Arfer effeithiol Archives - Page 48 of 68 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Ysgol gyfun gyfrwng Saesneg gymysg 11-16 yng Nghastell-nedd Port Talbot yw Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, sydd â thua 1,150 o ddisgyblion ar y gofrestr.

Mae’r ysgol yn denu disgyblion o Gastell-nedd a’r ardal gyfagos.  Mae tua 17% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Daw tua 2% o ddisgyblion o gartrefi Cymraeg eu hiaith.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndiroedd gwyn Prydeinig, ac ychydig iawn ohonynt yn dod o grwpiau ethnig lleiafrifol.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 26% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys y pennaeth, dau ddirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol a bwrsar.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er 2012 ac mae’r ddau ddirprwy wedi bod yn aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth er 2009 a 2008 yn y drefn honno.  Mae’r pennaeth cynorthwyol sy’n gyfrifol am addysgu a dysgu wedi bod yn ei swydd er mis Mehefin 2017.  Yn y gorffennol, un o’r dirprwy benaethiaid oedd yn dal y cyfrifoldeb hwn.

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae’r pennaeth a’r uwch dîm arweinyddiaeth yn Nŵr y Felin yn glir fod arwyddair yr ysgol, sef ‘Nid da lle gellir gwell’, yn berthnasol i gymuned yr ysgol gyfan.  Mae gan arweinwyr ddisgwyliadau uchel ar gyfer darparu addysgu ac asesu.  Maent yn darparu her a chymorth proffesiynol i staff i’w galluogi i fodloni’r disgwyliadau hyn.

Mae’r ysgol yn ystyried ystod eang o dystiolaeth trwy ei phrosesau hunanarfarnu.  Mae hyn yn sicrhau golwg gyfannol ar ba mor effeithiol yw’r addysgu ar draws yr ysgol a’r hyn y mae angen ei wella ymhellach.  Mae hyn yn llywio addysgu fel blaenoriaeth ganolog yng nghynllun datblygu’r ysgol.  Mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn deall bod gwella addysgu yn un o’u swyddogaethau craidd.  Mae addysgu yn ymddangos ar agendâu’r holl gyfarfodydd tîm a rheolwyr llinell, yn ogystal â bod yn amcan rheoli perfformiad allweddol ar gyfer pob un o’r staff, sydd wedi’i bersonoli i’w rôl a’u hanghenion datblygu.

Mae grŵp rhwydwaith dysgu athrawon sefydledig yn cyfarfod bob mis.  Mae’r grŵp hwn yn rhoi cyfle i staff rannu addysgeg ac adnoddau addysgu, yn unol â ffocws tymhorol yr ysgol ar addysgeg.

Eleni, mae’r ysgol wedi dewis canolbwyntio ar bedair egwyddor addysgegol o ‘Dyfodol Llwyddiannus’ (Donaldson, 2015), sef:

  • meddylfryd a phŵer ymdrech, sy’n cefnogi’r ffocws ar ddisgyblion mwy abl yng nghynllun datblygu’r ysgol
  • dyfnhau meddwl at ddibenion beirniadol a chreadigol fel ei gilydd
  • dysgu ymreolaeth a dysgu annibynnol; mae angen arweiniad ar ddisgyblion o hyd, ond mae angen iddynt ddysgu cymryd perchnogaeth o’u dysgu hefyd
  • dysgu ystyrlon a dilys

Trwy’r ffocysau hyn, mae’r ysgol yn ceisio darparu gweithgareddau cyfoethogi ysgogol sy’n ychwanegu manylder ac ehangder at ddysgu. 

Mae’r grŵp rhwydwaith wedi creu ac arbrofi â dulliau y mae staff bellach yn eu rhoi ar waith ar draws yr ysgol.  Er enghraifft, ar ôl canolbwyntio ar adborth, mireiniodd y grŵp nifer o’u dulliau presennol.  Bu aelodau’r grŵp yn arfarnu ac yn arbrofi ag effeithiolrwydd y newidiadau hyn cyn eu cyflwyno ar lefel ysgol gyfan.  Defnyddiodd y grŵp ddull tebyg wrth ystyried sut i fireinio a gwella holi.  Mae’r dulliau cydweithredol hyn yn cynnig cyfle i staff ymchwilio ac wedyn gymhwyso theori berthnasol i flaenoriaethau ehangach yr ysgol, fel gwella cyrhaeddiad disgyblion mwy abl.

Mae Dŵr y Felin wedi mabwysiadu dull hyfforddi fel agwedd ar ei chynnig dysgu proffesiynol.  Mae’r ysgol yn defnyddio hyfforddi mewn dwy ffordd amlwg, sef:

  1. Mae pob un o’r staff yn adolygu eu perfformiad eu hunain gan ddefnyddio technoleg ddigidol.  Mae hunanfyfyrio yn digwydd ar lefel unigol, er bod y rhan fwyaf o athrawon yn trafod agweddau ar eu haddysgu gyda chydweithiwr neu reolwr llinell.  Mae pob un o’r athrawon wedi cael hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r ddeialog hon fel cyfrwng ar gyfer myfyrio.  Trwy drafod â rheolwyr perfformiad, mae staff yn gosod camau gweithredu clir iddyn nhw eu hunain er mwyn datblygu technegau a dulliau addysgegol ymhellach.
  2. O ganlyniad i benodi uwch arweinydd yn ddiweddar, mae Dŵr y Felin wedi cael cyfle i ddefnyddio model hyfforddi GROW gyda phob un o’r staff.  Caiff y ddeialog broffesiynol anfygythiol hon ei chroesawu a’i hymgorffori gan lawer o staff ac mae’n dod yn gyfrwng cryf ar gyfer dysgu proffesiynol yn yr ysgol. 

Caiff pob un o’r staff gyfleoedd buddiol i drafod eu nodau presennol a’u hanghenion datblygiad proffesiynol gyda hyfforddwr.  Mae’r ffaith fod yr ysgol wedi neilltuo amser wedi cael ei wobrwyo gan ymrwymiad o’r newydd i ymdrech yr ysgol i barhau i wella perfformiad ar bob lefel.  Mae staff yn teimlo bod pobl yn gwrando arnynt, a gallant elwa ar gymorth pwrpasol a phersonoledig, y mae’r ysgol yn darparu llawer ohono trwy ei harbenigedd mewnol.  Rhaid i’r holl gyfleoedd dysgu proffesiynol a nodir gan athrawon ddangos eu bod o fudd i staff eraill a disgyblion, yn ogystal â chysylltu â’r safonau addysgu proffesiynol newydd.

Un o fanteision eraill y dull hwn yw’r wybodaeth fanwl a geir trwy safbwyntiau staff am ystod o agweddau pwysig ar fywyd ysgol.  Mae hyn wedi galluogi uwch arweinwyr i dargedu gweithgareddau ysgol gyfan yn fwy manwl gywir, yn enwedig ynghylch lles.  Maent wedi gwneud y mwyaf o adnoddau allanol sydd ar gael yn rhwydd i wneud hyn, fel cyhoeddiadau Academi Cymru. 

Deilliannau

O ganlyniad i’r ffocws craff parhaus ar addysgu, mae gwelliannau sylweddol ar yr agweddau hynny y nodwyd eu bod yn flaenoriaethau.  Trwy ddefnyddio tystiolaeth o arsylwadau gwersi, craffu ar waith a gweithgareddau llais y disgybl, daw’r ysgol i’r casgliad, o ganlyniad i newidiadau a wnaed gan staff, fod holi bellach yn nodwedd gref mewn llawer o wersi a bod ansawdd yr adborth ysgrifenedig wedi gwella.  Mae llawer o sylwadau bellach yn galluogi disgyblion i ddeall sut i wella eu gwaith.  

Mae bron pob un o’r staff yn deall pwysigrwydd addysgu o ansawdd da ac maent yn bartneriaid yn nhaith yr ysgol i wella.  Maent yn teimlo eu bod wedi eu grymuso i roi cynnig ar ddulliau newydd, gan wybod y gallant fyfyrio ar eu llwyddiannau a meysydd i’w datblygu gyda chydweithwyr trwy’r rhwydweithiau a’r cyfarfodydd amrywiol.  Yn bennaf oll, mae’n amlwg fod staff yn mwynhau’r cyfleoedd a gânt, ac maent yn ymgymryd â’r her i wella eu haddysgu ymhellach gyda balchder.  Maent yn falch o berthyn i Ddŵr y Felin ac yn rhannu uchelgais y pennaeth ar gyfer yr ysgol a’i disgyblion. 

Mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu herio gan eu haddysgu ac yn croesawu hyn â brwdfrydedd.  Mae disgyblion hŷn yn cydnabod y newidiadau sydd wedi digwydd dros gyfnod, a’r modd y mae addysgu bellach yn cynnig heriau a chyfleoedd newydd i anelu’n uwch.  Mae llawer o ddisgyblion yn deall nad yw dysgu bob amser yn hawdd, ond maent yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo a’u hannog gan bob un o’r staff.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Datblygu pedair egwyddor addysgegol bellach
  • Parhau i ganolbwyntio ar ymatebion disgyblion i adborth
  • Ymgorffori’r pedwar diben craidd
  • Defnyddio adnoddau digidol yn yr ystafell ddosbarth

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Ysgol gymysg 11-16 oed yn awdurdod lleol Blaenau Gwent yw Ysgol Gyfun Tredegar.  Mae tua 650 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae tua 21% o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 28% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu mamiaith ac yn dod o gefndir gwyn Prydeinig.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er 2012.  Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys dirprwy bennaeth a dau bennaeth cynorthwyol.

Strategaeth a chamau gweithredu

Wedi iddi ymuno â’r ysgol, nododd y pennaeth lawer o ddiffygion ar unwaith yn nealltwriaeth athrawon ac arweinwyr canol o ddata.  Roedd hyn yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth o sut i ddefnyddio dangosyddion cenedlaethol i fesur perfformiad disgyblion o gymharu â’r rheiny mewn ysgolion tebyg, yn ogystal â sut i ddefnyddio data i fesur cynnydd a deilliannau disgyblion unigol a grwpiau o ddisgyblion.  Dros gyfnod, roedd hyn wedi atal yr ysgol rhag datblygu asesiad cywir o ba mor dda roedd disgyblion yn cyflawni, ac o gryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w datblygu o ganlyniad.  Roedd y grŵp staff presennol wedi hen ennill ei blwyf, roedd trosiant staff yn isel ac roedd perthnasoedd ar bob lefel yn yr ysgol yn dda iawn.  Fodd bynnag, at ei gilydd, nid oedd y diwylliant yn yr ysgol yn ddyheadol.  Roedd uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn aneglur ynglŷn â’u rolau a’u cyfrifoldebau ac nid oeddent yn dwyn staff i gyfrif yn ddigon da am eu perfformiad. 

Nododd rownd gyntaf yr arsylwadau gwersi a gynhaliwyd gan y pennaeth ac aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth, er bod enghreifftiau o arfer dda mewn addysgu, fod disgwyliadau o ddisgyblion yn isel ac nid oedd cynllunio athrawon yn herio disgyblion unigol yn ddigon da.  Roedd cyfleoedd i athrawon rannu arfer dda ac elwa ar ddysgu proffesiynol yn gyfyngedig.  Ar draws yr ysgol, canolbwyntiai athrawon ac arweinwyr yn ormodol ar y barnau oedd ynghlwm wrth arsylwadau gwersi heb roi rhyw lawer o sylw i effaith eu haddysgu ar ddysgu disgyblion.

Roedd y pennaeth newydd, ynghyd â chynrychiolwyr o’r awdurdod lleol a’r consortiwm, yn rhannu’r un farn am yr angen i godi safonau cyrhaeddiad a phresenoldeb yn yr ysgol.  Roedd y pennaeth yn glir ei bod yn hanfodol datblygu arweinyddiaeth addysgu a dysgu yn yr ysgol.  I wneud hyn, byddai angen iddi gryfhau gallu arweinwyr canol ac uwch arweinwyr i ddeall a defnyddio data i ysgogi gwelliannau yn neilliannau disgyblion.  Ar yr un pryd, byddai angen i’r ysgol sefydlu dull cyffredin o addysgu a oedd yn canolbwyntio’n fwy ar effaith yr addysgu ar ddysgu a llai ar farnau oedd ynghlwm wrth wersi ac athrawon unigol.

I ddechrau, rhoddodd y pennaeth raglen gynhwysfawr o ddysgu proffesiynol ar waith gydag uwch arweinwyr ac arweinwyr canol, gan ganolbwyntio ar ddefnyddio data ar lefel ysgol gyfan a lefel disgyblion unigol fel ei gilydd.  Roedd hyn yn cynnwys datblygu cyd-ddealltwriaeth ymhlith staff o’r dangosyddion perfformiad pwysicaf yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4 a defnyddio’r rhain i fesur perfformiad cymharol yr ysgol yn erbyn ysgolion eraill tebyg. 

Yn ychwanegol, nid oedd prosesau’r ysgol i arfarnu cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion unigol wedi’u datblygu’n ddigonol.  Gweithiodd y pennaeth gyda staff i gryfhau systemau i olrhain a monitro perfformiad a phresenoldeb disgyblion a nodi rhaglenni ymyrraeth addas ar gyfer y disgyblion hynny yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt.  Sicrhaodd hyn fod pob un o’r staff yn meddu ar ddealltwriaeth glir o gynnydd disgyblion, yn ogystal â pherfformiad yr ysgol yn gyffredinol.  Yn ei dro, galluogodd hyn staff ar bob lefel i nodi cryfderau’r ysgol a blaenoriaethau ar gyfer gwella yn fwy cywir.

Yn gysylltiedig â hyn, rhoddodd y pennaeth ystod o fesurau ar waith i gryfhau graddau her ac atebolrwydd yn yr ysgol.  Adolygodd arweinwyr ddull yr ysgol o reoli perfformiad i sicrhau bod targedau rheoli perfformiad yn mynd i’r afael â blaenoriaethau ysgol gyfan.  Roedd y rhain yn cynnwys targedau heriol ond realistig ar gyfer athrawon a oedd yn canolbwyntio ar ddeilliannau disgyblion ac wedi’u cysylltu â lefelau cyflawniad blaenorol disgyblion.  Sicrhaodd adolygiad o strwythur cyfarfodydd yr ysgol fod cyfarfodydd ar draws yr ysgol yn canolbwyntio’n gyson ar flaenoriaethau’r ysgol, yn ogystal â darparu cyfleoedd cynyddol i staff gyfrannu at drafodaethau a hunanarfarnu.

Wrth ategu’r datblygiadau hyn, roedd y pennaeth yn glir ei bod yn hanfodol datblygu diwylliant o ddysgu proffesiynol yn yr ysgol a allai gynorthwyo athrawon i wella a dod yn fwy cyson yn eu harfer.  Gofyniad canolog i hyn oedd datblygu iaith ar y cyd i drafod addysgu a dysgu a allai hwyluso cydweithio llwyddiannus a rhannu arfer effeithiol.

Fel rhan o’r cymorth a drefnwyd i’r ysgol gan yr awdurdod lleol, ymwelodd y pennaeth ag ysgol yn Lloegr yn fuan ar ôl iddi gael ei phenodi, a gwnaeth yr ethos a’r dull o ddatblygu addysgu yn yr ysgol argraff dda arni.  Ym mis Medi 2013, dechreuodd dau aelod o staff o’r ysgol hon weithio gydag arweinwyr canol o Ysgol Tredegar ar raglen bwrpasol i ddatblygu addysgu yn yr ysgol gyda ffocws ar wella cynllunio athrawon i ddangos her gynyddol, dysgu gweithredol ac effaith.

Yn 2014, penodwyd pennaeth yr ysgol bartner yn Lloegr yn ymgynghorydd her ar gyfer Her Ysgolion Cymru Tredegar.  Cryfhaodd hyn y gweithio mewn partneriaeth a oedd wedi datblygu rhwng y ddwy ysgol ymhellach a galluogodd weddill y staff addysgu yn yr ysgol i gwblhau’r rhaglen addysgu a dysgu bwrpasol.  Yn dilyn hyn, cofrestrodd grŵp bach o staff ar raglen athrawon rhagorol , eto wedi’i hwyluso gan staff o Loegr. 

Defnyddiodd yr ysgol ran o’i chyllid Her Ysgolion Cymru i fuddsoddi mewn ystod o raglenni addysgu a hyfforddi.  Mae hyn wedi galluogi staff yn yr ysgol i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau dysgu proffesiynol sydd wedi’u cysylltu’n agos â’u cyfrifoldebau addysgu ac arwain a’u hanghenion datblygiadol. 

Elfen bellach o strategaeth y pennaeth fu sicrhau bod ymagweddau cyson at arfer dysgu ac addysgu yn cael eu datblygu rhwng yr ysgol uwchradd a’i hysgolion cynradd partner.  Yn hanesyddol, bu gan yr ysgolion berthnasoedd gweithio cadarnhaol ar hyd yr amser ac mae hyn wedi cryfhau ymhellach yn y blynyddoedd diwethaf trwy’r ffocws ar y cyd ar strategaethau addysgu a dysgu. 

Nodwedd allweddol o’r cydweithio hwn fu ymestyn cyfle i staff elwa ar gyfres o raglenni addysgu ar draws y clwstwr.  Mae hyn wedi gwella’n sylweddol y cyfleoedd i athrawon gymryd rhan mewn gweithio a rhwydweithio ar y cyd ar draws sectorau.  Mae’r pennaeth cynorthwyol o Ysgol Tredegar ac arweinwyr addysgu a dysgu o bob ysgol gynradd yn cyfarfod bob hanner tymor i gynllunio datblygiadau mewn addysgu a dysgu, a chynhelir cyfarfodydd addysgu rheolaidd i athrawon ar draws y clwstwr rannu arfer dda ar ôl yr ysgol.

Deilliannau

Mewn cyfnod hynod fyr, mae dull yr ysgol o wella addysgu wedi galluogi staff i sefydlu egwyddorion addysgegol ar y cyd ac iaith gyffredin ar gyfer trafod addysgu a dysgu.  Mae’r rhaglenni wedi ennyn brwdfrydedd ymhlith staff ac wedi darparu dull ysgol gyfan cyson o ran arfer ystafell ddosbarth.  Fel rhan o’r rhaglenni, mae staff wedi elwa ar lawer o gyfleoedd i weithio gyda’i gilydd i rannu arfer dda a datblygu syniadau ac adnoddau.  Mae disgyblion wedi croesawu gweithredu elfennau nad ydynt yn agored i’w trafod ar gyfer gwersi, ac maent yn hoffi’r arferion dyddiol ac arfer gyson ar draws yr ysgol.  Maent yn teimlo bod hyn wedi rhoi mwy o berchnogaeth iddynt o’u dysgu gan eu bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl mewn gwersi.  Gyda’r pwyslais ar gynyddu atebolrwydd pob un o’r staff ar gyfer y deilliannau a gyflawnir gan ddisgyblion yr ysgol, mae’r dulliau hyn wedi cyfrannu’n sylweddol at wella diwylliant her a dyhead yn yr ysgol.

Mae athrawon ar draws clwstwr Tredegar wedi ymateb yn frwdfrydig i fuddsoddiad yr ysgol yn ei rhaglenni addysgu.  Hyd yma, mae 60 o athrawon ar draws clwstwr Tredegar wedi cymryd rhan yn y rhaglen athrawon rhagorol, mae 32 wedi cymryd rhan yn y rhaglen arweinwyr addysg rhagorol, mae 12 wedi cymryd rhan yn y rhaglen gwella athrawon, ac mae 50 cymryd rhan yn y rhaglen cynorthwywyr athrawon rhagorol.  Yn ychwanegol, mae ysgolion yn y clwstwr wedi hyfforddi pump o hwyluswyr i sicrhau cynaliadwyedd.

Mae disgyblion yn elwa’n sylweddol ar barhad a dilyniant effeithiol mewn dysgu.  Er 2012, mae deilliannau yn yr ysgol wedi gwella’n sylweddol.  Er enghraifft, mae deilliannau yn nangosydd lefel 2 gan gynnwys Saesneg a mathemateg yng nghyfnod allweddol 4 wedi codi o 29% yn 2012 i 55% yn 2017.  Fe wnaeth perfformiad mewn llawer o ddangosyddion yn 2017 osod yr ysgol yn y 50% uchaf o ysgolion tebyg yn seiliedig ar gymhwyster i gael prydau ysgol am ddim (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Cryfhau cyfleoedd i ddatblygu arfer ar y cyd trwy raglen arsylwadau cymheiriaid lle mae athrawon yn gweithio gyda’i gilydd i nodi meysydd i’w datblygu a chynllunio gwersi
  • Datblygu cyfleoedd ar gyfer prosiectau ymchwil weithredu ar draws y clwstwr
  • Datblygu pob un o’r staff yn arweinwyr dysgu trwy barhau i fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol sy’n canolbwyntio ar sicrhau safonau dysgu ac addysgu uchel
  • Hyrwyddo cyfleoedd i rannu arfer effeithiol yn yr ysgol, ar draws y clwstwr a thu hwnt

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Roedd amseroedd prydau bwyd yn y lleoliad yn arfer bod yn amser i’w ofni.  Roedd pob cinio yn cael ei roi ar blât ymlaen llaw, a oedd yn golygu na allai plant ddewis beth roeddent eisiau i’w fwyta.  Roedd y platiau, y cwpanau a’r cyllyll a ffyrc yn blastig.  Nid oedd llawer o amser i blant fwyta’u bwyd ac roedd yn anodd rheoli eu hymddygiad.  O ganlyniad, roedd lefelau lles ar gyfer y plant a’r ymarferwyr yn isel. 

Roedd perchennog y feithrinfa yn cydnabod bod gwelliant yn hanfodol.  Roedd arweinwyr yn deall bod llawer o botensial i blant ddysgu trwy brofiadau uniongyrchol amser cinio a phenderfynon nhw wneud y gorau o’r cyfleoedd hyn.  I ddechrau, trefnodd y lleoliad arbrawf â grŵp bach o blant.  Roedd ymarferwyr yn cynnwys y plant yn y profiad amser bwyd cyfan, gan adael iddynt osod y byrddau, gweini’r bwyd a helpu glanhau’r ystafell fwyta ar ôl i bawb orffen.  Roedd hyn yn gwneud amser cinio yn amser hapusach, mwy cadarnhaol a chynhyrchiol i blant a staff y lleoliad.  Mae’r arfer hon wedi cael ei hymgorffori yng ngwaith y lleoliad dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch y nodwyd ei bod yn arfer sy’n arwain y sector

Yn dilyn yr arbrawf llwyddiannus, datblygodd y perchennog y ddarpariaeth amser cinio ymhellach.  Buddsoddodd y lleoliad mewn platiau tsieina a chyllyll a ffyrc metel, llieiniau bwrdd, fasys ar gyfer blodau, dysglau gweini o faint sy’n addas i blant, a chwpanau a soseri.  Bu’n rhaid i’r plant ddysgu trin yr adnoddau’n ofalus fel nad oeddent yn eu torri nac yn cael unrhyw niwed wrth eu defnyddio.  Fe wnaeth ymgymryd â’r cyfrifoldebau hyn helpu gwella ymddygiad y plant a’u hunan-barch.

Pan fydd plant yn ddigon hen i symud i’r adran cyn-ysgol, mae ymarferwyr yn eu cyflwyno i’r drefn amser cinio yn raddol.  Maent yn dangos gwahanol fedrau yn ofalus, er enghraifft sut i weini bwyd o ddysgl ar blât, a sut i ddefnyddio cyllell a fforc yn effeithiol.  Mae hyn yn golygu bod plant yn deall beth yn union y disgwylir iddynt ei wneud.  Wrth i blant ddod yn fwy hyfedr yn trin y llestri a’r cyllyll a ffyrc, mae ymarferwyr yn eu hannog i fod yn gynyddol annibynnol.  Rhoddir tasgau bach i bob un o’r plant eu cwblhau.  Er enghraifft, maent yn gwneud yn siwr fod digon o blatiau ar y bwrdd ac yn dewis y blodau ar gyfer canol y bwrdd.  Mae hyn yn cynnwys pawb yn ystyrlon ac yn rhoi ymdeimlad cryf o gyflawni a pherthyn i blant.  Mae ymarferwyr yn bwyta ochr yn ochr â’r plant.  Mae hyn yn rhoi cyfleoedd perffaith i annog plant i ddatblygu eu medrau sgwrsio a rhoi cynnig ar fwyd sy’n wahanol o ran ansawdd a blas wrth iddynt eistedd o gwmpas y bwrdd gyda’u ffrindiau.

Mae ymarferwyr yn cynllunio’n effeithiol er mwyn i blant ymarfer ac ymgorffori’r medrau y maent yn eu dysgu amser cinio yn ystod eu cyfnod chwarae’n rhydd.  Er enghraifft, maent yn darparu cyfleoedd i blant ddefnyddio platiau tsieina, arllwys diodydd a golchi llestri yn yr ardal chwarae rôl.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae bron pob un o’r plant yn eithriadol o annibynnol amser prydau bwyd.  Maent yn cydweithredu’n dda iawn â’i gilydd ac yn datblygu medrau cymdeithasol cryf.  Er enghraifft, maent yn rhannu tasgau clirio ac yn gwneud yn siwr fod y rhain yn cael eu cwblhau i safon uchel.  Mae plant yn datblygu synnwyr cryf o degwch pan fyddant yn rhannu bwyd, ac yn deall y dylai pawb gael dogn o faint synhwyrol.  Datblygant eu rheolaeth gorfforol yn effeithiol pan fyddant yn ymdrin â heriau fel arllwys meintiau addas o grefi â gofal.

Mae bron pob un o’r plant yn trosglwyddo’r medrau hyn yn llwyddiannus i feysydd eraill y ddarpariaeth trwy gydol y sesiwn feithrin.  Maent yn hyderus ac annibynnol, yn cynnal diddordeb mewn gweithgareddau ac yn gweithio’n ddiwyd am gyfnodau hir. 

Mae rhieni’n darparu adborth cadarnhaol, gan ddweud yn rheolaidd bod eu plant yn ymddwyn yn dda amser prydau bwyd gartref a phan fyddant yn bwyta allan. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad yn cynnal sesiynau ‘arfer sy’n werth ei rhannu’ ar gyfer lleoliadau ar draws y consortiwm i weld sut mae’r drefn amser cinio yn gweithio.  Mae arweinwyr yn rhannu eu harfer dda trwy gyflwyniadau yng nghyfarfodydd rhwydweithio arweinwyr y cyfnod sylfaen. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer sy’n arwain y sector

Mae ethos yr ysgol yn seiliedig ar les pob un o’r dysgwyr a’r staff.  Mae gweledigaeth yr ysgol, sef, ‘Cyflawni, Gofalu, Cyfoethogi’ (ACE), yn amlwg ar draws yr ysgol.  I sicrhau cymorth effeithiol ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed, mae’r ysgol yn defnyddio ystod o strategaethau sydd wedi’u cynllunio’n benodol i fodloni anghenion nodweddiadol dysgwyr sydd dan anfantais.  Rhan allweddol o strategaeth yr ysgol i leihau’r rhwystrau rhag dysgu a gwella deilliannau ar gyfer pob dysgwr yw:

  • sicrhau bod cymorth yn gweddu’n agos i anghenion dysgwyr unigol

  • defnyddio’r systemau olrhain sefydledig i fonitro cynnydd dysgwyr sydd dan anfantais yn drylwyr

  • nodi a chynorthwyo dysgwyr sydd dan anfantais yn benodol nad ydynt efallai’n gymwys am brydau ysgol am ddim

  • blaenoriaethu olrhain tlodi a chynllunio’n strategol i wella perfformiad dysgwyr sydd dan anfantais

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch y nodwyd ei bod yn arfer sy’n arwain y sector

Mae staff wedi dyfeisio system olrhain i fonitro dysgwyr sy’n agored i niwed ar draws yr ysgol.  Mae athrawon yn asesu lles, presenoldeb, gallu academaidd disgwyliedig, ymddygiad dysgwyr, a’u hamlygrwydd i weithgareddau allgyrsiol.  Rhoddir sgôr i ddisgyblion sy’n adlewyrchu’r lefel o ran pa mor agored i niwed ydynt.  Llenwir taflenni olrhain yn ystod tymor yr Hydref ac fe gânt eu hailarfarnu a’u hasesu ar gyfer effaith ar ddiwedd tymor y Gwanwyn.  Mae hyn yn golygu y gall ymyriadau a systemau cymorth gael yr effaith fwyaf ar draws yr ysgol.

Mae’r wybodaeth a gesglir yn gysylltiedig â systemau olrhain academaidd, ac fe’i defnyddir gan bob un o’r staff i lywio addysgu, dysgu a chymorth sydd wedi’i theilwra’n briodol yn unol ag anghenion dysgwyr unigol.

Yng nghyfnod allweddol 2, caiff grwpiau eu dewis ar sail sgorau o’r wybodaeth olrhain, sy’n sicrhau bod cymorth digonol ar gyfer anghenion cymdeithasol ac emosiynol dysgwyr, yn ogystal â’u hyder, eu cymhelliant a’u hunan-barch.  Mae’r grwpiau hyn yn canolbwyntio ar weithgareddau ymarferol fel celf, crefft a gweithgareddau awyr agored.  Yn ychwanegol, mae clwb allgyrsiol yn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer disgyblion.  Mae’r rhaglen hon yn targedu dysgu y tu allan i oriau ysgol, gan ddarparu cyfleoedd yn benodol i hyrwyddo annibyniaeth a chyflwyno profiadau na fyddai disgyblion efallai’n cael cyfle i gymryd rhan ynddynt y tu allan i’r ysgol fel arfer.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau disgyblion?

Mae dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cyflawni’n dda yn Ysgol Gynradd Penllwyn.  Dros gyfnod, mae disgyblion wedi cyflawni canlyniadau gwell na’r rheiny mewn ysgolion tebyg.  Caiff y cymorth a’r ymyrraeth ar gyfer disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim effaith dda ar gynnydd llawer o ddisgyblion, o fan cychwyn isel.  Mae’r olrheiniwr cynnydd ‘Disgyblion sy’n Agored i Niwed’ yn dangos bod 78% o ddisgyblion y cyfnod sylfaen a 74% o ddisgyblion cyfnod allweddol 2 wedi cynnal neu wneud cynnydd da o ran y dangosyddion.  Mae’r bwlch o ran perfformiad rhwng disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a’r rheiny nad ydynt yn gymwys i’w cael wedi lleihau’n nodedig.  Mae arweinwyr yn darparu dull strategol a thrylwyr o fonitro cynnydd, ac mae hyn yn cyfrannu’n dda at y cynnydd da iawn a wna’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ystod y flwyddyn. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r clwstwr lleol o ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i sicrhau cyfnod pontio esmwyth i ddysgwyr.  Caiff gwybodaeth am les a lefelau cyfranogiad dysgwyr, yn ogystal â’u lefelau cyrhaeddiad, ei rhannu â’r ysgol uwchradd ar ddiwedd cyfnod allweddol 2.  Mae staff o’r ddwy ysgol yn cyfarfod i drafod anghenion unigol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Maes-y-Coed ym Mhontypridd yn Rhondda Cynon Taf.  Mae 313 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 56 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin amser llawn.  Mae 11 dosbarth, ac mae disgyblion o oedrannau cymysg mewn pedwar o’r dosbarthiadau hyn.  

Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg fel prif iaith yr aelwyd.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae tua 18% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 33% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Dechreuodd y pennaeth ar ei swydd ym mis Hydref 2011.  Cyn hyn, roedd yn ddirprwy bennaeth yr ysgol. 

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae’r pennaeth yn credu’n gryf mewn defnyddio ymchwil allanol, deilliannau ymchwil fewnol yn seiliedig ar weithredu ac archwilio arfer dda mewn ysgolion eraill, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i lywio’r addysgeg yn ei hysgol.  Yn y blynyddoedd diwethaf, mae uwch arweinwyr wedi ymweld â llawer o ysgolion lleol i archwilio darpariaeth y cyfnod sylfaen.  Fe wnaethant ymweld ag ysgolion yn Nenmarc a Gwlad yr Iâ hefyd i weld sut mae ysgolion yn Ewrop yn datblygu darpariaeth awyr agored i annog chwarae.  Mae arweinwyr yn agored i syniadau newydd ac yn mynd i’r afael yn dda â strategaethau y maent yn clywed amdanynt pan fyddant yn mynychu cyfarfodydd a chynadleddau gyda phobl broffesiynol eraill.  Fe wnaethant ymweld ag ysgol uwchradd 13-18 lwyddiannus yn Swydd Efrog i ddysgu am enillion ymylol cronedig a’r egwyddorion sy’n ategu athroniaeth addysgu a dysgu’r ysgol.  Fe wnaethant fynychu cynhadledd ryngwladol hefyd i ddysgu mwy am astudio mewn gwersi. 

Mae’r rhan fwyaf o athrawon yn cymryd rhan mewn ymchwil weithredu ychwanegol hefyd fel rhan o’u datblygiad proffesiynol eu hunain neu fel aelod o grŵp gwella’r ysgol.  Mae athrawon wedi ymgymryd ag ymchwil weithredu ar ystod o destunau.  Er enghraifft, mae testunau’n cynnwys cydweithio yn yr awyr agored, datblygu egwyddorion addysgegol y cyfnod sylfaen yng nghyfnod allweddol 2, defnyddio’r celfyddydau creadigol a mynegiannol a datblygu’r defnydd o ddarpariaeth barhaus.  Mae’r ysgol yn gwneud defnydd da o Raddfa Ymglymiad Leuven i fesur effaith y newidiadau ar lefelau ymglymiad disgyblion.  Fe wnaeth un darn o ymchwil weithredu ar raddfa fawr gyfuno gwaith yr ysgol ar ddatblygu’r defnydd o’r celfyddydau mynegiannol, hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored a chyflwyno’r fframwaith cymhwysedd digidol.  Gorffennodd y prosiect hwn trwy atal amserlen yr ysgol am bythefnos. 

Mae arweinwyr yn cyfosod y canfyddiadau o ymweliadau ac ymchwil yn effeithiol, gan roi’r prif uchafbwyntiau i staff ddechrau trafodaethau am yr hyn a allai fod o fudd i’w hysgol.  Mae arweinwyr a staff yn dewis yr hyn y maent yn arbrofi ag ef yn yr ysgol yn ofalus.  Defnyddiant ddeilliannau eu hymweliadau a’u hymchwil i lywio, ond nid i wneud penderfyniadau am eu haddysgeg a’u harfer.

Yn 2016, ar ôl clywed siaradwr mewn digwyddiad cenedlaethol yn esbonio’r theori y tu ôl i astudio mewn gwersi, mynychodd aelod o uwch staff y gynhadledd ryngwladol ar astudio mewn gwersi.  Arweiniodd hyn at drafodaeth ymhlith pob un o’r staff am yr egwyddorion y tu ôl i astudio gwersi.  Cytunodd staff i arbrofi â’r dull yn ystod blwyddyn academaidd 2016‑2017.  Penderfynodd staff y byddai pob un o’r pum triawd yn cynnwys cynorthwyydd addysgu lefel uwch, athro ar y brif raddfa ac aelod o’r uwch dîm arweinyddiaeth.

Dechreuodd yr ysgol trwy ffurfio polisi a amlinellodd eu hymagwedd at astudio mewn gwersi a datblygiad proffesiynol ar y cyd.  Cytunodd staff y byddai astudio mewn gwersi:

  • yn disodli system monitro gwersi bresennol yr ysgol
  • rhoi’r gorau i ddefnyddio’r ffurflenni arsylwi sesiynau presennol

Byddai hyn yn golygu na fyddai gwersi neu gyfres o wersi’n cael eu graddio.

Cytunodd athrawon a chynorthwywyr addysgu lefel uwch y byddai triawdau:

  • yn gwerthfawrogi pob aelod yn gyfartal, beth bynnag fo’u profiad neu’u statws yn yr ysgol
  • yn gwneud gwaith ymchwil i wella addysgu a dysgu yn y meysydd ffocws cytûn
  • yn canolbwyntio ar ddadansoddi myfyriol, deialog broffesiynol ac ymchwil weithredu
  • yn defnyddio cynllunio cytûn, cyfweld â disgyblion ac offer myfyrio i ganolbwyntio ar drafodaethau
  • yn defnyddio technoleg fideo i gynorthwyo dadansoddi
  • yn derbyn yr holl adborth yn adeiladol ac yn datblygu trafodaethau i wella dealltwriaeth
  • yn rhannu nodau a deilliannau astudio mewn gwersi gyda disgyblion

Mae pob triawd yn dilyn yr un fformat.  Gan ddefnyddio dadansoddiad data a/neu ddeilliannau o fonitro, mae staff yn cytuno ar faes i’w wella, er enghraifft cynorthwyo disgyblion ffiniol i gyflawni deilliant 6 mewn ysgrifennu ar ddiwedd y cyfnod sylfaen.  Mae staff yn gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain ar y maes cyn y cyfarfod ffurfiol cyntaf.  Mae’r ysgol yn darparu staff cyflenwi ar gyfer tridiau llawn y gweithgareddau triawd i bob un o’r staff dan sylw.  Yn y cyfarfod cyntaf, mae staff:

  • yn trafod y gwaith ymchwil y maent wedi’i wneud
  • yn cytuno ar y ffocws ar gyfer y wers gyntaf
  • yn dewis tri disgybl a fydd yn ffocws i’r arsylwadau ar y cyd
  • yn ffurfio cwestiynau i holi disgyblion cyn cynllunio’r wers
  • yn cyfarfod â disgyblion a ddewiswyd i ofyn y cwestiynau
  • yn trafod syniadau ar gyfer y wers ac yn cytuno ar fwriadau dysgu
  • yn gwneud rhestr o gwestiynau i’w gofyn i ddisgyblion ar ddiwedd y wers
  • yn rhagweld sut bydd y disgyblion ffocws yn ymateb i wahanol rannau o’r wers

Ar ôl y gweithgareddau hyn, mae un aelod o’r triawd yn ysgrifennu cynllun y wers, mae un arall yn creu’r ffurflenni a chofnodion y diwrnod ac mae’r aelod arall yn darparu adnoddau ar gyfer y wers.

Yn ystod yr ail ddiwrnod, mae un aelod o’r triawd yn addysgu’r wers tra bydd y ddau arall yn arsylwi.  Caiff y wers ei recordio gan ddefnyddio technoleg fideo.  Er bod y ffocws ar ddeilliannau’r tri disgybl a ddewiswyd, gan nodi cymaint â phosibl o’r hyn y mae disgyblion yn ei ddweud a’i wneud, mae aelodau’r grŵp yn gwneud sylwadau arfarnol ar bob agwedd ar y dysgu a’r addysgu. 

Ar ôl y wers, mae aelodau’r grŵp yn cyfarfod y tri disgybl ffocws i ofyn cwestiynau iddynt ar ôl y wers.  Wedyn, mae’r aelodau o’r triawd yn gweithio gyda’i gilydd am weddill y diwrnod.  Maent yn trafod eu myfyrdodau cychwynnol ac yn gwylio’r recordiad o’r wers i ganolbwyntio ar bwyntiau allweddol ac ymatebion gwahanol ddisgyblion.  Mae staff yn ysgrifennu eu myfyrdodau’n fanwl cyn eu rhannu unwaith eto. 

Yr hyn sy’n allweddol i’r broses hon yw bod staff yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol agored a gonest lle maent yn teimlo’n gyfforddus i herio, gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella a damcaniaethu.  Cyn dechrau’r prosiect astudio mewn gwersi, roedd mwyafrif o staff wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol wnaeth wella eu medrau hyfforddi a’u helpu i weld sylwadau heriol yn awgrymiadau adeiladol yn hytrach na beirniadaeth bersonol.  Mae athrawon yn datgan nad ydynt yn ystyried her yn fygythiad, gan eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu herio heb gael eu barnu.

Mae aelodau’r triawd yn edrych yn ofalus ar atebion y disgyblion i gwestiynau ar ôl y wers ac yn cymharu sut roeddent yn meddwl y byddai disgyblion yn ymateb i’r wers a sut gwnaethant ymateb mewn gwirionedd.  Maent yn nodi unrhyw batrymau neu faterion i’w harchwilio ymhellach yn y wers nesaf.  Defnyddiant yr holl wybodaeth a gasglwyd i benderfynu beth y mae angen ei ailadrodd neu’i addasu yn y wers nesaf.  Er enghraifft, mewn un sesiwn, nododd myfyrdod athro na wnaeth dau o’r disgyblion  ffocws ddefnyddio sgwrsio â phartner yn effeithiol i feddwl am gwestiwn yr athro, a’i drafod.  Arweiniodd hyn at yr awgrym fod angen i’r athro gerdded o gwmpas y partneriaid mewn gwersi dilynol i sicrhau effeithiolrwydd y strategaeth a gwneud yn siŵr fod disgyblion yn deall beth y dylent ei drafod.  Wedyn, mae aelodau’r triawd yn cynllunio a darparu adnoddau ar gyfer y wers nesaf ar y cyd. 

Deilliannau

Ar draws yr ysgol, mae pwyslais mawr ar staff yn myfyrio ar, a dadansoddi, eu harfer eu hunain ac arfer eu cymheiriaid.  Mae staff yn fwy ymwybodol o’u cryfderau eu hunain a’u meysydd i’w datblygu o ran gwella eu harfer yn yr ystafell ddosbarth ac maent yn deall anghenion y disgyblion yn eu dosbarthiadau.  Mae sgyrsiau yn ystafell y staff yn canolbwyntio’n fwy ar addysgu a dysgu erbyn hyn.  Mae’r sgyrsiau hyn yn canolbwyntio ar atebion ac mae staff yn dangos parodrwydd a hyder i rannu unrhyw anawsterau a siarad am yr hyn aeth yn dda mewn gwersi.  Mae hyn yn helpu staff i ddysgu oddi wrth ei gilydd.  Mae staff bellach yn rhoi mwy o bwyslais ar yr hyn y mae disgyblion yn gallu ei wneud a’r hyn na allant ei wneud.  Maent yn myfyrio ar eu haddysgu ac yn gwneud newidiadau bach sy’n cael effaith fawr ar unigolion a grwpiau o ddisgyblion.  Er enghraifft, mae athrawon bellach yn dyrannu rolau mewn gwaith grŵp ar ôl i dystiolaeth fideo ddangos nad oedd unigolion yn cyfrannu at waith grŵp.  Cafodd staff eu synnu gan y disgyblion nad oeddent yn cyfrannu gan nad nhw oedd y rhai y byddai staff wedi eu rhagweld.

Mae arweinwyr wedi buddsoddi’n helaeth mewn datblygu’r dull astudio mewn gwersi ar draws yr ysgol trwy brynu offer fideo a dyrannu cyllid i ryddhau ar y cyd bob aelod o bob triawd am o leiaf dridiau yn ystod pob blwyddyn academaidd.  Mae astudio mewn gwersi yn gweithio i’r ysgol hon gan fod pob un o’r staff yn credu yn y dull ac maent wedi ymrwymo i’w wneud yn llwyddiant.  Mae hyn wedi arwain at lefelau cyson uchel o rannu addysgeg ac adnoddau ac mae wedi gwella cysondeb ac ansawdd yr addysgu.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Bydd yr ysgol yn parhau i ddefnyddio’r dull astudio mewn gwersi a bydd yn monitro ei effaith ar ddeilliannau disgyblion ac ansawdd yr addysgu yn ofalus.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Tŷ-du yng Nghasnewydd.  Mae 609 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 76 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae gan yr ysgol ddwy ganolfan adnoddau dysgu gyda lleoedd ar gyfer tua 20 o ddisgyblion o bob rhan o’r awdurdod lleol.

Mae tua 7% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi lle siaredir Saesneg fel prif iaith yr aelwyd.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i ychydig iawn ohonynt ac 1% yn unig sy’n siarad Cymraeg gartref.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 25% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Secondiwyd y pennaeth o ysgol arall adeg yr arolygiad.  Daeth yn bennaeth parhaol ym mis Medi 2014.

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae ffocws yr ysgol bob amser yn gadarn ar wella cynnydd disgyblion a chodi safonau a gwella lles.  Y nod yw rhoi diben i’r holl ddysgu proffesiynol, sy’n cysylltu ag un o flaenoriaethau’r ysgol ac sy’n glir i bob un o’r staff.  Mae uwch arweinwyr yn annog pob un o’r staff i fyfyrio ar eu harfer a chymryd cyfrifoldeb am wella addysgu a dysgu yn eu hystafelloedd dosbarth.

Wrth i’r ysgol symud allan o welliant sylweddol, bu’n rhaid i uwch arweinwyr weithio’n galed i wella ymddiriedaeth broffesiynol ar draws yr ysgol.  Erbyn hyn, mae’r parch ar y ddwy ochr a’r ddealltwriaeth gytûn o addysgu o ansawdd uchel sy’n bodoli yn yr ysgol yn ganolog i ddiwylliant yr ysgol.  Mae’r ethos hwn yn annog athrawon a staff cymorth i ddatblygu agweddau cadarnhaol iawn at eu dysgu proffesiynol eu hunain.  Mae arweinwyr, sydd i gyd yn athrawon effeithiol, yn dangos a rhannu eu harfer eu hunain.  Mae athrawon yn croesawu’r cyfleoedd hyn ac yn elwa arnynt.  Mae’r pennaeth yn honni na allwch ddiystyru pa mor bwysig yw adnabod eich staff a’u cynnwys, yn enwedig mewn cyfnodau heriol.  Enghraifft o hyn yw sicrhau eich bod yn dyrannu tasgau i’r bobl fwyaf priodol, gan ystyried eu cryfderau a’u medrau penodol, yn ogystal â’u dyheadau.

Erbyn hyn, mae’r ysgol yn defnyddio fframwaith cyhoeddedig i gefnogi holl arsylwadau athrawon.  Mae tair lefel o arsylwadau ystafell ddosbarth, sef: arsylwadau gwersi ffurfiol, sesiynau ‘galw i mewn’ anffurfiol, ac arsylwadau cydweithredol a myfyriol rhwng grwpiau o dri athro.  Mae pob un o’r athrawon yn cymryd rhan mewn arsylwadau ar un lefel nwy fwy, yn dibynnu ar eu rôl a ffocws yr ysgol ar y pryd.  Mae’r holl uwch arweinwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sicrhau ansawdd deilliannau arsylwadau ystafell ddosbarth.  Maent yn personoli unrhyw arsylwadau gwersi dilynol fel y gallant fynd i’r afael ag anghenion datblygiadol unigol athrawon yn effeithiol.

Pan fydd arweinwyr yn cynnal arsylwadau ystafell ddosbarth ffurfiol, er enghraifft at ddibenion rheoli perfformiad, maent yn ystyried pob agwedd ar y fframwaith cyhoeddedig, gan gadw cynnydd a safonau disgyblion fel y prif ysgogwr bob amser.  Pan fydd uwch arweinwyr neu gydlynwyr pwnc yn cynnal ‘sesiynau galw i mewn’ byr, maent yn canolbwyntio ar feysydd penodol y fframwaith, sy’n berthnasol i flaenoriaethau’r ysgol neu anghenion staff unigol.  Mewn enghraifft ddiweddar, edrychodd y cydlynydd mathemateg ar gyflymdra gweithgareddau cynhesu mathemategol, ac ystyried pa mor llwyddiannus yr oedd athrawon yn anelu’r sesiwn i fodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddisgyblion. 

I gynorthwyo athrawon i weithio mewn triawdau, buddsoddodd yr ysgol adnoddau mewn offer fideo a rhoddodd amser i athrawon ffilmio eu hunain yn gweithio.  I ddechrau, gwnaeth athrawon hyn yn unigol.  Pan welodd athrawon eu hunain yn addysgu eu dosbarthiadau eu hunain, teimlai llawer ohonynt fod hyn yn drobwynt pwysig iddyn nhw.  Gallent nodi eu cryfderau a’u meysydd i’w datblygu eu hunain, heb ofni beirniadaeth gan bobl eraill.  Cawsant yr amser a’r lle i fyfyrio ar eu haddysgu eu hunain a dysgu’r disgyblion yn eu dosbarthiadau.  Wedi i athrawon deimlo’n gyfforddus â’r arfer hon, trefnodd uwch arweinwyr yr athrawon yn grwpiau hyfforddi sector.  Cynlluniodd y grwpiau gyfres o wersi gyda’i gilydd ac wedyn arsylwi a ffilmio’i gilydd yn addysgu.  Ar ôl yr arsylwadau hyn, fe wnaethant fyfyrio ar ffocws penodol neu ar bwynt addysgu cyffredinol, gan ddefnyddio detholiadau bach o’r ffilmiau fel enghreifftiau o arfer dda neu i ddangos maes i’w wella.  Roedd y dull systematig hwn yn golygu bod athrawon yn dod i arfer â gweithio fel hyn yn raddol.  Galluogodd iddynt drafod addysgu’n fwy hyderus ac yn agored gyda chydweithwyr cefnogol a datblygu diwylliant o gydweithio a hunanarfarnu diffuant.

Datblygiad cymharol newydd yw’r defnydd o gyfraniadau disgyblion i wella agweddau ar addysgu.  Mae grŵp dynodedig o ddisgyblion cyfnod allweddol 2 yn arsylwi addysgu a dysgu ochr yn ochr ag aelod o staff.  Maent yn cytuno ar ffocws ac yn paratoi rhestr o gwestiynau i’w gofyn i ddisgyblion wrth iddynt fynd ar daith ddysgu neu arsylwi gwers.  Y prif ffocws ar gyfer y grŵp yw ystyried profiad disgyblion, er enghraifft defnyddioldeb adnoddau ac arddangosfeydd a pha mor dda y mae disgyblion yn ymgymryd â’u dysgu.  Fodd bynnag, mae hyn yn golygu eu bod yn nodi agweddau ar yr addysgu hefyd, fel perthnasoedd athrawon gyda’u disgyblion, ac yn edrych ar ba mor dda y mae athrawon yn annog eu disgyblion i ymarfer y medrau y maent wedi eu dysgu o’r blaen.  Yn ddiweddar, er enghraifft, aeth y grŵp disgyblion ar daith ddysgu trwy’r ysgol yn ystod gweithgareddau yn gynnar yn y bore i weld pa mor dda roedd disgyblion yn ymarfer eu sillafu.

Mae arweinwyr yn annog athrawon i fod yn arloesol yn eu dull addysgu a rhoi’r holl ddysgu mewn cyd-destunau bywyd go iawn.  Nid yw’r ysgol yn defnyddio cynllun ar gyfer llythrennedd a rhifedd, ond yn defnyddio’r fframwaith llythrennedd a rhifedd   fel asgwrn cefn ar gyfer cynllunio athrawon.  Mae hyn yn golygu bod rhaid i athrawon ddefnyddio dull creadigol a hyblyg.  Maent yn cynllunio tasgau cyfoethog i wneud hyn, gan ganolbwyntio bob tymor ar ysgogwr pwnc ar draws yr ysgol, fel daearyddiaeth, hanes, y celfyddydau creadigol neu wyddoniaeth.  Mae athrawon a disgyblion yn adeiladu eu prosiectau o amgylch hyn – maent yn cyfeirio ato fel ‘caffael testun’.  Nod pob testun yw cwmpasu set o fedrau, ond y dosbarthiadau sydd i benderfynu sut maent yn gwneud hyn.

Deilliannau

Mae’r ysgol wedi symud ymlaen yn sylweddol, ac erbyn hyn, mae ganddi enw da yn ei chymuned ac ar draws yr awdurdod lleol a’r consortiwm.  O ganlyniad i ddysgu proffesiynol llwyddiannus a datblygu arweinwyr medrus yn yr ysgol, mae sawl athro wedi symud ymlaen i swyddi uwch mewn ysgolion eraill.  Mae arweinwyr eraill wedi cael eu penodi i’r uwch dîm arweinyddiaeth yn yr ysgol, er enghraifft i fod yn bennaeth y cyfnod sylfaen ac yn bennaeth cyfnod allweddol 2.

Mae ansawdd yr addysgu yn nodwedd gref yn yr ysgol.  Ychydig iawn o athrawon yn unig sy’n derbyn cymorth i wella ar hyn o bryd, ac oherwydd y fframwaith a’r strategaethau clir a chefnogol iawn a ddefnyddia’r ysgol, maent yn cymryd rhan yn llawn yn y broses hon.  Un o’r nodweddion llwyddiant allweddol a nodwyd gan staff addysgu yn yr ysgol yw’r ymddiriedaeth broffesiynol sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf rhwng y pennaeth, yr uwch arweinwyr a’r staff eraill.  Dywed canlyniadau holiaduron staff fod hinsawdd o ymddiriedaeth a gonestrwydd yn bodoli yn yr ysgol.  Mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.  Maent yn gwybod beth yw eu rolau a’u cyfrifoldebau, maent yn teimlo’n rhydd i roi adborth gonest, ac maent yn hapus yn eu gwaith.

Dywed athrawon mai’r newidiadau cynnil sy’n digwydd oherwydd gwaith yr ysgol i wella addysgu yw’r rhai mwyaf effeithiol, weithiau.  Er enghraifft, ar ôl arsylwi eu hunain yn gweithio, dechreuodd athrawon feddwl yn fwy gofalus am y modd yr oeddent yn defnyddio eu staff cymorth yn ystod gwersi.  Wrth drafod elfennau o wersi penodol, mae athrawon yn atgoffa’i gilydd o elfennau hyfforddiant y gallent fod wedi’u hanghofio, neu strategaethau cytûn a allai fod ar goll.  Efallai mai’r hyn sydd bwysicaf yw bod timau o athrawon yn magu hyder ymhlith ei gilydd trwy fyfyrio ar yr hyn y maent yn ei wneud yn dda, wedyn maent yn siarad yn onest, ac mewn modd sensitif ond agored, am yr hyn a allai fod yn well.

Mae safon y ddeialog broffesiynol rhwng staff yn uchel iawn.  Ceir diwylliant o archwilio wrth iddynt gofleidio dibenion Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) yn eu cwricwlwm presennol a pharatoi ar gyfer heriau cwricwlwm newydd.  Mae athrawon a staff cymorth yn croesawu syniadau newydd, maent yn fodlon rhoi cynnig ar ddulliau newydd, ac yn hyderus y cânt gymorth gan uwch arweinwyr i wneud hynny.  Er enghraifft, teimlai athrawon nad oeddent yn gwneud digon i adeiladu ar fedrau llafaredd disgyblion i ennyn diddordeb yn eu dysgu.  I fynd i’r afael â hyn, gosododd un athro dasg i grŵp o fechgyn Blwyddyn 3 abl ond a oedd wedi ymddieithrio, fynd ati i gynllunio, ysgrifennu, creu a ffilmio rhaglen gylchgrawn deledu.  Cefnogodd uwch arweinwyr y dull hwn trwy ymgysylltu â darparwyr allanol arbenigol i helpu disgyblion i wneud y gwaith ffilmio a recordio a gweithio ochr yn ochr ag athrawon i ddatblygu eu medrau i wneud gweithgareddau fel hyn yn nodwedd gynaliadwy o waith yr ysgol.  Yn yr un modd, mae staff cymorth yn gwybod bod uwch arweinwyr yn gwerthfawrogi eu barn ac yn gwrando ar geisiadau am gymorth penodol.  Er enghraifft, dangosodd arolwg diweddar o staff cymorth fod bylchau yn eu cymhwysedd digidol, felly fe wnaeth y cydlynwyr TGCh deilwra sesiynau ar gyfer staff cymorth a oedd yn bodloni eu hanghenion yn fanwl gywir.

Mae disgyblion yn cydnabod bod eu llais yn cyfrif ym mywyd a gwaith yr ysgol.  Maent yn cyfrannu’n effeithiol at hunanarfarnu yn yr ysgol, yn cydweithio ag athrawon i osod eu targedau eu hunain ac yn cael cyfleoedd i wneud awgrymiadau ynglŷn â sut a beth maent yn ei ddysgu.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Mae’r pennaeth a’r dirprwy bennaeth yn teimlo bod yr ysgol bellach wedi cyrraedd sefyllfa gref yn ei thaith i wella.  Nid oes cynlluniau i gyflwyno strategaethau newydd ar hyn o bryd, ond mae cynllunio gwelliant yn canolbwyntio ar atgyfnerthu a rhannu’r arfer dda sy’n bodoli ar draws yr ysgol i sicrhau cysondeb.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Sgeti yn Abertawe.  Ar hyn o bryd, mae 472 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 ac 11 oed, sy’n cael eu haddysgu mewn 15 dosbarth.  Mae 54 o’r rhain yn mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.

Mae tua 5% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae llawer o ddisgyblion yn wyn Prydeinig.  Mae rhai disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol ac nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Cymraeg gartref.

Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 8% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Er 2012, mae’r ysgol wedi cael tri phennaeth parhaol gwahanol, yn ogystal â chyfnodau byr pan oedd pennaeth dros dro yn gyfrifol am arweinyddiaeth yr ysgol.  Dechreuodd pennaeth presennol yr ysgol ar y swydd ym mis Medi 2017. 

Strategaeth a chamau gweithredu

Yn dilyn yr arolygiad craidd yn 2015, roedd angen i’r ysgol weithio’n strategol i fynd i’r afael â’r holl argymhellion.  Sylweddolodd arweinwyr fod y farn anfoddhaol ar gyfer addysgu yn gwneud hyn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer gwella.  Yn benodol, roedd arweinwyr yn dra ymwybodol o’r angen i fynd i’r afael ag anghysondeb yn ansawdd yr addysgu ar draws yr ysgol.  Roedd y materion hyn yn cynnwys cynllunio aneffeithiol mewn lleiafrif o ddosbarthiadau.  Roedd hyn yn golygu bod gormod o achosion pan nad oedd disgyblion yn adeiladu ar eu dysgu blaenorol yn effeithiol gan eu bod yn derbyn gwersi nad oedd yn cynnwys gweithgareddau â’r lefel gywir o her.  Roedd gormod o amrywioldeb yn ansawdd yr adborth i ddisgyblion hefyd, a oedd yn golygu nad oeddent yn deall yn ddigon da sut i wella eu gwaith.  Nid oedd prosesau ar gyfer sicrhau cywirdeb asesiadau athrawon yn drylwyr.  Amlinellodd yr arweinwyr gynllun ar gyfer gwella.

Diwygiodd yr ysgol ei strwythur staffio gan ailddiffinio cyfrifoldebau arweinwyr.  Gwnaeth yn siŵr fod y rolau hyn yn cefnogi’r ysgol i gyflawni ei nodau strategol, sef argymhellion yr arolygiad ar y pryd.  Er enghraifft, daeth arweinwyr yn gyfrifol am gynnal arsylwadau gwersi, craffu ar waith disgyblion a rhoi adborth proffesiynol i athrawon o dan eu rheolwyr llinell uniongyrchol.

I ddechrau, gweithiodd uwch arweinwyr gydag aelodau staff yr oedd angen cymorth arnynt fel rhan o system gyfeillion.  Galluogodd hyn y cydweithwyr i ddechrau ymweld ag ystafelloedd dosbarth ei gilydd i rannu arfer.  Ar yr adeg hon, roedd yn bwysig i’r ysgol ddatblygu cyd-ddealltwriaeth o sut beth oedd addysgu da.  Fe ddechreuon nhw ddefnyddio pecyn canllawiau addysgu’r consortiwm rhanbarthol.  Gweithiodd uwch arweinwyr mewn parau i arsylwi gwersi.  Roedd hyn yn fuddiol wrth gynorthwyo uwch arweinwyr i gael deialog broffesiynol am agweddau ar arferion addysgu a llunio barnau cytûn am ansawdd yr addysgu.  Roedd yr arfer hon yn effeithiol hefyd wrth osod y sylfeini i athrawon fod yn ymarferwyr myfyriol.

Yn ystod yr ymweliad dilynol ym mis Mai 2016, nododd arolygwyr, ‘Mae arweinwyr ysgolion wedi defnyddio ffordd reolaidd a systematig o fonitro gwersi, sy’n cael ei wneud yn fewnol a chan y consortiwm rhanbarthol, i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu yng ngwaith athrawon unigol.  Maent wedi defnyddio arweiniad a hyfforddiant gan yr awdurdod lleol a’r consortiwm rhanbarthol yn dda i gynyddu ystod y dulliau addysgu a datblygu gallu staff i fyfyrio’n feirniadol ar eu haddysgu eu hunain.’  Fodd bynnag, i rai o’r staff, roedd pwysau parhaus y barnau ac ystod eang iawn y disgwyliadau o fewn y fframwaith addysgu yn hynod anodd.  Gwelsant hyn yn fwy fel cadarnhad o’r hyn nad oeddent yn ei wneud yn dda.  Yn fwy diweddar, mae arweinwyr wedi cydnabod hyn, er enghraifft trwy ddefnyddio arsylwadau gwersi nad ydynt yn barnu, ond sy’n canolbwyntio ar nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. 

I ddatblygu disgwyliadau ac arfer gyson, gwnaeth uwch arweinwyr waith craffu gyda’u ‘cyfeillion’.  Roedd hyn yn ddefnyddiol, er enghraifft wrth fynd i’r afael ag anghysondebau mewn adborth ysgrifenedig i ddisgyblion.  Galluogodd staff i arfarnu p’un a oeddent yn gweithio yn unol â pholisi’r ysgol.  Dros gyfnod, mae’r ysgol wedi datblygu’r arfer hon ymhellach trwy ddefnyddio strategaethau ychwanegol, fel marcio mewn ysgrifbinnau gwahanol liwiau i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella a thrwy adael tudalen wag ochr yn ochr â draff cychwynnol i ddisgyblion ymateb i farcio.  Erbyn hyn, mae’r her a gyflwynir gan farcio athrawon a’r trefniadau ar gyfer gosod targedau yn helpu disgyblion i wneud cynnydd yn unol â’u hanghenion a’u cyfnod datblygu.  Ar draws yr ysgol, mae disgyblion yn deall y systemau hyn ac yn ymateb yn dda iddynt. 

Ail-lansiodd yr ysgol ddefnydd o strategaethau eraill asesu ar gyfer dysgu a oedd wedi pylu dros gyfnod.  Roedd y rhain yn cynnwys cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion siarad â phartneriaid, er enghraifft i drafod dysgu blaenorol. 

Ar yr un adeg y cyflwynwyd y fframwaith addysgu, nododd yr ysgol fod angen ymweld ag ysgolion â pherfformiad uchel i arsylwi arfer effeithiol.  Aeth athrawon i ysgolion ar gyfer ymweliadau ffocysedig.  Buont yn gweithio ar strategaethau effeithiol i ddefnyddio gwybodaeth asesu i gynllunio’r camau nesaf ar gyfer dysgu sy’n bodloni anghenion disgyblion yn llwyddiannus.  Fe wnaethant gyflwyno’r arfer hon yn dda mewn dosbarthiadau.  Er enghraifft, wrth gynllunio i addysgu disgyblion i ysgrifennu at wahanol ddibenion, mae athrawon yn defnyddio llyfrau o’r flwyddyn flaenorol fel man cychwyn.  Mae hyn yn galluogi athrawon a disgyblion i ddechrau o’r man cychwyn priodol trwy nodi beth wnaethant yn dda, er enghraifft yn eu darn diwethaf o ysgrifennu adrodd yn ôl, a’r hyn roedd angen iddynt ei wella’r tro nesaf.  Dros gyfnod, mae athrawon wedi mynd â’r dull hwn ymhellach trwy gyflwyno proses gosod targedau sy’n addas ar gyfer plant i gefnogi parhad a dilyniant mewn dysgu.  Mae’r arfer hon yn rhoi llais i ddisgyblion wrth asesu eu gwaith eu hunain yn erbyn meini prawf penodol ac wrth nodi sut gallant wella ymhellach.  Erbyn hyn, mae pob un o’r athrawon yn adolygu effaith y gwaith hwn yn rheolaidd i barhau i sicrhau cysondeb a rhannu arfer, er enghraifft mewn cyfarfodydd sector lle mae gwahanol adrannau’n cyfarfod i arfarnu eu gwaith.

Mae’r ysgol wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o addysgeg y cyfnod sylfaen.  Mae staff yn rhoi hyn ar waith yn gyson yn eu gwaith bob dydd.  Maent yn sicrhau bod cydbwysedd addas rhwng gweithgareddau wedi’u hysgogi gan blant a gweithgareddau wedi’u harwain gan oedolion yn y rhan fwyaf o sesiynau.  Mae athrawon yn gwneud defnydd effeithiol o strategaethau addysgu uniongyrchol, er enghraifft i addysgu medrau ysgrifennu cynnar.  Erbyn hyn, mae staff yn cynllunio gweithgareddau dysgu mewn meysydd darpariaeth barhaus yn dda ac yn gwella’r meysydd hyn yn briodol ar y cyfan gydag adnoddau sy’n ennyn diddordeb disgyblion.  Mae’r ysgol wedi datblygu adnoddau defnyddiol i addysgu disgyblion yn yr awyr agored.  Mae cyfleoedd hyfforddi gwerth chweil ar gyfer staff cymorth wedi cryfhau eu medrau holi ac wedi gwella eu gallu i ymyrryd yn nysgu disgyblion a’i wella ar adegau priodol. 

Mae’r ysgol wedi datblygu gallu staff i ddefnyddio cynlluniau penodol yn dda, er enghraifft i addysgu medrau darllen cynnar disgyblion a datblygu dealltwriaeth disgyblion o wahanol genres ysgrifennu.  I ddechrau, roedd yr ysgol yn defnyddio’r rhain fel offeryn i gefnogi cysondeb.  Fodd bynnag, mae’n dechrau gwneud defnydd craffach o’r adnoddau hyn.  Er enghraifft, mae athrawon yn dechrau eu defnyddio pan fydd angen yn hytrach na fel dull ‘un math sy’n addas i bawb’.  

Deilliannau

Mae trefniadau monitro mewnol yr ysgol yn nodi, o’u cyfuno, bod y gwaith hwn wedi gwella ansawdd yr addysgu fel bod llawer o wersi’n dda neu’n well.  Mae’r ysgol yn barnu nad oes unrhyw addysgu o safon anfoddhaol erbyn hyn.

Ceir cyd-ddealltwriaeth o beth sy’n gwneud addysgu da ac mae staff yn ymateb yn dda i ddisgwyliadau uchel.

Mae penderfyniadau strategol, fel staff yn gweithio fel cyfeillion a chyflwyno cyfarfodydd sector, wedi cynorthwyo’r staff i ddatblygu diwylliant o fyfyrio a rhannu.

Mae’r ysgol yn adeiladu’n dda ar y sylfeini hyn.  Mae’r pennaeth newydd wedi datblygu ethos tîm cryf mewn cyfnod byr iawn.  Mae strategaethau cynnil, fel y gystadleuaeth i greu dyluniad ar gyfer drysau ystafell ddosbarth, wedi helpu creu ethos tîm a chystadleuaeth iach.  Mae hi wedi newid y strwythur staffio i gynyddu gallu arwain, er enghraifft trwy gyflwyno swyddi cyfrifoldeb addysgu a dysgu.  Mae’n grymuso’r uwch dîm arweinyddiaeth a’r athrawon i fyfyrio ar lwyddiannau wrth wella addysgu ac i sicrhau gwelliannau pellach.  Er enghraifft, mae hi wedi cyflwyno system newydd o arsylwadau fideo yn sensitif mewn ffordd gefnogol ac anfygythiol.  At ei gilydd, mae staff yn gadarnhaol ynglŷn â’r datblygiad hwn.  Maent yn awyddus i fyfyrio ar eu harfer broffesiynol eu hunain yn erbyn pecyn canllawiau addysgu cyhoeddedig i nodi cryfderau a meysydd i’w datblygu.  Ceir ymdeimlad cryf o berchnogaeth ac optimistiaeth ymhlith arweinwyr ac athrawon o ran sut bydd ansawdd yr addysgu yn gwella ymhellach o’r adeg hon. 

Mae’r ysgol eisoes wedi dechrau defnyddio’r safonau proffesiynol cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.  Mae’n defnyddio’r rhain yn briodol i gefnogi diwygio’r cwricwlwm yn ehangach, er enghraifft i ymgorffori’r 12 egwyddor addysgegol o Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) yn ei gwaith.  Ceir llawer o achosion o hyn; er enghraifft, gweithiodd yr ysgol â darparwr allanol i wella addysgeg y cyfnod sylfaen.  Arweiniodd hyn at hyfforddi pwrpasol ar y safle ar gyfer staff.  Gwelodd staff fod hyn yn fuddiol wrth ddatblygu eu darpariaeth barhaus a’u darpariaeth wedi ei chyfoethogi ac wrth wella medrau cynorthwywyr addysgu i ddefnyddio’r meysydd hyn gyda disgyblion.  Er enghraifft, yn ystod gweithgareddau rhifedd, roedd cynorthwywyr addysgu yn ei chael yn anodd datblygu medrau rhifedd disgyblion.  Trwy hyfforddi a chymorth, maent wedi datblygu ‘llinyn rhifedd aur’ yr wythnos, sy’n adeiladu ar fedrau y mae disgyblion wedi eu datblygu’r wythnos flaenorol mewn gweithgareddau addysgu uniongyrchol.  Mae arweinwyr wedi cydweithio â phartneriaid cymunedol i gynllunio profiadau dysgu mewn cyd-destunau dilys fel prosiect i wneud, marchnata a gwerthu sebon.  Mae’r cyfleoedd hyn yn cyfuno llawer o feysydd dysgu yn effeithiol ac yn herio disgyblion ar y lefel gywir.  Mae cyflwyno ‘Dw i’n meddwl bod’ wedi helpu medrau Cymraeg a Saesneg disgyblion.  Mae hefyd wedi dyfnhau gallu disgyblion i feddwl a mynegi eu teimladau am faterion a datblygu medrau creadigol, er enghraifft trwy ymateb i her i ddatblygu bar siocled newydd i Willy Wonka a disgrifio’r pwerau a allai fod ynddo. 

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Datblygu diwylliant o arfer fyfyriol ymhellach trwy ddefnyddio technoleg fideo
  • Cryfhau gallu uwch arweinwyr fel arsyllwyr addysgu fel y gallant ddarparu’r cymorth cywir i athrawon unigol sydd â gwahanol anghenion proffesiynol i’w helpu i wella
  • Adeiladu ar y defnydd cychwynnol o’r safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth i gefnogi addysgeg addysgu gwell a galluogi diwygio’r cwricwlwm yn effeithiol
  • Gwella darpariaeth i ddatblygu medrau digidol disgyblion

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Ysgol gymysg 11-19 yn y Fenni, Sir Fynwy yw Ysgol Gyfun y Brenin Harri’r Vlll, sydd â 950 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 155 ohonynt yn y chweched dosbarth.  Mae tua 11% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 27% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig, ac mae 1% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.

Dechreuodd y pennaeth ar ei swydd ym mis Medi 2014, ychydig fisoedd yn unig cyn arolygiad Estyn, ac ar ôl cyfnod o ansefydlogrwydd yn yr ysgol ar lefel uwch arweinyddiaeth.  Er nad adawodd y tîm arolygu argymhelliad penodol ar addysgu, roedd yn glir i’r pennaeth na fyddai’r ysgol yn gwneud cynnydd yn erbyn ei hargymhellion heb ffocws clir ar wella ansawdd yr addysgu.   

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.

Strategaeth a chamau gweithredu

Ar ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol, fe wnaeth y pennaeth newydd gyfleu ei gweledigaeth ar gyfer yr ysgol i bob un o’r staff fel un lle roedd pob disgybl yn cael yr addysg orau posibl sydd ar gael, beth bynnag fo’u cefndir neu’u rhywedd.  I gyflawni hyn, roedd hi’n glir fod angen i addysgu a dysgu fod wrth wraidd popeth roedd yr ysgol yn ei wneud.  I wella’r addysgu, roedd angen ffocws cadarn ar ddatblygu gallu arweinwyr ar draws yr ysgol i sefydlu prosesau hunanarfarnu trylwyr a oedd yn cysylltu’n dda â chynllunio gwelliant ac yn llywio rhaglen ystyrlon o ddysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer staff.

Rhannodd y pennaeth gynllun gwella drafft yr ysgol â staff ar y diwrnod hwnnw hefyd, a oedd yn nodi nifer o flaenoriaethau i wella ansawdd yr addysgu yn yr ysgol.  Roedd y rhain yn cynnwys:

  • sefydlu strwythur addysgu a dysgu ysgol gyfan i rannu a datblygu arfer orau
  • sefydlu dulliau cyson o asesu ffurfiannol ar draws yr ysgol
  • sicrhau bod yr holl wersi’n darparu her briodol ar gyfer disgyblion
  • sefydlu rhwydweithiau o arfer broffesiynol gyda ffocws clir ar wella deilliannau disgyblion a lleihau amrywiad yn yr ysgol

Cymerodd yr ysgol nifer o gamau ar unwaith i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau hyn.  Er enghraifft, sefydlodd arweinwyr rwydweithiau o arfer broffesiynol i fynd i’r afael ag agweddau ar arfer yr oeddent wedi eu nodi yn feysydd i’w datblygu yn rownd flaenorol yr ysgol o arsylwadau addysgu a dysgu.  Yn y flwyddyn gyntaf, cymerodd yr holl staff addysgu ran mewn rhwydweithiau o arfer broffesiynol a oedd yn canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd, gwaith grŵp a gwaith pâr, holi effeithiol, hunanasesu ac asesu cymheiriaid, marcio, asesu ac adborth, neu gynllunio ar gyfer gwahaniaethu a her.  Fel rhan o’r gwaith hwn, cyflwynodd yr ysgol friffiau addysgu a dysgu er mwyn gallu lledaenu’r strategaethau mwyaf effeithiol yr ymchwiliodd aelodau iddynt yn ystod y flwyddyn.

Cynhaliodd yr ysgol adolygiad systematig o’i pholisïau allweddol hefyd i gefnogi datblygu arfer gyson ar draws yr ysgol.  Er enghraifft, adolygodd y rhwydwaith marcio, asesu ac adborth bolisi asesu’r ysgol.  Gweithiodd uwch arweinwyr ac arweinwyr canol gyda’i gilydd i greu polisi addysgu a dysgu’r ysgol.  Yn sgil y  trafodaethau hyn, ffurfiwyd strategaeth allweddol yr ysgol i nodi a datblygu arfer dda mewn addysgu a dysgu ar draws yr ysgol, sef datblygu rhaglen ysgol gyfan ar gyfer adolygu cymheiriaid.

Cyflwynwyd cylch cyntaf y rhaglen adolygu cymheiriaid ysgol gyfan gan yr ysgol rhwng mis Medi 2015 a mis Mehefin 2017.  Mae wedi bod yn effeithiol o ran gwella ansawdd hunanarfarnu yn yr ysgol, gwella ansawdd yr addysgu a gyrru gwelliannau cynaledig yn neilliannau disgyblion.

Nod y rhaglen adolygu cymheiriaid yw arfarnu safonau addysgu a dysgu ar draws yr ysgol trwy ffocws ar brofiad grŵp bach o ddisgyblion dethol.  Mae pob adolygiad cymheiriaid yn canolbwyntio ar garfan o chwe disgybl ar draws yr ystod gallu o grŵp blwyddyn penodol.  Mae adolygiad cymheiriaid pellach yn dethol grŵp o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar draws yr ysgol. 

Ar gyfer pob adolygiad cymheiriaid, mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn gweithio gyda’i gilydd i arfarnu’r cynnydd a wna’r disgyblion hyn yn seiliedig ar dystiolaeth o ystod eang o ffynonellau perthnasol.  Mae hyn yn cynnwys dadansoddiad trylwyr o ddata cynnydd, cyfweliadau â disgyblion, archwilio cynlluniau dysgu, craffu ar waith disgyblion ac arsylwadau gwersi.  Mae’r cydweithio hwn wedi galluogi uwch arweinwyr i herio a chefnogi arfarniad arweinwyr canol o ansawdd y ddarpariaeth a’r safonau a gyflawnir gan ddisgyblion yn llawer mwy effeithiol.  Dros gyfnod, mae wedi arwain at ddatblygu llawer mwy o gysondeb yng ngwaith uwch arweinwyr ac arweinwyr canol ar draws yr ysgol.

Mae uwch arweinwyr yn coladu’r deilliannau o bob adolygiad cymheiriaid ac yn eu rhannu â staff a llywodraethwyr.  Mae’r adroddiad adolygu cymheiriaid yn rhoi arfarniad manwl o’r cryfderau a’r meysydd i’w datblygu o ran cynnydd a safonau disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn.  Yn ei hanfod, mae hefyd yn dadansoddi pa mor effeithiol y mae addysgu’n cefnogi cynnydd disgyblion a pha mor gyson y mae athrawon yn mynd i’r afael â meysydd ysgol gyfan i’w datblygu yn eu haddysgu.  Er enghraifft, yn y cylch cyntaf, roedd hyn yn cynnwys gwybodaeth am ba mor dda roedd athrawon wedi darparu cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llythrennedd a rhifedd neu ar ansawdd yr asesu a’r adborth.

Ar ddiwedd pob blwyddyn, mae uwch arweinwyr yn crynhoi tystiolaeth o bob adolygiad cymheiriaid mewn adroddiad blynyddol terfynol, gan roi gwybodaeth gynhwysfawr sy’n seiliedig ar arsylwadau pob un o’r staff a phrofiad mwy nag 13% o ddisgyblion ar draws yr ysgol.  O ganlyniad, mae gan arweinwyr wybodaeth gyfoethog am y cryfderau a’r meysydd i’w datblygu mewn addysgu i lywio cynllunio gweithgareddau dysgu proffesiynol.  Mae lefel bellach o ddadansoddi ar gael i arweinwyr meysydd pwnc, sy’n eu galluogi i arfarnu perfformiad eu hadran eu hunain yn erbyn meincnodau ar gyfer yr ysgol gyfan a chynllunio blaenoriaethau ar gyfer datblygu yn eu hadran eu hunain.

Mae arweinwyr yn defnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gan y rhaglen adolygu cymheiriaid yn effeithiol i gynllunio cyfleoedd dysgu proffesiynol pwrpasol ar gyfer staff.  Yn ogystal â sicrhau bod y rhain yn mynd i’r afael ag anghenion hyfforddi ysgol gyfan, mae’r ysgol yn defnyddio’r wybodaeth o adolygiadau cymheiriaid i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion unigol athrawon ar wahanol gyfnodau o’u gyrfaoedd.  Mae hyn yn cynnwys hyfforddi a mentora ar gyfer athrawon sydd angen gwella agweddau ar eu harfer, yn ogystal â hwyluso cyfleoedd i staff wella medrau sy’n berthnasol i’r arbenigedd y maent yn ei addysgu.  Mae rhai athrawon yn elwa ar gyfleoedd gwerthfawr i gaffael cymwysterau lefel uwch mewn arfer addysgol neu arweinyddiaeth a rheolaeth.  Yn ychwanegol, mae rôl yr ysgol fel ysgol arloesi ar gyfer cwricwlwm er mis Ionawr 2017 wedi sicrhau bod athrawon yn cael cyfleoedd cynyddol i ddatblygu eu gwybodaeth trwy eu hymglymiad mewn rhwydweithiau ehangach o arfer broffesiynol.

Nodwedd allweddol o ymagwedd yr ysgol at ddysgu proffesiynol fu sicrhau bod staff wedi cael cyfleoedd addas i gydweithio ar draws adrannau ar bob cam o daith yr ysgol i wella.  Mae arweinwyr yn cynllunio diwrnodau dysgu proffesiynol yn dda i alluogi athrawon i arwain neu gymryd rhan mewn cymunedau dysgu proffesiynol, a gweithio gyda’i gilydd ar weithgareddau craffu ar waith yr ysgol gyfan.  Mae hyn wedi sicrhau cyfleoedd gwerthfawr i staff ar draws adrannau weithio gyda’i gilydd, rhannu arfer orau a myfyrio ar ddulliau sy’n seiliedig ar bwnc, yn ogystal â helpu i feithrin gallu ar gyfer arweinyddiaeth trwy’r ysgol.

Deilliannau

Mae rhaglen yr ysgol ar gyfer adolygu cymheiriaid wedi galluogi’r ysgol i gryfhau medrau a gallu arweinwyr canol yn sylweddol trwy eu hymglymiad mewn ystod gynhwysfawr o weithgareddau hunanarfarnu sy’n canolbwyntio’n glir ar y berthynas rhwng addysgu effeithiol a chynnydd disgyblion.  Mae wedi rhoi synnwyr clir i arweinwyr yr ysgol o gryfderau’r ysgol a’r meysydd i’w datblygu, ac mae wedi galluogi iddynt gynllunio gweithgareddau dysgu proffesiynol i fynd i’r afael â’r rhain.

Ym mis Mehefin 2016, barnwyd bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol yn erbyn ei hargymhellion ac fe’i tynnwyd o’r categori o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol.  Nododd y tîm arolygu yn ei adroddiad fod yr ysgol wedi datblygu monitro rheolaidd a systematig o ran addysgu ac asesu trwy graffu ffocysedig ar lyfrau ac arsylwadau gwersi.

Nododd hefyd fod yr ysgol wedi rhoi ystod gynhwysfawr o strategaethau ar waith i gefnogi datblygiad arweinwyr.  Mae hyn yn cynnwys hyfforddi a mentora targedig ar gyfer arweinwyr unigol, ac ymglymiad cynlluniedig yng nghymunedau dysgu proffesiynol yr ysgol.  Mae’r gwelliannau yn ansawdd yr arweinyddiaeth a’r rheolaeth wedi cyfrannu at gynnydd addas yn y rhan fwyaf o ddangosyddion perfformiad yng nghyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4, ac mewn gwella darpariaeth ar gyfer datblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion.

Ers yr arolygiad craidd, mae perfformiad disgyblion wedi gwella’n sylweddol o gymharu ag ysgolion tebyg.  Yn 2017, fe wnaeth perfformiad yn y rhan fwyaf o ddangosyddion yng nghyfnod allweddol 4 osod yr ysgol yn hanner uchaf yr ysgolion tebyg yn seiliedig ar gymhwyster disgyblion am brydau ysgol am ddim (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Wrth i’r ysgol gynllunio’r camau nesaf yn ei thaith i wella, mae staff wedi bod â rôl allweddol hefyd mewn adolygu rownd gyntaf y rhaglen adolygu cymheiriaid ac argymell newidiadau i’w ffocws a’i chylch gwaith.  Er enghraifft, ni fydd ail gylch y rhaglen yn ystyried grwpiau blwyddyn ar wahân mwyach, ond bydd yn edrych ar ddau grŵp blwyddyn gyda’i gilydd i ganolbwyntio ar bontio a dilyniant rhwng grwpiau blwyddyn a chyfnodau allweddol.  Yn ychwanegol, ni fydd arsylwadau gwersi’n rhoi barnau unigol ar gyfer gwersi nac athrawon mwyach, ond bydd yn canolbwyntio ar effaith yr addysgu ar ddysgu i lywio cynllunio strategol yr ysgol yn fwy manwl gywir, i wella’r ddau faes hyn.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Monnow yn y Betws, Casnewydd.  Mae gan yr ysgol oddeutu 400 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 45 o ddisgyblion sy’n mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.

Mae gan yr ysgol 17 dosbarth, gan gynnwys dau ddosbarth meithrin, saith dosbarth oedran cymysg, wyth dosbarth un oedran a dau ddosbarth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Mae lleiafrif o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Daw rhai disgyblion o gefndiroedd ethnig lleiafrifol ac mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt.  Mae’r ysgol wedi nodi bod gan fwyafrif o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Ychydig iawn o ddisgyblion sydd â datganiad o anghenion dysgu ychwanegol.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith.

Cam 1:  Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach

Yn dilyn hunanarfarniad trylwyr o’r cwricwlwm yn 2012, a oedd yn cynnwys yr holl randdeiliaid, nododd uwch arweinwyr fod lefelau uchel o ymddieithrio ymhlith disgyblion a lefelau isel o bresenoldeb yn bryderon sylweddol.  Arfarnodd arweinwyr nad oedd addysgu, dysgu a’r cwricwlwm yn ennyn diddordeb disgyblion yn ddigon nac yn bodloni eu hanghenion yn llawn.  Daethant i’r casgliad:

  • fod y rhan fwyaf o athrawon yn trefnu’r amgylchedd dysgu i gefnogi addysgu dosbarth cyfan heb lawer o hyblygrwydd, os o gwbl, bod arddangosfeydd ystafell ddosbarth wedi’u cynhyrchu gan gyfrifiadur o wefannau a bod ystafelloedd yn orlawn
  • mai proses o drosglwyddo gwybodaeth i ddisgyblion oedd addysgu ar y cyfan, a oedd yn golygu bod disgyblion yn arsylwi gweithgareddau ymarferol yn hytrach na’u profi’n uniongyrchol 
  • bod athrawon yn gwahaniaethu trwy ganlyniad yn bennaf, yn hytrach na gallu
  • bod marcio gwaith disgyblion yn cael effaith fach ar wella safonau
  • bod amcanion dysgu a meini prawf llwyddiant hir yn methu symud y dysgu ymlaen
  • bod athrawon yn cyflwyno’r cwricwlwm trwy amserlenni penodedig a bod y rhan fwyaf o athrawon yn ailddefnyddio’r un cynlluniau gwersi yn benodol i bwnc flwyddyn ar ôl blwyddyn
  • bod cyfleoedd i ddatblygu medrau meddwl ac annibyniaeth disgyblion yn gyfyngedig

Ers hynny, mae’r ysgol wedi mynd i’r afael â’r materion hyn ac wedi datblygu cwricwlwm bywiog ac arloesol yn seiliedig ar fedrau trwy werthfawrogi llais y disgybl a’i rôl mewn cynllunio’r cwricwlwm.  Mae’r ysgol yn annog mentro ac arloesedd gan staff i wella deilliannau ar gyfer disgyblion.

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid – datblygu ymagwedd thematig, yn cael ei harwain gan blant, at addysgu

Ym mis Medi 2012, cyflwynodd yr ysgol gynllunio thematig, a oedd yn canolbwyntio ar lythrennedd i ddechrau.  Rhoddodd athrawon gyfrifoldeb i ddisgyblion ddewis nofel neu destun, ac wedyn aethant ati i gynllunio gweithgareddau trawsgwricwlaidd o’r rhain. 

Roedd yr ysgol yn rhoi lle canolog i lais y disgybl yn yr holl gynllunio a dysgu.  Dechreuodd profiadau gael eu harwain gan ddisgyblion yn bennaf trwy gyfarfodydd bwrdd rheolaidd, yn cynnwys athrawon dosbarth a disgyblion.  Cyn y cyfarfodydd, nododd athrawon y medrau yr oedd angen i’r dosbarth ymdrin â nhw, ac wedyn bu’r athrawon a’r disgyblion yn trafod cynnwys gwersi i ddod.  Rhoddodd hyn lawer o reolaeth i ddisgyblion dros eu dysgu ac arweiniodd at ymgysylltu gwell.
Bu staff yn datblygu cynllunio thematig ymhellach i gynnwys ‘profiadau dysgu dilys’ gyda disgyblion yn dechrau meysydd astudio yn seiliedig ar ddigwyddiadau bywyd go iawn.  Er enghraifft, mae disgyblion yn gwylio rhaglenni newyddion plant gyda’i gilydd yn rheolaidd ac yn defnyddio hyn i benderfynu beth hoffent ei archwilio nesaf yn eu dysgu.  Mae athrawon yn cynllunio cwricwlwm sy’n seiliedig ar fedrau trwy’r meysydd dysgu a phrofiad gyda ffocws ar y pedwar diben.

Sgaffaldiau i gefnogi dysgu annibynnol

Mae athrawon yn defnyddio ystod o strategaethau i ddatblygu medrau meddwl disgyblion ar draws y cwricwlwm, er enghraifft trwy ddefnyddio hetiau meddwl, mapiau meddwl ac allweddi meddwl.  Mae’r ysgol hefyd yn datblygu ymwybyddiaeth disgyblion ohonyn nhw eu hunain fel dysgwyr trwy eu hymagwedd eu hunain, yn seiliedig ar gyfres o gymeriadau o ‘Planet Thunk’.

Mae staff yn cynllunio ar y cyd i wella’r amgylchedd dysgu i sicrhau bod gweithgareddau’n darparu cyfleoedd da i ddatblygu’r pedwar diben yn effeithiol.

Er enghraifft:

  • Mae’r ysgol wedi gosod byrddau crwn yn lle desgiau sgwâr i annog a hwyluso dysgu ar y cyd.  Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ddatblygu gallu disgyblion i gymryd rhan yn llawn yn eu gwaith. 
  • Mae gan bob ystafell ddosbarth ardal ddynodedig ar gyfer archwilio a darganfod trwy gyfleoedd creadigol.  Mae disgyblion yn creu problem ddysgu ddilys i ymchwilio, cynllunio gweithredu, creu a phrofi yn erbyn set o feini prawf llwyddiant.  Er enghraifft, cynlluniodd disgyblion loches geodesig frys ar gyfer ffoaduriaid, yn ogystal â barcutiaid sy’n hedfan mewn tywydd eithafol am gyfnod amser mesuradwy.
  • Mae athrawon yn cynllunio ar gyfer defnyddio ‘parthau dysgu annibynnol’ bob dydd i ddatblygu Disgyblion Annibynnol Iawn, sy’n cael eu hadnabod fel VIP, yn y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2.  Mae’r rhain yn rhoi cyfle i ddisgyblion weithio’n annibynnol ac ar y cyd mewn amgylchedd hunanreoledig.  Mae’r parthau’n galluogi disgyblion i atgyfnerthu ac ymarfer medrau a addysgwyd a throsglwyddo gwybodaeth, er enghraifft trwy ddefnyddio offer fel sgaffald i ymestyn ac arfarnu eu gwaith.
  • Mae gweithgareddau Amser MAD (Gwneud Gwahaniaeth) VIP cynlluniedig yn galluogi disgyblion i ddatblygu meddylfryd o gyfrifoldeb tuag at eu nodau dysgu penodol eu hunain.
  • Mae athrawon yn creu arddangosfeydd rhagorol i annog dyheadau disgyblion, trwy ddathlu eu gwaith a sgaffaldio eu dysgu.

Mae’r cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddysgu sy’n seiliedig ar fedrau heb gynlluniau gwaith, ac mae disgyblion yn penderfynu beth mae arnynt eisiau ei ddysgu, a sut.  Mae hyn yn sicrhau bod dysgu’n parhau i fod yn ddilys i brofiadau’r disgybl ac yn newid yn unol â’u diddordebau. 

Cam 3: Cyflawni newid – ymgorffori’r pedwar diben

Mae polisi addysgu a dysgu’r ysgol yn cynnwys ffocws clir ar baratoi disgyblion i fod yn ddysgwyr gweithredol a hyblyg a meddylwyr hyderus a beirniadol sy’n gweithio’n effeithiol i ddatrys problemau bywyd go iawn.  Mae’r ddogfen ddefnyddiol hon yn rhoi arweiniad clir i bob aelod newydd o staff ar sut mae arweinwyr yn disgwyl iddynt ymdrin ag addysgu yn yr ysgol.

Mae addysgeg yn yr ysgol yn allweddol i ddatblygu’r pedwar diben.  Mae athrawon yn rhoi cyfle rheolaidd i ddisgyblion ddysgu gan arbenigwyr fel cyfrifwyr a pheirianwyr, sy’n mynd â nhw y tu hwnt i ffiniau’r amgylchedd ysgol uniongyrchol.  Mae hyn yn galluogi disgyblion i ddatblygu’r medrau angenrheidiol i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a’r byd. 

Mae athrawon yn trefnu gweithgareddau gwahaniaethol cynlluniedig o amgylch grwpiau bach sy’n newid yn rheolaidd i adlewyrchu cynnydd ac anghenion disgyblion unigol.  Mae’r dull addysgu hwn yn cymell ac ennyn diddordeb disgyblion, yn hyrwyddo her ac yn sicrhau profiadau dysgu cadarnhaol.  Mae bwriadau dysgu a meini prawf llwyddiant yn glir, ac fe gaiff disgyblion eu hannog i gysylltu’r rhain â’r pedwar diben.  Mae staff yn darparu adborth buddiol i sgaffaldio dysgu disgyblion a’u herio i arfarnu i ba raddau y maent wedi bodloni’r pedwar diben. 

Mae athrawon yn annog annibyniaeth gan ddefnyddio’r parthau dysgu.  Mae gweithgareddau’n galluogi disgyblion i atgyfnerthu gwybodaeth a datblygu strategaethau ar gyfer datrys problemau.  Mae’r rhain yn datblygu meddylfryd o dwf ac yn lleihau ofn disgyblion o fethu trwy ymagweddau ar y cyd at ddysgu darganfyddol ac ymchwiliol.  Mae’r parthau dysgu’n cyfrannu’n effeithiol at ddatblygu disgyblion mentrus a hyderus.

Mae athrawon yn cynllunio cyfleoedd rheolaidd ar gyfer datblygu medrau creadigol ac entrepreneuraidd disgyblion.  Mae ‘Heriau’r Pennaeth’ bob hanner tymor yn annog disgyblion i ymgorffori’r medrau hyn trwy feddwl yn feirniadol a datblygu cynnyrch terfynol.  Mae’r ysgol wedi datblygu ei hamgylchedd yn yr awyr agored yn dda ac mae gan ddisgyblion fynediad at ardal Ysgol Goedwig a gardd eang.  Mae hyn yn cynorthwyo disgyblion i ddysgu yn yr awyr agored ac yn eu helpu i ddeall pwysigrwydd cyfrannu at greu byd cynaliadwy. 

Mae pob un o’r disgyblion a’r staff yn annog ei gilydd i sgwrsio yn Gymraeg.  Mae’r ysgol yn mynd ati i hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru, sydd â lle cadarn ar draws y cwricwlwm.  Mae prosiectau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) wedi’u gwreiddio mewn enghreifftiau o benseiri, gwyddonwyr, peirianwyr a strwythurau yng Nghymru.  Mae llysgenhadon STEM lleol o Gymru yn ymweld â’r ysgol yn rheolaidd i ysbrydoli disgyblion.

Mae ystafell ddysgu ddigidol ddynodedig yr ysgol (Digi-Den) yn rhoi cyfle i ddisgyblion elwa ar amrywiaeth o liniaduron, cyfrifiaduron llechen a thechnolegau digidol eraill y mae disgyblion yn eu defnyddio i ddatblygu eu medrau yn annibynnol.  Fel rhan o’r prosiect Ysgolion Arweiniol Creadigol, mae llysgenhadon STEM yn gweithio ochr yn ochr â disgyblion eraill i ddatblygu’r defnydd o roboteg syml.  O ganlyniad, mae’r ysgol yn paratoi disgyblion yn dda trwy ddatblygu medrau dysgu gydol oes, annibynnol y maent yn eu defnyddio yng ngham nesaf eu haddysg a’r gweithle. 

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Gwndy ym mhentref Gwndy, rhwng Casnewydd a Chil-y-coed.  Mae 320 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 45 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae chwech o ddosbarthiadau un oedran, a phedwar dosbarth oedran cymysg.

Mae ychydig iawn o’r disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn wyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi Saesneg; nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae’r ysgol yn nodi bod gan rai o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, ac mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion dysgu ychwanegol.

Cam 1: Arfarnu’r cwricwlwm presennol o fewn trefniadau hunanarfarnu ehangach – cynnwys y cwricwlwm ac asesu

Nododd uwch arweinwyr a staff fod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i wella ymgysylltiad disgyblion â’r cwricwlwm.  Roeddent yn cydnabod nad oedd eu darpariaeth yn datblygu medrau dysgu’n annibynnol disgyblion yn ddigonol nac yn rhoi cyfle i ddisgyblion benderfynu beth roeddent yn ei ddysgu, a sut.  Yn ychwanegol, teimlai’r ysgol fod angen ymagwedd newydd at gynllunio a chyflwyno wrth gyflwyno cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau.

Mae uwch arweinwyr yn cynnwys pob un o’r staff mewn arwain ac arfarnu newid.  Mae pob un o’r athrawon yn gweithio mewn timau cwricwlwm yn ôl y grwpiau blwyddyn y maent yn eu haddysgu.  Yn ystod y flwyddyn gyntaf o newid, neilltuodd uwch arweinwyr dri diwrnod digyswllt dilynol i bob tîm i arfarnu cwricwlwm yr ysgol a datblygu ymagwedd yn fwy seiliedig ar fedrau.  O ganlyniad, cafwyd map cwricwlwm strategol a oedd yn amlinellu datblygiad medrau disgyblion dros gylch dwy flynedd. 

Ym Mlwyddyn 2, fe wnaeth uwch arweinwyr ryddhau athrawon yn eu timau cwricwlwm am ddeuddydd arall.  Ar ddiwedd y cyfnod hwn, roedd gan yr ysgol gynllun systematig a dilyniadol ar gyfer datblygu medrau disgyblion trwy gyd-destunau ym mhob pwnc a maes dysgu.

Cam 2:  Cynllunio a pharatoi ar gyfer newid

Galluogodd staff y disgyblion i gymryd mwy o reolaeth o’u dysgu eu hunain, a ysgogwyd gan gyflwyno cwricwlwm yn seiliedig ar fedrau.  Fe wnaeth uwch arweinwyr ac athrawon ar ddiwedd cyfnod allweddol 2 ymweld ag ysgol gynradd leol i arsylwi’r modd yr oedd athrawon wedi addasu eu hamgylchedd dysgu i annog annibyniaeth disgyblion.  Yn dilyn yr ymweliad, fe wnaethant fireinio’r syniadau i weddu i’w hamgylchedd ac wedyn cynllunio adnewyddu ardal a rannwyd ar gyfer Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6 i greu ‘parth dysgu’.

Mae’r parth dysgu yn rhoi cyfle i ddisgyblion hŷn gwblhau gweithgareddau yn annibynnol ac i ffwrdd o’r brif ystafell ddosbarth.  Mae’r gweithgareddau hyn yn adeiladu ar y medrau a addysgwyd yn ystod sesiynau Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth.  Mae’r parth wedi’i drefnu yn bum rhan wahanol, sef: llythrennedd, rhifedd, gwyddoniaeth, y Gymraeg a’r cyfryngau.  Caiff natur a ffocws y parthau hyn eu hadolygu’n gyson gan athrawon a disgyblion.  Maent yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio pum lefel her â chodau lliw ar gyfer pob gweithgaredd, gydag athrawon yn annog disgyblion i ddewis y lefel sy’n addas ar eu cyfer.  Mae athrawon yn cyflwyno pob un o weithgareddau’r parth ar ddechrau pythefnos fel bod disgyblion yn deall beth i’w wneud a’r safonau sy’n ddisgwyliedig ohonynt.  O ganlyniad, mae bron pob un o’r disgyblion yn datblygu safonau uchel o ddysgu annibynnol a chydweithredol ac mae lefelau ymgysylltu â disgyblion wedi codi.

Wrth wneud newidiadau i’r cwricwlwm, mae uwch arweinwyr yn darparu amser rhyddhau digyswllt ar gyfer athrawon i ysgogi newid a chreu diwylliant o hunanfyfyrio ac ymddiriedaeth ar y ddwy ochr.  Maent yn goruchwylio gwaith timau’r cwricwlwm i sicrhau ymagwedd gyson a’u cynorthwyo o ran bodloni graddfeydd amser cytûn.  I hwyluso hyn, lleihaodd llywodraethwyr ymrwymiad addysgu’r dirprwy bennaeth i’w galluogi i oruchwylio datblygiad y cwricwlwm newydd a chefnogi cynllunio athrawon.  Roedd y rôl hon yn hanfodol o ran sicrhau cynnydd cyflym ac effeithiol y newid i’r cwricwlwm.

Mae uwch arweinwyr yn annog pob un o’r staff i arbrofi, dysgu oddi wrth arfer dda bresennol yn yr ysgol a thu hwnt, a chymryd cyfrifoldeb am fyfyrio ar eu harfer broffesiynol eu hunain, a’i gwella.  Ceir dealltwriaeth glir ymhlith pob un o’r staff fod rhaid i newidiadau i dechnegau addysgu a’r amgylchedd dysgu arwain at ddeilliannau gwell ar gyfer disgyblion. 

Mae uwch arweinwyr yn sicrhau bod pob un o’r staff yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hunanarfarnu ysgol gyfan trylwyr a’u bod yn gweld eu hunain fel rhan o’r broses.  Mae uwch arweinwyr yn canolbwyntio gweithgareddau monitro ar egwyddor ‘tegwch, yn hytrach na chydraddoldeb’.  Mae’r meysydd darpariaeth sydd angen eu datblygu fwyaf yn derbyn y lefelau uchaf o fonitro a chymorth.  Fel rhan o hinsawdd o ymddiriedaeth broffesiynol ac ethos o fyfyrio a gwella, mae’r ymagwedd hon yn effeithiol wrth ysgogi newid a gwella darpariaeth.  Mae pob un o’r staff yn hyfedr o ran defnyddio data a thechnegau hunanarfarnu, fel gwrando ar ddisgyblion, arsylwadau gwersi, teithiau dysgu a chraffu ar waith disgyblion.

Cam 3:  Cyflawni newid

Mae uwch arweinwyr yn alinio elfennau o gynllun gwella’r ysgol yn ofalus â gofynion Dyfodol Llwyddiannus, (Donaldson, 2015).  Er enghraifft, mae’r cynllun yn amlinellu camau gweithredu penodol i gynyddu annibyniaeth disgyblion, cyfoethogi eu profiadau dysgu a datblygu eu dawn greadigol.  Mae hyn eisoes yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae disgyblion yn dysgu.  Er enghraifft, mae disgyblion yn siarad yn hyderus am y modd y maent yn datblygu eu dawn greadigol, er enghraifft wrth ddefnyddio drama i archwilio cymeriadau mewn stori.

Mae gwaith timau cwricwlwm yr ysgol yn canolbwyntio ar addasu’r ddarpariaeth ymhellach.  Er enghraifft, mae athrawon y cyfnod sylfaen yn mapio medrau i alluogi disgyblion i gynllunio eu gweithgareddau manylach a’u gweithgareddau testun eu hunain gan ddefnyddio’r byrddau cynlluniau medrau dosbarth.  Mae hyn yn helpu disgyblion i arwain agweddau ar eu dysgu eu hunain a datblygu eu medrau fel dysgwyr annibynnol.  Yng nghyfnod allweddol 2, mae athrawon yn ymestyn y defnydd o heriau annibynnol gwahaniaethol i Flwyddyn 3 a Blwyddyn 4.  Er nad oes mynediad at ofod ffisegol ar y cyd yn y dosbarthiadau hyn, mae tîm y cwricwlwm wedi gweithio’n ddychmygus i addasu’r ymagwedd yn unol â’r amgylchedd dysgu sydd ar gael.  Mae hyn ar ffurf gweithgareddau gwyddoniaeth, mathemateg a llythrennedd annibynnol a gwahaniaethol sydd wedi’u lleoli yn y gofod y tu allan i’w hystafelloedd dosbarth.