Arfer effeithiol Archives - Page 42 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Cogan yn ardal Cogan ym Mhenarth yn awdurdod lleol Bro Morgannwg.  Mae 206 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 4 ac 11 oed, wedi eu trefnu’n saith dosbarth.  Mae gan yr ysgol ganolfan adnoddau clyw ar gyfer plant o’r awdurdod lleol hefyd.  Mae chwech o blant wedi eu cofrestru yn y dosbarth hwn ar hyn o bryd.

Ar gyfartaledd, dros y tair blynedd ddiwethaf, mae ychydig dros 11% o ddisgyblion yn gymwys am brydau ysgol am ddim.  Mae hyn islaw cyfartaledd Cymru, sef 19%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 18% o’i disgyblion anghenion addysgol arbennig.  Mae hyn yn cynnwys y rheiny mewn dosbarthiadau prif ffrwd ac yn y ganolfan adnoddau clyw.  Mae hyn ychydig islaw cyfartaledd Cymru, sef 21%.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiadau o anghenion addysgol arbennig.

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn wyn Prydeinig ac yn siarad Saesneg gartref.  Daw ychydig o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol ac mae llawer o’r disgyblion hyn yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Ychydig iawn ohonynt sy’n siarad Cymraeg gartref.

Dechreuodd y pennaeth yn ei swydd yn 2014.  Cynhaliwyd yr arolygiad diwethaf o’r ysgol ym mis Mai 2018.

Mae Ysgol Gynradd Cogan wedi sefydlu amgylchedd cymesur ac effeithiol o ddysgu proffesiynol ac arfer fyfyriol.  Caiff staff sefydledig eu harwain gan bennaeth hynod fedrus sydd wedi creu ethos wedi’i seilio ar ymddiriedaeth.  O ganlyniad, mae’r strwythur arwain wedi ffurfio’r gofal, y cymorth a’r arweiniad yn sylweddol ac wedi rhoi i staff yr hyder i arloesi a rhannu arfer sy’n parhau i effeithio ar gyfleoedd dysgu gwell ar gyfer disgyblion a staff.  Mae gan bob aelod o staff lais arwyddocaol mewn ffurfio’r cwricwlwm, gwrandewir ar eu cyfraniadau, a chânt eu gwerthfawrogi.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dros gyfnod estynedig, mae’r pennaeth wedi datblygu diwylliant a gweledigaeth gynhwysol sy’n galluogi disgyblion, athrawon a chynorthwywyr cymorth i weithio gyda’i gilydd er mwyn gwella safonau a lles.  Trwy linellau cyfathrebu clir a chodi ymwybyddiaeth, mae hi wedi sicrhau ymroddiad pob un o’r arweinwyr a’r staff.  Mae hyn wedi arwain at rannu ymdeimlad o falchder a diben.  Mae gan y pennaeth a’r arweinwyr ddisgwyliadau clir ond rhesymol o bawb i weithio’n galed a gwneud eu gorau. Ceir ymdeimlad gwirioneddol o waith tîm ac agosrwydd lle mae gan bawb lais, gwrandewir arnynt, a chânt eu gwerthfawrogi.

Mae arweinwyr yn agored i fentrau newydd ac arloesedd, ond mae eu hymagwedd yn bwyllog a synhwyrol.  Mae’r pennaeth yn meithrin agweddau cadarnhaol a chyffro i roi cynnig ar bethau newydd, heb eu gwneud ar raddfa eang o reidrwydd, ond eu teilwra i ddefnyddio’r ‘rhannau gorau’, sef yr elfennau sy’n debygol o weithio i Ysgol Gynradd Cogan.  Mae arweinwyr a staff yn ymchwilio i ymagweddau newydd yn drylwyr ac yn eu haddasu i fodloni anghenion y disgyblion a’r ysgol.  Mae penderfyniadau am newidiadau yn gytbwys a phwyllog, ac nid yw’r tîm arweinyddiaeth yn ofni gwrthod newidiadau nad ydynt yn eu hystyried yn briodol.

Mae gan yr ysgol ddiwylliant sefydledig a hynod effeithiol o gynllunio strategol ar gyfer gwella.  Mae blaenoriaethau ar gyfer gwella yn hylaw, yn gymesur a chynaliadwy.  Mae ffocws craff, sy’n manteisio ar staff hynod brofiadol ac arbenigol.  Mae’r pennaeth yn lleoli staff yn dda i hyrwyddo’r cyfleoedd dysgu gorau, yn aml gan ddefnyddio cryfderau oddi mewn i’r ysgol a’r tu allan i rannu arfer effeithiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae arweinwyr yn myfyrio ar eu harweinyddiaeth eu hunain, ac arweinyddiaeth ac arfer broffesiynol pobl eraill yn yr ysgol.  Mae’r pennaeth yn mabwysiadu gwahanol arddulliau arwain fel y bo’n briodol, gan ddatblygu, grymuso a chynnal timau effeithiol.  Mae’r strwythur staffio presennol yn glir ac effeithiol ac yn rhoi’r gallu i staff fod yn greadigol ac arloesol.  Mae’r baich gwaith yn hylaw.  Mae’r pennaeth yn cydnabod bod angen gwneud newidiadau gwybodus ac mae’n ysbrydoli, yn cymell ac yn herio pobl eraill, er enghraifft i wella safonau disgyblion ymhellach ym Mlwyddyn 3.  Nododd arweinwyr fod angen dull newydd ar gyfer y cyfnod trosglwyddo rhwng y cyfnod sylfaen a Blwyddyn 3.  Bu arweinwyr yn cynorthwyo’r staff perthnasol i wneud newidiadau arloesol i ddod ag athroniaethau ac arfer y cyfnod sylfaen i Flwyddyn 3.  Yn sgil ailstrwythuro’r cynllunio, lleoli staff, y ddarpariaeth a methodolegau, ailfywiogwyd yr addysgu a’r dysgu ar gyfer y disgyblion hyn a’u hathro.  Fe wnaeth addysgu grŵp ffocysedig goleddu egwyddorion y cyfnod sylfaen a rhoi egni newydd i’r amgylchedd dysgu.  O ganlyniad, bu gwelliant mewn lles a hyder dros gyfnod byr ac mae trosglwyddo esmwythach a mwy estynedig i gyfnod allweddol 2. 

Wrth fynd ati i geisio sicrhau rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu, mae arweinwyr wedi sefydlu dull newydd o wella arfer ystafell ddosbarth.  Er enghraifft, trwy ymchwil, mae arweinwyr yn galluogi athrawon i ganolbwyntio o’r newydd ar eu haddysgu trwy roi mwy o bwyslais ar ddysgu a chynnydd dysgwyr penodol yn ystod arsylwadau gwersi.

Mae’r pennaeth yn datblygu ymddiriedaeth rhwng staff ac yn eu cynorthwyo i arwain diwylliant sy’n rheoli emosiynau a pherfformiad o dan bwysau.  Mae cyfathrebu rhagorol yn allweddol i sefydlu ymddiriedaeth ac agosrwydd.  Mae arweinwyr wedi sefydlu proses sy’n cynorthwyo athrawon profiadol a chynorthwywyr cymorth er mwyn iddynt allu canolbwyntio’n fwy ar y dysgwr a’r profiad dysgu.  Mae arweinwyr yn rhoi cyfleoedd i athrawon fyfyrio ar arfer arloesol, sydd wedi cyflymu dysgu’r disgyblion.  Mae’r arfer hon yn adlewyrchu eu harweinyddiaeth eu hunain, ac arweinyddiaeth ac arfer broffesiynol pobl eraill yn yr ysgol.  Er enghraifft, mae athrawon mewn sectorau yn cydweithio i gynllunio cyfres o wersi.  Mae arweinwyr yn disgwyl i staff rannu eu methodolegau addysgu a’u harferion addysgegol â’i gilydd.  Mae hyn yn ysgogi ymddiriedaeth a didwylledd ar y ddwy ochr i rannu technegau addysgu, arbrofi â dulliau newydd, ac adrodd yn ôl i’w gilydd mewn ffordd agored a gonest.  Mae arweinwyr yn rhoi pwyslais cryf ar gydnabod a dathlu arfer dda mewn dysgu ar draws yr ysgol. 

Mae yna systemau rheoli perfformiad clir ac effeithiol.  Mae arweinwyr yn mynd i’r afael ag unrhyw danberfformio a nodwyd yn drylwyr ac mewn ffordd gefnogol.  Mae’r pennaeth yn meithrin diwylliant agored, teg a chyfiawn ymhlith staff i rannu profiadau, dathlu llwyddiannau ac archwilio’r hyn nad yw’n gweithio.

Ceir perthynas glir rhwng datblygiad proffesiynol parhaus a gwelliant ysgol cynaledig.  Mae arweinwyr yn sicrhau cydweithio a rhwydweithiau â phobl eraill yn yr ysgol, a thu hwnt.  Mae’r ysgol yn nodi a chynllunio cyfleoedd hyfforddi pwrpasol, gan eu cysylltu’n agos â blaenoriaethau ysgol gyfan.  Mae staff yn gwneud defnydd effeithiol o ymchwil weithredu i roi cynnig ar ffyrdd gwahanol o wneud pethau.  Mae arweinwyr wedi datblygu’r fenter cyfeillion dysgu, sy’n rhoi cyfleoedd i ddisgyblion rannu eu gwaith â grwpiau blwyddyn cyfagos a thrafod eu mwynhad o ddysgu.  Er enghraifft, caiff pob disgybl ar draws yr ysgol amser neilltuedig i rannu hoff ddeilliannau dysgu â phartner o ddosbarth arall.  Cynhelir trafodaethau am yr hyn a welsant yn heriol, yr hyn a wnaethant i wella a’r hyn y maent yn falch ohono bob hanner tymor.  Mae arweinwyr, athrawon a chynorthwywyr addysgu yn ymuno â thrafodaethau disgyblion ac mae hyn yn darparu ffynhonnell effeithlon o fonitro anffurfiol, a chyfle i ddathlu llwyddiant yn ogystal â myfyrio ar yr hyn a allai fod yn well.

Mae’r pennaeth yn gweithio’n effeithiol gyda’r corff llywodraethol i gyflawni cenhadaeth yr ysgol.  Mae arweinwyr yn rhoi pwyslais mawr ar adeiladu’r tîm cyfan, gan gydnabod cryfderau a’u defnyddio er budd dysgu ac addysgu.  Mae arweinwyr yn ystyried rolau’n ofalus a rhennir cyfrifoldebau.  Mae’r pennaeth yn gwerthfawrogi’r holl fewnbwn ac yn arwain camau pellach.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae arfer yr ysgol o ran gwerthfawrogi arweinyddiaeth wedi cael effaith gadarnhaol ar y canlynol:

  • ymchwil gan athrawon sy’n datblygu arfer arloesol tra’n cynnal profiadau dysgu o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion
  • disgyblion hyderus sy’n cyflawni safonau da neu well
  • diwylliant dysgu proffesiynol ar y cyd lle gwrandewir ar bawb, a’u gwerthfawrogi
  • hinsawdd yn seiliedig ar barch, didwylledd ac ymddiriedaeth
  • ymdeimlad o agosrwydd a chynaliadwyedd

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harweinyddiaeth gref a’i phrosesau cynllunio strategol gydag ysgolion eraill trwy’r Cynllun Braenaru, Grŵp Gwella’r Ysgol, grwpiau clwstwr ac ysgolion mewn consortia eraill.  Yn ychwanegol, mae’n rhannu datblygu a gweithio gyda phobl eraill ar raglen hyfforddi’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru yw Cyngor Sir Ddinbych sydd â chyfanswm poblogaeth o 94,805. Mae’r sir yn ymestyn o gyrchfannau arfordirol Y Rhyl a Phrestatyn trwy drefi hanesyddol Llanelwy, Dinbych a Rhuthun a Bryniau Clwyd, i Ddyffryn Dyfrdwy a threfi Llangollen a Chorwen.  Mae’r awdurdod lleol yn cynnal wyth ysgol uwchradd, 47 o ysgolion cynradd, dwy ysgol arbennig ac uned cyfeirio disgyblion.

Prif uchelgais Cyngor Sir Ddinbych yw gwneud gwahaniaeth sylweddol a pharhaus i bobl a chymunedau Sir Ddinbych.  Mae’r cyngor wedi cynnal ei safle fel un o’r Cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru er gwaethaf hinsawdd heriol o newid parhaus a llai o adnoddau ariannol.  Hefyd, mae wedi cynnal ei ymrwymiad i wella’r cynnig i’w drigolion a chynnal ei enw da am gyflwyno gwasanaethau effeithiol ac effeithlon.  Yr uchelgais hon yw’r llinyn aur, annatod, sy’n cysylltu’r cyfeiriad strategol â chyflwyno gweithredol.  Yng nghyd-destun Gwasanaethau Addysg a Phlant, mae’n ategu’r ymrwymiad i wella canlyniadau addysg a chadw plant yn ddiogel rhag niwed.  Mae hyn wedi bod yn ysgogiad allweddol o ran dylanwadu ar y penderfyniadau am arweinyddiaeth strategol a gweithredol a wna’r gwasanaeth.

Cadarnhawyd cryfder y dull hwn gan y barnau a ddyfarnwyd yn arolygiadau Estyn yn 2012 a 2018.  Yn y ddau arolygiad, dyfarnwyd barn ‘Rhagorol’ i Sir Ddinbych ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth. 

Dyma a adroddwyd yn arolygiad 2018:

mae’r cynllun corfforaethol yn dangos ymrwymiad clir y cyngor i wella addysg, ac un o’i bum prif amcan oedd datblygu Sir Ddinbych fel ‘man lle bydd pobl iau eisiau byw a gweithio a chael y medrau i wneud hynny

Adroddodd hefyd:

Dros gyfnod, mae uwch arweinyddiaeth gref iawn yn yr awdurdod lleol wedi sicrhau ffocws penderfynol ar wella darpariaeth a deilliannau i ddysgwyr.  Un o effeithiau hynod effeithiol hyn yw’r ffordd y mae arweinwyr wedi dangos yr hyder i uno’r gwasanaeth addysg a’r gwasanaeth plant yn ddiweddar yn un adran gyfunol i gyflwyno gwasanaeth integredig cydlynus ac effeithlon.  Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar y ddarpariaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc, ac effaith fuddiol ar les dysgwyr

Yn 2015, penderfynodd y Cyngor uno Gwasanaethau Addysg a Phlant a Theuluoedd o dan un Pennaeth Gwasanaeth.  Ym mis Ebrill 2016, lansiwyd Gwasanaethau Addysg a Phlant yn swyddogol.  Mae cyd-destun Sir Ddinbych yn bwysig er mwyn deall y rhesymeg ar gyfer uno’r gwasanaethau, a’r dull o wneud hynny.  Ar y cychwyn, roedd yn cael ei gydnabod a’i ddeall bod angen dull sensitif ac ystyriol wrth uno dau wasanaeth oedd â risg uchel; a byddai hyn yn newid mawr o ran cyflwyno gwasanaethau.  Felly, cafodd y gyfarwyddeb a’r rhesymeg strategol eu cyfleu’n ofalus gan y Prif Weithredwr ac Uwch Swyddogion eraill.  I ddechrau, trwy’r broses gyfathrebu ac ymgynghori, fe’i gwnaed yn glir nad diben yr uno yn syml oedd dod â dau wasanaeth at ei gilydd o dan reolaeth un Pennaeth Gwasanaeth, ond eu hintegreiddio’n llawn i sicrhau dull cydlynol ac unedig, er mwyn darparu gwasanaethau gwell i blant a phobl ifanc. Cynlluniwyd yn ofalus ar gyfer yr uno, ac fe gafodd y rhesymeg ar gyfer uno’r ddau wasanaeth ei chyfleu’n glir iawn.  Mae llwyddiant yr uno wedi dibynnu ar gydnabod pwysigrwydd y canlynol:

  • Diwylliant
  • Cyfle
  • Cyfathrebu, Ymgynghori, Ymgysylltu a Gweithredu
  • Arfarnu Parhaus
  • Meithrin Perthnasoedd

Diwylliant y sefydliad (Gwerthoedd/Egwyddorion)

Mae glynu at werthoedd gwasanaethau cyhoeddus wedi bod wrth wraidd ymgysylltu â thrigolion (gan gynnwys plant a phobl ifanc); a bu’n nodwedd allweddol o’r dull arwain trwy’r Cyngor a’r broses gynllunio gorfforaethol.  Mae’r Cyngor yn credu’n gryf mewn datblygu diwylliant un gwasanaeth cyhoeddus.  Felly, roedd disgwyliad sefydledig eisoes y byddai gwasanaethau’n gweithio gyda’i gilydd ac yn gweithio gyda phartneriaid a gyda’r gymuned ehangach.  Roedd disgwyliad o wasanaethau hefyd fod strwythurau’n hyblyg ac yn gallu addasu’n rhwydd er mwyn darparu ar gyfer newid mewn disgwyliadau a blaenoriaethau.

Cyfle

Cyflwynwyd cyfle o ganlyniad i ddiwylliant aeddfed a sefydledig y sefydliad, ond hefyd y disgwyliadau a gyflwynwyd trwy newid deddfwriaeth:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Y diwygio a ragwelir o ran ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol)
  • Disgwyliadau cynyddol o ran gweithio’n rhanbarthol

Roedd yr egwyddorion allweddol sy’n ategu’r ddeddfwriaeth uchod gyda’i gilydd yn cefnogi’r rhesymeg dros uno, gan ei bod yn amlwg fod ffocws ar y cyd ar sicrhau:

  • Mai anghenion y plentyn neu’r person ifanc sydd wrth wraidd popeth a wnawn.
  • Rhaid bod gan yr holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gyfrifoldeb ar y cyd i weithio i atal angen rhag dwysáu.
  • Bod pobl o bob oedran yn cael mwy o ddweud am y gofal a’r cymorth a gânt.

Yn y bôn, roedd uno’r ddau wasanaeth yn ddull synnwyr cyffredin i sicrhau bod:

  • Yr holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cyflawni eu cyfrifoldeb ar y cyd i weithio i atal angen rhag dwysáu.
  • Yr holl weithwyr proffesiynol yn deall eu dyletswydd i gyfrannu at ddarparu’r dysgu gorau, a chynnig gofal a chymorth mewn ffordd sy’n bodloni anghenion yr unigolyn a’r teulu yn y ffordd orau.

Cyfathrebu, Ymgynghori, Ymgysylltu a Gweithredu

Ymchwil a pharatoi

Gwnaeth Uwch Swyddogion gryn dipyn o ymchwil a buont yn cymryd rhan mewn proses hir o baratoi.  Ystyriwyd modelau cyflwyno mewn Cynghorau eraill ledled y DU a rhoddwyd cryn dipyn o sylw i ehangder y cyfrifoldeb y byddai uwch arweinwyr yn y gwasanaeth yn atebol amdano, yn enwedig yng nghyd-destun newid deddfwriaeth.  Rhoddwyd cryn dipyn o ystyriaeth i sut beth fyddai’r strwythur gweithredol.  Sefydlwyd bwrdd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol i oruchwylio datblygu a gweithredu, a chafwyd cynrychiolaeth o blith Aelodau Etholedig allweddol.

Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Ysgrifennwyd papur Ymgynghori/Ymgysylltu a’i rannu’n eang.  Esboniodd hyn y rhesymeg ar gyfer y cynnig yn glir, y newidiadau i’r strwythur gweithredol a’r amserlen ar gyfer yr ailstrwythuro.  Ar yr adeg honno, roedd y ffocws yn ‘gyfuniad’ o dîm rheoli’r adran.  Roedd gwahaniaethu clir rhwng y staff hynny yr ymgynghorwyd â nhw o ganlyniad i effaith uniongyrchol arnynt; a’r staff hynny a oedd yn derbyn gohebiaeth fel rhan o strategaeth ymgysylltu.  Cafodd Aelodau Etholedig a’r Undebau Llafur eu cynnwys; ac ar yr adeg hon, ni chafwyd unrhyw ymateb negyddol na  gwrthwynebol gan unrhyw ochr.

Yn ychwanegol, rhoddwyd cyfle i staff yn y ddau wasanaeth ar wahân gyfarfod a rhannu elfennau cyffredin a nodi cyfle ar gyfer dull ar y cyd.  Gwnaed hyn trwy gyfres o ‘Ddiwrnodau i Ffwrdd’ wedi’u trefnu, a mynychodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, y ddau Bennaeth Gwasanaeth a’r Aelod Arweiniol y rhain.

Gweithredu

Yn ystod y misoedd cyntaf, datblygodd y gwasanaeth y canlynol:

  • Un Cynllun Busnes gyda blaenoriaethau ar y cyd i gefnogi cyflwyno’r Cynllun Corfforaethol.
  • Un tîm arweinyddiaeth.
  • Cyfarfodydd rheoli un gwasanaeth.
  • Cyfarfodydd a chyfleoedd dysgu staff un gwasanaeth.
  • Dull cydlynol a chydlynus o weithio gyda phartneriaid fel Iechyd.
  • Atgyfnerthu meysydd gwasanaeth ymyrraeth gynnar ac atal trwy ddod â thimau at ei gilydd.
  • Dull mwy cydlynus o gyflwyno gwasanaethau ar gyfer plant unigol a’u teuluoedd.

Ym mis Mai 2017, rhoddodd y strwythur a’r dull o gyflwyno gwasanaethau ragor o gyfle ar gyfer atgyfnerthu mewn nifer o feysydd, sef:

  • Y rhyngwyneb rhwng darpariaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a darpariaeth ar gyfer y rheiny ag anableddau.
  • Dulliau o gynnig darpariaeth seibiant a lleoliadau y tu allan i’r sir.
  • Y cysylltiad rhwng gwasanaethau therapiwtig a gynigir a’r gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion.
  • Dulliau o gynnig darpariaeth y blynyddoedd cynnar i gefnogi parodrwydd ar gyfer yr ysgol.
  • Rhaglen hyfforddi gydlynus ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig â gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc, gan gynnwys Llywodraethwyr, o amgylch themâu allweddol, e.e. diogelu, ymlyniad, rheoli ymddygiad.
  • Proses dderbyn yr ysgol o ran plant sy’n derbyn gofal, a disgyblion sy’n agored i niwed.
  • Cymorth i ofalwyr ifanc.
  • Trefniadau cludiant ysgol i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sydd fwyaf agored i niwed.
  • Cydlynu ymateb i anghenion cymhleth o ran yr Addysg a’r Gofal Cymdeithasol a gynigir.

Cafodd y cyfleoedd hyn eu nodi nid yn unig gan aelodau o’r tîm rheoli, ond roeddent yn themâu cyffredin a drafodwyd yn niwrnodau i ffwrdd y gwasanaeth.  Ar yr adeg hon, roedd yn galonogol fod staff yn ymgymryd yn rhagweithiol â nodi meysydd i’w datblygu.  Roedd yn glir fod cydnabyddiaeth gyffredinol pe bai mantais lawn yn cael ei chymryd o’r cyfleoedd a gyflwynir yn sgil creu un gwasanaeth, fod angen i staff feddwl mewn ffordd fwy cyfannol am gyflwyno’r gwasanaeth i blant a’u teuluoedd, gan fod pryder y gall cynnig heb ei gydlynu achosi dryswch a chael effaith negyddol ar blant a phobl ifanc.

Datblygwyd y meysydd canlynol ymhellach:

  • Addysg, Adnoddau a Chymorth
  • Addysg
  • Ymyrraeth Gynnar, Atal, Iechyd a Lles
  • Gwasanaethau Statudol

Arfarnu

O ganlyniad i lefel y risg a nodwyd ar ddechrau’r broses, cafodd cynnydd yr uno ei adolygu a’i arfarnu’n rheolaidd trwy’r canlynol:

  • Prawf Sicrwydd
  • Craffu gan Aelodau Etholedig
  • Craffu Corfforaethol

Yn ychwanegol, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i AGC ac Estyn fel rhan o’r broses ar gyfer cyfarfod bob tymor.  Fe wnaeth hyn nid yn unig sicrhau rheoli risg yn drylwyr, ond llwyddodd i gynnal lefel o ymgysylltu parhaus gan bartïon perthnasol hefyd.

Meithrin Perthnasoedd

Rhoddwyd ystyriaeth ofalus i leddfu gorbryder a grëwyd yn sgil ailstrwythuro’r gwasanaeth yn sylweddol.  Rhoddwyd nifer o gyfleoedd i staff ddod i adnabod ei gilydd; ac roedd ffocws allweddol ar sicrhau bod gan staff ddealltwriaeth well o rolau a chyfrifoldebau ei gilydd.  Roedd yr holl gyfathrebu yn canolbwyntio ar dawelu meddwl staff mai ‘uno’ neu ‘gyfuno’ gwasanaethau oedd hyn, nid cymryd rheolaeth ohonynt.

Effaith

At ei gilydd, mae’r Gwasanaeth wedi cyflawni ei uchelgais i gyflwyno cynnig gwasanaeth cydlynol a chydlynus yn strategol ac yn weithredol.  Dyma fu effaith hyn:

  • Gwella cynllunio strategol, cyflwyno gweithredol a blaenoriaethu adnoddau.
  • Cyfathrebu mwy effeithiol ar draws pob tîm yn y gwasanaeth, a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd.
  • Cynnig gwell o ran hyfforddiant a chyfle cynyddol i rannu dysgu o ganlyniad i hygyrchedd cynyddol at ystod fwy eang ac amrywiol o wybodaeth ac arbenigedd.
  • Cyfleu a deall angen yn well.
  • Nodi disgyblion sy’n agored i niwed yn gynnar a chymorth cydlynus yn yr ysgol a’r tu allan.

Yn ychwanegol, ar gyfer grwpiau penodol o blant a phobl ifanc, mae un gwasanaeth wedi galluogi ymateb mwy pwrpasol i heriau cymhleth, sef:

  • Plant sydd mewn perygl o ddioddef yn sgil cam-fanteisio’n rhywiol ar blant
  • Plant ag anabledd
  • Plant sy’n arddangos ymddygiadau cymhleth a heriol.

Felly, gellir cyflwyno tystiolaeth i ddangos bod hyn wedi arwain at:

  • Amgylchedd dysgu gwell.
  • Gwella’r addysgu a’r dysgu a gynigir yn barhaus.
  • Cynnig gofal a chymorth sy’n cael ei lywio’n well ac yn gwella’n barhaus.

Ac yn olaf

Cymerwyd dau bwynt dysgu arwyddocaol o’r profiad hwn, sef:

  • Rhaid i ddull fel hyn fod yn rhan o weledigaeth ac ymrwymiad cyffredinol y cyngor. Ni fydd gosod templed yn gweithio.
  • Ni ellir tanamcangyfrif pwysigrwydd meithrin perthynas a sicrhau ymgysylltiad staff.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol.

Agorodd Tŷ Bronllys yn 2006 a dyma oedd yr ysgol a chartref plant cyntaf o dan sefydliad ymbarél Orbis Education and Care.  Ei nod yw cynnig cymorth addysg a phreswyl i blant ag awtistiaeth ac ymddygiad heriol.  Mae’r ysgol yn cefnogi hyd at 13 o ddisgyblion preswyl a dydd sydd ag anghenion cymhleth yn gysylltiedig ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig.

O ran sut roedd yn mynd ati i reoli ymddygiad, canolbwyntiodd yr ysgol i ddechrau ar reoli risg a diogelwch, a oedd yn briodol o ystyried natur yr ymddygiadau heriol a welwyd ymhlith y disgyblion.  Cafodd staff hyfforddiant addas ar ymyriadau corfforol ac roeddent yn gallu rheoli sefyllfaoedd yn dda.  Fodd bynnag, prin oedd y ffocws ar fonitro digwyddiadau neu roi addysg i staff ar sut i weithio mewn ffordd ataliol.  Nid oedd fforwm ar gyfer trafodaethau tîm amlddisgyblaethol na chydweithredu.  Yn ei hanfod, roedd y gwaith yn adweithiol ac nid oedd yn hyrwyddo arfer fyfyriol ar gyfer y disgyblion na’r staff.  Roedd presenoldeb a sylw’n dda, ond roedd yr ysgol o’r farn y gallai wneud yn well.

Wrth i’r sefydliad dyfu ac i fwy o ysgolion agor, canolbwyntiodd y cyfarwyddwr addysg ar geisio deall pam roedd digwyddiadau’n codi a sut gallai staff archwilio dulliau mwy ataliol.  Yn amlwg, yr ateb oedd datblygu ymagwedd fwy strategol tuag at reoli ymddygiad yn gadarnhaol ar draws yr ysgol a’r lleoliad preswyl.  

Gweithiodd y bwrdd cyfarwyddwyr a’r pennaeth addysg yn agos i ddatblygu gweledigaeth ar y cyd a llunio strategaeth i annog dulliau cyson o reoli ymddygiad.  Recriwtiodd yr ysgol dîm clinigol yn cynnwys staff therapi galwedigaethol, iaith a lleferydd, a staff yn arbenigo ar ymddygiad i weithio ochr yn ochr â’r staff addysg a phreswyl.

I ategu’r strategaeth ymddygiad ysgol gyfan, fe wnaeth Orbis Education and Care integreiddio hyfforddiant ar reoli ymddygiad i’r holl staff adeg eu cyfnod sefydlu, yna roeddent yn gallu dilyn cymhwyster wedi’i achredu ar ôl cwblhau eu cyfnod prawf ac roedd cyfle iddynt gwblhau lefelau uwch os ystyriwyd bod hynny’n briodol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Derbynnir yn helaeth fod ymagweddau cadarnhaol at reoli ymddygiad yn arfer effeithiol wrth gefnogi disgyblion ag anabledd dysgu ac anghenion cysylltiedig.  Maent yn gofyn am ymagwedd ysgol gyfan at feithrin diwylliant cadarnhaol a chymuned sy’n annog ac yn cefnogi cyflawniadau a llwyddiannau disgyblion.  Mae hyn yn golygu bod gan yr ysgol bolisi o beidio â chosbi ac mae’n canolbwyntio ar y canlyniadau naturiol sy’n digwydd.  Mae hyn yn wahanol iawn i ddull seiliedig ar gosbau, pan fydd y cyfle i wneud hoff weithgareddau neu gael hoff eitemau yn cael ei atal o ganlyniad.  

Mae gan ddisgyblion gynllun cymorth ymddygiad cadarnhaol, unigol, sydd wedi’i seilio ar ddadansoddiad gweithredol a wnaed gan dîm clinigol yr ysgol.  Mae’r cynlluniau’n canolbwyntio ar strategaethau ataliol sylfaenol ac yn cynnwys arweiniad clir ar sut i fodloni anghenion synhwyraidd, cyfathrebu a chymorth y bobl ifanc.  Mae’r holl staff yn cyfrannu at eu datblygiad ac yn eu hadolygu’n rheolaidd drwy gyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol sy’n cael eu cynnal ar y safle.  Mae gwybodaeth staff yn cael ei harchwilio drwy asesiadau rheolaidd i sicrhau eu bod yn deall ymyriadau ac yn eu cymhwyso’n gyson.  Mae’r asesiadau hyn hefyd yn rhoi fforwm i staff gymryd rhan mewn trafodaeth broffesiynol â’r tîm clinigol a chyfle i gyflwyno’u barn a’u safbwyntiau.  Mae staff clinigol a staff gofal preswyl yn gweithio yn yr ysgol ochr yn ochr â’r staff addysg, sy’n ymestyn cydweithredu ymhellach ac yn llywio’r gwaith o lunio cynlluniau.

Yna, caiff effaith y dulliau hyn ei mesur trwy olrhain a monitro enghreifftiau o ymddygiad heriol, defnyddio ymyriadau cyfyngol, ynghyd â chyflawniadau disgyblion a lefelau eu hymgysylltiad.  Mae’r dull hwn, sy’n seiliedig ar ddata, yn llywio penderfyniadau. Mae’r holl wybodaeth yn cael ei rhannu yng nghyfarfodydd misol y tîm amlddisgyblaethol, lle caiff cynlluniau eu trafod a gofynnir am farn disgyblion a gofalwyr, a’u cynnwys mewn arfarniadau ac adolygiadau.  Mae cynnwys yr holl randdeiliaid wedi gwella deilliannau a pherthnasoedd cadarnhaol ymhellach.  Er enghraifft, mae rhieni’n cyfrannu at strategaethau sydd wedi’u hamlinellu yn y cynllun cymorth ymddygiad ac mae hyn wedi galluogi cyfathrebu mwy agored rhwng rhieni ac aelodau staff, gyda’r nod gyffredin o wella deilliannau i’r plentyn.

Mae mabwysiadu’r dull hwn wedi meithrin perthnasoedd a phrofiadau cadarnhaol, wedi’u hategu gan ddisgwyliadau a ffiniau clir.  Mae hyn wedi meithrin ymddiriedaeth a hyder rhwng disgyblion ac aelodau staff, ac wedi annog ymgysylltiad a chyfranogiad gweithgar drwy gydol y diwrnod ysgol.  Mae dadansoddiad cynhwysfawr o ddata sy’n dangos tueddiadau mewn ymddygiadau heriol, hanes blaenorol a ffactorau amgylcheddol, yn ategu hyn hefyd.

Mae ymagwedd yr ysgol at gymorth ymddygiad yn galluogi ymagwedd at ddysgu sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn, gydag amserlenni pwrpasol sy’n adlewyrchu anghenion disgyblion unigol, ac sy’n cynyddu profiadau ac ymgysylltiad cadarnhaol.  Ethos yr ysgol yw cydnabod a dathlu pob cyflawniad, ni waeth pa mor fach ydyw.  O ganlyniad, mae disgyblion yn dysgu cysylltu mynd i’r ysgol â bod yn hapus ac yn llwyddiannus.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Gall yr ysgol ddangos yn glir trwy ddadansoddiad o ddata fod nifer yr enghreifftiau o ymddygiad heriol wedi gostwng yn sylweddol, felly hefyd y defnydd ar arferion cyfyngol.  Mae’r ymagwedd amlddisgyblaethol at gymorth ymddygiad wedi cynyddu dealltwriaeth staff o anghenion y disgyblion, sy’n aml yn gymhleth iawn, ac wedi galluogi’r holl staff i ddarparu addysg a chynnig cymorth cyson.  Mae hyn wedi creu strwythur a threfn ddisgwyliadwy, sydd wedi lleihau pryder ac enghreifftiau o ymddygiad heriol.  Mae hyn yn ei dro wedi cynyddu presenoldeb, cyflawniad academaidd a lles i ddisgyblion.  Mae wedi cryfhau perthnasoedd â rhieni, gan eu bod yn teimlo bellach fod ganddynt lais, a gall awdurdodau addysg lleol weld manteision aruthrol ddull yr ysgol yn glir.  Yn olaf, mae wedi helpu i wella lefelau lles staff, wrth i ddiwylliant yr ymagwedd o beidio â chosbi ddatblygu. 

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r cyfarwyddwr addysg yn rhannu arfer dda trwy fentora cymheiriaid a gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau arbenigol eraill.  Caiff data a deilliannau eu rhannu fel mater o drefn gyda theuluoedd, cydweithwyr o’r gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a’r awdurdod lleol mewn adolygiadau blynyddol ac yn ystod arolygiadau.  Caiff hanesion o lwyddiant eu rhannu drwy’r sefydliad, drwy gylchlythyr misol ac ar y cyfryngau cymdeithasol, lle y rhoddwyd caniatâd.  Mae’r ysgol wedi rhannu ei gwaith mewn cynadleddau cenedlaethol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach gyda thros 4,000 o ddysgwyr amser llawn ac 8,000 o ddysgwyr rhan-amser o bob cwr o Abertawe a siroedd cyfagos.  Mae’r coleg yn cyflogi tua 1,000 o staff. Mae’n gweithredu o chwe lleoliad ar draws Dinas a Sir Abertawe.  Abertawe yw’r ail ddinas fwyaf yng Nghymru, gydag economi gymysg, yn cynnwys sectorau peirianneg, adwerthu a lletygarwch, iechyd, hamdden, twristiaeth a phrifysgol.  Daw tua chwarter o ddysgwyr y coleg o rai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig, fel y mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn ei nodweddu. Mae’r coleg yn cynnig cwricwlwm o lefel cyn-mynediad i lefel addysg uwch.  

Mae gan y coleg berthnasoedd gweithio cryf gydag ysgolion lleol ac mae tua 300 o ddisgyblion 14 i 16 oed yn mynychu amrywiaeth o raglenni yn y coleg bob blwyddyn, gan ennill cymwysterau galwedigaethol o lefel mynediad i lefel 2.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r astudiaeth achos hon yn ymwneud â gweithio mewn partneriaeth.  Mae’r gwaith a wna’r coleg gydag ysgolion ar draws Dinas a Sir Abertawe yn cynyddu ehangder ac ansawdd y dewisiadau galwedigaethol sydd ar gael i ddisgyblion 14 i 16 oed, ac mae’n cefnogi’u dilyniant.

Ym marn y coleg, mae’n hanfodol bod disgyblion 14 i 16 oed yn cael cyfleoedd i archwilio’u hopsiynau ôl-16 yn drylwyr a dod o hyd i lwybrau dilyniant llwyddiannus.  Datblygwyd dulliau amrywiol i fodloni anghenion amrywiol dysgwyr 14-16 oed, gan gynnwys ‘coleg iau’ a rhaglenni ‘kick start’ y coleg.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae rhaglenni’r coleg iau yn cael eu cyflwyno yn y coleg ac yn cynnig amrywiaeth o lwybrau, gan gynnwys trin gwallt a harddwch, peirianneg, cerbydau modur, gwaith plymwr, technoleg ddigidol a gofal plant.  Mae dysgwyr yn cyflawni cymhwyster lefel 1, sy’n rhoi cyflwyniad i astudio pellach ar lefel 2 a thu hwnt.

Mae’r rhaglen ‘kick start’ yn cynnig cyfle i ddysgwyr archwilio amrywiaeth o sectorau galwedigaethol cyn iddynt ddewis llwybr ar gyfer astudio ymhellach, hyfforddiant neu waith.  Mae’r rhaglen hon yn targedu’r dysgwyr mwyaf agored i niwed y nodwyd ‘eu bod mewn perygl o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant’.  Mae’r rhaglen dwy flynedd yn eu hymestyn a’u herio i gyflawni Tystysgrif ym mlwyddyn 1 a chymhwyster Tystysgrif Estynedig ym mlwyddyn 2. 

Mae’r coleg yn gweithio’n agos gydag ysgolion a’i ddysgwyr ei hun i gael gwared ar rwystrau canfyddedig at addysg uwch a medrau lefel uwch, gan dargedu grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli mewn addysg uwch, fel y rhai o ardaloedd difreintiedig a phlant sy’n derbyn gofal.  Mae tîm y coleg yn cyflwyno rhaglen o weithgareddau i oddeutu 1,000 o ddysgwyr cynradd, uwchradd a dysgwyr y coleg bob blwyddyn.  Mae gweithgareddau’n cynnwys areithiau ysbrydoledig, medrau astudio a gweithdai arolygu, clybiau Sadwrn a gwaith cartref, prifysgol haf Blwyddyn 12, a sesiynau a gweithdai blasu pwnc.

Mae’r berthynas waith agos rhwng yr ysgolion a thîm ysgol y coleg yn caniatáu am addasu’r cwricwlwm yn ôl anghenion penodol pob ysgol, o gerbydau modur i waith fforensig, o’r cyfryngau i adeiladu.

Mae ffactorau allweddol llwyddiant y rhaglen ysgolion yn cynnwys:

• Ymgynghoriad â’r ysgol a’r anogwr dysgu i ddylunio pob cwrs

• Cymorth gan weithiwr cymorth yn y coleg i feithrin perthynas ac ennill ymddiriedaeth

• Cynnwys uned dilyniant gyrfaol ym mhob cwrs galwedigaethol

• Cymorth ar gyfer dilyniant, cymorth i ddewis llwybr priodol yn 16 oed, llenwi ffurflen gais ar gyfer y coleg a chymorth yn ystod y broses gyfweld

• Cyfleoedd i roi cynnig ar gyrsiau o ddiddordeb cyn gwneud cais

• Gweithgareddau ‘cadw’n gynnes’ yn ystod gwyliau’r haf

• Cymorth cadw trwy waith gweithwyr cymorth sy’n monitro ac yn cynorthwyo’r disgyblion penodedig

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r cyfuniad o’r tair agwedd ar y rhaglen ysgolion wedi meithrin cysylltiadau partneriaeth rhagorol gydag ysgolion lleol, gan annog dilyniant i addysg bellach.  Roedd 71% o’r disgyblion ysgol a gymerodd ran yn y coleg iau a’r rhaglenni ‘kick start’ wedi mynd ymlaen i Goleg Gŵyr Abertawe ym Medi 2017, gyda llawer o’r lleill yn mynd ymlaen i’r chweched dosbarth yn yr ysgol, i golegau eraill neu i brentisiaethau.  Ar y rhaglen ‘kick start’, cyflawnodd 26% o ddysgwyr gymhwyster uwch na’r cymhwyster y cofrestront arno’n wreiddiol.  Mae hyn yn dangos hyblygrwydd y cwricwlwm a llwyddiant addysgu wrth symbylu a herio dysgwyr i ragori ar ddisgwyliadau.

Yn ogystal â chyfraddau cyflawni a dilyniant cryf, mae dysgwyr yn cael mwy o hyder, hunan-barch a gwelliant mewn ymddygiad ac aeddfedrwydd.  Mae’r pethau hyn yn fwy anodd eu mesur, ond mae’r adborth gan ysgolion a’r disgyblion eu hunain yn cadarnhau fod yr effaith yn arwyddocaol iawn.  Yn yr un modd, mae adborth yn awgrymu bod ymwybyddiaeth dysgwyr o lwybrau dilyniant wedi gwella’n sylweddol.  Mae hyn yn eu cymell nhw ac yn ymestyn eu siawns o wneud dewisiadau da yn sylweddol. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg addysg bellach gyda thros 4,000 o ddysgwyr amser llawn ac 8,000 o ddysgwyr rhan-amser o bob cwr o Abertawe a siroedd cyfagos.  Mae’r coleg yn cyflogi tua 1,000 o staff.  Mae’n gweithredu o chwe lleoliad ar draws Dinas a Sir Abertawe.  Abertawe yw’r ail ddinas fwyaf yng Nghymru, gydag economi gymysg, yn cynnwys sectorau peirianneg, adwerthu a lletygarwch, iechyd, hamdden, twristiaeth a phrifysgol.  Daw tua chwarter o ddysgwyr y coleg o rai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig, fel y mae mynegai amddifadedd lluosog Cymru yn ei nodweddu.

Mae’r coleg yn cynnig cwricwlwm o lefel cyn-mynediad i lefel addysg uwch.  Dyma’r darparwr mwyaf o gyrsiau safon uwch yn Abertawe, gydag oddeutu 40 o bynciau safon uwch.

Mae gan y coleg gyfran fawr o ddysgwyr lefel 3, gydag oddeutu 1,400 o ddysgwyr yn astudio rhaglenni UG neu safon uwch, a 1,700 yn astudio rhaglenni mynediad neu alwedigaethol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r astudiaeth achos hon yn ymwneud â maes arolygu gofal, cymorth ac arweiniad, lle y mae dysgwyr yn elwa o amrywiaeth eang iawn o weithgareddau, gan gynnwys anogaeth bersonol, ymweliadau â sefydliadau allanol a chyfoethogi academaidd ehangach, yn arwain at ddilyniant cadarn i addysg uwch.  Mae gweithwyr proffesiynol diwydiant hefyd yn cyflwyno dosbarthiadau meistr gwerthfawr i ddysgwyr pynciau galwedigaethol.

Mae gan y coleg gyfran fawr o ddysgwyr lefel 3 ac mae’n teimlo’i bod yn hanfodol cefnogi’u huchelgeisiau’n llawn er mwyn symud ymlaen i addysg uwch.  Mae’r coleg wedi rhoi cryn amser ac ymdrech i ddatblygu a chyflwyno amrywiaeth o ddulliau cymorth sy’n annog dyheadau uchel ac yn galluogi pob unigolyn i gyflawni eu potensial o ran dilyniant.  Nodwedd allweddol yw’r cymorth a ddarperir i ddysgwyr mwy abl a thalentog, sy’n arwain at lefelau cadarn o ddilyniant i brifysgolion o fri a rhaglenni gradd hynod gystadleuol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Ers sawl blwyddyn, mae’r coleg wedi cynnal rhaglen helaeth o diwtorialau arbenigol i ddysgwyr sy’n gwneud cais i’r prifysgolion a’r cyrsiau mwyaf cystadleuol.  Dwy enghraifft o’r tiwtorialau hyn yw’r rhai ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud cais i brifysgolion Rhydychen neu Gaergrawnt, a’r rhai ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud cais am feddygaeth, deintyddiaeth neu filfeddygaeth.  Mae’r rhaglenni arbenigol hyn yn ychwanegu dau gryfder penodol at raglen diwtorialau gyffredinol y coleg.  Yn gyntaf, mae dysgwyr wedi’u cysylltu â’r staff mwyaf gwybodus a phrofiadol ar gyfer eu dewis maes.  Mae’r tiwtoriaid hyn yn arwain sesiynau â ffocws ar astudio a gweithio yn y dewis maes ac yn helpu i gynhyrchu ceisiadau UCAS o safon uchel.

Yr ail gryfder yw defnyddio arbenigwyr o’r tu allan i’r coleg, sy’n cynnig rhaglen o areithiau a gweithdai arbenigol.  Mae arbenigwyr allanol o brifysgolion lleol a phroffesiynau perthnasol yn cymryd rhan mewn cyfweliadau ffug, gan ganiatáu i bob dysgwr brofi cyfweliad cystadleuol.  Mae hyn yn rhoi paratoad amhrisiadwy i ddysgwyr i’r broses gyfweld ac mae’n cynnig cyngor unigol manwl ar wybodaeth a medrau cyflwyno’r dysgwr, yn ogystal â hybu hunanhyder y dysgwr wrth iddo wynebu’r cyfweliadau go iawn yn Rhydychen, Caergrawnt neu mewn ysgolion meddygaeth.

Mae’r coleg yn bartner gyda Phrifysgol Caergrawnt ar gyfer ei gynllun HE+.  Mae’r rhaglen allymestyn hon yn annog dysgwyr o’r sector ysgolion gwladol i ystyried gwneud cais i Gaergrawnt/Rhydychen neu brifysgolion eraill sy’n arbenigo mewn ymchwil. Trwy gynllun HE+, mae dysgwyr lefel UG â phroffil TGAU cadarn yn cymryd rhan mewn gweithdai rheolaidd ac amrywiaeth eang o ddosbarthiadau meistr arbenigol, dan arweiniad arbenigwyr o’r coleg ac o brifysgolion ac ysgolion lleol eraill.  Mae’r dosbarthiadau meistr hyn yn archwilio pynciau cyffrous ac yn meithrin angerdd dysgwyr mwy abl tuag at eu dewis bynciau yn fedrus.

Bellach, cynllun HE+ y coleg yw Canolfan Seren Llywodraeth Cymru ar gyfer Abertawe a dyma’r ganolfan fwyaf yng Nghymru, gyda thros 300 o ddysgwyr UG.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r cymorth ac arweiniad rhagorol a roddir i ddysgwyr wrth iddynt wneud dewisiadau a gwneud cais am gyrsiau addysg uwch wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddilyniant llwyddiannus.  Mae lefel uchel iawn o geisiadau UCAS yn cael eu derbyn yn gyson.  

Hefyd, mae’r gwaith mewn tiwtorialau arbenigol ac yn HE+ yn arwain at lefelau cyson uchel o lwyddiant wrth gynorthwyo dysgwyr i gael lleoedd mewn prifysgolion ac ar y cyrsiau mwyaf cystadleuol.  Yn nodweddiadol, mae tua 200 o ddysgwyr yn mynd ymlaen i brifysgolion Grŵp Russell bob blwyddyn, gan gynnwys cyfran gymharol uchel yn derbyn cynigion i astudio meddygaeth, deintyddiaeth a milfeddygaeth, ac i astudio yn Rhydychen/Caergrawnt.

Yn ogystal â’r cyfraddau dilyniant cryf hyn, mae gan waith y coleg yn y maes hwn effaith gadarnhaol ehangach.  Mae’r cyngor gaiff dysgwyr wrth iddynt ymchwilio i’w hopsiynau a mynd drwy’r broses ymgeisio hefyd yn gwella medrau cyflogadwyedd, fel annibyniaeth a hunanymwybyddiaeth, ac mae’n eu hannog i arfarnu’r amrywiaeth o opsiynau a llwybrau dilyniant yn eu gyrfa academaidd neu alwedigaethol.  Mae dysgwyr sy’n dymuno mynd yn syth ymlaen i gyflogaeth ar ôl cwblhau eu rhaglenni lefel 3 yn cael cymorth tiwtorial arbenigol hefyd.  Mae’r gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod dysgwyr y coleg wedi’u paratoi’n dda wrth iddynt symud ymlaen i’r cam nesaf ar ôl y coleg.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Bu Ysgol Pen-bre yn myfyrio ar y cynigion a wnaed gan ddogfen ‘Dyfodol Llwyddiannus’ yr Athro Donaldson, ei ddull o ddiwygio’r cwricwlwm gan ddefnyddio’r 12 egwyddor addysgegol, a’u penderfyniad i ddatblygu dull ysgol gyfan i gyd-fynd ag athroniaeth ac egwyddorion fframwaith y cyfnod sylfaen.  Canlyniad hyn yw dull ysgol gyfan cyson o ddefnyddio ‘llais y dysgwr’ fel cyfrwng i yrru cwricwlwm creadigol wedi’i arwain gan ddisgyblion yn ei flaen.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn Ysgol Pen-bre, mae diddordebau a safbwyntiau disgyblion wedi’u hymgorffori’n gadarn yng ngweledigaeth yr ysgol.  Canolbwyntiodd yr ysgol ar ddatblygu cwricwlwm sy’n ymgorffori’r pedwar diben sydd wrth wraidd y cwricwlwm yn llawn, gan ffurfio dysgwyr ar gyfer yr 21ain ganrif a thu hwnt.

Cydnabuwyd yng nghyfnod allweddol 2 fod y dysgwyr sydd bellach yn trosglwyddo o’r cyfnod sylfaen yn gynyddol annibynnol, creadigol a dychmygus; maent wedi arfer â dull cwricwlwm o addysgu a dysgu sy’n adeiladu ar yr hyn y maent yn ei wybod, yr hyn y maent eisiau ei wybod a beth yw eu diddordebau.  O ganlyniad i hyn, newidiodd yr ysgol ei dull o addysgu’r medrau trwy gynllunio’i chwricwlwm mewn ffordd fwy hyblyg ac addasadwy er mwyn gweddu i ddiddordebau’r disgyblion.  Cyflawnwyd hyn trwy ddatblygu’r dulliau o addysgu a dysgu sy’n cael eu harfer yn y cyfnod sylfaen a’u hymestyn ymhellach i fodloni anghenion medrau cwricwlwm cyfnod allweddol 2.

Dyfodol Llwyddiannus: Dylid trefnu’r cwricwlwm yn Feysydd Dysgu a Phrofiad sy’n sefydlu ehangder y cwricwlwm.

Yn Ysgol Pen-bre, mae’r amgylchedd dysgu yn cefnogi datblygiad cwricwlwm hynod greadigol, cytbwys a chyfoethog sy’n bodloni anghenion pob disgybl.  Mae’n cryfhau ymrwymiad disgyblion i’w gwaith ac yn meithrin datblygiad medrau go iawn.

Crëwyd parthau o’r dosbarth meithrin i Flwyddyn 6 i gwmpasu’r chwe maes dysgu.  Mae codau lliw i’r parthau i sicrhau cysondeb, parhad a throsglwyddo o ddosbarth i ddosbarth.  Crëwyd chwe pharth ym mhob amgylchedd dysgu dosbarth, gan gynnwys Ystafell yr Enfys ar gyfer ADY, sef:

  • Parth Dysgwyr Hapus (Iechyd a Lles)

  • Parth Ieithoedd (Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg)

  • Parth Mathemateg (Mathemateg a Gwyddoniaeth)

  • Parth Digidol (TGCh a Thechnoleg)

  • Parth Darganfod (Y Dyniaethau a Gwyddoniaeth)

  • Parth Creadigol (Y Celfyddydau Mynegiannol)

Ym mhob parth, mae adnoddau sy’n cefnogi a herio datblygiad medrau disgyblion.  Pan fydd disgyblion yn trosglwyddo o ddosbarth i ddosbarth, bydd y parthau lliw yn tywys pob dysgwr at ble caiff yr adnoddau eu storio i gefnogi’r agwedd honno ar y cwricwlwm.  Er enghraifft, byddai atlasau, globau, deunyddiau gwyddoniaeth, testunau ategol ffeithiol ac arteffactau hanesyddol yn cael eu rhoi yn y Parth Darganfod.

Dyfodol Llwyddiannus:  Mae gan ddysgwyr llwyddiannus agweddau cyfrifol tuag at ddysgu a gwybodaeth.

Mae barn ac adborth disgyblion yn nodwedd ganolog wrth gynllunio cwricwlwm yr ysgol, gan fod meddyliau a syniadau dysgwyr yn cyfrannu at y profiadau dysgu a fydd yn deillio o hyn:

  • Sesiynau Llais y Disgybl yn y cyfnod sylfaen

Cyflwynir symbyliad i ddisgyblion yn y cyfnod sylfaen, er enghraifft llun, cân neu stori.  Mae disgyblion yn cyfrannu at y cam cynllunio hwn, gan ddefnyddio medrau o dasgau ffocysedig neu fanylach blaenorol neu drwy rannu’r hyn yr hoffent ei ddarganfod am y symbyliad.  Rhoddir y rhain ar ‘Waliau Her Llais y Disgybl’.

  • Sesiynau EPIC cyfnod allweddol 2 (Pawb yn Cynllunio yn y Dosbarth)

Mae disgyblion wedi ymgymryd â’r thema newydd am gyfnod byr; mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ystyried yr hyn y maent yn ei wybod eisoes, yr hyn yr hoffent ei ddarganfod a’r hyn a fyddai o ddiddordeb iddynt.  Mae sesiynau EPIC yn cynnwys yr athro’n rhannu’r medrau y mae angen eu cwmpasu yn ystod y thema honno; mae disgyblion yn creu gwahanol gwestiynau sy’n golygu y gellir cwmpasu’r medrau.  Cofnodir cwestiynau’r disgyblion ar Fwrdd Enfys EPIC – mae’r lliwiau yn gysylltiedig â’r parthau.  Er enghraifft, byddai cwestiwn a gynhyrchwyd ar fedr penodol yn cael ei osod ar fwa’r Parth Darganfod ar yr enfys.

Dyfodol Llwyddiannus:  Dylai meysydd dysgu ddarparu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer datblygu pedwar diben y cwricwlwm, bod yn gydlynus yn fewnol, defnyddio ffyrdd unigryw o feddwl, a chael craidd adnabyddadwy o wybodaeth ddisgyblaethol ac allweddol

Mae’r ysgol wedi addasu’r cwricwlwm yn llwyddiannus i sicrhau parhad o ran datblygu dysgwyr annibynnol ar draws yr ysgol tra’n sicrhau bod datblygu medrau llythrennedd, rhifedd a TGCh disgyblion yn ganolog i’r trefniadau newydd.

Caiff tasgau addysgu ar wahân neu ffocysedig eu cwblhau cyn cyflwyno tasgau cyfoethog annibynnol o’r enw Heriau a Chenadaethau.  Cyflwynir y profiadau dysgu cyfoethog hyn mewn dwy ffordd wahanol ac mae llais y disgybl yn ganolog i’r naill a’r llall:

  • ‘Heriau Llais y Disgybl’ yn y cyfnod sylfaen

Caiff heriau llais y disgybl eu datblygu ar draws parthau dan do ac awyr agored.  Mae’r rhain yn cyfrannu at heriau annibynnol, sy’n cael eu cofnodi ar basbort unigol plentyn. Caiff disgyblion eu hannog i ymweld â phob un o’r parthau; wedyn, mewn pasbortau personol, bydd disgyblion yn cylchu symbolau’r heriau unigol yn ystod amser myfyrio, i ddangos eu bod wedi cwblhau’r dasg.

  • ‘Cenadaethau’ Cyfnod Allweddol 2

Heriau sy’n digwydd ym mhob parth o’r ystafell ddosbarth yw ‘Cenadaethau’; mae’r medrau sy’n cael eu hymgorffori yn gysylltiedig â’r maes dysgu penodol hwnnw.  Er enghraifft, bydd medr digidol a addysgwyd ar wahân yn cael ei atgyfnerthu gan ddisgyblion trwy ‘genhadaeth’ annibynnol neu grŵp bach yn y Parth Digidol.  Pan fo’n briodol, caiff y cenadaethau eu gwahaniaethu trwy ddefnyddio Ysbïwyr, i sicrhau nad yw disgyblion yn ymwybodol o’r gwahanol lefelau cymorth a her yn yr ystafell ddosbarth.  Mae’r ffocws yn ystod y cenadaethau hyn ar ddatblygu agweddau disgyblion at ddysgu, eu hannog i gydweithio, dyfalbarhau, holi a datblygu’r arferion dysgu i ‘ddatrys ansicrwydd’.  Gan fod y cenadaethau wedi’u lleoli yn y parth perthnasol, mae’r holl ddeunyddiau, offer ac adnoddau i helpu disgyblion i lwyddo wedi’u lleoli’n agos, sy’n gwella dysgu annibynnol.

Dyfodol Llwyddiannus:  Dylid cyfleu neges gyson fod ymdrech barhaus yn hanfodol ar gyfer dysgu da ac yn gallu arwain at gyflawniad uchel.  Mae canmoliaeth a chymorth yn hanfodol, ond mae’r cyfle i wneud camgymeriadau a dysgu oddi wrthynt wrth geisio cyflawni nodau heriol yn magu hyder a gwydnwch.

Yn Ysgol Pen-bre, mae athrawon yn defnyddio gweithdrefnau asesu yn fedrus i gynorthwyo disgyblion.  Maent yn cynnig adborth llafar defnyddiol ac adborth ysgrifenedig gwerthfawr sy’n canolbwyntio’n dda ar ddatblygu medrau disgyblion.

  • MYMM (Make Your Mark Monday)

Mae sesiynau a gynhelir bob pythefnos yn rhoi amser gwerthfawr i ddisgyblion fyfyrio ar eu profiadau dysgu, ymateb i adborth ‘Gwyrdd ar gyfer Twf’ (‘Green for Growth’) gan yr athro dosbarth, ymarfer neu ymgorffori medr a ddysgwyd, neu gymhwyso strategaeth i ymestyn eu dysgu ymhellach.  Mae hyn yn annog disgyblion i ddarllen eu hadborth, ystyried yr hyn a ddywedwyd ac ymateb iddo er mwyn symud eu dysgu yn ei flaen.  O bryd i’w gilydd, tynnir llun swigod siarad i ddangos i ddisgyblion bod disgwyl iddynt atgyfnerthu’r dysgu o’u safbwynt nhw.

  • Triongl Myfyrio / Cyngor Ysbïwr Gwych

Yn dilyn cenhadaeth, caiff disgyblion eu hannog i fyfyrio’n weithredol ar y profiadau dysgu uniongyrchol fel grŵp.  Mabwysiadwyd y dull triongl myfyrio ac fe’i gelwir y ‘Triongl Gwirionedd’ (‘Triangle of Truth’).  Mae pob grŵp yn cydweithio i nodi beth oedd yn llwyddiannus ynglŷn â’r genhadaeth, beth ddysgon nhw a pha strategaethau a ddefnyddion nhw i feithrin gwydnwch.  Wedyn, bydd pob grŵp yn cofnodi darn o gyngor ar gyfer y grŵp cenhadaeth nesaf ar fwrdd ‘Cyngor Ysbïwr Gwych’ (‘Ace Agent Advice’), sy’n cefnogi eu dysgu ac yn annog lefelau da o gydweithio a chydweithredu.

  • Pwll Dysgu / Pum B

Ym mhob parth, mae ‘pwll dysgu’, sy’n cynnwys strategaethau neu gwestiynau i’w harwain a’u cynorthwyo os byddant yn cael trafferth wrth geisio gweithio’n annibynnol wrth gwblhau cenhadaeth.  Mae strategaeth y Pum B (Brain (Ymennydd), Board (Bwrdd), Book (Llyfr), Buddy (Cyfaill), Boss (Bos)) yn cyd-fynd â hyn i annog camau at annibyniaeth trwy ddyfalbarhad a chydweithio.

  • PALS (Disgyblion yn Asesu Dysgu yn yr Ysgol)

Mae’r PALS yn ganolog i bob un o’r strategaethau hyn.  Mae dau ddisgybl o bob dosbarth ar draws yr ysgol yn cymryd rhan mewn teithiau dysgu gyda’r pennaeth a’r llywodraethwyr.  Maent yn arfarnu eu hamgylchedd dysgu, yn adrodd yn ôl ar eu profiadau dysgu ac yn defnyddio strategaethau hunanarfarnu i’w galluogi i wneud penderfyniadau sy’n dylanwadu ar eu dysgu yn y dyfodol.

  • Cymwys am Oes

Mae pob un o’r dulliau a’r strategaethau uchod wedi arwain at gwricwlwm creadigol sy’n cael ei arwain gan ddisgyblion, sy’n cefnogi datblygiad dysgwyr annibynnol.  Trwy gwricwlwm eang a chytbwys, mae’n rhoi i ddisgyblion y medrau a’r hyder a fydd yn eu paratoi ar gyfer bywyd yn yr 21ain ganrif a thu hwnt.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf, gan weithio’n fedrus fel dysgwyr annibynnol sy’n gwneud penderfyniadau pwysig am eu dysgu.  Mae gweithgareddau ymarferol, creadigol ac adeiladu tîm yn datblygu disgyblion brwdfrydig sydd ag agweddau cadarnhaol iawn tuag at eu gwaith.  Mae lles disgyblion wedi gwella trwy greu amgylchedd ar gyfer dysgu wedi’i ysgogi gan y plentyn, ac yn paratoi pob disgybl â medrau am oes.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae llawer o ysgolion wedi ymweld i arsylwi darpariaeth, strategaethau addysgu a dysgu yn uniongyrchol.  Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer ag ysgolion eraill yn ystod cynadleddau a sesiynau hyfforddi.  Bydd arfer yn cael ei rhannu ar wefan ERW.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan Ysgol Maes yr Haul hanes cryf o gyflawni safonau uchel mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), y cyfryngau a cherddoriaeth, ac mae wedi llwyddo’n helaeth ym myd chwaraeon. 

Mae arwyddair yr ysgol, sef “Cyfoethogi bywyd trwy ddysgu gydol oes” yn adlewyrchu ei hymrwymiad i addysg fel cyfrwng ar gyfer cyrhaeddiad a chyflawniad, a hefyd fel ffordd o gyfoethogi bywydau plant trwy ddatblygu’r medrau, y priodoleddau a’r agweddau cadarnhaol at ddysgu sydd eu hangen ar blant i fod yn ‘ddysgwyr am oes’.

Mae llywodraethwyr, arweinwyr a staff yr ysgol i gyd yn rhoi gwerth uchel ar ddatblygiad cyfannol pob plentyn, gan gydnabod gwerth datblygu ystod eang o fedrau, diddordebau a rhinweddau personol, yn ogystal â’r pynciau academaidd mwy traddodiadol.

Croesawodd arweinwyr yr ysgol yr adroddiad ‘Dyfodol Llwyddiannus’ ynglŷn â’r cwricwlwm newydd i Gymru.  Roedd y pedwar diben craidd eisoes yn cael eu hadlewyrchu yn arfer dda bresennol yr ysgol, yn eu barn nhw, a rhoddodd hyn fan cychwyn cryf iddynt ar gyfer symud ymlaen.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Wedi i’r ysgol gael ei grymuso a’i hysbrydoli gan y gwaith tuag at y cwricwlwm newydd, cynhaliodd archwiliad llawn o fedrau a diddordebau staff, y ffordd y mae’n cynllunio’r cwricwlwm, darpariaeth allgyrsiol bresennol a phartneriaethau â darparwyr eraill.  Ad-drefnodd arweinwyr dimau a chyfrifoldebau staff o amgylch y meysydd dysgu a phrofiad newydd ac ailstrwythuro’r cynllunio i ddarparu ffocws cryfach naill ai ar wyddoniaeth a thechnoleg, y dyniaethau neu’r celfyddydau mynegiannol bob tymor.  Mae athrawon yn trafod amlinelliadau o destunau bwriadedig ar ddechrau pob tymor ac mae disgyblion yn ymateb yn gadarnhaol, gan awgrymu syniadau a chydweithio i gytuno ar nodau dysgu penodol yr hoffent eu cyflawni.  Pan nad oedd gan yr ysgol arbenigedd digonol ymhlith eu staff eu hunain i ddarparu cyfleoedd o ansawdd uchel mewn meysydd dysgu, fel y celfyddydau mynegiannol, fe wnaethant drafod cytundebau gyda darparwyr fel gwasanaeth cerdd yr awdurdod lleol, cwmni dawns lleol ac arlunydd graffiti.

Cyflwynodd yr ysgol glybiau ychwanegol amser cinio ac ar ôl yr ysgol i ymestyn y cyfleoedd amrywiol sy’n agored i bob disgybl, gan gynnwys y disgyblion iau a mwy agored i niwed, a’u hannog i roi cynnig ar weithgareddau newydd.  Mae’r rhain yn cynnwys dysgu am dyfu planhigion yn y clwb garddio a datblygu medrau meddwl cyfrifiannol yn y clwb codau.  

Mae athrawon yn trefnu digwyddiadau rhannu â theuluoedd i gefnogi’r testunau, ac mae athrawon cyfnod allweddol 2 yn annog disgyblion i gynllunio a ‘gwneud cais’ am gyllid ar gyfer prosiectau, gan anelu at wneud elw.  Mae’r dulliau newydd hyn wedi cyfrannu at gwricwlwm mwy integredig, uchelgeisiol a chyfoethog, sy’n cynorthwyo disgyblion yn eithriadol o dda wrth ddatblygu priodoleddau pwysig fel hunanhyder, dyfalbarhad a’r gallu i gynllunio a chydweithio.

Beth fu effaith y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae defnydd yr ysgol o ddarparwyr allanol wedi codi safonau a dyheadau, ac wedi gwella hyder ac arbenigedd staff.  Mae wedi cael effaith sylweddol ar brofiadau disgyblion.  Er enghraifft, eleni, mae’r holl ddisgyblion ar ddiwedd y cyfnod sylfaen wedi dechrau datblygu gwerthfawrogiad o gerddoriaeth trwy ddysgu medrau allweddellau; mae holl ddisgyblion yr adran iau wedi perfformio mewn band samba ac mae dros hanner yr holl ddisgyblion iau wedi canu neu berfformio mewn digwyddiadau cerddorol naill ai mewn lleoliadau rhanbarthol neu genedlaethol.  Perfformiodd côr yr ysgol mewn gwyliau yn Llundain a Pharis ac mae llawer o ddisgyblion yn ymuno â chlwb allgyrsiol wythnosol ‘Glee’ i ymarfer ar gyfer cynhyrchiad theatr gerddorol ar ddiwedd blwyddyn, y mae cannoedd o aelodau o’u teuluoedd yn ei fynychu.

Mae’r ysgol yn cydnabod pwysigrwydd gweithgarwch corfforol o ran datblygu lles disgyblion.  Mae’n rhoi statws uchel i weithgareddau chwaraeon ac yn cynnig profiad o amrywiaeth eang o weithgareddau chwaraeon mewn gwersi addysg gorfforol a chlybiau ar ôl yr ysgol sy’n cael eu mynychu gan nifer dda o ddisgyblion.  O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dangos brwdfrydedd go iawn am ymarfer corff.  Maent yn datblygu sbortsmonaeth da a ffitrwydd gwell, ac yn mwynhau lles cadarnhaol.  Mae hyn yn cyfrannu’n sylweddol at ymddygiad da ac agweddau cadarnhaol at ddysgu yn yr ysgol.

Trwy weithgareddau cwricwlwm uchelgeisiol a dychmygus, fel prosiectau menter yr ysgol, mae medrau cydweithio, dyfalbarhad, hyder a dawn greadigol disgyblion wedi gwella’n fawr.  Maent yn cynllunio prosiectau cymhleth, yn ystyried goblygiadau ariannol ac yn cyflwyno syniadau creadigol i gynulleidfaoedd eu ‘beirniadu’.  Mae disgyblion yn gweithio’n dda mewn timau ac yn gwerthfawrogi’n fawr y mewnbwn ystyrlon a gânt at wneud penderfyniadau, gan gynnwys sut i wario unrhyw elw a wnaed (eleni, penderfynodd y disgyblion gyfrannu cyfran o’u helw at elusen).  Trwy integreiddio dysgu ar draws meysydd amrywiol y cwricwlwm mewn prosiectau cydlynol, mae disgyblion yn gweld mwy o ddiben a pherthnasedd yn eu dysgu, gan ddangos lefelau uchel o gymhelliant a diddordeb.    Mae’r ysgol yn gweld bod meithrin partneriaethau cadarnhaol gyda rhieni yn gwneud cyfraniad hollbwysig at ddatblygu agweddau cryf at ddysgu, a bod rhannu profiadau dysgu disgyblion gyda rhieni yn elfen bwysig o weithgareddau cyfoethogi.  Mae disgyblion yn ymfalchïo mewn rhannu eu cyflawniadau ac maent yn llawn cymhelliant i wneud eu gorau.  Mae’r cyswllt cryf â theuluoedd yn creu cymuned ddysgu gynnes yn yr ysgol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • Amrywiaeth o ddigwyddiadau rheolaidd ‘rhannu â theuluoedd’

  • Cyflwyniad i ysgolion eraill trwy ŵyl ddysgu’r awdurdod lleol

  • Trafodaeth rhwng athrawon gwahanol ysgolion

  • Enghreifftiau fideo o arfer ar wefan yr ysgol

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Tywyn wedi’i lleoli yn ne ddwyrain Port Talbot yn awdurdod lleol Castell-nedd Port Talbot.  Mae 453 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 84 o ddisgyblion meithrin rhan-amser.  Mae 14 o ddosbarthiadau un oed ac un dosbarth oedran cymysg.  Hefyd, mae chwe dosbarth ag adnoddau dysgu, sy’n darparu addysg i 48 o ddisgyblion o bob rhan o’r awdurdod lleol.  Mae’r ddarpariaeth hon yn darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu cymedrol i ddifrifol a disgyblion sydd ag anghenion dysgu dwys a lluosog.

Cyfran gyfartalog y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros y tair blynedd diwethaf yw 29%.  Mae hyn ymhell uwchlaw’r cyfartaledd ar gyfer Cymru, sef 19%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan 40% o’i disgyblion anghenion dysgu ychwanegol, sy’n uwch o lawer na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Mae hyn yn cynnwys y disgyblion yn y dosbarthiadau adnoddau dysgu.  Mae gan ychydig o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig ac mae ychydig iawn ohonynt dan ofal yr awdurdod lleol.  Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion o ethnigrwydd gwyn Prydeinig ac yn dod o gartrefi sy’n siarad Saesneg fel eu prif iaith.  Ychydig iawn o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Roedd llefaredd yn flaenoriaeth i’r ysgol yn 2016-2017 o ganlyniad i berfformiad is na’r disgwyl ymhlith disgyblion.  Roedd deilliannau hunanarfarnu trwy graffu ar gynlluniau yn awgrymu nad oedd cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llefaredd ar draws yr ysgol wedi’u datblygu’n ddigonol.  Trwy ymarferion cymedroli mewnol, roedd prinder tystiolaeth llefaredd i ategu barnau athrawon mewn Saesneg.  Roedd y lefelau a ragwelwyd i ddisgyblion ar draws yr ysgol yn awgrymu’n gryf nad oedd disgyblion ar y trywydd iawn i gyflawni’r lefel ddisgwyliedig yn y cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol 2.

Cymerwyd y camau gweithredu canlynol:

  • Darparwyd hyfforddiant datblygu staff ar therapi iaith a lleferydd er mwyn adnabod grwpiau ar gyfer ymyrraeth gynnar
  • Archwilio a phrynu adnoddau i ddatblygu’r defnydd o lefaredd/cyfathrebu trwy TGCh
  • Archwiliad staff – Pa gyfleoedd oedd yn cael eu darparu i ddisgyblion ddatblygu eu medrau llefaredd?
  • Llais y disgybl – Llenwyd holiadur i ystyried safbwyntiau disgyblion a’u hyder wrth gymhwyso medrau llefaredd
  • Sicrhau bod cynllunio’n darparu cyfleoedd ar gyfer llefaredd, gan gynnwys dilyniant clir i ddisgyblion
  • Arsylwi gwersi mewn triawdau (grwpiau o dri o athrawon) – gyda ffocws clir ar lefaredd a rhannu arfer dda
  • Rhannu arfer dda ar draws y clwstwr o ysgolion gan ddefnyddio Hwb
  • Gwrando ar ddysgwyr – cynhaliodd y corff llywodraethol gyfweliadau â disgyblion
  • Datblygu cyfleoedd ar gyfer llais y disgybl ym mhob dosbarth
  • Penderfynwyd ar feini prawf ar gyfer siarad yn effeithiol ar gyfer hunanasesu/asesu cymheiriaid, a datblygwyd cyfleoedd i asesu cymheiriaid/hunanasesu ar draws y cwricwlwm
  • Ailgyflwynwyd gwasanaethau dosbarth ar hyd y flwyddyn academaidd, a fynychwyd gan rieni a llywodraethwyr
  • Pennwyd targedau rheoli perfformiad trwy gyfweliadau staff i ddatblygu llefaredd
  • Arsylwi gwersi a chraffu ar waith, gyda ffocws ar lefaredd
  • Sicrhau bod cyfleoedd i gymhwyso llefaredd ar draws y cwricwlwm yn gyson
  • Staff i fynychu clinigau cyngor bob tymor i sicrhau bod strategaethau a dulliau’n briodol ac yn effeithiol
  • Olrhain disgyblion gan ddefnyddio systemau asesu er mwyn sicrhau dilyniant
  • Swyddog Datblygu Llythrennedd Disgyblion i weithio â’r grŵp ffocws MATh

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gofynnwyd i ddisgyblion:

  • baratoi sgwrs i ymgysylltu â chynulleidfa, gan ddefnyddio geirfa, mynegiant, goslef ac ystumiau priodol
  • defnyddio ymresymiad a dod i gasgliadau i ddangos empathi â chymeriad

Darllenodd y disgyblion y gerdd ‘Timothy Winters’ gan Charles Causley.  Cafodd ei dadansoddi ac anogwyd disgyblion i ddeall y cymeriadau a’r themâu sylfaenol.  Roedd disgyblion yn gallu mynegi eu barn trwy gyfeirio at y testun a dyfynnu ohono’n uniongyrchol i ategu eu barn.  Yn dilyn hyn, anogwyd y disgyblion i roi sylwadau ar sut mae testunau’n newid pan gânt eu haddasu ar gyfer cyfryngau a chynulleidfaoedd gwahanol.  Cyflawnwyd hyn trwy ddadansoddi fersiwn animeiddiedig o’r gerdd.  Roedd y gweithgareddau hyn yn sicrhau bod disgyblion yn gallu dangos empathi a deall syniadau’r bardd a’r iaith a ddefnyddiwyd.  Ar ôl cyflawni hyn, creodd disgyblion feini prawf llwyddiant ar gyfer gweithgaredd ‘cadair boeth’.  Gofynnwyd i ddisgyblion ddatblygu ymwybyddiaeth o gymeriadau trwy chwarae rôl cymeriad penodol a darparu datganiad tyst.  Cynlluniodd disgyblion eu sgwrs trwy gyfeirio at y meini prawf llwyddiant a dyfynnu o’r gerdd i ddod â’r cymeriad yn fyw.  Helpodd hyn i ddatblygu medrau ymresymu a dod i gasgliad, a sicrhau ansawdd a dewisiadau mentrus o ran geirfa.  Er mwyn sicrhau y cyflawnwyd safonau uchel, arweiniodd disgyblion MATh eu dysgu eu hunain trwy fodelu enghreifftiau o berfformiadau llefaredd o ansawdd uchel, a phennu’r disgwyliadau gofynnol i gynorthwyo ac annog pob disgybl i gyflawni safon debyg.  Roedd disgyblion yn huawdl ac yn gallu rhoi beirniadaeth adeiladol trwy asesu cymheiriaid a hunanasesu effeithiol.  Arweiniodd hyn, yn ei dro, at bob disgybl yn symud ymlaen trwy gydol y wers, yn unigol ac fel grŵp.

Pa effaith gafodd y gwaith hwn ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

  • Mae llawer mwy o bwyslais ar weithgareddau llefaredd ar draws yr ysgol gyfan
  • Mae hunan-barch disgyblion wedi gwella’n sylweddol ac maent bellach yn fwy hyderus wrth berfformio o flaen cynulleidfaoedd gwahanol ac at amrywiaeth o ddibenion
  • Mae disgyblion yn fwy huawdl a gallant ddefnyddio ystod eang o eirfa wrth siarad mewn ystod o sefyllfaoedd
  • Mae mwynhad disgyblion o weithgareddau llefaredd wedi gwella; caiff gweithgareddau eu cynllunio, eu pennu’n briodol er mwyn sicrhau dilyniant, ac maent yn bwrpasol

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Rhannwyd arfer dda fel a ganlyn:

  • Arsylwi gwersi mewn triawdau
  • Cymedroli gydag ysgolion y clwstwr
  • Dysgu rhwng ysgolion
  • Llywodraethwyr – Holi / gwrando ar ddisgyblion MATh

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Beca yn ysgol gynradd wledig cyfrwng Cymraeg ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Rhennir yr ysgol i 3 dosbarth oed cymysg.  Addysgir y cyfnod sylfaen mewn un dosbarth ac addysgir cyfnod allweddol 2 fel un adran ond gyda 2 athro cymwysedig mewn ardal dysgu cynllun agored.  Tua 3% o’r disgyblion sydd yn derbyn prydiau ysgol am ddim ac mae’r ysgol wedi adnabod tua 17% o’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae mwyafrif o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle Cymraeg yw iaith yr aelwyd.  Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng yr addysgu a dysgu.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers Ionawr 2009. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Wrth gynnal arolwg barn staff a disgyblion trwy holiaduron a chyfarfodydd anffurfiol, adnabuwyd fod y disgyblion yn cael eu cynnwys yn llwyddiannus wrth wneud penderfyniadau yn yr ysgol ond yn aml iawn roedd y penderfyniadau hynny’n ymwneud â gwaith elusennol.  Er i farn y disgyblion gael ei gasglu yn rheolaidd, nid oeddynt yn derbyn y cyfle i gynllunio’r ffordd ymlaen na datrys heriau, oni bai eu bod yn aelodau’r cyngor ysgol.  O ganlyniad dim ond ychydig o ddisgyblion oedd yn cael cyfle i lywio ffordd ymlaen i’r ysgol.  Roedd hyn yn fater y bu i’r ysgol benderfynu ei wella.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gan fod Ysgol Beca yn gymharol fach o ran nifer y disgyblion, penderfynwyd sefydlu cynghorau o bwrpas yn yr ysgol a sicrhau bod yr aelodaeth yn cynnwys trawstoriad mor eang â phosib o ddisgyblion.  Cytunodd y staff i uno’r cyngor ysgol a’r cyngor eco gan llawer o waith y ddau gyngor yn gorgyffwrdd.  Yn ogystal, sefydlwyd dau gyngor newydd sef ‘Criw Twm Tanllyd’ i weithio ar flaenoriaethau’r siarter iaith a ‘dewiniaid digidol’ er mwyn camu tuag at ddyheadau’r fframwaith digidol.  Penderfynwyd peidio â datblygu mwy o gynghorau er mwyn cadw cydbwysedd llwyth gwaith.  Ar ddechrau’r flwyddyn, sefydlodd y cynghorau holiaduron gyda TGCh er mwyn adnabod cryfderau a gwendidau’r ardaloedd roedden nhw’n gweithio arnynt.  Yn dilyn casglu barn, lluniodd y cynghorau gynllun gweithredu syml i arwain eu gwaith.  Cafodd blaenoriaethau’r cynghorau eu cynnwys yng nghynllun datblygu’r ysgol.  Trafodwyd cynlluniau’r cynghorau mewn cyfarfodydd llywodraethol a rhennir eu gweledigaeth gyda’r rhieni.  Yn ystod y flwyddyn, roedd y cynghorau yn cwrdd yn gyson i werthuso datblygiadau eu gwaith ac i gynllunio’r ffordd ymlaen.  Er mwyn cynnwys barn cymaint o ddisgyblion ag sy’n bosib, defnyddwyd codau ‘QR’ ym mhob dosbarth er mwyn i’r disgyblion rannu eu syniadau.  Mae’r rhain yn caniatáu i’r disgyblion roi syniadau yn syth i gyfrif HWB yr athrawon, er enghraifft yn nodi’r hyn maent eisiau dysgu yn ystod y thema.  Mae QR penodol eraill o amgylch yr ysgol hefyd, sy’n caniatáu i’r disgyblion ddanfon eu sylwadau yn syth at y pennaeth.  Mae’r syniadau hyn yn cael eu cynnwys mewn cyfarfodydd llywodraethol, staff a chyngor eco.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae dull gweithio’r cynghorau yn datblygu’r ymdeimlad o berchnogaeth a balchder y disgyblion am eu hysgol.  Maent yn sylweddoli bod eu syniadau yn cael effaith a bod y staff yn gwrando o ddifrif ar eu sylwadau.  Mae’r staff yn amlygu i’r disgyblion yr enghreifftiau o sut mae eu sylwadau wedi arwain y dysgu a’r gweithgareddau, fel bod yn sicrhau ymrwymiad llwyr i’r gwaith.  O ganlyniad, mae ymroddiad a brwdfrydedd y disgyblion i waith a bywyd yr ysgol yn rhagorol.  

Mae’r gweithgarwch yma wedi datblygu’r disgyblion fel ddinasyddion cydwybodol, gan eu bod yn ystyried holl gymuned yr ysgol yn ogystal a’u dyheadau personol.  Maent yn cynllunio gweithgareddau gan ystyried yr effaith ar holl gymuned yr ysgol.  Ymhlith eu llwyddiannau yn ystod y flwyddyn, maent wedi datblygu ardaloedd dysgu yn yr ysgol i roi cyfle i ddysgwyr fyfyrio, datblygu’n gorfforol, creu hafan ddiogel i blant anabl gyrraedd yr ysgol a sicrhau bod y safle yn ddeniadol ac yn ysgogi balchder ymhlith holl ddefnyddwyr y safle.   Maent wedi llwyddo i sicrhau bod safle’r ysgol ar agor i’r cyhoedd tu allan i oriau ysgol.  Mae criw ‘Twm Tanllyd’ wedi llwyddo i sicrhau bod amgylchedd Ysgol Beca yn gwbl Gymreig ei naws, gan sicrhau ymrwymiad yr holl randdeiliaid i’r iaith Gymraeg, gan ennill cydnabyddiaeth efydd y siarter iaith.  Mae’r criw digidol wedi llwyddo i godi safonau sgiliau TGCh disgyblion yn yr ysgol trwy rannu eu harfer dda a sicrhau bod dealltwriaeth gadarn gyda’r disgyblion a’u rheini am e-ddiogelwch. 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harferion gyda’r llywodraethwyr a rhieni trwy gylchlythyron a chyfarfodydd penodol.  Bydd yr ysgol yn mynd ati i gofrestru’r arfer dda yma ar wefan ERW trwy lwyfan Dolen.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Beca yn ysgol gynradd wledig cyfrwng Cymraeg ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  Rhennir yr ysgol mewn i 3 dosbarth oed a gallu cymysg.  Addysgir y cyfnod sylfaen mewn un dosbarth ac addysgir cyfnod allweddol 2 fel un adran ond gyda 2 athro cymwysedig mewn ardal dysgu cynllun agored.  Tua 3% o’r disgyblion sydd yn derbyn prydiau ysgol am ddim ac mae’r Ysgol wedi adnabod tua 17% o’r disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.  Mae mwyafrif o’r disgyblion sydd yn mynychu’r ysgol yn dod o gartrefi lle mai Cymraeg yw iaith yr aelwyd.  Cymraeg yw iaith bob dydd yr ysgol a chyfrwng yr addysgu a dysgu.  Mae’r pennaeth wedi bod yn ei swydd ers Ionawr 2009. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Trwy ei systemau monitro a sicrhau ansawdd, roedd yr arweinwyr wedi amlygu bod darparu cwricwlwm llawn a sicrhau ymrwymiad pob disgybl i’r dysgu yn anodd gan ystyried cyfyngder amser ac adnoddau dynol yr ysgol.  Yn dilyn cyhoeddiad o’r ddogfen Dyfodol Llwyddiannus ar gyfer sefydlu cwricwlwm newydd i Gymru, penderfynodd y staff addysgu bod angen addasu’r ddarpariaeth oedd ar gael ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2.  Mae darpariaeth y cyfnod sylfaen wedi ei wreiddio, a phenderfynodd yr arweinwyr fod angen sicrhau bod y gwaith effeithiol yma’n parhau trwy’r ysgol.  Mae adeilad Ysgol Beca wedi ei adeiladu ar strwythur cynllun agored ac o ganlyniad, yn benthyg ei hun yn dda at addysgu thematig mewn grwpiau bychain yn hytrach na dysgu torfol o fewn dosbarth cyfan.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ar ôl ystyried sefyllfa’r ysgol, aeth y staff ati i uno cyfnod allweddol 2 yn un dosbarth, sydd bellach cael ei addysgu gan ddau athro cymwysedig ac aelod o staff cynorthwyol.  Rhoddwyd y gorau i wersi traddodiadol a sefydlwyd cyfnodau dysgu thematig yn y prynhawn.  Cynlluniwyd rhaglen lle mae’r disgyblion yn derbyn pedair her i’w gwneud ar gyfnodau dewis rhydd, a dwy dasg annibynnol sydd wedi ei osod gan yr athro i’w gwblhau ar gyfnod penodedig a sesiynau ffocws.  Prif nod y sesiynau ffocws yw darparu cyfleodd i feithrin medrau rhif a llythrennedd trwy feysydd gwyddoniaeth a TGCH.  Mae’r gweithgareddau annibynnol a’r heriau yn seiliedig ar thema’r dosbarth, gan adolygu medrau rhif, llythrennedd neu TGCh sydd wedi eu cyflwyno i’r disgyblion yn ystod y gwersi mwy strwythuredig.  Bellach, mae’r dosbarth yn un ardal llawn bwrlwm dysgu, sy’n datblygu ystod eang iawn o fedrau o fewn amrediad y cwricwlwm.

Mae’r ysgol yn adnabod themâu penodol ar gyfer pob tymor.  Mae’r disgyblion yn rhan o gynllunio cynnwys y thema ac mae’r athrawon yn ystyried y cynnwys a’r amrediad sydd wedi cael ei addysgu yn ystod y tymor yn ofalus.  O ganlyniad, mae’r staff yn adnabod unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth a chynllunio’n fwriadus i sicrhau bod y disgyblion yn derbyn cwricwlwm cyflawn.  Mae’r staff yn cynllunio er mwyn sicrhau bod cyfnodau lle mae rhan o’r addysgu yn yr awyr agored gan ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael i’r ysgol.  Mae cynlluniau penodol ar gyfer mathemateg ac iaith, ond mae’r cyfnodau thematig yn agored i drywydd y dysgwyr a’r staff, cyhyd eu bod yn adolygu sgiliau sydd wedi eu cyflwyno iddynt yn y gwersi iaith a mathemateg.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r ddarpariaeth hyn, mae ymrwymiad y disgyblion i’w dysgu wedi datblygu i lefelau uchel iawn.  Maent yn awyddus i gwblhau tasgau i lefelau rhagorol ac yn cymryd balchder a pherchnogaeth o’u gwaith gan eu bod yn rhan o’i gynllunio.  Mae’r disgyblion yn mwynhau’n fawr y cyfle i gael yr elfen o ddewis yn eu haddysg.  Maent yn mwynhau’r heriau ac yn cael ymdeimlad o lwyddiant gan eu bod yn adolygu sgiliau sydd yn cael eu cyflwyno iddynt mewn cyd-destun amrywiol.

Barn y dysgwyr am y strwythur newydd a’r cwricwlwm arloesol a ddarperir, yw ei fod yn llwyddiannus iawn.  Maent yn mwynhau’n fawr y ffaith eu bod yn cael dewis ac yn gweld budd o gael sesiynau ffocws, gan deimlo fod yr athrawon yn medru eu herio a’u cefnogi yn effeithiol iawn.

Mae’r safonau a welir yn llyfrau’r disgyblion wedi gwella’n sylweddol ar hyd yr amrediad galluoedd sydd yn y dosbarth.  Mae canlyniadau’r profion safonol yn dangos bod eu sgiliau rhif a llythrennedd wedi datblygu’n llwyddiannus iawn o dan y ddarpariaeth newydd.  Er nad oed disgyblaeth yn broblem yn yr ysgol, mae lefel o frwdfrydedd a pharch tuag at ddysgu hefyd wedi gwella.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harferion gyda’r llywodraethwyr a rhieni trwy gylchlythyron a chyfarfodydd penodol.  Bydd yr ysgol yn mynd ati nesaf i gofrestru’r arfer dda yma ar wefan ERW trwy lwyfan Dolen.