Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol
Gwybodaeth am yr ysgol
Mae Ysgol Haberdashers i Fechgyn, Trefynwy, yn ysgol ddydd a phreswyl annibynnol sydd wedi’i lleoli yn Nyffryn Gwy, sydd â hanes cyfoethog yn ymestyn dros 400 mlynedd. Mae 472 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, sy’n cynnwys 126 o ddisgyblion preswyl a 171 yn ei Chweched Dosbarth cydaddysgol. Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsarïau ar gael i ddisgyblion sy’n ymuno ym Mlynyddoedd 7, 9 a 12, ac mae ceisiadau’n agored i bob ymgeisydd, p’un a ydynt yn ddisgyblion preswyl neu’n ddisgyblion dydd.
Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol
Mae llyfrgell Ysgol Haberdashers i Fechgyn, Trefynwy, yn cynnwys gofod adnoddau mawr, dynodedig, cyfeillgar, cynhwysol a phoblogaidd, gyda llyfrgellwyr hyfforddedig yn aelodau staff yno. Mae’r llyfrgell yn cyfuno ymchwil a syniadau’r ddarpariaeth ddiweddaraf o ran adnoddau â gwerthoedd hanesyddol yr ysgol, i greu ardal adnoddau academaidd a hafan les groesawgar ac amlswyddogaethol. Mae nodau’r llyfrgell yn cynnwys hyrwyddo, annog ac ysbrydoli darllen, llythrennedd, astudio, ymchwil, ymlacio a lles ar gyfer cymuned yr ysgol, tra’n cefnogi anghenion academaidd a bugeiliol ehangach, gweithgareddau a mentrau cymuned yr ysgol, hefyd.
Mae’r llyfrgell yn cynnig gofod croesawgar a chyfforddus gydag ardaloedd dynodedig ar gyfer astudio, addysgu, ymlacio, lles, ymchwil yn seiliedig ar TG ac ardaloedd trafod ar gyfer disgyblion a chymuned yr ysgol. Mae gofod a dodrefn wedi cael eu dylunio’n ystyriol i fod mor hyblyg ag y bo modd, ac yn ddefnyddiadwy ar gyfer digwyddiadau mwy, yn ôl yr angen. Mae polisi ‘agored i bawb’, ynghyd â pherthnasoedd da ag adrannau academaidd yn sicrhau bod adnoddau ffuglen a ffeithiol yn gweddu i’r cwricwlwm, ac yn cael eu hyrwyddo ymhlith cymuned yr ysgol. Mae defnydd o’r llyfrgell ar gyfer gweithgareddau, gwersi a digwyddiadau gan adrannau a chymuned ehangach yr ysgol yn sicrhau bod hyd yn oed ‘y rhai nad ydynt yn ddarllenwyr’ yn dangos diddordeb yn y llyfrgell yn rheolaidd, ac yn elwa ar ei chyflenwad a’i hadnoddau, gan ei galluogi i gefnogi a chyrraedd cymuned yr ysgol gyfan.
Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch
Rhestrir ychydig o’r mentrau a ddarperir gan y llyfrgell isod:
Heriau Darllen, Ysbrydoli a Gwersi Llyfrgell Dynodedig:
Mae’r llyfrgell yn hyrwyddo llythrennedd, darllen er pleser, ymchwil, lles a chymorth academaidd trwy gynlluniau darllen, yn cynnwys:
- Book Breakout – (SpineCrackers gynt) Mae’n her sy’n annog darllen heb gyfyngu ar ddewis disgybl. Mae canolbwyntio ar themâu yn hytrach na theitlau gosod yn helpu cynnal diddordeb ac ymgysylltiad, tra’n gwella lles, hunanwelliant, cyflawniad personol, meddwl beirniadol, empathi, gwydnwch, ac ati, hefyd.
- Her Mathemateg a Darllen – (enghraifft o heriau darllen penodol a gynhelir gydag adrannau academaidd) Mae disgyblion yn dewis, yn darllen ac yn adolygu llyfrau gyda thema yn gysylltiedig â mathemateg. Wedyn, caiff adolygiadau eu harddangos yn yr adran a’r llyfrgell i bob disgybl ryngweithio â nhw.
- Her Gwirioni ar Ddarllen – Mae disgyblion newydd Blwyddyn 7 yn derbyn sesiwn ragarweiniol yn y llyfrgell ym Mlwyddyn 6 lle cânt eu herio i fenthyca llyfr i’w ddarllen a’i adolygu mewn lle ‘gwyllt’ – gan annog darllen a llythrennedd tra’n ymlacio er lles.
- Cynhelir Gwersi Llyfrgell Dynodedig – gwersi ‘darllen er pleser’ amserlenedig wythnosol ar gyfer disgyblion Saesneg ym Mlynyddoedd 7 – 9, yn y llyfrgell. Mae’r llyfrgell hefyd yn addysgu medrau ymchwil trwy raglen amserlenedig Blwyddyn 7, yn ogystal â gwersi ymchwil pwrpasol poblogaidd ar gyfer dosbarthiadau pwnc a Chweched Dosbarth ar gais, ac fel rhan o gymhwyster prosiect estynedig (EPQ).
- Mae Arddangosfeydd Ysbrydoledig ar ddigwyddiadau amserol neu themâu llenyddol (e.e. COP28 ac Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori) yn annog cariad at ddarllen, dysgu a gwybodaeth. Caiff cylchlythyrau rheolaidd y llyfrgell – fersiynau print a fersiynau rhyngweithiol ar-lein, eu mwynhau hefyd.
- Mae Deunyddiau darllen amrywiol – fel ‘Quick Picks’, ‘deunyddiau sy’n addas ar gyfer dyslecsia’ a nofelau graffig, gwahanol adnoddau iaith, ac ati, yn cynnwys e-fersiynau, ar gael i uchafu cynhwysiant.