Arfer effeithiol Archives - Page 47 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Coedcae yn ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg, cymysg 11-16 oed sydd wedi’i lleoli yn Nhrostre, Llanelli yn Sir Gaerfyrddin.  Mae 820 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Daw disgyblion o’r gymdogaeth o gwmpas yr ysgol yn bennaf, ac ymhellach i ffwrdd yn nhref Llanelli.  Mae tua 25% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Mae hyn yn uwch o lawer na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17%.  Mae tua 44% o’r disgyblion yn byw yn yr 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.  Mae tua 60% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion ychwanegol yr ysgol, sydd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 22%.  Mae gan 4% o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 2%.  Mae 96% o’r disgyblion o gefndir gwyn a daw’r rhan fwyaf o’r disgyblion o gartrefi sy’n siarad Saesneg.  Mae nifer fach o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae tua 7% o’r disgyblion yn siarad iaith heblaw’r Saesneg fel eu hiaith gyntaf.  Bu’r pennaeth yn ei swydd er 2012, ac mae’r uwch dîm rheoli yn cynnwys y pennaeth, dau ddirprwy bennaeth ac uwch athro.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol

Cynhaliodd rheolwyr yr ysgol ymarfer hunanarfarnu cadarn, a oedd yn cynnwys arfarnu effeithiolrwydd gwasanaethau cynhwysiant a chymorth.  Yn hanesyddol, bu nifer o ddysgwyr yn destun symudiad rheoledig neu waharddiad parhaol, neu roeddent wedi ymuno â darpariaeth arbenigol mewn UCDau yn awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin.  Ar ôl ymgynghori â staff a disgyblion, daeth arweinwyr i’r casgliad bod cryfder sylweddol yn set sgiliau staff ar bob lefel yn yr ysgol a allai ganiatáu cynllunio cwricwlwm priodol a chymorth wedi’i dargedu i ddysgwyr sy’n agored i niwed.  Roedd hyn yn golygu, gyda chyllid a darpariaeth briodol, y gallai mwy o ddisgyblion gynnal eu lle yn yr ysgol yn llwyddiannus heb fod angen symudiad rheoledig i ddarparwr arall. 

Felly, dechreuodd yr ysgol gryfhau ei darpariaeth i ddysgwyr agored i niwed.  Lluniwyd polisïau a gweithdrefnau fel eu bod yn crynhoi ethos newydd a chryfach yr ysgol o gynhwysiant.  Oherwydd cyfyngiadau ariannol, bu raid i’r ysgol weithio’n galed ac yn greadigol i nodi’r hyfforddiant ac arweiniad mwyaf buddiol ac effeithiol i’w staff.  Canolbwyntiodd arweinwyr ar feysydd fyddai’n darparu mwy o ddealltwriaeth i’w staff o faterion cymdeithasol ac economaidd sy’n effeithio ar eu disgyblion a’u teuluoedd.  Rhoddwyd hyfforddiant i holl staff yr ysgol ar ymwybyddiaeth o ymlyniad a hyfforddiant emosiynol.  Canolbwyntiodd hyfforddiant ysgol gyfan ar sicrhau bod staff yn deall pwysigrwydd empathi, goddefgarwch ac amynedd yn ystod unrhyw raglen cymorth ymddygiad, a hyfforddwyd staff ar ddulliau adferol i newid ymddygiad.  Hyfforddwyd yr holl staff mewn cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a lluniodd yr ysgol becyn offer gwerthfawr yn canolbwyntio ar yr unigolyn i’r staff i’w cynorthwyo yn eu gwaith â disgyblion agored i niwed.  Mabwysiadwyd polisi ysgol newydd i sicrhau y byddai unrhyw blentyn a oedd yn dechrau dangos arwyddion o anhawster emosiynol neu ymddygiadol yn gallu manteisio’n brydlon ar weithiwr allweddol o’i (d)dewis.  I’r perwyl hwnnw, dewisodd nifer o aelodau staff ar bob lefel hyfforddi naill ai’n swyddogion cyswllt â theuluoedd neu’n weithwyr allweddol disgyblion.  Roedd hyn yn cynnwys staff cymorth, staff gweinyddol a gweithiwr ieuenctid yr ysgol, yn ogystal ag athrawon.  Mae’r gweithwyr allweddol a’r swyddogion cyswllt â theuluoedd hyn yn chwarae rhan hanfodol yng nghyfarfodydd cymorth a chynllunio Tîm o Amgylch y Teulu yr ysgol.

Disgrifiad o’r gweithgarwch

Y prif sbardun mewn hyrwyddo ethos cynhwysol yn yr ysgol yw’r ‘Polisi ac Arweiniad ar Ymddygiad ar gyfer Dysgu’.  Trwy’r polisi cynhwysfawr hwn, mae’r ysgol wedi mapio’r cysylltiad uniongyrchol rhwng cynhwysiant a chymorth disgyblion, ac addysgu a dysgu wedi’u targedu.  Caiff pecynnau llythrennedd a rhifedd pwrpasol eu cynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer sesiynau mentora unigol yn y boreau, sesiynau grŵp storïau cymdeithasol a grwpiau darllen ar garlam pwrpasol.  Cynhelir grwpiau maethu yn gynnar yn y boreau, sy’n meithrin ymddiriedaeth rhwng disgyblion sy’n agored i niwed a’u gweithwyr allweddol sy’n oedolion.  Rhoddir cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion hŷn sy’n dangos agweddau mwy negyddol tuag at ddysgu neu ddadrithiad weithio â phartneriaid sefydledig yr ysgol, er enghraifft trwy raglenni medrau sylfaenol a medrau bywyd buddiol a ddarperir gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Fel rhan o’r dewisiadau yng nghyfnod allweddol 4, mae’r holl ddisgyblion yn dewis opsiwn o’r ‘Golofn Gyfoethogi’.  Mae disgyblion mwy abl yn astudio cyrsiau TGAU ychwanegol, er enghraifft mewn cymdeithaseg, seicoleg neu iaith dramor fodern ychwanegol.  Yn ogystal, mae ystod eang o gyrsiau galwedigaethol a chyfoethogi i ddewis ohonynt, gan gynnwys cwrs coginio a luniwyd gan gogydd enwog, profiad gwaith estynedig, medrau llawysgrifen, dal i fyny â llythrennedd a rhifedd a rhaglenni medrau cymdeithasol gwerthfawr.  Mae’r opsiynau hyn yn darparu profiadau gwerthfawr i ddysgwyr sy’n agored i niwed, ac yn aml yn darparu cwricwlwm amgen hanfodol ar eu cyfer sy’n cynorthwyo eu presenoldeb yn yr ysgol pan allant ddewis peidio â mynychu fel arall. 

Mae gweithiwr ieuenctid yr ysgol hefyd yn darparu cyrsiau pwrpasol i unigolion sydd ag anghenion emosiynol penodol.  Mae’r ysgol wedi gweithio’n galed i feithrin llawer o bartneriaethau gwerthfawr a llwyddiannus â sefydliadau, sy’n darparu profiadau a hyfforddiant buddiol i bobl ifanc, fel Cwrs Ffenics y Gwasanaeth Tân a Phrosiect Tacl Clwb Rygbi’r Scarlets. 

Mae gweithwyr allweddol yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd â lluniaeth yn ystod amser egwyl i staff addysgu’r disgyblion unigol y maent yn gyfrifol amdanynt er mwyn casglu gwybodaeth am safonau ac agweddau tuag at ddysgu ac ymddygiad.  Mae proffiliau un dudalen disgyblion yn ddogfennau gweithio sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd gan weithwyr allweddol a’u rhannu â staff.  Mae cynlluniau ymddygiad yn syml ac yn hylaw.  Dim ond dwy adran sydd ganddynt – ‘pryderon’ a ‘telerau cytûn’.  Mae’r ddwy ddogfen hyn yn ffurfio sail i’r holl drafodaethau am ddisgyblion yng nghyfarfodydd rheolaidd y Tîm o Amgylch y Teulu.

Effaith ar ddarpariaeth a safonau

Mae arweinwyr wedi canfod bod cynnal lefel gyson o ymyrraeth â ffocws, ynghyd â pherthynas gadarnhaol, gynhyrchiol â rhieni, yn arwain at gyrhaeddiad a phresenoldeb gwell, ac ymddygiad gwell i ddisgyblion y mae perygl iddynt gael eu gwahardd.  Dros amser, mae’r ysgol wedi gweld gostyngiad nodedig yn nifer y gwaharddiadau am gyfnod penodol ac yn nifer y ceisiadau am symudiadau rheoledig a wneir i Banel Cymedroli’r Awdurdod Lleol.  Mae’r ethos ysgol gyfan o gynhwysiant a chymorth, a’i phwyslais ar ddangos empathi tuag at bob disgybl, wedi cael effaith gadarnhaol ar les a phresenoldeb disgyblion. 

Mae’r ffocws cryf ar ddatblygiad proffesiynol parhaus i athrawon a staff cymorth mewn materion cynhwysiant wedi cryfhau gallu’r ysgol i ddarparu ar gyfer y dysgwyr mwyaf bregus a heriol heb fod angen cymorth allanol.  Mae staff wedi elwa ar hyfforddiant gwerthfawr a buddiol gan gyrff proffesiynol sefydledig.  Er enghraifft, darparodd Ymddiriedaeth y Gofalwyr hyfforddiant ar gymorth bugeiliol, a dysgodd staff sut i gynorthwyo disgyblion y mae eu rhieni yn y carchar gan elusen Invisible Walls.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Cwm Glas ym mhentref Winch Wen yn Ninas a Sir Abertawe.  Mae 294 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 38 o ddisgyblion rhan-amser yn y dosbarth meithrin.  Ychydig iawn o ddisgyblion ag anawsterau dysgu ysgafn i gymedrol sy’n mynychu’r cyfleuster addysgu arbennig ar safle’r ysgol.

Mae tua 32% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 54% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, ac fe gaiff mwyafrif ohonynt eu haddysgu yn y cyfleuster addysgu arbennig.  Mae Saesneg yn iaith ychwanegol i ychydig iawn o ddisgyblion, ac nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg gartref.  Dechreuodd y pennaeth presennol yn ei swydd ym mis Medi 2017.

Diwylliant ac ethos

Ysgol Gynradd Cwm Glas yw canolbwynt y gymuned, ac mae’n cynnig ethos cadarnhaol a chynhwysol sy’n croesawu pob disgybl, beth bynnag fo’i gefndir neu’i amgylchiadau.  Mae staff ar bob lefel yn dathlu cyflawniad ac yn hyrwyddo llwyddiant.  Mae arweinwyr yn sicrhau bod y disgyblion yn cael profiad dysgu cofiadwy, perthnasol a chytbwys yng Nghwm Glas.  Mae’r ysgol yn nodi bod ganddi nod diwyro i ddisgyblion adael Cwm Glas yn ddysgwyr hyderus, gwydn, uchelgeisiol a medrus, sy’n barod i gymryd eu lle yn y byd.  Mae’r ysgol yn darparu amgylchedd teuluol a hapus lle mae disgyblion yn tyfu o ran dysgu ac mewn bywyd.  Mae’r ysgol yn falch o’i hethos cynhwysol a meithringar ac mae’n hyrwyddo hawliau disgyblion fel y brif egwyddor sy’n ategu ei holl waith.

Camau Gweithredu

Buddsoddodd yr ysgol mewn darpariaeth anogaeth effeithiol ym mis Ionawr 2013 ac mae hyn wedi tyfu i gynorthwyo llawer o ddysgwyr a nodwyd.  Mae pob un o’r staff yn cyfeirio disgyblion at y ddarpariaeth gan ddefnyddio system fewnol a phrofion safonedig.  Mae’r ysgol wedi gweithio’n effeithiol i ddatblygu ei harfer, gan geisio cael hyfforddiant a chysylltiadau rhwydwaith gyda lleoliadau eraill.  Yn sgil buddsoddiad pellach yn y ddarpariaeth anogaeth, mae wedi ffynnu i fod yn ganolfan arfer orau, sydd bellach yn cynnig cymorth i leoliadau eraill ac yn cynnal digwyddiadau hyfforddiant anogaeth.  Mae hyn yn cael effaith ddwys ar hunan-barch a hunanhyder rhai o’r disgyblion sydd fwyaf agored i niwed yn yr ysgol.  Yn ddiweddar, mae’r ysgol wedi dod yn gysylltiedig â’r ‘Tîm o Amgylch y Teulu mewn Ysgolion’ i gryfhau’r effaith ymhellach.  Mae’r ysgol yn gweithio gyda dull amlasiantaethol effeithiol, gan ddatblygu perthnasoedd cryf, meithringar ac ymddiriedus gyda rhieni, ‘neiniau’, gofalwyr a theuluoedd.  Bob dydd Llun, mae dosbarthiadau’n cynnal ‘gwiriadau’ ar ôl y penwythnos i archwilio teimladau disgyblion.  Gellir cyfeirio disgyblion at y Cynorthwyydd Cymorth Bugeiliol am gymorth emosiynol pan fydd angen.  Mae’r ysgol yn cynnal digwyddiadau caffi dysgu rheolaidd, gan ganolbwyntio ar ddarllen neu fathemateg.  O ganlyniad, mae canran y disgyblion sydd â sgorau darllen yr un fath â’u hoedrannau darllen cronolegol neu’n uwch wedi cynyddu o 18% i 52%.  Mae’r disgyblion yn westeiwyr gwirioneddol yn y digwyddiadau hyn, gyda grwpiau llais y disgybl yn gwarchod, yn arddangos ac yn ennyn brwdfrydedd ymhlith disgyblion  eraill, gan rymuso rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu gartref.

Caiff sesiynau dysgu teuluol eu targedu’n strategol tuag at ddisgyblion y dosbarth Derbyn, eu rhieni a’u gofalwyr, i gryfhau perthnasoedd rhwng y cartref a’r ysgol o’r cychwyn a chynnig strategaethau cynnar ar gyfer cefnogi a gwerthfawrogi dysgu gartref. 

Mae’r ethos cynhwysol yn faes cryfder allweddol.  Mae olrhain pob dysgwr unigol yn drylwyr yn sicrhau bod yr holl gyflawniadau’n cael eu gwerthfawrogi ac yn sicrhau atebolrwydd am ddeilliannau.  Mae arweinwyr yr ysgol yn barod i gynorthwyo a gweithio ochr yn ochr â theuluoedd ac asiantaethau i sicrhau’r gorau oll i bob plentyn, tra’n meithrin agwedd gadarnhaol at ddysgu.  Mae’r ddarpariaeth i ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol yn gryf iawn ac mae’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol yn cynorthwyo athrawon a staff cymorth yn effeithiol wrth deilwra darpariaeth o ansawdd uchel.  Mae staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda yn cyflwyno amrywiaeth o raglenni ymyrraeth a chymorth buddiol i wella medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn ogystal â’u hanghenion emosiynol a lles.  Mae pob un o’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cyfrannu’n dda at eu cynlluniau addysgol unigol penodol a mesuradwy, y maent yn eu cwblhau ochr yn ochr â staff allweddol a rhieni neu ofalwyr.  O ganlyniad i’r ddarpariaeth hon sydd o ansawdd uchel, mae bron pob un o’r disgyblion targedig yn gwneud cynnydd da o leiaf yn unol â’u galluoedd a’u hanghenion.

Cryfder arall o ran y ffordd y mae’r ysgol yn hwyluso llais y disgybl yw trwy grwpiau fel y cyngor ysgol, y grŵp ysgolion iach a’r grŵp ysgolion eco, sydd i gyd yn cymryd rhan yng nghynllunio strategol yr ysgol.  Maent yn helpu pennu blaenoriaethau cynllun datblygu’r ysgol, yn cynnig her i arweinwyr yr ysgol ac yn trosglwyddo gwybodaeth i’w cyfoedion a’u rhieni.  Mae disgyblion yn cyfrannu at ysgrifennu polisïau, gan sicrhau bod eu llais a’u barn yn cael eu clywed.  Mae ‘Arweinwyr Digidol’ yn creu a rhannu negeseuon pwysig am ddiogelwch ar-lein ac yn cynnal seminarau ar gyfer rhieni a gofalwyr.  Rhoddir rôl gyfrifol i holl ddisgyblion Blwyddyn 6, sy’n meithrin balchder a hyder ac yn cryfhau ymddiriedaeth staff a disgyblion. 

Deilliannau

Mae pob un o’r disgyblion yn datblygu i fod yn ddysgwyr dyfeisgar, cytbwys, myfyriol a gwydn.  Mae presenoldeb wedi gosod yr ysgol yn gyson yn y 25% uchaf o gymharu ag ysgolion tebyg am nifer o flynyddoedd.  Mae rhieni, gofalwyr, plant a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cynorthwyo gan yr ysgol.  Mae safonau cynnydd yn dangos tuedd tair blynedd ar i fyny, ac mae’r bwlch o ran perfformiad rhwng bechgyn a merched wedi lleihau’n sylweddol.  Hefyd, mae tueddiadau ar gyfer grwpiau dysgwyr yn dangos effaith gadarnhaol dull cynhwysol a meithringar yr ysgol.  Mae’r ysgol wedi cyflawni’r wobr gyntaf o ran ei hymrwymiad i fod yn ysgol iach. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Herbert Thompson yn gwasanaethu ardal Llanfihangel-ar-Elái yng Nghaerdydd.  Mae 524 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 70 yn y dosbarth meithrin.  Gall disgyblion ymuno â’r dosbarth meithrin yn rhan-amser ar ddechrau’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd.  Mae llawer o ddisgyblion o gefndir gwyn ethnig, mae’r gweddill o grwpiau ethnig cymysg.  Mae tua 7% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Nid oes unrhyw ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith.  Mae tua hanner y disgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 38% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Mae 14 o athrawon amser llawn a naw o athrawon rhan-amser yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Penodwyd y pennaeth yn 2016 ar ôl bod yn ddirprwy bennaeth yr ysgol am dair blynedd cyn hynny.

Strategaeth a chamau gweithredu

Nid yw’r pennaeth a’r uwch dîm yn cymryd y barnau rhagorol yn ganiataol nac yn diystyru’r cynllunio a’r penderfyniad sydd eu hangen i gynnal perfformiad uchel yr ysgol.  Mae’r ysgol yn gweld datblygu arfer ac addysgeg yn flaenoriaeth wella barhaus sydd â cyd-ddealltwriaeth o beth sy’n gwneud addysgu da a rhagorol yn Herbert Thompson yn ganolog iddi.  Mae cyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd da sy’n gysylltiedig ag arfer ystafell ddosbarth ac yn cael eu cefnogi gan ddysgu effeithiol, yn meithrin gallu pob un o’r athrawon a’r cynorthwywyr cymorth dysgu i ‘anelu am ragoriaeth’ yn eu haddysgu.  Mae gan bob un o’r staff dargedau rheoli perfformiad heriol ac maent wedi cael cymorth buddiol i helpu cyflawni eu targedau.  Mae’r uwch dîm yn mynd ati i geisio sicrhau bod pob un o’r staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu trwy gymryd camau i wella lles ar draws yr ysgol.  Mae’r rhain, er enghraifft, yn cynnwys sicrhau bod staff yn cael digon o amser i gwblhau eu tasgau a bod cyfarfodydd yn canolbwyntio’n graff ar faterion craidd.  Mae arweinwyr yn gwneud yn siŵr eu bod yn cynnwys cyfleoedd rheolaidd i ddiolch i gydweithwyr a dathlu gwaith a bywyd yr ysgol.  Mae athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu yn falch a hapus i berthyn i gymuned yr ysgol.

Trwy ei hwb gwella, mae Herbert Thompson wedi cyflwyno amrywiaeth o raglenni datblygu ar gyfer ysgolion ar draws Consortiwm Canolbarth y De, gan gynnwys un sydd wedi’i chynllunio i wella medrau athrawon sydd eisoes yn perfformio’n dda.  Mae’r ysgol wedi galluogi llawer o’i hathrawon ei hun i ddilyn y rhaglen hon.  Mae’r uwch dîm yn glir fod angen mynd i’r afael â’r medrau a ddatblygwyd, ac ychwanegu atynt, ni waeth pa mor dda yw’r cyfleoedd dysgu proffesiynol hyn.  Felly, maent yn gwneud ymrwymiad y gall athrawon wella, a myfyrio ar agweddau ffocysedig ar eu haddysgeg dros gyfnod.  I hwyluso hyn, maent yn buddsoddi amser ac adnoddau i ryddhau athrawon i gynnal arsylwadau cymheiriaid a defnyddio’r medrau hyfforddi a ddatblygwyd yn ystod amser dysgu proffesiynol.  Mae hyn yn galluogi athrawon i rannu syniadau, arfer ac adnoddau, a dechrau archwilio’r egwyddorion addysgegol a amlinellir yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).

Mae’r camau gweithredu hyn yn pwysleisio’r pwynt fod gwella addysgu yn ganolog i wella’r ysgol.  Mae’r ysgol yn cynllunio cyfleoedd pellach i hwyluso trafodaethau am addysgeg i gynnal yr arfer sy’n gwella.  Ochr yn ochr â’r rhaglenni sefydledig ar gyfer athrawon cychwynnol ac athrawon newydd gymhwyso a’r addysgeg a’r gwaith hyfforddi, mae’r ysgol bellach yn cryfhau ei gweithgarwch ymchwil weithredu i fod yn ychwanegiad hylaw ac ystyrlon at y dysgu proffesiynol sy’n digwydd. 

Mae cynorthwywyr cymorth dysgu yn yr ysgol yn elwa ar gyfleoedd dysgu proffesiynol cryf.  Trwy adolygiadau dysgu byr, mae cynorthwywyr cymorth dysgu yn myfyrio ar ansawdd ac effaith eu gwaith.  Mae’r adolygiadau hyn yn rhoi amser i staff cymorth fyfyrio ar ba mor dda y maent yn cyflwyno agweddau ar eu gwaith, beth mae angen ei wella o hyd a sut gall yr ysgol eu cynorthwyo.  Mae staff cymorth wedi arwain sesiynau dysgu proffesiynol gydag ysgolion ar draws y consortiwm hefyd ar rai o’r rhaglenni a ddatblygwyd gan yr ysgol.  Mae hyn wedi gwella eu hyder a’u medrau.

Deilliannau

O ganlyniad i’r camau gweithredu hyn, mae addysgu yn Herbert Thompson yn parhau i fod yn gryf iawn ac mae’r ysgol wedi cynnal ei harferion rhagorol.  Mae’r ysgol yn defnyddio tystiolaeth o ddeilliannau disgyblion, arsylwadau gwersi a sesiynau galw i mewn, craffu ar waith a gwrando ar ddysgwyr i lunio’r farn hon.  Mae pob un o’r disgyblion yn parhau i wneud cynnydd cryf iawn yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, gan gynnwys grwpiau o ddisgyblion sydd mewn perygl o dangyflawni.

Efallai mai’r gwahaniaeth mwyaf y mae’r ffocws ar addysgu wedi’i wneud yw bod arweinwyr, athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu i gyd yn rhannu pa mor eithriadol o falch a hapus ydynt o berthyn i gymuned yr ysgol.  Maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynorthwyo yn ogystal â’u herio i fod y gorau y gallant.  Maent yn parhau i gyfrannu’n sylweddol at gyfoethogi’r profiadau dysgu ar gyfer disgyblion yn yr ysgol.  Mae arweinwyr a phob un o’r staff yn cyflawni gweledigaeth yr ysgol, ac yn dangos y gwerthoedd a’r ymddygiadau cadarnhaol a amlinellir ar gyfer pob aelod o gymuned Herbert Thompson.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Trwy ei phrosesau hunanarfarnu trylwyr, mae’r ysgol wedi penderfynu canolbwyntio ar ddwy o’r egwyddorion addysgegol eleni.  Mae staff bellach yn cysylltu eu targedau rheoli perfformiad â’r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu a dysgu, ac yn benodol â dimensiwn addysgeg datblygu dysgu.  Gall athrawon ddewis o blith profiadau dysgu cyfunol neu gyd-destunau go iawn a dilys.  Fel rhan o reoli perfformiad, mae gan uwch arweinwyr darged monitro ac arfarnu effaith o’r safonau arwain newydd y maent yn eu cysylltu â gwella addysgeg.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd Parcyrhun ar gyrion tref Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin.  Mae tua 210 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae gan yr ysgol ffrwd Gymraeg a ffrwd Saesneg, a defnyddir y ddwy iaith ym mywyd yr ysgol o ddydd i ddydd.  Mae canolfan adnoddau i blant â nam ar eu clyw, sy’n gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, yn rhan ychwanegol o’r ysgol.  Mae’r ysgol wedi’i rhannu’n wyth dosbarth oedran cymysg yn y brif ffrwd, ac un ystafell ddosbarth ychwanegol yn y ganolfan adnoddau i blant â nam ar eu clyw.  Mae’r ysgol yn cyflogi deg o athrawon amser llawn, gan gynnwys y pennaeth, a dau athro rhan-amser. 

Mae ychydig dros 20% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 50% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol ac mae hyn yn cynnwys disgyblion sy’n mynychu’r ganolfan adnoddau.Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n dod o gartrefi Cymraeg eu hiaith neu gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Ni fu unrhyw newidiadau nodedig yn staff yr ysgol ers yr arolygiad.Penodwyd y pennaeth ym mis Ionawr 2009, yn dilyn cyfnod byr fel dirprwy bennaeth yr ysgol.

Strategaeth a chamau gweithredu

O’r cychwyn, roedd gan y pennaeth weledigaeth glir yn seiliedig ar sicrhau bod disgyblion yn Ysgol Parcyrhun yn cael addysg o’r safon uchaf i’w galluogi i gyflawni hyd eithaf eu gallu.  Pan ddechreuodd weithio yno, sylweddolodd pa mor hanfodol yw rôl yr ysgol o ran darparu profiadau eang a chyfoethog ar gyfer ei disgyblion.

Yn fuan ar ôl dechrau ar ei swydd fel pennaeth, penododd y dirprwy bennaeth, sy’n rhannu ei gweledigaeth ac yn gweithio’n effeithiol gyda hi.  Gyda’i gilydd, maent yn rhoi cynlluniau monitro, hunanarfarnu a chynlluniau strategol ar waith i’w galluogi i nodi cryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w gwella.  O ganlyniad, penderfynwyd bod angen codi disgwyliadau athrawon o’r hyn y gallai disgyblion ei gyflawni, roedd angen sefydlu gweithdrefnau atebolrwydd ac roedd angen i arfer orau mewn addysgu fod yn gyson ar draws yr ysgol.  Mae’r astudiaeth achos hon yn canolbwyntio ar sicrhau cysondeb mewn arfer addysgu effeithiol ar draws yr ysgol.

Sefydlodd arweinwyr egwyddorion sylfaenol yn gynnar i sicrhau bod yr addysgu yn effeithiol.  Roedd y rhain yn cynnwys darparu cyfleoedd a chymorth dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer staff, a sicrhau bod ganddynt adnoddau priodol i gyflawni eu rolau’n llwyddiannus. 

Mae gweithdrefnau ar gyfer monitro a rheoli perfformiad staff bellach yn rhan annatod o waith yr ysgol, ac yn ffordd o gydnabod arfer dda a nodi anghenion datblygu pob unigolyn.  Mae arweinwyr yn trefnu gweithgareddau dysgu proffesiynol penodol i fynd i’r afael ag anghenion datblygu pob aelod o staff.  Maent yn arfarnu dysgu proffesiynol yn fanwl ac yn nodi ei effaith yn glir.  Mae cyfleoedd dysgu proffesiynol yn amrywio yn ôl angen unigol ac yn cynnwys gweithgareddau fel mynychu cyrsiau allanol, rhannu arfer dda o fewn ac ar draws yr ysgol ac ysgolion eraill, neu weithio gydag aelod arall o staff sydd ag arbenigedd penodol.

Mae ffocws clir ar ddisgwyliadau uchel a darpariaeth gyson ar draws yr ysgol, yn enwedig rhwng y ddwy ffrwd.  Er mwyn sicrhau hyn a lleihau’r baich gwaith, mae athrawon yn aml yn gweithio mewn parau i gynllunio gwersi, cynhyrchu adnoddau a chymedroli asesiadau.  Mae hyn yn gyfle da iddynt rannu eu harbenigedd, a chynorthwyo a herio syniadau ei gilydd. 

Un o weithdrefnau mwyaf effeithiol yr ysgol i sicrhau cysondeb a safonau uchel o ran addysgu yw’r wythnos fonitro y mae’n ei chynnal bob tymor.  Rhoddir proffil uchel i’r wythnos fonitro yng nghalendr tymhorol yr ysgol ac mae’n fforwm i alluogi arweinwyr ar bob lefel i arfarnu addysgu a dysgu a rhannu arfer dda.  Mae arweinwyr, trwy ymgynghori ag athrawon, yn cytuno ar ffocws penodol ar gyfer yr wythnos, er enghraifft rhifedd, llythrennedd neu ddysgu annibynnol.  Mae arweinwyr yn trefnu cyfleoedd defnyddiol i aelodau staff ymweld â dosbarthiadau ei gilydd i arsylwi arfer a chraffu ar waith disgyblion.  Yn ystod yr wythnos, maent yn gwahodd llywodraethwyr sydd â chysylltiad penodol â maes penodol i gymryd rhan mewn teithiau dysgu.  Mae hyn yn cyfoethogi ymwybyddiaeth llywodraethwyr o waith yr ysgol ac yn galluogi iddynt weithredu’n well yn eu rôl strategol.

O ganlyniad i’r cydweithrediad rheolaidd a llwyddiannus rhwng staff, maent bellach yn agored iawn â’i gilydd, yn onest â’u barnau ac yn fodlon cynorthwyo’i gilydd i wella er mwyn darparu’r addysg orau posibl ar gyfer disgyblion.  Mae arweinwyr yn ystyried syniadau staff wrth gyflwyno strategaethau newydd, sy’n annog perchnogaeth a brwdfrydedd. 

Er mwyn cyfoethogi hyn ymhellach, mae arweinwyr wedi dechrau’r arfer o ymgysylltu â disgyblion trwy holiaduron.  Er enghraifft, mae cwestiynau arolwg yn gofyn pa fath o ddysgwyr ydynt yn eu barn nhw, pa strategaethau sillafu sy’n gweithio orau iddyn nhw a sut maent yn hoffi dysgu medrau cyfrifiadurol newydd. 

Mae arferion athrawon bellach yn effeithiol ac yn seiliedig ar nifer o egwyddorion addysgol sy’n ymwneud â’r pedwar diben a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).  Maent yn rhoi ffocws clir ar wella medrau llythrennedd disgyblion mewn Cymraeg a Saesneg, medrau rhifedd a medrau TGCh, ac yn darparu cyfleoedd rheolaidd iddynt gymhwyso’r medrau yn naturiol ar draws y cwricwlwm.  Mae gwersi’n ennyn diddordeb bron pob un o’r disgyblion ac yn hyrwyddo eu medrau meddwl, eu hannibyniaeth a’u medrau cydweithredu yn dda.

Nid sicrhau addysgu da yw’r nod ynddo’i hun mwyach; mae bellach yn ymwneud yn fwy â rhannu a chynnal rhagoriaeth.

Deilliannau

Mae gan arweinwyr ddealltwriaeth glir o gryfderau’r ysgol a’i meysydd i’w gwella.  Defnyddiant y wybodaeth hon yn dda i osod blaenoriaethau priodol ar gyfer cynllun datblygu’r ysgol.

Mae pob un o athrawon yr ysgol yn ymroddedig a hyderus yn eu gwaith.  Maent yn agored a gonest â’i gilydd ac yn ffrindiau beirniadol effeithiol.  Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel ohonyn nhw eu hunain a disgyblion, ac yn fodlon rhoi cynnig ar syniadau newydd.  Mae athrawon wedi ymgorffori egwyddor cysondeb ar draws yr ysgol.  Maent yn gweithio’n effeithiol i sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael y ddarpariaeth orau posibl. 

Mae safonau dysgu disgyblion wedi gwella’n gyson dros y blynyddoedd diwethaf.  Mae bron pob un o’r disgyblion bellach yn siarad yn hyderus am eu gwaith ac yn trafod cysyniadau cymhleth yn hyderus.  Maent yn mynegi eu barn yn huawdl ac yn gwerthfawrogi’r hyn y mae’r ysgol yn ei wneud drostynt. 

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Gan ddefnyddio’i chynlluniau thematig presennol, bydd yr ysgol yn adeiladu ar yr arfer ragorol sy’n bodoli er mwyn datblygu pob un o 12 egwyddor addysgegol Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Ysgol gymysg 11-16 oed yw Ysgol Gyfun Pontarddulais a gynhelir gan awdurdod lleol Abertawe.  Mae tua 800 o ddisgyblion ar y gofrestr.  Mae’r ysgol yn cynnal uned sy’n cynorthwyo disgyblion cyfnod allweddol 3 a chyfnod allweddol 4 sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog ar draws yr awdurdod lleol.  Mae’r ysgol yn gwasanaethu disgyblion o Bontarddulais a’r pentrefi cyfagos.  Mae tua 15% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 29% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ryw 3% o ddisgyblion anghenion addysgol arbennig.  Daw’r rhan fwyaf o ddisgyblion o gefndir gwyn Prydeinig ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref. 

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2011.  Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth yn cynnwys dau ddirprwy bennaeth a dau bennaeth cynorthwyol dros dro.

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.

Mae’r ysgol wedi ailstrwythuro ei staffio yn ddiweddar i gyd-fynd â phedwar diben craidd Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015).

Strategaeth a chamau gweithredu

Mae arweinwyr yn rhoi pwyslais cryf ar sicrhau bod staff yn arwain ar fentrau gwella’r ysgol a bod athrawon yn arwain, datblygu a mireinio arferion addysgegol yr ysgol.  Mae hyn wedi sicrhau bod hinsawdd ddysgu gadarnhaol ar draws yr ysgol.  Caiff staff Pontarddulais eu cynnwys yn llawn mewn ffurfio a gweithredu cynllun datblygu’r ysgol.  Mae’r pennaeth a’r uwch dîm yn cynnal diwrnod cynllunio datblygiad yr ysgol ar ddydd Sadwrn mewn lleoliad allanol yn y ddinas, sydd, ynghyd â chylch hunanarfarnu trylwyr yr ysgol, yn helpu ffurfio blaenoriaethau allweddol.  Mae llawer o staff yn mynychu’r digwyddiad gwirfoddol hwn ac mae hyn wedi helpu parhau i feithrin ymagwedd gyfunol a chynhwysol at wella’r ysgol.  Mae pob un o’r staff yn aelodau o weithgorau sy’n arwain ar y blaenoriaethau allweddol hyn ac felly maent yn eiriolwyr ar gyfer mentrau ysgol gyfan. 

Er mwyn codi disgwyliadau yn eu hadrannau, mae arweinwyr canol yn gosod targedau uchelgeisiol gan ddefnyddio data gwerth ychwanegol.  Maent yn defnyddio dull fforensig i fonitro cynnydd disgyblion trwy gylch olrhain naw wythnos sy’n seiliedig ar asesu wedi’i amserlennu’n ystyriol ar draws pynciau.  Mae hyn yn arwain at wiriad cynnydd ystyrlon ar gyfer pob disgybl.  Mae gan ddisgyblion berchnogaeth o’u dysgu a’u cynnydd trwy’r system hon ac maent yn myfyrio o ddifrif ar eu dysgu a’u cynnydd.  Mae’r ysgol yn rhannu’r gwaith hwn yn effeithiol gyda rhieni a gofalwyr.  Mae hyn yn creu perthynas gefnogol ar y ddwy ochr sy’n canolbwyntio ar wella safonau.  Mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth hon yn fuddiol i lywio eu cynllunio ac ymyrryd yn gynnar pan fydd disgyblion mewn perygl o dangyflawni.  Pan fo’n briodol, mae’r ysgol yn defnyddio rhaglenni ymyrraeth hynod effeithiol yn y ddau gyfnod allweddol i gynorthwyo disgyblion sydd â medrau gwannach.  Mae’r rhaglenni hyn yn magu hyder ymhlith disgyblion ar draws y cwricwlwm ac maent yn nodwedd gref o waith yr ysgol.  

Dros gyfnod, mae’r pennaeth wedi sefydlu a chynnal hinsawdd ddysgu gadarnhaol lle mae athrawon yn arwain ac ymgorffori newid ac arloesedd.  Ceir diwylliant o rannu arfer dda a rhagorol a dull hunanarfarnol agored a thryloyw ym mhob agwedd ar waith yr ysgol.  Er enghraifft, mae dull yr ysgol gyfan o gyflwyno’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wedi sicrhau bod datblygu medrau yn rhan annatod a sylfaenol o becyn canllawiau addysgegol pob athro.  Trwy weithio gyda’i gilydd, arweiniodd athrawon ar sut i ymgorffori medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm.  Mae hyn wedi arwain at lefelau uchel iawn o gysondeb mewn dulliau darllen ac ysgrifennu a lefelau uchel o hyder disgyblion wrth ddarllen testunau cymhleth ac wrth ymgymryd ag ystod eang o dasgau ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd a dibenion.

Mae athrawon wedi rhoi newidiadau effeithiol iawn ar waith hefyd yn null yr ysgol o farcio a rhoi adborth.  Ymgymerodd gweithgor o athrawon â phrosiect ymchwil weithredu i geisio gwella dull cyson o farcio diagnostig ac atebion disgyblion.  Roedd y grŵp hwn yn awyddus i sicrhau cyfatebiaeth rhwng ethos yr ysgol a’i diwylliant o feddylfryd twf fel rhan o’r gwaith hwn ar asesu.  O ganlyniad, fe wnaethant ddiwygio polisi marcio’r ysgol ac egluro dull yr ysgol o farcio nodweddion technegol gwaith disgyblion.  Yn bwysicaf oll, dechreuodd y grŵp dan arweiniad athro ddull cyson o roi cyfleoedd i ddisgyblion ymateb i adborth gan athro yn dilyn tasgau asesu allweddol trwy gyflwyno amser ‘STAR’ dynodedig (aros (stop), meddwl (think), gweithredu (act) a myfyrio (reflect)).  O ganlyniad i hyn, mae disgyblion yn cymryd perchnogaeth bwrpasol o’u dysgu ac wedi eu helpu nid yn unig i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella ond mae hefyd wedi rhoi cyfleoedd rheolaidd ac amserol iddynt wneud hynny.

Deilliannau

Mae gan yr ysgol ddiwylliant cyfoethog o gymorth, her a chydweithio.  Mae arweinyddiaeth gref ar bob lefel wedi galluogi i’r ffocws ar ddysgu ac addysgu ffynnu.  Mae’r pennaeth a’r tîm arweinyddiaeth wedi sefydlu ethos o ragoriaeth ym mhob agwedd ar waith yr ysgol.  Mae ganddynt ddisgwyliadau uchel o bawb yng nghymuned yr ysgol, ynghyd ag ymddiriedaeth gynhenid yn eu staff.  Mae gan yr ysgol systemau trylwyr ar gyfer hunanarfarnu ac ar gyfer casglu tystiolaeth uniongyrchol ac fe gaiff hyn ei gyfateb â datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu haenog sydd wedi’i gynllunio’n effeithiol iawn ar gyfer pob un o’r staff.  Mae cyfuno’r diwylliant a gafodd ei greu a’i feithrin gan y pennaeth a’i thîm, a’u hymddiriedaeth mewn darpar arweinwyr i arwain a rheoli datblygiadau ysgol gyfan, wedi sicrhau deilliannau rhagorol ac ymagweddau arloesol at addysgeg dros gyfnod.

O ganlyniad i’r diwylliant a’r dull hwn, mae disgyblion yn Ysgol Gyfun Pontarddulais yn deall ac yn ymfalchïo yn ethos yr ysgol a’i disgwyliadau o addysgu a dysgu o’r ansawdd gorau.  Gall disgyblion ddisgrifio’n hyderus ffocws yr ysgol ar safonau a’r perthnasoedd gweithio rhagorol rhwng athrawon a disgyblion, sy’n golygu bod disgyblion yn teimlo y cânt eu gwerthfawrogi a’u hadnabod fel unigolion.  Mae gan ddisgyblion lefelau uchel o ymgysylltiad a chymhelliant yn eu dysgu.  Maent yn dangos medrau darllen, ysgrifennu a rhifedd cryf ar draws y cwricwlwm, ac mae’r safonau cyffredinol a gyflawnir gan ddisgyblion ymhell uwchlaw disgwyliadau wedi’u modelu.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod arweinyddiaeth yn parhau i ganolbwyntio ar addysgu, dysgu ac asesu, a thrwy ei rôl arloesi, bydd yr ysgol yn ceisio rhannu ei harfer dda a dysgu oddi wrth ysgolion eraill yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Ysgol cyfrwng Saesneg 11-19 oed yw Ysgol Gyfun Y Pant, a gynhelir gan awdurdod lleol Rhondda Cynon Taf.  Mae’n gwasanaethu ardaloedd Pont-y-clun, Tonysguboriau, Brynna a Llanhari.  Mae tua 1,300 o ddisgyblion ar y gofrestr, ac mae 205 ohonynt yn y chweched dosbarth.  Mae bron pob un o’r disgyblion yn siarad Saesneg fel eu mamiaith ac yn dod o gefndir gwyn Prydeinig.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae tua 10% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan ryw 12% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.

Mae’r pennaeth adeg yr arolygiad ym mis Ionawr 2017 bellach wedi gadael yr ysgol.   Ar hyn o bryd, mae pennaeth dros dro a dirprwy bennaeth dros dro yr oedd y naill a’r llall yn yr ysgol adeg yr arolygiad yn arwain yr ysgol.

Mae’r ysgol yn ysgol arloesi ar hyn o bryd ac mae’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ysgolion eraill i fwrw ymlaen â datblygiadau sy’n ymwneud â’r cwricwlwm a dysgu proffesiynol arall.

Strategaeth a chamau gweithredu

Dros gyfnod, mae’r ysgol wedi datblygu dull tair rhan hynod effeithiol o gynnal a gwella safonau rhagorol mewn deilliannau ac addysgu.  Mae datblygu ymagwedd at addysgeg y mae staff yn ei deall ac yn ei chymhwyso’n gyson wedi bod yn ganolog i hyn.  Ar yr un pryd, mae’r ysgol wedi datblygu mecanweithiau cadarn i ddatblygu athrawon yn ymarferwyr myfyriol, gan alluogi cyfleoedd pwrpasol i gydweithwyr rannu a myfyrio’n dda ar arfer ei gilydd.  Yn olaf, mae’r ysgol wedi datblygu dull trylwyr o ddefnyddio data a thystiolaeth ansoddol i gefnogi ei harfarniad o addysgu a nodi meysydd pellach i’w gwella.

Mae cyd-ddealltwriaeth gref gan athrawon o’r effaith a gaiff addysgu effeithiol ar ddysgu a deilliannau disgyblion.  Mae hyn yn ganolog i ddull yr ysgol o ddatblygu addysgu. 

Mae polisi addysgu a dysgu’r ysgol yn disgrifio’i dull o addysgu a dysgu trwy egwyddorion allweddol.  Mae’r ysgol yn cyfeirio at yr egwyddorion hyn gyda’i gilydd fel ‘Ffordd Y Pant’ (‘Y Pant Way’).  Mae’r polisi yn esbonio’r dull yn glir.  Mae hyn yn cynorthwyo athrawon newydd yn yr ysgol.  Ar adegau strategol yng nghylch dysgu proffesiynol yr ysgol, mae arweinwyr yn atgyfnerthu a thrafod yr egwyddorion allweddol gyda phob un o’r staff.

Blaenoriaeth allweddol i dîm arweinyddiaeth yr ysgol wrth ddatblygu’r egwyddorion hyn fu sicrhau eu bod yn parhau’n syml, yn gofiadwy ac yn berthnasol.  Mae arweinwyr ac athrawon yn yr ysgol yn glir na ddylai’r dull hwn arwain at ddull fformiwläig neu dicio blychau o arfarnu addysgu sy’n atal datblygiad ymreolaeth athrawon unigol.  I’r gwrthwyneb, mae’r egwyddorion yn ffurfio fframwaith cyffredin i arwain a llywio trafodaethau am addysgu, dysgu a dysgu proffesiynol, lle caiff athrawon eu hannog i nodi a datblygu eu cryfderau eu hunain.  Mae hyn yn sicrhau cyfuniad cyfoethog ac amrywiol o brofiadau dysgu i ddisgyblion ar draws yr ysgol. 

Mae dull yr ysgol o addysgu a dysgu yn canolbwyntio ar yr egwyddorion hanfodol canlynol:

  • Mae strwythur clir i’r holl ddysgu
  • Cynhelir lefelau uchel o ymgysylltu
  • Caiff dysgwyr eu herio’n ddigonol
  • Ymgorfforir asesu ar gyfer dysgu
  • Mae gofynion trawsgwricwlaidd yn ystyrlon a pherthnasol
  • Mae perthnasoedd gweithio cadarnhaol a chefnogol rhwng athrawon a dysgwyr yn cefnogi dysgu

Mae arweinwyr a staff yn glir fod y ffocws cyson ar yr egwyddorion allweddol hyn gan bob un o’r staff wedi darparu man cychwyn hynod effeithiol ar gyfer trafodaethau am addysgu.  Dros gyfnod, mae hyn wedi arwain at ddatblygu arfer hynod gyson ar draws yr ysgol.  Mae hefyd wedi helpu creu diwylliant o ymreolaeth broffesiynol sy’n galluogi staff i roi gofynion polisi a mentrau cwricwlwm newydd ar waith mewn ffordd raddol, ystyriol a chymesur.

Mae prosesau sefydledig, sydd â’r nod o ddatblygu ethos o arfer fyfyriol yn yr ysgol, yn cryfhau’r dull cyson o addysgu a dysgu.  Mae’r ysgol wedi rhoi llawer o gyfleoedd perthnasol ar waith i athrawon rannu eu profiad  a’u harfer mewn cyd-destun sy’n caniatáu ar gyfer trafod a dadlau ystyrlon.  Er enghraifft, mae’r ysgol wedi symud oddi wrth yr arfer o ddefnyddio arsylwadau gwersi i farnu athrawon a gwersi, at un sy’n gweld arsylwadau fel cyfrwng ar gyfer nodi arfer orau a chyd-destun cyfoethog ar gyfer hyfforddi i athrawon sy’n ceisio gwella agweddau ar eu harfer.  Mae arsylwadau cymheiriaid, wedi’u cynnal gan aelodau o’r uwch dîm arweinyddiaeth ac arbenigwyr pwnc, yn helpu’r ysgol i gasglu gwybodaeth gyfoethog am y cryfderau a’r meysydd i’w gwella mewn addysgu ar draws yr ysgol.  Mae staff yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i lywio blaenoriaethau mewn cynlluniau gwella ysgol gyfan ac adrannol. 

Mae grwpiau bach o athrawon o fewn neu ar draws adrannau yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu, sydd â ffocws clir ar nodi beth sy’n gweithio’n dda.  Mae’r teithiau dysgu hyn yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i athrawon rannu a myfyrio ar arfer orau.  Mae arweinwyr yn neilltuo amser, fel rhan o raglen dysgu proffesiynol yr ysgol, i athrawon weithio gyda’i gilydd mewn grwpiau o dri neu chwech i gynllunio, cwblhau ac adrodd ar deithiau dysgu.  Mae staff yn rhannu a thrafod y canfyddiadau allweddol bob blwyddyn.

Mae’r grwpiau strategaeth ar ôl yr ysgol, sy’n rhan o amser cyfeiriedig athrawon, hefyd wedi rhoi cyfleoedd i staff ymgysylltu â phrosiectau ymchwil weithredu a’u datblygu.  Mae’r grwpiau hyn yn gweithredu fel fforymau trafod i alluogi staff i ddilyn hynt a helynt mentrau mewn addysg a datblygu ymwybyddiaeth cydweithwyr o arferion addysgegol.  Yn ystod blwyddyn gyntaf y cylch presennol, dewisodd arweinwyr ystod o destunau academaidd i’w trafod.  Dewisodd staff destunau oedd fwyaf perthnasol iddynt yn eu barn nhw, a chyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn i ddarllen a thrafod eu testun, gan roi crynodeb o’u gwaith i bob un o’r staff ar ddiwedd y flwyddyn.  Roedd athrawon yn gwerthfawrogi’r cyfle i archwilio a datblygu eu dealltwriaeth o’r syniadau hyn yn eu hamser eu hunain, yn hytrach na derbyn gwybodaeth yn oddefol gan yr uwch dîm arweinyddiaeth.  Yn ystod ail flwyddyn y cylch, cafodd cydweithwyr eu hannog i ystyried cymwysiadau ymarferol yr hyn roeddent wedi ei ddarganfod a dechrau prosiectau ymchwil weithredu unigol neu ar y cyd.

Mae’r ysgol yn ychwanegu at rannu arfer addysgegol dda a ddisgrifir uchod gyda diwrnodau dysgu proffesiynol o ansawdd da.  Caiff staff ar draws yr ysgol gyfleoedd buddiol i gynllunio a chyflwyno’r rhain.  Mae athro’n arwain pob sesiwn ac yn canolbwyntio ar faes y nodwyd ei fod yn arfer orau yn ei faes cyfrifoldeb ei hun.  Er bod y diwrnodau a’r sesiynau hyn yn mynd i’r afael yn rheolaidd ag anghenion datblygiadol ysgol gyfan, mae arweinwyr yn sicrhau bod cyfleoedd rheolaidd i athrawon elwa ar ddewis mwy amrywiol o weithgareddau dysgu proffesiynol sy’n adlewyrchu eu hanghenion unigol.

Yn ychwanegol, mae ymglymiad yr ysgol â rhwydweithiau ysgolion eraill, er enghraifft trwy ei gwaith fel ysgol arloesi ac ysgol hwb dysgu proffesiynol ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De, wedi darparu cyfleoedd ystyrlon i staff weithio gydag ysgolion eraill i rannu a chasglu arfer orau.

Mae elfen olaf dull strategol yr ysgol o wella safonau mewn deilliannau ac addysgu yn ymwneud â’i dull trylwyr o ddefnyddio data a ffynonellau eraill o dystiolaeth ansoddol.  Mae’r ysgol wedi sefydlu gweithdrefnau trylwyr i arfarnu cynnydd disgyblion trwy ddatblygu ei mesur gwerth ychwanegol ei hun, sef ‘Gweddilleb Y Pant’ (‘Y Pant residual’), y mae’n ei ddefnyddio i olrhain a monitro cynnydd disgyblion yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5.  Mae arweinwyr canol yn cynnal adolygiadau adrannol ar gyfer pob adran bob blwyddyn, gan ddefnyddio’r wybodaeth hon yn ogystal â’r deilliannau o weithgareddau craffu ar waith a llais y disgybl, arsylwadau gwersi a theithiau dysgu.  Mae’r adolygiadau hyn yn darparu trosolwg cynhwysfawr o waith yr adran, gan lywio hunanarfarnu a chynllunio gwelliant adrannol.  Mae’r gweithgareddau hyn yn llywio hunanarfarnu a chynllunio gwelliant yn eu tro. 

Mae cyfarfodydd sicrhau ansawdd adrannol rheolaidd yn sicrhau bod staff ar draws yr ysgol yn cael eu cynnwys mewn arfarnu safonau gwaith disgyblion ac yn darparu cyfleoedd pellach i staff gyfnewid syniadau a rhannu arfer.  Mae’r gweithdrefnau hyn wedi helpu cryfhau gallu arweinwyr canol ar draws yr ysgol a sicrhau bod gan uwch arweinwyr ac arweinwyr canol ddull cyffredin o arfarnu safonau a nodi blaenoriaethau i’w gwella. 

Mae’r ysgol yn ystyried data ar gynnydd disgyblion, deilliannau gweithgareddau llais y disgybl a chraffu ar waith fel y dangosyddion allweddol wrth arfarnu addysgu a dysgu yn yr ysgol.  Mae arweinwyr yn teimlo bod y gweithgareddau hyn yn darparu ffynhonnell wybodaeth fwy dibynadwy ac addysgiadol o lawer i nodi cryfderau’r ysgol a’i blaenoriaethau gwella na dibynnu ar ddeilliannau arsylwadau gwersi yn unig.

Deilliannau

Mae’r ysgol yn dangos cryfderau ei dull o ddatblygu addysgu o ansawdd uchel trwy’r deilliannau cyson uchel a gyflawnir gan ddisgyblion.  Mewn gwersi a thros gyfnod, mae disgyblion yn Ysgol Gyfun Y Pant yn gwneud cynnydd cyson gryf.  Ar ddiwedd cyfnod allweddol 4, mae perfformiad yn gyson uwchlaw deilliannau wedi’u modelu, ac yn cymharu’n dda iawn â pherfformiad ysgolion tebyg ar sail bod yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae disgyblion sy’n fwy abl yn gwneud yn eithriadol o dda.  Mae bechgyn, merched a disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn perfformio’n well na’r grwpiau hyn o ddisgyblion mewn ysgolion tebyg  (Llywodraeth Cymru, 2017c).

Barnodd adroddiad arolygiad Estyn ym mis Ionawr 2017 fod ansawdd yr addysgu yn yr ysgol yn rhagorol ar y cyfan.  Dywedodd arolygwyr fod yr ysgol yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu proffesiynol a bod hyn yn arwain at arfer ystafell ddosbarth hynod gyson ac effeithiol.  Mae’r ysgol yn darparu llawer o gyfleoedd gwerthfawr i athrawon wella eu medrau, gan gynnwys cymryd rhan mewn ymchwil, sydd o fudd i’w harfer eu hunain ac arfer cydweithwyr eraill.  Mae’r ysgol yn mynd ati i gynorthwyo ysgolion eraill, a chydweithio â nhw.  Mae hyn wedi cryfhau arfer athrawon yn yr ysgol.

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

Wrth iddi symud ymlaen, mae’r ysgol yn glir am yr heriau y mae’n eu hwynebu a’r angen i barhau i ddatblygu a mireinio ei harfer i sicrhau’r deilliannau gorau posibl ar gyfer ei disgyblion.  Mae ei chamau nesaf yn cynnwys:

  • sicrhau bod teithiau dysgu a datblygiad proffesiynol athrawon yn canolbwyntio ar strategaethau i wella ymgysylltiad bechgyn â dysgu
  • datblygu cydweithio ag ysgolion cynradd clwstwr ynglŷn â dulliau cyffredin o sicrhau dysgu ac addysgu rhagorol, gan gynnwys teithiau dysgu ar draws sectorau
  • datblygu rôl disgyblion a llywodraethwyr mewn teithiau dysgu
  • sicrhau bod egwyddorion allweddol yr ysgol ynghylch dysgu ac addysgu yn cael eu rhannu’n fwy effeithiol gyda rhieni
  • datblygu mesurau cynnydd cadarn yng nghyfnod allweddol 3 yn unol â’r dull a ddefnyddir yng nghyfnod allweddol 4 a chyfnod allweddol 5

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru San Siôr ym mhentref bach Llan San Siôr, ger Abergele yng Nghonwy.  Mae 61 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol ar hyn o bryd, ac mae chwech ohonynt yn mynychu’r dosbarth meithrin yn rhan-amser.  Mae’r ysgol wedi’i threfnu’n dri dosbarth oedran cymysg.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig.  Mae rhai disgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae tua 17% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 22% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd er mis Medi 2010.  Mae ganddo ymrwymiad addysgu o ddeuddydd a hanner bob wythnos, o leiaf.  Mae tîm arweinyddiaeth yr ysgol yn cynnwys y pennaeth ac athro sydd â chyfrifoldeb addysgu a dysgu rhan-amser.

Strategaeth a chamau gweithredu

Defnyddiodd y pennaeth ddeilliannau arolygu 2015 yn sbardun ar gyfer gwella.  Yn y lle cyntaf, nododd fod angen i’r ysgol fod yn fwy allblyg i ddod o hyd i ddulliau a fyddai’n gwella addysgu a dysgu a’u mabwysiadu.  Dechreuodd staff ymweld ag ysgolion lleol y nodwyd bod ganddynt safonau addysgu da.  Dros gyfnod o ryw wyth wythnos, ymwelodd athrawon ag ysgolion eraill i arsylwi gwersi, i nodi arfer dda a gweithio ar gynllunio i ddisgyblion o wahanol alluoedd.  Ar yr un pryd, mabwysiadodd yr ysgol ‘siarter addysgu’.  Fe wnaeth y continwwm hwn o ddisgrifyddion addysgu helpu athrawon i ddeall sut olwg fyddai ar arfer dda yn eu hystafelloedd dosbarth.  Roeddent yn gallu nodi llawer o rinweddau arfer dda a ddyfynnwyd yn y siarter trwy eu harsylwadau o’u hysgol bartner, a’u gwaith gyda hi.  Roedd y camau hyn yn effeithiol o ran codi disgwyliadau athrawon o’u gwaith, eu cynorthwyo i fyfyrio ar eu harfer eu hunain ac o ran sicrhau lefelau cysondeb yn ansawdd yr addysgu.  Er enghraifft, nododd adroddiad dilynol 2016 fod ‘pob un o’r athrawon yn defnyddio dulliau cyson, fel rhannu bwriadau dysgu gyda disgyblion ar ddechrau gwersi a sesiynau llawn, defnyddiol ar ddiwedd pob sesiwn’.  O ganlyniad i ddisgwyliadau uwch ac ymwybyddiaeth ddatblygol o ddulliau addysgegol, mae’r rhan fwyaf o athrawon yn defnyddio ystod addas o strategaethau asesu ar gyfer dysgu yn llwyddiannus erbyn hyn.  Er enghraifft, mae disgyblion y cyfnod sylfaen bellach yn nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yn dda yn eu gwaith eu hunain a gwaith disgyblion eraill trwy adborth llafar a thrwy ddefnyddio system raddio goleuadau traffig.

Defnyddiodd arweinwyr yr ysgol argymhellion arolygiad am agweddau ar eu harweinyddiaeth i wella’r addysgu ymhellach.  Er enghraifft, fe wnaethant wella prosesau hunanarfarnu a dechrau gwneud defnydd effeithiol o reoli perfformiad staff.  Dechreuodd arweinwyr gynnwys pob un o’r staff mewn gweithgareddau monitro.  Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys craffu ar lyfrau disgyblion i arfarnu pa mor dda y gwnaeth adborth helpu disgyblion i wella eu gwaith.  Llywiodd y gweithgareddau hyn ddatblygiad proffesiynol ar gyfer pob un o’r staff, er enghraifft trwy edrych ar farcio effeithiol o ysgolion eraill.  Llwyddodd arweinwyr i yrru hyn yn ei flaen trwy osod targed rheoli perfformiad ar gyfer pob un o’r staff i wella ansawdd y marcio a’r adborth ar gyfer disgyblion.  Yn 2016, nododd arolygwyr fod ‘trefniadau ar gyfer marcio ac adborth i ddisgyblion yn effeithiol ac yn helpu disgyblion i ddeall beth maent wedi’i wneud yn dda a’r hyn y mae angen iddynt ei wneud i wella ymhellach’.  Roedd y rhain yn weithgareddau datblygu tîm pwysig a oedd yn cynorthwyo’r staff i ddeall eu rôl ar y cyd i gyflymu cynnydd disgyblion a phwysigrwydd helpu ei gilydd. 

Mae staff wedi datblygu’r ethos tîm hwn yn llwyddiannus i rannu cynllunio.  Maent yn cynllunio profiadau dysgu disgyblion ar y cyd gan ddefnyddio platfform dysgu digidol  HWB.  Mae hyn yn effeithiol o ran galluogi pob un o’r staff i weld cynllunio’i gilydd, er enghraifft i weld sut mae cydweithwyr yn darparu ar gyfer anghenion disgyblion o wahanol alluoedd.

Mae arweinwyr yn dechrau gwneud defnydd effeithiol o arsylwadau gwersi erbyn hyn i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella mewn addysgu.  Mae’r arsylwadau hyn yn defnyddio nodweddion arfer effeithiol a amlinellir yn y siarter addysgu.  Maent yn cynnwys arfarniadau addas o effaith yr addysgu ar gynnydd disgyblion.  Fodd bynnag, yn y cyfnod hwn yn ystod taith yr ysgol, mae’r pennaeth yn tueddu i gynnal yr arsylwadau hyn gyda chymorth ymgynghorwyr her.  Ni chaiff athrawon eraill yn yr ysgol eu cynnwys mewn arsylwadau gwersi ffurfiol eto.  Nid yw’r ysgol wedi cyrraedd cyfnod gosod targedau unigol pwrpasol eto ar gyfer athrawon ar sail dadansoddiad manwl o’u cryfderau a’u meysydd i’w datblygu.  Ar hyn o bryd, mae arsylwadau gwersi yn tueddu i droi o gwmpas y broses rheoli perfformiad ac nid ydynt yn ymddangos fel strategaeth barhaus i hyrwyddo twf proffesiynol.

Caiff athrawon gyfleoedd datblygiad proffesiynol ychwanegol defnyddiol i wella agweddau ar eu gwaith.  Er enghraifft, mae hyfforddiant i ddefnyddio dulliau penodol o ddatblygu medrau siarad ac ysgrifennu disgyblion yn effeithiol.  O’i gyfuno â mentrau gwella eraill fel datblygiadau i farcio ac adborth, caiff yr hyfforddiant hwn effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion.  Mae hyfforddiant i wella dealltwriaeth o addysgeg y cyfnod sylfaen a’r gallu i’w rhoi ar waith, wedi cael effaith gadarnhaol ar y cyfan.  Erbyn hyn, mae’r ysgol yn sicrhau bod cydbwysedd addas o gyfleoedd i ddisgyblion ddysgu trwy chwarae a phrofiadau yn ogystal ag ystod dda o weithgareddau wedi’u harwain gan oedolion.  O’i chyfuno, mae’r ddarpariaeth hon yn galluogi disgyblion i gaffael, datblygu a chymhwyso eu medrau’n briodol. 

Mae arweinwyr yr ysgol yn datblygu gwelliannau diweddar i greu momentwm ar gyfer newidiadau addysgegol ehangach.  Mae hyn yn cefnogi’r agenda genedlaethol ar gyfer diwygio’r cwricwlwm yn briodol.  Er enghraifft, mae arweinwyr yn trefnu gweithgareddau dysgu proffesiynol sydd wedi’u hanelu at ddatblygu disgyblion i fod yn ddysgwyr gwydn, ac yn annog staff i fanteisio’n fwy ar adnoddau digidol i gefnogi dysgu disgyblion.  Mae’r ysgol yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gydweithio’n effeithiol, er enghraifft i gynllunio profiadau dysgu dilys a go iawn, fel digwyddiadau   ‘Masnach Deg’.

Deilliannau

  • Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd cryf ers ei harolygiad diweddaraf o ran gwella ansawdd yr addysgu ac o ran rhoi addysgeg y cyfnod sylfaen ar waith
  • Mae’r ysgol wedi datblygu cyd-ddealltwriaeth o beth sy’n gwneud addysgu da
  • Mae staff yn cydweithio’n llwyddiannus ac yn gwneud defnydd da o gyfleoedd dysgu proffesiynol i wella eu harfer
  • Mae ansawdd yr addysgu yn sicrhau bod llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da o’u mannau cychwyn 
  • Mae’r ysgol yn defnyddio a datblygu ystod addas o ddulliau i adolygu ansawdd yr addysgu’n gyson
  • Mae arweinwyr yn dangos y gallu i wella addysgu ar lefel ysgol gyfan

Y camau nesaf fel y nodwyd gan yr ysgol

  • Datblygu gallu’r ysgol ymhellach i nodi cryfderau a gwendidau mewn addysgu yn annibynnol
  • Parhau i ddefnyddio tystiolaeth uniongyrchol i nodi agweddau ar addysgu sydd angen eu gwella ar lefel ysgol gyfan
  • Defnyddio’r dadansoddiad o dystiolaeth o ansawdd yr addysgu i osod targedau gwella unigol ar gyfer athrawon sy’n adlewyrchu eu hanghenion unigol fel dysgwyr proffesiynol
  • Datblygu trefniadau i athrawon fyfyrio ar y cynnydd y maent wedi’i wneud yn erbyn nodau gwella

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Fel ysgol arloesi ar gyfer datblygu’r cwricwlwm, nododd y broses hunanarfarnu fod meithrin annibyniaeth dysgwyr yn hollbwysig i ddatblygiad llwyddiannus y newidiadau arfaethedig i’r cwricwlwm.  Byddai hyn yn hanfodol er mwyn parhau i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu a chodi lefelau cyrhaeddiad, cyflawniad a lles.

Daeth pedwar diben y cwricwlwm newydd yn brif sbardun i sicrhau bod gweithgareddau dysgu cwricwlaidd ac allgyrsiol a oedd yn cael eu cynllunio yn ceisio datblygu annibyniaeth disgyblion drwy:

  • ymagwedd thematig drylwyr at gynllunio’r cwricwlwm, wedi’i harwain gan ddisgyblion

  • datblygu ymhellach effeithiolrwydd strategaethau asesu ar gyfer dysgu

  • cynllunio cydweithredol ac effeithiol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol (ADY), yn canolbwyntio ar y plentyn

  • datblygu ymhellach rolau ac effeithiolrwydd llawer o gynghorau disgyblion

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Roedd sicrhau bod gan ddisgyblion berchenogaeth ar eu dysgu yn ganolog i’r broses.  Ar ôl ymgynghori, datblygwyd ‘Wythnosau Arloesi’ ar sail pynciau yr oedd disgyblion wedi’u hawgrymu a’r cyngor ysgol wedi cytuno arnynt, er enghraifft ‘Portwll Cynhanes’ ac ‘Anelu at yr Aur’.

Fe wnaeth yr wythnosau hyn ganiatáu i staff fireinio’u haddysgeg, gan sicrhau bod y pedwar diben yn ganolog i bob profiad dysgu.  O ganlyniad, mae disgyblion yn ennill dealltwriaeth o’r medrau a’r wybodaeth y mae arnynt eu hangen i ddysgu’n effeithiol.  Er enghraifft, mae heriau annibynnol yn y cyfnod sylfaen, wedi’u hysbrydoli gan syniadau disgyblion, yn dangos pa mor dda mae disgyblion yn defnyddio medrau yn annibynnol.

Cyflwynwyd egwyddorion y cyfnod sylfaen ar draws cyfnod allweddol 2, gan ganolbwyntio i ddechrau ar Flwyddyn 3.  Roedd cyllid wedi galluogi staff profiadol y cyfnod sylfaen i weithio gydag athrawon Blwyddyn 3 i ddatblygu addysgeg.  Fe wnaeth datblygu cyfleoedd dysgu cyfoethog trwy heriau annibynnol a meysydd dysgu yng nghyfnod allweddol 2 ddatblygu annibyniaeth dysgwyr ymhellach.  Gwneir defnydd effeithiol o’r amgylchedd lleol ac arbenigedd yn y gymuned i gefnogi profiadau dysgu arloesol.  Mae’r ymagwedd hon bellach wedi’i gwreiddio ar draws yr ysgol.

Mae asesu ar gyfer dysgu yn ganolog i ddysgu ac addysgu ac mae disgyblion yn defnyddio strategaethau gwahanol i arfarnu eu dysgu, sy’n cyfrannu at ddatblygu medrau meddwl aeddfed ac effeithiol.  Mae adborth hynod effeithiol gan athrawon, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn cyfrannu’n effeithiol at ddatblygu dysgwyr annibynnol, hyderus.

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer ADY yn canolbwyntio ar y plentyn.  Mae proffiliau-un-dudalen yn cynnig darpariaeth o ansawdd uchel wedi’i haddasu’n unigol i ddisgyblion penodol, ac mae rhaglenni ymyrraeth hynod effeithiol yn ategu’r ddarpariaeth.  Mae’r staff sy’n cefnogi disgyblion yn wybodus ac yn cefnogi’u hanghenion yn dda, ac yn datblygu annibyniaeth disgyblion ar yr un pryd.

Caiff llais y disgybl ei gryfhau trwy nifer o bwyllgorau hynod effeithiol o ddisgyblion, gan gynnwys y cyngor ysgol, sy’n ymgymryd â rhan weithgar mewn penderfyniadau.  Mae’r ‘Llysgenhadon Efydd’ effeithiol tu hwnt yn arwain sesiynau gweithgarwch sy’n datblygu medrau corfforol disgyblion, ac mae’r ‘Criw Cymraeg’ yn cynorthwyo disgyblion iau i ddatblygu mwy o hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae amrywiaeth o brofiadau dysgu cyfoethog, sy’n gwreiddio’r pedwar diben, wedi cyfrannu at ddatblygu dysgwyr annibynnol llwyddiannus yn y gymuned ddysgu.

Pa effaith mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae canolbwyntio ar ddatblygu dysgwyr annibynnol o bob oedran a gallu wedi effeithio’n arwyddocaol ar safonau, lefelau lles a darpariaeth.  Mae llais y disgybl yn ganolog i bob cynllunio ac mae mwy o ymdeimlad ganddynt o berchnogaeth ar eu dysgu.

Mae strategaethau asesu ar gyfer dysgu llwyddiannus yn llywio gwaith cynllunio’r cwricwlwm gan athrawon, gan sicrhau bod profiadau dysgu yn addas ar gyfer pob disgybl ac yn datblygu annibyniaeth ar yr un pryd.  Er enghraifft, mae llawer o ysgrifenwyr amharod wedi goresgyn anawsterau gan eu bod wedi ymgolli yn eu dysgu.  Mae athrawon yn defnyddio syniadau disgyblion yn fedrus i ddarparu cwricwlwm eang, cytbwys a heriol, wedi’i wreiddio yng Nghymru a diwylliant Cymru.  I grynhoi, themâu sy’n amlygu’r cysylltiadau cyfoethog sy’n bodoli rhwng y meysydd dysgu a phrofiad yw’r rhai mwyaf effeithiol.

Mae disgyblion yn frwdfrydig ac yn dangos agwedd eithriadol o gadarnhaol tuag at ddysgu, gan wybod bod rhywun yn gwrando ar eu llais a’i fod yn effeithio’n uniongyrchol ar yr hyn maen nhw’n ei ddysgu, a sut.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer da?

Mae’r ysgol wedi rhannu’r arfer hon drwy:

  • gynhadledd genedlaethol yr Ysgolion Arloesi

  • astudiaeth achos a gyflwynwyd i gonsortia lleol

  • cyfarfodydd penaethiaid y sir

  • ymweliadau â’r ysgol gan grwpiau o athrawon / darlithwyr addysg gychwynnol athrawon

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae cyfranogiad plant neu ‘Llais y Plentyn’ , wedi bod yn rhan annatod o fywyd Ysgol Pen-y-bryn ers blynyddoedd.  Mae’r gweithdrefnau a’r cyfleoedd i ddisgyblion yn cael eu datblygu a’u gwella’n barhaus.

Yn 2009, bu’r ysgol yn rhan o grŵp peilot ‘Grŵp Effeithiolrwydd’ a oedd yn flaenoriaeth genedlaethol.  O ganlyniad, sefydlwyd grwpiau gwahanol i’r cynghorau ysgol ac Eco arferol,  sef  grwpiau ‘Plant Pesda’ er mwyn cael llais ac effaith ar y dysgu ac addysgu.

Un penderfyniad allweddol oedd cyllido amserlen benodol ar gyfer cyfarfodydd y grŵp.  Fel uwch dîm rheoli a chydlynwyr, sylweddolwyd yn fuan iawn bod y disgyblion yn cynnig sylwadau treiddgar a chywir wrth fonitro ac arfarnu nifer o feysydd er mwyn datblygu gwelliannau.

Mae cyfranogiad y disgyblion yn rhan greiddiol o weledigaeth yr ysgol.  Mae pob un disgybl yn adnabod y bod hawl ganddynt holi a rhannu syniadau a bod y rhain yn cael eu gweithredu er lles pawb yn yr ysgol.  Mae’r grwpiau yn adrodd yn ôl ar eu gwaith yn gyson i’r disgyblion ac i’r llywodraethwyr a’r rhieni. Trefnir cyfarfod blynyddol lle y caiff y rhieni gyflwyniadau gan y grwpiau yn esbonio’u gwaith wrth ddatblygu blaenoriaethau. Daw llond neuadd o rieni bob blwyddyn.  Dyma ble mae’r negeseuon pwysig ynglŷn â diogelwch y we, newidiadau yn y cwricwlwm, gwella presenoldeb, pwysigrwydd bwyta’n iach, ailgylchu, blaenoriaethau cenedlaethol, y siarter iaith ac unrhyw flaenoriaeth ysgol sy’n gyfredol.  Rhennir holiaduron yn y nosweithiau yma lle y ceir gwybodaeth ddefnyddiol gan y rhieni.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r gwahanol grwpiau yn gyfrifol am feysydd penodol yn effeithiol.

Mae gan bob grŵp eu rôl ac mae pob disgybl yn deall beth yw cyfrifoldeb pob grŵp.  Mae pob grŵp yn wahanol, gyda blaenoriaethau penodol i’w gweithredu er mwyn gwella meysydd pwrpasol.  Caiff pawb wybodaeth gyfredol drwy gyflwyniad, rhannu pamffledi, polisïau wedi eu haralleirio mewn iaith plant, arddangosfeydd amlwg yn esbonio’r gweithredu a’r canlyniadau neu ymweliadau i’r dosbarthiadau i addysgu maes penodol sydd yn flaenoriaeth.

Wrth gychwyn y grŵp effeithiolrwydd ‘Plant Pesda’ yn 2009, roedd aelodau’r grŵp yn cael eu dewis gan yr uwch dim rheoli a’r athrawon.  Bellach, mae’r gynrychiolaeth yn cael eu dewis gan aelodau o ddisgyblion Blwyddyn 6 ar ôl llunio meini prawf. 

Dyma’r grŵp sydd yng ngofal gweithredu gwelliannau y tu mewn i’r dosbarth, sef y ddarpariaeth, yr addysgu a’r dysgu.  Yn dilyn llunio holiadur a dadansoddi’r ymatebion, maent yn gyfrifol am gynllunio tasgau darllen a deall ar ffurf y profion cenedlaethol a’u cyflwyno i bob dosbarth.  Maent hefyd yn rhan o brosiect creu ‘ap y Ddraig’ gydag ysgolion tebyg ac yn cydweithio ag ysgolion yn y dalgylch ar dasgau cyswllt drwy dabledi cyfrifiadurol.  O ganlyniad, maent yn dysgu eu cyd-ddisgyblion ar sut i ddefnyddio tabledi cyfrifiadurol a’r meddalwedd defnyddiol sydd ar gael yn llwyddiannus.   Bu iddynt greu tasgau mathemateg pen amrywiol a chreu adnoddau trawsgwricwlaidd i’r athrawon eu defnyddio.  Aethpwyd ati i greu pamffled i rieni yn esbonio’r cwricwlwm newydd a llunio polisïau cyfredol fel y ‘Polisi e ddiogelwch’.  Maent yn llunio’r rhain yn benodol mewn iaith sydd yn haws i’w ddeall ac yn mynd i’r dosbarthiadau i’w gyflwyno.  Ar adegau mae aelodau yn cael cyfle i arsylwi gwersi a rhoi eu barn pan fydd angen penodi staff newydd.

Ffordd arall o sut mae’r disgyblion yn rhannu gwybodaeth am ddatblygiad strategol yr ysgol gyda’u cyfoedion yw drwy’r cyngor ysgol.  Mae aelodau’r cyngor ysgol yn cael eu hethol yn dilyn ysgrifennu araith sydd yn rhan o’r cynllun  iaith. Yma, maent yn ymgyfarwyddo a blaenoriaethau’r cynllun datblygu ysgol gyfredol ac yn mynegi barn gan esbonio pam y dylent gael eu hethol i’r swydd. Yn dilyn y cyfarfod cyntaf ym mis Medi 2017, penderfynodd y cyngor ysgol weithredu blaenoriaeth i wella presenoldeb.  Bu iddynt drefnu cystadleuaeth llunio poster i’r ysgol gyfan a chyfansoddi cerddi a rap i hybu presenoldeb.  O ran blaenoriaeth arall, bu iddynt arwain a gweithredu’r Siarter Iaith drwy gynllunio gemau buarth newydd a mynd i addysgu ym mhob dosbarth.  Bu iddynt ddadansoddi data a gwybodaeth o holiaduron am y Siarter Iaith a dewis camau gweithredu gan fynd i’r dosbarthiadau i esbonio’r camau a’u disgwyliadau.  Enghraifft arall yw’r cyngor yn derbyn argymhellion gan gyd-ddisgyblion ar gyfer gwelliannau yn amgylchedd tu allan i’r dosbarth. Y grŵp yma sydd wedi arwain i’r ysgol i dderbyn Cam 5 o gynllun Ysgolion Iach.

Mae’r Grŵp Eco yn cael eu hethol gan eu cyd ddisgyblion. Y grŵp hwn sydd yn gyfrifol bod yr ysgol yn parhau i fod mor ‘wyrdd ‘a phosib drwy gynnig gwelliannau i arbed ynni.  Maent yn rhoi cyfrifoldebau i bob dosbarth, gan fonitro’r gweithredu, ac yn ailgylchu a gwella’r defnydd o’r ychydig o dir gwyrdd sydd gan yr ysgol.  Maent hefyd yn trefnu a chynnal gweithgareddau masnach deg drwy gyflwyno tasgau i bob dosbarth.

Mae’r cyngor chwaraeon yn cael eu hethol gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 a’r cydlynydd addysg gorfforol,  gan enwebu rhai disgyblion sydd yn fwy abl a thalentog yn y maes.  Mae’r cyngor yn hybu ffitrwydd a chynnal gweithgareddau ar ôl ysgol i ddosbarthiadau yn eu tro, ac yn cefnogi gwaith y cynllun ysgolion iach.  Mae’n arferiad i rai ohonynt drosglwyddo i gyngor chwaraeon Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Trwy waith y grwpiau amrywiol mae medrau llythrennedd, rhifedd a TGCH y disgyblion yn cael eu datblygu yn dda neu well.  Mae’r ymdeimlad o berchnogaeth sydd gan yr holl ddysgwyr am eu dysgu yn amlwg.  Maent yn rhan o ethos gynhwysol sy’n cael effaith gadarnhaol iawn ar eu hymrwymiad i lwyddo a’u mwynhau o fod yn yr ysgol.  Mae gwelliannau parhaus mewn darpariaeth yn cael effaith cadarnhaol ar gyflawniad pob disgybl.  Mae data mewnol yn dangos bod bron pob un yn gwneud cynnydd da iawn.  Mae effaith amlwg i strategaethau’r ysgol, gan gynnwys cyfranogiad plant, sy’n rhoi cyfleoedd ymestynnol y byd go iawn i aelodau o’r grwpiau amrywiol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

  • Yr ysgol yn croesawu ysgolion eraill i drafod gyda’r grwpiau yn gyson, rhai ochr arall i’r wlad yn Abertawe, eraill ar draws yr awdurdod a phellach.

  • gwahoddir aelodau o’r grŵp i roi cyflwyniad o’u gwaith a’i effaith, er enghraifft ynglŷn ar strategaethau darllen mewn cynhadledd GwE.

  • gwahoddir y cydlynwyr, y dirprwy a’r pennaeth i roi cyflwyniadau mewn hyfforddiant llythrennedd, rhifedd, asesu ar gyfer dysgu, cynllun ysgolion iachac effaith cyfranogiad plant yn y meysydd hyn sicrhau gwybodaeth gyson ar wefan yr ysgol

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn cael ei chydnabod fel ysgol cyfnod sylfaen sydd a’i gweithdrefnau wedi ei seilio’n gadarn ar athroniaeth ac egwyddorion y cyfnod hwnnw.  Mae’r safonau yn gyson uchel ac yn benodol y nifer o ddisgyblion sy’n cyrraedd y deilliant uwch (deilliant 6).  Rhoddir blaenoriaeth gref i les a llesiant pob dysgwr.

Cychwyn y broses oedd canlyniad gweithgareddau hunanarfarnu yn nodi’r angen i ddatblygu tasgau heriol yn yr ardaloedd tu allan ac ymgorffori medrau trawsgwricwlaidd yn yr ardaloedd darpariaeth barhaus.  Bu hyn yn flaenoriaeth yn y cynllun datblygu ysgol ers blynyddoedd.

Bellach, mae’r amgylchedd ffisegol y tu mewn a thu allan i’r dosbarthiadau wedi eu cynllunio yn bwrpasol.  Mae hyn yn rhoi cyfleoedd cyfoethog i ddysgu gweithredol a thrwy brofiad mewn ardaloedd sydd yn hybu gweithio’n annibynnol. 

Anelir i ddarparu lefel her yr un mor uchel â’r tasgau ffocws.  Rhoddir yr un sylw manwl i gynllunio tasgau heriol yn y ddarpariaeth barhaus gyda’r ffocws ar dasgau trawsgwricwlaidd, er mwyn magu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCH disgyblion. Mae’r ysgol yn anelu i ddatblygu dysgwyr hyderus a chyfforddus ym mhob agwedd, er enghraifft wrth arddangos y cyfleoedd sydd mewn ‘bywyd go iawn’ i ddefnyddio llythrennedd, rhifedd a TGCH hefo’i gilydd yn hytrach na mewn sefyllfaoedd ar wahân.

Wrth weithredu ar flaenoriaethau a’r wybodaeth a ddaw o fonitro a gweithgareddau hunanarfarnu amrywiol mae’r staff yn cydweithio i gysoni nifer o ffactorau sydd yn effeithio ar y ddarpariaeth a’r safonau.  Wrth wraidd pob newid, mae awydd a’r angerdd i greu meddylfryd ysgol gyfan.  Felly, mae gwneud yn siŵr bod egwyddorion cadarn y cyfnod sylfaen yn y dosbarth meithrin a derbyn yn cael ei ddatblygu ymhellach ym Mlwyddyn 1 a 2 yn fan cychwyn pwysig.  Gyda phenodiadau staff newydd, roedd gofalu bod gan yr holl staff ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion y cyfnod sylfaen yn holl bwysig a threfnwyd hyfforddiant amrywiol er mwyn gallu datblygu meddylfryd addysgu’r blynyddoedd cynnar.  Bu ffocws pendant hefyd ar ddatblygu staff i ymateb i ddisgwyliadau deiliannau’r rhaglenni astudio fframwaith y cyfnod sylfaen ym Mlwyddyn 1 a 2.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Rhai arferion sydd yn effeithio ar annibyniaeth a medrau rhifedd yn benodol yw:

  • Athrawon a staff yn cyd-gynllunio thema mewn cyfarfodydd yn gyson er mwyn amlinellu medrau ac amcanion dysgu clir, gan ymateb i’r rheiny drwy gynllunio tasgau diddorol a chyfoethog sy’n cyfateb i ddisgwyliadau’r deiliannau uchaf.

  • Cyd-gynllunio sy’n gofalu nad oes ail-adrodd tasgau sydd â lefel her isel.

  • Athrawon ym mhob dosbarth yn cadw proffil un plentyn lefel uwch ar gyfer pob deilliant.Mae pob tasg yn y proffiliau wedi eu hasesu yn ôl disgwyliadau deilliannau llafar, darllen, ysgrifennu, a mathemateg.Mae hyn yn galluogi staff i fireinio ac addasu cynlluniau er mwyn rhoi cyfleoedd i’r dysgwyr gyrraedd y deilliannau uchel yn gyson.

  • Mynnu cysondebo un dosbarth i’r llall, er enghraifft drwy ddull gosod meini prawf ac asesu ar gyfer dysgu ‘Sali Seren’ o’r meithrin ymlaen, a defnyddio’r un strategaethau addysgu cysyniadau mathemategol ymhob dosbarth.Yn ogystal wrth fireinio dulliau ac amseru addysgu mathemateg pen drwy rannu arferion da o fewn yr ysgol.

  • Sicrhau fod staff yn defnyddio’r un ieithwedd wrth asesu ar gyfer dysgu. Modelu iaith addysgeg ‘ sut yda chi’n dysgu orau?’ ‘sut yda ni’n gwella’r gwaith?’ ‘beth am asesu’r gwaith hefo’n gilydd’, sut allwch chi wneud Sali Seren yn hapus?

  • Wrth gynllunio’r ardaloedd, mireiniwyd yr arferion drwy roi tasgau trawsgwricwlaidd i’w gweithredu a chyfleodd i ddatrys problemau oedd yn cynnwys cymhwyso rhifedd- ymhob ardal gan gynnwys yr ardal tu allan.Mae’r heriau’r un mor heriol a thrawsgwricwlaidd yn yr ardal tu allan ag ydynt mewn tasg ffocws.

  • Cynnal teithiau dysgu yn gyson.Mae’r rhai rhifedd yn benodol yn rhoi cyfleoedd i’r athrawon esbonio pwrpas pob ardal a pha sgiliau sydd yn cael eu datblygu ynddynt, sydd yn esgor ar drafodaethau a rhannu arferion da. Mae’n amlygu cryfderau a meysydd sydd angen eu datblygu.

  • Tasgau yn rhoi cyfleoedd cyson i ddysgu yn weithredol ac ymarferol.

  • Addasu’r ardaloedd yn gyson er mwyn cymhwyso cysyniadau mathemategol heriol, a’r rheiny wedi eu gwahaniaethu ar lefel briodol i ymestyn pob lefel gallu.

  • Tîm o gymorthyddion ymroddedig wedi eu hyfforddi a’u cynnwys yn y strategaethau ac mae’r heriau/ tasgau wedi eu gosod ymhob ardal ac yn weledol i bawb.Er enghraifft, fel lluniau a symbolau yn y dosbarth meithrin a derbyn er mwyn i’r dysgwyr allu gweithio’n annibynnol yn yr ardaloedd.

  • Rhoi bri ar gyfleoedd pob plentyn i gael llais cryf yn eu dysgu sydd yn esgor ar ymagwedd bositif a dyfalbarhad wrth iddynt lwyddo.

  • Y ddarpariaeth ar gyfer lles pob plentyn yn rhoi’r cyfle gorau posib iddynt ddysgu hyd eithaf eu gallu gan eu bod yn hapus a diogel yn yr ysgol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Yn dilyn arsylwi gwersi gyda’r ffocws ar rifedd dyma rai sylwadau o’r broses:

  • ‘Gwaith cydweithredol yn effeithiol iawn yn bron pob un o’r gwersi gyda’r arferion hynod yn arddangos gwaith pâr a grŵp effeithiol iawn gan lawer o’r plant. Gwelwyd arfer rhagorol gan barau yn helpu ei gilydd i wella a chywiro eu gwaith yn gyson a hyn yn amlwg yn rhan naturiol o drefn ac ethos y dysgu. Roeddynt yn dyfalbarhau ar dasgau heriol yn arbennig o dda.’

  • ‘Roedd bron pob un o’r disgyblion yn llawn brwdfrydedd wrth weithio ar y tasgau.’

  • ‘Cafodd y rhan fwyaf gyfle i wella’u gwaith – Yn yr arferion gorau, roedd cyfleoedd i atgyfnerthu a gwella’r dysgu yn digwydd yn gyson drwy’r wers yn erbyn y Meini prawf llwyddiant.’

  • ‘Gwelwyd datblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd, corfforol a TGCH llawn dychymyg yn yr ardal tu allan – effaith gweithredu ar flaenoriaeth “datblygu’r ardal tu allan” y cynllun datblygu ysgol.’

  • ‘Yn yr arferion gorau, roedd y cyfleoedd a’r cynllunio yn benodol ar gyfer hunan werthuso a barnu llwyddiant yn effeithio’n fawr ar y safonau. Yn bron pob un o’r gwersi cafodd y disgyblion gyfleoedd da i hunan asesu.’

  • ‘Roedd y cyfleoedd i adfyfyrio yn rhan o gynllun y gwersi ac mae hyn yn arfer dda.’

  • ‘Roedd cyfleoedd da a da iawn i bron bob un weithio’n annibynnol- ar ei orau roedd y tasgau yn hyrwyddo gwaith annibynnol, amrywiol a heriol. Mae hyrwyddo gweithio yn annibynnol yn nodwedd hynod o gryf yn bron pob un o’r gwersi.’

  • ‘Roedd y rhan fwyaf o’r disgyblion yn gallu esbonio’r tasgau yn dda iawn.’

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhannu arfer dda:

  • Yn ystod y flwyddyn 2016-2017 derbyniwyd dros 30 o staff o wahanol ysgolion o ranbarth y gogledd i dderbyn hyfforddiant rhifedd ar safle’r ysgol.Roedd cyflwyniad a thaith ddysgu i’r dosbarthiadau i weld y disgyblion ar waith yn yr ardaloedd.

  • Trefnwyd sesiynau craffu ar lyfrau gyda nifer o ysgolion gan gynnwys ysgolion grŵp her GwE er mwyn rhannu syniadau ar sut i gynllunio tasgau heriol, ymestynnol.

  • Croesawyd staff o ysgolion oddi mewn i’r awdurdod i drafod systemau llunio proffil haen uwch pob dosbarth a’r defnydd ohonynt i fonitro tasgau heriol trawsgwricwlaidd ac arddangos disgwyliadau uchel.

  • Defnyddir samplau o’r proffiliau a llyfrau Blwyddyn 2 fel arfer mewn hyfforddiant GwE.