Arfer effeithiol Archives - Page 62 of 70 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Bryn Deva wedi’i lleoli yng Nghei Connah yn Sir y Flint.  Mae gan yr ysgol 273 o ddisgyblion rhwng tair ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 30 sy’n mynychu’r feithrinfa’n rhan-amser.  Mae 10 dosbarth, gan gynnwys naw dosbarth oedran cymysg.

Gwyn yw ethnigrwydd bron pob un o’r disgyblion.  Mae tua 15% o’r disgyblion yn newydd i’r iaith Saesneg.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n dod o deuluoedd Cymraeg eu hiaith.  Mae’r ysgol wedi nodi bod anghenion dysgu ychwanegol gan oddeutu 34% o ddisgyblion a bod oddeutu 26% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Bryn Deva yn cynnal nifer o raglenni hynod effeithiol wedi’u hanelu at wella gofal, cymorth ac arweiniad, a chyfoethogi lles disgyblion.  Mae’r ysgol wedi datblygu’r rhain trwy weithio’n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid allanol.  Mae dwy fenter gyferbyniol yn benodol wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar les a safonau cyrhaeddiad disgyblion.  Y rhain yw ‘Clwb Seren Bach’, sef grŵp anogaeth yr ysgol, a ‘Chyffwrdd â’r Nen’, sef prosiect wedi’i anelu at wella ffitrwydd a threchu tlodi trwy fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant.

Mae gwerthoedd craidd yr ysgol yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn meithrin pob plentyn fel unigolyn ac yn datblygu ymagwedd gynhwysol trwy groesawu rhieni, timau ehangach o weithwyr proffesiynol a’r gymuned leol yn bartneriaid mewn ‘dysgu gyda’n gilydd, am byth’ (‘learning together, forever’ – arwyddair yr ysgol).  Mae’r ysgol yn canolbwyntio’n gryf ar gynyddu cyfleoedd disgyblion mewn bywyd trwy wella’u lles a’u safonau cyrhaeddiad. 

Disgrifiad o natur y strategaeth a’r gweithgarwch a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae’r ysgol wedi anelu at gynyddu lles a safonau cyrhaeddiad disgyblion trwy ddatblygu amrywiaeth o fentrau ar y cyd â nifer o bartneriaid cymunedol.  Mae staff sy’n gweithio ar amrywiol lefelau yn yr ysgol yn arwain y prosiectau hyn ac mae’r uwch dîm arwain yn eu monitro.  Mae’r ddwy fenter wrthgyferbyniol iawn hyn wedi cael effaith sylweddol ar safonau lles a chyrhaeddiad disgyblion.

Sefydlodd yr ysgol ‘Clwb Seren Bach’, ei darpariaeth anogaeth, er mwyn gwella perfformiad academaidd a chymdeithasol disgyblion penodol yn y Cyfnod Sylfaen a oedd yn cael trafferth ymdopi mewn lleoliadau dosbarth cyfan.  Mae tri aelod staff sydd wedi cael hyfforddiant priodol yn rhedeg y prosiect, sy’n cael ei ariannu drwy Grant Amddifadedd Disgyblion yr ysgol.  Mae gan y ddarpariaeth ei hystafell fechan ei hun ar gyfer ymyrraeth grŵp, sy’n hynod ysgogol yn weledol ac sydd ag adnoddau da.  Dyma ymyrraeth fyrdymor, gynhwysol, gyda ffocws clir.  Fodd bynnag, ei nod yw cael effaith hirdymor ar wella hyder disgyblion.  Wrth i ddisgyblion ddechrau yn ‘Clwb Seren Bach’, mae staff yn asesu eu medrau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol.  Mae’r disgyblion yn parhau’n aelodau gweithgar o’u dosbarthiadau eu hunain, ond yn mynychu’r grŵp anogaeth am ddau i bedwar tymor.  Mae staff yn ailasesu eu hanghenion bob tymor.  Mae trefn pob sesiwn anogaeth yn dibynnu ar anghenion unigol y disgyblion.  Fodd bynnag, rhan bwysig o bob sesiwn yw’r pryd bwyd y mae’r disgyblion yn ei rannu, sy’n rhoi cyfle o ansawdd uchel iddynt am ddysgu cymdeithasol a chyfle i ddatblygu perthnasoedd lle y maent yn ymddiried mewn eraill yn y grŵp.  Mae’r ysgol yn gwahodd rhieni’r disgyblion yn y grŵp anogaeth i fore coffi gyda’u plant bob chwe wythnos. 

Mae data olrhain yr ysgol yn dangos bod y fenter yn hynod effeithiol a bod medrau disgyblion yn gwella’n gyflym iawn.  Mae disgyblion yng nghyfnod allweddol 2, a arferai fynychu’r grŵp, yn cael ‘tocyn anogaeth’ rhag ofn y byddant yn teimlo bod angen iddynt ail-fynychu.  Anaml iawn y byddant yn ei ddefnyddio, ac mae safonau ymddygiad ar draws cyfnod allweddol 2 yn gyson dda.

Sefydlodd yr ysgol ‘Cyffwrdd â’r Nen’, sef ei menter iechyd a ffitrwydd, i wella lles a chyrhaeddiad academaidd yr holl ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2.  Roedd yr ysgol a’r awdurdod lleol (trwy ddata arolwg) ill dau wedi nodi bod lleiafrif o ddisgyblion dros eu pwysau a bod llawer ohonynt yn cael trafferth â’u ffitrwydd, o gymharu â’u cyfoedion mewn lleoliadau eraill.  Roedd gwella hyn yn hollbwysig ar gyfer gwella cyfleoedd y disgyblion hyn mewn bywyd.  Mae dau aelod staff yn arwain y prosiect, y mae pob ymarferwr yn y cyfnod allweddol yn ei redeg.  Ni fu unrhyw gostau ariannol arwyddocaol ynghlwm wrth redeg y rhaglen.  Mae’r holl ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd, gan gynnwys y ‘clwb 100 milltir’, lle bydd disgyblion yn rhedeg lapiau o’r ardal chwarae yn ddyddiol.  Ynghyd ag amrywiol gymhellion eraill, mae hyn yn arwain at wobr aur i ddisgyblion sy’n cwblhau 100 milltir o lapiau.  Trwy weithio ar y cyd â phrifysgol leol, mae staff yn meincnodi ffitrwydd disgyblion ar ddechrau’r prosiect ac eto bob dau dymor.  Mae rhieni wedi cymryd rhan mewn gweithdai coginio iach, sy’n eu helpu i gefnogi eu plant yn effeithiol.  Mae dysgu disgyblion ar draws y cwricwlwm wedi canolbwyntio ar ddatblygu ffitrwydd a phwysigrwydd byw’n iach.  Mae disgyblion sy’n gwneud y gwelliannau mwyaf yn eu ffitrwydd yn cael cerdded i fyny’r Wyddfa fel gwobr.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr

Mae’r holl ddisgyblion sy’n cymryd rhan yn y ddarpariaeth anogaeth wedi gwneud gwelliannau da iawn yn eu medrau cymdeithasol ac emosiynol.  Hefyd, fe wnaeth yr holl ddisgyblion gynnydd mewn asesiadau cenedlaethol, sy’n sylweddol uwch na’r hyn a ddisgwylir (o gymharu â’r targedau a osodwyd ar eu cyfer yn y flwyddyn dderbyn).  Cyflawnodd 60 y cant o’r disgyblion hyn ddangosydd y Cyfnod Sylfaen.  Mae rhieni disgyblion yn y ddarpariaeth anogaeth yn chwarae mwy o ran mewn dysgu eu plentyn ac yn teimlo’n fwy cadarnhaol ynghylch eu gallu eu hunain fel rhieni.  Fe wnaeth athrawon ar draws y Cyfnod Sylfaen adrodd bod ymddygiad ac ymgysylltiad yn well ar draws eu dosbarthiadau. 

Mae athrawon yng nghyfnod allweddol 2 wedi nodi gwelliannau cryf o ran canolbwyntio ac ymgysylltiad gan ddisgyblion mewn gwersi yn syth ar ôl y sesiynau ffitrwydd.  Roedd tri chwarter y disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 wedi gwella’u sgorau ffitrwydd yn helaeth mewn dau dymor.  Yn ogystal, dangosodd canran tebyg welliant yn eu sgorau craidd yn y profion rhifedd cenedlaethol.  Disgyblion ym Mlwyddyn 3 ddangosodd y cynnydd mwyaf yn eu stamina.  Y grŵp hwn hefyd ddangosodd y cynnydd mwyaf yn eu sgorau craidd ar gyfer eu profion rhifedd gweithdrefnol a rhesymu.  Yn ogystal, nododd athrawon yng nghyfnod allweddol 2 fod disgyblion yn ymgysylltu’n llawer gwell â’u gwersi pan oeddent yn dysgu am bynciau ffitrwydd iechyd.  Mae presenoldeb wedi gwella 0.9% mewn blwyddyn academaidd ers rhoi’r prosiect ar waith yng nghyfnod allweddol 2.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi cefnogi llawer o athrawon o amrywiol leoliadau ac ymarferwyr eraill, fel staff yr awdurdod lleol, trwy eu mentora a chynnig ymweliadau tywysedig iddynt â ‘Clwb Seren Bach’. 

Mae chwe ysgol, gan gynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, ac un brifysgol yng ngogledd Cymru wedi cymryd rhan mewn cynllunio prosiect ‘Cyffwrdd â’r Nen’ a’i roi ar waith yn Ysgol Bryn Deva.  Mae’r ysgol wedi rhannu ei llwyddiant trwy gyfarfodydd penaethiaid.  Yn ogystal, mae wedi defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r wasg leol yn helaeth i roi cyhoeddusrwydd i erthyglau rheolaidd am y ddarpariaeth anogaeth a’r prosiect ffitrwydd.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maesglas yn Greenfield, Sir y Fflint.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn byw yn lleol.  Ar hyn o bryd, mae 249 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol, gan gynnwys 32 disgybl yn y dosbarth meithrin, sy’n mynychu’n rhan-amser.  Mae’r ysgol yn derbyn disgyblion i’r dosbarth meithrin yn dair oed.  Mae 10 dosbarth.  Mae gan yr ysgol ddarpariaeth canolfan adnoddau ar gyfer 10 disgybl ar draws yr awdurdod lleol.  Mae gan y disgyblion anawsterau ymddygiadol, cymdeithasol neu emosiynol.  Mae tua 27% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  

Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 28% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan rai disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Saesneg yw prif iaith cartref y rhan fwyaf o’r disgyblion.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o gefndir ethnig lleiafrifol, yn defnyddio’r Gymraeg fel eu mamiaith neu’n cael cymorth ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol. 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Cyn 2014, nododd yr ysgol nad oedd y berthynas â rhieni a’r gymuned yn effeithiol o ran gwella deilliannau disgyblion.  Roedd lefelau cyfranogiad ac ymgysylltiad cyffredinol ym mywyd yr ysgol yn isel.  Roedd y cymorth yr oedd yr ysgol yn ei gynnig i deuluoedd yn gyfyngedig hefyd.  Nid oedd unrhyw systemau effeithiol ar waith i ddatblygu gweithio mewn partneriaeth.  O ganlyniad, cafwyd problemau â phresenoldeb, prydlondeb, ymddygiadau negyddol, cyrhaeddiad isel a diffyg cefnogaeth i’r ysgol gan y gymuned.

Penododd yr ysgol Weithiwr Cymorth i Deuluoedd yn Chwefror 2015, i wella’r broblem hon.  Cynhaliodd arweinwyr archwiliad, a amlygodd fod dros 50% o rieni wedi dweud nad oedd yr ysgol yn eu helpu i ddysgu pethau newydd ac ennill cymwysterau.  Cyfyngedig oedd y cyfleoedd i rieni ddysgu â’u plentyn yn ystod y diwrnod ysgol hefyd. 

Dros y 18 mis diwethaf, mae’r ysgol wedi gweithio’n ddiflino i gael gwared ar rai o’r rhwystrau hynny a gwella’r berthynas rhwng y cartref a’r ysgol.  Caiff cymorth, gofal ac arweiniad i deuluoedd eu hymgorffori yn ethos Maesglas erbyn hyn.  Ceir dull ysgol gyfan pwrpasol i hyrwyddo ymgysylltu â theuluoedd erbyn hyn. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r ysgol yn credu mewn cynnig dull cyfannol, gan ddarparu cymorth arbenigol a theilwredig i deuluoedd ar sail un i un.  Cynhelir cyfarfodydd yng nghartref y teulu, yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.  Rhoddir cymorth ac arweiniad ar y canlynol:

  • tai a bywyd gartref
  • lles iechyd corfforol a meddyliol
  • cymorth ariannol a rheoli dyled
  • perthnasoedd ac ymddygiadau
  • addysg a dysgu

Mae’r ysgol yn strwythuro’r cymorth hwn yn glir ar gyfer teuluoedd.  Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod bod angen bod yn ymatebol oherwydd natur y gymuned.  Mae gan staff berthnasoedd rhagorol â gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys sefydliadau o iechyd, lles a chyllid. 

Mae Ysgol Maesglas wedi dod yn rhan bwysig o Greenfield erbyn hyn.  Mae’n cynnig cyrsiau a gweithgareddau i’r gymuned gyfan, gan gynnwys Undeb Credyd, Cwmni Bwyd Cydweithredol a Medrau Sylfaenol.  Mae Dysgu Teuluol wedi dod yn un o’r pethau y mae’n canolbwyntio arno, ac yn cynnig amrywiaeth eang o sesiynau trwy gydol y flwyddyn.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae gwaith y tîm cymorth i deuluoedd wedi gwella’r berthynas â’r gymuned ehangach a lefelau ymgysylltu â theuluoedd yn sylweddol.  Caiff hyn effaith nodedig ar wella lles disgyblion a’u cyfranogiad gweithredol mewn dysgu. Mae’r ysgol yn mesur effaith ei chymorth teilwredig i rieni ac aelodau o’r teulu trwy fonitro effaith.  Mae’n mesur:

  • nifer y cyfeiriadau llwyddiannus
  • yr effaith ar yr unigolyn a’i deulu/theulu
  • lefelau presenoldeb, prydlondeb a hyder

Mae arweinwyr yn gwybod bod yr ymyriadau cymorth i deuluoedd yn gwella bywydau ar gyfer y disgyblion a’u teuluoedd.  Cânt effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles.  Trwy gydweithio a rhoi strategaethau unigol ar waith, mae’r ysgol yn cynorthwyo dros 50 o deuluoedd ar hyn o bryd, pob un â’i faes angen ei hun.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae Cymorth i Deuluoedd Maesglas wedi rhoi cyflwyniadau mewn cynadleddau yng Nghaerdydd a Wrecsam i dros 180 o gynrychiolwyr o ysgolion a gwasanaethau o bob cwr o Gymru.  Mae wedi cynnal gweithdai sy’n amlygu’r arfer a’r strategaethau effeithiol a ddefnyddir i wella deilliannau disgyblion ymhellach. 

Mae gan Maesglas rôl allweddol yng nghyfarfodydd rhwydwaith Cymorth i Deuluoedd Sir y Fflint.  Mae staff o leoliadau eraill yn cysylltu â’r ysgol yn rheolaidd i gael cymorth ac arweiniad mewn perthynas â’r rôl cymorth i deuluoedd.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Mae ganddi 255 o ddisgyblion, y mae 80% ohonynt yn Gatholigion sydd wedi cael eu bedyddio.  Mae gan yr ysgol ddalgylch eang ac mae’n gwasanaethu teuluoedd o’r amrediad economaidd gymdeithasol lawn.  Ar hyn o bryd, mae Saesneg yn iaith ychwanegol (SIY) i 41% o’i disgyblion ac mae 45% o ddisgyblion o ystod eang o leiafrifoedd ethnig.  Mae’r ysgol yn Ysgol Meddwl Datblygedig ac yn un o Ysgolion Arloesi Llywodraeth Cymru, sy’n gweithio i ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Er 2008, mae’r ysgol wedi datblygu dull ‘Adeiladu Pŵer Dysgu’ (BLP) o addysgu a dysgu ac mae gan yr athroniaeth hon ffocws cryf yn ei bywyd a’i gwaith.  Mae wedi sefydlu partneriaeth gyda Phrifysgol Caerwysg yn 2012 – gan arwain at achrediad fel Ysgol Meddwl Datblygedig yn 2014.  Mae Ysgol y Santes Fair yn cyfrannu at waith ymchwil y brifysgol ym maes datblygiad gwybyddol erbyn hyn.  Mae’n gweithio yn unol â chysyniad ‘dysgu deialogaidd’ ar hyn o bryd.  Mae hyn yn nodi arfer orau mewn perthynas ag addysgu a dysgu a’r modd y gall rhyngweithio llafar dysgwyr wneud gwahaniaeth sylweddol i ddeilliannau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Dechreuodd cymuned gyfan yr ysgol sefydlu’r bartneriaeth â Phrifysgol Caerwysg yn 2010.  Aeth ati i weithio tuag at fodloni meini prawf y brifysgol ar gyfer statws Ysgol Meddwl ar unwaith – gan ennill y statws hwn yn 2012.  Parhaodd y gwaith hwn, ac yn 2014, daeth Ysgol y Santes Fair yn Ysgol Meddwl Datblygedig.  Disgrifiodd y brifysgol waith yr ysgol fel ‘enghraifft wych o ddatblygiad gwybyddol’.

Trwy gydol y broses, nododd yr ysgol unigolyn strategol arweiniol o’i thîm arweinyddiaeth i sicrhau bod cymuned yr ysgol yn parhau i ganolbwyntio ar y gwaith hwn.

Dros gyfnod o sawl blwyddyn, cyflwynodd yr ysgol nifer o strategaethau datblygiad gwybyddol ar gyfer disgyblion o bob oedran hefyd.  Adeiladu Pŵer Dysgu oedd yr athroniaeth sbardunol trwy gydol hyn.  Datblygwyd y strategaethau canlynol trwy HMS o ansawdd uchel (nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr):

  • Mapiau Meddwl: maent yn galluogi disgyblion i gysylltu’r mapiau â mapiau meddwl penodol fel dosbarthu a dod o hyd i analogau.  Mae’n galluogi disgyblion i sefydlu strwythurau clir yn eu hysgrifennu.  Mae disgyblion yn defnyddio’r mapiau ar draws y cwricwlwm.  Mae staff yn eu hannog i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch pa rai i’w defnyddio a phryd i’w defnyddio.
  • Tacsonomi Bloom: mae’n nodi hierarchaeth o ffyrdd o ddysgu.  Mae’r gwaith hwn yn annog disgyblion i fyfyrio’n fanylach ar eu dysgu.  Maent hefyd yn sylweddoli bod dysgu ynglŷn â mwy na dim ond cofio ac ailadrodd gwybodaeth.  Ar ddechrau gweithgareddau dysgu, mae disgyblion yn nodi cyfleoedd i ddadansoddi gwybodaeth a chreu rhywbeth newydd.  Mae’r dull hwn yn cynyddu manylder eu dysgu yn fawr.
  • Hetiau Meddwl De Bono: mae defnyddio’r hetiau hyn ar draws y cwricwlwm wedi galluogi disgyblion i ddysgu am ystod eang o ddulliau meddwl.  Yn ychwanegol, mae disgyblion yn defnyddio’r hetiau ar gyfer hunanasesu ac asesu cyfoedion o safbwynt penodol fel edrych ar brosesau, problemau posibl neu o ongl gwbl ffeithiol.
  • Dysgu Deialogaidd: mae gwaith ymchwil yn parhau (mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerwysg) yn archwilio ffyrdd y gall deialog o ansawdd uchel gael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau.  Mae disgyblion wedi datblygu ‘Cod ar gyfer Dysgu Deialogaidd’.  Mae hyn yn nodi ffyrdd o feddwl yn effeithiol (meddwl gofalgar, meddwl cydweithredol, meddwl beirniadol a meddwl creadigol) wrth siarad â chyfoedion a staff.  Mae’r gwaith hwn yn parhau ac mae ganddo’r potensial i gael effaith sylweddol ar safonau.

Mae’r holl strategaethau y cyfeirir atynt uchod ar waith ar draws yr ysgol gyfan.  O ganlyniad, mae iaith ddysgu gyffredin ar waith drwyddi draw.  Erbyn i ddisgyblion gwblhau cyfnod allweddol 2, mae llawer ohonynt yn ddysgwyr aeddfed a soffistigedig.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae prosesau monitro’r ysgol yn dangos bod cyfradd cynnydd disgyblion wrth iddynt symud trwy’r ysgol yn drawsffurfiannol. 

Wrth iddynt ddechrau yn y Cyfnod Sylfaen, mae gan 17% o ddisgyblion lefelau isel o Saesneg a 76% o ddisgyblion yn unig sy’n gweithredu ar lefelau disgwyliedig mewn llythrennedd a rhifedd (cymedr dros y 2 flynedd ddiwethaf).  Ar ddiwedd cyfnod allweddol 2, mae 98% yn cyflawni’r lefelau disgwyliedig o leiaf. 

Mae partneriaethau strategol yr ysgol wedi cyfrannu’n sylweddol at y dull Adeiladu Pŵer Dysgu, ac wedi ei wella’n fawr.  Mae disgyblion yn datblygu dull dadansoddol cynyddol o ddysgu wrth iddynt aeddfedu.  Mae’r ysgol wedi cynllunio ei system olrhain ei hun, sy’n canolbwyntio’n dda ar dueddiadau allweddol dysgu. 

Mae dadansoddi cynnydd yn dangos bod disgyblion yn datblygu eu medrau meddwl mewn dull chwilfrydig ac ymholgar o ddysgu yn gyflym.  Mae i’r agwedd hon fanteision ar draws y cwricwlwm cyfan.  Yn ychwanegol, mae medrau maes sy’n benodol i bwnc wedi datblygu’n gyflym hefyd. 

Mewn datrys problemau mathemategol, er enghraifft, mae disgyblion yn dangos medrau rhesymu sy’n gwella’n gyflym.  O ganlyniad, mae sgorau crai a safonedig cymedrig disgyblion yn y Prawf Rhesymu Cenedlaethol blynyddol wedi codi’n sylweddol dros y tair blynedd ddiwethaf.  Mae ansawdd ysgrifennu ffeithiol ac ysgrifennu adroddiadau disgyblion wedi gwella hefyd, yn sgil y strwythur a ddarperir gan ystod y Mapiau Meddwl a ddefnyddir yn gyson ar draws yr ysgol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae arweinwyr wedi cymryd rhan mewn ystod o ddigwyddiadau i ledaenu gwaith datblygiad gwybyddol yr ysgol ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De ac ar gyfer ei bartneriaid ysgol clwstwr.

Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos ag ‘Ysgolion Meddwl’ eraill ar thema gyfatebol.  Mae rhai o’r rhain o Dde Cymru ac un o Dde Affrica.  Mae Ysgol y Santes Fair yn ‘Ysgol Ymarferwr Arweiniol’ ac mae wedi rhannu arfer dda gyda’i phartner ‘Ysgolion Datblygol’ yn y maes hwn yn effeithiol iawn.

Mae nifer o gydweithwyr sy’n addysgu wedi bod ar ymweliadau anffurfiol i gael gwybod am ddull Adeiladu Pŵer Dysgu a’i effaith ar fedrau meddwl disgyblion a datblygiad gwybyddol cyffredinol.  Mae croeso mawr i’r ymweliadau hyn gan eu bod yn rhoi cyfleoedd i staff fyfyrio’n barhaus ar eu harfer a’i mireinio.

 

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Brackla ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Ar hyn o bryd, mae 309 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr.  Mae gan yr ysgol gyfanswm o 10 dosbarth, gan gynnwys pum dosbarth oedran cymysg. 

Mae tuag 21% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n cyd-fynd â’r cyfartaledd cenedlaethol (20%).  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 24% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd eto’n cyd-fynd â’r cyfartaledd cenedlaethol (25%).  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.  Mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Yn 2012, fe wnaeth Ysgol Gynradd Brackla weithio gyda’r clwstwr lleol o ysgolion i gyflogi Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd.  I ddechrau, llwyddodd hyn i ddatblygu cyfleoedd i deuluoedd gefnogi eu plant.  Fodd bynnag, gan fod y Swyddog yn gweithio mewn chwe ysgol, roedd yr amser a dreuliwyd ym mhob ysgol yn gyfyngedig.  Felly, yn 2014, fe wnaeth yr ysgol ryddhau goruchwyliwr cyflenwi am ddiwrnod yr wythnos i helpu i ddatblygu’r rôl ymhellach.  Roedd hyn yn golygu y gallai’r ysgol gyflwyno rhai rhaglenni ychwanegol, fel gwerthoedd teuluol, dysgu teuluol, dysgu a chwarae yn yr awyr agored, caffis rhyngwladol a Chymraeg a Chwarae.  Yn 2015, penododd Brackla ei Swyddog rhan-amser ei hun i ymestyn ac ehangu’r bartneriaeth effeithiol rhwng teuluoedd, gyda ffocws penodol ar helpu rhieni i gefnogi a gwella dysgu eu plant ymhellach.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

F@B: Families at Brackla

Rhan o weledigaeth yr ysgol yw meithrin partneriaethau, lle y mae teuluoedd (rhieni, gofalwyr, neiniau a theidiau, a brodyr a chwiorydd hŷn) yn bartneriaid allweddol yn y broses ddysgu.  Ym Medi 2015, yn dilyn ymgynghoriadau ag amrywiol randdeiliaid, fe wnaeth yr ysgol ail-lansio ‘Families at Brackla’ (F@B).  Cynlluniodd yr arweinwyr raglen newydd o ddigwyddiadau ar sail blaenoriaethau pawb.  Roedd y rhain yn cynnwys adfywio llawer o’r rhaglenni presennol, gan gynnwys Dysgu Teuluol, y Caffi Darllen, Llythrennedd a Chwarae, a Rhifedd a Chwarae, a chyflwyno mentrau newydd fel ‘Chill and Chat’, sesiynau galw heibio dyddiol, ‘Stay and Play’ i ddisgyblion sy’n destun anogaeth a ‘Family Active Zone’.

Mae amrywiaeth o staff addysgu a staff cymorth yn ymwneud â chynllunio a chyflwyno’r ymyriadau a’r rhaglenni a gynigir, bob un ohonynt wedi cael hyfforddiant penodol.  Mae gweithdai i deuluoedd wedi cynnwys canolbwyntio ar fedrau penodol addysgu darllen a chyfrifo yn y pen.  Datblygodd yr ysgol gysylltiadau â’r coleg lleol i gynnig dosbarthiadau llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac uwch i deuluoedd.

Sefydlodd yr arweinwyr Fforwm i Deuluoedd, gyda’r nod o gynnwys aelodau’r teulu wrth ddylanwadu ar gyfeiriad strategol yr ysgol.  Fe wnaethant gyfarfod bob hanner tymor a chanolbwyntio ar bynciau fel Cynllun Datblygu’r Ysgol, dulliau penodol o addysgu llythrennedd a rhifedd a phrofion cenedlaethol.  Mae hyn wedi arwain at drafodaethau gwell rhwng y cartref a’r ysgol a chynnydd sylweddol mewn presenoldeb yn y gweithdai a gynigir.

Mae’r Swyddog hefyd yn cefnogi teuluoedd targedig, y mae presenoldeb disgyblion o’r teuluoedd yn isel.  Mae hyn yn cynnwys sesiynau galw heibio, trafodaethau ar y ffôn ac wyneb yn wyneb, a gweithio’n agos gyda’r pennaeth a’r Gwasanaeth Lles Addysg.

Mae arweinwyr yn credu’n gryf fod cyfathrebu effeithiol â theuluoedd yn hanfodol er mwyn meithrin perthynas gadarnhaol.  Mae staff yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau i gyfathrebu â theuluoedd, darparu gwybodaeth iddynt, a chydnabod a dathlu bywyd a gwaith yr ysgol.  Mae’r rhain yn cynnwys bwletinau wythnosol, cylchlythyron misol F@B, Twitter, y Life Channel, arwyddion digidol mewnol, hysbysfyrddau allanol, gwefan yr ysgol, negeseuon testun a negeseuon e-bost.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

  • Mae ymgysylltu â theuluoedd yn Ysgol Gynradd Brackla bellach yn strategaeth ysgol gyfan sydd wedi’i hymgorffori’n llawn, gyda bron pob un o’r rhanddeiliaid yn deall ac yn cefnogi gweledigaeth ein hysgol yn effeithiol iawn.  Mae hyn wedi arwain at safonau gwell ar draws yr ysgol.  Er enghraifft, roedd bron pob un o’r disgyblion a fynychodd raglenni llythrennedd a rhifedd gydag aelod o’u teulu wedi gwneud cynnydd gwell na’r disgwyl mewn llythrennedd a rhifedd. 
  • O’r teuluoedd a dargedwyd, mae 82.3% o ddisgyblion wedi cynyddu eu lefelau presenoldeb.
  • Mae cysylltiadau hynod lwyddiannus gyda’r coleg lleol wedi galluogi rhieni i fynychu cyrsiau llythrennedd, rhifedd, Cymraeg ac iaith arwyddion, sydd am ddim i deuluoedd.  Mae’r rhan fwyaf o’r rhain wedi arwain at achrediadau a gwaith.
  • Mae arfarniadau gan deuluoedd wedi dangos eu bod yn teimlo’u bod wedi paratoi’n well i gefnogi eu plant gartref, yn enwedig gyda darllen a gwaith cartref.
  • Mae cyfathrebu effeithiol rhwng y cartref a’r ysgol wedi arwain at well presenoldeb mewn gweithdai coginio, gwersi golff a digwyddiadau ysgol gyfan, fel prynhawniau agored. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Sefydlodd yr ysgol Fforwm Ymgysylltu â Theuluoedd yn Hydref 2015, sy’n caniatáu i Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd rannu arfer orau ar draws yr awdurdod.  Ar hyn o bryd, mae 11 aelod sy’n cyfarfod bob hanner tymor.  Yn ogystal, mae’r ysgol wedi’i chynnwys ar DVD arfer orau’r awdurdod ac mae staff wedi rhoi cyflwyniad mewn cynhadledd Buddsoddwyr mewn Pobl.  Mae cydweithwyr o ysgolion eraill a sefydliadau fel Cymunedau yn Gyntaf a Gweithredu dros Blant wedi ymweld â’r ysgol hefyd.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Birchgrove tua thair milltir i’r gogledd o ganol Caerdydd, yn un o faestrefi prysur y ddinas sydd wedi’i ffinio gan Ysbyty Athrofaol Cymru a ffyrdd yr A48 a’r A470.  Mae’r 412 o ddisgyblion 4 i 11 oed sydd ar y gofrestr yn cael eu haddysgu mewn 14 dosbarth oedran unigol. 

Mae tua 10% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae gan ddeuddeg y cant o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Daw tua 24% o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol, gydag oddeutu 21% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Bedair blynedd yn ôl, roedd perfformiad disgyblion yn Ysgol Gynradd Birchgrove yn dangos tuedd tuag at i lawr.  Roedd canlyniadau diwedd cyfnod allweddol a lefelau presenoldeb yn gostwng.  Rhoddodd penodi pennaeth newydd gyfle i newid. 

Sefydlwyd diwylliant newydd o hunanarfarnu gonest yn cynnwys pob rhanddeiliad.  Yn gysylltiedig â hyn yr oedd system o gynllunio cadarn i wella’r ysgol, gan gynnwys ffocws clir ar addysgu rhagorol, dadansoddi data yn gynhwysfawr a lefelau uwch o atebolrwydd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Y cam cyntaf tuag at wella oedd datblygu dealltwriaeth o sefyllfa’r ysgol ar y pryd.  Mynnodd hyn hunanarfarnu agored a gonest gan yr holl randdeiliaid yn yr ysgol ac ymrwymiad cadarnhaol i wella a sefydlu Birchgrove yn ysgol y gallent fod yn falch ohoni.

O’r sylfaen hon, cyflwynodd arweinwyr amrywiaeth o strategaethau a ddefnyddiwyd mewn ffordd gyson, gyda ffocws.  Gyda’i gilydd, maent yn dangos cryfder cysondeb a’r egwyddor bod ‘y cyfan yn fwy na’i rannau’. Fe wnaethant gynnwys y blaenoriaethau canlynol:

  • Ffocws clir ar wella addysgu.  Cymerodd Ysgol Birchgrove ran yng ngharfan gyntaf Rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion sy’n Ymarferwyr Arweiniol ac Ysgolion sy’n Ymarferwyr Datblygol.  Bu’n gweithio mewn partneriaeth ag ysgol gynradd leol arall i gyflawni rhagoriaeth mewn addysgu a sicrhau lefel uchel o her ym mhob gwers.  Y nod oedd codi safonau yn y ddwy ysgol, gan ddatblygu athrawon digonol yn athrawon da, ac athrawon da yn athrawon rhagorol.  Fe wnaeth y bartneriaeth alluogi athrawon i gynllunio gwersi ar y cyd, arsylwi ar ei gilydd yn cyflwyno gwersi a rhoi adborth adeiladol – gan gyflymu’r broses wella.  Yn ogystal, fe wnaeth staff addysgu ymweld â darparwyr eraill i weld arfer orau mewn gwahanol leoliadau, a helpodd iddyn arfarnu eu gwaith eu hunain yn well.
  • Dadansoddi amrywiaeth eang o ddata ar bob lefel (gan gynnwys data yn ymwneud ag ymyriadau, canlyniadau profion Llywodraeth Cymru ar ddiwedd cyfnod allweddol ac asesiadau athrawon) er mwyn gofyn cwestiynau heriol am berfformiad a rhoi’r sylfaen ar gyfer blaenoriaethau gwella.  Fe wnaeth y dadansoddiad gynnwys cymariaethau rhwng asesiadau athrawon a data profion Llywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb a chywirdeb.
  • Cyflwyno system gynhwysfawr newydd o olrhain disgyblion a chynrychiolaeth weledol o gyrhaeddiad unigol.  Fe wnaeth hyn alluogi staff i nodi disgyblion mewn perygl o dangyflawni naill ai ar lefelau ‘disgwyliedig’ neu ‘uwch na’r disgwyl’.  Fe wnaeth uwch arweinwyr herio staff i sicrhau eu bod yn cyflwyno mesurau i wrthsefyll tangyflawni.
  • Datblygu rôl uwch arweinwyr o ran codi safonau trwy fonitro addysgu a dysgu yn rheolaidd a thrylwyr, a chynnal cyfarfodydd ar gynnydd disgyblion.  Fe wnaeth hyn ddatblygu ymdeimlad o rym a chynyddu lefelau atebolrwydd ac ymwybyddiaeth, a chynyddu ffocws ar berfformiad disgyblion.
  • Adolygu gweithdrefnau asesu.  Mae hyn wedi arwain at fwy o gysondeb ar draws yr ysgol, yn enwedig wrth ddefnyddio marcio, hunanasesu ac asesu cymheiriaid i wella dysgu.

Mae datblygiad proffesiynol targedig, o safon uchel, i’r holl staff yn sicrhau bod yr ysgol yn mynd i’r afael â’r holl flaenoriaethau hyn yn effeithiol.  Hefyd, mae cysylltiad agos rhwng blaenoriaethau gwella’r ysgol a rheoli perfformiad ar gyfer staff addysgu a’r staff nad ydynt yn addysgu, fel ei gilydd.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth a safonau’r dysgwyr?

Mae ffocws di-baid yr ysgol ar hunanarfarnu gonest a chynllunio ar gyfer gwella dros y pedair blynedd diwethaf wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol:

  • Mae safonau addysgu ym mhob dosbarth wedi gwella ac mae’r arfarniadau ohonynt yn dangos yn gyson eu bod yn ‘dda’
  • Fe wnaeth canran y disgyblion sy’n cyflawni Lefel 6 ar ddiwedd Blwyddyn 2 gynyddu o 22% i 48% mewn Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu ac o 29% i 50% mewn Datblygiad Mathemategol
  • Fe wnaeth canran y disgyblion sy’n cyflawni Lefel 5 ar ddiwedd Blwyddyn 6 gynyddu o 18% i 58% mewn Saesneg ac o 18% i 63% mewn mathemateg
  • Roedd llawer o ddisgyblion wedi gwneud cynnydd gwell na’r disgwyl ar draws y cyfnodau allweddol
  • Fe wnaeth lefelau presenoldeb gynyddu 3%, gan osod Birchgrove yn y chwartel meincnod uchaf ar gyfer y tair blynedd diwethaf. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’i harfer dda gydag ysgolion eraill trwy gyfrannu at gyrsiau ar gyfer y consortiwm lleol. Hefyd, fe wnaeth lunio adroddiad ar ddefnyddio’r grant effeithiolrwydd ysgolion i wella safonau mewn mathemateg ar gyfer Llywodraeth Cymru.  Mae’r pennaeth wedi mentora penaethiaid newydd hefyd.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Monkton Priory yn gwasanaethu ardal Monkton yn nhref Penfro yn awdurdod lleol Sir Benfro.  Mae Monkton yn cynnwys ystâd fawr iawn o dai cyngor yr awdurdod lleol, safle parhaol i Sipsiwn-Teithwyr a nifer fach o dai preifat.  Mae gan yr ysgol 221 o ddisgyblion rhwng tair ac un ar ddeg oed ar y gofrestr, gan gynnwys 33 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin ar sail ran-amser neu amser llawn.  Mae 12 dosbarth yn yr ysgol, gan gynnwys tri dosbarth oed cymysg.  Mae gan yr ysgol ddwy uned i ddisgyblion ag anghenion dysgu difrifol a chymhleth.  Mae tua 49% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru (20%).  

Mae’r ysgol wedi nodi bod gan tua 38% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru (25%).  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae tua 30% o ddisgyblion o gefndir Sipsi Roma. 

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn ganolog i gymuned fechan Monkton.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn byw yn y gymuned ac mae tua hanner y disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae gan fwyafrif y disgyblion brofiadau cyfyngedig iawn y tu allan i’r gymuned.

Daw 30% o ddisgyblion o’r gymuned sipsiwn-teithwyr.  Mae safle parhaol i deithwyr ym Monkton ac mae gan yr ysgol uned atodedig i ddisgyblion 11 i 16 oed sy’n deithwyr.

Mae’r ysgol wedi ymdrechu i greu amgylchedd dysgu symbylol sy’n ennyn diddordeb pob dysgwr.  Mae arweinwyr yn sicrhau eu bod yn rhoi’r holl staff mewn lleoliadau sy’n cydweddu â’u medrau.  Mae’r holl staff yn ymrwymedig i gynorthwyo lles disgyblion a darparu cymuned ddysgu sydd wedi’i seilio ar gydraddoldeb, parch a gwneud eich gorau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae gan yr ysgol ddau adeilad ar wahân sydd wedi’u lleoli ar yr un campws.  Mae rhan hynaf yr ysgol o’r oes Fictoraidd, a chwblhawyd yr adran ddiweddaraf yn 2010.  Mae gan arweinwyr raglen gynlluniedig i gynnal a chadw, adnewyddu a gwella’r lleoliadau gwahanol a’r ardaloedd awyr agored.  Mae staff a disgyblion wedi cydweithio â’i gilydd i greu parthau dysgu, gan ddefnyddio murluniau lliwgar a dodrefn modern.  Mae’r ardaloedd hyn sydd â thema yn cynnig lle creadigol iawn i ddisgyblion ei ddefnyddio i wneud gwaith ymchwil, astudio ac archwilio.  Yn y Cyfnod Sylfaen, mae’r ysgol wedi adnewyddu’r ddarpariaeth awyr agored ac wedi dylunio ardaloedd symbylol i ddisgyblion weithio ynddynt, gan gynnwys ardal bywyd gwyllt sy’n galluogi disgyblion i archwilio a dysgu am bryfaid, adar a chreaduriaid pyllau dŵr.

Mae mwyafrif y disgyblion yn cael profiadau cyfyngedig mewn lleoedd y tu hwnt i’w cymuned.  Mae’r ysgol yn ceisio darparu “ffenestr i’r byd” sy’n cyfoethogi profiadau dysgu, gan ddarparu profiadau go iawn i bynciau y mae disgyblion wedi’u hastudio yn yr ystafell ddosbarth.  Mae’r ysgol wedi defnyddio elfen o’r Grant Amddifadedd Disgyblion i ariannu’r holl deithiau addysgol dibreswyl.  Mae’n prydlesu dau fws mini sy’n galluogi dosbarthiadau i archwilio’r ardal leol a mannau eraill o ddiddordeb.  Mae’r gweithgareddau hyn yn cynyddu dealltwriaeth disgyblion o’u gwaith.  Mae disgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn cael cyfle i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau chwaraeon gwahanol na fyddant ar gael iddynt yn rhwydd, er enghraifft marchogaeth, golff a jiwdo.  Mae’r fenter hon wedi codi dyheadau disgyblion ac wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb.

Mae ethos o barch yn cyseinio gan uwch arweinwyr ac mae wrth wraidd bywyd yn Ysgol Monkton Priory.  Mae pawb yn cydnabod bod pawb yn wahanol ond bod gan bob un ohonynt rôl bwysig ym mywyd yr ysgol.  Mae perthynas o gyd-barch rhwng yr oedolion a’r disgyblion, ac mae staff yn fodelau ymddwyn cadarnhaol i’r disgyblion.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn deall y byddant yn mwynhau bywyd yr ysgol ac yn llwyddo os byddant yn ymddwyn yn briodol.  Maent yn gwerthfawrogi bod aelodau staff yno i’w helpu, eu cynorthwyo a’u harwain, a’u bod yn ganolog i deulu’r ysgol.  I greu amgylchedd meithringar, mae arweinwyr, athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu yn deall anghenion disgyblion unigol, ac yn cydweithio â theuluoedd i hyrwyddo gwerthoedd yr ysgol a gwella dysgu.  Er enghraifft, mae gan yr ysgol aelod staff hyfforddedig sy’n cynnig cwnsela i ddisgyblion y mae angen cymorth emosiynol ychwanegol arnynt.

Mae arwyddair yr ysgol, “Dysgu Gyda’n Gilydd” (Learning Together) yn weledigaeth sy’n cael ei rhannu gan yr holl staff, disgyblion a’r gymuned ehangach sy’n gysylltiedig â’r ysgol.  Mae’n rhan annatod o fywyd yr ysgol.  Mae’r ysgol yn cydlynu addysg i oedolion yng nghymuned Monkton yn llwyddiannus, ac mae ystod o gyrsiau ar gael, o fedrau hanfodol i radd ran-amser.  Mae’r ysgol yn annog pawb i fod yn rhan o’r gymuned ddysgu, a chaiff staff a rhieni eu hannog yn weithredol i barhau i astudio a bod yn ddysgwyr gydol oes.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ymddygiad bron pob un o’r disgyblion yn rhagorol.  Ni fu unrhyw waharddiadau dros y chwe blynedd diwethaf.

Mae presenoldeb wedi cynyddu 5% mewn chwe blynedd, a bu gostyngiad yng nghyfradd y disgyblion sy’n absennol yn barhaus.  Mae disgyblion eisiau dod i’r ysgol ac mae eu rhieni’n deall y cysylltiad cryf rhwng presenoldeb da a chyflawniad uchel.

Bu cynnydd ym mherfformiad disgyblion, ac mae’r bwlch rhwng cyflawniad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys i’w cael wedi lleihau’n sylweddol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r pennaeth a phennaeth y gwasanaeth teithwyr wedi rhoi cyflwyniadau am gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

 Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Plasyfelin yn ardal Parc Churchill yng Nghaerffili.  Yr awdurdod lleol yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.  Mae gan yr ysgol 350 o ddisgyblion, gan gynnwys 32 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin ar sail ran-amser.  Mae pedwar dosbarth oed cymysg ac wyth dosbarth oed sengl.

Mae tua 34% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef tuag 20%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan tua 31% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25%.  Nid oes gan unrhyw ddisgybl ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd dan ofal yr awdurdod lleol, ac mae ychydig iawn ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Nid yw unrhyw un o’r disgyblion yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf.

Mae adeilad yr ysgol bron yn 50 mlwydd oed ac mae mewn cyflwr da.  Mae ganddi amgylchedd dysgu symbylol y tu mewn a’r tu allan.  Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ymddygiad, lles a diddordeb disgyblion mewn dysgu a rhyngweithio cymdeithasol gan ddilyn tair rheol yr ysgol: ‘Byddwch yn ddiogel, byddwch yn barod, a byddwch yn barchus’ (‘Be safe, be ready and be respectful’).

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Oherwydd bod nifer gynyddol o ddisgyblion ar fuarth bach, roedd y staff yn teimlo nad oedd disgyblion yn cael profiad chwarae cadarnhaol nac yn dysgu i chwarae gyda’i gilydd yn briodol.  Roedd nifer y dadleuon yn ystod amseroedd chwarae yn cynyddu.  Roedd staff yn teimlo bod angen mynd i’r afael â’r broblem hon.

Oherwydd bod tir yr ysgol yn fawr, roedd yn bwysig manteisio i’r eithaf arno er lles y disgyblion ac i fynd i’r afael â’r dadleuon cynyddol yn ystod amseroedd chwarae.  Y nod cyffredinol oedd datblygu’r pum erw o dir dros gyfnod o dair blynedd, i ennyn diddordeb y plant yn dda mewn chwarae cadarnhaol, ac i ddatblygu eu rhyngweithio cymdeithasol a’u lles.  Roedd yn bwysig defnyddio pob lle gwag yn yr ysgol ac o’i chwmpas yn effeithlon a sicrhau bod gan bob ardal bwrpas.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae aelodau’r gymuned leol wedi helpu i ddatblygu’r amgylchedd awyr agored.  Mae hyn yn cynnwys gerddi a rhandiroedd, y mae’r plant yn eu cynnal a chadw ac yn gwneud elw ohonynt, a phedwar man chwarae anturus mawr.  Cyflwynodd yr ysgol system chwarae gadarnhaol a threfnus.  Trefnodd staff y man chwarae yn barthau, a sicrhau bod offer perthnasol ar gael ym mhob un ohonynt.  Mae’r cynorthwywyr cymorth dysgu yn goruchwylio’r parthau hyn yn effeithiol yn ystod amseroedd chwarae.  Ynghyd â ‘Bydis Buarth’ yr ysgol o Flwyddyn 6, maent yn ymgysylltu’n dda â’r disgyblion, yn dangos iddynt sut i chwarae â’r offer ac yn eu haddysgu sut i ryngweithio’n gymdeithasol â’i gilydd, cymryd tro ac ati. 

Mae’r parthau’n amrywio o ardaloedd sy’n addas ar gyfer beiciau, sgipio, chwarae pêl-droed ac adeiladu, i ardaloedd tawel sy’n addas ar gyfer gweithgareddau fel adrodd storïau, tynnu lluniau a chwarae rôl.  Hefyd, ceir ‘ysfa’r wythnos’ (‘craze of the week’), sy’n newid yn ôl y tymhorau.  Mae disgyblion yn dewis yr ardal yr hoffent chwarae ynddi.  Mae aelodau staff yn symud o gwmpas y parthau bob pythefnos.  Mae staff/disgyblion yn gyfrifol am osod eu parthau bob dydd cyn i amser chwarae ddechrau.  Mae hyn wedi helpu i gynnal ethos cadarnhaol yr ysgol, ac mae disgyblion yn ymfalchïo yn eu gweithle.  Mae amseroedd chwarae cadarnhaol yn y Cyfnod Sylfaen, ynghyd â pharthau egnïol a thawel, wedi cyfrannu’n effeithiol at les cadarnhaol disgyblion.

Mae hyn hefyd yn treiddio i gyfnod allweddol 2, lle ceir rhwydi ar gyfer gemau pêl amrywiol, pêl-droed bwrdd a thennis bwrdd.  Hefyd, ceir amrywiaeth o offer chwarae arall a gemau bwrdd i’r disgyblion hynny y mae’n well ganddynt eistedd yn dawel.  Mae aelodau staff yn annog disgyblion cyfnod allweddol 2 i chwarae’n annibynnol ar ôl cael hyfforddiant effeithiol yn y Cyfnod Sylfaen mewn cymryd tro a sicrhau chwarae teg.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae hyn wedi arwain at amgylchedd dysgu tawel lle mae gan bron bob un o’r disgyblion agwedd gadarnhaol tuag at chwarae.  Ceir llai o ddamweiniau a dadleuon.  Ar ôl amseroedd chwarae, daw disgyblion i wersi’n dawel ac yn barod i weithio.  Mae arolwg Agweddau Disgyblion at eu Hunain a’r Ysgol (PASS) yn dangos bod lles a mwynhad disgyblion yn yr ysgol wedi gwella.  Mae safonau uwchlaw’r canolrif yn gyson o’u cymharu â safonau ysgolion tebyg.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae llawer o athrawon wedi ymweld â’r ysgol i arsylwi’r systemau chwarae llwyddiannus.  Mae’r ysgol yn cynnal diwrnodau penodol i Athrawon Newydd Gymhwyso (ANGau) ledled y consortiwm.  Mae teithiau o gwmpas yr ysgol yn dangos sut mae staff yn trefnu, paratoi a datblygu’r mannau chwarae a’r amgylcheddau dysgu dan do, ac yn rhoi syniadau newydd i’r athrawon hyn.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Severn yn ardal Treganna yng Nghaerdydd.  Mae 407 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, a 146 o ddisgyblion meithrin pellach yn mynychu’r ysgol ar sail ran-amser.

Mae tua 24% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae gan 25% ohonynt anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan yr ysgol ddisgyblion o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys dros 50 o ieithoedd a thafodieithoedd, y rhai mwyaf cyffredin ohonynt yw Wrdw ac Arabeg.  Mae llawer o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae uwch arweinwyr wedi datblygu gwaith tîm rhagorol yn yr ysgol, trwy linellau cyfathrebu cryf, gweledigaeth gyffredin a rhannu arfer dda.  Mae staff yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cymell i fod yn arloesol, herio confensiwn a myfyrio er mwyn gwella addysgu yn yr ysgol.  Mae hyn, ynghyd â’r pwyntiau isod, wedi arwain at addysgu o ansawdd uchel drwy’r ysgol gyfan.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Rhannu / cyfathrebu

Mae uwch arweinwyr wedi sefydlu dulliau rhagorol o gyfathrebu.  Mae’r strwythur rheolaeth linell, a ystyriwyd yn ofalus, yn sicrhau y caiff gwybodaeth ei chyfathrebu’n effeithiol y ddwy ffordd, er enghraifft drwy Gyfarfodydd Dyddiadur wythnosol y pennaeth, sesiynau hyfforddiant mewn swydd (HMS) ysgol gyfan, cyfarfodydd cyfnod misol dan arweiniad yr uwch dîm arweinyddiaeth, a chyfarfodydd wythnosol dan arweiniad y pennaeth cynorthwyol ar gyfer cynorthwywyr addysgu.  Mae staff yr ysgol bob amser yn barod i gynorthwyo ei gilydd a rhannu syniadau mewn lleoliad anffurfiol.  Esblygodd y sesiynau hyn yn ‘Weithdai Dydd Mercher’ yn yr ysgol, sef ffordd arloesol o rannu arfer dda mewn amgylchedd hamddenol, er enghraifft y 100 sesiwn lawn orau a chwestiynau ar gyfer gwyddoniaeth.  Mae staff yn arwain ac yn mynychu’r gweithdai gwirfoddol hyn os ydynt yn teimlo bod y pwnc o fudd i’w harfer broffesiynol.

Hyfforddiant

Mae uwch arweinwyr yn trefnu rhaglen effeithiol o hyfforddiant i’r holl staff.  Maent yn seilio sesiynau HMS wythnosol ar gynllun gwella’r ysgol ac amcanion rheoli perfformiad staff.  Mae rheoli perfformiad cynorthwywyr addysgu (a wneir gan gynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALUau)) yn amlygu anghenion hyfforddiant.  Yn aml, mae arweinwyr yn defnyddio diwrnodau HMS i gyflwyno mentrau newydd, ac mae athrawon a chynorthwywyr addysgu yn mynychu’r rhain.  Mae hyfforddiant parhaus i staff yn sicrhau dull a disgwyliadau cyson.  Mae’r clwstwr o ysgolion lleol sy’n bwydo’r ysgol uwchradd yn trefnu diwrnod HMS blynyddol ar y cyd, sy’n rhoi cyfle i’r holl staff fynychu gweithdai sy’n ategu eu datblygiad proffesiynol.  

Addysgu

Trwy drafodaeth drylwyr, mae staff yn cytuno ar yr hyn sy’n gwneud gwers ragorol, gan arwain at ddisgwyliadau uchel cyson.  Caiff gwersi eu rhannu’n ‘dalpiau’ ac mae athrawon yn cynnal hunanarchwiliad, gan gofnodi’r cryfderau a’r gwendidau yn eu haddysgu.  Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cymeradwyo meysydd cyffredin i’w gwella.  Mae staff yn cytuno ar eirfa ar y cyd ac mae staff yn gweithio mewn timau bach/triawdau i hyfforddi ei gilydd i wella addysgu.  Mae’r meysydd hyn yn cysylltu’n dda ag amcanion rheoli perfformiad staff.  Mae arweinwyr yn rhoi rhyddid i staff arbrofi â syniadau newydd â’u cydweithwyr, sy’n ymddwyn fel cyfeillion beirniadol.  Yn ôl yr angen, mae arweinwyr yn trefnu hyfforddiant allanol ac/neu ymweliadau.

Cynlluniau gwaith

Mae uwch arweinwyr ac arweinwyr pwnc yn cwblhau diweddariad adolygu mewnol o’r cwricwlwm ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2, gan sicrhau eu bod wedi’u seilio ar fedrau.  Mae cynlluniau gwaith yr ysgol yn ennyn diddordeb ac yn herio pob dysgwr, ac mae gan bob gwers dri amcan dysgu gwahaniaethol. 

Cynllunio

Caiff yr holl athrawon eu cynnwys mewn diweddaru cynlluniau er mwyn iddynt fod yn gyson ar draws y cyfnodau.  Mae gan wersi amcanion dysgu gwahaniaethol ac amcanion dysgu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, gweithgareddau cyffrous, cwestiynau priodol, cyfleoedd asesu ar gyfer dysgu ac arfarniadau sy’n arwain at gynllunio yn y dyfodol.

Monitro, Arfarnu ac Adolygu (MAA)

Mae uwch arweinwyr wedi datblygu Amserlen MAA gynhwysfawr.  Mae rhai arsylwadau dosbarth yn canolbwyntio ar ‘rannau’ o wers, er enghraifft y dechrau a sesiynau llawn.  Mae sesiynau craffu ar lyfrau yn amlygu meysydd i’w gwella, er enghraifft marcio, adborth a chyflwyniad.  Mae prosesau monitro trylwyr yr ysgol, a gyflawnir gan yr uwch arweinwyr ac arweinwyr pwnc, yn nodi arfer dda ac yn ei rhannu â’r holl staff.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae addysgu ar draws yr ysgol o ansawdd uchel yn gyson, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da iawn mewn perthynas â’u mannau cychwyn.  Mae athrawon wedi ymrwymo i wella’r ysgol ac maent yn cynllunio gweithgareddau dychmygus, sy’n ennyn diddordeb pob grŵp o ddysgwyr.  Mae cynorthwywyr addysgu yn hynod effeithiol ac yn cael eu gwerthfawrogi.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gynradd Santes Gwladys wedi’i lleoli yn nhref Bargoed, yn awdurdod lleol Caerffili.  Mae 312 o ddisgyblion amser llawn, rhwng 4 ac 11 oed ac sy’n cael eu haddysgu mewn 12 dosbarth, ar y gofrestr, ynghyd â 53 o ddisgyblion sy’n mynychu’r feithrinfa ar sail amser llawn.  Mae tua 34% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol a lleol.  Mae gan chwech ar hugain y cant anghenion dysgu ychwanegol, sydd uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae Ysgol Gynradd Santes Gwladys Bargoed wedi mireinio’i dulliau o ymdrin â llythrennedd yn barhaus.  Bu hyn yn angenrheidiol mewn ysgol lle y mae llawer o ddisgyblion yn dechrau’r ysgol gyda medrau, gwybodaeth a dealltwriaeth islaw’r lefel ddisgwyliedig ar gyfer eu hoedran.

Mae’r amgylchedd dysgu a grëwyd i wneud yn iawn am hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu medrau disgyblion, gan sicrhau bod datganiad cenhadaeth yr ysgol, sef ‘Dychymyg y plentyn yw realiti yfory’, yn ganolog i’r ymrwymiad i ymestyn potensial pob plentyn.

Nid yw staff fyth yn ystyried bod y disgyblion yn Ysgol Santes Gwladys yn dderbynwyr goddefol, ond yn greawdwyr ystyr gweithredol bob amser.  Mae ganddynt statws fel dysgwyr o’r Cyfnod Sylfaen hyd at ddiwedd cyfnod allweddol 2.

Oherwydd bod chwarae ymchwiliol a dychmygus yn symbylu dysgu cynnar, gan gynnwys ysgrifennu, mae’r ysgol yn cydnabod y byddai prosesau a thechnegau drama yn symbylu siaradwyr, darllenwyr ac ysgrifenwyr mewn ffordd debyg.

Mae’r holl staff, trwy raglen strwythuredig o hyfforddiant mewn swydd, wedi ennill gwybodaeth am amrywiaeth o dechnegau drama: yn y gadair goch, cilgant cydwybod, fferru ffrâm, dweud beth sydd ar eich meddwl, lleisiau cyfunol, a chreu yn fyrfyfyr, a fyddai’n ysgogi proses, cynnyrch a siarad arfarnol.  Fe wnaeth staff integreiddio’r technegau hyn i wersi fel dull o archwilio a chynhyrchu testun.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Darganfu staff fod drama’n dod â chysylltiad deallusol ac emosiynol i wersi.  Fe wnaeth helpu i lywio cynnwys yr ysgrifennu.  Roedd disgyblion yn llunio meddyliau a barn cyn ysgrifennu mewn amrywiaeth eang o genres ar draws ehangder y cwricwlwm.  Fe wnaeth natur gydweithredol y ddisgyblaeth alluogi disgyblion i gyfnewid dealltwriaeth, a gwnaeth dysgwyr elwa o hyn mewn sawl ffordd.

Llais y disgybl:

Mae drama yn fy helpu gyda fy ysgrifennu oherwydd:
 

Mae’n gwneud i chi feddwl sut gallai’r cymeriadau fod yn teimlo.

Rydych chi’n cael eich swyno gan beth rydych chi’n ei ysgrifennu.

Mae’n gadael i chi roi rhwydd hynt i’ch dychymyg, gallwch chi feddwl yn fawr; gallech chi fynd i’r lleuad.

Mae’n gwneud i chi feddwl er mwyn cael syniadau creadigol.

Rydych chi wedi adrodd y stori, mae’n eich helpu i chi ysgrifennu’r stori oherwydd rydych chi ynddi’n barod.

Mae’n fy ngwneud i’n fwy hyderus.

Mae’n helpu i fi ddarlunio.

Mae addysgu a dysgu yn Santes Gwladys yn annog y farn bod: “Creadigrwydd yn ffynnu pan fydd strategaeth systematig i’w hybu.”  Mae dull yr ysgol o ymdrin â llefaredd ac ysgrifennu yn denu emosiynau, syniadau a deallusrwydd creadigol.  Mae wedi symbylu ysgrifenwyr ar bob lefel.   O ganlyniad, mae’r effaith ar safonau dysgwyr cymaint fel bod perfformiad disgyblion mewn Saesneg erbyn diwedd Cyfnod Allweddol 2 wedi bod yn y 25% uchaf dros y pedair blynedd diwethaf.  

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer hon ynghylch defnyddio llechi electronig i wella ysgrifennu gyda thros hanner cant o ysgolion trwy agenda dysgu’r 21ain Ganrif y consortiwm rhanbarthol.  Mae staff wedi defnyddio rhaglenni electronig priodol i recordio fframiau wedi fferru mewn gweithgareddau drama.  Mae’r ysgol wedi defnyddio’r rhain i ddangos effaith gadarnhaol drama ar symbylu ysgrifenwyr, yn enwedig y bechgyn.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol fabanod yn Abergele ar arfordir Gogledd Cymru yw Ysgol Glan Gele.  Ar hyn o bryd, mae 307 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 63 yn rhan-amser yn y feithrinfa.  Mae gan yr ysgol 11 dosbarth.  Mae tua 34% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 20%.  Mae’r awdurdod lleol yn gofalu am nifer bach iawn o ddisgyblion. 

Mae asesiadau gwaelodlin yn dangos bod cyrhaeddiad adeg mynediad islaw’r cyfartaledd i nifer sylweddol o ddisgyblion.  Mae gan oddeutu 28% o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol: mae hyn ychydig uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol.  Nod Ysgol Glan Gele yw darparu amgylchedd dysgu diogel a hapus i ddisgyblion, lle y mae’r holl randdeiliaid yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu potensial. 

Mae arweinwyr yr ysgol o’r farn bod ymgysylltu â rhieni yn hollbwysig ar gyfer gwella deilliannau i ddisgyblion.  Cynigiant ystod eang o gyfleoedd i rieni a gofalwyr gymryd rhan ym mywyd yr ysgol.  Er 2010, mae’r ysgol wedi gwella ymgysylltu, gan gynnig sesiynau Rhiant Bartner yn rheolaidd bob hanner tymor.  Yn ystod y sesiynau hyn, mae rhieni’n mynychu’r ysgol i weithio ar agweddau ar y cwricwlwm gyda’u plant.  Mae lefel dda o rieni’n bresennol yn y sesiynau llwyddiannus hyn, ac mae’r ysgol wedi datblygu partneriaeth ragorol gyda’r rhan fwyaf o rieni a gofalwyr.  Fodd bynnag, bu’n fwy anodd ymgysylltu â rhai teuluoedd.  Mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion wedi galluogi’r ysgol i benodi Cynorthwyydd Cyswllt Teuluoedd i annog y rhieni ‘anodd eu cyrraedd’ hyn i ymroi i fywyd yr ysgol er mwyn codi disgwyliadau, cefnogi eu plant a gwella safonau cyrhaeddiad.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Amlygodd proses hunanarfarnu’r ysgol dangyflawni ym medrau ysgrifennu bechgyn.  O ganlyniad, penderfynodd arweinwyr geisio cynnwys tadau, teidiau a modelau rôl gwrywaidd eraill (brodyr hŷn, ewythrod) fwyfwy mewn llythrennedd bechgyn.  Mae gwaelodlin dechrau yn yr ysgol yn isel, ac mae dyheadau rhai rhieni yn isel.  Awgrymodd adborth o’r Fforwm Rhieni a holiaduron fod ‘tadau’ yn aml yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu â gweithgareddau a gweithdai’r ysgol. 

Yn ddiweddar, cafodd cydlynydd llythrennedd yr ysgol, sy’n aelod o’r Uwch Dîm Arwain, hyfforddiant ar Ysgol Goedwig a theimlai y byddai hyn yn gyfle perffaith i annog tadau ‘anodd eu cyrraedd’ i gymryd rhan a chwalu’r rhwystrau rhwng y cartref a’r ysgol.  Rhoddodd yr enw ‘Dads and Lads’ ar y sesiynau hyn.  Fe wnaeth yr ysgol nodi a thargedu grŵp o ddisgyblion sy’n tangyflawni i gymryd rhan yn y strategaeth hon.  Bechgyn a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a’u tadau, oedd y rhain yn bennaf.  Nid oedd strategaethau blaenorol ar gyfer ymgysylltu â rhieni wedi cael rhyw lawer o lwyddiant gyda’r grŵp hwn.  Felly, nododd staff brosiect cyffrous, i’w gyflawni yn yr awyr agored, fel y prosiect a fyddai’n fwyaf tebygol o ennyn diddordeb tadau a chaniatáu iddynt gael amser buddiol gyda’u meibion mewn amgylchedd anfygythiol, y byddent yn teimlo’n gartrefol ynddo.  Byddai hyn, yn ei dro, yn cael effaith gadarnhaol ar waith ysgrifennu eu plant yn ôl yn yr ystafell ddosbarth ac yn codi ymwybyddiaeth rhieni a’u dyheadau ar gyfer eu plant.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Pan fydd staff yn cynnal sesiwn ‘Dads and Lads’, maent yn sicrhau eu bod yn cynllunio prosiect cyffrous i’r bechgyn gael profiad ohono yn yr awyr agored, er mwyn ysbrydoli eu gwaith ysgrifenedig yn yr ystafell ddosbarth.  Mae staff o’r farn bod rhoi profiadau uniongyrchol iddynt seilio’u gwaith ysgrifennu arnynt yn hanfodol.  Mae’r athro’n cyflwyno’r sefyllfa, er enghraifft, trwy gynllunio antur lle y mae’r ‘Dads and Lads’ ar ynys ddiffaith heb ffordd o’i gadael.  Maen nhw’n dysgu sut i adeiladu lloches i gadw’n gynnes a sut i adeiladu tân er mwyn coginio arno.

Fe wnaethant gymryd rhan mewn cwis diogelwch, a ddatblygodd eu medrau llefaredd, gan gofnodi eu hatebion gyda’i gilydd.  Yn ail ran y sesiwn, eisteddodd y bechgyn yn eu llochesi ac ysgrifennu llythyron SOS gyda’u Tad.  Rôl yr athro oedd esbonio gwahanol elfennau’r genre a rhoi syniadau a chyngor ar ysgrifennu’n bwrpasol.  Yn ddiweddarach yn yr wythnos, yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, aeth y bechgyn i sesiynau pellach lle cawsant amser i fyfyrio a thrafod y gweithgaredd, ac ailddrafftio a golygu eu llythyron gydag arweiniad pellach gan yr athro.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Roedd yr adborth gan y tadau yn gadarnhaol iawn, gyda llawer ohonynt yn dweud eu bod wedi mwynhau cefnogi llythrennedd eu plant yn fawr trwy weithgareddau ystyrlon, llawn hwyl, yn yr awyr agored.  Mae hyn wedi arwain at well diddordeb yn addysg eu plant.  Roedd llawer heb ymgysylltu â sesiynau Rhiant Bartner yr ysgol cyn hynny.  Teimlont fod y wybodaeth a rannwyd yn ystod y sesiynau wedi eu grymuso ac mae hyn wedi cynyddu eu disgwyliadau a’u hyder wrth helpu eu plant i ysgrifennu.  Maent yn ymgysylltu â dysgu eu meibion yn fwy ac mae ganddynt ddisgwyliadau uwch ynghylch gwaith ysgrifennu’r bechgyn.  Mae agweddau tuag at yr ysgol yn fwy cadarnhaol hefyd. 

Cafodd nifer o dadau eu hysbrydoli i fynd ar drywydd y thema gartref ac roedd plant wedi llunio darnau estynedig o waith ysgrifennu, gan ddod â nhw i’r ysgol i’w rhannu gyda’u hathrawon.  Mae’r sesiynau hyn bellach yn boblogaidd iawn a bu’n rhaid i’r ysgol ddarparu sesiynau ychwanegol i ateb y galw gan dadau.  Mae’r gair wedi mynd ar led ymhlith tadau ac mae eu hymgysylltiad wedi cynyddu y tu hwnt i bob disgwyl.  Effaith ychwanegol hyn oedd dod â mwy o dadau i’r sesiynau eraill y mae’r ysgol yn eu cynnig, fel Dysgu Teuluol, Sesiynau Rhannu a gweithio gyda llechi electronig ac adeiladu teganau. 

Dywedodd llawer o’r bechgyn mai’r sesiynau ‘Lads and Dads’ oedd y sesiynau gorau iddynt erioed eu cael.  Mae wedi rhoi amser i rieni brofi dysgu o safon gyda’u plentyn, gyda chefnogaeth athro profiadol.  Mae hyn wedi cynyddu eu disgwyliadau ac wedi gwella deilliannau o safbwynt ansawdd y gwaith ysgrifenedig sy’n cael ei gynhyrchu gan y grŵp hwn o ddysgwyr.  Mae safonau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen wedi codi, gyda chyrhaeddiad ychydig islaw hanner y disgyblion ar lefel uwch na’r disgwyl.  Mae’r safonau ymhlith disgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim hefyd yn uwch na chyfartaleddau lleol a chenedlaethol.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei gwaith gydag ysgolion ac arweinwyr ysgol dirifedi ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.  Hefyd, mae ysgolion lleol yn ymweld yn aml ac mae staff yn cynnal sesiynau i rannu’r ddarpariaeth yn rheolaidd.  Mae myfyrwyr o brifysgol leol wedi ymweld hefyd i weld arfer dda yn y maes hwn.  Mae athrawon wedi rhoi cyflwyniadau i’r consortiwm rhanbarthol, Llywodraeth Cymru a Llywodraethwyr Cymru i rannu’r arfer hefyd.