Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol

Mae Ysgol Gynradd Talysarn ym mhentref gwledig Talysarn yng Ngwynedd. Mae rhan fwyaf y disgyblion yn byw yn y pentref a’r pentrefi cyfagos. Mae 102 o ddisgyblion ar y gofrestr gan gynnwys 15 disgybl yn y dosbarth meithrin. Mae 4 dosbarth yn yr ysgol.
Daw oddeutu 50% o’r disgyblion o gartrefi ble siaredir Cymraeg, ac ychydig iawn o ddisgyblion sydd o gefndir ethnig lleiafrifol. Mae oddeutu 25% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae 25% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol. Mae’r ffigurau hyn ychydig yn uwch na chanrannau Cymru. Mae ychydig iawn o ddisgyblion â datganiad o anghenion addysgol arbennig.
Dros amser, mae’r ysgol wedi bod yn gweithio’n llwyddiannus gyda ystod eang o bartneriaethau. Mae’r ysgol yn credu, gan ei bod mewn aradai di-freintedd, fod dyletswydd i sicrhau perthynas effeithiol gyda rhieni. Y weledigaeth yw cynnig cyfleoedd a phrofiadau i’r disgyblion a’u rhieni dreulio amser cyfoethog, arbennig yng nghwmni ei gilydd heb gael eu tarfu arnynt gan amgylchiadau heriol. Dau o’r prosiectau diweddar y buodd yr ysgol yn ymwneud a hwy oedd ‘Llofnod Dysgu Teulu’ ac ‘Hwyl i’r Teulu’.
Mae ‘Llofnod y Teulu’ yn golygu cynnal sesiynau gyda teuluoedd er mwyn cyd-drafod a chael cytundeb rhwng yr ysgol a’r cartref ar sut gall rieni oresgyn anawsterau fel ymrwymiad, medrau, amgylchedd a diwylliant, â all fod yn rhwystredig wrth geisio cefnogi eu plant yn y cartref. Mae hyn wedi arwain at gamau gweithredol llwyddiannus sy’n galluogi’r rhieni i gefnogi eu plant yn well. Adroddodd un riant am enghraifft syml o ganlyniad cwblhau y llofnod dysgu teulu, sef fod bwrdd y gegin yn cael ei ddefnyddio i’w bwrpas bellach fel lle i’r teulu eistedd gyda’i’ gilydd bob nos i fwyta, trafod a sgwrsio yn hytrach na eistedd o flaen y teledu yn bwyta. Mae enghreifftiau ble mae rhieni yn nodi fod gan ei plant le iawn bellach i gwblhau eu gwaith cartref a bod eu bywyd teuluol wedi gwella llawer, gan eu bod yn gwrando a chymryd diddordeb ym mywydau ei gilydd wrth drafod.
Trefnodd y cyngor ysgol sesiynau ‘Hwyl i’r Teulu’ gyda swyddog iaith awdurdod Gwynedd, er mwyn parhau i gyd weithio gyda’r teuluoedd ac i fagu hyder rhieni i siarad Cymraeg gyda’u plant. Cafwyd nifer o sesiynau hwyliog i’r disgyblion a’u teuluoedd gyfarfod ar ôl ysgol, gan gynnwys mewn sesiynau dawns, actio, celf, ac ymweliad gan lyfrgellydd a chymeriad ‘Strempan’ o lyfrau Rala Rwdins. Roedd y sesiynau yn cyfrannu’n llwyddiannus at fedrau dwyieithog y disgyblion a’u rhieni ac roedd mwy a mwy o deuluoedd yn mynychu o wythnos i wythnos. Eleni eto, mae’r rhieni wedi gofyn am sesiynau ‘Hwyl i’r Teulu’.
• Mae ‘Llofnod y Teulu’ yn cefnogi rieni yn effeithiol i oresgyn anawsterau er mwyn cefnogi eu plant yn y cartref. Mae hyn wedi arwain at gamau gweithredol llwyddiannus sy’n galluogi’r rhieni i gefnogi eu plant yn well
• Mae’r sesiynau ‘Hwyl i’r Teulu’ gyda swyddog iaith awdurdod Gwynedd, yn llwyddiannus wrth fagu hyder rhieni i siarad Cymraeg gyda’u plant. Mae’r sesiynau yn cyfrannu’n llwyddiannus at fedrau dwyieithog y disgyblion a’u rhieni.
• Mae lles disgyblion yn gwella yn llwyddiannus ac maent yn dangos balchder amlwg yn eu cyfraniad i sawl agwedd at fywyd yr ysgol. Oherwydd hyn mae eu agwedd at waith yn rhagorol ac yn cael effaith gadarnhaol iawn ar safonau a lles disgyblion ac yn ymestyn eu profiadau dysgu’n effeithiol.
Mae Ysgol Gynradd Talysarn wedi rhannu ei arferion gyda sawl ysgol arall. Mae’r pennaeth a’r pennaeth cynorthwyol wedi rhannu arferion ac agweddau o’r gwaith mewn cyfarfodydd cydgysylltwyr iaith Gwynedd a gyda staff grwp o ysgolion cydweithiol ac ysgolion sydd yn derbyn cefnogaeth gan yr ysgol.
Ysgol ddydd arbennig awdurdod lleol yw Ysgol Heol Goffa sydd wedi’i lleoli yn Llanelli ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Mae’r ysgol yn darparu lleoliadau ar gyfer disgyblion rhwng tair a phedair ar bymtheg oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol neu ddwys a lluosog. Ar hyn o bryd, mae 75 o ddisgyblion ar y gofrestr. Nod yr ysgol yw darparu profiadau dysgu difyr a heriol er mwyn galluogi pob disgybl gyrraedd ei botensial unigol.
Mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain wedi ymrwymo i ddarparu profiadau dysgu cadarnhaol o ansawdd uchel i helpu disgyblion ddysgu am eu diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill. Bu’r ysgol ynghlwm â phartneriaethau rhyngwladol er Medi 2013, ac mae ganddi gysylltiadau rhyngwladol cryf sy’n cryfhau profiadau disgyblion a’u dealltwriaeth o’u rôl fel dinasyddion byd-eang.
Mae uwch arweinwyr wedi sefydlu partneriaethau buddiol iawn gydag ysgolion yn Iwerddon, Yr Alban, Twrci, Awstria a Chyprus. Mae’r rhain wedi helpu ehangu cwricwlwm yr ysgol a darparu profiadau dysgu ysgogol i ddisgyblion, gan gynnwys cyfleoedd gwerthfawr i ymweld â gwledydd eraill. Mae staff wedi elwa yn sgil rhannu dulliau newydd o addysgu a dysgu sydd wedi’u datblygu gyda chydweithwyr yn rhai o’r ysgolion partner hyn.
Mae’r partneriaethau hyn wedi galluogi disgyblion i deithio i wledydd eraill a gwneud ffrindiau newydd. Mae disgyblion wedi cael profiad o ddiwylliannau ac ieithoedd newydd, ac wedi dysgu’n uniongyrchol am fod yn ddinasyddion byd-eang. Wrth ddychwelyd o’r ymweliadau tramor hyn, mae’r disgyblion yn cyfranogi’n frwdfrydig mewn digwyddiadau i rannu eu profiadau gyda disgyblion eraill a rhieni, fel mewn nosweithiau agored lle maent yn arddangos iaith, bwyd a thraddodiadau’r wlad yr ymwelont â hi. Mae’r profiadau hyn yn rhoi mwy o hunanhyder i ddisgyblion, ac yn gwella eu hunan-barch, eu medrau cyfathrebu a’u medrau cymdeithasol.
Mae cwricwlwm yr ysgol wedi’i gyfoethogi gan yr ystod eang o ddeunyddiau addysgu y daeth staff a myfyrwyr â nhw yn ôl o wledydd eraill. Defnyddir yr adnoddau hyn yn dda gan y staff i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion o ddiwylliannau a thraddodiadau eraill. Er enghraifft, ymwelodd staff o Heol Goffa â Thwrci a daethant â deunyddiau addysgu yn ôl a gyfoethogodd gynlluniau gwaith addysg grefyddol, dylunio a thechnoleg a chelf.
Mae cysylltiadau gydag ysgolion arbennig yn Nulyn a Chaeredin wedi galluogi staff i ddysgu a rhannu dulliau cyfathrebu newydd sydd wedi bod o fudd i ddisgyblion sy’n cyfathrebu’n ddieiriau yn arbennig.
Mae’r ysgol yn rhan o rwydwaith sydd wedi ymrwymo i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o’u rôl fel dinasyddion byd-eang. Mae staff o Ysgol Heol Goffa yn gweithio gyda chydweithwyr mewn ysgolion lleol eraill i rannu eu deunyddiau cwricwlwm ac i annog partneriaethau rhwng ysgolion yng Nghymru a gweddill y byd.
Mae Ysgol Gynradd Bontnewydd rhyw ddwy filltir o dref Caernarfon yng Ngwynedd. Mae’r ysgol yn gwasanaethu’r pentref a’r cylch cyfagos, gan gynnwys pentrefi Caeathro a Llanfaglan. Mae’n darparu addysg ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 11 oed. Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a phrif gyfrwng y dysgu a’r addysgu. Fe addysgir Saesneg yn ffurfiol yng nghyfnod allweddol 2. Daw oddeutu 75% o’r disgyblion o gartrefi ble siaredir Cymraeg, ac ychydig iawn o ddisgyblion sydd o gefndir ethnig lleiafrifol. Derbynnir plant i’r ysgol, yn amser llawn yn ystod y tymor maent yn bedair oed. Mae 179 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 21 yn y dosbarth meithrin mewn saith dosbarth oed cymysg.
Oddeutu 3% o’r disgyblion sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, sy’n sylweddol is na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae 20% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol. Mae’r ffigurau hyn yn is na chanrannau Cymru. Mae chwe disgybl â datganiad o anghenion addysgol arbennig. Lleolir uned anghenion addysg arbennig ar safle’r ysgol a bydd disgyblion o’r uned yn integreiddio i’r prif lif am gyfnodau penodol yn wythnosol.
Penodwyd y pennaeth a’r dirprwy i’w swyddi ym mis Medi 2009.
Barnwyd fod rôl y corff llywodraethol yn ragoriaeth yn ystod arolygiad yr ysgol yn Chwefror 2017. Mae taith yr ysgol i gyrraedd y safon hon wedi bod yn un graddol dros gyfnod o amser.
Yn dilyn penodi tîm rheoli newydd yn 2009, adnabuwyd angen i ddatblygu fframwaith newydd ar gyfer cefnogi’r corff llywodraethu i’w alluogi i gyflawni ei swyddogaethau yn fwy effeithiol. Roedd y weledigaeth a gyflwynodd y pennaeth yn seiliedig at egwyddorion cyd berchnogaeth, cyd weithio a chyfranogiad ar lefel uchel. Daeth i’r amlwg fod angen darparu hyfforddiant mewn sawl maes i staff ac aelodau o’r corff llywodraethol, ac y byddai angen cynyddu cynhwysedd y tîm rheoli i gynnwys holl athrawon yr ysgol yn y tîm hyfforddi.
Seiliwyd yr holl broses ar yr egwyddor o ‘ddysgu gyda’n gilydd’ a hynny ar bob lefel – rhwng disgyblion; disgyblion a staff; staff a’r corff llywodraethol – gan ddefnyddio dull mentora fel prif gyfrwng yr hyfforddiant.
Lluniwyd rhaglen hyfforddi i’w chyflawni dros gyfnod o dair blynedd. Y nôd oedd arfogi llywodraethwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol fel eu bod yn gallu cyflawni eu rôl fel cyfaill beirniadol yn well. Bu i’r ysgol ganolbwyntio ar ddarparu hyfforddiant dehongli data, hunanarfarnu a llunio blaenoriaethau gwella.
Cynlluniwyd rhaglen weithredol oedd yn cynnwys blwyddyn o ffocws ar ddatblygu sgiliau staff mewn dehongli data, hunanarfarnu a chynllunio ar gyfer gwelliant. Erbyn ail flwyddyn y cynllun, roedd cynhwysedd hyfforddi’r ysgol wedi datblygu’n sylweddol. Penderfynwyd i ddatblygu agweddau penodol o’r hyfforddiant yn dymhorol a hynny dros gyfnod o ddwy flynedd. Yn ystod tymor yr hydref, prif ffocws yr hyfforddiant oedd dadansoddi data. Yn ystod tymhorau’r gwanwyn blaenoriaethwyd hyfforddiant ar hunanarfarnu gyda’r dasg o gynllunio gwelliant yn dilyn yn nhymhorau’r haf.
Bu cyfrifoldeb cwricwlaidd i bob llywodraethwr ar y cychwyn, am gyfnod o ddwy flynedd, gyda phob un yn cyd-weithio mewn pâr gyda chydlynydd y pwnc neu’r maes hwnnw. Cydweithiodd bob pâr i ddadansoddi data eu maes penodol gan gywain y prif negeseuon mewn adroddiad cryno. Darparwyd offeryn dadansoddi gyda sgaffald ysgrifennu. Cyfrifoldeb y cydlynwyr oedd rhannu’r dadansoddiad i weddill y staff dysgu mewn cyfarfod staff a chyfrifoldeb y llywodraethwyr oedd rhannu’r dadansoddiad gyda gweddill y corff llywodraethol. Roedd yr adroddiadau hyn, ynghyd â dadansoddiad manylach y pennaeth, yn ffurfio’r adroddiad safonau blynyddol. Erbyn yr ail flwyddyn o weithredu, roedd dadansoddiadau’r llywodraethwyr wedi miniogi i gynnwys trywyddau penodol i’w dilyn, er enghraifft, y berthynas rhwng cyfraddau presenoldeb bechgyn Blwyddyn 2 ar gyflawniad deilliant 6 y Cyfnod Sylfaen.
O ganlyniad, mae lefel hyder y cydlynwyr a’r llywodraethwyr wedi cynyddu yn sylweddol, fel eu bod yn gallu dadansoddi data yn hollol annibynnol gan gyflwyno adroddiadau manwl i fwydo’r adroddiad safonau blynyddol.
Yn ystod tymhorau’r gwanwyn, mae’r un llywodraethwyr a chydlynwyr yn dod at eu gilydd mewn seiadau dysgu unigol. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, mae llywodraethwyr yn cael y cyfle i holi am ddatblygiadau o fewn y pwnc gyda’r cydlynwyr yn cael y cyfle i rannu canlyniadau eu blaenoriaethau gweithredu. Mae’r cyfarfodydd hyn yn cynnwys craffu ar gynlluniau gwaith, perthnasu gofynion y fframweithiau llythrennedd a rhifedd i’r pwnc a chyfle i fynd ar deithiau dysgu, gan gynnwys gweld athrawon a dysgwyr wrth eu gwaith. Mae’r llywodraethwyr a’r cydlynwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i gydweithio, gyda’r llywodraethwyr yn nodi yn benodol gwerth yr ymarferiad nid yn unig i ddwysau eu gwybodaeth am safonau o fewn eu pwnc ond hefyd i weld safonau cyffredinol dysgu ac addysgu ar lawr dosbarth; dulliau asesu’r ysgol ar waith; cyfranogiad dysgwyr mewn dysgu; y gefnogaeth a roddwyd i ddysgwyr anghenion dysgu ychwanegol a lefelau cynhwysiad o fewn yr ysgol.
O ganlyniad i’r gweithgareddau yma, mae seiadau dysgu yn rhan allweddol o galendr hunanarfarnu’r ysgol gan sicrhau mewnbwn llwyr y llywodraethwyr i’r broses.
O fewn eu parau, mae’r llywodraethwyr a’r cydlynwyd hefyd yn craffu ar waith dysgwyr. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys hyfforddiant ar gyflawniad dysgwyr a chynnydd dros amser, yn ogystal â hyfforddiant mewn egwyddorion hunanarfarnu grymus, gan gynnwys mentora penodol wrth ysgrifennu adroddiadau hunanarfarnu miniog a meintiol. Mae’r llywodraethwyr yn canmol y dull yma o weithio, gan ei fod yn eu cynorthwyo i berthnasu’r safonau ar lawr dosbarth gyda’r data perfformiad.
Er mwyn sicrhau nad oedd gwybodaeth llywodraethwyr yn gyfyngedig i un pwnc cynhaliwyd sawl sesiwn ‘speed dating’. Pwrpas y sesiynau hyn oedd rhoi cyfle i lywodraethwyr ganfod llawer o wybodaeth gyffredinol ar draws ystod o feysydd mewn cyfnod amser byr. Staff yr ysgol fu’n hwyluso’r sesiynau gan gynnal seiadau unigol byr wyneb yn wyneb i gyflwyno gwybodaeth neu ateb ymholiadau. Gan fod y broses hyfforddi flaenorol wedi bod mor llwyddiannus, roedd lefel yr holi yn dreiddgar a llwyddodd y llywodraethwyr i ehangu eu gwybodaeth ar draws nifer o feysydd pwysig.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r holl arferion hyn wedi sefydlogi ac wedi aeddfedu. O ganlyniad mae’r corff llywodraethu wedi llwyddo i chwarae eu rôl fel cyfaill beirniadol gyda llawer mwy o hyder, dealltwriaeth a mewnwelediad. Mae’r corff wedi datblygu i fod yn flaengar, fel ei fod bellach yn cynllunio eu rhaglen datblygol gyda pherchnogaeth gynyddol. Caiff llywodraethwyr newydd eu hanwytho yn gyflym i’r prosesau’r hyn o fewn sesiynau grwpiau bach. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn ansawdd y cydweithio sydd rhwng staff a llywodraethwyr; perchnogaeth y rhanddeiliaid wrth ddatblygu cyfeiriad strategol yr ysgol; a chyfranogiad o lefel uchel er mwyn sicrhau gwelliant.
Mae’r datblygiadau hyn wedi sicrhau fod blaenoriaethau strategol cytunedig yn deillio o wybodaeth o dystiolaeth hunanarfanu uniongyrchol. Mae gan y corff llywodraethol weledigaeth hir dymor o’r hyn sydd angen ei ddatblygu o fewn yr ysgol. Maent yn ymwybodol iawn o’r heriau sydd yn gwynebu’r ysgol ac yn lliwio’r data perfformiad. Maent yn ymwybodol iawn o ble mae’r rhagoriaethau o fewn yr ysgol a’r meysydd lle mae angen datblygu ymhellach. Mae hyn wedi arwain at lunio Cynllun Gweithredu Ysgol cadarn, gyda ffocws ar anghenion y dysgwyr. Mae’r corff llywodraethol yn sicrhau fod amser ac adnoddau’r ysgol yn cael eu defnyddio yn briodol er mwyn codi safonau a sicrhau lles disgyblion.
Mae’r broses o ddatblygu cyd berchnogaeth, mentora staff a llywodraethwyr wedi gwireddu’r weledigaeth o sicrhau cyfranogiad rhanddeiliaid ar lefel uchel ac mae’r daith dysgu yn parhau.
Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer dda gyda nifer o ysgolion o fewn y sir drwy gynllun ‘Herio a Chefnogi GwE’. Roedd y broses yma o rannu ac arwain yn cynnwys mentora criwiau o benaethiaid dros gyfnod o amser fel eu bod hwythau yn gallu efelychu’r arfer yn eu hysgolion eu hunain.
Coleg Sir Benfro yw darparwr addysg a hyfforddiant ôl-16 mwya’r sir. Mae ei brif safle yn Hwlffordd, ac mae gan y coleg ryw 1,800 o fyfyrwyr llawn-amser a 12,500 o fyfyrwyr rhan-amser, yn cynnwys llwybrau galwedigaethol, safon uwch, prentisiaethau a llwybrau graddau.
Mae Iechyd a Pheirianneg yn feysydd cwricwlwm allweddol ar gyfer y coleg, ac mae’r astudiaeth achos hon yn ymwneud yn rhannol â gwella ac ehangu cyfleoedd i ddysgwyr sy’n dymuno astudio yn y meysydd hyn.
Bydd y coleg yn agor canolfan Safon Uwch newydd yn 2017 i ddarparu ar gyfer disgyblion o’r ddwy ysgol yng ngogledd y sir. Y coleg a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r cyfleuster newydd hwn ar y cyd.
Yn rhanbarthol, mae’r coleg yn chwarae rhan bwysig trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe a thrwy’r prosiect datblygol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu canolfan ynni môr ar Ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae’r coleg yn gweithio’n agos ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a Phrifysgol Abertawe i sicrhau bod cyfleoedd i ddatblygu cynhyrchu ynni môr ac ynni cynaliadwy yn cael eu hyrwyddo i’r eithaf. Yn fwy lleol, mae’r coleg wedi bod yn bartner arweiniol yn yr ad-drefniant o addysg ôl-16 yng ngogledd y sir, yn gweithio gydag ysgolion a’r awdurdod lleol i wella mynediad dysgwyr at ddarpariaeth Safon Uwch a gwella ehangder dewis cyrsiau galwedigaethol dysgwyr.
Mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau bod y coleg yn aelod arweiniol o bartneriaethau sy’n hyrwyddo adfywio economaidd yn Sir Benfro. Drwy eu haelodaeth o ystod o gyrff rhanbarthol, fel Bwrdd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol sydd newydd ei ffurfio ar gyfer De Orllewin a Chanolbarth Cymru, mae’r coleg wrth graidd y grwpiau gwneud penderfyniadau allweddol mewn perthynas â datblygu a buddsoddi mewn medrau yn y rhanbarth.
Yn lleol, mae’r pennaeth a’r uwch dîm arwain wedi gweithio’n agos gydag ysgolion a’r awdurdod lleol i gryfhau partneriaethau a chyfathrebu er mwyn gwella’r dewisiadau sydd ar gael i bobl ifanc yn Sir Benfro. Mae’r pennaeth wedi arwain gwaith y coleg gyda chyfarwyddwr addysg yr awdurdod lleol a phenaethiaid Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Bro Gwaun, gan arwain at ddatblygu canolfan newydd ar gyfer addysg ôl-16. Bydd darpariaeth SafonUwch yn cael ei chyflwyno yn y ganolfan hon, sydd wedi’i hariannu ar y cyd gan y coleg a Llywodraeth Cymru. Agorodd y ganolfan yn haf 2017, ac fe’i goruchwylir gan bwyllgor canolfan Safon Uwch sy’n cynnwys cynrychiolaeth o blith penaethiaid ysgolion, y pennaeth a’r cyfarwyddwr addysg, ynghyd â chynrychiolaeth o blith llywodraethwyr ysgolion ac aelodau o gorff llywodraethol y coleg.
Mae’r coleg yn gweithio’n dda gydag ystod eang o bartneriaid cymunedol i ymgysylltu â grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd, fel cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, y rheini sydd mewn perygl o adael addysg a’r rhai sy’n anweithgar yn economaidd. Mae’r coleg yn gweithio’n effeithiol iawn gyda’r ysgol arbennig leol i gefnogi pontio, integreiddio a dilyniant dysgwyr ar raglenni medrau byw’n annibynnol.
At ei gilydd, mae’r safonau a gyflawnir gan ddysgwyr yn y coleg yn dda.
Mae’r coleg yn defnyddio’i gysylltiadau â’i bartneriaeth dysgu yn y gwaith yn effeithiol i alluogi dilyniant rhwng rhaglenni addysg bellach a rhaglenni dysgu yn y gwaith, neu gyfleoedd ar gyfer cyflogaeth.
Un deilliant cadarnhaol o’r ymagwedd gyfannol at weithio mewn partneriaeth fu’r cyfleoedd gwell i grwpiau o ddysgwyr sy’n agored i niwed. Mae’r ystod ragorol o bartneriaethau amlasiantaeth yn cefnogi’r dysgwyr hyn sy’n fwy agored i niwed yn dda iawn yn ystod eu rhaglenni.
‘Mae’r cwricwlwm yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yn hynod hyblyg ac ymatebol i anghenion disgyblion unigol.’ Estyn 2017.
Mae Ysgol Uwchradd Fitzalan yn ysgol gymysg cyfrwng Saesneg i ddisgyblion 11 i 18 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Caerdydd. Ar hyn o bryd, mae 1,721 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 344 yn y chweched dosbarth, o gymharu â 1,440 o ddisgyblion, gan gynnwys 254 yn y chweched dosbarth, adeg ei harolygiad diwethaf.
Mae’r ysgol wedi’i lleoli gerllaw canol y ddinas ac mae’n gwasanaethu dalgylch sydd â lefelau uchel o ddifreintedd cymdeithasol ac economaidd. Cyfran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw 32.7%, sy’n uwch o lawr na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.4%. Mae tua 60% o ddisgyblion yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae gan oddeutu 35% o ddisgyblion angen addysgol arbennig, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 25.1%. Cyfran y disgyblion sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig yw 2%, sy’n is na’r cyfartaledd o 2.5% yng Nghymru.
Cyfnod allweddol 3
Mae darpariaeth y cwricwlwm yn Ysgol Uwchradd Fitzalan yn cael ei gwahaniaethu yn ôl potensial, cynnydd a lefel gallu pob disgybl. Nod yr ysgol yw bodloni anghenion yr holl ddisgyblion, bod yn hyblyg ac yn ymatebol, cynnig ehangder a dyfnder, a sicrhau’r deilliannau gorau posibl i bawb. Mae natur ddynamig a hyblygrwydd y cwricwlwm yn golygu bod staff yn gallu ymateb i amgylchiadau unigol ac anghenion disgyblion trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn Fitzalan, gan fod disgyblion yn dod o amrywiaeth eang iawn o gefndiroedd ieithyddol gyda lefelau gwahanol o addysg flaenorol. Hefyd, mae lefel uchel o symud o fewn pob blwyddyn academaidd. Felly, mae angen i gwricwlwm yr ysgol addasu i gyfateb i anghenion disgyblion sy’n newydd i’r ysgol neu’n newydd i Gymru.
Yng nghyfnod allweddol 3, mae’r disgyblion mwyaf galluog yn astudio Lladin a Sbaeneg yn ogystal â Ffrangeg, a holl bynciau craidd a sylfaen eraill y Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae gan ddisgyblion â diffygion llythrennedd neu rifedd wersi ‘prosiect’ penodol yn eu hamserlen, lle maent yn gwella’u medrau trwy wersi thematig sy’n gysylltiedig â meysydd y cwricwlwm fel hanes neu wyddoniaeth. Mae gwersi wedi’u cynnwys bob dydd yn amserlen y rhai sydd â heriau arwyddocaol er mwyn gwella’u medrau darllen ac ysgrifennu, gan gynnwys ffocws ar ffoneg i sicrhau eu bod yn caffael llythrennedd gweithredol. Hefyd, mae’r disgyblion hyn yn dilyn cwrs integredig y dyniaethau ac mae ganddynt lai o athrawon.
Mae ‘Tîm Mynediad i’r Cwricwlwm’ yr ysgol yn arwain ymyriadau ychwanegol: mae grwpiau ymyrraeth grŵp bach yn canolbwyntio ar ddisgyblion ag anawsterau dysgu penodol, nam ar y golwg, anghenion iaith a lleferydd, ac anghenion emosiynol. Mae disgyblion ym mhob blwyddyn sydd angen anogaeth yn cael sesiynau yn eu hamserlen yn ‘Cartref’ i wella’u gallu i reoli’u hymddygiad a’u hemosiynau, a ffynnu mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. O Flwyddyn 8 ymlaen, mae disgyblion ag anghenion ymddygiadol arwyddocaol yn cael eu hintegreiddio i raglen ‘cyfleoedd estynedig’ fel rhan o ‘ymateb graddedig’ i’w hanghenion ymddygiadol. Mae disgyblion ar y rhaglen cyfleoedd estynedig yn dilyn cwricwlwm llawn. Cânt eu haddysgu gan arbenigwyr pwnc a derbyniant gymorth dwys ar gyfer eu hymddygiad gan arbenigwyr ar anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.
Mae disgyblion sy’n dysgu Saesneg am y tro cyntaf yn cael eu haddysgu mewn grwpiau sefydlu penodol ar gyfer y rhan fwyaf o’u pynciau, gyda phwyslais ar ddatblygu’u medrau iaith Saesneg. I helpu’r disgyblion hyn i integreiddio i’r ysgol yn ei chyfanrwydd, maent yn cael amser dosbarth, addysg gorfforol a gwersi mathemateg gyda gweddill eu grŵp blwyddyn. Mae disgyblion sy’n dysgu Saesneg am y tro cyntaf, ond sydd â medrau mathemateg da, yn gallu symud yn gyflym i fyny’r setiau mathemateg a chael y cymorth y mae arnynt ei angen ar yr un pryd i ddysgu hanfodion Saesneg.
Mae disgyblion o bob gallu, gan gynnwys disgyblion ar y rhaglen cyfleoedd estynedig, yn cael cynnig hyfforddiant yn eu hiaith eu hunain a, lle y bo cwrs arholi priodol, cyfle i ennill achrediad allanol. Yn ogystal, mae’r ysgol wedi cyflwyno ‘opsiwn creadigol’ i Flwyddyn 9 yn ddiweddar: mae disgyblion yn dewis cwrs cerdd, drama, technoleg neu gelf. Fe’i cyflwynwyd i ategu cyrsiau arholiadau creadigol, i gynnal symbyliad disgyblion trwy gydol Blwyddyn 9 ac i sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn datblygu’r medrau y mae eu hangen i astudio ar gyfer achrediad allanol a’i ennill.
Cyfnod allweddol 4
Yng nghyfnod allweddol, mae cyfuniad o opsiynau dewis rhydd a llwybrau wedi’u gwahaniaethu yn golygu bod y cwricwlwm yn symbylol ac yn ysgogi dyheadau, a’i fod yn bodloni diddordebau disgyblion. Mae amrywiaeth eang o gymwysterau TGAU traddodiadol a galwedigaethol ar gael ac mae disgyblion yn dechrau’u cwricwlwm cyfnod allweddol 4 yn ystod tymor yr haf Blwyddyn 9.
I sicrhau bod pob disgybl yn cael ehangder, dyfnder a chydbwysedd rhwng pynciau craidd a dewisiadau opsiwn, mae’r ysgol yn cynnal cwricwlwm pythefnos, 60 gwers. Mae pedwar pwnc opsiwn, gan gynnwys Lladin, hanes yr hen fyd ac astudiaethau cyfrifiadurol, yn cael eu cynnig i ddisgyblion mwy abl yng nghyfnod allweddol 4. Mae pob disgybl yn rhydd i wneud dewisiadau sy’n apelio iddynt a chânt arweiniad unigol i’w cynorthwyo i wneud y dewis gorau a chyrraedd eu potensial llawn. Mae bron pob disgybl yn sefyll arholiad allanol mewn Llenyddiaeth Saesneg, gan gynnwys disgyblion ar y rhaglen cyfleoedd estynedig a disgyblion sy’n dysgu Saesneg am y tro cyntaf. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ennill achrediad allanol yn y cwrs Cymraeg llawn a’r cwrs addysg grefyddol llawn. Mae llwybrau wedi’u gwahaniaethu a ffocws ar ddatblygu medrau wedi galluogi deiliannau disgyblion i aros yn uchel, yn enwedig y rhai sy’n croesi’r trothwy pump A*-A, lefel 2 a mwy a lefel 2.
Mae disgyblion sy’n dysgu Saesneg am y tro cyntaf neu sy’n datblygu eu cymhwysedd mewn Saesneg yn ymgymryd â rhaglen SSIE yr ysgol. Dilynant gyrsiau TGAU a a chyrsiau galwedigaethol sydd wedi’u hachredu’n allanol, gyda phwyslais ar ddatblygu a gwella’u medrau Saesneg.
Y chweched dosbarth
Mae proses opsiynau dewis rhydd yn golygu bod disgyblion yn gallu dewis amrywiaeth eang o bynciau, y mae rhai ohonynt wedi’u cynnig mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, neu gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd neu Glwb Criced Morgannwg. Mae cynnig pob disgybl wedi’i seilio ar ei ddeilliannau yng nghyfnod allweddol 4. Gall disgyblion ddilyn rhaglen AS/A2 a Bagloriaeth Cymru, rhaglen alwedigaethol lefel 3, rhaglen lefel 2, neu ddarpariaeth gymysg, sy’n gyfuniad, wedi’i addasu yn ôl gallu pob disgybl.
Yn Fitzalan, mae darpariaeth y cwricwlwm ynghyd ag ymroddiad staff, cefnogaeth rhieni a lefel uchel yr ymgysylltiad gan ddisgyblion oll wedi cyfrannu at lwyddiant yr ysgol. Yn Fitzalan, mae disgyblion ‘yn dysgu gyda’i gilydd i fod y gorau gallant fod’.
Dros y pedair blynedd diwethaf, yng nghyfnod allweddol 4, mae perfformiad yr ysgol yn ei gosod yn hanner uchaf yr ysgolion tebyg yn y rhan fwyaf o ddangosyddion, ac yn y chwarter uchaf yn y mwyafrif ohonynt. Mae disgyblion mwy abl, disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cyflawni’n uchel iawn. Mewn gwersi, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau.
Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn rhagorol ac yn arddangos lefelau uchel o ymgysylltiad â’u dysgu. Mae cyfraddau presenoldeb yn eithriadol o uchel.
Ysgol breswyl arbennig a gynhelir gan awdurdod lleol Bro Morgannwg yw Ysgol Y Deri. Agorwyd yr ysgol ym mis Tachwedd 2014 ar ôl uno Ysgol Erw’r Delyn, Ysgol Maes Dyfan ac Ysgol Ashgrove. Mae’r ysgol yn rhannu safle a chyfleusterau ag ysgol uwchradd prif ffrwd. Mae 246 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng tair ac un deg naw oed ar hyn o bryd. Mae gan yr holl ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig ar gyfer anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu cymedrol neu anhwylderau’r sbectrwm awtistig. Daw disgyblion i’r ysgol o Fro Morgannwg, yn ogystal ag o awdurdodau lleol cyfagos Caerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe. Saesneg yw mamiaith bron pob un o’r disgyblion. Mae tri deg pump y cant o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers i’r ysgol agor.
Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer gallu amrywiol o ‘Ar Drywydd Dysgu’ i Safon Uwch, sy’n ei gwneud yn unigryw yng Nghymru. Mae ganddi 240 o staff ar y safle. Mae’r ysgol yn adeilad newydd a agorwyd ym mis Tachwedd 2014, lai na dwy flynedd cyn ei harolygiad.
Yn 2009, ffurfiwyd cynllun gan yr awdurdod lleol i uno’i dair ysgol arbennig yn un, gan gydleoli’r ysgol ar safle rhanedig gydag ysgol uwchradd prif ffrwd drws nesaf. Pan benderfynwyd uno, roedd tri phennaeth, ac ar ôl sefydlu’r corff llywodraethol cysgodol, roedd pedwar corff llywodraethol.
Penderfynodd dau o’r penaethiaid ymddeol a chytunodd y cyrff llywodraethol ffedereiddio. Penodwyd y pennaeth a oedd yn weddill yn yr ysgol newydd, fel Pennaeth Gweithredol pob un o’r pedair ysgol i ddechrau. Wedyn, sefydlwyd tîm arweinyddiaeth ar gyfer yr ysgol newydd a oedd yn cynnwys aelodau o’r timau presennol. Cymerodd bum mlynedd i gyd i gynllunio’r ysgol, a’i hadeiladu.
Roedd gan y tair ysgol ddiwylliannau unigol ac unigryw iawn. Yr her i’r tîm arweinyddiaeth oedd dod â’r staff at ei gilydd a gwneud hyn gyda gweledigaeth ar y cyd ac ymdeimlad ar y cyd o berchnogaeth, gan felly sicrhau bod yr ysgol newydd yn dod yn un ysgol sydd â’i hunaniaeth unigryw ei hun.
Roedd y tîm arweinyddiaeth yn glir ynglŷn â’r heriau oedd o’u blaen ac roeddent wedi’u trwytho’n dda yn yr ymchwil y tu ôl i reoli newid yn llwyddiannus, gan gynnwys gwaith gan yr Athro Michael Fullan, ymhlith eraill. Blaenoriaeth allweddol y tîm oedd rhoi strategaethau addas ar waith i sicrhau bod gan ddisgyblion, staff a rhanddeiliaid eraill leisiau cyfartal wrth ddylunio’r ysgol newydd: ei chyfleusterau, cwricwlwm, gweledigaeth ac ethos.
Nodwyd pedwar maes allweddol, sef:
1. Rheoli newid ar gyfer y staff
2. Y dyluniad a’r ddarpariaeth yn yr ysgol newydd
3. Y cwricwlwm ar gyfer yr ysgol newydd
4. Dealltwriaeth a rheolaeth o’r disgyblion gan y staff a sut byddent yn dod at ei gilydd
Penderfynwyd y byddai’r staff a’r disgyblion yn cael eu ‘cymysgu’ o ddiwrnod cyntaf yr ysgol newydd. Felly, y dasg gyntaf oedd galluogi’r timau staff i gyfarfod â’i gilydd. Trefnwyd ymarferion meithrin tîm ar ddiwrnodau HMS ar y cyd i alluogi’r staff o bob un o’r tair ysgol i ddod i adnabod ei gilydd.
Sefydlwyd timau arbenigol gyda chynrychiolwyr o bob ysgol ac o blith staff cymorth a staff addysgu i ddylunio a chynghori ynglŷn â’r adeilad newydd, y ddarpariaeth, y cwricwlwm, ac i nodi anghenion hyfforddi. Ymgysylltodd pawb oedd eisiau rôl a defnyddiwyd sawl cyfrwng ar gyfer rhannu’r deilliannau, gan gynnwys e-bost a Yammer.
Bu’r timau a gafodd eu cynnwys mewn dylunio’r adeilad yn gweithio gyda disgyblion a phenseiri i sicrhau y byddai’r adeilad yn bodloni anghenion staff a dysgwyr. Anogwyd y timau hyn i feddwl yn ddychmygus fel nad oedd yr ysgol yn syml yn ail-greu’r hyn a oedd yn bodoli eisoes. Fe wnaeth y prosiect ddechrau’r cysyniad o ‘Lysgenhadon Adeiladu’ hefyd, sef dau ddisgybl o bob un o’r pedair ysgol yn cymryd rhan yn y prosiect (gan gynnwys yr ysgol prif ffrwd). Roeddent yn ymweld â’r safle’n rheolaidd ac yn adrodd yn ôl i’w cyfoedion yn yr ysgolion trwy adroddiadau llafar, cyflwyniadau a fideo.
Wrth i’r cwricwlwm gael ei gynllunio, arbrofwyd ag ef yn y tair ysgol, ac ymgynghorwyd â disgyblion ynglŷn â’i addasrwydd. Wedyn, sicrhaodd proses adborth fod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu yn unol ag anghenion pob un o’r disgyblion. Sefydlwyd llwybrau cymhwyster ar gyfer dysgwyr 14-19 a safonwyd gweithdrefnau asesu a chofnodi. Prynwyd gwisgoedd newydd i’r staff, a ddyluniwyd gan ddisgyblion a rhieni.
Cynhaliwyd cyfres gynlluniedig o gyfnewid staff dros ddwy flynedd y cyfnod adeiladu. Roedd hyn yn cynnwys parau o staff yn gweithio am gyfnodau o bythefnos yn yr ysgolion nad oedd ganddynt unrhyw brofiad ohonynt. Treuliodd pob aelod o staff o leiaf bythefnos yn un o’r tair ysgol arall. Fe wnaeth hyn helpu nodi anghenion hyfforddi a rhoddodd gyfleoedd i staff rannu profiadau.
Bu’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cyfnewid ar draws yr ysgolion hefyd, er eu bod yn ‘cyfnewid’ am gyfnod llawer hwy i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn o anghenion disgyblion a staff. Roedd hefyd yn bwysig dod i adnabod y staff ym mhob ysgol a sefydlu perthynas yn gynnar. Aeth disgyblion yn y grŵp oedran 14-19 i wahanol ysgolion hefyd i gymryd rhan mewn diwrnod dewisiadau bob wythnos. Cymerwyd gofal i sicrhau nad oedd yr un ysgol yn arwain yr ysgolion eraill a bod gan bawb ran gyfartal yn yr ysgol newydd.
Roedd staff a disgyblion wedi cael eu paratoi’n dda ar gyfer yr ysgol newydd. Roeddent yn gyfarwydd â’r adeilad ac wedi cyfarfod ag athrawon a ffrindiau ysgol newydd. Roedd dealltwriaeth ar y cyd o anghenion y disgyblion, ac roedd staff wedi’u paratoi’n dda i fodloni eu hanghenion corfforol, emosiynol ac addysgol.
Gallai’r ysgol gyflwyno fframwaith cwricwlwm, cymwysterau ac asesu cydlynol i sicrhau bod cyflawniad a safonau’n uchel o’r dechrau. Llwyddodd pob un o’r disgyblion yn y flwyddyn gyntaf wedi i’r ysgol agor i fodloni eu targedau a gadawodd yr holl ymadawyr ag o leiaf un cymhwyster cydnabyddedig. Aseswyd bod lles bron pob un o’r disgyblion yn dda neu’n rhagorol.
Mae’r adeilad yn cefnogi cwricwlwm hynod effeithiol, eang ac amrywiol. Mae ganddo ystod eang o ddarpariaeth, gan gynnwys stiwdio deledu a chegin broffesiynol, i sicrhau bod ystod eang anghenion y dysgwyr yn cael eu bodloni’n llawn. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer TGCh yn gryfder arbennig. Gwna disgyblion ddefnydd helaeth o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu ar draws y cwricwlwm, ac mae bron pob un o’r disgyblion ar draws yr ysgol yn gwneud cynnydd cryf yn eu medrau TGCh.
Roedd y Llysgenhadon Adeiladu yn siarad yn eang y tu hwnt i’r ysgol, gan gynnwys â gwleidyddion a’r diwydiant adeiladu, a chawsant wobrau am eu gwaith. Enillodd llysgenhadon Ysgol Y Deri Wobr y Llefarydd ar gyfer Cynghorau Ysgol ac aethant i’r Senedd i annerch Aelodau Seneddol. Ni ellir gorbwysleisio’r effaith ar eu hyder, eu hunan-barch a’u lles.
Mae’r ysgol wedi croesawu ymwelwyr o bob cwr o’r DU ac yn rhyngwladol. Defnyddir fframweithiau ar gyfer y cwricwlwm 14-19 mewn ysgolion eraill. Cefnogir ysgolion eraill yn eu taith datblygu TGCh mewn darpariaeth, dysgu ac addysgu. Mae’r ysgol yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru hefyd, yn cynorthwyo a chynghori awdurdodau lleol ar adeiladau ysgol newydd ac yn rhannu ‘gwersi a ddysgwyd’.
Ysgol ddydd annibynnol yw Ysgol Rougemont sy’n addysgu bechgyn a merched rhwng 3 ac 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol ar ddechrau’r 1920au ac mae wedi’i lleoli ar safle mawr rhwng Casnewydd a Chwmbrân.
Mae 544 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys 19 disgybl yn y meithrin a 180 o ddisgyblion yn yr ysgol baratoadol. Yn yr ysgol hŷn, mae 244 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed, a 101 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.
Mae bron pob un o’r disgyblion yn byw yng Nghasnewydd a Thorfaen, ac mae rhai ohonynt yn teithio o leoedd pellach yn ne Cymru. Mae tua 15% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol. Mae pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg yn rhugl er bod rhai ohonynt yn siarad ieithoedd eraill fel eu mamiaith. Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.
Daeth Ysgol Rougemont yn ymwybodol fod pobl ifanc yn wynebu nifer o fathau gwahanol o bwysau mewn byd modern sy’n effeithio ar eu lles. Penderfynodd yr ysgol ymgorffori diwylliant ysgol gyfan, i hyrwyddo a chefnogi gwydnwch a lles. Wrth annog ymdeimlad o berthyn trwy ymgysylltu â chymuned yr ysgol, aethpwyd ati i feithrin lles ym mhob ardal yn yr ysgol. Cyflwynodd yr ysgol raglenni ar draws pob sector, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar annog cyfranogiad ym mywyd yr ysgol a’r gymuned. Cyflwynwyd ystod eang o swyddi newydd â chyfrifoldeb i gefnogi ymglymiad yr ysgol a llais y disgybl. Roedd y rhain yn cynnwys: capteiniaid chwaraeon ar lefel iau a hŷn, cynrychiolwyr a phwyllgorau eco, arweinwyr elusennau a thîm lles a ffurfiwyd yn ddiweddar. Mae disgyblion hŷn yn gweithio’n agos gyda disgyblion iau, gan wella ymdeimlad cryf o gymuned yn yr ysgol. Mae pob un o’r rhain yn hollbwysig o ran galluogi’r plant i ffynnu yn eu datblygiad academaidd, cymdeithasol ac emosiynol.
Mae Ysgol Rougemont wedi canolbwyntio ar gefnogi iechyd meddwl a lles trwy ymgorffori diwylliant o atal yn hytrach nag ymateb. Mae hyn wedi canolbwyntio ar feithrin datblygiad a gwydnwch emosiynol fel bod plant yn dysgu’r medrau sydd eu hangen i ymdopi â thrylwyredd academaidd cynyddol astudio wrth i ddisgyblion symud trwy’r ysgol. Ar draws yr ysgol gyfan, mae hyn yn cynnwys dadansoddiad manwl o ddata Agweddau Disgyblion Atyn Nhw eu Hunain a’r Ysgol, i nodi unigolion neu grwpiau allweddol sydd angen cymorth targedig, er enghraifft trwy grwpiau anogaeth. Mae’r ysgol wedi addasu ei chwricwlwm ABGI i fodloni anghenion disgyblion.
Er enghraifft, mae prynhawn a neilltuir ar gyfer ABGI yn yr ysgol baratoadol yn cynnwys: athro gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar gysgu; ymwybyddiaeth ofalgar a gyflwynir gan ymarferwr Paws b; darparu cwnselwr ac asiantaethau allanol ychwanegol fel y bo’n briodol. Mae ffocws hefyd ar greu trosiadau diriaethol i gynrychioli cysyniadau ac emosiynau haniaethol. Er enghraifft: jariau hapusrwydd; weebles; hambyrddau zen; pobl sy’n poeni; peli straen; byrddau hwyliau a jariau ‘rydw i’n gallu’. Cyflwynwyd pecyn gwybodaeth fugeiliol yn ddiweddar, sy’n helpu rhieni i atgyfnerthu’r mentrau hyn gartref, a dyma’r darn olaf yn y pos o ran sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi lles pob plentyn.
Mae swyddi â chyfrifoldeb yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion ar draws yr ysgol gymryd rôl weithredol a helpu i ffurfio eu hysgol. Mae cyngor ysgol gweithredol yn ardaloedd y babanod, yr adran iau a’r adran hŷn, ac anogir disgyblion i greu maniffestos, cymryd rhan mewn proses ethol ac arwain newid. Mae disgyblion ar ddiwedd yr adran iau a’r adran hŷn yn ymgeisio am rolau sy’n ymwneud yn benodol â’u meysydd arbenigol; mae’r rhain yn cynnwys tîm lles; cynrychiolwyr elusen a rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau mewnol, gan greu ymdeimlad o ysbryd cymunedol.
Mae’r arwyddair Ysgol am Oes (School for Life) yn meithrin ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol. Mae plant hŷn yn mynd ati i gynorthwyo’r rheiny mewn blynyddoedd iau, yn fugeiliol ac yn academaidd fel ei gilydd. Mae disgyblion hŷn yn cynnal clybiau, gwasanaethau a gwersi pwnc penodol, yn ogystal â bod yn bresennol i gynorthwyo ac arwain chwarae yn ystod amseroedd egwyl. Ar draws yr ysgol, caiff cynghorau ysgol eu cadeirio gan brif fachgen a phrif ferch pob adran, a chymerir cofnodion i sicrhau bod syniadau’n cael eu cyflwyno a chamau priodol yn cael eu cymryd.
Ategir datblygiad cymdeithasol ac emosiynol disgyblion gan gyfleoedd iddynt gymryd rhan ar draws yr ysgol mewn dyfarniadau sy’n benodol i oedran. Mae Rougemont Rangers yn cynnig posibilrwydd i blant y babanod ddysgu gwahanol fedrau a chyfrifoldebau bywyd, sy’n rhychwantu Fi Fy Hun, Fy Nghymuned a Fy Myd. Mae’r rhain, er enghraifft yn cynnwys: gefeillio, cymorth cyntaf a materion eco. Ar ddiwedd yr adran iau, mae dyfarniad REACH yn annog disgyblion i gymryd rhan yn llawn ym mywyd yr ysgol a’r gymuned ehangach, ehangu eu gorwelion a rhoi cynnig ar rywbeth newydd, cwblhau tasgau hyd eithaf eu gallu a gwneud eu gorau glas. Wrth i’r plant symud i’r ysgol hŷn, mae dyfarniad cyfnod allweddol 3 yn eu herio nhw i herio eu hunain. Ceir cyfleoedd sy’n benodol i bwnc ar gyfer cymhwyso medrau a gweithgareddau lles yn annibynnol. Yn olaf, wrth i’r disgyblion agosáu at fynd i’r ysgol hŷn, mae Gwobr Dug Caeredin yn denu cyfran sylweddol o ddisgyblion ar gyfer y wobr efydd, o leiaf.
Mae gan ddisgyblion ymdeimlad sylweddol o berthyn i deulu Rougemont. Mae pob un o’r rhanddeiliaid yn teimlo’n rhan o gymuned ehangach yr ysgol, ac mae llawer o ymwelwyr yn sôn am ethos croesawgar, hapus a chynnes yr ysgol. Mae pob un o’r gweithgareddau hyn yn helpu i chwarae rôl arwyddocaol o ran cyfrannu tuag at ddatblygiad emosiynol, cymdeithasol ac academaidd disgyblion. Mae data Agweddau Disgyblion Atyn Nhw eu Hunain a’r Ysgol yn dangos lefelau uchel o foddhad disgyblion â’u profiad ysgol o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol, a cheir lefelau arbennig o uchel o gyfranogiad disgyblion ar draws pob agwedd ar fywyd ysgol.
Mae’r ysgol wedi rhannu arfer dda trwy erthyglau mewn cyhoeddiadau cenedlaethol a ysgrifennwyd gan arweinwyr lles yn yr ysgol. Rhannwyd mentrau penodol ag ysgolion lleol a’r gymuned, er enghraifft cysylltiadau masnach deg â Bron Afon, cymdeithas dai leol; rhannu menter Rhedeg Milltir (Run a Mile) ac ysgol gynradd leol ac arweinwyr Rhedeg yn y Parc (Park Run) sy’n siarad Cymraeg, a sefydlu hwb iechyd meddwl ar gyfer addysg gynradd.
Ysgol gymysg, gymunedol, 11-16 yw Ysgol Bryngwyn. Mae wedi’i lleoli yn Nafen, ar ochr gogledd ddwyrain Llanelli, ac mae disgyblion o rannau o ganol y dref ac o nifer o bentrefi cyfagos yn mynychu’r ysgol. Mae 1,050 o ddisgyblion ar y gofrestr: Mae tua 20% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. Cafodd Bryngwyn a Glan-y-Môr eu ffedereiddio’n ffurfiol ym Medi 2014 ac, o ganlyniad, daeth yn gynllun peilot arloesol ar gyfer ffedereiddio uwchradd. Mae’r ddwy ysgol yn ysgolion creadigol arloesol ac arweiniol.
Mae Bryngwyn wedi datblygu cwricwlwm sy’n cael ei ysgogi gan ddiddordebau disgyblion. Mae’n hynod hyblyg a phersonoledig i ddysgwyr.
Mae’r ysgol yn gofyn am safbwyntiau’r holl randdeiliaid ac yn addasu’r cwricwlwm bob blwyddyn yn unol ag anghenion dysgwyr a’r gymuned leol. Mae hyn yn sicrhau bod amrywiaeth a chyfle priodol i bawb.
Mae gan yr ysgol hanes helaeth o greadigrwydd ac arloesedd yn y cwricwlwm ac mae cynnydd rhagorol y disgyblion ym Mryngwyn wedi digwydd o ganlyniad i lawer o’r datblygiadau dilyniadol hyn.
Mae adnabod dysgwyr, eu diddordebau, eu dyheadau a’u hanghenion dysgu yn hanfodol i ddull yr ysgol o ddylunio’r cwricwlwm. Caiff disgyblion eu monitro’n agos trwy olrhain ac ymgynghori helaeth trwy ystod o fforymau dysgu i sicrhau bod adborth trylwyr yn cael ei gasglu i lywio model y cwricwlwm.
Mae staff yn rhan allweddol o’r ddeialog barhaus am ddylunio’r cwricwlwm hefyd. Mae hyn yn galluogi’r ysgol i gynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar draws pynciau ac o fewn pynciau. Mae ehangder cynlluniedig a helaeth y ddarpariaeth yn galluogi pob disgybl i ymgysylltu â’r cwricwlwm ac mae’n sicrhau bod llwyddiant disgyblion yn gallu cael ei ddathlu ar bob cyfle.
Cydbwysedd yn y cwricwlwm
Mae’r cwricwlwm yn darparu’r cydbwysedd angenrheidiol i sicrhau bod disgyblion yn datblygu medrau yn ogystal â gwybodaeth bwnc. Caiff datblygiad medrau ei gynllunio’n ofalus a’i olrhain yn effeithiol ar draws pob maes pwnc. Mae gan Fryngwyn ddull cydlynus o ddatblygu medrau, yn enwedig rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol, gan ganiatáu i adrannau gael yr hyblygrwydd i ymgorffori cyfleoedd i ddatblygu medrau mewn ffyrdd perthnasol ac ystyrlon.
Mae’r cwricwlwm yn darparu cyfleoedd ar gyfer gwella i ddysgwyr o bob gallu. Defnyddir grwpiau anogaeth ac ymestyn yn effeithiol i ddarparu cymorth a her briodol i ddysgwyr ac fe gaiff grwpiau disgyblion eu hadolygu’n rheolaidd. Defnyddir strategaethau cymorth llwyddiannus gydag amrywiaeth o raglenni mentora a grwpiau ymyrraeth sy’n targedu dysgwyr yng nghyfnodau allweddol 3 a 4. Caiff disgyblion mwy abl eu hymestyn trwy ystod o ddarpariaethau, gan gynnwys cyrsiau ymestyn mewn Mathemateg a Chymraeg a chlybiau dydd Sadwrn mewn partneriaeth â darparwyr ôl-16. Caiff pob dysgwr gyfle i elwa ar amrywiaeth lawn o weithgareddau ehangach sy’n darparu’r profiadau dysgu amrywiol sy’n gwneud y cwricwlwm mor effeithiol. Ceir lefelau uchel o gyfranogi yng ngweithgareddau’r Eisteddfod, mewn cystadlaethau pwnc, clybiau, prosiectau eco, cerddoriaeth a llawer mwy o weithgareddau, yn cyfrannu at ddiwylliant ac ethos sy’n manteisio ar bob cyfle i ddathlu llwyddiant disgyblion. Mae hyn yn fwyaf amlwg yn nefnydd yr ysgol o ganmoliaeth a gwobrau, sy’n diweddu â noson wobrwyo eithriadol o dda y mae llawer yn ei mynychu, sy’n sicrhau bod disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau gyda’i gilydd.
Agenda 14-19
Mae’r cwricwlwm hynod hyblyg ym Mryngwyn yn galluogi disgyblion i ddewis llwybr sy’n addas i’w hanghenion. Wrth ddewis eu llwybr dewisol ym Mlwyddyn 9, rhoddir cyfle i ddisgyblion arbrofi â’u dewisiadau i sicrhau eu bod yn gweddu’n briodol. Yng nghyfnod allweddol 4, caiff disgyblion y dewis i ddilyn tri llwybr gwahanol, sef: Ymestyn, Gwella neu Gyfoethogi. Mae’r cydbwysedd o ran amser a dewis opsiynau yn amrywio yn unol â’r llwybr y mae disgybl yn ei ddilyn.
Caiff y broses opsiynau ei harwain gan ddysgwyr i raddau helaeth. Rhoddir dewis rhydd i ddisgyblion ynglŷn â pha bynciau yr hoffent eu hastudio, ac mae rhwydwaith cymorth gofalus ar waith i roi arweiniad priodol i ddisgyblion i sicrhau deilliannau llwyddiannus. Caiff disgyblion gyfle i ddewis opsiynau sy’n cwmpasu ystod o brofiadau sy’n adlewyrchu profiadau academaidd a galwedigaethol fel ei gilydd. Ni chaiff dewisiadau eu cyfyngu i un llwybr penodol ac mae’r ysgol yn rhoi gwerth cyfartal i’r naill a’r llall. Caiff ystod eang o bynciau eu cynnig a’u cefnogi trwy bartneriaeth hynod lwyddiannus gyda darparwyr ôl-16 sy’n cyfrannu at gyflwyno ystod o gyrsiau galwedigaethol wedi’u dewis yn ofalus. Mae datblygu’r Ganolfan Medrau Galwedigaethol arloesol yn gryfder arbennig yn yr ysgol wrth iddi weithio mewn partneriaeth â chlwstwr Llanelli i ddarparu profiadau bywyd go iawn.
Arloesedd
Mae’r ysgol wedi ymrwymo i arloesedd ac mae ganddi hanes o greadigrwydd o fewn y cwricwlwm. Mae ystod o wythnosau ffocws, prosiectau a chynlluniau partneriaeth yn arwain at y cwricwlwm creadigol a dychmygus a gynigir ym Mryngwyn. Datblygwyd dyfarniad unigryw yn ddiweddar, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar gyfranogiad disgyblion yn y medrau ehangach yng Nghymru. Roedd dyfarnu “Bryngwyn Baby Bac’ (B3) yn llwyddiannus iawn yn ei flwyddyn beilot, lle wynebodd myfyrwyr ym mlwyddyn 7 ac 8 gyfres o heriau wedi’u cysylltu gan thema gyffredin gydag asesiad yn canolbwyntio ar bob un o’r medrau ehangach. Adroddodd staff a disgyblion am lefelau uchel o gyfranogiad, mwynhad ac ymgysylltu. Caiff cyflawniad ar gyfer disgyblion ei ddathlu â gwobr aur, arian neu efydd.
Mae’r parhad yn natblygiadau’r cwricwlwm a’r ymrwymiad i ddeialog ac adolygiad rheolaidd gyda staff a disgyblion wedi galluogi Bryngwyn i ddangos cynnydd sylweddol yn neilliannau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3 a 4. Mae dyluniad y cwricwlwm yn ychwanegu gwerth sylweddol i ddisgyblion ym Mryngwyn o ran eu medrau a’u deilliannau cyffredinol.
Mae disgyblion yn ddysgwyr hyderus, annibynnol a chydweithredol sy’n arddangos llawer o wydnwch, ac maent yn ymgysylltu’n dda â’u hastudiaethau.
Fel rhan o ffederasiwn, mae Bryngwyn yn sicrhau bod yr holl ddatblygiadau’n cael eu rhannu ar draws y ffederasiwn. Mae partneriaeth â’r darparwr ôl-16 yn Llanelli ac ysgolion uwchradd eraill yn sicrhau bod adnoddau a chyfleoedd yn y sector 14-19 oed yn cael eu rhannu. Mae hyn yn amlwg yn y ddarpariaeth medrau galwedigaethol. Mae Bryngwyn yn gweithio gyda’r grŵp cwricwlwm DEPNET yn Sir Gaerfyrddin hefyd. Fel rhan o’r rhwydwaith arloesol, caiff rhwydwaith ffederasiwn Bryngwyn a Glan Y Môr gyfle i weithio gyda nifer o ysgolion y tu allan i’r rhanbarth ar ddatblygiadau’r cwricwlwm.
Mae Glan-y-Môr yn ysgol gymuned 11-16 oed ym Mhorth Tywyn gyda 480 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae tua 30% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Cafodd yr ysgol ei ffederaleiddio yn ffurfiol gydag Ysgol Bryngwyn yn 2014, gan ddod yn ysgol arloesi beilot ar gyfer ffederasiynau uwchradd yng Nghymru. Mae Ysgol Glan-y-Môr yn gweithio mewn partneriaeth gref gyda’i hysgolion cynradd bwydo a’r darparwr addysg bellach lleol, trwy fentrau 14-19 oed. Ar hyn o bryd, mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar gyfer dysgu proffesiynol.
Cyflwynodd Glan-y-Môr raglen gyfoethogi gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) ym Medi 2014, yn wreiddiol fel gweithgaredd allgyrsiol i hybu pontio. Ers hynny, mae wedi datblygu’n gyflym yn strategaeth allweddol o ran gyrru datblygiad y cwricwlwm er mwyn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd i Gymru. Nod y rhaglen oedd ymgysylltu â disgyblion a chreu cyffro yn eu plith ynghylch y llwybrau gyrfaol a gynigir ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae’r rhaglen yn seiliedig ar egwyddorion dysgu gweithredol, gan godi dyheadau a chynyddu cyfleoedd. Mae’r ysgol yn hyderus bod y system gyfoethogi STEM hon eisoes yn helpu ei disgyblion i ddatblygu yn unol ag adroddiad Donaldson a’i 4 egwyddor allweddol. Mae’r strategaethau a’r gwersi a ddysgwyd o weithredu’r rhaglen STEM lwyddiannus hon bellach yn cael eu cymhwyso i’r prif gwricwlwm.
Mae dull amlweddog i’r rhaglen, yn yr ystyr ei bod yn rhoi cyfleoedd i bob dysgwr, ac yn cynnwys agweddau allweddol sy’n canolbwyntio ar grwpiau o ddysgwyr, er enghraifft y rhai sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim, dysgwyr mwy abl a thalentog, a merched.
Mae’r dull a ddisgrifir uchod yn cynnwys:
Diwrnodau her. Mae’r rhain yn ddiwrnodau pan gaiff y cwricwlwm ei roi o’r neilltu a bydd grwpiau blwyddyn gyfan yn cymryd rhan mewn gweithgareddau her STEM. Mae’r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar brosiectau “byw” neu gystadlaethau STEM, er enghraift “D&T Alu Challenge”. Mae disgyblion yn gweithio mewn timau o dri, yn ymateb i friff cystadleuol i gynhyrchu dyluniad, sydd nid yn unig yn addas at ei ddiben ond hefyd yn datblygu eu gwybodaeth am alwminiwm a’u dealltwriaeth ohono. Mae’r rhain, a heriau tebyg, yn gofyn i ddisgyblion fabwysiadu amrywiaeth o fedrau, fel datrys problemau, cyfathrebu ac ymchwil, ynghyd â defnyddio’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth bresennol o gysyniadau a themâu a gawsant trwy ddulliau dysgu mwy traddodiadol mewn pynciau eraill.
Addysgu ar draws grwpiau blwyddyn. Yn ystod tymor yr hydref 2016, cymerodd yr ysgol ran ym mhrosiect peilot Dyfarniad Crest gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain a Llywodraeth Cymru. Rhoddodd hyn gyfle i roi cynnig ar weithio mewn grwpiau blynyddoedd cymysg, gan roi’r hyblygrwydd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau cyfathrebu a gwaith tîm, yn ogystal â datblygu eu hyder trwy weithio gyda disgyblion eraill o wahanol oedrannau a’u harwain.
Gweithio gyda sefydliadau allanol. A hithau’n ysgol lai, mae ysgol Glan-y-Môr wedi elwa’n helaeth o ddod ag arbenigedd i’r ysgol o ddiwydiannau lleol, sefydliadau STEM a llysgenhadon STEM. Mae hyn wedi galluogi’r ysgol i roi ystod ehangach o lawer o brofiadau a chyfleoedd dysgu i’w disgyblion. Mae’r arbenigedd hwn wedi’i ddefnyddio mewn sawl ffordd ac mewn amrywiaeth o brosiectau STEM.
Cydweithio â phartneriaid cynradd ac AB. Mae gweithio ar draws cyfnodau gyda phartneriaid cynradd ac AB ar brosiectau STEM wedi galluogi’r ysgol i sefydlu cysylltiadau partneriaeth cryf. Mae’r prosiectau hyn wedi cynorthwyo dysgwyr ifanc mewn sawl ffordd ac wedi cael effaith fuddiol ar ddeilliannau disgyblion. Yng nghyfnod allweddol 2, bu deilliannau gwell mewn mathemateg a gwyddoniaeth, mae datblygiad disgyblion a deilliannau cyrhaeddiad wedi gwella ar draws pynciau STEM, a bu newid sylweddol yn hyder a hunan-barch disgyblion. Yn ogystal, mae pontio gan ddisgyblion pan fyddant yn dechrau yn yr ysgol ym Mlwyddyn 7, ac o Flwyddyn 11 i’r coleg, wedi’i wneud yn fwy hwylus a llwyddiannus trwy’r dull traws cyfnod hwn.
Bwrw ymlaen gyda SciTech – Mae’r ysgol nawr yn awyddus i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd drwy’r rhaglen gyfoethogi i’r prif gwricwlwm, trwy gyflwyno SciTech ar gyfer Medi 2017. Esblygodd y syniad hwn wrth i’r ysgol gymryd rhan yng Ngweithgor y Maes Profiad Dysgu, Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Y sail resymegol ar gyfer y dull hwn yw bod dysgu’n cael ei wneud yn fwy ystyrlon pan fydd yn mynd i’r afael â’r cwestiwn hwn “Pam mae arnom angen gwybod hyn?” Y gobaith yw y bydd disgyblion yn datblygu medrau a fydd yn caniatáu iddynt drosglwyddo gwybodaeth a medrau yn naturiol rhwng pynciau, yn enwedig ar lefel uwchradd. Bwriedir i’r dull gyfoethogi gwybodaeth am y pwnc a chyflwyno mwy o her i ddysgwyr ar yr un pryd.
‘The Sky’s Her Limit’ – Mae Glan-y-Môr yn bwriadu datblygu’r rhaglen gyfoethogi ymhellach trwy gynnwys diwrnod her STEM CA3 cyffrous i ferched gyda Chwarae Teg, sef ‘The Sky’s Her Limit’, sy’n canolbwyntio ar gynyddu nifer y merched sy’n dilyn llwybrau gyrfaol STEM. Bydd yr ysgol yn parhau i gysylltu â sefydliadau addysgol eraill ar bob lefel i rannu profiadau a helpu eraill i ymgysylltu â’r dysgu gweithredol, cydweithredol, cyd-destunol y mae rhaglen gyfoethogi STEM wedi’i roi i’r disgyblion.
Dros gyfnod y prosiect, o ganlyniad i fwy o ymgysylltu a chyfranogi, mae’r ysgol wedi gweld gwelliannau amlwg mewn safonau mewn gwyddoniaeth, technoleg a mathemateg. Fodd bynnag, nid yw’r buddion i ddisgyblion wedi’u cyfyngu i ddatblygiad medrau a gwybodaeth STEM; maent wedi helpu i wella medrau ehangach cyfathrebu, siarad cyhoeddus, dysgu gweithgar neu annibynnol, gwaith tîm a datblygiad arweinyddiaeth, yn ogystal â chodi eu hyder, hunan-barch a dyheadau. Mae disgyblion wedi cael enw da yn lleol ac yn genedlaethol fel cyfathrebwyr a siaradwyr cyhoeddus hyderus a rhugl, gan gyfarfod â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn ddiweddar yn ogystal â chael eu cynnwys mewn ffilm fer gan BBC Newsround ddiwedd y llynedd.
Mae’r holl fentrau a phrofiadau hyn wedi codi dyheadau ymhlith disgyblion, sydd bellach yn gweld cyfleoedd yn hytrach na rhwystrau i’w huchelgeisiau ac maent yn gyfranwyr allweddol at y ffaith bod gwaith yr ysgol yn cael ei ystyried yn waith sy’n arwain y sector.
Mae’r ysgol yn sicrhau bod pob datblygiad yn cael ei rannu ar draws y ffederasiwn gyda Bryngwyn – ei hysgol bartner. Fel rhan o’r rhwydwaith arloesi, mae ffederasiwn Bryngwyn/Glan-y-Môr hefyd yn cael cyfle i weithio gyda nifer o ysgolion ar ddatblygu’r cwricwlwm. Mae cyfrif Twitter gweithgar iawn – @glanymorStem – yn nodi’r holl waith STEM ac mae ar gael i bawb fynd ato. Mae nifer o fideos ar lwyfannau a rennir yn dangos sut mae disgyblion wedi ymgysylltu â phrofiadau STEM niferus ac elwa ohonynt. Mae’r rhain ar wefan yr ysgol yn www.glanymorschool.co.uk
Mewn digwyddiad ‘Big Bang’ diweddar, rhannodd 11 ysgol weithgareddau STEM ar y safle. Mae profiadau’r ysgol a’i gweledigaeth ynghylch y ffordd y mae rhaglen STEM yn hwylusydd ar gyfer y cwricwlwm i Gymru yn ei theulu o ysgolion yn cael eu cyfleu trwy gyfarfodydd â chydlynwyr STEM o ysgolion, sefydliadau a chonsortia eraill.