Arfer effeithiol Archives - Page 64 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Coleg Cymunedol YMCA Cymru (y Coleg) yw’r lleiaf o blith y sefydliadau addysg yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Coleg yn gweithredu ledled Cymru gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i ddarparu cyfleoedd dysgu rhan-amser mewn lleoliadau cymunedol. (caiff 57% o ddysgwyr eu recriwtio o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig ledled Cymru).

Mae’r Coleg wedi ehangu’n sylweddol er 1993 o ran ei gyllid, gan gynyddu o £12,000 y flwyddyn ym 1993 i £904,000 yn 2010/11, a’i garfan o ddysgwyr, o 100 o ymrestriadau ym 1993 i 6,500 yn 2010/11.

Daw llawer o ddysgwyr y Coleg o grwpiau bregus, ac nid yw llawer ohonynt wedi bod yn llwyddiannus yn eu profiadau dysgu blaenorol bob amser. Mae’r Coleg yn cynnig dysgu i droseddwyr a gweithwyr ieuenctid. Cynigir ystod gyfyngedig o ddarpariaeth i ddysgwyr cymunedol hefyd. Mae’r Coleg yn gweithredu system gyflwyno hyblyg, gyda’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn mynychu cyrsiau byr neu brofiadau dysgu. Mae pob cwrs wedi’i achredu.

Y Coleg yw’r darparwr mwyaf o ran hyfforddiant cychwynnol ar gyfer gweithwyr ieuenctid yng Nghymru a hyfforddiant ar gyfer dysgwyr sy’n droseddwyr ar orchmynion gwaith heb dâl. Mae’r Coleg yn cyflwyno dysgu ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru, mae’n gweithio gydag ystod eang o bartneriaid ac yn cyflwyno’r rhan fwyaf o’i waith mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Prawf Cymru a gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol a’r trydydd sector ledled Cymru.

Yn ystod y cyfnod o dwf yn y Coleg, h.y. 1993 – 2003, cafodd y Coleg drafferth dod o hyd i’w hunaniaeth o fewn y farchnad addysg bellach. Brandiodd ei hun yn ddarparwr Dysgu Oedolion yn y Gymuned i ddechrau, a thros gyfnod, daeth yn amlwg fod y Coleg yn un darparwr ymhlith llawer o ddarparwyr, a’r unig nodweddion canfyddadwy oedd ei statws Cymru gyfan a thraddodiadau ei riant sefydliad o weithio gyda phobl fregus trwy fodel gwaith ieuenctid.

Fel sefydliad bach gyda chyllid cyfyngedig, roedd angen i’r Coleg ganfod ffordd lle gallai wneud y mwyaf o’i feysydd arbenigedd.

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

Strategaeth y Coleg oedd canolbwyntio’r ddarpariaeth y mae’n ei chynnig ar sail ei dri maes arbenigedd – sef dysgu troseddwyr, hyfforddiant gwaith ieuenctid a dysgu datblygiad cymunedol. I sicrhau ei fod yn cynnal statws Cymru gyfan, sefydlodd y Coleg bartneriaethau strategol allweddol gyda’r pedwar gwasanaeth prawf yng Nghymru, a frandiwyd yn fwy diweddar fel Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Prawf Cymru, a’r gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’r Coleg a’i bartneriaid yn adolygu’r cwricwlwm yn rheolaidd, gan roi ystyriaeth dda i ddatblygiadau addysgol a pholisi newydd. Gan ddefnyddio profiad partneriaid, fel Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Prawf Cymru, mae’r Coleg wedi datblygu ystod briodol o gyrsiau achrededig unigol yn seiliedig ar fedrau ar gyfer dysgwyr sy’n droseddwyr, sy’n galluogi’r dysgwyr hyn i ddatblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau newydd, beth bynnag fo’u cefndir addysgol.

Mae pob un o systemau canolog y Coleg ar gyfer llywodraethu, rheoli staff a darparu a rhyngweithio â dysgwyr wedi’u seilio ar egwyddorion cadarn lle’r oedd y Coleg yn parhau i ganolbwyntio ar y dysgwr.

Dros gyfnod o chwe blynedd, mae’r Coleg wedi sicrhau bod llais y dysgwyr yn cael ei glywed ym mhob cam o gynllunio a chyflwyno’r ddarpariaeth.

Mae’r Coleg wedi arwain ar ddatblygu cymwysterau gwaith ieuenctid ar lefel addysg bellach yng Nghymru.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r Coleg wedi cynyddu faint o hyfforddiant gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg y mae’n ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg o 250% er 2006/07 ac wedi cynllunio cymhwyster yn seiliedig ar fodiwl ar gyfer dysgwyr sy’n droseddwyr.

Mae’r egwyddorion a’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan y Coleg wedi galluogi iddo gynnal lefelau uchel o gyfraddau cwblhau a llwyddiant dysgwyr dros gyfnod helaeth.

Er 2006/07, nid yw’r cyfraddau cwblhau wedi bod yn is na 99% ac nid yw’r cyfraddau llwyddo wedi bod yn is na 94.8%

Mae dau adroddiad gan Estyn yn Rhagfyr 2006 a Mai 2011 wedi nodi bod darpariaeth y Coleg ar draws pob un o’r cwestiynau allweddol (yn 2006) a phob un o’r dangosyddion allweddol (Mai 2011) yn rhagorol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Coleg addysg bellach yng Ngogledd Cymru yw Coleg Llandrillo Cymru.

Strategaeth

Mae’r coleg yn cynnig ymateb wedi’i deilwra i anghenion dysgwyr unigol. Gwnaeth dysgwr ifanc gais am le ar gwrs adeiladu, ond nid oedd ganddo’r cymwysterau derbyn gofynnol. Cynigiodd y coleg le i’r dysgwr ar gwrs cymorth i ennill y cymwysterau perthnasol. Ers ennill y cymwysterau, mae’r dysgwr wedi gallu mynd ymlaen i’w ddewis gwrs.

Gweithredu

Nododd yr asesiad cychwynnol fod medrau rhifedd y dysgwr ar lefel mynediad 1. Cymraeg yw ei famiaith, ac mae ganddo nam ar ei glyw. Mae’n darllen gwefusau yn Gymraeg ac yn gallu deall iaith arwyddion, ond nid yw’n ei defnyddio. Nid oedd am fanteisio ar gymorth y tu allan i’r dosbarth ac nid oedd am gael ei drin yn wahanol i’r dysgwyr eraill.

Darparodd y coleg gefnogwr a oedd yn medru’r Gymraeg, yn gwneud iaith arwyddion ac yn cefnogi anghenion rhifedd. Galluogodd hyn i’r dysgwr fanteisio ar bob rhan o’r cwrs cymorth. Gweithiodd y cefnogwr yn agos â thiwtoriaid y cwrs a thiwtor personol y dysgwr i gynllunio’r dysgu. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y dysgwr wedi ennill cymhwyster lefel mynediad 3.

Deilliannau

Mae’r dysgwr wedi goresgyn rhwystrau sylweddol rhag dysgu ac wedi mynd ymlaen i gwrs adeiladu lle mae’n parhau i gael cymorth ar gyfer datblygu ei fedrau rhifedd. Mae ar y ffordd i ennill lefel 1, cymhwyso rhif, erbyn diwedd Rhagfyr ac mae cymorth yn yr arfaeth iddo ennill lefel 2 erbyn diwedd y flwyddyn academaidd ym mis Gorffennaf.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol arbennig ddydd awdurdod lleol yw Ysgol Tŷ Gwyn sydd wedi’i lleoli yn ardal Trelái yng Nghaerdydd. Mae lle ar gyfer hyd at 150 o blant a phobl ifanc 3-19 oed sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog yn yr ysgol. Mae llawer o ddisgyblion ar y sbectrwm awtistig hefyd, ac mae eu hymddygiad yn heriol a difrifol.

Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys Dinas a Sir Caerdydd a’r awdurdodau lleol cyfagos yn Ne Ddwyrain Cymru. Daw’r disgyblion o ystod eang o gefndiroedd.

Mae 120 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae gan bob disgybl Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig neu mae eu hanghenion yn cael eu hasesu ar hyn o bryd. Mae tri deg dau y cant o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae hyn islaw cyfartaledd Cymru ar gyfer ysgolion arbennig, sef 42.8%. Daw tua hanner o’r disgyblion o gartrefi lle nad y Saesneg yw’r brif iaith. Nid yw unrhyw ddisgyblion yn dod o gartref Cymraeg.

Mae ychydig dros 100 aelod o staff, yn cynnwys nifer o weithwyr iechyd proffesiynol. Mae gwaith tîm aml ddisgyblaethol yn agwedd arwyddocaol ar waith yr ysgol.

Mae’r ysgol yn addysgu pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Nod cwricwlwm yr ysgol yw cynnig profiadau dysgu ystyrlon, perthnasol a chymhellol i ddisgyblion, sy’n bodloni eu hanghenion penodol ac yn ehangu eu datblygiad yn gyffredinol. Mae cyrsiau achrededig ar gael i ddisgyblion cyfnod allweddol 4 ac ôl-16, ynghyd â phrofiad gwaith a chyrsiau cyswllt coleg.

Cafodd yr ysgol ei hadleoli mewn adeilad newydd pwrpasol ym Medi 2010. Mae’n cynnwys ystafelloedd therapi’r synhwyrau a chyffwrdd, man chwarae meddal, gerddi synhwyraidd dan do ac yn yr awyr agored, yn ogystal ag ystafelloedd arbenigol ar gyfer celf a serameg, technoleg bwyd a cherddoriaeth.

Mae gan ddisgyblion yn Nhŷ Gwyn anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae llawer ohonynt ar y sbectrwm awtistig hefyd, ac mae eu hymddygiad yn heriol a difrifol. Mae tua 88% o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y cwricwlwm ar Lefel-P 6 ac islaw. Mae hyn yn cynnwys 42% o ddisgyblion sy’n cymryd rhan mewn Llwybrau ar gyfer Dysgu.

Ers symud i’r safle newydd yn 2010, mae Tŷ Gwyn wedi buddsoddi’n sylweddol mewn defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i wella medrau cyfathrebu a chael gwared ar rwystrau rhag dysgu.

Mae’r ysgol yn credu y dylai pob disgybl gael y cyfle i ddysgu a chyflawni eu potensial mewn amgylchedd lle maent yn hapus, yn cael eu cefnogi’n dda a’u herio i gyflawni cymaint ag y bo modd, beth bynnag fo’u galluoedd.

Mae gan Dechnoleg Gynorthwyol rôl arwyddocaol wrth gyflawni’r weledigaeth hon.

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

Agorwyd Canolfan Technoleg Gynorthwyol yr ysgol ym Medi 2010. Mae’r Ganolfan Addysg Ymgynghorol yn disgrifio Technoleg Gynorthwyol fel ‘unrhyw offer neu system a ddefnyddir i gynyddu neu wella galluoedd swyddogaethol unigolion ag anableddau’. Llwyddodd pedwar aelod o staff i ennill cymwysterau mewn Technoleg Gynorthwyol wedi’u hachredu gan Brifysgol Fetropolitan Manceinion.

Addysgu a Monitro
Mae’r Ganolfan Technoleg Gynorthwyol yn gweithio ar draws parthau:

  • cyfathrebu;
  • cwricwlwm;
  • llais y disgybl;
  • annibyniaeth; a
  • chymorth rhieni / teulu.

Mae gan bob disgybl broffil Technoleg Gynorthwyol sy’n cynnwys eu cwricwlwm unigol, eu targedau iechyd a chwarae a dulliau mynediad addas. Mae’r dulliau hyn yn cynnwys:

  • cymhorthion cyfathrebu technoleg uchel ac isel;
  • cadeiriau olwyn â phŵer;
  • gemau wedi’u haddasu â switshis fel Scalextric a Playstation;
  • meddalwedd llythrennedd fel iPads a Clicker; a
  • defnyddio technoleg amlgyfrwng i ymgymryd â gweithgareddau asesu ar gyfer dysgu.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Cyfathrebu
Mae Technoleg Gynorthwyol wedi cael effaith sylweddol ar ddeilliannau disgyblion fel y dengys nifer gynyddol y disgyblion sydd yn awr yn defnyddio cymorth cyfathrebu technoleg uwch. Mae ein hasesiadau yn cadarnhau bod y systemau hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at y cynnydd sylweddol yn y Lefel-P gyfartalog fesul disgybl.

Cwricwlwm – Deilliannau Llythrennedd
Mae’r Ganolfan Technoleg Gynorthwyol wedi gwella mynediad disgyblion ac wedi hyrwyddo ymgysylltu gwell â’r cwricwlwm yn well. Mae wedi gweithio gyda’r cydlynydd llythrennedd i ddatblygu ymagwedd hygyrch at gynllun darllen y Rhaglen Hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth o Ffonemau (POPAT). Mae’r cynnydd Lefel-P cyfartalog fesul disgybl yn dangos bod yr ymagweddau hyn wedi bod yn hynod effeithiol.

Llais y Disgybl
Mae’r Ganolfan Technoleg Gynorthwyol wedi datblygu strategaethau i roi cyfleoedd ehangach i ddisgyblion ag anghenion dysgu dwys wneud penderfyniadau am eu bywyd yn yr ysgol. Mae cyngor myfyrwyr bywiog yn Nhŷ Gwyn erbyn hyn. Mae pob aelod o’r cyngor yn defnyddio system gyfathrebu benodol i fynegi eu safbwyntiau ar ran yr holl fyfyrwyr. Yn ychwanegol, mae nifer gynyddol o ddisgyblion yn defnyddio technoleg i gyfrannu at eu cyfarfodydd adolygu blynyddol.

Annibyniaeth
Lansiwyd ysgol yrru ‘iDrive’ gan y Ganolfan Technoleg Gynorthwyol y llynedd, gyda’r nod o addysgu disgyblion sut i weithio cadair olwyn â phŵer trydan. Mae sesiynau asesu cychwynnol a rhaglen addysgu drylwyr wedi galluogi wyth myfyriwr i gael eu cadeiriau â phŵer trydan eu hunain.

Cymorth Rhieni a Theulu
Yn ogystal â gweithio gyda disgyblion unigol, llwyddodd y Ganolfan Technoleg Gynorthwyol i sicrhau cyllid gan fusnesau lleol i ddatblygu Prosiect Mynediad i Chwarae. Mae’r fenter hon yn helpu rhieni a gofalwyr i gael eitemau arbenigol o offer i gynorthwyo dysgu’r disgyblion.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol arbennig ar gyfer hyd at 135 o ddisgyblion rhwng 11 ac 19 oed yw Ysgol Maes Hyfryd. Agorwyd yr ysgol ym Medi 2009 yn dilyn ad-drefnu darpariaeth addysgol arbennig yn Sir y Fflint. Mae’r ysgol yn gweithredu ar ddau safle. Mae’r brif ysgol, a adeiladwyd yn bwrpasol, yn rhannu campws gydag Ysgol Uwchradd y Fflint. Mae canolfan adnoddau addysgu ychwanegol ar gyfer hyd at 12 disgybl, sef Cyswllt, yn Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle.

Mae gan ddisgyblion yn Ysgol Maes Hyfryd ystod eang o anghenion addysgol arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau dysgu cymedrol, difrifol a chymhleth, yn cynnwys anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Mae gan lawer o ddisgyblion anawsterau cyfathrebu, ymddygiadol neu synhwyraidd cysylltiedig. Mae gan bob disgybl ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Mae tua hanner disgyblion Ysgol Maes Hyfryd yn treulio rhan o’r wythnos mewn dosbarthiadau prif ffrwd yn datblygu eu medrau a’u hannibyniaeth, ac maent yn dilyn cyrsiau prif ffrwd achrededig.

Mae Ysgol Maes Hyfryd yn ysgol arbennig sydd wedi buddsoddi yn y technolegau diweddaraf i’w defnyddio gan ddisgyblion a staff. Nod yr ysgol yw gwella’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn sylweddol mewn dosbarthiadau, gwella effeithiolrwydd yr addysgu a’r dysgu, a pharatoi disgyblion â’r medrau fydd eu hangen arnynt yn y dyfodol. Mae e-ddiogelwch, diogelwch ar y rhyngrwyd a bwlio seiber yn faterion pwysig sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc heddiw. Mewn adroddiad i Lywodraeth Cymru: ‘Gweddnewid Ysgolion gyda TGCh’, dyfynnwyd ymchwil gan Becta (2006), a orffennodd trwy ddweud mai’r ‘enghraifft fwyaf cyffredin o dorri rheolau yw edrych ar ddeunydd anaddas ar-lein’.

Mae darparu mynediad da i adnoddau ac offer dysgu ar-lein yn cyfrannu’n sylweddol at sicrhau bod technoleg gwybodaeth a chyfathrebu’n effeithio ar ddysgu disgyblion a chodi safonau. Ar yr un pryd, mae sicrhau diogelwch ar-lein yn her i bob ysgol. Nod Ysgol Maes Hyfryd yw ennyn diddordeb dysgwyr a staff yn weithredol i greu amgylchedd dysgu ar-lein sy’n rhoi grym i ddysgwyr tra’n eu cadw’n ddiogel.

Ar lefel awdurdod lleol, mae gweithdrefnau i gloi’r system i lawr a gosod wal dân ar wefannau anaddas, ond roedd yn hanfodol i’r ysgol ddod o hyd i ffordd o fonitro’r sefyllfa o ddydd i ddydd. Archwiliodd Ysgol

Maes Hyfryd ystod o ddewisiadau a phenderfynodd ddefnyddio offeryn ar-lein sy’n monitro diogelwch cyfrifiaduron yn ogystal â chefnogi addysgu technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

Y system
Mae’r ysgol yn defnyddio offeryn meddalwedd ar y we i reoli ystafelloedd dosbarth, a ddyluniwyd i athrawon ryngweithio â disgyblion a’u haddysgu’n unigol, fel grŵp a dosbarth llawn. Mae’r athro TGCh yn monitro’r defnydd o gyfrifiaduron ym mhob dosbarth ac yn rhyngweithio gyda disgyblion trwy negeseuon cyflym, cyfarwyddyd clywedol ac arddangosiadau grŵp. Mae hyn yn golygu y gellir rhoi cymorth i ddisgyblion unigol. Tynnir cipluniau o sgriniau i helpu monitro pa mor effeithiol y defnyddir TGCh ar draws y cwricwlwm. Mae hefyd yn offeryn gwerthfawr i’r technegydd sy’n cywiro problemau o bell ac yn monitro gweithgareddau disgyblion amser cinio ac amser egwyl.

Addysgu a Monitro
Mewn TGCh, mae disgyblion yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 a chynlluniau gwaith sy’n gysylltiedig ag achrediad OCR ar Lefel Mynediad i Gymwysterau Cenedlaethol OCR Lefel 2. Mae’r feddalwedd hon yn cynorthwyo staff i asesu pa mor dda y mae myfyrwyr yn defnyddio’r medrau y maent yn eu caffael mewn gwersi TGCh ar draws pynciau eraill. Gall yr athro TGCh ddadansoddi a dehongli data trwy arsylwi medrau myfyrwyr, addasu’r cwricwlwm yn briodol a rhoi cyfarwyddiadau a gweithgareddau dysgu sy’n bodloni anghenion unigol disgyblion.

Mae staff yn gweld yr offeryn meddalwedd yn hawdd i’w ddefnyddio. Mae wedi gwneud rheoli cyfrifiaduron yn fwy effeithiol, ac mae hyn wedi gwella sylw a rhyngweithio disgyblion yn sylweddol. Mae disgyblion yn deall bod yr holl gyfrifiaduron ar gael i’r athro. Mae hyn yn atal bwlio seiber a lawrlwytho deunydd anghyfreithlon neu amhriodol. Mae’n gwneud addysgu TGCh yn fwy effeithiol, gyda defnydd gwell o amser gwersi a pherfformiad gwell gan ddisgyblion.

Defnyddir yr offeryn meddalwedd i:

  • ddarlledu a rhannu gwybodaeth;
  • recordio sgrin y tiwtor ar gyfer ei chwarae’n ôl mewn gwersi;
  • dangos sgrin y disgybl i ddisgyblion eraill ar gyfer asesu cyfoedion;
  • gwneud nodiadau ar arddangosiadau byw;
  • monitro a chofnodi gweithgarwch disgyblion, defnyddio cymwysiadau, argraffu a gwefannau; a
  • chymryd amser ac enwi cipluniau stamp o sgriniau disgyblion at ddibenion asesu.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r system yn helpu cadw’r disgyblion yn ddiogel. Mae’n rhoi gwybod i’r athro pan gaiff geiriau allweddol eu teipio, yn rhestru gwefannau penodol sydd wedi’u gwahardd ac yn rhoi gwybod i’r athro os yw disgyblion yn ceisio cael mynediad at safleoedd sydd wedi’u gwahardd.

Mae’r offeryn ar y we yn galluogi’r athro i reoli cyfrifiaduron o un weithfan ganolog. Gall yr athro neu’r rheolwr rhwydwaith greu cyfyngiadau ar y rhyngrwyd a chymwysiadau i gynnal diogeledd. Mae hon yn rhan bwysig wrth gynnal e-ddiogelwch yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd gan yr ysgol trwy ddefnyddio clipiau fideo a saethiadau sgrin wedi dangos bod cymhelliant, canolbwyntio ac annibyniaeth dysgwyr wedi gwella, yn ogystal â’u medrau mewn meddwl beirniadol a gwaith tîm.

Mae’r offeryn meddalwedd yn monitro faint o gyfrifiaduron a ddefnyddir bob dydd, medrau trosglwyddadwy disgyblion unigol a datblygu gallu disgyblion mewn TGCh. Ers i’r ysgol ddechrau defnyddio’r dull newydd hwn, bu cynnydd sylweddol yn nifer y cyfrifiaduron a ddefnyddir ym mhob maes pwnc, gyda disgyblion yn cymryd rhan fwy uniongyrchol yn y gweithgareddau dysgu.

Mae TGCh wedi helpu i wella dull dysgu sy’n canolbwyntio mwy ar y disgybl a hyrwyddo annibyniaeth ar draws yr ysgol.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Ysgol arbennig ar gyfer hyd at 135 o ddisgyblion rhwng 11 ac 19 oed yw Ysgol Maes Hyfryd. Agorwyd yr ysgol ym Medi 2009 yn dilyn ad-drefnu darpariaeth addysgol arbennig yn Sir y Fflint. Mae’r ysgol yn gweithredu ar ddau safle. Mae’r brif ysgol, a adeiladwyd yn bwrpasol, yn rhannu campws gydag Ysgol Uwchradd y Fflint, ac mae canolfan adnoddau addysgu ychwanegol ar gyfer hyd at 12 disgybl, sef Cyswllt, yn Ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle.

Mae gan ddisgyblion yn Ysgol Maes Hyfryd ystod eang o anghenion addysgol arbennig. Mae’r rhain yn cynnwys anawsterau dysgu cymedrol, difrifol a chymhleth, yn cynnwys anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Mae gan lawer o ddisgyblion anawsterau cyfathrebu, ymddygiadol neu synhwyraidd cysylltiedig. Mae gan bob disgybl ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Mae tua hanner disgyblion Ysgol Maes Hyfryd yn treulio rhan o’r wythnos mewn dosbarthiadau prif ffrwd yn datblygu eu medrau a’u hannibyniaeth, ac maent yn dilyn cyrsiau prif ffrwd achrededig.

Mae polisi cynhwysiant Ysgol Maes Hyfryd yn amlinellu athroniaeth glir fod gan bob disgybl yr hawl i gael ei (h)anghenion unigol wedi’u bodloni mewn lleoliad priodol. Mae’r ysgol yn credu bod gan bob disgybl hawl i lwybr unigol a fydd, i lawer o ddisgyblion, yn golygu eu bod yn cael eu cynnwys mewn lleoliad prif ffrwd am ran o’r wythnos.

Defnyddiodd yr ysgol uno tair ysgol arbennig yn gyfle i ddatblygu rhaglen gynhwysiant o lwybrau unigol arbennig a phriodol ar gyfer pob disgybl. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys:

  • darpariaeth ysgol arbennig ar wahân;
  • darpariaeth ysgol arbennig gyda chysylltiadau cynhwysol yn Ysgol Uwchradd y Fflint neu ysgol arall brif ffrwd ger cartref disgybl; neu
  • ddarpariaeth yng nghanolfan adnoddau Cyswllt yn Ysgol Uwchradd Elfed.

Ar hyn o bryd, mae bron i hanner disgyblion Ysgol Maes Hyfryd yn treulio rhywfaint o’u hamser mewn darpariaeth mewn un o wyth ysgol prif ffrwd yn Sir y Fflint. Mae pob disgybl cyfnod allweddol 4 yn dilyn cyrsiau achrededig.

Yn Cyswllt, mae’r disgyblion yn dilyn gwersi prif ffrwd ar gyfer rhwng 25% a 90% o’r amserlen, yn dibynnu ar anghenion unigol pob disgybl. Cynhaliwyd y trefniant hwn yn llwyddiannus yn sgil atgyfnerthu tasgau gwersi prif ffrwd yn y ganolfan adnoddau.

Mae staff cymorth yn Ysgol Maes Hyfryd a Cyswllt yn monitro a chefnogi’r disgyblion yn barhaus i sicrhau cysondeb sy’n galluogi iddynt barhau i weithio’n ddiwyd yn y dosbarth prif ffrwd.

Disgrifiad o natur strategaeth neu weithgaredd

Y strategaeth a fabwysiadwyd yn Ysgol Maes Hyfryd yw strategaeth i wella profiadau cwricwlaidd disgyblion unigol a chanolbwyntio ar gryfderau pob disgybl. Mae hyn yn helpu disgyblion i ddilyn cyrsiau achrededig, lle bo’n briodol. Er bod achredu’n rhan bwysig o’r rhaglen gynhwysiant, mae disgyblion hefyd yn datblygu eu hunan-barch, eu hyder a’u medrau cyfathrebu yn ystod eu lleoliadau mewn dosbarthiadau prif ffrwd.

Mae uno’r ganolfan anghenion dysgu ychwanegol yn y brif ffrwd ag Ysgol Maes Hyfryd o dan arweinyddiaeth athro Ysgol Maes Hyfryd wedi bod yn ddatblygiad arwyddocaol yn Cyswllt yn ddiweddar. O ganlyniad, gall disgyblion fanteisio ar gyfleoedd ehangach, mae staff yn rhannu a datblygu eu harbenigedd yn fwy effeithiol ac mae’r ganolfan yn fwy cynaliadwy.

Mae trefniadau monitro yn allweddol i ddeilliannau llwyddiannus y rhaglen gynhwysiant. Mae’r trefniadau hyn yn cynnwys arsylwadau manwl o ddisgyblion gan staff cymorth a chyfarfodydd rheolaidd rhwng y cydlynwyr a chyfarfodydd tymhorol yr uwch dîm arweinyddiaeth, yn ogystal ag adolygiadau blynyddol ffurfiol.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae pob rhaglen gynhwysiant wedi’i seilio ar anghenion y disgybl unigol, ac fe gaiff yr effaith ar ddarpariaeth, safonau a deilliannau ei mesur yn unigol hefyd.

Mae’r rhaglen gynhwysiant wedi gwella cyfleoedd dysgu ac wedi gwella deilliannau ar gyfer disgyblion.

Yn benodol, mae disgyblion wedi dilyn ystod o gyrsiau achrededig mewn pynciau fel gwyddoniaeth, celf, y cyfryngau a drama.

Mae deilliannau penodol ar gyfer disgyblion yn cynnwys:

  • gwelliannau sylweddol mewn presenoldeb gydag enghreifftiau unigol o welliant o 67% i 98% ac o 68% i 97%; a
  • chanlyniadau gwell mewn arholiadau gyda 4 disgybl yn Cyswllt yn llwyddo mewn 20 o bynciau TGAU rhyngddynt yn 2010.

Bu gwelliannau sylweddol yn oedrannau darllen, sillafu a mathemateg llawer o ddisgyblion, gyda:

  • 80% o ddisgyblion yn cynyddu eu hoedran darllen o 11 mis ar gyfartaledd;
  • 98% yn cynyddu eu hoedran sillafu o 6.7 mis ar gyfartaledd; a
  • 98% yn cynyddu eu hoedran mathemateg o 9.2 mis ar gyfartaledd.

Yn ychwanegol, dangosodd y disgyblion hyder a hunan-barch gwell, a chynhwysiant cymdeithasol cynyddol, er enghraifft trwy gymryd rhan mewn tîm pêl-droed prif ffrwd a mynychu clybiau ar ôl yr ysgol a gweithgareddau preswyl eraill.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Coleg Sir Gâr yn Goleg Addysg Bellach mawr, aml-safle. Mae ganddo tua 10,000 o ddysgwyr, y mae tua 3,000 ohonynt yn rhai amser llawn a 7,000 ohonynt yn rhai rhan-amser. Mae tua 950 o ddysgwyr addysg uwch.

Mae’r Coleg wedi’i leoli yn ne orllewin Cymru, ac mae ganddo bum prif gampws yn Llanelli (Graig), Caerfyrddin (Pibwrlwyd a Jobs Well), Rhydaman a Llandeilo (Gelli Aur). Mae hefyd yn cynnig ei ddarpariaeth ar-lein, trwy bartneriaethau mewn lleoliadau cymunedol, ac yn y gweithle. Mae’r campysau’n amrywio o ran eu maint a’u natur, ac yn cynnig amrywiaeth o bynciau. Yn gyffredinol, ni chaiff pynciau eu dyblygu ar draws y campysau oni bai bod galw uchel iawn yn cyfiawnhau hynny.

Mae gan y Coleg ystod gynhwysfawr ac eang o addysg academaidd a galwedigaethol, ynghyd â rhaglenni hyfforddi. Mae’r rhain yn amrywio o lefel cyn-mynediad i lefel ôl-raddedig, ac yn darparu gwasanaeth i’r gymuned ddysgu gyfan. Mae’n cynnig addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned, addysg uwch a dysgu yn y gwaith. Mae hefyd yn darparu ar gyfer nifer fawr o ddisgyblion ysgol rhwng 14 a 16 oed, sy’n mynychu’r Coleg neu’n cael eu haddysgu gan staff y Coleg yn eu hysgolion.

Mae gan y Coleg drosiant blynyddol o £30m ac mae’n cyflogi cyfanswm o 854 o staff. O’r rhain, mae 451 ohonynt wedi’u cysylltu’n uniongyrchol ag addysgu ac mae 403 ohonynt mewn swyddogaethau cymorth a gweinyddol.

Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (2011), mae sawl ardal o amddifadedd yn Sir Gâr, ac mae nifer fach ohonynt ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae’r rhain o gwmpas y canolfannau â’r poblogaethau mwyaf yn bennaf, sef Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Mae data gan yr Adran Addysg a Sgiliau (AdAS) yn dangos bod tuag 14.8% o ddysgwyr yn byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Sir Gâr.

Mae data Llywodraeth Cymru ar gyfer Mawrth 2013 yn dangos bod 66.2% o drigolion Sir Gâr dros 16 oed mewn cyflogaeth o gymharu â’r cyfartaledd yng Nghymru, sef 67.3%. Mae’r data’n dangos bod 72% o’r oedolion o oed gwaith yn meddu ar gymhwyster lefel 2 o leiaf, o gymharu â 74% yng Nghymru. Mae 33% o’r oedolion o oed gwaith yn meddu ar gymhwyster lefel 4 neu’n uwch, o gymharu â’r cyfartaledd o 32% yng Nghymru. Canran yr oedolion o oed gwaith heb gymhwyster yw 13%, sydd ychydig yn uwch na’r cyfartaledd yng Nghymru, sef 11%. Mae tuag 8,500 o unedau busnes yn Sir Gâr. Mae’r gyfran uchaf o fusnesau yn ymwneud â’r tir, manwerthu, adeiladu a gweinyddu.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, gall tua 46% o boblogaeth Sir Gâr siarad, darllen neu ysgrifennu yn Gymraeg. Dyma’r bedwaredd ganran uchaf yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gan Sir Gâr y nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Mae’r pennaeth a’r uwch dîm rheoli yn rhoi blaenoriaeth strategol uchel i weithio mewn partneriaeth.

Mae’r coleg yn gweithio’n effeithiol iawn gydag ystod eang o bartneriaid sy’n cynnwys yr awdurdod lleol, ysgolion, partneriaeth ddysgu ranbarthol, cyflogwyr a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill.

Mae’r partneriaethau wedi hen ennill eu plwyf ac fe geir llawer o ymddiriedaeth ar y ddwy ochr rhwng partneriaid. Mae’r coleg yn gweithio’n effeithiol iawn gyda’r partneriaid hyn i ddarparu ystod eang o gyfleoedd dysgu ledled Sir Gaerfyrddin. O ganlyniad i weithio mewn partneriaeth, mae’r Coleg wedi lleihau faint y mae’n dibynnu ar gyllid Addysg Bellach (AB), sef yr isaf o’r holl Golegau AB yng Nghymru.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae’r coleg yn brif bartner a darparwr mewn datblygiadau 14-16 ac 16-19. Mae’n gweithio’n dda iawn gyda’r awdurdod lleol wrth gynllunio datblygiadau newydd, fel ad-drefnu ysgolion uwchradd yn Ninefwr a darparu cyrsiau galwedigaethol mewn ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin. Mae’n cyfrannu’n sylweddol at leihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn Sir Gaerfyrddin trwy ddarparu rhaglenni effeithiol sy’n bodloni anghenion y dysgwyr hyn.

Mae trefniant llywodraethu ffurfiol ar y cyd â’r awdurdod addysg lleol wedi’i sefydlu ar gyfer tri chlwstwr dysgu a’r clwstwr cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin. Mae hwn yn drefniant llywodraethu hynod arloesol ac effeithiol sy’n cynnwys staff a rheolwyr o’r coleg, yr awdurdod lleol, ysgolion a chyflogwyr yn gweithio gyda’i gilydd i reoli’r ddarpariaeth. Mae’r trefniant hwn yn hyrwyddo cydweithio, yn cael gwared ar gystadleuaeth ddi-fudd rhwng darparwyr ac yn galluogi’r coleg, ysgolion, cyflogwyr a’r awdurdod i gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm 14-19 yn effeithiol i fodloni anghenion dysgwyr a chyflogwyr.

Caiff y ddarpariaeth alwedigaethol helaeth i ddisgyblion 14-16 oed ei chefnogi’n gryf gan yr ysgolion uwchradd yn y tri dalgylch daearyddol a’r clwstwr Cymraeg ledled y sir o’r enw Partneriaith. Mae’r ddarpariaeth hon yn hynod lwyddiannus ac yn rhoi cyfleoedd cynyddol i ddysgwyr symud ymlaen i addysg bellach. Mae’n cyfrannu’n sylweddol at drefniadau pontio ac mae’n cynnwys darpariaeth i ddysgwyr mwy abl a dawnus. O ganlyniad, mae tua 1,000 o ddisgyblion ysgol yn dilyn cyrsiau yn y coleg bob wythnos.

Mae’r Coleg yn brif bartner yn y Bartneriaeth Ddysgu Ranbarthol (PDdR). Mae’r bartneriaeth hon yn dod â phartneriaid addysg ac adfywio at ei gilydd i helpu i ddarparu dyfodol gwell ar gyfer dysgwyr ac unrhyw ddysgwyr posibl ledled y Canolbarth a De Orllewin Cymru. Mae’n gweithredu i helpu i sicrhau bod darparwyr dysgu a ariennir yn gyhoeddus a sefydliadau cysylltiedig yn cydweithio yn effeithiol ac yn effeithlon ar draws y meysydd addysg ac adfywio i fodloni anghenion y dysgwyr a’r economi ranbarthol.

Mae gan y coleg gysylltiadau buddiol a hirsefydledig gydag ystod eang o gyflogwyr ar draws llawer o feysydd dysgu, gan gynnwys Peirianneg, Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Astudiaethau’r Tir, Chwaraeon, Hamdden a Thwristiaeth a’r Celfyddydau Perfformiadol. Mae’r coleg yn cydweithio’n agos â’r cyflogwyr hyn i fodloni eu hanghenion hyfforddi a datblygu. Enghraifft dda o hyn yw ar y fferm waith yng Ngelli Aur lle mae’r Coleg yn ymgysylltu’n effeithiol â’r Ganolfan Datblygu Llaeth. Mae’r perthnasoedd hyn wedi gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr yn sylweddol ac wedi cynyddu nifer y dysgwyr mewn cyflogaeth gynaliadwy. Mae busnesau lleol a chenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â’r coleg i ddarparu ystod eang o brofiad gwaith i ddysgwyr.

Mae’r coleg yn gweithio mewn partneriaeth â chwe ysgol uwchradd leol a phartner masnachol i gynnal canolfan medrau galwedigaethol ar gyfer adeiladu. Mae’r bartneriaeth hon yn
cynnig cyfleoedd dysgu o fewn y rhaglen prentisiaeth ar y cyd ac yn creu cyfleoedd rhagorol o ran swyddi a llwybrau gyrfa ar gyfer dysgwyr adeiladu.

Ar lefel addysg uwch, mae’r coleg wedi ymateb yn dda i gynllun Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfrifoldeb i’r rhanbarthau. Mae wedi datblygu partneriaeth ragorol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r brifysgol yn dilysu’r ddarpariaeth addysg uwch ar gyfer rhyw 950 o ddysgwyr. Trwy’r berthynas hon, mae’r coleg wedi datblygu’r Ysgol gyntaf ar y Cyd ar gyfer y Celfyddydau Creadigol. Mae’r rhaglen hon yn pontio addysg bellach ac addysg uwch trwy ddarparu adnoddau ychwanegol a chyfleoedd dilyniant i ddysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r bartneriaeth yn codi dyheadau dysgwyr y coleg trwy weithio gyda nhw yn agos ar raglenni addysg uwch.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Gall tua 1000 o ddisgyblion fanteisio ar y Coleg neu’i staff bob wythnos ar draws ystod eang o ddisgyblaethau a champysau. Yn Llanelli, sefydlwyd Canolfan Medrau Galwedigaethol rhwng y Coleg, Ysgolion a Phartner Masnachol. Mae hyn wedi darparu cyfleusterau er mwyn gallu cyflwyno medrau galwedigaethol i ddisgyblion o chwe ysgol uwchradd leol. Mae’r rhwydwaith 14-19 yn ymgymryd ag ymarferion hunanasesu ar y cyd ac arsylwadau cymheiriaid ar draws darparwyr, ac mae staff y Coleg yn mynd i Ysgolion ac i’r gwrthwyneb. Mae cytundeb erbyn hyn ar gyfer rhannu gwybodaeth bersonol am ddysgwyr ar draws y rhwydwaith.

Mae’r Coleg wedi gweithio’n helaeth gyda nifer o bartneriaid i roi profiad dysgu gwell i’w ddysgwyr Addysg Bellach. Mae rhai enghreifftiau o’r modd y mae partneriaid allweddol wedi gwella profiad dysgwyr yn cynnwys:

Cyngor Sir Gâr

  • rhoddwyd cyfleoedd i ddysgwyr mewn Chwaraeon hyfforddi mewn lleoliadau ysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg;
  • defnyddio Canolfan Beacon fel adnodd ffisegol ar gyfer dysgwyr Menter;
  • mae dysgwyr mewn Gofal Plant yn cael lleoliadau ar gyfer eu cwrs;

BBC (It’s My Shout)

  • maent wedi mentora dysgwyr ym mhob agwedd ar greu ffilmiau;

Heddlu Dyfed Powys

  • rhoddwyd cyfle i ddysgwyr ddefnyddio cerbydau gyda thechnoleg newydd i sicrhau bod dysgwyr yn gweithio ar flaen y gad o ran datblygiadau;

Schaeffler UK

  • maent wedi rhoi cyfleoedd i’n dysgwyr ‘weld y tu mewn i weithgynhyrchu’ ac yn darparu lleoliadau a sesiynau rhagflas;

Gwesty Parc y Strade

  • mae’n rhoi cymorth i ddysgwyr mewn cystadlaethau, profiad gwaith ac yn helpu i hwyluso taith gyfnewid i Ffrainc;

Scarlets

  • defnyddio’r Stadiwm a chyfleusterau Ysgubor Ymarfer ar gyfer Timau Chwaraeon y Coleg;
  • cynnig cyfle i ddefnyddio meddalwedd ac arbenigedd perfformiad mewn chwaraeon;
  • lleoliad gwaith ar gyfer dysgwyr hamdden a thwristiaeth ac arlwyo;

LANTRA

  • gweithiodd yn agos iawn â’r tîm Amaethyddiaeth i ddarparu ystod o gyfleoedd i ddysgwyr, gan gynnwys amlygu i arfer bresennol ac arfer orau;

Gwalia Housing

  • mae’n darparu cyflogaeth ran-amser i ddysgwyr ac yn darparu lleoliadau profiad gwaith.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd St Joseff yn Wrecsam yn addysgu nifer o ddisgyblion o’r gymuned Sipsiwn-Teithwyr leol ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod y disgyblion hyn yn cyflawni hyd eithaf eu gallu.

Strategaeth

Mae’r ysgol wedi rhoi nifer o strategaethau ar waith i gefnogi’r disgyblion hyn ac wedi arfarnu’r llwyddiant a gafodd y mentrau hyn o ran cyflawniad a lles y disgyblion.

Gweithred

Defnyddiodd y staff amrywiaeth o ddata a gwybodaeth arall, fel siarad â’r disgyblion a’u rhieni i nodi effaith y strategaethau cymorth. Roedd y cymorth ychwanegol yn cynnwys: rhaglen cyfoethogi’r cwricwlwm; cyd-ddarpariaeth gyda’r gwasanaeth ieuenctid lleol; cymorth gan athro uwchradd o’r gwasanaeth addysg i deithwyr; cysylltiadau â’r gymuned i ddatblygu ‘dawnsio stryd’; a chlwb gwaith cartref.

Canlyniadau

Canfu’r ysgol fod y disgyblion yn magu mwy o hyder i symud ymlaen i addysg ôl-16. Mae’r cyfraddau gwahardd wedi gostwng, a rhoddir gwybod am lai o achosion o fwlio. Mae mwy’n cyfranogi mewn gweithgareddau allgyrsiol. Ar y cyfan, mae’r lefelau cyflawniad yn isel o hyd, ond maent wedi gwella drwy ddarparu cwricwlwm amgen ac mae mwy o ddisgyblion yn mynychu i gyfnod allweddol 4.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Crownbridge yw’r unig ysgol arbennig yn Nhorfaen, ac mae’n cynnwys safle lloeren yn Ysgol Gynradd Penygarn (Pont-y-pŵl). Mae ychydig dros ddau o bob tri disgybl o oedran ysgol statudol. Mae anghenion disgyblion yn cynnwys anhawster dysgu difrifol, anhawster dysgu dwys a lluosog, anhwylder ar y sbectrwm awtistig ynghyd ag amrywiol anhwylderau genetig, anawsterau synhwyraidd ac ymddygiadau heriol.

Yn Crownbridge, daethom yn fwyfwy ymwybodol nad oedd disgyblion ag anghenion dysgu cymhleth yn gallu chwarae rhan lawn mewn adolygu eu cynnydd. Y rheswm am hyn oedd bod y broses adolygu, fel digwyddiad blynyddol, yn cofnodi ‘ciplun’ yn unig o’u cynnydd.

Sylweddolom nad oedd yr adolygiadau’n dal safbwynt y disgybl, ei rieni neu ei ofalwyr, yn ystyrlon, nac yn dal safbwyntiau’r partneriaid strategol allweddol sy’n gweithio’n agos gyda’r disgyblion yn yr ysgol. Felly, gofynnom i ddau gynorthwyydd addysgu lefel uwch wneud ymchwil i botensial amrywiol fodelau. Aethom ati i fabwysiadu Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar Unigolion, gan mai dyma oedd y model mwyaf priodol i’n hanghenion ni. Darparom hyfforddiant ysgol gyfan ar sut byddem ni’n defnyddio’r model hwn.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Roedd ein gwelliannau cychwynnol i’r broses adolygu yn llwyddiannus. Fodd bynnag, wrth i ni ennill mwy o brofiad o’r fethodoleg hon, sylweddolom y gallem wneud defnydd gwell fyth o gynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion petai’n dod yn elfen gynhenid o’n holl waith yn yr ysgol. Gyda hyn mewn golwg, datblygom gynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion fel llinyn canolog yn yr holl weithgareddau cynllunio ac adolygu yn yr ysgol, fel bod llwybrau disgyblion unigol wedi’u cynllunio gan ddefnyddio’r fframwaith hwn.

Gydag amser, datblygodd yr un fethodoleg yn sylfaen sy’n llywio adolygiadau proffesiynol staff.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Mae ein dull ysgol gyfan o gynllunio sy’n canolbwyntio ar unigolion wedi newid y ddarpariaeth yn Crownbridge yn sylfaenol. Mae hyn oherwydd ein bod ni nawr yn dechrau’r holl waith o gynllunio darpariaeth unigol trwy gael gwybodaeth gan ddisgyblion, eu rhieni a’r amrywiaeth eang o bartneriaid sy’n ymwneud â nhw.

Rydym yn gwrando ar y bobl eraill sy’n adnabod ein disgyblion ac mae hyn yn ein helpu i ddeall eu diddordebau’n well, a’r hyn sy’n eu symbylu. Rydym wedi sylweddoli mai’r darlun cyfoethog, sy’n datblygu’n gyson, o’r hyn sy’n ‘bwysig i’ ac yn ‘bwysig ar gyfer’ y disgybl, a ‘beth sy’n mgweithio’ a ‘beth sydd ddim yn gweithio’, yw’r sylfaen fwyaf defnyddiol ar gyfer cynllunio llwybrau a rhaglenni unigol.

Erbyn hyn, pan fyddwn ni’n cynllunio ar gyfer anghenion disgyblion, mae gennym wybodaeth lawer ehangach amdanynt. Mae ein gwybodaeth well yn llywio cynllunio ac ymyriadau byrdymor a thymor canol, gan gynnwys cynllunio amserlenni. Bellach, mae gennym wybodaeth o ansawdd da am arddulliau a phrofiadau dysgu disgyblion unigol ac rydym yn ei hystyried er mwyn cynnig darpariaeth gwricwlaidd gytbwys. Mae’r dull ansoddol hwn, ar y cyd â defnydd effeithiol o wybodaeth feintiol am fedrau llythrennedd a rhifedd disgyblion, yn golygu y bydd bron pob disgybl yn gwneud cynnydd rhagorol o ran cyrraedd targedau cytûn.

Rydym yn darparu tystiolaeth o’r gwelliant hwn ym mherfformiad disgyblion trwy fonitro ac arfarnu’n drylwyr ddata ar gyrhaeddiad disgyblion mewn ‘medrau allweddol’. Rydym hefyd yn cynnal arolygon i gael barn rhieni a phartneriaid eraill sy’n gweithio gyda’n disgyblion.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae gan bob disgybl yn yr ysgol ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Mae eu hanghenion yn cynnwys anawsterau dysgu difrifol a chymedrol, anhwylder y sbectrwm awtistig, anawsterau ymddygiad emosiynol a chymdeithasol, yn ogystal ag anhwylderau genetig amrywiol, anawsterau synhwyraidd ac ymddygiadau heriol a chymhleth.

Mae gan yr ysgol bum adran, sef: iau, canol, uwch, cymorth ymddygiad / adran awtistiaeth a’r adran byw yn annibynnol.

Mae Ysgol St Christopher yn rhoi pwyslais penodol ar ymestyn y cyfleoedd i ddisgyblion 14-19 oed ennill cymwysterau academaidd a galwedigaethol priodol. O ganlyniad, mae diwylliant wedi datblygu lle mae disgyblion yn disgwyl sefyll arholiadau ac ennill achrediad am eu dysgu.

Mae’r ysgol yn darparu ystod eithriadol o gyrsiau galwedigaethol achrededig i helpu disgyblion i gyflawni eu llwyr botensial a’u paratoi’n effeithiol i symud ymlaen i’r cam nesaf ar eu llwybr dysgu. Mae nifer o gyfleusterau menter, gan gynnwys Canolfan Eco’r Mileniwm, salonau harddwch, siopau manwerthu, man glanhau ceir, canolfan magu anifeiliaid, caffis a busnes torri coed.

Mae gan Ysgol St Christopher bartneriaethau rhagorol gydag ysgolion prif ffrwd, colegau addysg bellach a phartneriaid busnes lleol. Mae disgyblion o ysgolion uwchradd prif ffrwd yn Wrecsam yn mynychu’r ddarpariaeth alwedigaethol hefyd.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi datblygu’r rhaglen opsiynau 14-19 oed. Mae hyn yn galluogi disgyblion i adeiladu ar eu cyflawniadau dros eu cyfnod yn yr ysgol. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyrsiau lefel cyn mynediad, lefel mynediad TGAU lefel 1 a lefel 2 gan ystod o gyrff dyfarnu.

Mae asesiadau trylwyr disgyblion unigol yn nodi cryfderau a meysydd angen disgyblion yn gywir. Caiff hyn ei ategu gan gymorth effeithiol gan staff i helpu disgyblion i ddewis opsiynau sy’n arwain at gymwysterau sydd eu hangen ar gyfer y cam nesaf yn eu llwybr dysgu. O’r herwydd, mae disgyblion yn symud ymlaen i gyrsiau ar lefel uwch neu’n cael profiadau ychwanegol ac yn ennill cymwysterau ychwanegol ar yr un lefel.

Mae dadansoddi data cymwysterau yn drylwyr ar gyfer pob plentyn yn llywio cynllunio’r cwricwlwm ar gyfer y dyfodol yn yr ysgol. Mae rheoli perfformiad staff yn cynnwys targedau staff unigol sy’n gysylltiedig â gwelliannau penodol yng nghyflawniadau disgyblion. O ganlyniad, mae’r ysgol yn hynod effeithiol o ran darparu profiadau dysgu sy’n bodloni anghenion disgyblion.

Fel rhan o’r bartneriaeth dysgu 14-19 gyda phob ysgol uwchradd yn Wrecsam, mae’r ysgol wedi bod yn allweddol mewn datblygu rhaglen cysylltiadau â cholegau ‘Cyfoethogi’ (‘Enrichment’). Mae’r ysgol, fel cydlynydd y rhaglen hon, yn galluogi bron i dri chant o ddisgyblion, gan gynnwys cant o Ysgol St Christopher, fynychu colegau lleol. Mae gan bob disgybl gynllun partneriaeth dysgu blynyddol.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

Dros y tair blynedd diwethaf, mae bron pob disgybl wedi symud ymlaen i gyrsiau coleg, darpariaeth ddydd arbenigol neu swydd. Mewn perthynas â’u hanghenion canfyddadwy, mae’r disgyblion hyn wedi gwneud cynnydd rhagorol o ran ennill ystod eang o gymwysterau cydnabyddedig erbyn iddynt adael yr ysgol.

Mae’r rhaglen opsiynau galwedigaethol wedi ysbrydoli a chymell disgyblion i barhau i ddysgu ar ôl Blwyddyn 11.

O’r herwydd, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth gliriach o fyd gwaith a phrofiad o ystod eang o leoliadau. Mae disgyblion sy’n llai abl yn cael sesiynau ‘rhagflas’ gwerthfawr yn narpariaethau menter amrywiol yr ysgol.

Mae canran disgyblion Blwyddyn 11 sy’n ennill cymwysterau ac achrediad am eu dysgu, sef 98%, yn uchel iawn. Mae bron pob un o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn dilyn cymwysterau lefel mynediad gan gynnwys mathemateg, gwyddoniaeth, Saesneg a TGCh. Pan fydd yn briodol, mae disgyblion yn trosglwyddo i gyrsiau TGAU.

Mae bron pob un o’r disgyblion, sef 99%, yn gadael Blwyddyn 14 Ysgol St Christopher gyda chymwysterau neu achrediad am eu dysgu.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Agorodd Trinity Fields School and Resource Centre ym 1998. Mae gan ddisgyblion amrywiaeth o anawsterau dysgu, gan gynnwys anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, anawsterau dwys a lluosog, anghenion meddygol sylweddol a syndromau perthynol, namau ar y synhwyrau, anhwylderau cyfathrebu, problemau emosiynol neu anawsterau corfforol.

Mae’r ganolfan adnoddau yn darparu gwasanaethau yn yr ysgol, y gymuned ac yn y cartref i blant, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Yr amcanion allweddol yw:
• datblygu gweithgareddau hamdden;
• hybu cynhwysiant;
• gwella’r trefniadau ar gyfer pontio o’r ysgol i wasanaethau oedolion; a
• hwyluso cydweithio da rhwng asiantaethau sy’n darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau, a’u teuluoedd.

Galluogodd cyllid o £8.8 miliwn gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd i wasanaethau canolfannau adnoddau gael eu datblygu ymhellach ar draws naw awdurdod lleol yn ne Cymru. Nodweddion allweddol y model cyflwyno Cyfleoedd Gwirioneddol yw cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chymorth mentor cymheiriaid. Mae pum llwybr rhyngddibynnol yn y pontio i oedolaeth wrth graidd y model. Y llwybrau hyn yw dysgu gydol oes, perthnasoedd, cyfleoedd hamdden, cyflogaeth a byw’n annibynnol.

Galluogodd sefydlu dogfennau, gweithdrefnau a strwythurau staffio unedig i wasanaeth cydlynol gael ei gyflwyno ar draws y naw awdurdod lleol. Datblygwyd cyrsiau achrededig Agored Cymru i fodloni anghenion pobl ifanc a’u rhieni a’u gofalwyr, yn ogystal â chyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi i staff. Mae gweithlyfrau cwrs a deunyddiau cysylltiedig, y cawsant eu treialu a’u hadolygu yng Nghaerffili, yn sicrhau eu bod yn effeithiol cyn eu dosbarthu i awdurdodau eraill.

Natur strategaeth neu weithgaredd a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae ‘Cyfleoedd Gwirioneddol’ yn mynd i’r afael â’r bwlch mewn cymorth i bobl ifanc 14-19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, ac anhwylderau ar y sbectrwm awtistig sy’n pontio rhwng addysgu amser llawn a chyflogaeth. Mae tîm amlddisgyblaeth o staff ym mhob awdurdod yn gweithio gydag asiantaethau eraill, rhieni/gofalwyr a phobl ifanc i gynnig pecyn personol o gynllunio a chymorth ar gyfer pontio. Y nod yw dileu’r rhwystrau sy’n atal y bobl ifanc hyn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd trwy wella’u medrau a chodi eu dyheadau. Trwy broses gyfeirio ac asesu integredig, gall pobl ifanc ddewis manteisio ar un neu sawl rhan o’r gwasanaeth.

Gan weithio gydag ysgolion, mae ‘Cyfleoedd Gwirioneddol’ yn adeiladu ar ddysgu disgyblion trwy weithgareddau ymarferol sy’n eu cynorthwyo i drosglwyddo medrau i’r cartref ac i’r gymuned leol.

Trwy gyrsiau hyfforddi achrededig a addaswyd i anghenion penodol disgyblion, nod y fenter yw helpu pobl ifanc i ddod mor annibynnol â phosibl.

Mae ystod eang o gyrsiau ar gael, gan gynnwys hyfforddiant teithio, coginio, rheoli arian, gofal/hylendid personol, cadw’n ddiogel, materion yn ymwneud â bwlio, pendantrwydd, rheoli ymddygiad/emosiynau, magu hyder, ffrindiau, hamdden yn y gymuned, cymorth mentor cymheiriaid, a deall rhyw a pherthnasoedd.

Mae’r adran nesaf yn rhoi manylion pellach ynghylch rhai o’r cyrsiau sydd ar gael:

Deall Rhyw a Pherthnasoedd
Galluogodd cydweithio effeithiol gyda phartneriaid o’r bwrdd iechyd lleol a’r gwasanaeth ieuenctid i’r cwrs hwn gael ei ddatblygu a’i gyflwyno. Mae gweithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr yn arbennig o bwysig cyn cyflwyno’r cwrs hwn.

Paratoi ar gyfer Gwaith Achrededig
Yn hanesyddol, canran isel iawn o bobl ifanc sydd ag anabledd dysgu neu anhwylder ar y sbectrwm awtistig sy’n mynd ymlaen i gael gwaith â thâl. Mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn cefnogi cynnwys pobl ifanc ag anawsterau dysgu ag anableddau drwy newid amgyffredion ac arferion cyflogwyr. Mae’n cynorthwyo pobl ifanc, rhieni a gofalwyr i oresgyn eu rhwystrau rhag gweithio a’u pryderon ynghylch gweithio. Mae’r rhaglen yn cynnwys y cyfle i gael profiad o wahanol amgylcheddau gwaith ac mae’n ymdrechu i sicrhau gwaith rhan-amser, â thâl.

Mentora Cymheiriaid
Mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd a darpariaeth ieuenctid, mae gwirfoddolwyr ifanc yn cael hyfforddiant i gynnig cymorth mentor cymheiriaid i bobl ifanc mewn lleoliadau addysg, cymdeithasol a gwaith.

Effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr

O ganlyniad i’r cydweithio agos yn sgil y ‘Rhaglen Cyfleoedd Gwirioneddol’, bu gwelliant mewn cynllunio a chydlynu ar gyfer y bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae gweithio rhagorol mewn partneriaeth yn yr awdurdod ac ar draws awdurdodau, a rhwng cyflogwyr ac asiantaethau gwirfoddol a statudol, cenedlaethol a lleol. Yn ogystal â gweithio effeithiol ar y cyd, caiff digwyddiadau hyfforddi a seminarau rhwydwaith eu trefnu lle gall staff o asiantaethau statudol a gwirfoddol o bob awdurdod ddod ynghyd i rannu profiadau, dysgu dulliau newydd o weithio a hybu arfer dda.

Cyhoeddir e-gylchlythyr misol sy’n cynnwys straeon newyddion da ynghylch cyflawniadau cyfranogwyr ynghyd â materion y dydd a allai fod o ddiddordeb i bobl ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Hefyd, mae gwefan, Facebook a Twitter.

Mae’r gwaith hwn wedi llenwi bwlch a nodwyd mewn darpariaeth yn y naw awdurdod lle mae’n mynd rhagddo. Mae’r Rhaglen Cyfleoedd Gwirioneddol wedi helpu pobl ifanc ag anableddau i ddatblygu eu hannibyniaeth, medrau bywyd a dysgu. O ganlyniad, maent wedi cynyddu eu cylchoedd cyfeillion, eu lles ac wedi ehangu cyfleoedd i fynd i’r coleg, gwneud gwaith gwirfoddol neu gael gwaith â thâl.

Mae Cyfleoedd Gwirioneddol yn cynnal cofnodion a thystiolaeth gynhwysfawr am effaith a chyflawniadau pobl ifanc, gan gynnwys ystadegau ac astudiaethau achos. Er enghraifft, ar gyfer y cyfnod o Fedi 2010 i Dachwedd 2012:

• Nifer y bobl ifanc anabl a gafodd dystysgrif cymhwyster – 414
(Mae llawer mwy yn mynd drwy’r broses wirio ar hyn o bryd)
• Nifer y bobl ifanc anabl a fynychodd y cwrs achrededig ar Ryw a Pherthnasoedd – 151
• Nifer yr unedau achrededig a gyflwynwyd – 2036
(Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn cyflawni unedau lluosog)
• Nifer y bobl ifanc anabl sy’n cael gwaith â thâl – 23
• Nifer y bobl ifanc anabl sy’n cymryd rhan mewn gwaith pontio – 708
• Nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn cynhwysiant ieuenctid – 365
• Nifer y bobl ifanc a gymerodd ran yn y cwrs achrededig ar fentora cymheiriaid – 794

Yn ogystal â chomisiynu ei ymchwil a’i werthusiad allanol ei hun, mae’r prosiect yn cymryd rhan mewn tair astudiaeth genedlaethol, un ar weithio allweddol ynghylch pontio, un arall ar ddarpariaeth ôl-16 i bobl ifanc ag anableddau dysgu dwys a lluosog a’r trydydd ar ddeilliannau cyflogaeth i bobl ifanc ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.