Arfer effeithiol Archives - Page 51 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd yr Hafod, sydd wedi’i lleoli mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf ddynodedig, yn gwasanaethu hen ardal ddiwydiannol ger canol dinas Abertawe, lle mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn byw o fewn y 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae 242 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 39 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin.  Mae lleiafrif o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae gan rai ohonynt ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Mae tua hanner y disgyblion yn wyn Prydeinig, ac mae tua hanner ohonynt yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Daw mwyafrif y disgyblion hyn o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg.  Mae’r disgyblion yn siarad 15 o wahanol ieithoedd, a’r iaith fwyaf cyffredin o’r rhain yw Sylheti.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad rhywfaint o Gymraeg gartref.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Er bod yr ysgol eisoes yn cynnig cwricwlwm arloesol, mae wedi arfarnu ei darpariaeth yn ddiweddar i sicrhau ei bod wedi’i pharatoi’n llawn ar gyfer newidiadau sydd ar fin digwydd.  Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’r ysgol wedi ad-drefnu’r uwch dîm arweinyddiaeth i ymgorffori swydd â chyfrifoldeb addysgu a dysgu ar gyfer llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.  Mae wedi datblygu timau ac unigolion sydd â chyfrifoldeb am oruchwylio’r chwe maes dysgu, yn ogystal â staff sydd â chyfrifoldeb am asesu ar gyfer dysgu a sicrhau parhad yn nysgu disgyblion rhwng tair ac un deg chwech oed.  Er bod timau ar gyfer pob maes dysgu, nid yw’r ysgol yn galluogi staff i weithio ‘ar wahân’.  Mae monitro a datblygiad staff effeithiol gan uwch arweinwyr, er enghraifft ar ddiwrnodau dysgu proffesiynol, yn sicrhau bod y cysylltiad rhwng meysydd dysgu yn aros.

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Mae uwch arweinwyr, arweinwyr meysydd dysgu penodol a’u timau yn arfarnu’r cwricwlwm a’i effaith ar ddysgu trwy galendr wedi’i gynllunio’n ofalus o weithgareddau monitro.  Mae’r rhain yn cynnwys craffu ar lyfrau, arsylwadau gwersi, ac, yn fwy diweddar, teithiau dysgu.  Mae’r gwaith hwn wedi nodi camau nesaf clir a phriodol.  Er enghraifft, mae’r tîm cymhwysedd digidol yn deall, er bod cyflwyniad a medrau creadigol disgyblion yn gryf, mai megis dechrau datblygu y mae agweddau ar waith o ran trin data.

Cam 3:  Cyflawni newid

Mae’r ysgol yn croesawu’n llawn bedwar diben y cwricwlwm a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), ac mae’n gweithio’n effeithiol i’w cyflawni.  Mae ethos yr ysgol yn deillio o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).  O’r man cychwyn hwn, mae’r ysgol wedi sefydlu set o 10 o werthoedd ar y cyd sy’n treiddio trwy ei gwaith.  Mae’r rhain yn cynnwys cariad, symlrwydd a goddefgarwch.  Mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol iawn o grefyddau enwog a llai adnabyddus o bob cwr o’r byd i ysgogi dysgu.  Mae’n gweithio’n arbennig o dda gydag ysgolion eraill yn rhyngwladol i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o fywydau plant eraill.  Mae disgyblion o’r ysgol yn cynorthwyo plant eraill mewn amgylchiadau llai ffafriol i fanteisio ar eu hawliau yn unol â CCUHP.  Er enghraifft, maent yn noddi disgyblion ac yn gweithio’n agos ag Ysgol Kabbila yn Affrica.  Mae testunau hefyd yn cynnwys astudio pobl sydd wedi cael dylanwad cadarnhaol ar wella bywydau pobl eraill, er enghraifft Y Fam Theresa, Ghandi a Martin Luther King.  Gyda’i gilydd, mae’r gwaith hwn yn golygu bod disgyblion yn cael pob cyfle i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus. 

Mae datblygu’r cwricwlwm yn yr ysgol yn sicrhau bod athrawon yn manteisio’n llawn ar gyd-destunau lleol gwerthfawr ar gyfer dysgu i alluogi disgyblion i ddatblygu a chymhwyso medrau yn eu cyd-destun.  Er enghraifft, mae prosiect ‘Copperopolis’ yn defnyddio’r hanes lleol cyfoethog am gloddio am gopr yn ardal yr Hafod yn Abertawe.  Mae pob testun yn dechrau ag ymweliad addysgol neu brofiad trochi.  Er enghraifft, bu’r disgyblion ym Mlwyddyn 5 yn cerdded ar hyd ‘Llwybr y Gweithfeydd Copr’ yn yr Hafod â phadiau braslunio, dyfeisiau llechen a chlipfyrddau i ddefnyddio ffynonellau dilys o dystiolaeth hanesyddol i ysgogi gweithgareddau llythrennedd, rhifedd a chreadigol.  Mae disgyblion yn gwneud defnydd hynod effeithiol o dechnoleg sgrin werdd i gofnodi a chyflwyno eu gwaith.  Mae disgyblion hŷn yn cydweithio’n dda ar dasgau o’r fath, gan ddangos yr agweddau y mae’r ysgol yn eu hannog ganddynt.  

Ceir pwyslais cryf ar ddatblygu gwerthfawrogiad disgyblion o’r celfyddydau creadigol.  Mae prosiectau fel ‘tynnu un llun’ yn datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad disgyblion o gelf yn llwyddiannus.  O fewn y gwaith hwn, mae disgyblion yn astudio’r llun a ddewiswyd o safbwynt yr arlunydd, yr hanesydd a’r addysgwr.  Mae hyn yn hyrwyddo dysgu effeithiol, er enghraifft trwy ddefnyddio’r adeiladau yn y lluniau fel symbyliad ar gyfer gwaith mathemateg ar siapiau tri dimensiwn.  Arweiniodd y prosiect hwn at greu’r oriel gelf yn neuadd yr ysgol, sef arddangosfa o waith celf enwog ar raddfa fawr.  Mae’r ysgol yn defnyddio’r oriel yn dda iawn i gefnogi dysgu.  Mae safon gwaith celf disgyblion yn uchel ar y cyfan, ac mae’n elwa ymhellach ar addysgu arbenigol yn ystod amser cynllunio, paratoi ac asesu athrawon eraill.  Mae’r gwaith hwn yn datblygu dyheadau disgyblion yn dda.  Mae’n eu cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o’r angen i ddyfalbarhau i lwyddo.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Cae Top, sydd o dan reolaeth yr Eglwys yng Nghymru, wedi’i lleoli ym Mangor.  Mae 234 o ddisgyblion ar y gofrestr, sy’n cynnwys 28 o blant oedran meithrin.  Mae wyth o ddosbarthiadau un oedran yn yr ysgol.
Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith.  Daw tua 25% o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg ac maent yn siarad 16 o ieithoedd gwahanol.  Mae tua 24% o ddisgyblion yn dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.
Mae deuddeg y cant o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae un deg tri y cant o ddisgyblion ar gofrestr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion dysgu ychwanegol.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth wedi sefydlu dealltwriaeth ar y cyd ar draws yr ysgol ynglŷn â’u gweledigaeth i ddatblygu cwricwlwm sy’n seiliedig ar brofiadau gwirioneddol, uniongyrchol ar gyfer disgyblion na ellir eu caffael yn yr ystafell ddosbarth.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae staff wedi cynllunio gweithgareddau a phrofiadau pwrpasol sy’n ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion ac yn cryfhau lefel yr ymgysylltu â’u gwaith.
Yn dilyn cyhoeddi Dyfodol Llwyddiannus, canolbwyntiodd yr ysgol ar ddatblygu’r pedwar diben craidd a amlinellir yn yr adroddiad.
Cynhaliwyd archwiliad gan arweinwyr i farnu cryfderau presennol y cwricwlwm a’r modd y dylid addasu a newid y ddarpariaeth bresennol.  Ymgymerodd staff ag ystod o weithgareddau hunanarfarnu a oedd yn canolbwyntio ar y pedwar diben.  Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys:
  • arsylwi gwersi – bu’r pennaeth yn arsylwi pob un o’r athrawon ochr yn ochr ag aelod arall o staff, yn canolbwyntio ar un neu fwy o’r dibenion
  • craffu ar waith disgyblion – cynnwys pob aelod o staff a llywodraethwyr
  • holi disgyblion am eu dealltwriaeth o’r pedwar diben
  • craffu ar gynlluniau gwaith ac arfarnu pa mor dda yr oedd athrawon yn cynllunio i ddatblygu’r pedwar diben
Yn dilyn cyfres o gyfarfodydd staff i ddadansoddi deilliannau, nodwyd bod yr agweddau hyn yn hanfodol ar gyfer cwricwlwm cyffrous ac arloesol:
  • cyfranogiad disgyblion yn natblygiadau’r cwricwlwm
  • sicrhau bod disgyblion yn elwa ar eu gwaith, ac yn cael mwynhad ohono
  • sicrhau bod ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer codi safonau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn dda
  • sicrhau her gadarn i bob disgybl gan athrawon sydd â disgwyliadau uchel
  • sicrhau bod ethos Cymreig yn rhan annatod o’r ddarpariaeth
Nododd athrawon fod pwysigrwydd cadw disgyblion yn ganolog i’r holl benderfyniadau a gweithgareddau yn allweddol i gwricwlwm llwyddiannus. 
Cynhaliodd yr ysgol nifer o gyfarfodydd arfarnu i athrawon graffu ar waith disgyblion a’u cynllunio eu hunain.  Hwylusodd aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth y gweithgareddau hyn a rhannu deilliannau â gweddill y staff.  Roedd gweithgaredd grŵp hynod effeithiol yn golygu bod pob un o’r athrawon yn rhoi nodiadau ‘post-it’ ar siart fawr, a oedd yn canolbwyntio ar themâu presennol a’r meysydd dysgu a phrofiad i nodi’r hyn yr oedd yr ysgol eisoes yn ei gyflwyno’n dda.  Rhoddodd staff nodyn ‘post-it’ glas os oeddent yn barnu bod y ddarpariaeth yn ‘dda’, a sticer felen os oeddent yn credu bod angen gwella’r ddarpariaeth.  Roedd staff yn ysgrifennu ‘sylwadau gweithredu’ ar y sticeri melyn ac yn defnyddio’r rhain i ddatblygu blaenoriaethau yng nghynllun datblygu’r ysgol.  Dros gyfnod, ar ôl arfarnu cynnydd yn barhaus, caiff y nodiadau ‘post-it’ melyn eu cyfnewid am rai glas.  Mae staff yn gweld bod hyn yn ddull clir a syml o fonitro newidiadau a gwelliannau yn effeithiol iawn.
Yn ystod y cyfnod cynnar hwn o ddatblygu’r cwricwlwm, roedd arweinwyr yn cynnwys rhieni wrth arfarnu’r ddarpariaeth bresennol a chrëwyd ‘Fforwm Cwricwlwm i Rieni’ i drafod newidiadau arfaethedig a pharatoi rhieni ar gyfer y newidiadau. 
 
Cyfarfu aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth â chynrychiolwyr rhieni i drafod eu syniadau a’u dyheadau ar gyfer cwricwlwm bywiog a chryf.  Mae deilliannau’r broses hon yn cynnwys:
  • mwy o waith cartref yn seiliedig ar y dyniaethau, ac iechyd a lles
  • mwy o gyfleoedd perthnasol i ddisgyblion ddefnyddio eu medrau llythrennedd a rhifedd y tu allan i’r ystafell ddosbarth
  • rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau celfyddydau creadigol
  • cyfleoedd cynyddol i ddatblygu hunaniaeth Gymreig disgyblion
Mae llywodraethwyr yn cyfarfod bob hanner tymor i drafod datblygiadau.  Mae’r ysgol wedi nodi llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu’r cwricwlwm, sy’n ymweld â’r ysgol yn rheolaidd i ystyried y ffordd y mae’r ysgol yn cynllunio i ddatblygu cymhwysedd digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm.  Mae llywodraethwyr yn ymwybodol o’r addysgeg sydd ei hangen i sicrhau bod profiadau dysgu a chyflawniad yn gyson ar draws yr ysgol ac y gellir cadw dilyniant clir a gweladwy. 
Mae’r ysgol yn arfarnu ei chynllunio trwy ddefnyddio triadau dysgu.  Mae athrawon yn gweithio gyda staff o ddwy ysgol arall i arsylwi gwersi, cynllunio, craffu ar waith disgyblion a rhoi adborth.  Caiff hyn effaith sylweddol ar godi safonau yn y cyfnod sylfaen, yn enwedig yn neilliant 6.
Yn dilyn yr archwiliad hwn, trefnwyd hyfforddiant gan y pennaeth i sicrhau bod athrawon yn gwella’u medrau i’w galluogi i addysgu agweddau arbenigol ar y cwricwlwm, neu agweddau nad oeddent yn hyderus ynddynt. 
 

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Buan y sefydlwyd fforwm staff gan yr ysgol i drafod dyheadau, disgwyliadau, gofidiau ac amheuon.  Sicrhaodd y pennaeth fod pob un o’r staff yn cael cyfleoedd rheolaidd i leisio’u barn fel bod cyfarfodydd yn canolbwyntio’n fanwl ar addysgeg.  Roedd athrawon yn pryderu i ddechrau bod diffyg hyfforddiant yn golygu na fyddent yn gallu cynllunio’n effeithiol i roi’r pedwar diben ar waith.  Roedd staff yn teimlo’n ansicr hefyd ynglŷn â sut byddent yn asesu cyflawniad disgyblion ac roeddent yn pryderu ynglŷn â pheidio â dilyn cwricwlwm strwythuredig a oedd yn cynnwys lefelau a deilliannau cytûn ac a gydnabuwyd yn genedlaethol.  Er mwyn lleihau’r gofidiau hyn, penderfynodd y pennaeth y byddai’r ysgol yn parhau i asesu cyrhaeddiad disgyblion mewn pynciau craidd gan ddefnyddio offeryn electronig i gofnodi asesiadau.   
Roedd arweinwyr yn awyddus i sicrhau bod pob un o’r staff yn newid eu dull o gynllunio trwy ystyried y pedwar diben yn ofalus ym mhob gweithgaredd thema.  Mae gweithgareddau dysgu i gyd yn dechrau â ‘phrofiad’, sy’n gysylltiedig â phwnc neu destun penodol.  Dilynir hyn gan gyfres o wersi ar wahân i feistroli medrau penodol, cyn i ddisgyblion fynd i’r afael â her y maent yn cymhwyso’r medrau ynddi.  Mae’r ysgol yn credu mai o fewn yr heriau y bydd y pedwar diben yn cael eu datblygu’n fanylach, pan fydd disgyblion yn arwain y dysgu.  Yn dilyn hunanarfarniad yr ysgol o’r heriau hyn, mae athrawon wedi addasu a chreu heriau newydd, i sicrhau bod disgyblion yn cael cyfleoedd gwerth chweil i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r pedwar diben wrth iddynt arwain y dysgu i gymhwyso medrau.  Mae’r addysgeg hon yn gyson ag athroniaeth y cyfnod sylfaen. 
Mae’r pennaeth yn credu ei bod yn haws newid ymagwedd neu ddull addysgu os yw pob aelod o’r tîm yn newid gyda’i gilydd ac yn rhannu llwyddiannau a methiannau.  Roedd ymagwedd yr ysgol at ddatblygu’r cwricwlwm yn cynnwys galluogi pob un o’r staff i ganolbwyntio ar anghenion y cwricwlwm.  Rhoddwyd dyheadau personol o’r neilltu, ac yn ystod y cyfnod diwygio hwn, roedd trefniadau hyfforddi wedi’u seilio’n gyfan gwbl ar bedwar diben Donaldson.
Sicrhaodd hyfforddiant gwerth chweil fod pob aelod o staff yn arwain ar wahanol agweddau ar y pedwar diben, ac yn canolbwyntio ar ddatblygu addysgeg effeithiol.  Mae arweinwyr wedi datblygu strwythur cadarn i hyfforddi a sefydlu staff, sy’n cynnig cymorth effeithiol i athrawon amhrofiadol gynllunio ar y cyd ac arsylwi athrawon profiadol yn addysgu.  Mae hyn yn sicrhau eu bod yn ymateb yn dda i ddiwygio’r cwricwlwm.
Ym mhob cyfweliad ar gyfer staff newydd, mae arweinwyr yr ysgol yn gofyn cwestiynau penodol am ddatblygu’r cwricwlwm.  Mae gofyn i ymgeiswyr, ac aelodau presennol o staff “Beth fydd plant yn ei gofio am eu cyfnod yng Nghae Top?” yn sicrhau bod athrawon yn cynllunio profiadau ymarferol sy’n galluogi disgyblion i gymhwyso eu medrau. 
Caiff athrawon eu hannog i fentro’n bwyllog ac arbrofi’n rheolaidd â gwahanol ymagweddau at addysgeg.  Roedd arweinwyr yn derbyn na fyddai cynllunio i ddatblygu meysydd dysgu a phrofiad yn berffaith o’r cychwyn.  Mae hyn wedi arwain at hinsawdd lle mae athrawon yn teimlo’n gyfforddus yn trafod y pethau a fu’n aflwyddiannus.  Mae’r pennaeth yn annog staff i fod yn arloesol i sicrhau bod medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh disgyblion yn datblygu’n effeithiol trwy brofiadau a gweithgareddau ar draws y cwricwlwm.
Ar hyd taith yr ysgol i ddatblygu’r cwricwlwm, mae arweinwyr yn parhau i arfarnu’r ddarpariaeth a myfyrio ar eu gwaith bob tymor er mwyn ystyried beth fu’n llwyddiannus a beth mae angen ei newid. 
Wrth baratoi ar gyfer y newid hwn, mae pob un o’r staff yn darparu profiadau uniongyrchol ar gyfer disgyblion trwy ddysgu cynlluniedig, ar wahân sy’n eu herio’n effeithiol.  Mae athrawon wedi nodi pwysigrwydd dechrau pob uned waith ag ymweliad neu drwy wahodd ymwelydd i’r ysgol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Cornist Park yn y Fflint.  Mae 325 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, gan gynnwys tua 40 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin.  Mae 11 o ddosbarthiadau oedran cymysg yn yr ysgol.  Mae tua 15% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim. 

Mae gan ryw 17% o ddisgyblion yr ysgol anghenion dysgu ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion dysgu ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref, yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu’n derbyn cymorth ar gyfer Saesneg fel iaith ychwanegol. 

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Archwiliodd yr ysgol ei darpariaeth bresennol ar gyfer y cwricwlwm i arfarnu cryfderau a meysydd i’w gwella.  Yn benodol, bu’r ysgol yn ystyried pa mor dda yr oedd ei chwricwlwm a’i haddysgeg yn cyd-fynd â’r pedwar diben a’r meysydd dysgu a phrofiad a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).

Sicrhaodd arweinwyr yr ysgol fod staff a llywodraethwyr yn cymryd rhan mewn arfarnu’r cwricwlwm trwy gyfarfodydd pwyllgor cwricwlwm a diwrnodau hyfforddi.  Nodwyd cryfderau nodedig yng ngwaith hunanarfarnu’r ysgol. 
Roedd y rhain yn cynnwys:

  • dull thematig o gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm
  • defnydd effeithiol o lais y disgybl wrth gynllunio profiadau dysgu
  • darpariaeth i ddatblygu medrau meddwl a dysgu ar y cyd y disgyblion
  • defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn llwyddiannus

Nododd yr ysgol hefyd ei bod yn llwyddiannus o ran datblygu agwedd ‘gallu gwneud’ ymhlith disgyblion, gan eu helpu i ddod yn bobl ifanc hyderus ac uchelgeisiol.  Canfu arweinwyr nad oedd disgyblion yn ofni gwneud camgymeriadau a’u bod yn fodlon mentro’n bwyllog, gyda chymorth gan oedolyn. 

At ei gilydd, dangosodd gweithgarwch hunanarfarnu fod gan yr ysgol lawer o flociau adeiladu ar gyfer y cwricwlwm newydd sydd ar waith, a’i bod mewn sefyllfa gadarnhaol iawn i gyflwyno rhagor o newidiadau yng ngoleuni Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).

Nododd yr ysgol feysydd i’w datblygu trwy archwilio’r cynllunio.  Roedd y rhain yn cynnwys yr angen i wella darpariaeth ar gyfer y celfyddydau mynegiannol.  Defnyddiodd yr ysgol y wybodaeth hon i gynllunio ar gyfer gwelliant pellach.

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Daeth yr agweddau llai datblygedig ar y ddarpariaeth yn ganolbwynt i ‘wythnosau cwricwlwm creadigol’.  Roedd yr ysgol eisiau darparu cyfleoedd gwell i ddisgyblion ddefnyddio doniau a medrau creadigol fel dawns, drama a cherddoriaeth trwy gydol y flwyddyn.  Cynhaliodd yr ysgol arbrawf ag wythnosau thema ar destunau fel ‘wythnos amlddiwylliannol’ ac ‘wythnos Ysgolion Iach’.  Bu timau o athrawon yn cynllunio’r wythnosau o dan benawdau’r meysydd dysgu a phrofiad.  Buont yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu ystod lawn o fedrau ar draws y meysydd dysgu a phrofiad a gwnaed cysylltiadau effeithiol rhwng y meysydd dysgu o fewn cyd-destunau difyr. 

Erbyn hyn, mae athrawon yn cynllunio gan ddefnyddio’r meysydd dysgu a phrofiad fel penawdau tra’n sicrhau bod llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol yn parhau i fod yn ganolog i gynllunio.  Maent yn fwy cyfarwydd a hyderus â’r meysydd dysgu a phrofiad ac yn meddwl yn fwy cydwybodol ynglŷn â sut i wneud y mwyaf o gyfleoedd dysgu.

Mae’r ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i gyfathrebu rheolaidd ac effeithiol tra’n cynllunio ar gyfer newid.  Mae uwch arweinwyr yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid am ddatblygiadau.  Maent yn mabwysiadu ymagwedd gadarnhaol a brwdfrydig, gan sicrhau staff bod mentro’n bwyllog yn dderbyniol ac yn ofyniad wrth roi newid ar waith.  Maent yn annog staff i fod yn ‘gyfranwyr uchelgeisiol, abl, moesegol, iach, cymwys, mentrus a chreadigol’.

Hyd yma, mae arweinwyr wedi neilltuo amser hyfforddi ar gyfer staff er mwyn iddynt ymgyfarwyddo â ‘Dyfodol Llwyddiannus’, (Donaldson, 2015) ac i archwilio arferion presennol ochr yn ochr â’i argymhellion.  Mae’r cyfarfodydd hyn yn creu cyfleoedd gwerthfawr i rannu arfer orau ‘yn fewnol’, er enghraifft trwy gyfarfodydd tîm ar y cyd.  Mae staff yn elwa ar hyfforddiant a gynigir gan y consortiwm rhanbarthol a’r awdurdod addysg lleol.  Cynhelir ymweliadau rheolaidd ag ysgolion eraill, a chan ysgolion eraill, i rannu arfer dda a syniadau ynglŷn â newid i gwricwlwm mwy arloesol.

Mae disgyblion hŷn yn ymwybodol o adroddiad yr Athro Donaldson ac o rai o oblygiadau hyn ar gyfer eu dysgu.  Mae’r ysgol yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr iddynt weithio yn unol â’r pedwar diben.  Caiff disgyblion gyfleoedd gwerth chweil i fod yn greadigol a defnyddio technoleg ddigidol i wella eu profiadau a’u dealltwriaeth yn yr ystafell ddosbarth.  Maent yn deall bod angen defnyddio a datblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm a’i bod yn bwysig cael nodau ac uchelgeisiau i wneud eu gorau.  

Mae llywodraethwyr yn mynychu cyfarfodydd y pwyllgor cwricwlwm i gael dealltwriaeth gadarn o ddatblygiadau cenedlaethol o ran datblygu’r cwricwlwm.  Maent yn ymwybodol o’r targedau yng nghynllun datblygu’r ysgol a’r modd y mae’r rhain yn ymwneud â Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).

Cam 3:  Cyflawni newid

Mae gwaith hunanarfarnu a pharatoadol yr ysgol wedi eu galluogi i newid y cwricwlwm yn esmwyth ac effeithiol.  I ddechrau, aeth yr ysgol i’r afael â gwendidau neu fylchau yn y meysydd dysgu a phrofiad trwy gynllunio wythnosau cwricwlwm creadigol.  Erbyn hyn, mae’r ysgol yn sicrhau bod addysgu a dysgu o ddydd i ddydd yn cynnal ffocws cyson ar nodau’r cwricwlwm newydd.  Mae athrawon yn cynllunio’r cwricwlwm yn thematig ar draws y meysydd dysgu a phrofiad, gyda chysylltiadau eglur â Fframwaith y Cyfnod Sylfaen, y Cwricwlwm Cenedlaethol, y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.  O ganlyniad, caiff disgyblion gyfleoedd rheolaidd a chynlluniedig i ddatblygu, ymestyn a chymhwyso eu medrau ar draws pob maes dysgu.

Mae athrawon yn defnyddio strategaethau penodol i ddatblygu medrau ac ymddygiadau hanfodol ymhlith disgyblion, er enghraifft i wella medrau darllen ac agweddau ar les, fel ymddygiad a pherthnasoedd iach.  Mae’r defnydd effeithiol o brofiadau dysgu digidol a’r ‘ysgol goedwig’ wedi gwella cymhelliant dysgwyr, ymgysylltu â dysgwyr a safonau dysgwyr. 

Mae rhieni ar draws yr ysgol wedi cael cyfle hefyd i ddod i ddosbarthiadau ar gyfer boreau ‘rhannu’r dysgu’.  Mae hyn yn gyfle i athrawon dosbarth ddangos ymagweddau dysgu thematig trwy amrywiaeth eang o feysydd pwnc.

Cam 4:  Arfarnu newid

Mae’r ysgol yn gweithredu cylch cyson o arfarnu, adolygu, monitro a newid.  Caiff targedau ar gyfer datblygu’r ysgol gyfan eu gosod mewn tri maes craidd llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel ysgogwyr y cwricwlwm newydd.  Mae arweinwyr yn arfarnu effaith gwelliannau trwy ganolbwyntio ar berfformiad disgyblion yn erbyn targedau penodol sydd ynghlwm wrth bob maes.  Bydd y meysydd hyn yn dod yn ffocws hefyd ar gyfer rheoli perfformiad, arsylwadau gwersi a chraffu ar waith.

Enghraifft benodol o newid sydd eisoes wedi gwella safonau yw dysgu digidol, sydd wedi dangos cymwyseddau gwell o ran TGCh, wedi cyfoethogi’r cyfleoedd llythrennedd a rhifedd, ac wedi cynyddu dawn greadigol, hunan-barch a chymhelliant disgyblion.  Mae enghraifft arall, sef Grym Darllen, wedi galluogi’r disgyblion i ddatblygu ymatebion mwy ystyrlon i’r hyn y maent yn ei ddarllen, gan ddarparu strategaethau i archwilio testunau’n fanylach a gyda dealltwriaeth fanylach.

 

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae’r ysgol wedi cael perthynas gadarnhaol â’r ysgolion cynradd partner yn ei chlwstwr erioed, ac mae hyn wedi datblygu ymhellach yn y blynyddoedd diwethaf.  Mae’r pennaeth a’r pennaeth cynorthwyol yn cyfarfod â phob un o benaethiaid yr ysgolion clwstwr bob hanner tymor i drafod cyfnod pontio ar gyfer disgyblion sy’n dechrau yng nghyfnod allweddol 3.  Mae’r pennaeth cynorthwyol a’r arweinwyr dysgu ac addysgu ym mhob ysgol yn cyfarfod bob hanner tymor hefyd.  Yn ogystal â datblygu a gwella’r trefniadau pontio ymhellach, mae’r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar sicrhau arfer gyson o ran dysgu ac addysgu ar draws y clwstwr.  Mae hyn yn helpu disgyblion i ymgynefino’n gyflym ac maent yn elwa’n sylweddol ar barhad a dilyniant effeithiol mewn dysgu.

Disgrifiad o’r strategaeth

Yn 2014, nodwyd bod yr ysgol yn Ysgol Llwybrau Llwyddiant fel rhan o raglen Her Ysgolion Cymru Llywodraeth Cymru.  Defnyddiodd yr ysgol ei hymglymiad â’r rhaglen i fuddsoddi mewn ystod o raglenni addysgu a hyfforddi.  Mae hyn wedi galluogi staff yn yr ysgol i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dysgu proffesiynol sydd wedi’u cysylltu’n agos â’u cyfrifoldebau a’u hanghenion datblygu.  Mae’r rhain yn cynnwys rhaglen athrawon rhagorol, rhaglen gwella athrawon, rhaglen cynorthwywyr addysgu rhagorol a rhaglen arweinwyr addysg rhagorol.  Dros gyfnod, mae nifer yr athrawon yn yr ysgol sydd wedi cwblhau’r rhaglenni hyn wedi cynyddu’n sylweddol, gan alluogi’r ysgol i hyrwyddo ei hwyluswyr ei hun ar gyfer y rhaglenni.

Un o elfennau allweddol y dull a ddefnyddir gan yr ysgol fu sicrhau bod manteision y buddsoddiad hwn wedi cael eu rhannu ar draws yr ysgolion yn y clwstwr.  Mae staff ar draws y clwstwr wedi elwa ar y gyfres o raglenni addysgu, gan ddarparu cyfleoedd buddiol ar gyfer cydweithio a rhwydweithio ar draws sectorau.  Fe wnaeth cynorthwywyr addysgu elwa ar y rhaglenni hyn yn yr un modd, felly hefyd arweinwyr canol ac uwch arweinwyr, a groesawodd y cyfleoedd i gyfarfod a myfyrio ar eu harfer fel arweinwyr mewn addysg.  Dros gyfnod, mae hyn wedi hwyluso datblygu ymagwedd gyffredin at iaith addysgu a dysgu.

Parhaodd y cydweithio ar draws sectorau trwy gyfres o sesiynau ‘Cyfarfodydd Addysgu’ (‘TeachMeets’) rheolaidd a gynhelir gan bob ysgol yn y clwstwr, gan roi cyfle i staff rannu a thrafod arfer effeithiol.  Roedd y rhain yn arbennig o ddefnyddiol o ran galluogi athrawon i weld yr arfer yn ei chyd-destun a thrafod eu syniadau â gweithwyr proffesiynol unfryd ac ymroddgar.  Mae’r gwaith hwn, sy’n cael ei gydlynu gan yr arweinwyr addysgu a dysgu ym mhob ysgol, wedi datblygu ymhellach i ystyried defnyddio technoleg wrth hwyluso rhannu arfer effeithiol ar draws sectorau.

I sicrhau cynnydd parhaus a meithrin gallu ar gyfer y dyfodol, buddsoddwyd rhagor o gyllid mewn hyfforddi pump o athrawon ar draws y clwstwr fel hwyluswyr ar gyfer y gyfres o raglenni addysgu.  Gan fod bron pob un o’r staff ar draws y clwstwr yn defnyddio’r rhaglenni, mae sylfaen gadarn yn bodoli ar gyfer cymorth a datblygiad parhaus trwy hyfforddi.

Effaith ar ddarpariaeth/safonau

Mae athrawon ar draws clwstwr Tredegar wedi ymateb yn frwdfrydig i fuddsoddiad yr ysgol yn ei rhaglenni addysgu.  Hyd yn hyn, mae 67 o athrawon ar draws y clwstwr wedi cymryd rhan yn y rhaglen athrawon rhagorol, mae 32 wedi cymryd rhan yn y rhaglen arweinwyr addysg rhagorol, mae 12 wedi cymryd rhan yn y rhaglen gwella athrawon a 50 wedi cymryd rhan yn y rhaglen cynorthwywyr addysgu rhagorol.  Yn ychwanegol, mae ysgolion yn y clwstwr wedi hyfforddi pum hwylusydd i sicrhau cynaliadwyedd. 

Mae disgyblion yn elwa’n sylweddol ar barhad a dilyniant effeithiol mewn dysgu.  Er 2012, mae deilliannau yn yr ysgol wedi gwella’n sylweddol.  Er enghraifft, mae deilliannau yn nangosydd lefel 2 yn cynnwys Saesneg a mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 wedi codi o 29% yn 2012 i 54% yn 2016.  Fe wnaeth perfformiad mewn llawer o ddangosyddion yn 2016 osod yr ysgol yn y 50% uwch o ysgolion tebyg ar sail bod yn gymwys i brydau ysgol am ddim.  

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae arfer dda wedi cael ei rhannu trwy’r clwstwr, trwy Her Ysgolion Cymru a digwyddiadau’r consortiwm trwy gynadleddau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae’r ysgol wedi darparu astudiaeth achos arfer effeithiol i’r consortiwm, mae wedi cynnal nifer o ymweliadau o ysgolion rhyngwladol, ac mae’n darparu cyfleoedd yn rheolaidd i ysgolion eraill o bob cwr o Gymru ymweld er mwyn dod i weld y gwaith yn ymarferol trwy ddigwyddiadau ‘Trafod a Gweithredu (‘Walk the Talk’).  Mae hyn yn cynnwys ysgolion cynradd, ac mae’r ymweliadau hyn yn ymgorffori ymweliad ag un o ysgolion y clwstwr.  Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn parhau i hwyluso rhaglenni addysgu sy’n cynnwys teithiau dysgu ac arsylwadau gwersi ar gyfer yr holl gyfranogwyr.  Mae staff ar draws consortiwm y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a thri awdurdod lleol yn elwa ar y rhaglenni hyn ar hyn o bryd.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gynradd 3-11 oed ym mhentref Trelewis, Merthyr Tudful yw Ysgol Gynradd Trelewis.  Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer 240 o ddisgyblion, ac mae ganddi wyth dosbarth, gan gynnwys meithrinfa amser llawn.  Cyfartaledd tair blynedd disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yw oddeutu  15.9%.  Nodir bod gan ryw 20% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae’r pennaeth presennol wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2016.

Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Cytunodd tîm arweinyddiaeth newydd yr ysgol ei bod yn hanfodol fod yr holl randdeiliaid yn yr ysgol yn gallu cyfrannu at broses gwella’r ysgol, a chymryd rhan ynddi, er mwyn sicrhau gwelliannau.  Er mwyn gwneud hyn, sicrhaodd yr ysgol gyfryngau cyfathrebu agored a chreodd gymuned y gallai’r holl randdeiliaid gymryd rhan ynddi a theimlo’n rhan ohoni, yn enwedig rhieni.  Dechreuodd y tîm arweinyddiaeth hyrwyddo ethos ‘Rhieni fel Partneriaid’ a sefydlodd weledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol, a oedd yn anelu at sefydlu ‘Ysgol sy’n canolbwyntio ar y plentyn sydd wrth wraidd y Gymuned’.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch y nodwyd ei fod yn arfer sy’n arwain y  sector

Nododd yr ysgol i ddechrau mai cyfathrebu oedd y rhwystr cyntaf i fynd i’r afael ag ef.  Teimlai ei bod yn bwysig rhoi gwybodaeth a oedd ar gael yn hawdd i’r holl randdeiliaid, yn enwedig rhieni.  Sicrhaodd yr ysgol fod cyfathrebu â rhieni yn glir ac ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, gan gynnwys negeseuon testun, cyfryngau cymdeithasol a gwefan newydd i’r ysgol.  Roedd cylchlythyrau rheolaidd a diweddariadau newyddion hefyd yn sicrhau bod rhieni’n cael gohebiaeth glir, yn ogystal â darparu cardiau busnes i rieni yn rhestru dyddiadau HMS a dyddiadau’r tymhorau.  Dechreuodd hyn fynd i’r afael ar unwaith â materion yn ymwneud â chyfathrebu rhwng y cartref a’r ysgol, a rhoddodd gyfle i sicrhau bod yr ethos ‘Rhieni fel Partneriaid’ yn cael ei hyrwyddo’n rheolaidd.

Yn dilyn gwaith yr ysgol yn gwella cyfathrebu, anfonwyd arolwg cychwynnol at bob un o’r rhieni er mwyn nodi meysydd pellach y gallai’r ysgol ddechrau mynd i’r afael â nhw, i gael gwared ar rwystrau pellach oedd yn atal rhieni rhag cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol.  O’r dadansoddiad o ymatebion, nododd yr ysgol fod llawer o rieni’n teimlo nad oeddent yn gallu mynd at yr ysgol, ac o ganlyniad, nid oeddent yn teimlo eu bod yn gallu cefnogi dysgu eu plentyn yn ddigon da.

Dechreuodd y pennaeth sefydlu presenoldeb rheolaidd a gweladwy o gwmpas yr ysgol, a rhoddwyd strategaethau ar waith er mwyn sicrhau bod rhieni’n teimlo y gallant fynd at staff yr ysgol, a gweithio gyda’r ysgol, er mwyn sicrhau safonau gwell parhaus ar gyfer disgyblion.  Roedd hyn yn cynnwys sefydlu polisi drws agored, lle roedd rhieni’n gallu siarad ag aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgol ar y ffôn neu yn bersonol pan oedd pryderon yn codi, gan gynnig ffyrdd ymarferol o gyfathrebu uniongyrchol.

Fel man cychwyn i wella ymgysylltu â rhieni, cynhaliwyd boreau coffi rheolaidd, er mwyn dechrau cael gwared ar rwystrau a oedd yn atal rhieni rhag cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol.  Roedd y boreau coffi’n darparu amgylchedd hamddenol lle gallai rhieni fynd i’r ysgol a chyfarfod ag aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgol yn anffurfiol.  O’r adborth a ddaeth i law yn ystod y boreau coffi, llwyddodd yr ysgol wedyn i nodi anghenion cymorth rhieni ymhellach.  Roedd hyn yn cynnwys eu cynorthwyo i ddatblygu medrau llythrennedd a rhifedd eu plentyn, ac aethpwyd i’r afael â hyn trwy strategaeth o’r enw ‘Dysga gyda Fi’ (‘Learn with Me’).

Rhoddodd y sesiynau ‘Dysga gyda Fi’ gyfleoedd rheolaidd i rieni weithio ochr yn ochr â’u plentyn yn amgylchedd yr ysgol mewn fformat arddull gweithdy, ochr yn ochr ag athro dosbarth eu plentyn.  Rhoddodd y sesiynau hyn strategaethau a syniadau i rieni ynglŷn â sut gallent gefnogi datblygiad parhaus eu plentyn gartref.  Er enghraifft, roedd un o’r sesiynau ‘Dysga gyda Fi’ yn cysylltu â gwaith ystafell ddosbarth am y Flwyddyn Newydd Dsieineaidd.  Yn ystod y sesiwn, treuliodd disgyblion amser gyda’u rhieni yn edrych ar wahanol fwydydd iach i wneud pryd tro-ffrio Tsieineaidd.  Cynorthwywyd disgyblion i dorri llysiau o hyd amrywiol, gan atgyfnerthu geirfa fathemategol fel ‘yn hirach na’, ‘yn fyrrach na’, ac ‘yn yr un faint â’.  Galluogodd hyn y rhieni i ddeall sut y gellid defnyddio tasgau’r cartref, fel coginio, i hyrwyddo a datblygu medrau rhifedd disgyblion.

Canolbwyntiodd sesiynau ‘Dysga gyda Fi’ eraill ar feysydd oedd yn cynnwys datblygu medrau ysgrifennu disgyblion, ymchwilio i’r awyr agored, a datblygu ffoneg.  Rhoddodd pob un o’r sesiynau hyn lwyfan i rieni gymryd rhan yn y broses ddysgu a chodi cwestiynau neu awgrymiadau ynglŷn â digwyddiadau y gellid eu cynnal yn y dyfodol, er mwyn cefnogi dysgu eu plentyn yn well.

Fe wnaeth yr ysgol hefyd ymgysylltu ag asiantaethau allanol sydd â phrofiad o weithio gyda theuluoedd.  Rhoddodd hyn ragor o gyfleoedd i rieni ymwneud â dysgu eu plentyn.  Er enghraifft, sefydlwyd ‘Caffi Darllen’ ar gais rhieni, lle rhoddwyd cyfleoedd iddynt ddod i’r ysgol a dysgu am strategaethau y gallent eu defnyddio i gefnogi medrau darllen eu plentyn gartref.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau disgyblion?

O ganlyniad i’r strategaethau a roddwyd ar waith, mae’r ysgol yn nodi ei bod yn parhau i weld lefel fwy o lawer o ymgysylltu â rhieni, a bod rhieni’n teimlo’n fwy abl i fynd at yr ysgol os oes ganddynt unrhyw bryderon.  Maent yn teimlo bod rhieni’n cael cyfleoedd i gefnogi dysgu a datblygiad parhaus eu plentyn yn well.

Amlygodd arfarniad o ymatebion o arolwg adolygu a ddosbarthwyd gan yr ysgol fod bron pob un o’r rhieni’n teimlo erbyn hyn eu bod yn gallu mynd at yr ysgol os oes ganddynt gwestiynau neu awgrymiadau.  Mae’r ysgol yn credu bod hyn yn welliant nodedig o gymharu â deilliannau’r arolwg cychwynnol.  Mae’r ysgol yn nodi effaith ar les disgyblion hefyd, gan fod rhieni’n ymwneud yn fwy â’r ysgol.  Yn yr arolwg diweddaraf o agweddau disgyblion a gynhaliwyd gan yr ysgol, dywedodd y rhan fwyaf o ddisgyblion fod ganddynt agwedd gadarnhaol tuag at yr ysgol.

Mae’r ysgol wedi mireinio’i phroses wella yn well i gynnwys yr holl randdeiliaid yn weithredol, sy’n sicrhau ffocws parhaus ar wella safonau disgyblion.  O ganlyniad i sail dystiolaeth ehangach, a gafwyd yn sgil ymgysylltiad gwell gan yr holl randdeiliaid, mae’r ysgol yn credu bod ganddi ddarlun mwy trylwyr a chywir o’i pherfformiad erbyn hyn.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi gweithio’n agos ag ysgolion eraill yn y clwstwr lleol ac mewn partneriaethau gweithio braenaru.  Mae wedi cymryd rhan mewn adolygiad cymheiriaid ac wedi rhannu arfer ag ysgolion eraill, er mwyn ceisio rhagor o gyfleoedd i ymgysylltu â theuluoedd, yn seiliedig ar yr arfer dda a welwyd mewn lleoliadau eraill.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gyfun gymysg cyfrwng Saesneg 11 i 18 oed wedi’i lleoli ym mhentref Yr Hob, Sir y Fflint, yw Ysgol Uwchradd Castell Alun.  Mae 1,360 o ddisgyblion ar y gofrestru, gan gynnwys 300 yn y chweched dosbarth.  Mae’r ffigurau hyn yn debyg iawn i’r rheiny adeg yr arolygiad blaenorol ym mis Rhagfyr 2013. 

Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal eang sy’n cynnwys cymunedau gwledig yn bennaf.  Mae tua 7% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n llawer is na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 16.5%.  Mae llai na 2% o ddisgyblion yn byw yn y 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae gan ryw 14% o ddisgyblion angen dysgu ychwanegol, ac mae gan ychydig dros 1% ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r ddau ffigur hyn islaw cyfartaledd Cymru, sef 22.7% a 2.2% yn y drefn honno.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn, Prydeinig.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg neu y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2013.  Mae’r uwch arweinyddiaeth yn cynnwys dirprwy bennaeth a phedwar pennaeth cynorthwyol.  Adeg yr arolygiad, roedd y dirprwy bennaeth wedi ymgymryd â rôl pennaeth dros dro am y tri mis blaenorol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Fel rhan o weledigaeth yr uwch dîm arweinyddiaeth ar gyfer dysgu proffesiynol, penderfynodd yr ysgol ganolbwyntio ar wella gallu athrawon i arfarnu eu harfer yng ngoleuni ei heffaith ar gynnydd disgyblion.  Roeddent eisiau annog eu staff i ystyried a gwella’u dulliau addysgu yn barhaus.  Mae arweinwyr yn teimlo bod dysgu proffesiynol yn fwyaf effeithiol pan roddir perchnogaeth i gydweithwyr o’u datblygiad trwy ddewis personol o gyfleoedd hyfforddi priodol.  Disgwylir hefyd y bydd pob un o’r staff yn cynnig eu gwasanaethau i hwyluso dysgu aelodau eraill o staff. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae pob un o’r cydweithwyr addysgu yn aelodau o ‘dîm ymholi’.  Mae timau’n ymgymryd â phrosiectau pwnc neu faes dysgu yn seiliedig ar ymchwil.  Mae pob un o’r rhain yn ymgymryd â mentrau penodol i arfarnu dulliau addysgu penodol.  Mae hyn yn digwydd yn ystod amseroedd cyfarfodydd pwnc a diwrnodau hyfforddi amserlenedig.  Mae cydweithwyr yn gosod targedau rheoli perfformiad gyda ffocws eu ‘tîm ymholi’ mewn cof, a thuag at ddiwedd y flwyddyn, mae timau ac unigolion yn arddangos eu prosiectau mewn digwyddiad ‘gwib-ddysgu’ blynyddol i dimau staff eraill yn ystod amser hyfforddi ysgol gyfan.  Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae themâu ymchwil gweithredu’r timau ymholi wedi cynnwys:

  • gwella ysgrifennu estynedig
  • meithrin dysgwyr gwell trwy wydnwch a myfyrdod
  • defnyddio technoleg yn fwy effeithiol
  • helpu dysgwyr i fod yn wrandawyr a meddylwyr beirniadol gwell trwy dasgau datrys problemau
  • gwrth-droi ystafelloedd dosbarth/dysgu
  • defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn addysgu a dysgu
  • ennyn cyffro ynglŷn â rhifedd ymhlith myfyrwyr
  • dysgu wedi’i arwain gan gyfoedion
  • ymestyn a herio myfyrwyr trwy ddatblygu medrau meddwl lefel uwch
  • cynyddu ymgysylltiad myfyrwyr â gwaith cartref
  • gwneud iaith y dysgu yn weladwy mewn ystafelloedd dosbarth – cynyddu ymwybyddiaeth myfyrwyr o’u meddwl eu hunain (metawybyddiaeth)

Caiff rhaglenni ar gyfer athrawon newydd gymhwyso (ANG) eu rhedeg yn gyfan gwbl gan staff yr ysgol ac maent yn cwmpasu’r holl themâu ar gyfer cydweithwyr yn y cyfnodau datblygu cynharaf.  Mae’r rhain yn ategu cyrsiau allanol a ariennir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA).  Mae nifer fawr o athrawon newydd gymhwyso naill ai’n cael dyrchafiad neu gyfrifoldeb ychwanegol yn ystod tair blynedd gyntaf eu gyrfa.

Mae’r ysgol yn darparu arolygon i bob un o’r staff i bennu’r themâu datblygiad proffesiynol a fyddai o’r defnydd a’r diddordeb mwyaf iddynt.  Wedyn, mae arweinwyr yn trefnu cyfres o sesiynau hyfforddi ar ôl yr ysgol, gyda phob un o’r cydweithwyr amser llawn yn mynychu o leiaf bedair o’r chwe noson a ddarperir.  Caiff pedair sesiwn wahanol eu darparu bob nos, sy’n galluogi’r ysgol i fodloni mwyafrif y ceisiadau mewn blwyddyn.  Arweinir sesiynau gan arbenigwyr mewnol, ac mewn nifer fach o achosion, gan ddarparwyr allanol (fel arfer am ddim).  Mae nifer dda iawn o athrawon yn mynychu’r sesiynau.  Mae llywodraethwyr ac aelodau o’r tîm cymorth yn dangos diddordeb diffuant a chynyddol hefyd.

Mae’r ysgol wedi sefydlu ‘Fforwm Hyfforddiant Arweinyddiaeth’ hefyd, sy’n agored i bawb, sy’n cyfarfod unwaith bob hanner tymor dros ginio.  Mae hyn i bob pwrpas yn amgylchedd hamddenol ar gyfer rhannu arfer dda, ac mae cydweithwyr yn mynychu’n wirfoddol i gael mewnbwn a her ar fedrau arwain allweddol.  Mae’r Fforwm Hyfforddiant Arweinyddiaeth hefyd yn ffurfio ‘melin drafod’ ar gyfer sut gall cydweithwyr sydd â diddordeb gymryd rhan fwy canolog mewn gyrru themâu ysgol gyfan ymlaen er mwyn datblygu eu medrau a’r ysgol ymhellach.

Hefyd, mae’r ysgol yn darparu hyfforddiant perthnasol gan arbenigwyr, naill ai mewn ysgolion neu sefydliadau eraill, a fydd fel arfer yn talu costau cyflenwi, o leiaf (er enghraifft GwE, CBAC, partneriaid awdurdod lleol, mentoriaid arwain hyfforddeion lleol a phrifysgolion lleol).  Defnyddir diwrnodau hyfforddiant yr ysgol i ddarparu diweddariadau a thrafodaethau am ddatblygiadau ysgol gyfan yn unol â chynllun datblygu ac adroddiad hunanarfanu’r ysgol. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Efallai fod llwyddiant y model yn fwyaf amlwg trwy’r ‘bwrlwm gweithio’ dynamig o gwmpas yr ysgol.  Ceir ymdeimlad fod pawb yn cydweithio i helpu ei gilydd a chael eu helpu gan rai eraill yn yr ysgol.  Arfernir hyfforddiant trwy holiaduron, arolygon ar-lein, sesiynau adborth wedi’u trefnu a thystiolaeth anecdotaidd.  Fodd bynnag, mae rhaglen barhaus o arsylwadau gwersi a defnyddio teithiau dysgu â ffocws yn darparu tystiolaeth gref o’r cyswllt uniongyrchol rhwng datblygiad proffesiynol a dysgu o ansawdd da yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ym Mwrdeistref Merthyr Tudful yw Ysgol Gymunedol Heolgerrig.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o’r gymuned leol, ac mae tua 7% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, sy’n is o lawer na’r cyfartaledd ar gyfer yr awdurdod lleol a Chymru.  Mae 227 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd, gan gynnwys 24 o ddisgyblion meithrin amser llawn.  Mae wyth dosbarth, gan gynnwys y dosbarth meithrin.

Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 21% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n cyd-fynd â’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer ysgolion cynradd.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg gartref.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Arolygwyd yr ysgol yn 2012 ac fe’i rhoddwyd yn y categori mesurau arbennig.  Ym mis Chwefror 2013, secondiwyd pennaeth a dirprwy bennaeth i’r ysgol am gontract 18 mis gan yr awdurdod lleol, gyda chylch gwaith i ddod â’r ysgol allan o’r categori mesurau arbennig cyn gynted ag y bo modd.

Yn 2014, daeth y dirprwy bennaeth a secondiwyd yn ddirprwy bennaeth parhaol ac ym mis Medi 2015, ymgymerodd â rôl y pennaeth.

Daeth yr ysgol allan o’r categori mesurau arbennig ym mis Tachwedd 2013, yn dilyn taith gyflym i wella.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Yn 2013, bu’r tîm arweinyddiaeth newydd yn gweithio i nodi anghenion yr ysgol, gan flaenoriaethu gwelliannau a chreu gweledigaeth ar y cyd.  Nododd arweinwyr ei bod yn hanfodol hybu morâl tîm yr ysgol, trwy feithrin perthnasoedd, modelu arfer, darparu cyfleoedd hyfforddi, a grymuso staff ac arwain y ffordd.

Nodi anghenion yn gyflym a sicrhau gwaelodlin gywir

Cynhaliwyd cyfres o weithgareddau monitro i sefydlu gwaelodlin safonau, fel arsylwadau gwersi trylwyr, teithiau dysgu, craffu ar lyfrau, dadansoddi data, a gwrando ar ddysgwyr.  Sefydlwyd cynllun gweithredu ôl-arolygiad ffocysedig, a bu staff yn gweithio’n ddiwyd i fynd i’r afael â meysydd i’w gwella.

Rhannwyd sail dystiolaeth o arfer well â staff lle canfuwyd hi, er mwyn eu grymuso a meithrin morâl.  Cynhaliwyd cyfarfodydd ddwywaith yr wythnos ynghyd â chyfarfodydd â phob un o’r staff a chyfarfodydd cyfnodau allweddol ar wahân i ganolbwyntio ar gamau gweithredu penodol a rhannu arfer dda.  Sefydlwyd model syml i nodi anghenion, modelu a chynnal arfer effeithiol, adrodd yn ôl ac adolygu.

Gwella safonau mewn darllen

Yn gyffredinol, gwelodd arweinwyr fod hoffter disgyblion am ddarllen yn cael ei golli.  Roedd adnoddau darllen yn gyfyngedig.  O ganlyniad, prynwyd cynllun darllen newydd a chrëwyd llyfrgell newydd.  Dyfarnwyd gwobr ‘Ysgol Fusnes y Flwyddyn’ i ddosbarth Blwyddyn 6 yn 2013 wedi iddynt ddatblygu busnes bach yn effeithiol i werthu llyfrau.  Mae disgyblion yn defnyddio’r elw i ddarparu llyfrau o’u dewis yn y llyfrgell.  Caiff disgyblion eu hyfforddi fel cyfeillion darllen ac ar sut i gynnal sesiynau darllen dwyochrog fel rhan o’u gweithgareddau darllen dyddiol.  Mae diwylliant darllen ysgol gyfan wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn, ac mae hyd yn oed Siôn Corn yn ymweld i ddod â llyfr darllen i bob plentyn; traddodiad sy’n parhau o hyd.

Caiff amser darllen neilltuedig ei hwyluso ym mhob dosbarth.  Mae hyfforddiant ysgol gyfan wedi golygu bod modd addysgu medrau darllen yn effeithiol ac yn gyson ar draws yr ysgol.  Caiff rhieni eu cynnwys mewn gweithdai darllen hefyd.  Mae gan bob dosbarth guddfannau darllen difyr a defnyddir y llyfrgell bob dydd.

Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais parhaus ar fedrau darllen.  Cafodd safonau eu herio ar draws yr ysgol, a rhoddwyd asesiadau ffurfiol ar waith bob tymor, gan arwain at roi ystod o ymyriadau cadarnhaol ar waith.

Gwella presenoldeb

Yn 2013, fe wnaeth presenoldeb osod yr ysgol yn y 25% gwaelod o gymharu ag ysgolion tebyg.  Nododd arweinwyr fod angen creu amgylchedd dysgu cadarnhaol lle roedd disgyblion eisiau dod i’r ysgol.  Roedd y cwricwlwm yn ei gwneud yn ofynnol cael mwy o weithgareddau cyfoethogi ar gyfer disgyblion.  O ganlyniad, gwrandawodd yr ysgol ar yr hyn a fyddai’n gwneud gwahaniaeth, ym marn y disgyblion.  Gofynnon nhw am fwy o glybiau ar ôl yr ysgol a chwricwlwm ‘hwyliog’.  Gwirfoddolodd pob un o’r staff i gynnal clwb ar ôl yr ysgol, a thrwy gynllunio ar y cyd, adfywiwyd y cwricwlwm i gyflwyno dull thematig o ennyn diddordeb dysgwyr.  Trefnwyd teithiau a daeth ymwelwyr i’r ysgol, a dechreuodd hyn gael effaith ar bresenoldeb

Yn ychwanegol, mynychodd y cyngor ysgol gyfarfodydd wythnosol gyda’r dirprwy bennaeth i drafod mentrau presenoldeb.  Trwy ymgynghori â’u cyfoedion a’r llywodraethwr presenoldeb, penderfynon nhw sut i godi proffil presenoldeb ar draws cymuned yr ysgol gyfan.

Roedd canrannau presenoldeb dosbarthiadau yn cael eu rhannu a’u dathlu bob wythnos trwy wasanaethau a’u hanfon at rieni.  Dewiswyd ystod o gymhellion a gwobrau gan ddisgyblion, fel:

  • gwobrau i’r dosbarth sydd â’r presenoldeb gorau bob tymor
  • raffl presenoldeb dymhorol gyda llyfrau fel gwobrau
  • ‘hamper plentyn’ am bresenoldeb 100% ar gyfer y flwyddyn
  • gwybodaeth bob tymor ar gyfer rhieni am ffigurau presenoldeb eu plentyn

Sicrhau gwelliannau y tu hwnt i fesurau arbennig

Teimlai arweinwyr ei bod yn hanfodol sefydlu hunanarfarniad gonest a chywir parhaus ar draws yr ysgol, yn cynnwys cymuned yr ysgol gyfan.  Cynhaliwyd cyfarfodydd pwyllgor safonau bob tymor lle cyflwynwyd gwybodaeth i lywodraethwyr i ddwyn yr ysgol i gyfrif a darparu her effeithiol i sicrhau bod safonau uchel yn cael eu cynnal.  Arweiniodd yr hunanarfarniad at gael cynllun datblygu ysgol â ffocws a ddatblygwyd gyda chyfraniad disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Dangosodd data darllen yr ysgol fod oedrannau darllen 50% o ddisgyblion uwchlaw eu galluoedd darllen disgwyliedig yn 2013.  Cynyddodd hyn i dros 80% erbyn 2016.  Mae’r data profion Darllen Cenedlaethol yn dangos y gwelliannau a wnaed mewn darllen hefyd.  Dangosodd arolygon llais y disgybl gan yr ysgol bod cynnydd o 59% wedi bod yn nifer y disgyblion a oedd yn mwynhau darllen, erbyn 2016.

Erbyn 2016, Heolgerrig oedd â’r gyfradd presenoldeb uchaf yn yr awdurdod lleol.  Symudodd yr ysgol i’r 50% uwch o gymharu ag ysgolion tebyg, ac mae wedi parhau i wella’i phresenoldeb ers hynny.

Er 2015, mae’r ysgol wedi’i chategoreiddio yn ysgol ‘werdd’ yn y broses gategoreiddio genedlaethol.  Mae safonau wedi aros yn gyson uwchlaw’r canolrif, o gymharu â safonau ysgolion tebyg.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Gwahoddwyd Heolgerrig i rannu arfer dda ar lefel clwstwr ac awdurdod lleol.  Mae’n ymgymryd ag ystod o waith rhwng ysgolion ac yn rhannu arfer dda.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth wedi’i lleoli ar gyrion Aberystwyth yng Ngheredigion.  Mae 400 o ddisgyblion, gan gynnwys 54 o blant oedran meithrin rhan-amser.

Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae llawer o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref, ac ychydig iawn ohonynt sydd o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ond bod gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Mae’r pennaeth a’r llywodraethwyr yn rhoi rhyddid dirwystr i arweinwyr fod yn greadigol er mwyn datblygu cwricwlwm arloesol.  Maent yn frwdfrydig ynglŷn â darparu cyfleoedd rheolaidd i staff arbrofi ag ymagweddau addysgu amrywiol sy’n cryfhau eu gallu i ddatblygu medrau disgyblion.  Cefnogir hyn gan weledigaeth yr ysgol i sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth drylwyr a llwyddiannus o’i chryfderau a’i gwendidau mewn addysgeg.  Mae arweinwyr yn gweithio’n galed i gyflwyno cymorth a hyfforddiant effeithiol pan fydd angen fel bod pob aelod o staff yn ymwybodol o’u galluoedd addysgu.  Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae’r pennaeth yn defnyddio’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon i arfarnu effeithiolrwydd yr addysgu a’r ddarpariaeth.

Ym mis Medi 2015, penderfynodd yr ysgol ystyried un maes dysgu a phrofiad ar y tro er mwyn arfarnu’r cwricwlwm presennol.  Dechreuodd yr ysgol â’r celfyddydau mynegiannol.

Y cam cyntaf oedd craffu ar lyfrau disgyblion a gofyn “Beth allem ni ei hepgor – beth sy’n ddiangen?”  Sylwodd arweinwyr fod cerddoriaeth yn aml yn cael ei chynnwys mewn gwaith thematig, ond nad oedd athrawon yn cynllunio ar y cyd er mwyn datblygu medrau disgyblion yn effeithiol.  Felly, penderfynodd staff arbrofi â ‘diwrnodau cerddoriaeth greadigol’, a oedd yn canolbwyntio ar gyfansoddi gan ddefnyddio TGCh, a chanolbwyntiwyd yn glir ar ddatblygu medrau llythrennedd.

Er mwyn arfarnu effeithiolrwydd y ddarpariaeth hon, bu athrawon yn arsylwi ei gilydd dros dymor.  Trwy weithio’n agos mewn timau o bedwar, roedd un o’r pedwar athro yn addysgu gwers.  Bu’r athrawon eraill yn arsylwi’r wers ac yn rhoi adborth.  Yr wythnos ganlynol, tro athro arall oedd cael ei arsylwi’n addysgu.  Ar ôl darparu adborth, bu athrawon yn golygu’r cynllunio, a dylanwadodd canlyniadau’r arsylwadau ar wersi yn y dyfodol.  Bu’r athrawon yn cynllunio gweithgareddau a fyddai’n meithrin datblygiad medrau llythrennedd a TGCh disgyblion trwy’r gwersi cerddoriaeth greadigol.  Wedi i bob un o’r athrawon gael eu harsylwi, bu staff yn trafod y canlyniadau mewn cyfarfod staff ac fe wnaethant gytuno ar argymhellion sydd bellach yn flaenoriaethau yng Nghynllun Datblygu’r Ysgol.  Y tymor canlynol, TGCh ac iechyd a lles oedd ffocws yr arsylwadau.

Ym mis Medi 2016, wedi blwyddyn o fonitro agweddau penodol ar y chwe maes dysgu, roedd yr ysgol yn barod i arbrofi trwy gynllunio themâu yn seiliedig ar y dyniaethau, y celfyddydau mynegiannol, iechyd a lles a gwyddoniaeth a thechnoleg. 

Mae arweinwyr yn sicrhau bod themâu’n datblygu dealltwriaeth disgyblion o’r medrau allweddol trwy brofiadau uniongyrchol.  Enghraifft o hyn oedd defnyddio gwaith ‘T Llew Jones’ fel thema ganolog ar gyfer gweithgareddau drama, dawns a cherddoriaeth.  Bu’r ysgol hefyd yn datblygu medrau TGCh trwy dasgau barddoniaeth ac ysgrifennu creadigol cyfoethog.  Mae gweithgareddau rheolaidd o’r fath yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh i lefel gyson uchel.

Mae arfarnu effeithiolrwydd y cwricwlwm, ei addasrwydd, ei berthnasedd a’i effaith ar godi safonau, wedi bod yn rhan annatod o brosesau hunanarfarnu’r ysgol ers dwy flynedd.  Mae athrawon o’r ddau gyfnod allweddol wedi arfarnu ehangder a chynnwys y gweithgareddau sydd ar gael i ddisgyblion.  Mae prosesau hunanarfarnu’r ysgol yn edrych yn benodol ar lyfrau thema’r disgyblion ac yn ystyried yr agweddau sy’n berthnasol i’r pedwar diben.  Maent hefyd yn arfarnu pa gynnwys cwricwlwm y mae angen ei leihau neu’i hepgor o bob blwyddyn academaidd. 

Mae arweinwyr yn canolbwyntio’n barhaus ar sicrhau bod pob aelod o staff yn deall pwysigrwydd dilyniant medrau fel bod pob gweithgaredd yn datblygu medrau fel man cychwyn.  O ganlyniad, mae pob gwers ar draws yr ysgol bellach yn wers rifedd, lythrennedd neu TGCh.

Er mwyn cefnogi’r gwaith hwn, mae aelod o staff ac aelod o’r uwch dîm rheoli yn mynychu pob cyfarfod ysgol arloesi.  Mae hyn yn sicrhau bod pawb yn clywed yr un negeseuon gan Lywodraeth Cymru.  O ganlyniad, datblygodd pob aelod o staff ddealltwriaeth gadarn o ofynion Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), yn ogystal â’r wybodaeth angenrheidiol i arfarnu effeithiolrwydd, addasrwydd a dichonoldeb eu darpariaeth bresennol o ran y cwricwlwm. 

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Mae’r llywodraethwyr wedi ymateb yn synhwyrol i Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015), ac maent yn awyddus i osgoi brysio i ddechrau newid hyd nes bydd y cwricwlwm wedi cael ei gyflwyno ar ffurf ddrafft.  Maent yn annog staff i archwilio ymagwedd bresennol yr ysgol at addysgeg trwy rymuso staff â medrau pellach. 

Mae pob un o’r rhanddeiliaid yn gweithio gyda’i gilydd trwy brosesau ‘Rhannu Dysgu’ er mwyn nodi arfer dda ac agweddau y mae angen eu gwella neu’u newid.  Mae pob aelod o’r uwch dîm rheoli wedi cyfrannu’n llawn at ymglymiad yr ysgol â’r cynllun arloesi, ac wedi sicrhau bod cynllun datblygu’r ysgol yn cynnwys blaenoriaethau addas i ddechrau newid.  Er enghraifft, mae adeiladu ar strategaethau a phartneriaethau Ysgolion Arloesi gan ddefnyddio’r Fframwaith Digidol fel offeryn trawsgwricwlaidd yn un o bedair prif flaenoriaeth yr ysgolMae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi’r ysgol i fynd i’r afael â’r flaenoriaeth hon yn effeithiol ac mae arweinwyr yn arfarnu cynnydd a’i effaith ar addysgu a dysgu yn rheolaidd.  Mae’r ysgol yn defnyddio’r cyllid hwn yn effeithiol i roi amser digyswllt i bob aelod o staff fonitro addysgu yn yr ysgol ac ymestyn eu datblygiad proffesiynol eu hunain trwy hyfforddiant ac ymchwil.  Mae hyn wedi datblygu dealltwriaeth fanwl ymhlith y staff o elfennau sylfaenol addysgeg effeithiol sydd wedi eu galluogi i ddatblygu syniadau cynllunio newydd gyda staff ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, a Chwmni Theatr Arad Goch.  Mae staff wedi elwa ar weithio’n agos gydag arbenigwyr ym maes dawns a TGCh, sydd wedi cyfoethogi’r profiadau sydd ar gael i’r disgyblion.  Roedd prosiect arloesol, ‘Meintoli Medrau Trwy’r Celfyddydau Mynegiannol’ yn cynnwys 15 o fyfyrwyr prifysgol yn gweithio’n agos ag athrawon o’r ysgol er mwyn cynllunio gweithgareddau’r celfyddydau yn seiliedig ar waith awduron o Gymru.  Roeddent yn canolbwyntio ar weithdai ysgrifennu creadigol a drama gan ddefnyddio arbenigedd cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Arad Goch.  Mae athrawon yn gweithio gyda’r myfyrwyr o’r brifysgol i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr iddynt arsylwi gwersi am bedair wythnos cyn cynllunio eu medrau llythrennedd a rhifedd eu hunain trwy’r celfyddydau mynegiannol. 

Er mwyn cynllunio’n effeithiol ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, mae’r pennaeth wedi datblygu pecyn arsylwi at ddefnydd pob un o’r athrawon.  Mae’n nodi’n glir pa agweddau y mae angen eu cofnodi a’u harfarnu.  Mae hyn yn rhoi ffocws cadarn iawn ar ddatblygu medrau arwain athrawon o ran y safonau proffesiynol newydd, ac yn eu cymell i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain.  Yn ystod y tymor cyntaf yn adolygu’r cwricwlwm, bu athrawon yn craffu ar lyfrau mewn timau o bedwar, yn yr un ffordd ag y maent yn arsylwi addysgu ei gilydd.  Yn ystod yr ail dymor, gwahoddwyd athro o ysgol arall i ymuno â’r broses a rhannwyd canlyniadau’r arfarniadau ar lwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru, sef HWB360.  

Cam 3:  Cyflawni newid

Mae’r ysgol wedi diwygio’r ffordd y mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau er mwyn gweithio o fewn prosiectau byr a grymus, gan greu is-themâu o amgylch agweddau ar gerddoriaeth greadigol, ysgrifennu creadigol, dawns, celf, TGCh, barddoniaeth a drama.  Mae’r ysgol yn rhannu’r gwaith cynllunio ar gyfer TGCh ac ysgrifennu creadigol yn genedlaethol gydag ysgolion eraill trwy Hwb360.  Mae staff yn rhannu’r holl newidiadau i gynllunio mewn cyfarfodydd staff, sy’n deillio o graffu ar lyfrau ac arsylwadau tîm o wersi ei gilydd.  Mae’r newidiadau hyn yn sicrhau bod newid yn digwydd yn raddol.  Caiff pob un o’r staff eu cynnwys mewn gwneud penderfyniadau, ac nid ydynt dan bwysau i newid eu cynllunio’n rhy gyflym.

Mae aelodau o’r uwch dîm rheoli yn cyflwyno adroddiadau manwl i’r corff llywodraethol, sy’n wybodus iawn am y gwaith a wneir yn yr ysgol.  Mae hyn yn eu galluogi i gynorthwyo cyrff llywodraethol eraill trwy gyflwyniadau ymarferol ar ddatblygu’r cwricwlwm yn eu cyfarfodydd. 

Cam 4:  Arfarnu newid

Mae’r ysgol yn arfarnu’r cwricwlwm a ddarperir yn barhaus ac mae’n symud tuag at ‘ddiwrnodau o ddysgu’ sy’n seiliedig ar agenda Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  Mae hyn yn galluogi athrawon i fod yn fwy hyblyg yn eu hymagwedd at gynllunio a chyflwyno profiadau cwricwlaidd cyfoethog.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Heulfan yng Ngwersyllt ger Wrecsam.  Ar hyn o bryd, mae 380 o ddisgyblion, gan gynnwys 40 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin.  Mae 15 dosbarth yn yr ysgol, sy’n cynnwys canolfan adnoddau arbenigol ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae gan leiafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn ohonynt ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg fel iaith eu cartref.  Mae lleiafrif o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim, ac mae ychydig iawn ohonynt yn siarad Cymraeg gartref.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn y trefniadau hunanarfarnu ehangach

Yn dilyn arfarniad trylwyr o’r cwricwlwm presennol, daeth arweinwyr i’r casgliad fod medrau ac arferion dysgu disgyblion sy’n dechrau yng nghyfnod allweddol 2 yn wahanol i rai carfanau blaenorol, o ganlyniad i ddysgu trwy athroniaeth y cyfnod sylfaen.  Roeddent yn fwy annibynnol ac yn meddu ar allu cynyddol i gyfarwyddo eu dysgu eu hunain.  Er mwyn parhau i ddatblygu’r ymddygiadau hyn a bodloni anghenion disgyblion, bu’r ysgol yn arbrofi â pharthau dysgu.  I ddechrau, roedd y gwaith hwn wedi’i gyfyngu i ddosbarth cymysg Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3.  Trwy fonitro’r addysgu a’r dysgu ymhellach, nodwyd lefelau uchel o ymgysylltiad a chymhelliant disgyblion, a safonau uchel o waith yn y parthau dysgu, felly estynnodd arweinwyr y ddarpariaeth hon i bob dosbarth yng nghyfnod allweddol 2. 

Trwy arfarnu’r cwricwlwm presennol, dangoswyd bod darpariaeth effeithiol y cyfnod sylfaen yn fan cychwyn allweddol i ddatblygu addysgeg yr ysgol ar gyfer addysgu a dysgu.

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid – parthau dysgu

Mae athrawon yn Heulfan yn cynllunio gweithgareddau pwrpasol sy’n cael eu trefnu’n ofalus yn feysydd dysgu a phrofiad sy’n cyd-fynd â’r rheiny a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  Maent yn amlinellu adnoddau ysgogol yn y meysydd hyn sy’n gweddu i anghenion a diddordebau disgyblion yn dda fel bod gweithgareddau’n adlewyrchu’r testunau a gwmpesir ar hyn o bryd neu a gwmpaswyd yn y dosbarth yn y gorffennol.  Mae hyn yn annog disgyblion i atgyfnerthu eu medrau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth mewn ystod eang o gyd-destunau.  Mae enghreifftiau’n cynnwys y Gofod, Anturiaethwyr ac Archwilwyr a Siocled.  Yn gyffredinol, mae disgyblion yn dewis pa faes yr hoffent weithio ynddo, er enghraifft y meysydd mathemateg neu ddigidol.  Mae staff yn monitro gwaith disgyblion yn ofalus i sicrhau eu bod yn elwa ar ystod eang o brofiadau ac yn cynhyrchu gwaith o safon briodol o uchel.  Mae disgyblion hefyd yn dewis p’un a ydynt yn ymgymryd â gwaith prosiect annibynnol neu’n ymateb i heriau.  

Mae’r parthau dysgu ar gael i ddisgyblion bob adeg o’r dydd.  Er enghraifft, nid oes rhaid i ddisgyblion fynd y tu allan amser egwyl.  Yn hytrach, gallent ddewis ymweld â’r gampfa a’r ardaloedd chwarae meddal, i chwarae ag adnoddau a gynigir neu barhau â gwaith prosiect.  Mae’r ysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ddarparu cyfleoedd i ddisgyblion chwarae yng nghyfnod allweddol 2.  Mae’r ysgol yn defnyddio ymchwil a cheisiadau disgyblion i ddarparu teganau ac adnoddau addas mewn blychau chwarae. 

Mae’r ysgol wedi newid ei strwythur staffio i gefnogi datblygu’r cwricwlwm a gwella addysgu a dysgu.  Mae’r tîm arweinyddiaeth yn cynnwys pennaeth a thri phennaeth cynorthwyol sydd â chydbwysedd da o gyfrifoldebau adrannol ac ysgol gyfan.  Mae ganddynt rôl allweddol o ran cynorthwyo staff eraill i gyflawni’r cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd o ran addysgu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. 

Mae gan un pennaeth cynorthwyol gyfrifoldeb cyffredinol am gynllunio’r ysgol.  Mae hyn yn cefnogi parhad a dilyniant effeithiol a lefelau uchel o hyblygrwydd mewn cyflwyno’r cwricwlwm sy’n ymateb yn dda i anghenion a diddordebau disgyblion.  Mae’r ymagwedd hon wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn ‘cynllunio papur’ ar gyfer athrawon dosbarth ac wedi eu galluogi i feddwl am weithgareddau heriol addas y bydd disgyblion yn eu mwynhau.

Nodweddion cynllunio allweddol y mae’r ysgol wedi eu newid:

  • Nid oes amserlenni ffurfiol ar gyfer gwersi – mae disgyblion yn parhau â phrofiadau dysgu sy’n ennyn eu diddordeb am gyfres o wersi, yn hytrach na symud ymlaen i weithgaredd arall i fodloni amserlen a arweinir gan gynnwys.
  • Caiff meysydd dysgu eu mapio’n ofalus i sicrhau ymdriniaeth lawn â’r cwricwlwm a’u bod yn cael eu haddysgu mewn blociau a allai bara sawl wythnos.
  • Ceir ymagwedd ysgol gyfan thematig at gynllunio sy’n ymwneud yn agos iawn â chyd-destunau bywyd go iawn.
  • Mae’r ysgol gyfan yn dilyn yr un prif destun ar unrhyw adeg benodol.
  • Mae gweithgareddau’n cynnwys cyfleoedd helaeth ar gyfer dysgu pwrpasol yn yr awyr agored i ddatblygu medrau a dealltwriaeth o gysyniadau.
  • Yn dilyn ymgynghori â disgyblion, mae athrawon a staff eraill yn cynllunio gweithgareddau y byddai disgyblion yn eu mwynhau.
  • Mae’r pennaeth cynorthwyol sydd â chyfrifoldeb am gynllunio yn coladu syniadau i greu cynllun ysgol gyfan.
  • Ar ddechrau pob thema newydd, cynhelir diwrnod ‘Man Dechrau’.  Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau fel blasu bwyd a helfeydd trysor.  Cynhelir digwyddiad ‘Man Gorffen’ hefyd i ddathlu dysgu a chyflawniadau disgyblion, a myfyrio arnynt.  Mae’r rhain yn cynnwys digwyddiadau fel sioeau ffasiwn, creu amgueddfa, neu weithgareddau marchnad i werthu cynnyrch disgyblion.
  • Yn ogystal â’r themâu hyn, mae pob grŵp blwyddyn yn dysgu am gyfnod hanesyddol penodol, ffydd a gwlad dramor.  Mae disgyblion yn gwneud cysylltiadau rhwng testunau, fel byw yn iach a’r wlad y maent yn dysgu amdani, yn aml trwy ymchwil annibynnol.  Er enghraifft, maent yn dysgu am fyw yn iach ym Mhacistan neu Ffrainc ac yn cymharu hyn â Chymru.

Cam 3:  Cyflawni newid – Arddulliau addysgu ac addysgeg i gefnogi’r pedwar diben

Mae arweinwyr yr ysgol wedi cynorthwyo staff yn effeithiol ar bob lefel i ddatblygu dealltwriaeth ar y cyd o sut gellir cynnwys y pedwar diben yng ngwaith yr ysgol.  Yn ychwanegol, mae’r strwythur staffio yn cynnwys timau sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r meysydd dysgu a phrofiad.  Mae gan bob tîm arweinydd sydd â chyfrifoldeb am arsylwi gwersi, dadansoddi gwybodaeth am berfformiad a nodi’r camau nesaf ar gyfer gwella.  Ar draws yr ysgol, ceir llawer o nodiadau atgoffa gweledol ar gyfer staff a disgyblion am ddibenion y cwricwlwm ac addysgu a dysgu.

Mae cyfarfodydd staff rheolaidd yn datblygu dealltwriaeth ar y cyd o ddiwygio’r cwricwlwm.  Maent yn darparu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer trafodaethau am y theori y tu ôl i ymagweddau at addysgu.  Er enghraifft, mae ymchwil ryngwladol o’r Ffindir yn annog athrawon a disgyblion i roi cynnig ar syniadau ac ymagweddau newydd trwy roi chwilfrydedd, dychymyg a chreadigrwydd wrth wraidd y dysgu.

Mae arweinwyr yn gwneud yn siwr fod athrawon yn defnyddio strategaethau addysgu profedig yn effeithiol.  Er enghraifft, maent yn creu llawer o gyfleoedd ar gyfer addysgu a dysgu rhwng cyfoedion mewn gwersi ar y cyd ar gyfer disgyblion y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2.  Mae cyfleoedd o’r fath yn cyfrannu’n dda at gyflawni’r pedwar diben, er enghraifft trwy alluogi disgyblion hŷn i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd.  Nid yw sesiynau dysgu unigol yn para mwy na 45 munud.  Yn ystod y cyfnod hwn, mae’r addysgu a’r dysgu’n symud yn gyflym.  Mae athrawon yn defnyddio strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn dda i sicrhau bod disgyblion yn glir ynglŷn â diben eu dysgu.  Maent yn darparu cydbwysedd da o ran addysgu uniongyrchol, gwaith pâr a grŵp mewn sesiynau strwythuredig.  Er enghraifft, maent yn addysgu medrau ffonolegol a mathemateg yn uniongyrchol i gwmpasu cynnwys hanfodol a datblygu medrau.  Maent yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso’r medrau hyn mewn parthau dysgu trwy gydol y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2. 

Mae athrawon yn defnyddio cynllun thematig yr ysgol gyfan i roi cyd-destun ar gyfer dysgu.  Defnyddiant wybodaeth asesu disgyblion yn bwrpasol ac yn effeithiol i gynllunio gwersi sy’n herio pob un o’r disgyblion i gyflawni’n dda.  Mae hyn yn cynnwys darpariaeth i gynorthwyo disgyblion i symud ymlaen â medrau a amlinellir yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, ac yn fwy diweddar, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.  Mae disgyblion, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 2, yn meddu ar ddealltwriaeth glir o’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella’u medrau allweddol, er enghraifft i wella ansawdd eu hysgrifennu.

Yn ogystal â’r cynllunio thematig, mae’r ysgol wedi cyflwyno cyfres o ‘Ddiwrnodau Dysgu Arbennig’.  Mae testunau wedi cynnwys datrys problemau trwy ‘Laniad Estroniaid’ a’r ‘Fforest Law’.  Mae pob diwrnod yn dechrau â gweithgaredd ‘Deffro a Symud’ (Wake Up, Shake Up) a chyflwyniad ysbrydoledig, er enghraifft gan ddarlithwyr prifysgol.  Mae profiadau o’r fath wedi rhoi cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu huchelgeisiau eu hunain a nodi beth mae angen iddynt eu gwneud i’w cyflawni.

Mae dull yr ysgol o ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned yn cefnogi datblygiadau diweddar i’r cwricwlwm ac addysgeg yn arbennig o dda.  Mae arweinwyr yn cynllunio cyfleoedd gwerthfawr i bob un o’r rhieni weithio gyda’u plentyn yn yr ysgol bob blwyddyn.  Mae bron pob un o’r rhieni’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn frwdfrydig.  Er enghraifft, maent yn coginio gyda’u plant fel rhan o’r prosiect bwyta’n iach.  Mae’r ysgol hefyd yn cynnig teithiau dysgu i rieni rannu datblygiadau’r cwricwlwm a’u helpu i gynorthwyo eu plant â’u dysgu. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Cwmfelinfach ym mhentref Cwmfelinfach ger Caerffili ac mae 210 o ddisgyblion ar y gofrestr. 

Mae saith dosbarth un oedran, gan gynnwys dosbarth meithrin rhan-amser.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan rai disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae rhai disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol neu gefndiroedd cymysg ac nid oes unrhyw un ohonynt yn siarad Cymraeg gartref.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach – cwricwlwm datblygol a chyfoethog

Dechreuodd yr ysgol adolygu ei chwricwlwm trwy gynnal archwiliad o arbenigedd staff i nodi a oedd gan athrawon y medrau angenrheidiol i gyflwyno gweithgareddau i ennyn diddordeb y disgyblion yn fwy llwyddiannus.  Fe wnaeth hyn helpu arweinwyr i nodi hyfforddiant datblygiad proffesinol perthnasol a gwerth chweil.

Ar ôl cyflwyno’r fframwaith llythrennedd a rhifedd (FfLlRh), roedd staff yn awyddus i addasu darpariaeth y cwricwlwm i ganolbwyntio’n gliriach ar ddatblygu medrau disgyblion ar draws y cwricwlwm.  Adolygodd y staff bob gweithgaredd i gysylltu â datganiadau’r FfLlRh a chynlluniwyd pob sesiwn i sicrhau eu bod yn cwmpasu medrau ar lefel addas ar gyfer pob disgybl yn y grŵp hwnnw.  Yn y flwyddyn gyntaf, roedd cynllunio’n cynnwys saith aelod o staff yn cyflwyno ystod o weithgareddau, gan gynnwys Almaeneg, coginio, celf a gwau.  Wrth i’r gweithgareddau hyn ddatblygu, defnyddiodd yr ysgol nhw fel cyfle i gynyddu ymglymiad disgyblion â’u cymuned leol.  Er enghraifft, bu warden coedwig leol yn cynnal gweithgareddau ysgol goedwig ar gyfer disgyblion a bu aelodau o Gymdeithas Rhandir Cwmfelinfach yn gweithio gyda disgyblion i ddatblygu eu rhandiroedd eu hunain.  Trefnodd yr ysgol y disgyblion yn grwpiau cymysg o ddisgyblion o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6, a threfnwyd bod y sesiynau’n cael eu cynnal ar sail amserlen chwe wythnos am 90 munud. 

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

 
Cynllunio ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned

Ar ôl arfarnu’r cwricwlwm, mae uwch arweinwyr yn sicrhau bod yr ysgol yn cydweithio’n fwy effeithiol â disgyblion, rhieni a’r gymuned ehangach i newid ei darpariaeth.  Mae staff yn gweld datblygu’r cwricwlwm fel proses barhaus yn hytrach nag un digwyddiad.  Mae cyfarfodydd staff yn canolbwyntio’n glir ar adolygu ac addasu darpariaeth yn barhaus i sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer disgyblion.  Mae gweithdrefnau hunanarfarnu cadarn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cefnogi’r broses hon.  Mae’r ysgol yn cydweithio ag ysgol gyfagos, ysgolion eraill yn y clwstwr ac ar draws y consortiwm i arsylwi a rhannu arfer dda, i greu cwricwlwm dychmygus a difyr sy’n rhoi’r gymuned wrth wraidd dysgu’r disgyblion.

Paratoi i roi’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol ar waith

O ganlyniad i’w gwaith hunanarfarnu, mae’r ysgol wedi cydnabod bod angen diweddaru’r cynllunio a’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu medrau TGCh disgyblion.  Mae cydlynydd TGCh yr ysgol yn gweithio’n agos â staff i sicrhau dull, parhad a dilyniant cyson o ran datblygu medrau TGCh disgyblion.  Mae llywodraethwyr hefyd wedi defnyddio aelod presennol o staff i addysgu medrau TGCh penodol yn ystod amser cynllunio, paratoi ac asesu athrawon.  Mae’r aelod hwn o staff yn gweithio ochr yn ochr ag athrawon ystafell ddosbarth i sicrhau bod ganddynt y gallu i ddatblygu medrau TGCh disgyblion yn holl feysydd y cwricwlwm.  Yn ychwanegol, mae disgyblion sy’n gweithredu fel ‘arweinwyr digidol’ yn cynorthwyo eu cyfoedion i ddefnyddio medrau o sesiynau TGCh mewn gwaith trawsgwricwlaidd.

Yn ychwanegol, mae’r cydlynydd TGCh yn gweithio gyda staff a disgyblion i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer datblygu medrau digidol disgyblion ar draws y cwricwlwm.  Wrth i staff ymgyfarwyddo â gofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, defnyddiant ystod ehangach o strategaethau i godi ymwybyddiaeth disgyblion ac integreiddio’i ofynion mewn gwersi.  Mae athrawon yn integreiddio amcanion dysgu o’r Fframwaith yn eu cynllunio ac yn rhannu’r rhain gyda disgyblion.  Mae staff yn gweithio gyda disgyblion i greu arddangosfeydd mewn ardaloedd cymunol sy’n dathlu gwaith TGCh disgyblion.  Mae’r ysgol wedi diwygio’i sesiynau cwricwlwm cyfoethog i gynnwys datblygu medrau digidol disgyblion.  Er enghraifft, mae disgyblion yn datblygu eu dealltwriaeth o godio gyda theganau rhaglenadwy syml a breichiau robotig, a defnyddiant gonsolau gemau i greu adeiladau mewn bydoedd rhithwir.

Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu ymwybyddiaeth disgyblion ohonyn nhw eu hunain fel dinasyddion digidol.  Mae disgyblion yn defnyddio eu gwybodaeth i gynorthwyo cyfoedion i ddefnyddio’r rhyngrwyd a chyfathrebu electronig yn ddiogel.  Mae disgyblion yn defnyddio system ar-lein i rannu a dathlu eu gwaith gyda rhieni ac maent yn cydweithio ag ysgolion ledled y byd trwy’r rhyngrwyd.

Mae disgyblion yn cynnal archwiliad o’u medrau TGCh eu hunain yn ystod tymor yr hydref ac yn asesu eu hunain wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi i olrhain eu cynnydd.  Mae athrawon yn coladu tystiolaeth o ddefnydd disgyblion o fedrau TGCh ar draws y cwricwlwm mewn ffolderi dosbarth sy’n dangos ymdriniaeth a dilyniant.  Mae’r ysgol wedi datblygu taenlen i olrhain datblygiad medrau disgyblion yn ôl gofynion y Fframwaith Cymhwysedd Digidol.  Mae hyn yn helpu staff i gynllunio gwersi effeithiol i atgyfnerthu ac ymarfer medrau digidol disgyblion. 

Mae’r cydlynydd TGCh wedi creu cylch monitro, arfarnu ac adolygu clir.  Mae’n gwrando ar ddysgwyr i ddeall agweddau disgyblion tuag at eu dysgu digidol ac yn arfarnu eu medrau unigol.  Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar lais y disgybl trwy ei grwpiau ‘ysbïwr dysgu’.  Mae hyn yn cynnwys disgyblion yn cynnal teithiau dysgu a monitro llyfrau gyda ffocws penodol ar fedrau TGCh disgyblion.  Rhennir deilliannau monitro ag uwch arweinwyr, staff a llywodraethwyr trwy adroddiadau effaith rheolaidd.  Mae’r rhain yn llywio camau gweithredu gwella’r ysgol a newidiadau i ddarpariaeth.