr wedi gwella’n sylweddol. Hefyd, gwnânt gynnydd da wrth ddatblygu hunanymwybyddiaeth, yn ogystal ag yn eu medrau meddwl a chyfathrebu.

Mae gwybodaeth o ansawdd da a gesglir o gysylltiad pobl ifanc â’r rhaglen yn cefnogi’r gwaith cynllunio ar gyfer ailintegreiddio i addysg brif ffrwd. Mae gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr seicoleg a gwaith cymdeithasol yn rhoi gwybodaeth uniongyrchol i athrawon am effaith y grŵp medrau. Maent yn gwybod pa mor dda y mae pobl ifanc wedi datblygu’r medr i reoli eu hemosiynau eu hunain yn effeithiol. Trwy gydweithio â’u cydweithwyr prif ffrwd, mae’r athrawon hyn yn defnyddio’u dealltwriaeth i gynllunio’r trefniadau rheoli risg yn dda i alluogi dysgwyr i drosglwyddo’n ôl i ysgolion prif ffrwd.

*Mae Therapi Ymddygiad Dialectegol yn ddull o addysgu medrau ymdopi a chymdeithasol a fydd yn helpu pobl ifanc sy’n methu rheoli eu hemosiynau i ymdopi â thonnau sydyn a dwys o emosiwn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Castell-nedd yn ysgol benodedig Gymraeg sy’n gwasanaethu tref Castell-nedd a’r pentrefi cyfagos yn awdurdod lleol Nedd Port Talbot.

Mae 312 o ddisgyblion amser llawn yn yr ysgol, ac 81 o oed meithrin, rhan-amser.  Addysgir y disgyblion mewn wyth dosbarth yn y Cyfnod Sylfaen a chwech dosbarth yng nghyfnod allweddol 2 a chyflogir 14 athro, gan gynnwys y pennaeth.  Daw 72% o’r disgyblion o gartrefi lle mai Saesneg yw’r brif iaith.  Daw’r gweddill yn bennaf o gartrefi lle siaredir y Gymraeg fel prif iaith.  Ychydig iawn o’r disgyblion sy’n hanu o gefndir ethnig ac mae 11% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n is na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Ar hyn o bryd, mae 11% ar y gofrestr anghenion addysgol ychwanegol a does dim un disgybl â datganiad o anghenion addysgol.

Penodwyd y pennaeth i’w swydd ym mis Medi 2006. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae gan y pennaeth, y dirprwy bennaeth, yr uwch dîm rheoli a chorff llywodraethu’r ysgol weledigaeth a strategaeth glir ar gyfer gwella. Eu nod yw datblygu’r ysgol yn gymuned ofalgar sy’n gosod y plant yn ei chanol, a “rhoi cyfle i bob plentyn lwyddo”, sef arwyddair yr ysgol.  Mae uchelgais strategol yr ysgol yn canolbwyntio ar welliannau a chodi safonau.  Mae’r weledigaeth hon yn gwbl hysbys i holl randdeiliaid yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ceisia’r pennaeth greu a chynnal strwythur ysgol gyfan sy’n gwahaniaethu’n glir rhwng arweinyddiaeth a rheolaeth.  Mae hyn, yn ei dro, yn annog arweinyddiaeth addas ar bob lefel ar draws yr ysgol.  Mae galluogi pobl i lunio penderfyniadau, mewn modd proffesiynol, yn gwbl greiddiol i lwyddiant y strwythur. 

Mae’r penaethiaid uned ac aelodau’r uwch dîm rheoli yn gweithredu’n effeithiol ar draws yr ysgol: maent yn dîm o weithwyr cydwybodol a brwdfrydig, sy’n arwain trwy esiampl.  Mae’r model hwn yn galluogi’r pedwar pennaeth uned, sydd â chyfrifoldeb dros dri neu bedwar dosbarth yr un, i fod yn hygyrch i’r holl staff, yn arbennig felly, y staff o fewn eu hunedau penodol nhw.  Maent wedi eu grymuso i gynnal eu hunedau yn hynod effeithiol.  Mae hyn, felly, yn annog ymagwedd a mewnbwn uniongyrchol ganddynt o ran materion sy’n ymwneud â gwella’r ysgol.  Maent yn monitro ansawdd y dysgu a’r addysgu wrth wirio cynlluniau tymor hir a byrdymor athrawon, trafod gyda dysgwyr a monitro llyfrau gwaith disgyblion.  Maent yn paratoi adroddiadau sy’n deillio o’r monitro, gan amlinellu cryfderau ac ardaloedd ar gyfer datblygu, ynghyd â nodi’r camau sydd angen er mwyn gwella.  Hwy sydd hefyd yn bennaf gyfrifol am fentora athrawon newydd gymhwyso, a hynny mewn modd effeithiol a sensitif. 

Mae’r ysgol yn amserlennu dau ddiwrnod digyswllt yr un bob tymor i bob pennaeth uned.  Mae hyn yn caniatáu iddynt arsylwi ar athrawon eraill yr unedau wrth eu gwaith, ac yn rhoi cyfle iddynt gynnig cymorth, arweiniad a hyfforddiant uniongyrchol iddynt ar lawr y dosbarth.  Mae hyn ar wahân i’w rôl monitro a herio.  Yn dilyn yr arsylwad, gosodir targedau cyraeddadwy i bob athro, ac o fewn tair wythnos, trefnir ail-ymweliad er mwyn sicrhau bod pob athro wedi gweithredu arnynt, a bod gwelliannau mewn lle. 

Mae gan aelodau’r uwch dîm rheoli ddisgwyliadau uchel iawn o’r staff ac mae ethos yr ysgol yn sicrhau bod y rhan ddeiliaid i gyd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.  Mae’r arweinwyr yn rhannu eu disgwyliadau’n effeithiol mewn cyfarfodydd gwella ysgol, yn ogystal â thrwy’r broses rheoli perfformiad.  Mae’r ysgol yn gweithredu rhaglen reoli perfformiad lawn i’r cynorthwywyr addysgu yn ogystal â’r athrawon, ac yn ymateb yn briodol i’w hanghenion hyfforddi.  Mae aelodau’r uwch dîm rheoli yn cwrdd yn wythnosol i drafod materion sy’n cynnwys diweddariad o’r cynnydd yn erbyn blaenoriaethau’r cynllun gwella ysgol, materion hunanwerthuso, trafod adroddiadau monitro mewnol, yn ogystal â dadansoddi data a meincnodi.  Maent yn dadansoddi data yn effeithiol er mwyn adnabod cryfderau, gwendidau, ardaloedd ar gyfer datblygu a gosod targedau ar gyfer gwelliant.

Mae cyfarfodydd uned rheolaidd yn rhan annatod o’r rhaglen hyfforddiant mewn swydd: darparant gyfleoedd i bedwar grŵp o’r gweithlu i drafod materion sy’n fwy penodol i’w sefyllfaoedd dysgu nhw, ar wahân.  Mae’r materion maent yn eu trafod yn cynnwys cynllunio cwricwlaidd, strategaethau dysgu ac addysgu a safoni gwaith dysgwyr.  Yn eu tro, rhennir canfyddiadau’r cyfarfodydd hyn gydag aelodau eraill yr uwch dîm rheoli yn eu cyfarfodydd wythnosol.

Mae arweinwyr yr ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddatblygu’r gweithlu: mae rheoli perfformiad a datblygiad proffesiynol yn llwyddiannus iawn o ran meithrin ymarfer effeithiol ac wrth ddelio â thanberfformiad.  Mae cylch monitro a hunanwerthuso chwe thymor cynhwysfawr yn bodoli ar draws yr ysgol.  Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar safonau dysgwyr ac ansawdd yr addysgu.  Defnyddir ystod eang o dystiolaeth wrth ddod o hyd i farnau: craffu ar lyfrau a phlygellau technoleg gwybodaeth a thechnoleg, staff yn arsylwi ar wersi ei gilydd mewn triawdau, siarad â’r dysgwyr, cynllunio cwricwlaidd yr athrawon, cwblhau rhaglen olrhain cynnydd, ac ati.  Mae’r broses wedi arwain at awyrgylch cwbl agored ble mae pawb yn parchu sylwadau ei gilydd ac yn adeiladu ar eu harfer blaenorol er mwyn sicrhau gwelliant yn eu haddysgu.  

Mae gan aelodau’r corff llywodraethu, yn ogystal, ddealltwriaeth gadarn o ofynion codi safonau’r dysgu ac ansawdd yr addysgu o fewn yr ysgol.  Mae eu rolau a’u cyfrifoldebau yn glir.  Maent yn gwbl gyfarwydd â pherfformiad cyfredol yr ysgol ac yn cyfrannu’n wybodus ac yn hyderus at drafodaethau sy’n ymwneud â datblygiad yr ysgol.  Mae gan bob llywodraethwr (mewn parau) gyfrifoldeb dros agweddau penodol o’r cynllun gwella ysgol (CGY).  Maent yn cwrdd yn dymhorol ag aelodau’r uwch dîm rheoli sydd â chyfrifoldeb dros dargedau’r CGY.  Mae’r llywodraethwyr yn eu tro yn cynnig adborth cynhwysfawr i’r corff llawn, yn seiliedig ar y drafodaeth a gafwyd. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r gweithgareddau hyn wedi gosod cyfeiriad strategol clir i waith yr ysgol.  Mae’r strwythur yn dynn, yn effeithiol, a bellach wedi’i sefydlu’n gadarn.  Mae’r cyfan yn cyfrannu’n effeithiol at y cysondeb sy’n bodoli yn y ddarpariaeth ar draws yr ysgol, a’r gweithdrefnau cyfathrebu eglur sy’n bodoli rhwng yr holl staff. 

Mae targedau diweddaraf yr ysgol ar gyfer y tair blynedd nesaf yn disgwyl bod y deilliannau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2 yn parhau i wella. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn ‘Ysgol Arloesi Y Fargen Newydd’, dan nawdd Llywodraeth Cymru.  Mae’r pennaeth eisoes wedi rhannu ei athroniaeth ynglŷn â strwythur arweinyddiaeth ei ysgol gyda holl benaethiaid y clwstwr lleol o ysgolion, yn ogystal ag annerch Cynhadledd Genedlaethol i Ysgolion Arloesi, a drefnwyd gan y consortiwm rhanbarthol.

Mae’r ysgol hefyd yn rhan o rwydwaith Ysgolion Dysgu Proffesiynol y consortiwm rhanbarthol/ Prifysgol Y Drindod Dewi Sant.  Ei hardal o arbenigedd yw arweinyddiaeth.  Disgwylir i’r ysgol barhau i ddatblygu ei harfer dda; i rannu ei harfer dda gydag ysgolion eraill; i ddatblygu staff fel hyfforddwyr neu fentoriaid; ac i sefydlu ei hun fel Canolfan Rhagoriaeth. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Haberdashers’ Monmouth School for Girls, a sefydlwyd ym 1892, yn ysgol ddydd ac ysgol breswyl annibynnol i ferched rhwng 11 a 18 oed, gydag ysgol baratoi, Inglefield House, i ferched rhwng 7 ac 11 oed. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Yn 2010, cynhaliwyd archwiliad o ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau dysgu craidd disgyblion ar draws y cwricwlwm.  Diben hyn oedd cadarnhau hyd a lled y ddarpariaeth a nodi unrhyw fylchau.  Roedd y medrau dysgu craidd yn cynnwys: technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), rhifedd, medrau ymchwil, medrau meddwl (datrys problemau, dadansoddi, rhesymu, dod i gasgliadau), medrau cyfathrebu (gweithio mewn tîm, crynhoi, cyflwyno, trafod), medrau darllen ac ysgrifennu estynedig (prawf ddarllen, sganio, sgimio a darllen yn fanwl).  O ganlyniad i’r archwiliad, cryfhaodd yr ysgol ei darpariaeth ar gyfer datblygu medrau dysgu disgyblion i sicrhau bod disgyblion yn gwella’r medrau hyn yn fwy systematig gydag amser ac mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.  Cyflwynodd yr ysgol raglen weithgareddau o fedrau trawsgwricwlaidd i wella datblygiad medrau dysgu craidd disgyblion, gyda’r nod y byddent yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol, cymwys. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae darpariaeth medrau dysgu trawsgwricwlaidd yr ysgol yn rhaglen nodedig ar gyfer datblygu medrau dysgu craidd disgyblion.  Ym mhob cyfnod o’r ysgol, mae trefniadau pwrpasol ar gyfer adeiladu ar y technegau y mae disgyblion yn eu defnyddio ym mhob pwnc er mwyn trosglwyddo a chymhwyso’r technegau hyn yn llwyddiannus mewn gwahanol gyd-destunau.  Er enghraifft, yng nghyfnod allweddol 3, mae disgyblion Blwyddyn 7 yn dilyn rhaglen ‘dysgu i ddysgu’.  Fe’i bwriedir i gefnogi disgyblion wrth iddynt drosglwyddo i ran uwch yr ysgol trwy ymgorffori arferion astudio effeithiol, cyflwyno disgyblion i adnoddau dysgu’r ysgol, sy’n cynnwys cyfleusterau llyfrgell helaeth, a gwella hyder a dygnwch disgyblion.  Fel rhan o’r rhaglen, mae disgyblion yn astudio arddulliau dysgu, deallusrwydd lluosog, sut mae eu hymennydd yn gweithio a’r cof.  Mae’r deilliannau disgwyliedig yn cynnwys y gallu i ddefnyddio’r llyfrgell a’r ganolfan adnoddau yn llwyddiannus i ymchwilio i bwnc o ddewis a llunio cyflwyniad byr, heb gymhorthion electronig, i arddangos ymchwil gadarn a medrau cyflwyno da.

Ym Mlwyddyn 9, mae disgyblion yn dilyn rhaglen ymchwil a datblygu, a gydnabyddir yn genedlaethol, sy’n eu hannog ymhellach i wella’u medrau ymchwil gan ganolbwyntio ar faes o’u diddordeb eu hunain ac ymestyn eu gwybodaeth am y pwnc. 

Yn nhymor un, mae disgyblion yn gwneud ymchwil ac yn rhoi cyflwyniadau ar fater sydd o ddiddordeb iddyn nhw.  Mae hyn yn cynnwys cwblhau cofnod gyda’r eirfa y mae ei hangen arnynt i gyflawni a siarad am eu hymchwil.  Yn yr ail dymor, yn arddull yr ‘Young Apprentice’, caiff disgyblion eu rhoi mewn timau a chyflwynir her iddynt.  Dechreuant gyda sesiynau addysg ar waith tîm, arddulliau arwain a chyfansoddiad y tîm delfrydol.  Yna, mae’n rhaid iddynt benderfynu ar rolau ar gyfer amrywiol aelodau’r tîm, cynnal cyfarfodydd wythnosol, llunio cofnodion a chynlluniau gweithredu, a gweithio tuag at gynhyrchu eu ‘cynnyrch’ ar ddiwedd y trydydd tymor.

Yng nghyfnod allweddol 4, mae disgyblion yn parhau i ddatblygu eu medrau dysgu mewn maes sy’n apelio’n bersonol atynt.  Er enghraifft, caiff disgyblion Blwyddyn 10 eu gwahodd i gyflwyno traethawd 2,000 o eiriau ar bwnc sydd o ddiddordeb iddynt.  Gan amlaf, bydd hyn yn gysylltiedig â maes pwnc y maent yn ei astudio ar gyfer TGAU ac, mewn gwersi unigol, byddant yn ymestyn eu dysgu am fedrau ymchwil ac ysgrifennu traethodau ac yn ei gymhwyso i’r maes hwn.  Mae disgyblion yn ystyried bod y traethawd yn fath o weithgaredd ymestyn, gydag athrawon sydd ag arbenigedd a diddordeb penodol yn y maes yn marcio a rhoi sylwadau ar y traethawd.  Mae hyn yn llwyddo i ymestyn a gwella gwybodaeth disgyblion am y pwnc a’u defnydd ar fedrau dysgu mewn cyd-destunau gwahanol.  

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae cyflwyno’r rhaglen wedi helpu i sicrhau bod disgyblion yn datblygu eu medrau dysgu’n fwy systematig mewn amrywiaeth ehangach o gyd-destunau.  Bellach, mae disgyblion yn ymestyn eu dysgu o wahanol bynciau yn llwyddiannus trwy ddatblygu a defnyddio medrau a thechnegau yng ngweithgareddau amrywiol y rhaglen ac ar draws y cwricwlwm.  O ganlyniad, mae disgyblion yn dod yn ddysgwyr annibynnol mwy llwyddiannus.  Er enghraifft, erbyn iddynt gyrraedd y chweched dosbarth, mae nifer cynyddol o ddisgyblion yn cwblhau Cymhwyster y Prosiect Estynedig, sy’n cynnwys prosiect a gyflawnir ar sail symbyliad a chyfarwyddyd y disgyblion eu hunain, a chyflawnant ddeilliannau uchel.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd San Helen yng nghanol dinas Abertawe.  Mae 228 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yn yr ysgol.  Mae wyth dosbarth prif ffrwd, gan gynnwys darpariaeth feithrin ran-amser.

Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymuned ethnig amrywiol, ac mae 22 o ieithoedd gwahanol sy’n cael eu siarad gan ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i wyth deg wyth y cant o ddisgyblion.  Mae un deg tri y cant o ddisgyblion yn wyn – ethnigrwydd Prydeinig.  Mae tuag 16% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn cael gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan 32% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru (25%).  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Dechreuodd yr arfer er mwyn ymateb i gyflwyno’r lleoliad Dechrau’n Deg yn Ebrill 2013.  Arweiniodd y lleoliad at gynnydd yn nifer y plant a oedd yn dechrau yn yr ysgol ag anghenion dysgu ychwanegol.  Roedd pontio rhwydd o’r lleoliad Dechrau’n Deg i’r dosbarth meithrin yn bwysig er mwyn sicrhau parhad i ddisgyblion a rhieni.  Bu gostyngiad yn nifer y cyrsiau hyfforddiant ac amser asiantaethau allanol yn yr ysgol hefyd.  Ymatebodd yr ysgol trwy ddarparu hyfforddiant mewnol a chreu ystod o ddarpariaeth i ddisgyblion, gan gynnwys datblygu ei grwpiau medrau echddygol manwl, dyslecsia, anogaeth a chyfathrebu cymdeithasol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Nodi yn y lleoliad Dechrau’n Deg – Wedi i’r tîm Dechrau’n Deg nodi angen (gall hyn ddigwydd cyn gynhared â’r ymweliad cartref, ychydig cyn pen-blwydd y plentyn yn ddwyflwydd oed), maent yn manteisio ar strategaethau ymyrryd priodol (grwpiau iaith a gweithgareddau chwarae) i’r plant.  Gallant fanteisio ar eu seicolegydd addysg a’u therapydd iaith a lleferydd eu hunain.  Mae’r ymyrraeth yn amrywio o ddarparu cymorth yn y lleoliad i gymorth allanol a chymorth i rieni (dosbarthiadau magu plant).  Wrth i’r plentyn hwnnw drosglwyddo i’r dosbarth meithrin, bydd y staff yn cynnal cyfarfod derbyn, y byddant yn gwahodd yr holl randdeiliaid iddo i roi eu safbwyntiau ynghylch y cymorth sydd ei angen ar bob plentyn.  Wedi i’r arweinwyr benderfynu y gall yr ysgol fodloni’r anghenion, caiff cynllun addysg unigol (CAU) ei roi ar waith, ar sail cynllun rhaglen unigol (CRhU) Dechrau’n Deg.  Yna, bydd staff yn monitro’r plentyn am dri mis.

Nodi yn yr ysgol brif ffrwd – Os bydd staff yn amau angen newydd neu gychwynnol, bydd yn cyflwyno Cofnod o Bryder (CoB) i’w cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CydADY).  Mae’r CoB yn nodi meysydd sy’n peri pryder ac yn nodi’r strategaethau sydd eisoes ar waith.

Mae’r CydADY yn adolygu’r CoBau yn fisol, ac yn penderfynu monitro neu roi cymorth ar waith (CAU yn y lle cyntaf, fel arfer).  Gall y cymorth fod ar sawl ffurf:

  • Cymorth anogaeth gan y Tîm Ymgysylltu â Theuluoedd.  Maent yn trafod plant a’u teuluoedd yn rheolaidd, yn edrych ar dargedau ac yn rhoi cymorth ar waith.  Mae aelodau’r Tîm Ymgysylltu â Theuluoedd yn cyfarfod â rhieni ac yn cynnig arweiniad iddynt i gynorthwyo eu plant. 
  • Cymorth yn y dosbarth, lle mae athrawon yn defnyddio strategaethau penodol i gynorthwyo’r disgyblion.  Mae athrawon wedi eu hyfforddi mewn strategaethau anghenion addysgol arbennig (AAA) cyffredinol ond, lle mae angen yn fwy penodol, bydd arbenigwyr yn rhoi strategaethau penodol iddynt eu defnyddio.
  • Cymorth ADY – grwpiau Medrau Echddygol Manwl, grwpiau Dyslecsia, grwpiau Iaith a Lleferydd neu grwpiau cyfathrebu Cymdeithasol.

Bydd staff yn parhau i fonitro’r disgyblion.  Os na fyddant yn gwneud cynnydd, yna bydd yr ysgol yn rhoi cam arall yn y broses ymateb graddedig ar waith, sef atgyfeiriad i asiantaeth allanol, yn aml.

Gall monitro disgyblion fod ar sawl ffurf.

  • Adolygu CoBau
  • Deialog broffesiynol
  • Adolygu CAUau
  • Olrhain data arolygon AAA
  • Trafodaethau monitro disgyblion penodol
  • Data llythrennedd diwedd blwyddyn
  • Asesiadau mewn cynlluniau iaith cyhoeddedig
  • Gridiau monitro ystafell yr enfys
  • Adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau disgyblion?

  • Mae’r pontio rhwng y lleoliad Dechrau’n Deg a’r brif ysgol yn rhwydd ac mae’r plant yn ymgartrefu’n gyflym
  • Mae rhieni’n hyderus ac yn gyfforddus â darpariaeth yr ysgol ar gyfer eu plant
  • Ym mhob achos, mae’r ysgol yn darparu lefelau amrywiol o gymorth i bob plentyn
  • Mae monitro CAUau yn dangos bod disgyblion yn cyflawni eu targedau
  • Mae adolygiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn dangos bod disgyblion a rhieni yn hyderus ac yn fodlon â’r cymorth y maent yn ei gael yn yr ysgol

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda hon yn anffurfiol ar lefel y clwstwr ac wedi croesawu ymweliadau gan staff o ysgolion eraill. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Feithrin Brynteg yn feithrinfa arunigol a gynhelir gan yr awdurdod lleol, ym mhentref Abersychan, ger Pont-y-pŵl, yn Nhorfaen, De Cymru.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal eang ac, ar hyn o bryd, mae 52 o ddisgyblion ar y gofrestr, bob un ohonynt rhwng tair a phedair oed.  Mae plant yn mynychu’n rhan-amser, ac eithrio nifer bach iawn sy’n bodloni meini prawf yr awdurdod lleol ar gyfer lleoliad amser llawn.  Saesneg yw mamiaith yr holl blant.  Mae’r ysgol yn cyflogi dau athro amser llawn (y pennaeth a’r pennaeth cynorthwyol), ac un aelod staff cynorthwyol amser llawn a thri rhan-amser. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Ers yr arolygiad blaenorol yn 2012, y meysydd â blaenoriaeth ffocws uchel i’w datblygu fu hyfforddiant staff, adnoddau a gwneud gwelliannau pellach er mwyn datblygu medrau llythrennedd disgyblion a dealltwriaeth eu rhieni o’r ffordd y mae ysgolion yn addysgu medrau llythrennedd yn ystod y blynyddoedd cynnar. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r feithrinfa’n rhoi statws uchel i ysgrifennu ac mae plant yn cynhyrchu gwaith ysgrifenedig yn ystod y rhan fwyaf o weithgareddau.  Mae ymarferwyr hynod fedrus Brynteg yn gwybod ei bod hi’n hanfodol i ysgrifenwyr cynnar gael cyfle i ddefnyddio ysgrifennu at ddiben yn “eu byd”, dan do ac yn yr awyr agored.  Er mwyn datblygu eu medrau ysgrifennu, mae ymarferwyr o’r farn ei bod hi’n bwysig iddynt roi cyfle i bob disgybl ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion, yn Gymraeg a Saesneg.  Mae cynllunio bwriadus, sy’n ymgorffori asesu, yn caniatáu i blant gyfrannu’n nerthol at eu dysgu eu hunain a dod yn ddysgwyr hynod annibynnol, nad oes ofn arnynt gymryd risgiau ac sy’n dysgu o’u camgymeriadau. 

Mae ymarferwyr yn credu’n angerddol ei bod hi’n hanfodol canolbwyntio ar ddatblygu a gwerthfawrogi medrau ysgrifennu hanfodol yn gynnar er mwyn sicrhau y bydd plant yn ysgrifenwyr brwdfrydig gydol eu hoes.  Mae plant yn datblygu eu medrau echddygol bras trwy weithgareddau ymarferol a synhwyrol fel ‘disgo toes’ a gweithgareddau’r synhwyrau, ar raddfa fawr, i wneud marciau, gan ddefnyddio amrywiaeth fawr o adnoddau fel ffyn rhubanau, ewyn eillio, cribiniau tywod, iâ, glŵp ac ati.  Mae ymarferwyr yn pwysleisio pwysigrwydd datblygu’r medrau hyn i rieni a gofalwyr.  Trefnant weithdai i alluogi rhieni i ddeall athroniaeth datblygiad medrau cynnar.  Mae’r cyfleoedd hyn yn datblygu hyder y plant wrth iddynt archwilio adnoddau ysgrifennu mwy ffurfiol ar yr adeg briodol yn eu taith ddatblygu unigol.  Pan fydd plant yn adnabod eu hunain fel ysgrifenwyr (h.y. mae eu medrau cyn-ysgrifennu wedi’u gwreiddio’n gadarn), cânt eu hysbrydoli i ysgrifennu at amrywiaeth o ddibenion yn holl feysydd y ddarpariaeth. 

Nid yw ysgrifennu’n digwydd yn un rhan benodol o’r feithrinfa, mae’n bresennol ym mhob rhan; er enghraifft, taflenni cynllunio yn ardal y blociau adeiladu.  Mae’r plant yn ysgrifennu labeli fel arwyddion neu fwydlenni yn yr ardaloedd chwarae rôl yn y feithrinfa.  Hefyd, mae plant yn labelu arddangosfeydd ac yn ysgrifennu eu henw eu hunain ar eu darnau gwaith unigol ar gyfer arddangosfeydd.  Rôl ymarferwyr yw sicrhau eu bod yn cyflwyno amrywiaeth eang o gyfleoedd ysgrifennu a gwneud marciau i blant eu harchwilio’n annibynnol.  

Mae arsylwadau’n amlygu bod plant yna’n rhoi gwerth arnynt eu hunain fel ysgrifenwyr ac yn gallu darllen y testun maen nhw wedi’i ysgrifennu yn hyderus.  Mae ymarferwyr yn rhwymo storïau sydd wedi’u hysgrifennu gan blant yn briodol, gan roi statws uchel iddynt ac mae’r rheiny, yn eu tro, yn llunio rhan o ddeunyddiau darllen y feithrinfa, gyda phlant yn eu darllen yn annibynnol a staff yn eu darllen i’w cyfoedion.  Mae plant yn disgrifio’u hunain yn awduron, gan ddeall eu bod yn gwneud gwaith pwysig a gwerthfawr pan fyddant yn ysgrifennu storïau, y gallant eu rhannu gydag eraill.  

Bob dydd, mae ymarferwyr yn arsylwi’n fanwl y camau yn nhaith pob plentyn at ddod yn ysgrifennwr ac maent yn rhoi her a chymorth priodol lle bo’r angen.  Mae staff yn rhannu eu harsylwadau yn ystod sesiynau cynllunio myfyriol ac ymatebol dyddiol.  Mae’r feithrinfa yn cynllunio ac yn darparu adnoddau ar gyfer y camau nesaf mewn dysgu plant ar sail y cyfarfodydd hyn, ac mae’n hyblyg er mwyn cyfrif am anghenion/diddordebau presennol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae llawer o blant yn dechrau yn y feithrinfa gyda medrau sydd ar y lefel ddisgwyliedig i’w hoedran, neu islaw’r lefel honno.  Mae’r feithrinfa wedi datblygu system asesu ac olrhain drylwyr sy’n canolbwyntio ar fedrau’r cwricwlwm a’r fframwaith llythrennedd a rhifedd.  Mae arweinwyr yn casglu ac yn dadansoddi’r data hwn bob tymor, o ddyddiad cychwyn y plentyn.  Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos bod y rhan fwyaf o blant yn gwneud cynnydd cadarn iawn ar y cyfan yn ystod eu cyfnod yn y feithrinfa.  Mae dadansoddi data bob tymor yn dylanwadu ar gynllunio ac yn galluogi ymarferwyr i ganolbwyntio ar feysydd penodol o ddatblygu medrau.

Mae plant yn Ysgol Feithrin Brynteg yn siaradwyr hyderus, yn cymryd rhan mewn sgyrsiau gydag eraill gan ddefnyddio ystod eang o eirfa, ac yn gwrando’n dda ar oedolion a phlant eraill.  Mae eu medrau meddwl a datrys problemau yn datblygu’n dda ac maent yn eu defnyddio’n annibynnol yn eu chwarae.  Mae ganddynt yr hyder i ‘roi cynnig ar’ ysgrifennu ac mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi eu hymdrechion.  Gwna’r rhan fwyaf o ddisgyblion gynnydd rhagorol wrth ddatblygu eu medrau ysgrifennu.  Mae plant yn gwneud marciau gan ddal pensil yn gywir ac yn ymdrechu i sillafu geiriau anodd fel ‘strawberry’ a ‘butterfly’ yn hyderus, gan ddefnyddio’u medrau ffonig.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r feithrinfa wedi rhannu’r arfer dda hon gydag ymarferwyr o bedwar awdurdod cyfagos, trwy gynnal cyfres o ddiwrnodau agored.  Mae wedi’i chynnwys hefyd yn hyfforddiant ‘Communication Matters’ y consortiwm rhanbarthol.  Fel rhan o’r cwrs hwn, mae’r mynychwyr yn treulio diwrnod yn y feithrinfa yn cyflawni arsylwadau â ffocws, ac yn cael cyfraniadau / yn cymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol gan y staff addysgu.  Yn ogystal, mae staff wedi cyflwyno sesiynau fel rhan o hyfforddiant modiwl Cyfnod Sylfaen y consortiwm rhanbarthol ar Ddysgu trwy Brofiad.  Mae’r feithrinfa wedi llunio portffolio safonedig o wneud marciau, sy’n cynnwys enghreifftiau o ansawdd da o waith ym mhob cam datblygiadol.  Mae’r feithrinfa wedi rhannu hwn gydag ysgolion/lleoliadau eraill yn ystod hyfforddiant.

Mae ymarferwyr yn rhannu gwybodaeth am gynnydd y plant wrth ddatblygu medrau gyda’u rhieni ac yn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol i’r ysgolion cynradd y mae’n eu cyflenwi yn gynnar yn ystod tymor yr haf, trwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb a sesiynau arsylwi yn y feithrinfa.  Hefyd, mae’n rhannu’r holl ddata asesu cyfredol gyda rhieni ac ysgolion pontio.  

 
 
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yng nghanol pentref Cwmfelinfach yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 192 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.  Mae nifer y disgyblion mewn grwpiau blwyddyn penodol yn amrywio’n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd bod nifer o ddisgyblion yn ymuno ac yn ymadael yn ystod y flwyddyn.

Mae pedwar dosbarth oedran unigol a thri dosbarth oedran cymysg yn yr ysgol.  Mae’r ysgol yn nodi bod anghenion addysgol arbennig gan oddeutu 14% o ddisgyblion, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (25%).  Mae tua 17% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae bron pob un o’r disgyblion o gefndir ethnig gwyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Yn 2010, cyflwynodd yr ysgol Gwricwlwm wedi’i Gyfoethogi i ddatblygu medrau ehangach disgyblion ar draws y cwricwlwm.  Er mwyn datblygu arbenigedd staff a hybu perchenogaeth, cwblhaodd yr ysgol archwiliad o staff i fesur diddordeb a lefelau profiad.  Roedd pedwar athro a thri ymarferwr ychwanegol yn rhan o’r prosiect yn y flwyddyn gyntaf.  Cyflwynodd yr aelodau staff hyn grochenwaith, Almaeneg, chwaraeon, coginio, celf, gwau ac Ysgolion Coedwig.  Rhoddodd staff ddisgyblion o flynyddoedd 3 i 6 mewn grwpiau ac aeth sesiynau yn eu blaen mewn amserlen chwe wythnos, am 90 munud yr un.

Wrth i’r rhaglen fynd rhagddi dros y blynyddoedd, mae wedi datblygu i gynnwys aelodau’r gymuned.  Mae hyn yn cynnwys wardeniaid cefn gwlad, ‘knitting nannies’ a Chymdeithas Rhandiroedd Cwmfelinfach.  O ganlyniad, enillodd yr ysgol Wobr Pontio’r Cenedlaethau ar gyfer cynnwys y gymuned.  Hefyd, mae’r ysgol yn cefnogi elusennau lleol fel ‘The Dogs Trust’ a’r Uned Gofal i Fabanod Cynamserol yn Ysbyty Brenhinol Gwent trwy weithgareddau codi arian, trwy’r Cwricwlwm wedi’i Gyfoethogi.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Pan gyflwynodd yr ysgol y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd (FfLlRh), fe wnaeth aelodau staff archwilio’r Cwricwlwm wedi’i Gyfoethogi.  Fe wnaeth staff adolygu pob gweithgaredd er mwyn cysylltu â datganiadau’r FfLlRh mewn ffordd bwrpasol, a chynllunio pob sesiwn i sicrhau eu bod yn ymdrin â medrau ar lefel briodol i’r dysgwyr yn y grŵp.

I ddechrau, roedd ychydig aelodau staff yn amharod i ildio ‘amser addysgu’ gwerthfawr ac roedd angen dwyn perswâd arnynt ynghylch y gwerth y byddai’r sesiynau hyn yn eu cynnig.  Fodd bynnag, y budd cyntaf a nodwyd gan yr holl staff oedd y berthynas waith gadarn a ddatblygodd rhwng staff a disgyblion a rhwng y disgyblion eu hunain.  Diflannodd ffiniau wrth i wahanol ddisgyblion ymgymryd â rôl fwy arweiniol mewn datblygu’r cwricwlwm, yn aml yn arddangos medrau na chydnabuwyd yn flaenorol.  Sylwodd oedolion fod disgyblion yn siarad yn fwy rhydd yn ystod y sesiynau hyn a’u bod yn aml yn trafod problemau a phryderon na fyddent wedi cael sylw fel arall.

Gydag amser, mae’r ysgol wedi datblygu amrywiaeth ysgogol ac arloesol o brofiadau dysgu i fodloni anghenion a diddordebau’r holl ddisgyblion.  Mae cynllunio’r cwricwlwm ar draws yr ysgol gyfan yn cefnogi dilyniant clir ym medrau disgyblion o’r Cyfnod Sylfaen i ddiwedd cyfnod allweddol 2.  Mae themâu a ddewiswyd yn ofalus yn dal dychymyg disgyblion yn eithriadol o dda.  O ganlyniad, mae llawer o symbyliad gan bron pob un o’r disgyblion a gwnânt gynnydd cadarn iawn.  Mae cyfleoedd dysgu yn defnyddio pobl a lleoedd yn y gymuned leol mewn modd dychmygus.  Mae disgyblion yn mwynhau mynd i’r Ysgol Goedwig, garddio ar y rhandir lleol, gwau gyda neiniau/teidiau a gwneud ymchwiliadau gwyddonol.  Mae’r arfer hynod effeithiol hon yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd mewn ffyrdd buddiol, pleserus.  O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn defnyddio ac yn cymhwyso’r medrau hyn yn hyderus ac i safon uchel ar draws y cwricwlwm, o oedran cynnar.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Dywedodd adroddiad arolygu diweddar yr ysgol fod ‘gan ddisgyblion fedrau siarad a gwrando a rhifedd rhagorol’.  Mae arweinwyr o’r farn bod hyn o ganlyniad uniongyrchol i’r Cwricwlwm wedi’i Gyfoethogi, sy’n rhoi’r cyfle i ddisgyblion siarad mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gydag amrywiaeth o oedolion ac i ddefnyddio’u medrau rhifedd mewn ffordd ystyrlon.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn cymryd rhan yn weithgar mewn cynllunio gwaith pynciau ac mae ganddynt ymdeimlad craff o berchenogaeth ar yr hyn y maent yn ei ddysgu, a sut.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn meddu ar y medrau sydd eu hangen i wella’u dysgu eu hunain, gweithio gydag eraill, datrys problemau a dangosant lefelau uchel iawn o annibyniaeth.  Mae tystiolaeth glir o effaith i’w gweld yn y defnydd o fedrau llythrennedd, rhifedd a meddwl lefel uchel ar draws holl feysydd y cwricwlwm, o oedran cynnar iawn.  Hefyd, mae lefelau uchel o ymgysylltiad disgyblion a phresenoldeb gwell yn amlwg.

Bu tuedd o wella yng nghanlyniadau’r ysgol mewn Saesneg a mathemateg ar y lefel ddisgwyliedig, sef lefel 4, ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 dros y pedair blynedd diwethaf.  Yn ogystal, mae’r ysgol yn perfformio’n ffafriol o gymharu ag ysgolion tebyg ar y lefelau uwch, yn enwedig mewn gwyddoniaeth, gan ei gosod yn y 25% uchaf.

Mae’r ysgol yn olrhain lles disgyblion gan ddefnyddio Arolwg Agwedd y Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol ac mae’r canlyniadau’n dangos bod eu hymatebion cadarnhaol i’r cwricwlwm wedi cynyddu o 48% i 56% yn 2015.

Mae bron pob un o’r disgyblion yn meddu ar y gallu i drosglwyddo’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o fedrau i sefyllfaoedd ymarferol ac mae ganddynt ymdeimlad craffach o faterion dinasyddiaeth fyd-eang.

Mae holl ddisgyblion cyfnod allweddol 2 yn gallu arfarnu eu defnydd ar fedrau yn gywir ar draws y cwricwlwm gan ddefnyddio’u Proffiliau Medrau.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer hon gyda chydweithwyr ar draws y clwstwr.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ei hysgol gynradd gyfagos wedi rhoi’r Cwricwlwm hwn wedi’i Gyfoethogi ar waith yn llwyddiannus hefyd, sydd o fudd i’r disgyblion ac i’r gymuned leol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yng nghanol pentref Cwmfelinfach yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 192 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.  Mae nifer y disgyblion mewn grwpiau blwyddyn penodol yn amrywio’n sylweddol o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd bod nifer o ddisgyblion yn ymuno ac yn ymadael yn ystod y flwyddyn.

Mae pedwar dosbarth oedran unigol a thri dosbarth oedran cymysg yn yr ysgol.  Mae’r ysgol yn nodi bod anghenion addysgol arbennig gan oddeutu 14% o ddisgyblion, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (25%).  Mae tua 17% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd islaw’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae bron pob un o’r disgyblion o gefndir ethnig gwyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach yn ymfalchïo mewn rhoi disgyblion wrth wraidd eu dysgu, gan roi llais a pherchenogaeth glir iddynt ar yr hyn y maent yn ei ddysgu, a sut.  Mae gan y rhan fwyaf o ddisgyblion lais cryf mewn helpu i wneud penderfyniadau am fywyd yr ysgol.  Mae hyn yn arwain at safonau lles uchel iawn ac yn ategu’r medrau cymdeithasol a medrau bywyd cryf iawn sydd i’w gweld ymhlith disgyblion ar draws yr ysgol.  I wella’r rhain ymhellach, penderfynodd arweinwyr gynnwys disgyblion yn fwy yn y broses fonitro a hunanarfarnu ar lefel ysgol gyfan er mwyn symud yr ysgol yn ei blaen. 

Dechreuodd y rhesymwaith oedd wrth wraidd y Prosiect Ysbiwyr Dysgu gydag Arolwg Agwedd y Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol.  Mae’r ysgol yn cynnal yr arolwg gyda phob disgybl cyfnod allweddol 2 yn flynyddol i fonitro’u hunan-barch a’u hymateb i ddysgu.  Mae’r cydlynydd asesu, cofnodi ac adrodd yn dadansoddi’r canlyniadau ac yn rhannu’r deilliannau gyda’r holl aelodau staff.  Mae carfanau cyfan, grwpiau o ddysgwyr, ymatebion unigol a thueddiadau yn destun craffu ac yn cael eu cofnodi ar system asesu’r ysgol.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi gwahodd disgyblion sy’n arddangos nodweddion fel diffyg hunan-barch ac ymateb mwy negyddol at eu haddysg i ddod yn aelodau o grŵp Ysbiwyr Dysgu.  Mae’r dirprwy bennaeth yn arwain y prosiect a chaiff dynameg y grŵp ei ystyried yn ofalus er mwyn cynnwys y disgyblion sy’n debygol o elwa fwyaf o’r profiad.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae aelodau’r grŵp Ysbiwyr Dysgu yn arsylwi gwersi ac yn gofyn cwestiynau i’w cyfoedion am sut maent yn dysgu a beth mae angen iddynt ei wybod.  Maent yn chwarae rhan bwysig mewn dyfeisio posteri dosbarth a chynnig strategaethau defnyddiol ar sut i weithio’n annibynnol.  Mae hyn yn cynyddu eu hunan-barch yn sylweddol a theimlant fod rhan weithgar ganddynt yn natblygiad yr ysgol ac mewn prosesau gwneud penderfyniadau.

Y man cychwyn ar gyfer aelodau’r grŵp yw darllen y Polisi Addysgu a Dysgu fel eu bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau’r athrawon a’r dysgwyr yn yr ysgol.  Yna, byddant yn trafod materion fel beth sy’n gwneud addysgu a dysgu da.  Mae hyn fel arfer yn ysgogi ymateb bywiog.  Mae aelodau’r grŵp disgyblion yn penderfynu ar brif ffocws yr arsylwadau, sy’n fyr ac yn ffocysedig.  Yn ystod amser arsylwi, mae ‘ysbiwyr’ yn arsylwi dysgwyr, yn holi dysgwyr yn uniongyrchol ac yn edrych ar lyfrau ac arddangosfeydd.  Yn union wedi ymweliad, maent yn rhannu syniadau yn eu tîm ac yn ysgrifennu nodiadau ar eu darganfyddiadau.  Yna, mae ‘ysbiwyr’ yn cael amser i gydweithio er mwyn creu cyflwyniad i’w rannu gyda rhanddeiliaid eraill.

Mae’r ysgol yn cynnwys sesiynau adborth yn yr amserlen fel bod cyn lleied o darfu â phosibl.  I ddisgyblion, dyma’r rhan fwyaf pleserus a buddiol o’r broses.  Mae’r ‘ysbiwyr’ yn rhannu eu darganfyddiadau gyda’r dosbarthiadau yr ymwelont â nhw ac yn rhoi rhestr o ddarganfyddiadau cadarnhaol iddynt, yn ogystal â ffyrdd y gallent wella.  Cyflwynant eu darganfyddiadau ar ffurf poster a’i arddangos yn eu hystafelloedd dosbarth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r holl Ysbiwyr Dysgu wedi gwneud camau sylweddol ymlaen yn Arolwg Agwedd y Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol.  Mae llawer o’r disgyblion a gafodd sgôr ymhell islaw 50% ym mhob un o’r naw agwedd cyn y prosiect bellach yn dangos sgorau uwchlaw 80% yn yr agwedd at ddysgu ym mhob maes.

Mae’r holl ddisgyblion wedi elwa o’r broses o safbwynt ansawdd yr adborth gan eu cyfoedion, gan gynyddu llais y disgybl yn yr ysgol.

Yn ogystal, gofynnodd staff i’r Ysbiwyr Dysgu gynhyrchu cymorth gweledol ar gyfer menter ysgol gyfan ar ddysgu annibynnol.  Penllanw hyn oedd cynhyrchu poster ‘STUCK’ i helpu disgyblion o bob oedran ddeall beth i’w wneud pan fydd dysgu’n heriol iddynt.  Mae hwn yn gymorth dysgu hynod fuddiol ac mae’n datblygu annibyniaeth ym mhob dosbarth.

Yn ystod ail flwyddyn y prosiect, fe wnaeth yr ysgol adolygu ei pholisi ar ymddygiad a chyflwyno ‘Parod, Cyfrifol a Pharchus’.  Creodd yr Ysbiwyr Dysgu fapiau’r meddwl i ddangos i’w cyfoedion sut i fod yn barod, yn gyfrifol ac yn barchus.  Mae’r holl ddisgyblion yn monitro ymddygiad.  O ganlyniad, mae ymddygiad ar draws yr ysgol yn rhagorol.

Fe wnaeth disgyblion ddiweddaru’r Polisi Addysgu a Dysgu ochr yn ochr â’r uwch dîm rheoli i adlewyrchu’r datblygiadau presennol hyn. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae disgyblion wedi rhannu eu gwaith gyda’r pennaeth, llywodraethwyr, uwch reolwyr yr ysgol uwchradd gyflenwi a staff o ysgolion cynradd eraill.  Bu hyn yn llwyddiannus iawn ac mae nifer o ysgolion cynradd lleol wedi sefydlu eu grwpiau eu hunain i fynd i’r afael â materion tebyg.

Yn ogystal, mae’r cydlynydd asesu, cofnodi ac adrodd wedi cynnal cyfarfodydd â chydweithwyr ar draws y clwstwr i rannu’r dadansoddiad o Arolwg Agwedd y Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol a manteision Ysbiwyr Dysgu.