Arfer effeithiol Archives - Page 61 of 70 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Llandrillo Yn Rhos wedi’i lleoli yn nhref glan môr Llandrillo yn Rhos, yn sir Conwy.  Ar hyn o bryd, mae 414 o ddisgyblion amser llawn a 60 o ddisgyblion rhan-amser, rhwng tair ac un ar ddeg oed, ar y gofrestr.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o’r ardal gyfagos.  Daw bron pob un o’i disgyblion o gefndir Saesneg ei iaith.  Ar hyn o bryd, mae gan 16% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae oddeutu 16% yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Mae 15 o athrawon amser llawn a 5 athro rhan-amser yn yr ysgol, gydag 16 o staff cymorth amser llawn a 9 rhan-amser.  Yn ogystal, mae gan yr ysgol Swyddog Cyswllt â Theuluoedd amser llawn, rheolwr anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad ac Arweinydd Ysgol Goedwig.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Arwyddair yr ysgol yw ‘Together Everyone Achieves More’ ac mae’n ymdrechu i’w hybu’n llwyddiannus ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi datblygu ethos o ofal, cynwysoldeb a pharch tuag at bawb.  Mae’r amgylchedd yn gynnes a chroesawgar ac mae’n cynnwys stiwdio gelf, canolfan dysgu cymunedol ac ystafell ddosbarth awyr agored yr Ysgol Goedwig.  Ariannodd yr ysgol ystafell ddosbarth awyr agored yr Ysgol Goedwig trwy grant gan y Fferm Wynt.  Mae’n cynnwys pydew tân, ardal eistedd, gwesty chwilod a phwll.  Trwy ei defnyddio’n effeithiol, mae disgyblion yn elwa o ddysgu am eu hamgylchedd a dysgu medrau bywyd pwysig yn yr awyr agored.  Mae’r ardal yn darparu ar gyfer disgyblion y Cyfnod Sylfaen a chyfnod allweddol 2.  Mae gwaith disgyblion i’w weld o gwmpas yr ysgol ac mae o ansawdd uchel.  Mae gan yr ysgol sied gelf ddynodedig ac athro celf arbenigol sy’n cynllunio a chyflwyno gwersi yn gysylltiedig â phwnc y dosbarth fel rhan annatod o’r cwricwlwm.  Ar hyn o bryd, yr athro hwn sy’n arwain y fenter ‘ysgol greadigol arweiniol’.  Mae llawer o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 yn mwynhau’r sesiynau celf wythnosol yn fawr.  Mae’r ysgol o’r farn bod ansawdd y gwaith celf sy’n cael ei gynhyrchu gan ddisgyblion o safon uchel iawn.  Mae’r ysgol yn datgan ei bod yn hybu ac yn cefnogi’r defnydd ar dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn y Cyfnod Sylfaen ac yng nghyfnod allweddol 2 o fewn yr ysgol ac ar draws yr awdurdod lleol yn effeithiol iawn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, nod yr ysgol fu gwella lles a safonau cyrhaeddiad disgyblion.  Mae wedi gwneud hyn trwy ymdrechu i wella cysylltiad rhieni â’r ysgol.  Mae wedi datblygu amrywiaeth o fentrau ar y cyd â disgyblion, rhieni, ysgolion uwchradd y mae’n bwydo, a’r gymuned.  Mae aelodau staff yn arwain mentrau i ddatblygu lles disgyblion, trwy weithio ar lefelau amrywiol o fewn yr ysgol.  Mae staff yn defnyddio amgylchedd dysgu’r ysgol yn rhan o raglen dreigl ac yn trefnu amserlen ar ei gyfer er mwyn galluogi pob disgybl i ddatblygu medrau cymdeithasol, meddwl a datrys problemau, yn yr awyr agored.  Mae cynorthwywyr addysgu lefel uwch yr ysgol yn cynllunio ac yn cyflwyno darpariaeth medrau cymdeithasol ac ysgol goedwig yr ysgol, ac mae’r athro dosbarth yn cefnogi datblygiad medrau datrys problemau disgyblion.
Mae gan yr ysgol ganolfan gymunedol â swyddog cyswllt teuluol amser llawn sy’n cynnig amrywiaeth eang o raglenni cymorth.  Mae’r rhain yn ychwanegu at les pob disgybl yn sylweddol.  Mae’r rhaglenni hyn yn cynnwys:

• ‘Fast Forward’ (rhaglen bontio)
• ‘Boost’ (meithrin hyder)
• ‘Together Time’ (sesiynau i rieni a phlant yn y Cyfnod Sylfaen)
• ‘Animate Learning’ (sesiynau i rieni a phlant yng nghyfnod allweddol 2)
• Wythnosau dysgu ynghyd
• Grwpiau anogaeth
• Meysydd cyfrifoldeb ar gyfer disgyblion
• Grwpiau trafod
• Cyfarfodydd gosod targedau ar gyfer pob unigolyn (mentora cadarnhaol i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 1 i 6)
• Datblygu’r ardaloedd awyr agored

Mae gan lawer o ddisgyblion gyfrifoldebau sylweddol y maent yn eu cyflawni’n aeddfed.  Mae’r rhain yn cynnwys ceidwaid gwyrdd, ninjas celf, dewiniaid digidol ac aelodau o’r cyngor ysgol.  Mae’r holl grwpiau hyn yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr ysgol a bywyd yr ysgol.  Mae aelodau’r cyngor ysgol yn hynod effeithiol ac yn hybu lles disgyblion yn yr ysgol yn gyson.  Mae dewiniaid digidol yn cefnogi datblygiad TGCh ar draws yr ysgol ac yn ystod sesiynau hyfforddi i athrawon a staff o ysgolion eraill.  Dywed yr ysgol fod safonau disgyblion wrth ddefnyddio TGCh yn rhagorol.

Bob tymor, mae pob disgybl o Flwyddyn 1 i Flwyddyn 6 yn cael cyfle i gwrdd â’i athro dosbarth yn unigol, i osod ac adolygu ei dargedau rhifedd a llythrennedd.  Mae disgyblion yn gwybod beth yw eu camau dysgu nesaf ac mae ganddynt lawer o symbyliad i gyflawni eu nodau eu hunain.

Mae’r amgylchedd dysgu awyr agored a datblygiad medrau cymdeithasol yn hybu datblygiad llawer o fedrau, gan gynnwys rhifedd a llythrennedd, yn weithgar ac maent yn cael effaith gadarnhaol ar gyrhaeddiad a chyflawniad plant.  Mae’r amgylchedd yn ysgogol ac yn ddeniadol, ac mae disgyblion yn teimlo’n hapus ac yn ddiogel i ddysgu ynddo.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r ysgol yn datgan:

• Bod disgyblion a rhieni wedi sôn am fwy o hyder yn ystod y pontio o’r cyfnod cyn-ysgol i’r Feithrinfa, o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 3, ac o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7
• Mae’r ysgol o’r farn bod y ffordd y mae rhieni’n ymgysylltu â hi yn rhagorol, gyda 96% o rieni’n mynychu Wythnosau Dysgu Ynghyd yr ysgol, pan fydd rhieni a disgyblion yn gweithio gyda’i gilydd yn y dosbarth
• Mae’r holl ddisgyblion sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth anogaeth wedi gwneud gwelliannau da iawn yn eu medrau cymdeithasol ac emosiynol
• Mae’r holl ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 2 hefyd yn gwneud cynnydd mewn asesiadau cenedlaethol, ac roedd 80% o ddisgyblion wedi cyflawni Deilliant 6 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen
• Mae rhieni disgyblion sy’n derbyn darpariaeth anogaeth yn ymwneud yn fwy effeithiol â dysgu eu plant ac maent yn teimlo’n fwy cadarnhaol am eu galluoedd magu plant eu hunain
• Dywed athrawon ar draws cyfnod allweddol 2 a’r Cyfnod Sylfaen fod ymddygiad disgyblion wedi gwella a’u bod yn talu sylw’n well yn ystod pob gwers

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi cefnogi llawer o ysgolion ym mhob agwedd ar les.  Mae wedi rhannu ei llwyddiant trwy gyfarfodydd penaethiaid, cyfarfodydd consortia, hyfforddiant TGCh a digwyddiadau hyfforddiant. 

Mae’r ysgol yn croesawu ymweliadau gan ysgolion eraill sy’n awyddus i ddatblygu eu lleoliadau ac mae’n helpu i roi mentrau ar waith trwy ei rôl fel Ysgol Arloesi/Cyd-arweiniol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth gyd-destunol gryno am y darparwr/partneriaeth:

Coleg addysg bellach sydd â thua 2,600 o ddysgwyr amser llawn yw Coleg Penybont.  Mae’n cyflogi tua 600 o staff.  O ran dysgwyr amser llawn, y coleg yw un o’r colegau addysg bellach lleiaf yng Nghymru.

Cyd-destun a chefndir i arfer ragorol/sy’n arwain y sector:

Mae’r coleg yn gwasanaethu rhanbarth sydd â lleiniau o ddifreintedd cymdeithasol uchel.  Mae 11 o’r 85 o ardaloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae canran poblogaeth y sir dros 16 oed sydd ag afiechyd meddwl crybwylledig yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.  Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd yn uchel ac uwchlaw cyfartaledd Cymru.

Mae gan lawer o ddysgwyr fedrau sylfaenol gwael wrth iddynt ymuno â’r coleg, ac mae 92% ohonynt ar Lefel 1 neu’n is ar gyfer rhifedd, a 71% ar Lefel 1 neu’n is ar gyfer llythrennedd.  Yn 2015-2016, datganodd dros hanner y dysgwyr amser llawn fod ganddynt angen dysgu ychwanegol wrth ymrestru yn y coleg. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch a nodwyd yn arfer ragorol/sy’n arwain y sector?

I fodloni anghenion yr heriau y mae llawer o ddysgwyr yn eu hwynebu, mae’r coleg wedi buddsoddi mewn nifer o rolau i gynorthwyo dysgwyr mewn ffordd fwy cyfannol, gan gynnwys swyddogion lles, hyfforddwyr dysgu a hyfforddwyr medrau.  Mae’r staff allweddol hyn yn ffurfio tîm lles a chymorth sy’n gysylltiedig â meysydd y cwricwlwm ac yn cynorthwyo dysgwyr ym mhob agwedd ar eu dysgu a’u lles.  Maent yn darparu cyngor ac arweiniad priodol, neu’n cyfeirio dysgwyr ato, ar ystod o faterion fel cwnsela, clinigau cymunedol a materion diogelu, yn ogystal â chynorthwyo cynnydd dysgwyr.  Yn ogystal, maent yn monitro ac yn cynorthwyo presenoldeb myfyrwyr, mewn partneriaeth â thimau’r cwricwlwm.  Mae’r tîm lles a chymorth yn sicrhau y caiff cymorth ei gynnig i ddysgwyr cyn gynted â phosibl. 

Yn ogystal â staff cymorth, mae gan y coleg ystod gynhwysfawr o adnoddau i helpu dysgwyr.  Mae’r gwasanaethau arbenigol sydd ar gael i bob dysgwr yn cynnwys sgrinio ar gyfer dyslecsia, sgrinio ar gyfer syndrom Irlen, dehonglwyr iaith arwyddion, gwasanaethau ar gyfer nam ar y golwg a dallineb, yn ogystal â lwfans i fyfyrwyr anabl a gwasanaeth asesu.  Mae ystod eang o dechnoleg gynorthwyol ar gael hefyd, fel dyfeisiau chwyddo, dictaffonau, cymhorthion sillafu, cymhorthion cyfathrebu, dyfeisiau mewnbwn arbenigol a meddalwedd cymorth llythrennedd.  Caiff y gwasanaethau hyn eu cynnig er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn gwneud cynnydd addas ac yn cael cyfle i wireddu ei (l)lawn botensial wrth ddysgu.  

Mae’r coleg wedi meithrin cysylltiadau buddiol â llawer o asiantaethau allanol hefyd er mwyn sicrhau bod y gyfran gynyddol o fyfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl yn cael y cymorth gorau; er enghraifft, mae ARC (Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned) yn cynnal clinigau cymorth rheolaidd yn y coleg, tra darperir cymorth arall gan grwpiau fel y Samariaid, Oedolion Ifanc sy’n Gofalu ac asiantaeth cymorth tai Llamau.    Mae gan y coleg gysylltiadau rhagorol â sefydliadau i helpu’r rhai sydd wedi dioddef trais yn y cartref hefyd.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dros y tair blynedd diwethaf, mae canlyniadau wedi gwella’n gyson, er gwaethaf mannau cychwyn cymharol isel llawer o ddysgwyr y coleg.  Yn ystod yr amser hwn, mae cyfradd y dysgwyr sy’n cwblhau eu cymhwysterau’n llwyddiannus wedi cynyddu o 77% i 85%.  Mae’r duedd hon ar i fyny yn gyson ar draws bron pob maes dysgu.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun 11-16 oed yn Abertawe yw Ysgol Gyfun Pontarddulais.  Mae 780 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae’r ysgol bron â bod yn llawn.  Mae’r ysgol wedi ei lleoli ym mhentref Pontarddulais.  Mae ganddi bum ysgol gynradd bartner yn y dalgylch.  Mae tua 7% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae 13% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. 

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Gyfun Pontarddulais yn ysgol Arloesi’r Cwricwlwm ac yn ysgol Arloesi  Creadigol.  Mae hyn yn golygu bod yr ysgol yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i ddatblygu ac arbrofi â chwricwlwm newydd i Gymru.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn cydnabod bod arweinyddiaeth ganol o ansawdd uchel yn ffactor pwysig mewn gwella’r ysgol a chodi safonau.  Dros y tair blynedd diwethaf, bu’r ysgol yn llwyddiannus o ran meithrin diwylliant dysgu proffesiynol ymhlith cydweithwyr. 

Sefydlodd y pennaeth raglen datblygu proffesiynol o’r enw’r Rhaglen Darpar Arweinwyr (‘Aspiring Leaders Programme’) i rymuso athrawon ac arweinwyr canol i roi newid ysgol gyfan ar waith, gan  ddatblygu’n broffesiynol ar yr un pryd.  Nod y rhaglen oedd datblygu medrau’r holl athrawon a staff yn yr ysgol, wrth adeiladu system gynaliadwy ar gyfer gwella’r ysgol.  

Mae’r rhaglen datblygu proffesiynol wedi dod yn ddull hynod lwyddiannus o greu diwylliant dysgu ymhlith cydweithwyr, sy’n rhoi cyfle i staff allweddol arwain ar flaenoriaethau datblygu ysgol gyfan.  O ganlyniad, mae llawer o staff ar bob lefel yn cyfrannu’n sylweddol tuag at arweinyddiaeth yr ysgol.  Mae wedi arwain at deimlad o gydlyniad a chydweithio sydd wrth wraidd gwella deilliannau i ddisgyblion. 

Mae cynllunio olyniaeth yn dra datblygedig ac yn rhan lwyddiannus o waith yr ysgol.  Mae’r cymorth ymarferol a’r cyfleoedd sy’n cael eu darparu yn golygu bod gan gydweithwyr tra medrus yr hyder i ysgwyddo cyfrifoldebau mwy heriol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch a nodwyd yn arfer sy’n arwain y sector

Mae’r Rhaglen Darpar Arweinwyr yn darparu strwythur i athrawon ganolbwyntio ar wella agweddau ar waith yr ysgol, gyda’r nod o wella perfformiad disgyblion yn y pen draw.

Mae tri phrif faes o ddatblygiad proffesiynol ar gyfer staff:

Mae staff yn cael cyfle i ymgymryd â rôl arweiniol mewn datblygu’r ysgol gyfan.

Mae arweinwyr canol a darpar arweinwyr canol yn cael cyfle i arwain agwedd ar wella’r ysgol gyfan sydd wedi’i nodi’n glir.  Caiff hyfforddiant ei ddarparu gan aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth ar sut i greu Cynllun Datblygu Ysgol ar gyfer yr ysgol gyfan.  Maent yn llunio ac yn cytuno ar strategaethau penodol i fynd i’r afael â blaenoriaethau allweddol ar gyfer y flwyddyn.  Mae’r dull cydlynol a cholegol hwn yn sicrhau y caiff y Cynllun Datblygu Ysgol ei groesawu’n llawn gan arweinwyr canol, sy’n sbarduno gwelliant ar bob lefel yn yr ysgol.  O ganlyniad, mae athrawon yn ennill dealltwriaeth well o nodau strategol yr ysgol a sut mae eu hadran a’u rôl yn cyfrannu at ddeilliannau.

Mae staff yn cael y cyfrifoldeb am gynnal gweithgor ar gyfer eu cydweithwyr, sy’n cynorthwyo ac yn lansio datblygu’r ysgol gyfan.

Mae pob gweithgor yn cael ei arwain gan ddau arweinydd canol neu ddarpar arweinwyr, sy’n defnyddio’r profiad hwn fel rhan o’u Rhaglen Darpar Arweinwyr.  Mae’r arweinwyr canol yn ymchwilio i’r wybodaeth gefndir ar gyfer eu gweithgor.  Maent yn cydweithio â’r arweinydd canol sy’n bartner iddynt i benderfynu ar gyfeiriad eu gweithgor.  Yna, maent yn arwain eu gweithgor drwy gyfres o bum sesiwn datblygiadol.  Mae hyn yn arwain at lansiad gan y gweithgor i’r ysgol gyfan, yn ogystal â chyflwyniad i’r Corff Llywodraethol.  Yna, disgwylir i’r ysgol fabwysiadu argymhellion y gweithgor yn eu harfer addysgu a dysgu.  Mae enghreifftiau’n cynnwys datblygu’r broses arfarnu gwersi, sy’n gyson iawn erbyn hyn, gwella addysgu a dysgu drwy ddatblygu holi lefel uchel, ac arwain strategaethau i wella addysgu llythrennedd a rhifedd ar draws yr ysgol.

Caiff arweinwyr canol eu cynnwys mewn rhaglen hunanarfarnu strwythuredig rhwng ysgolion.

Trwy gymryd rhan mewn hunanarfarnu ar y cyd, mae cydweithwyr wedi rhannu gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol gydag arweinwyr canol o ddwy ysgol arall.  Mae’r medrau a ddatblygwyd trwy’r adolygiadau adrannol hyn rhwng ysgolion wedi rhoi cymhelliad a hunanhyder i gydweithwyr fel arweinwyr dysgu yn Ysgol Gyfun Pontarddulais.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae diwylliant dysgu rhagorol yn yr ysgol.  Mae arweinwyr canol yn arloesol iawn yn eu gwaith, ac yn cynorthwyo i ddatblygu prosesau ysgol gyfan a datblygiadau mewn addysgu a dysgu yn dda iawn.  Mae hyn yn golygu bod addysgu a dysgu yn gryfder amlwg yn yr ysgol.  

Oherwydd datblygiadau a ysgogwyd gan arweinwyr canol, mae gan bron bob aelod o staff ddealltwriaeth fanwl o’r prosesau hunanarfarnu sy’n ategu addysgu a dysgu rhagorol.  Mae’r holl wersi a arsylwyd yn dda ac yn rhagorol.  Mae hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ddeilliannau rhagorol i ddisgyblion.

Bu perthynas waith ragorol, lefelau uchel o ymddiriedaeth, a chyfathrebu hynod effeithiol rhwng arweinwyr canol a’u haelod cyswllt o’r tîm penaethiaid yn ffactorau sylweddol mewn sicrhau cysondeb a chodi safonau.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?  

Mae ysgolion ledled Cymru wedi ymweld ag Ysgol Gyfun Pontarddulais i rannu gwaith yr ysgol.  Yn ogystal, mae cydweithwyr wedi rhoi cyflwyniadau mewn digwyddiadau iNet, yn ogystal â digwyddiadau a drefnwyd gan ranbarth ERW.  Cynorthwywyd cydweithwyr sy’n addysgu mewn ysgolion ‘Her Cymru’ yn agos gan staff o Ysgol Gyfun Pontarddulais mewn sawl agwedd ar eu gwaith. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol arbennig gydaddysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yw Ysgol Plas Brondyffryn ar gyfer disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig (ASA) ac anawsterau dysgu cysylltiedig o 3 i 19 oed.  Mae ganddi gyfleuster preswyl 38 wythnos, sy’n agored o ddydd Llun i ddydd Gwener.  Mae mwyafrif y plant a’r bobl ifanc yn fechgyn, o ganlyniad i nifer uwch yr achosion o awtistiaeth mewn bechgyn.  O ganlyniad i natur y disgyblion, mae’r ysgol yn defnyddio dulliau eraill o gyfathrebu fel system gyfathrebu cyfnewid lluniau, Makaton a chymhorthion cyfathrebu.  Mae’r ysgol wedi ei lleoli ar bedwar safle gwahanol ac yn ymdrechu i gynnal ethos ysgol gyfan ar draws pob safle.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae anghenion amrywiol iawn y disgyblion yn galw am edrych yn gyfannol ar y cymorth sydd ei angen arnynt er mwyn cyflawni eu llawn botensial.  Mae’r ysgol yn dilyn strategaeth weithredol a chynhwysol i ymgysylltu â’r holl randdeiliaid o amgylch y dysgwyr.  Mae’r ymgysylltu hwn yn cynnwys cyflwyno arbenigedd cydweithwyr proffesiynol ac asiantaethau tra’n mynd allan i’r gymuned o rieni a gweithwyr proffesiynol ar yr un pryd i gynnig cymorth, arweiniad a hyfforddiant.  Mae’r strategaeth hon yn cynnwys pedair elfen, a ddatblygwyd dros y saith mlynedd ddiwethaf, ac y cyfeirir ati nawr fel  Gweithio Gyda’n Gilydd:

  • Gweithio gyda’n gilydd yn yr ysgol

  • Gweithio gyda theuluoedd

  • Gweithio gydag ysgolion eraill

  • Gweithio gydag asiantaethau eraill

Bydd yr astudiaeth achos hon yn canolbwyntio ar waith Ysgol Plas Brondyffryn gyda theuluoedd ac ysgolion eraill.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Gweithio gyda theuluoedd

Mae’r ysgol yn gweithio’n galed i gynnal cysylltiadau cyfathrebu rhagorol â rhieni a gofalwyr.  Mae hyn yn bwysig iawn gan fod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn byw yn eithaf pell o’r ysgol, ac mae llawer ohonynt yn preswylio yn ei darpariaeth breswyl.  Mae dulliau cyfathrebu’n cynnwys dyddiaduron dyddiol, galwadau ffôn, nosweithiau rhieni ac adolygiadau blynyddol.  Yn ychwanegol i hyn, mae’r ysgol yn darparu hyfforddiant ar gyfer rhieni ym mhob agwedd ar y materion y gallai rhieni disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig eu hwynebu.  Mae’r ysgol yn cynnal boreau coffi, wedi eu staffio gan athrawon, staff cymorth ymddygiad a staff therapi lleferydd ac iaith.  Mae’r ysgol hefyd yn darparu siaradwyr arbenigol ar bynciau y mae rhieni a gofalwyr yn gofyn amdanynt.

Gweithio gydag ysgolion eraill

Nod yr ysgol yn y rhaglen Gweithio gydag Ysgolion yw rhannu arbenigedd wrth weithio gyda disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig ac felly codi lefel yr arbenigedd ynglŷn â chynorthwyo disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig ym mhob ysgol.  Mae’r ysgol yn cynnig dwy lefel o gymorth allymestyn, gan ddefnyddio athrawon a chynorthwywyr addysgu a staff UDA profiadol.  Mae clinig galw i mewn wythnosol a gynhelir yn yr ysgol am ddim i’r holl weithwyr addysgu proffesiynol yn y sir.  Mae’r ysgol wedi datblygu llyfrgell eang o lenyddiaeth, DVDau ac offer synhwyraidd, sy’n gallu cael eu benthyca gan unrhyw ysgol yn y sir.  Mae’r ysgol yn cefnogi datblygiad proffesiynol ei staff ei hun a staff ysgolion eraill trwy annog staff Ysgol Plas Brondyffryn i ymweld â darparwyr addysg arbenigol eraill a thrwy groesawu gweithwyr proffesiynol gwadd o ysgolion eraill er mwyn gallu rhannu arfer dda.  Mae’r ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â’r prifysgolion rhanbarthol i ddarparu lleoliadau ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion ym maes addysg ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anhwylder y sbectrwm awtistig yn benodol.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dywed rhieni a gofalwyr eu bod yn teimlo’n fwy abl i gynorthwyo eu plant yn effeithiol ac maent yn teimlo’n fwy hyderus wrth gyflawni’r heriau sy’n eu hwynebu.  Maent yn gweld y cynnydd a wna eu plant pan fyddant yn cymhwyso’r hyn y maent wedi ei ddysgu, ac mae’r llwyddiant hwn yn creu teimlad cadarnhaol ynglŷn â’u medrau a’u cynnydd eu hunain.  Gellir gweld tystiolaeth o hyn trwy lwybrau adborth amrywiol, gan gynnwys holiaduron i rieni, adborth mewn boreau coffi ac arfarniadau hyfforddiant.

Trwy weithio gydag ysgolion eraill, mae’r tîm allymestyn a’r arbenigedd y maent yn ei rannu wedi galluogi staff i ddatblygu a mireinio’r modd y maent yn cynorthwyo disgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig yn yr amgylchedd ysgol prif ffrwd.  Caiff yr holl ymweliadau eu harfarnu gan yr ysgolion cleient ac mae’r rhain yn eithriadol o gadarnhaol.  Mae’r gwasanaeth allymestyn wedi bod â rhan bwysig mewn cadw disgyblion yn yr ysgol prif ffrwd ac o ran helpu ysgolion i greu amgylchedd cadarnhaol, cefnogol ac adeiladol y gall disgyblion lwyddo ynddo.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Datblygwyd cyrsiau ar gyfer staff i ddechrau, ond mae’r ysgol bellach yn cynnig ystod eang o gyrsiau hyfforddi i wahanol grwpiau o gleientiaid, gan gynnwys rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am y darparwr

Ffurfiwyd Coleg Cambria yn Awst 2013 ar ôl uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl i fod yn un o’r colegau mwyaf yn y DU, yn gwasanaethu tair ardal awdurdod lleol.  Roedd Coleg Glannau Dyfrdwy wedi uno yn flaenorol â Choleg Garddwriaeth Cymru yn 2009 a Choleg Llysfasi yn 2010.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Y ddau ffactor allweddol o ran sicrhau bod Coleg Cambria yn cael ei uno a’i sefydlu’n effeithiol yw arweinyddiaeth gref a llywodraethu effeithiol.  Deuddeg mis cyn uno, ffurfiodd Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl fwrdd llywodraethol cysgodol, a weithredodd yn gyflym i benodi’r Pennaeth a’r Prif Weithredwr, wedi ei ddilyn yn fuan gan yr uwch dîm swydd-ddeiliaid.  Fe wnaeth penodiadau cynnar, llywodraethu arbenigol a chynllunio manwl alluogi i isadeiledd gweithredol allweddol fod ar waith ymhell cyn y dyddiad uno, gan gynnwys systemau rheoli data a’r tîm arweinyddiaeth ehangach ar gyfer Coleg Cambria.  Cyn uno, datblygodd y coleg Weledigaeth o Ragoriaeth yn sgil digwyddiadau ymgynghori helaeth â staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu’r weledigaeth a’r gwerthoedd ar gyfer y coleg newydd.  Fe wnaeth y Weledigaeth o Ragoriaeth amlinellu datganiad cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd y sefydliad newydd yn glir, yn ogystal â blaenoriaethau strategol.  Crëwyd enw’r coleg gan y staff a chytunodd llywodraethwyr ar y brand, yn seiliedig ar gysyniad amrywiaeth a chydlyniad.  Crëwyd Coleg Cambria fel brand trosfwaol clir, ond gall safleoedd gadw eu hunaniaeth unigryw â chymunedau lleol o hyd. Sicrhaodd y gwaith helaeth hwn cyn uno gan arweinwyr a llywodraethwyr fod gan y coleg newydd ddiben strategol clir yr oedd staff yn cyd-fynd ag ef o’r cychwyn, yn ogystal â’r isadeiledd allweddol a oedd yn galluogi’r coleg i weithredu’n effeithiol ar ôl yr uno.

Yn syth ar ôl yr uno, rhoddodd yr uwch dîm arweinyddiaeth flaenoriaeth i’r gweithgareddau datblygu proffesiynol a fyddai’n dod â staff at ei gilydd ac yn cael effaith gyflym a chlir.  Cafodd yr holl staff addysgu a staff asesu hyfforddiant, a oedd o gymorth wrth rannu dealltwriaeth ar y cyd o’r hyn sy’n gwneud dysgu effeithiol.  Canolbwyntiodd y tîm cymorth busnes ar wella profiad y dysgwr/cwsmer a datblygu prosesau hynod effeithlon mewn coleg mawr.

Fe wnaeth yr uno alluogi’r coleg i edrych o’r newydd ar bolisïau craidd, ac yn hytrach na mabwysiadu’r arfer gryfaf o’r colegau cyn yr uno, manteisiodd arweinwyr ar y cyfle i chwilio am ddulliau newydd ac fe wnaethant ddefnyddio grwpiau gorchwyl a gorffen i ddatblygu’r rhain yn bolisïau i’w rhoi ar waith.  Fe wnaeth y grwpiau hyn alluogi cyfleoedd pwrpasol ar gyfer adeiladu timau ar draws y coleg a chrëwyd enillion cyflym gydag effaith fawr.

Mae cyfathrebu wedi bod yn allweddol ar gyfer sefydlu ethos clir yn y coleg.  Mae diweddariadau wythnosol y Pennaeth yn rhannu newyddion am y coleg a’r sector, ac mae uwch arweinwyr yn cyfathrebu’n rheolaidd ac yn effeithiol iawn gyda’u timau gan ddefnyddio ystod o offer cyfryngau cymdeithasol.  Mae hyn yn galluogi pob un o’r staff i deimlo cysylltiad a bod yn rhan o’r hyn y mae’r Coleg yn ei alw’n ‘tîm Cambria’.

O fewn chwe mis i’r uno, trodd y coleg ei werthoedd craidd newydd yn set o ddeg ymddygiad.  Galluogodd yr ymddygiadau hyn i staff weld y modd yr oedd y gwerthoedd roeddent wedi eu dewis a’u cynnwys yn y ‘Weledigaeth o Ragoriaeth’ yn rhan annatod o weithrediadau dyddiol y coleg a gellid eu dangos yn eu gweithredoedd.  Buan y daeth yr ymddygiadau yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer staff, rheolwyr a llywodraethwyr, yn cefnogi arweinyddiaeth a llywio gwneud penderfyniadau ar bob lefel.  Maent yn weladwy yn holl feysydd y coleg; caiff pob aelod o staff newydd gyfnod ymsefydlu yn seiliedig ar ymddygiadau’r coleg ac mae staff yn myfyrio’n rheolaidd ar y modd y maent wedi dangos yr ymddygiadau ar waith mewn cyfarfodydd tîm ac yn eu gwerthusiadau.  Mae cynllun cydnabod y coleg hefyd yn dathlu a gwobrwyo staff a thimau sy’n dangos ymddygiad penodol.  Mae defnyddio ymddygiadau wedi galluogi’r coleg i sefydlu ethos a diwylliant cryf yn gyflym.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r camau gweithredu a amlinellir wedi sicrhau uno llwyddiannus iawn ar raddfa fawr.  Mae’r coleg wedi dangos cyfraddau llwyddiant uchel dros gyfnod, sy’n rhoi’r coleg yn chwartel uchaf yr holl golegau yng Nghymru, ac yn dangos tuedd ar i fyny dros dair blynedd.  Mae’r coleg wedi gwneud cynnydd effeithiol yn erbyn ei holl ganlyniadau allweddol ac mae ganddo gategoreiddiad iechyd ariannol gradd A.  Mae camau gweithredu effeithiol cyn yr uno, a sefydlu hunaniaeth, ethos a diwylliant cadarn, yn ategu perfformiad presennol a rhagolygon gwella rhagorol y coleg.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am y darparwr

Mae adran gwallt a harddwch Coleg Cambria yn cyflwyno ystod eang o gyrsiau amser llawn o lefel mynediad i lefel tri, gyda chyrsiau mewn trin gwallt, therapi harddwch, therapi sba, gwasanaethau ewinedd a cholur theatrig a’r cyfryngau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ymrwymiad cryf y coleg i fodloni anghenion yr holl ddysgwyr yn sicrhau bod dysgwyr ar bob lefel, beth bynnag fo’u cefndir, yn ennill eu cymwysterau gwallt a harddwch ac yn ennill ystod o fedrau sydd eu hangen arnynt i fynd ymlaen i gyflogaeth neu lefelau dysgu uwch.  Mae’r cwricwlwm wedi ei ddatblygu’n ofalus o amgylch anghenion y sector a blaenoriaethau’r cyflogwr, yn lleol ac yn genedlaethol fel ei gilydd.  Mae partneriaethau effeithiol ag ystod eang o gyflogwyr yn darparu ystod eang o gyfleoedd dysgu ar gyfer yr holl ddysgwyr a staff.  O ganlyniad, mae dysgwyr gwallt a harddwch yn hynod fedrus ac yn bodloni anghenion cyflogwyr.

Nod gweledigaeth y coleg ar gyfer rhagoriaeth yw sicrhau llwyddiant pob dysgwr trwy ‘ymgorffori diwylliant cefnogol o arloesedd a chreadigrwydd, gan herio pawb i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i greu dyfodol llwyddiannus’.  Mae’r tîm gwallt a harddwch yn defnyddio technoleg ddigidol yn hynod effeithiol i ennyn diddordeb dysgwyr a’u herio.  Mae athrawon yn defnyddio adnoddau digidol yn eithriadol o dda i hyrwyddo dysgu, cefnogi asesu a monitro cynnydd.  Mae dysgwyr yn defnyddio cymunedau dysgu digidol i gofnodi eu dysgu a myfyrio arno, a chreu portffolios digidol o ansawdd uchel i arddangos eu medrau.  Mae’r coleg wedi buddsoddi mewn ystod o feddalwedd, sy’n galluogi’r tîm gwallt a harddwch i fonitro cynnydd yr holl ddysgwyr, a rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen ar waith yn gyflym i gadw dysgwyr ar y trywydd cywir i gyflawni eu potensial.  Mae dysgwyr yn dysgu sut i osod eu targedau dysgu effeithiol eu hunain a datblygu arferion dysgu annibynnol.  Mae athrawon yn monitro cynnydd dysgwyr o grwpiau mewn perygl yn fanwl, gan ddefnyddio gwasanaethau cymorth ac anghenion dysgu ychwanegol y coleg yn dda i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cyflawni. 

Mae’r cwricwlwm gwallt a harddwch yn ymgorffori ystod o fedrau cyfathrebu a meddwl lefel uwch ac mae dysgwyr yn cymhwyso’r rhain yn llwyddiannus ac yn hyderus yn eu cyd-destun galwedigaethol.  Mae dysgwyr yn datblygu eu gallu i ddefnyddio cwestiynau treiddgar wrth ymgynghori â chleientiaid i   weld beth sydd ei angen ar gleientiaid a dysgu sut i roi cyngor, gan gymhwyso eu gwybodaeth alwedigaethol i awgrymu arddulliau.  Mae dysgwyr yn datblygu medrau adwerthu cryf hefyd, ac maent yn cymhwyso eu medrau rhifedd yn effeithiol trwy dargedau misol a dadansoddi eu cynhyrchiant a’u perfformiad o ran gwerthiant.  Mae dysgwyr yn elwa’n fawr hefyd ar gymryd rhan mewn cystadlaethau medrau rhanbarthol a chenedlaethol.  Mae’r dysgwyr hyn yn datblygu medrau gwerthfawr, gan gynnwys hyder, gwydnwch a hunangred.

Mae partneriaethau hynod effeithiol, a ddatblygwyd gydag ystod o gyflogwyr a chwmnïau cenedlaethol, yn llywio cynllunio’r cwricwlwm.  Defnyddir gwybodaeth y farchnad lafur yn bwrpasol i lywio cynllunio’r cwricwlwm, ac mae cyflogwyr yn helpu i ffurfio’r cwricwlwm i sicrhau bod medrau galwedigaethol dysgwyr yn bodloni anghenion diwydiant.  Caiff hyn effaith gadarnhaol ar ddeilliannau gan fod bron pob un o’r dysgwyr trin gwallt a therapi harddwch yn datblygu medrau proffesiynol o ansawdd uchel yn eu gwaith ymarferol.  Mae’r cysylltiadau agos y mae partneriaid wedi eu meithrin gyda’r coleg yn cyfoethogi profiadau dysgu ymhellach trwy gyfleoedd profiad gwaith, siaradwyr gwadd, hyfforddiant medrau ac arddangosiadau ymarferol.  Mae’r partneriaethau a sefydlwyd gyda brandiau proffesiynol blaenllaw yn galluogi staff i ddilyn hynt a helynt datblygiadau yn y diwydiant a gwella eu medrau masnachol ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar fedrau, ynghyd â’r olrhain a’r cymorth trylwyr i’r holl ddysgwyr gyflawni, wedi cael gwelliant nodedig yn y cyfraddau llwyddiant.  Mae cyfraddau llwyddiant y cwrs hir Gwallt a Harddwch yng Ngholeg Cambria yn rhagorol, sef 89%, naw pwynt canran uwchlaw’r cymharydd cenedlaethol.  Bu tuedd ar i fyny dros dair blynedd, a chynnydd o 13 pwynt canran yn y ddwy flynedd ddiwethaf, sy’n gosod y coleg ar frig chwartel gyntaf yr holl golegau yng Nghymru ar gyfer cyrsiau hir Gwallt a Harddwch.  Mae bron pob un o’r dysgwyr yn ennill eu cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn llwyddiannus o ran cymhwyso rhif, TG a chyfathrebu.  Mae dysgwyr o gefndiroedd sydd dan fwy o anfantais yn gymdeithasol a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn llwyddo i gyflawni ymhell uwchlaw’r cymharydd cenedlaethol ar gyfer deilliannau dysgwyr.  Mewn cystadlaethau medrau rhanbarthol a chenedlaethol, mae dysgwyr Coleg Cambria yn cyflawni’r lefel uchaf o ddyfarniadau yn rheolaidd.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

 

Gwybodaeth am y darparwr

Sefydlwyd Coleg Cambria yn Awst 2013 o ganlyniad i uno Coleg Glannau Dyfrdwy a Choleg Iâl.  Mae gan y coleg enw da am ei ddefnydd arloesol o dechnoleg ddigidol ac mae’n aelod gweithredol o sawl grŵp technoleg cenedlaethol.  Mae hefyd yn cymryd rhan mewn dau brosiect Ewropeaidd ar ddysgu cyfunol effeithiol.  Mae staff Coleg Cambria wedi ennill sawl gwobr addysgu genedlaethol am ddysgu digidol a defnyddio technoleg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Cyn yr uno, buddsoddodd y ddau goleg yn sylweddol i sicrhau bod gan bob safle wasanaeth wi-fi llawn.  Symudodd y ddau goleg adnoddau oddi wrth ystafelloedd TG a thuag at brynu “chromebooks”, gan alluogi i fwy o fyfyrwyr ddefnyddio cyfrifiaduron mewn amgylcheddau dysgu digidol hyblyg.  Daeth yr uno ag arfer orau at ei gilydd.  Roedd Coleg Iâl wedi datblygu’r defnydd o apiau dysgu ac roedd Coleg Glannau Dyfrdwy wedi datblygu offer technoleg cwmwl.  Yn y flwyddyn cyn yr uno, bu Cyfarwyddwr TG Coleg Glannau Dyfrdwy yn gweithio ar draws y ddau goleg i sicrhau bod yr isadeiledd angenrheidiol ar waith, ac roedd yr holl staff a myfyrwyr yn defnyddio un llwyfan cwmwl oedd ag offer swyddfa, cyfryngau cymdeithasol ac addysg.  Roedd gan y ddau goleg nifer sylweddol o staff brwdfrydig, a oedd yn hynod hyderus mewn defnyddio technoleg.  Ethos Coleg Cambria yw ‘ysbrydoli, arloesi, llwyddo’, ac o’r cychwyn, cafwyd ymrwymiad cryf gan bob arweinydd i ddefnyddio technoleg i ddatblygu cyfleoedd dysgu arloesol ac arferion busnes effeithiol.

Caiff y rhan fwyaf o ddysgwyr yng Ngholeg Cambria gyfle i ddefnyddio “chromebooks” yn eu dosbarthiadau, ac maent yn defnyddio dulliau dysgu cyfunol yn rheolaidd.  Defnyddiodd arweinwyr y coleg yr athrawon a oedd eisoes yn manteisio ar dechnoleg newydd i roi cynnig ar offer dysgu digidol newydd.  Roedd yr athrawon hyn yn rhannu arfer orau â’i gilydd, ac mae’r canlynol wedi dod i’r amlwg fel cymwysiadau technoleg poblogaidd, sydd bellach yn cael eu defnyddio gan y rhan fwyaf o athrawon:

  • ‘cymunedau’ cyfryngau cymdeithasol ar gyfer rhannu

  • offer ‘ystafell ddosbarth’ i rannu adnoddau a chyflwyno aseiniadau

  • technoleg cwmwl ar gyfer cydweithio

  • blogiau dysgwyr i gofnodi a myfyrio ar fedrau a chreu portffolios digidol

  • cwisiau ar-lein ac apiau gemau i wirio dysgu ac ymgysylltu â dysgwyr

Mae rheolwyr y Coleg yn rhannu’r defnydd gorau o ddysgu digidol trwy gyfarfodydd tîm.  Mae llawer o staff a dysgwyr yn defnyddio’r offeryn cymunedau yn rheolaidd fel eu ffordd gyflymaf a mwyaf effeithiol o gyfathrebu i rannu adnoddau a syniadau.

Mae wi-fi dibynadwy yn golygu y gall dysgwyr ddefnyddio apiau dysgu a llwyfannau ar y we ar eu dyfeisiau symudol.  Mae gan bob dysgwyr eu hofferyn cynllunio dysgu unigol eu hunain, a defnyddiant hwn i osod eu targedau dysgu a’u monitro.  Yn y cyfnod ymsefydlu, caiff yr holl ddysgwyr eu cyflwyno i ap ‘guidebook’ y coleg i fanteisio ar eu hapiau dysgu, gwybodaeth bersonol a gwasanaethau myfyrwyr.  Caiff diweddariadau newyddion ar gyfer myfyrwyr eu ffrydio trwy dudalen cyfryngau cymdeithasol.  Mae dysgwyr sy’n fyfyrwyr yn defnyddio ap pwrpasol i ‘gymryd y tymheredd’ yn rheolaidd a chael adborth gan gyd-fyfyrwyr ar ystod o faterion trwy gydol y flwyddyn.  Defnyddir y wybodaeth hon gan reolwyr a grwpiau llais myfyrwyr fel rhan o wella ansawdd.

Caiff y rhaglen fugeiliol ei haddysgu ar draws y coleg trwy raglen bwrpasol ar y we, sy’n galluogi’r holl athrawon i fanteisio ar adnoddau o ansawdd uchel ar addysg bersonol a chymdeithasol, ac yn dangos arfer orau mewn dysgu cyfunol.  Mae bathodynnau digidol Coleg Cambria yn gwobrwyo’r holl ddysgwyr am bresenoldeb a chynnydd rhagorol, ac yn achredu gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys hyfforddiant e-ddiogelwch a gweithgareddau entrepreneuriaeth.

Mae datblygiad proffesiynol athrawon yn gyfunol hefyd, ac mae athrawon yn cymryd rhan mewn pecynnau a ddatblygwyd gan y coleg sy’n dangos offer newydd i ennyn creadigrwydd mwy proffesiynol.  Mae technoleg ddigidol wedi gwella llawer o weithrediadau busnes, gan gynnwys rheoli perfformiad.  Caiff data allweddol ei ffrydio mewn dangosfyrddau byw, gan alluogi staff ar bob lefel i fonitro ystod o fesurau perfformiad allweddol yn agos a nodi a mynd i’r afael â materion yn gyflym.  Mae’r coleg yn sefydliad dibapur ar y cyfan, ac yn defnyddio ffolderi a dogfennau cwmwl ar gyfer cyfarfodydd.  Defnyddir gwe gynadledda bob dydd ar gyfer yr holl gyfarfodydd ar draws safleoedd i osgoi teithio diangen rhwng safleoedd a galluogi cyfarfodydd rhithwir wyneb yn wyneb.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae bron pob un o ddysgwyr Coleg Cambria yn datblygu’r medrau dysgu digidol sydd eu hangen i fynd ymlaen i lefelau dysgu uwch ac i gyflogaeth.  Defnyddiant ystod eang o dechnoleg yn hyderus ac fel rhan naturiol o’u dysgu o ddydd i ddydd yn y coleg.

Defnyddir technoleg yn effeithiol iawn yn holl agweddau gweithredol Coleg Cambria.  Mae technoleg yn galluogi’r coleg ar bob lefel i rannu arfer orau a gwybodaeth allweddol gyda’i gilydd yn gyflymach.  Mae’n sicrhau bod data a gwybodaeth am ddysgwyr yn cael eu cyfleu a’u rheoli yn effeithiol, a ddefnyddir gan yr holl staff a dysgwyr i reoli a gwella perfformiad. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth gyd-destunol fer am y darparwr/y bartneriaeth

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn gorff diwydiant sy’n cynrychioli’r sector adeiladu.  Mae’n gweithio mewn partneriaeth â nifer sylweddol o gyflogwyr, y rhan fwyaf o golegau addysg bellach ledled Cymru a nifer bach o ddarparwyr hyfforddiant preifat er mwyn hyfforddi prentisiaid ar draws amrywiaeth fawr o raglenni adeiladu.  Mae’r darparwr yn cyflwyno prentisiaethau uwch, prentisiaethau a phrentisiaethau sylfaen ar draws Cymru.

Cyd-destun a chefndir yr arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Amlygodd y darparwr angen i barhau i wella perfformiad ei isgontractwyr mewn colegau a pherfformiad dysgwyr ar draws Cymru.  O ganlyniad, datblygodd strategaeth gynhwysfawr ar gyfer olrhain cynnydd dysgwyr ac isgontractwyr.  Arweiniodd y strategaeth at ddatblygu system fanwl o reoli perfformiad, sy’n casglu amrywiaeth eang o wybodaeth yn ymwneud â chynnydd dysgwyr a pherfformiad pob isgontractwr mewn coleg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a amlygwyd yn arfer ragorol/arfer sy’n arwain y sector

Mae’r darparwr wedi datblygu system rheoli perfformiad i olrhain cynnydd dysgwyr a monitro perfformiad ei isgontractwyr mewn colegau.  Bu’n hynod effeithiol wrth amlygu ac olrhain effeithiolrwydd y cymorth a roddwyd i’r dysgwyr hynny sydd mewn perygl o dangyflawni neu adael eu rhaglen hyfforddi.  O ganlyniad, mae cyfraddau cadw a llwyddiant dysgwyr wedi parhau i wella ac mae nifer y dysgwyr a gwblhaodd eu hyfforddiant erbyn y dyddiad cwblhau bwriadedig yn uchel iawn.

Mae’r darparwr wedi cynhyrchu canllaw cynhwysfawr ar gyfer hyfforddi staff.  Mae’n amlygu’r prif resymau dros dangyflawni a gadael rhaglenni hyfforddi cyn y dyddiad gorffen bwriadedig, a’r prif ddangosyddion, yn glir.  Mae’r canllaw hwn yn amlinellu’n syml y camau gweithredu y dylai staff hyfforddi eu cymryd a’r cwestiynau y dylent eu gofyn er mwyn pennu faint o risg sydd y bydd dysgwyr yn gadael y rhaglen.  Datblygwyd y canllaw hwn gan dîm o ymarferwyr gan ddefnyddio adborth gan ddysgwyr a dadansoddiad o ddata yn ymwneud â’r rhesymau pam mae dysgwyr yn gadael rhaglenni hyfforddi yn gynnar.  Mae’r ddogfen yn gofyn pedwar cwestiwn allweddol i staff eu defnyddio yn ystod dyddiau cynnar y rhaglen hyfforddi i bennu risg, drwy sicrhau:

  • bod pob dysgwr yn hapus o hyd â’i ddewis o raglen

  • bod gan bob dysgwr ei gynllun dysgu neu hyfforddi, ac yn ei ddeall

  • bod pob dysgwr yn gyfforddus yn y gweithle ac yn y coleg

  • os oes unrhyw beth ychwanegol y gall y darparwr ei wneud i helpu dysgwyr i ddod i arfer â’u rhaglen hyfforddi

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ansawdd y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr

Bu’r strategaeth hon yn hynod effeithiol wrth wella lefelau cadw dysgwyr, eu cynnydd a’u llwyddiant.  Mae wedi amlygu pwysigrwydd monitro cynnydd dysgwyr yn gyson ac ymyrraeth gyflym i fynd i’r afael â phryderon sy’n cael eu hamlygu.  Mae staff hyfforddi wedi datblygu eu medrau a’u hyder o ran gallu bodloni anghenion cymorth dysgwyr unigol ac maent yn eu cefnogi’n effeithiol i gyflawni eu cymwysterau a’u hyfforddiant.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Severn yn ardal Treganna yng Nghaerdydd.  Mae 407 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, a 146 o ddisgyblion meithrin pellach yn mynychu’r ysgol ar sail ran-amser.

Mae tua 24% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae gan 25% ohonynt anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan yr ysgol ddisgyblion o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys dros 50 o ieithoedd a thafodieithoedd, y rhai mwyaf cyffredin ohonynt yw Wrdw ac Arabeg.  Mae llawer o ddisgyblion yr ysgol yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol yn gymuned eithriadol o gytûn a chynhwysol, sy’n cael ei hadlewyrchu yn ei datganiad o weledigaeth, sef: ‘Gyda’n gilydd rydym yn dysgu, gyda’n gilydd rydym yn tyfu’ (‘Together we learn, together we grow’).

Er bod bron i chwarter y disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae staff yn cydnabod y daw llawer mwy o’r disgyblion o gartrefi lle maent wedi cael profiadau bywyd cyfyngedig iawn.  Er enghraifft, nid yw rhai o ddisgyblion yr ysgol erioed wedi ymweld â’r traeth neu’r sinema, nac wedi bod i ganol y ddinas.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i ddulliau arloesol i ehangu profiadau disgyblion a’u hannog i fod yn uchelgeisiol.

Nod prosiect ‘Sand Between Our Toes’ yr ysgol yw rhoi rhai o’r gweithgareddau diwylliannol, chwaraeon, creadigol ac anturus i ddisgyblion y mae’n bosibl nad ydynt wedi cael profiad ohonynt.  Mae’r ysgol wedi cyflawni hyn trwy gynllunio dros 40 o ymweliadau i ddisgyblion o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6, a gwahodd ystod eang o ymwelwyr i’r ysgol i wella’r cwricwlwm.

Mae’r ysgol yn defnyddio lleoliadau diwylliannol ledled Caerdydd i danio chwilfrydedd y disgyblion a datgelu doniau efallai nad ydynt wedi’u darganfod hyd yn hyn, er enghraifft Neuadd Dewi Sant, amgueddfeydd, canolfannau celfyddydau lleol a mannau addoli lleol.  Mae ymwelwyr fel Opera Cenedlaethol Cymru, grwpiau theatr ac adroddwyr storïau yn helpu i ysbrydoli disgyblion a chodi eu dyheadau, gan eu galluogi i sylweddoli a gwerthfawrogi’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael iddynt yn lleol. 

Mae partneriaethau â llawer o sefydliadau chwaraeon yn galluogi disgyblion i gael profiad o ystod eang o weithgareddau.  Yn fwyaf diweddar, mae’r rhain wedi cynnwys jiwdo a badminton.  Cychwynnwyd clwb amlchwaraeon sy’n denu llawer iawn o ferched yn sgil staff yn nodi cymhareb isel y merched Mwslimaidd sy’n cymryd rhan mewn clybiau chwaraeon.

Bu ysbrydoli creadigrwydd yn ei disgyblion yn amlweddog, ac mae prosiectau’n amrywio o beirianneg i berfformiadau cerddorol.  Mae gan Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) broffil uchel yn yr ysgol, ac mae peirianwyr lleol yn gweithio gyda disgyblion yn ystod ac ar ôl y diwrnod ysgol. 

Mae staff yn ysbrydoli disgyblion i ddatblygu eu medrau anturus ar bob lefel, o ddyddiau mewn canolfannau gweithgareddau awyr agored (y mae cymdeithas rhieni ac athrawon yr ysgol yn talu amdanynt) i sgrialu pyllau glan môr neu gicio dail yn y parc.

Roedd gan lawer o ddisgyblion yr ysgol ddyheadau cyfyngedig iawn gynt, ac nid oeddent yn gallu nodi gyrfa ar gyfer y dyfodol na delfryd ymddwyn.  O ganlyniad, datblygodd yr ysgol wythnos ‘Agorwch Eich Llygaid/Open Your Eyes’ i ddisgyblion Blwyddyn 6.  Bob blwyddyn, mae staff yn gwahodd gweithwyr proffesiynol o ystod eang o alwedigaethol i siarad am eu gwaith a’r hyn â’u hysbrydolodd, gan sicrhau ei fod yn herio ystrydebau.  Bellach, mae’r wythnos hon yn cynnwys disgyblion o Flwyddyn 5 hefyd. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae ffocws yr ysgol ar ddod o hyd i ddulliau dychmygus i ehangu profiadau disgyblion a’u hannog i fod yn uchelgeisiol wedi arwain at agwedd fwy uchelgeisiol a chadarnhaol gan ddysgwyr tuag at eu dyfodol.

“Ar ôl i mi gael addysg, galla’ i wneud unrhyw beth mewn bywyd.”  J.O, 11 oed.

 “Does neb wedi fy ysbrydoli fel chi…  Nawr dw i’n gwybod bod gen i ddyfodol disglair.  Nawr dw i am fwrw ati a gweithio’n arbennig o galed” N.S. 10 oed.

 “Dw i’n gwybod nad oes ots am fy nghefndir o ran cyflawni fy nodau.” M.M. 11 oed. 

 “Mae eich gwaith chi mor gyfareddol, mae wedi newid fy nyfodol.” K.S. 10 oed.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Treorci yn ysgol gymunedol, gymysg i rai 11 i 18 oed, a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.  Mae’n ysgol cyfrwng Saesneg sydd â darpariaeth Gymraeg sylweddol.  Mae’r ysgol yn galluogi disgyblion o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i barhau i astudio tua hanner eu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yng nghyfnod allweddol 3.  Mae tua 1,630 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae tua 363 ohonynt yn y chweched dosbarth.  Daw disgyblion o dref Treorci a’r cymoedd cyfagos. 

Mae tua 23.3% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae deg y cant o’r disgyblion yn rhugl yn y Gymraeg, a gall 39% ohonynt siarad Cymraeg, ond nid yn rhugl.  Mae tuag 8% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Mae llai nag 1% o’r disgyblion yn siarad iaith arall heblaw Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

Cyd-destun a chefndir i arfer sy’n arwain y sector

Mae Ysgol Gyfun Treorci wedi’i lleoli yng Nghwm Rhondda Uchaf, sydd â chysylltiadau cryf iawn â’r iaith Gymraeg a balchder mawr yn ei dreftadaeth Gymreig, yn draddodiadol.

Pan nodwyd angen i ymestyn a datblygu disgyblion mwy abl a thalentog (MAT), roedd yn gwneud synnwyr perffaith i gyfuno eu diddordeb yn yr iaith Gymraeg a Chymreictod â’u dealltwriaeth a’u gallu ieithyddol er mwyn darparu cyfleoedd iddynt gyflymu eu dysgu yn y maes hwn.  Er bod y strategaeth hon yn cynnwys niferoedd bach o ddisgyblion a staff yn wreiddiol, fe esblygodd yn sydyn i effeithio ar yr ysgol gyfan.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae darpariaeth ar gyfer y Gymraeg yn Ysgol Gyfun Treorci wedi sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel, parhad a chysondeb wrth bontio rhwng cyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3, trwy gydweithio â’i hysgolion cynradd bwydol.  Caiff y Gymraeg ei chyflwyno gan aelodau staff Ysgol Gyfun Treorci i ddisgyblion Blwyddyn 6 yn ysgolion cynradd y clwstwr.  Maent hefyd yn paratoi adnoddau a chynlluniau gwaith ar gyfer gwersi Cymraeg sy’n cael eu haddysgu gan staff yr ysgolion cynradd.

Rhoddir cyfle i ddisgyblion MAT o ysgolion cynradd Saesneg ddatblygu eu medrau ieithyddol drwy ddarpariaeth Cwrs Carlam Cymraeg.  Caiff disgyblion eu haddysgu’n ddwyieithog mewn nifer o bynciau er mwyn helpu i ddatblygu eu medrau iaith.  Yna, bydd y disgyblion hyn yn sefyll TGAU mewn Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Blwyddyn 9 ac yn cwblhau eu cymhwyster Uwch Gyfrannol mewn Cymraeg ail iaith ym Mlwyddyn 11.  Mae hyn wedi arwain at dros 300 o ddisgyblion yn cyflawni’r graddau TGAU uchaf ddwy flynedd yn gynnar, a’r graddau UG uchaf flwyddyn yn gynnar.  Er 2009, rhoddwyd cyfle i ddisgyblion o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sy’n dewis parhau â’u haddysg yn Ysgol Gyfun Treorci astudio rhai o’u pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn bodloni eu hanghenion.

Yng nghyfnod allweddol 4, mae bron pob un o’r disgyblion yn astudio’r TGAU Cymraeg cwrs llawn, ac mae’r gweddill ohonynt yn astudio NVQ mewn Cymraeg.  Rhoddir cyfle i ddisgyblion Cymraeg iaith gyntaf astudio’r cwrs TGAU Cymraeg iaith gyntaf.  Yng nghyfnod allweddol 5, rhoddir cyfle i ddisgyblion astudio ar gyfer cymhwyster Lefel Uwch mewn Cymraeg iaith gyntaf neu ail iaith.

Mae ymagwedd ysgol gyfan tuag at Ddwyieithrwydd a’r dimensiwn Cymreig yn amlwg yn Ysgol Gyfun Treorci.  Caiff nodweddion diwylliannol, economaidd, hanesyddol ac ieithyddol Cymru eu hymgorffori ar draws y cwricwlwm ffurfiol ac anffurfiol, gan roi profiadau dysgu effeithiol i ddisgyblion sy’n eu cynorthwyo i gyflawni deilliannau rhagorol.  Mae’r iaith Gymraeg yn treiddio drwy’r ysgol ac fe’i clywir ym mhob gwasanaeth a gwers.  Ar hyn o bryd, mae nifer fawr o staff yn ymgymryd â gwersi Cymraeg yn eu hamser eu hunain er mwyn datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r iaith.

Bydd darpariaeth ar gyfer disgyblion sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac ail iaith yn parhau i gael ei datblygu er mwyn sicrhau bod ganddynt lwybrau dysgu sy’n gweddu i’w hanghenion.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r strategaeth wedi arwain at y deilliannau canlynol:

  • mae wedi hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag ta ddefnyddio’r iaith Gymraeg
  • mae disgyblion yn nosbarthiadau’r Cwrs Carlam wedi ennill graddau A*-B yn eu harholiadau TGAU Cymraeg
  • rhoddir cyfle i ddisgyblion ennill cymhwyster UG ychwanegol a phwyntiau UCAS gwerthfawr
  • mae medrau Cymraeg disgyblion wedi gwella, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn siarad Cymraeg yn rhugl iawn

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Er 2012, mae dros 70 o sefydliadau addysgol wedi ymweld â’r ysgol i gymryd rhan mewn cyfleoedd i rannu arfer orau.  Fel Hwb Canolbarth y De ar gyfer Cymraeg, mae’r ysgol wedi darparu gweithdy ar Ddatblygu’r Gymraeg a Dwyieithrwydd, yn ogystal â rhaglen i wella ysgrifennu mewn Cymraeg ail iaith ar lefel 2.  Mae ‘arweinydd newid’ profiadol wedi darparu cymorth drwy waith rhwng ysgolion ag ysgolion coch a melyn.