Arfer effeithiol Archives - Page 34 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am y lleoliad

Lleoliad cyfrwng Saesneg yw Berriew Playgroup, sydd wedi’i leoli yn Aberriw yn awdurdod lleol Powys.  Mae wedi’i gofrestru i dderbyn 24 o blant rhwng dwy ac wyth mlwydd oed.  Mae’n cynnig sesiynau addysg y blynyddoedd cynnar o 9.00am i 11.30am o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor ysgol.  Adeg yr arolygiad, roedd 16 o blant yn derbyn addysg y blynyddoedd cynnar wedi’i hariannu yn y lleoliad.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer sy’n arwain y sector

Mae arweinwyr yn rhoi blaenoriaeth i wella lles a safonau i bob plentyn.  Maent yn cyflawni hyn drwy ymestyn eu gwaith drwy bartneriaethau cynaledig ac effeithiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd a nodwyd fel arfer sy’n arwain y sector

Mae’r bartneriaeth gref â rhieni a gofalwyr yn hanfodol i ethos y lleoliad.  Mae ymarferwyr yn deall, i gyflawni’r deilliannau gorau ar gyfer dysgu gydol oes i blant, mae angen iddynt gynnwys rhieni’n llawn yn yr hyn y mae eu plant yn ei ddysgu a’i brofi yn y lleoliad.  Mae rhannu gwybodaeth yn offeryn grymus i helpu i gyflawni hyn a chaiff ei wneud mewn ffyrdd amrywiol i fodloni anghenion a hoffterau teuluoedd gwahanol.  Er enghraifft, mae ymarferwyr yn cyhoeddi blog o weithgareddau pob sesiwn ac yn diweddaru’r hysbysfwrdd defnyddiol y tu allan i’r adeilad yn ddyddiol.  Mae ymarferwyr yn sicrhau eu bod ar gael ar ddechrau a diwedd sesiynau ar gyfer sgyrsiau anffurfiol am gynnydd plant.  Mae rhannu gwybodaeth fel hyn yn helpu rhieni i siarad â’u plant yn ystyrlon am yr hyn y buont yn ei ddysgu, ac yn rhoi cyfle iddynt ymgymryd â gweithgareddau dilynol, os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Trwy weithredu ar adborth o holiaduron rhieni, mae ymarferwyr yn cynnig ymgynghoriadau tymhorol i rieni glywed am gynnydd eu plant.  Mae gweithwyr allweddol yn rhoi gwybodaeth am gyflawniadau plant mewn adroddiad cryno ‘amdanaf i’, sy’n nodi cynnydd a’r camau nesaf ar gyfer dysgu.  Pan fydd ymarferwyr yn rhannu’r adroddiad hwn â rhieni, maent yn rhannu syniadau am sut gallant gynorthwyo eu plant gartref.  Er enghraifft, maent yn annog rhieni i helpu eu plant i ddefnyddio darnau arian i dalu am eitemau pan fyddant yn mynd i siopa, edrych ar siapiau a phrint pan fyddant yn crwydro o gwmpas, siarad am yr hyn y maent yn ei weld, a chyfrif camau ac eitemau yn y cartref.

Mae ymarferwyr yn rhoi blaenoriaeth uchel i baratoi plant i symud i’r ysgol ac yn eu cynorthwyo i ddechrau yn yr ysgol fel unigolion hyderus, iach sy’n barod i ddysgu pethau newydd.  Maent yn mynd â’r plant ar ymweliadau cynyddol hwy i’r ysgol, gan gynnwys ymweliadau amser cinio ac ymweliadau ar gyfer dathliadau arwyddocaol, fel gwasanaethau arbennig a chyngherddau.  Gyda chaniatâd gan rieni, mae ymarferwyr yn rhannu gwybodaeth am gynnydd plant o broffil y cyfnod sylfaen â’r athrawes derbyn, er mwyn iddi allu cynllunio’n effeithiol i adeiladu ar yr hyn maent yn ei wybod eisoes.  Mae’r athrawes derbyn yn ymweld â’r lleoliad yn aml.  Trwy drafodaethau proffesiynol, mae gan arweinydd y lleoliad a’r athrawes derbyn ddull dysgu ar y cyd.  Maent yn mynychu hyfforddiant gyda’i gilydd ac yn trafod arfer yn rheolaidd. 

Mae ymarferwyr yn gwerthfawrogi cysylltiadau’r lleoliad â’r gymuned leol.  Mae’r rhain wedi cyfrannu’n fawr at wella amgylchedd dysgu’r plant, yn ogystal â chyfoethogi eu profiadau dysgu.  Er enghraifft, helpodd aelodau o’r gymuned leol i greu gardd synhwyraidd, adeiladu gwelyau blodau a chodi ffensys i wella’r ardal awyr agored.  Mae ymarferwyr yn cynorthwyo’r plant i ddatblygu ymwybyddiaeth o’u lle yn y gymuned leol trwy drefnu gweithgareddau, fel teithiau cerdded rheolaidd i’r pentref lleol.  Wrth ymweld â’r eglwys leol, cyflwynodd y plant eu hunain i’r ficer lleol.  O ganlyniad, ymwelodd y ficer â’r lleoliad i siarad â’r plant am yr eglwys, pwy sy’n mynd yno ac am nodweddion gwahanol yr adeilad.  Anogodd hyn y plant i edrych yn agosach ar adeilad yr eglwys, a ysbrydolodd eu lluniau ac a ddatblygodd eu medrau siarad a gwrando, creadigol a gwneud marciau yn naturiol.

Mae gan y lleoliad gysylltiadau agos â phartneriaid eraill, sy’n gwella dysgu’r plant yn llwyddiannus.  Gweithiodd y lleoliad â grŵp bywyd gwyllt i ddatblygu ymdeimlad o ryfeddod a pharchedig ofn yn y plant, wrth iddynt ymchwilio i’w hamgylchedd awyr agored a defnyddio taclau go iawn i adeiladu tai ar gyfer trychfilod.  I hyrwyddo partneriaethau gwaith cadarnhaol â’r gymuned leol, mae’r lleoliad yn cynnal diwrnodau agored yn rheolaidd.  Mae ymarferwyr yn gwahodd plant, rhieni, y gymuned, gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr o leoliadau eraill i ymuno â nhw i weld beth maent yn ei wneud.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae bron pob plentyn yn elwa ar gwricwlwm cyfoethog a chyffrous sy’n manteisio i’r eithaf ar bopeth y mae’r gymuned leol yn ei gynnig, ac maent yn cyfrannu ati’n effeithiol.  Mae rhieni’n teimlo y cânt eu cynnwys yn fawr ym mywyd y lleoliad a’u bod wedi’u harfogi’n dda i gynorthwyo eu plant gartref.  Mae plant yn teimlo’n hyderus ynghylch symud ymlaen i’r ysgol.  O ganlyniad i gydweithio’n agos ag athrawes y dosbarth meithrin, mae ymarferwyr yn sefydlu sylfeini cryf ar gyfer dilyniant di-dor yn nysgu’r plant.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r lleoliad yn rhannu ei waith â staff a lleoliadau eraill trwy ddigwyddiadau hyfforddiant.  Mae lleoliadau eraill yn yr awdurdod lleol yn ymweld â’r lleoliad.  Mae athrawes ymgynghorol yr awdurdod lleol yn rhannu arfer yn ystod ymweliadau cymorth â lleoliadau eraill a thrwy gyfryngau cymdeithasol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae awdurdod lleol Sir y Fflint wedi datblygu ymagwedd integredig at Ddatblygu Iaith, sy’n cynnig gwasanaethau a chymorth ar lefel gyffredinol, dargedig ac arbenigol.  Mae cydweithrediad agos rhwng Gwasanaeth Iaith yr awdurdod lleol (CLASS), y Gwasanaeth Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) a Therapyddion Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol o fewn lleoliadau prif ffrwd ac arbenigol.

Cefndir a Chyd-destun

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i leoli yng ngogledd Cymru ac mae ganddo boblogaeth gyfan o 155,155.  Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 78 ysgol.  Mae 64 ysgol gynradd, gan gynnwys 5 sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg.  Mae 11 ysgol uwchradd, gan gynnwys un ysgol cyfrwng Cymraeg.  Yn ogystal, mae dwy ysgol arbennig ac uned cyfeirio disgyblion portffolio.  Caiff y ddarpariaeth arbenigol yn y sir ei hymestyn trwy ddefnyddio canolfannau adnoddau mewn nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd.  Mae’r rhain yn cynnig ymyrraeth dargedig i ddysgwyr ag anghenion unigol penodol, gan gynnwys anhwylder datblygu iaith.

Sail resymegol

Er bod nifer y lleiafrifoedd ethnig yn Sir y Fflint islaw cyfartaledd Cymru gyfan, mae’r sir wedi gweld cynnydd sylweddol o 182% yn nifer ei ddysgwyr Saesneg fel iaith ychwanegol er 2011.  Ar yr un pryd, mae’r galw am ymyrraeth iaith a lleferydd arbenigol wedi cynyddu, gyda phwysau ychwanegol yn cael eu gosod ar wasanaethau a chanolfannau adnoddau arbenigol.  O fewn ysgolion prif ffrwd, roedd pryderon cynyddol yn dod i’r amlwg ynghylch yr oedi yn natblygiad iaith nifer cynyddol o blant a oedd yn dechrau yn y cyfnod sylfaen.  Roedd hyn yn arbennig o gyffredin mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol.  Ysgogodd y ffactorau hyn adolygiad o’r gwasanaethau a’r ddarpariaeth gyfredol ar y pryd, a arweiniodd at ddatblygu’r model cyflwyno presennol.

Ymchwil

Ystyriodd yr awdurdod lleol amrywiaeth o bapurau ymchwil i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.  Mae corff sylweddol o ymchwil sy’n dangos pwysigrwydd datblygu iaith yn llwyddiannus ar lefel gyffredinol, dargedig ac arbenigol.  Cydnabu Jean Gross (2014) fod iaith yn effeithio’n sylweddol ar bob agwedd ar addysg plentyn, gan gynnwys ymddygiad, lles cymdeithasol ac emosiynol, a dysgu.  Mae geirfa yn 5 oed yn rhagfynegydd cryf o’r cymwysterau a gyflawnir adeg oed gadael ysgol a thu hwnt (The Communication Trust 2013).  Nododd Bercow (2008) fod o leiaf 7% o boblogaeth y DU yn arddangos anawsterau cyfathrebu arwyddocaol, a oedd yn cyfateb i oddeutu dau o blant ym mhob ystafell ddosbarth.  Ar lefel leol, canfu astudiaeth o droseddwyr ifanc Sir y Fflint a Wrecsam fod gan 68% ohonynt, mewn asesiad, anawsterau cyfathrebu na chawsant eu nodi yn flaenorol.

Awgrymodd tystiolaeth a ddarparwyd gan Ramsden yn 2009 fod modd lliniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig ag anawsterau iaith trwy nodi ac ymyrryd yn gynnar, a bod defnyddio oedolion medrus i gefnogi datblygiad iaith, lleferydd a chyfathrebu plant ifanc yn rhan bwysig o’r broses hon.  Yn ei erthygl, ‘In the moment’, mae Jones, M (2014) yn disgrifio dull ‘oedolion planedig’, lle y mae oedolion medrus yn chwarae ac yn gweithio ochr yn ochr â disgyblion, gan roi sylwadau, modelu ac ymateb i ddisgyblion gan ddefnyddio rhyngweithiadau priodol wedi’u harwain gan y plant.  Dadleuir mai ymagwedd gydweithredol rhwng addysg ac iechyd yw’r arfer orau i blant ag anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu (A Generation Adrift, The Communication Trust, 2013).

Gweithredu – Ymagwedd gyffredinol, dargedig ac arbenigol

Arweiniodd yr ymchwil a wnaed at ddatblygu’r dewis o ddarpariaeth sydd ar waith ar hyn o bryd, fel y mae ffigur 1 isod yn ei dangos:

Ffigur 1: Model Ymyrryd 3 Haen Sir y Fflint

Cyffredinol: Hyfforddiant, asesu, cyngor a rhannu medrau ar gyfer pob lleoliad cynradd

Ar ôl nodi’r angen i dargedu datblygiad iaith ar y cyfle cynharaf posibl, datblygodd y Cynghorydd Dysgu ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu, a’r Cynghorydd Dysgu ar gyfer SIY, raglen hyfforddi a fyddai’n addysgu ac yn grymuso staff ysgol i ddarparu cymorth iaith i bob plentyn ac annog lleoliadau’r cyfnod sylfaen i roi blaenoriaeth i ddatblygiad iaith lafar.

Mae’r pecyn hyfforddiant pum niwrnod cynhwysfawr yn cynnig cyngor damcaniaethol ac ymarferol ar ddatblygu medrau iaith oddefol a mynegiannol.  Mae sesiynau’n cynnwys Gwrando a Sylw, Rhyngweithio Priodol rhwng Oedolyn/Plentyn, Rhesymu Llafar, Prosesu, y Cof, Ymwybyddiaeth Ffonolegol, Geirfa a Strwythur Brawddegau.  Mae cwrs tebyg wedi’i ddatblygu a’i gyflwyno i bob lleoliad y blynyddoedd cynnar a ariennir yn y sector nas cynhelir.  Er bod yr hyfforddiant wedi’i dargedu at sector y blynyddoedd cynnar a chynradd, gall pob ysgol wneud cais am sesiynau unigol, targedig, i’w darparu ar ffurf digwyddiadau hyfforddi ysgol gyfan neu adrannol.

Yn ogystal â’r cyfleoedd hyfforddi ehangach, mae ymgynghoriadau a chyngor unigol ynghylch disgyblion ar gael i bob ysgol yn Sir y Fflint gan y Gwasanaethau Iaith a SIY.

Targedig: Prosiect Datblygu Iaith

Mae’r haen hon yn cynnwys ymyrraeth uniongyrchol, dargedig, i ysgolion a disgyblion drwy’r Prosiect Datblygu Iaith.  Mae’r Prosiect Datblygu Iaith yn defnyddio egwyddor ‘oedolion planedig’ i ddatblygu medrau cyfathrebu plant ac mae’n cynnwys tîm o chwe Chynorthwyydd Datblygu Iaith, sydd wedi’u hyfforddi i fodelu ac ymestyn rhyngweithiadau iaith priodol yn y cyfnod sylfaen.  Gall y tîm gynnig cymorth i hyd at 18 ysgol y flwyddyn; bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn cael Cynorthwyydd Datblygu Iaith dynodedig ar gyfer sesiynau bore neu brynhawn yn ddyddiol am ddau dymor.  Mae’n rhaid i ysgolion wneud cais i fod yn rhan o’r prosiect; caiff ceisiadau eu hystyried a’u croesgyfeirio â data’r awdurdod lleol / Bwrdd Iechyd ar anghenion dysgwyr ym mhob ysgol benodol i sicrhau bod y prosiect yn cael yr effaith fwyaf.  Mae llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar weithio cydweithredol rhwng ysgolion a’r awdurdod lleol, gyda’r awdurdod lleol yn sicrhau bod Cynorthwywyr Datblygu Iaith wedi’u hyfforddi’n briodol a bod staff yr ysgol yn ysgwyddo cyfrifoldeb am gyfeirio a goruchwylio’u gwaith yn yr ysgol.

Rôl y Cynorthwywyr Datblygu Iaith yw cynnig cymorth targedig yn rheolaidd i ddisgyblion unigol a, hefyd, i fodelu strategaethau priodol i weithwyr proffesiynol eraill yn y lleoliad.  Mae’r ymyrraeth dargedig hon ar gael naill ai i blant uniaith sy’n cael trafferth cyfathrebu ar lefel briodol i’w hoedran, neu i blant sy’n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol.  Darperir y gwasanaeth mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.  Er bod hon yn ymyrraeth dargedig, mae’n bwysig nodi bod y Prosiect Datblygu Iaith yn caniatáu i ysgolion amlygu angen a chael at gymorth i ddysgwyr nad ydynt efallai’n bodloni’r meini prawf ar gyfer trywydd penodol arall o gymorth ac, o ganlyniad, mae’n elfen bwysig o’r ymyrraeth gynnar a gynigir drwy’r awdurdod lleol.

Arbenigol: Allgymorth iaith a darpariaeth grwpiau bychain

Dyma wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Wasanaeth Cynghori a Chymorth Cyfathrebu ac Iaith (CLASS) Sir y Fflint a Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Mae’r ddarpariaeth wedi’i thargedu at ddysgwyr sy’n arddangos Anghenion Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu sylweddol ac y mae asesiad arbenigol Therapi Iaith a Lleferydd wedi amlygu y gallent efallai elwa o wasanaeth dwys CLASS.  I ddechrau, mae’n cynnig ymyrraeth sydd wedi’i chyfyngu i ddau dymor, yn yr ysgol (dwy sesiwn yr wythnos) gyda Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol a Chydlynwyr Allgymorth Iaith Arbenigol yn cydweithredu â’i gilydd.  Caiff hyn ei fonitro a’i asesu’n fanwl tua phob pedair i chwe wythnos. Bydd Cytundeb Lefel Gwasanaeth unigol yn cael ei roi ar waith rhwng yr awdurdod lleol a’r ysgol i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau yn glir o ddechrau’r ymyrraeth.

Mae panel aml-asiantaeth CLASS a gynhelir bob tymor yn ystyried y ceisiadau am ymyrraeth, a hefyd yn gwneud penderfyniadau am y rhai sydd eisoes yn rhan o’r llwyth achosion.  Mae deilliannau gan y Panel yn cynnwys rhyddhau oherwydd cynnydd da, cefnogaeth allgymorth barhaus, pontio i wasanaethau eraill neu gais am Asesiad Statudol (o bosibl yn arwain at le yn un o Ganolfannau Adnoddau Iaith Arbenigol Sir y Fflint).

Darpariaeth canolfan adnoddau i grwpiau bychain  

Mae nifer bach o ddisgyblion â datganiad ac sydd ag anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu sylweddol yn elwa o’r cymorth dwysach a gynigir yn un o dair canolfan adnoddau’r sir (cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol 2 ac uwchradd).  Gall y disgyblion hyn fanteisio ar gymorth arbenigol i grwpiau bychain (cyllid wedi’i ddirprwyo gan yr awdurdod lleol) a therapi lleferydd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) o fewn amgylchedd yr ysgol brif ffrwd.

Effaith

Mae darparu gwasanaethau ar lefelau cyffredinol, targedig ac arbenigol wedi datblygu ymwybyddiaeth gyffredin o anghenion iaith.  Hyd yn hyn, mae 116 aelod staff o 54 lleoliad gwahanol y cyfnod sylfaen a 98 cynrychiolydd o leoliadau’r blynyddoedd cynnar a ariennir wedi manteisio ar y rhaglen hyfforddi fanwl; bellach, mae gan lawer o’r rhain rywfaint o gyfrifoldeb am ddatblygiad iaith o fewn eu lleoliad.  Trwy werthusiadau o’r cwrs, dywed 98% o gynrychiolwyr fod y cwrs yn ddefnyddiol iawn ac roedd 96% o’r farn y byddai strategaethau’n cael effaith arwyddocaol ar ddisgyblion.

Mae’r hyfforddiant a’r cymorth a gynigir drwy’r Cynorthwywyr Datblygu Iaith wedi rhoi’r cyfle i staff ysgol weld arfer effeithiol mewn cyd-destun a datblygu’u harfer eu hunain o ganlyniad.  Mae gan athrawon dosbarth a chynorthwywyr addysgu sydd wedi cymryd rhan fwy o wybodaeth am gaffael iaith, a sylwyd eu bod yn gweithio’n fwy effeithiol gyda disgyblion, rhieni ac asiantaethau allanol, gan gynnwys therapyddion iaith a lleferydd, CLASS a SIY.  Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau i CLASS yn sgil amlygu mwy o ddysgwyr ag anawsterau ac, o ganlyniad, bu deialog fwy gwybodus rhwng gwasanaethau ac ymyrraeth gynharach i’r dysgwr.

Mae gwaith y Gwasanaeth Allgymorth Iaith wedi sicrhau bod nifer cynyddol o ddisgyblion ag anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu wedi’u hamlygu, ond eu bod hefyd yn cael eu cynorthwyo i aros yn eu hysgolion prif ffrwd, gan leihau’r angen am asesu statudol a lleoli mewn darpariaeth adnoddau arbenigol.  Mae monitro dysgwyr yn barhaus o fewn canolfannau adnoddau gan yr awdurdod lleol a gweithwyr iechyd proffesiynol, a chael at gefnogaeth allgymorth barhaus, wedi galluogi rhai dysgwyr i drosglwyddo o’r canolfannau adnoddau yn ôl i’w hysgol a’u cymuned leol.

Hefyd, mae dadansoddi data ansoddol a meintiol wedi amlygu manteision cadarnhaol yr ‘oedolyn planedig’ i ddysgwyr unigol.  Cyn rhoi’r prosiect ar waith, roedd pryderon am ddeilliannau’r dysgwyr SIY ieuengach.  Yn 2012, dim ond 41% o ddysgwyr SIY gyflawnodd ddangosydd deilliannau’r cyfnod sylfaen erbyn diwedd Blwyddyn 2.  Roedd hyn wedi cynyddu i 86% erbyn 2018.  Hefyd, nodwyd effaith o ran dysgu iaith, disgyblion yn integreiddio, cynhwysiant, dilyn arferion a datblygu cyfeillgarwch, hyder a hunan-barch.

Ffocws clir ar gyfer y model cyflwyno diwygiedig oedd cynorthwyo ein dysgwyr ieuengach i gaffael a datblygu iaith, i’w galluogi i ymhél yn effeithiol â’u haddysg.  Mae deilliannau’r cyfnod sylfaen yn ddangosydd clir o’r cyfraniad y mae’r dewis hwn o ymyriadau wedi’i wneud ac mae’n darparu llwyfan cadarn i’r dysgwyr hyn symud ymlaen yn llwyddiannus ar hyd eu taith addysg i gyfnod allweddol 2 a thu hwnt.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol a Chanolfan Adnoddau Trinity Fields yw’r unig ysgol arbennig sy’n gwasanaethu bwrdeistref sirol Caerffili.  Ar hyn o bryd, mae 170 o ddisgyblion ar y gofrestr, rhwng 3 a 19 oed.  Mae gan bron bob un o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig (AAA) ar gyfer anawsterau dysgu difrifol, anawsterau corfforol a meddygol, anawsterau dysgu dwys a lluosog neu anhwylderau ar y sbectrwm awtistig.

Daw bron bob un o’r disgyblion o fwrdeistref sirol Caerffili; daw ychydig bach iawn ohonynt o awdurdodau lleol cyfagos.  Daw pob un o’r disgyblion o gefndir Saesneg eu hiaith.  Mae tua 40% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim.  Mae ychydig bach iawn o ddisgyblion yn derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. 

Yn ogystal â’r ddarpariaeth ar safle Trinity Fields, mae’r ysgol yn cynnal dau ddosbarth lloeren yn Ysgol Gynradd Cwm Ifor ac yn Ysgol Gymunedol Sant Cenydd.  Mae’r ganolfan adnoddau yn yr ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau pwrpasol i gynorthwyo disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd ar draws yr awdurdod lleol.  Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys: Gwasanaeth y Sbectrwm Awtistig Caerffili, clinigau iechyd, gwasanaeth allgymorth a chynhwysiant, gweithgareddau ieuenctid a hamdden, a gwasanaethau gofal seibiant a chymorth gartref.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae staff a llywodraethwyr yn gweithio mewn partneriaeth agos â’r cyngor ysgol i wreiddio cyfranogiad disgyblion ar bob lefel ar draws pob agwedd ar eu gwaith.  Mae’r ysgol yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau, sef dyfarniad sy’n cydnabod ei llwyddiannau wrth osod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth wraidd cynllunio, polisïau, ymarfer ac ethos.  Mae taith yr ysgol tuag at gyflawni’r dyfarniad pwysig hwn wedi’i helpu i barhau i wella’i darpariaeth a datblygu doniau a galluoedd disgyblion, gan eu galluogi i wneud cynnydd cryf.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ym Medi 2012, dechreuodd yr ysgol ar ei thaith tuag at ddod yn Ysgol sy’n Parchu Hawliau, gan ennill y statws llawn hwnnw yn Ionawr 2017.  Cymerodd yr ysgol y camau allweddol sydd wedi’u hamlinellu ym mhob adran isod fel rhan o weithredu agenda’r Ysgol sy’n Parchu Hawliau.

I ddechrau, amlygodd yr ysgol bedair hawl allweddol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a oedd, ym marn yr ysgol, yn fwyaf perthnasol i’w phlant.  Dyma’r pedair hawl:

  • Erthygl 19: Rhaid i lywodraethau wneud popeth a allant i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag pob math o drais, camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth wael gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy’n edrych ar eu hôl.
  • Erthygl 28: Mae gan bob plentyn yr hawl i addysg.  Dylai addysg gynradd fod am ddim a rhaid i fathau gwahanol o addysg uwchradd fod ar gael i bob plentyn.  Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas a hawliau plant.  Rhaid i wledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
  • Erthygl 29: Rhaid i addysg ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd pob plentyn yn gyflawn.  Rhaid iddi annog parch y plant tuag at hawliau dynol, yn ogystal â pharch tuag at eu rhieni, eu diwylliant nhw a diwylliannau eraill, a’r amgylchedd.
  • Erthygl 42: Rhaid i lywodraethau weithio’n rhagweithiol i sicrhau bod y Confensiwn yn hysbys i blant ac oedolion

Yna, cododd yr ysgol ymwybyddiaeth disgyblion a staff o’r erthyglau hyn trwy ddull cydlynedig, hirdymor a oedd yn cynnwys gwasanaethau, arddangosfeydd, addysg bersonol a chymdeithasol, cyfleoedd i ddisgyblion hŷn gyflawni unedau wedi’u hachredu a sesiynau hyfforddiant staff. 

I sicrhau bod cynllunio ar gyfer llais y disgybl yn ganolog i’r hyn sy’n digwydd ar lefel ysgol gyfan ac ar lefel y dosbarth, rhoddodd yr ysgol hyfforddiant ymwybyddiaeth ar waith i staff ar hawliau disgyblion, gyda ffocws penodol ar ddatblygu medrau staff sy’n gweithio’n bennaf gyda disgyblion ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.  Nod yr ymagwedd hon oedd galluogi’r staff hyn i gymhwyso’u dealltwriaeth yn gysylltiedig ag anghenion disgyblion unigol.  Ychwanegodd erthyglau allweddol y Confensiwn at waith papur yr ysgol a gosod arddangosfeydd mawr o “hawliau ar waith” o gwmpas yr ysgol.  Gweithiodd disgyblion yr ysgol gyda Chomisiynydd Plant Cymru i ddatblygu fformat mwy hygyrch ar gyfer erthyglau’r Confensiwn.  Mae’r rhain ar gael erbyn hyn ar wefan y Comisiynydd Plant.

Bu arweinwyr yr ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyngor ysgol â’r tîm arweinyddiaeth disgyblion i ddatblygu amrywiaeth fawr o bolisïau a dogfennau hwylus i ddisgyblion.  Mae’r rhain yn cynnwys polisïau hwylus i ddisgyblion, fel diogelu, iechyd a lles, bwyd a ffitrwydd, e-ddiogelwch, asesu, presenoldeb, addysgu, a dysgu a’r cwricwlwm.  Hefyd, fe wnaethant sicrhau bod dogfennau fel cynllun datblygu’r ysgol, gweledigaeth a nodau’r ysgol, a Chynlluniau Addysg Unigol (CAUau) ar gael mewn fformatau sy’n hygyrch i bob disgybl. 

Fe wnaeth yr ysgol gryfhau’r cyfleoedd am arweinyddiaeth gan ddisgyblion a llais y dysgwr drwy’r tîm arweinyddiaeth disgyblion a’r cyngor ysgol.  O fewn y strwythur hwn, mae rolau’r brif ferch a bachgen, a’r dirprwy brif ferch a bachgen, wedi rhoi cyfleoedd pwrpasol i unigolion gyflawni cyfrifoldebau penodol, uchel eu proffil.  Er enghraifft, mae aelodau’r tîm arweinyddiaeth disgyblion wedi helpu arwain ymweliadau gydag Aelodau Cynulliad, Aelod Seneddol, Comisiynydd Plant Cymru, uwch swyddogion yr awdurdod lleol a phersonél y consortiwm yn llwyddiannus.  Mae arwain yr ymweliadau hyn yn dangos yn glir faint o ymgysylltiad sydd gan ddisgyblion ym mywyd yr ysgol, ynghyd â’u gwybodaeth am sut mae’r ysgol yn gweithio.

Gwreiddiodd yr ysgol ymagweddau trylwyr at y trefniadau ar gyfer gwrando ar ddisgyblion er mwyn sicrhau bod y rhain yn cefnogi’u gwaith fel Ysgol sy’n Parchu Hawliau.  Er enghraifft, mae’r cyngor ysgol yn chwarae rhan ganolog mewn penodi yr holl staff newydd.  Mae disgyblion yn awyddus i gymryd rhan a gwyddant y bydd llywodraethwyr yn ystyried eu barn wrth wneud penodiadau newydd.  Fel arfer, dywed ymgeiswyr mai eu cyfweliad gyda’r cyngor ysgol yw un o agweddau mwyaf heriol y broses ddewis!

Mae’r holl ddisgyblion yn cyfrannu’n effeithiol at brosesau hunanwerthuso’r ysgol.  Er enghraifft, mae “Coeden Syniadau” y tu allan i ystafell y pennaeth yn galluogi disgyblion i roi eu sylwadau yno, ac mae hyn yn ei dro’n cyfrannu at hunanwerthuso a chynllunio ar gyfer datblygu’r ysgol.  Mae disgyblion yn arwain gwasanaethau ysgol a myfyrdodau ar ddiwedd y dydd fel mater o drefn; eto, mae hyn yn datblygu’u medrau cyfathrebu, eu hyder ac yn hyrwyddo disgyblion fel arweinwyr.

Hyd at wanwyn 2019, roedd y pennaeth yn cyfleu safbwyntiau disgyblion i’r corff llywodraethol drwy ei adroddiad tymhorol.  Fodd bynnag, i gryfhau llais y disgybl ymhellach, mae’r brif ferch a’r prif fachgen bellach yn cyflwyno’u hadroddiad ysgrifenedig eu hunain i’r corff llywodraethol ac mae hwn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn y mae angen ei ddatblygu ymhellach.  Bob blwyddyn, mae’r brif ferch a’r prif fachgen hefyd yn ysgrifennu at yr holl randdeiliaid, fel llywodraethwyr, staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ac ysgolion gyda’n dosbarthiadau lloeren, i geisio’u barn am yr hyn sy’n “wych” yn Trinity Fields a beth fyddai’n gwneud yr ysgol yn well fyth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r holl staff, llywodraethwyr, rhieni/gofalwyr a phartneriaid allweddol eraill yn gwbl ymroddedig i osod disgyblion yn ganolog i bopeth a wnawn.  Mae disgyblion yn gwybod bod eu barn yn bwysig; nid oes ofn arnynt fynegi’u barn i staff a llywodraethwyr; maent wedi dod yn fwyfwy hyderus ac annibynnol, ac maent wedi ymgysylltu’n llawnach â phob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Mae dogfennau a pholisïau hwylus i ddisgyblion yn galluogi disgyblion, lle bynnag y bo’n bosibl, i ddatblygu’u dealltwriaeth o amrywiaeth o wybodaeth allweddol am eu hysgol a, lle bo’r angen, eu helpu i wneud dewisiadau gwybodus.

Caiff ein hymrwymiad i agenda’r Ysgol sy’n Parchu Hawliau a llais y disgybl ei adlewyrchu gan yr ysgol yn cyflawni amrywiaeth o ddyfarniadau cenedlaethol a chofnodir hyn yn dda yn adroddiadau cefnogi’r cyrff hynny (sydd oll ar gael ar wefan yr ysgol). 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae arferion ymgysylltu â disgyblion wedi’u rhannu’n helaeth gyda chydweithwyr o fewn yr awdurdod lleol, y consortiwm ac ar hyd a lled Cymru.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Maes Hyfryd yn ysgol arbennig sydd wedi’i lleoli yn Fflint ac a gynhelir gan awdurdod lleol Sir y Fflint.  Mae’n gwasanaethu Sir y Fflint gyfan ac mae hefyd yn darparu ar gyfer nifer o leoliadau o’r tu allan i’r sir.  Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar yr un safle ag Ysgol Uwchradd y Fflint ac mae’n rhannu ychydig o’i chyfleusterau.

Mae’r ysgol yn darparu addysg i ddisgyblion 11 i 19 oed sydd â datganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r anghenion hyn yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer anhwylderau ar y sbectrwm awtistig, iaith, lleferydd a chyfathrebu, ac anawsterau dysgu cymedrol, difrifol a dwys.  Ar hyn o bryd, mae 110 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 44% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.  Daw bron bob un o’r disgyblion o gartrefi lle’r Saesneg yw’r brif iaith a siaredir.

Mae’r ysgol yn gymuned gynhwysol sy’n canolbwyntio ar les a chynnydd pob plentyn a lle rhoddir yr un pwys cyfartal ar bob aelod o’r gymuned.  Mae Maes Hyfryd yn hyrwyddo parch tuag at wahaniaeth ac amrywiaeth trwy weledigaeth, ethos a gwerthoedd yr ysgol, sy’n sylfaen i’r cyfan a wna’r ysgol o ddydd i ddydd.  Nod yr ysgol yw sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei botensial llawn yn y pedair agwedd ar ei gweledigaeth: lles, agwedd, gwybodaeth a medrau.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae staff a llywodraethwyr yr ysgol yn ymroi i ddarparu addysg o’r ansawdd gorau posibl wrth fodloni anghenion unigol amrywiol disgyblion, fel eu bod yn adeiladu ar y medrau y mae eu hangen ar gyfer eu lle mewn cymdeithas yn y dyfodol.  Er mwyn rhoi’r cyfleoedd hyn i’n disgyblion, mae’r ysgol yn buddsoddi llawer o amser ac ymrwymiad mewn gwaith gyda rhieni, gofalwyr a theuluoedd, a’r gymuned i gefnogi lles ac annibyniaeth disgyblion yn uniongyrchol.  Mae’r ysgol yn gosod blaenoriaeth ar annibyniaeth disgyblion yn ei chwricwlwm ac mae’n ystyried bod y gwaith gyda’r gymuned yn rhan annatod o hyn.

Y Weledigaeth:

Daeth y weledigaeth o ddarparu profiadau gwerthfawr yn gysylltiedig â gwaith yn flaenoriaeth allweddol i Faes Hyfryd er mwyn ehangu cyfleoedd disgyblion a chynllunio at eu dyfodol.  O ganlyniad, penodwyd cydlynydd profiad gwaith i ddarparu lleoliadau gwaith llwyddiannus ac ystyrlon i lawer o ddisgyblion.  Mae’r gefnogaeth ehangach helaeth yn y gymuned wrth ddarparu profiadau dysgu yn gysylltiedig â gwaith wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant hwn.

Yn dilyn llwyddiant y lleoliadau gwaith, fe wnaethom nodi angen â blaenoriaeth am rôl ‘Hyfforddwr Teithio’ i adeiladu ar y medrau annibyniaeth y rhoddodd agwedd profiad gwaith y cwricwlwm i’n disgyblion.  Darparodd y rôl hon ar gyfer aelod staff pwrpasol i gynorthwyo disgyblion i ddatblygu’u gallu i fanteisio ar gynlluniau teithio annibynnol i gynyddu’u potensial i chwarae rhan lawn yn eu cymuned.  Yn y rhan lawnach hon, mae disgyblion yn defnyddio cyfleusterau hamdden fel y sinema leol, siopau a pharc manwerthu, yn ogystal â’r gallu y mae mawr ei angen i fanteisio ar leoliadau profiad gwaith a choleg yn y dyfodol.  Bu llwyddiant y rôl hon i’w gweld mewn llawer o agweddau ar yr ysgol, yn enwedig yn y rhaglen 14-19, lle y mae mwyafrif y disgyblion yn manteisio ar y cymorth hwn.  Bellach, mae llawer o ddisgyblion yn teithio’n annibynnol i’w lleoliad gwaith ac ohono, i’w darparwr coleg ac i’w cyfleusterau lleol; ni wnaethant hyn cyn i rôl yr ‘Hyfforddwr Teithio’ ddechrau. 

Hefyd, nododd yr ysgol yr angen i gyflwyno gweithiwr ymgysylltu â’r teulu i ddatblygu ymhellach y gwaith gyda rhieni, teuluoedd ac amrywiaeth o ddarparwyr amlasiantaeth.  Trwy’r rôl hon, caiff asiantaethau allanol a theuluoedd aelod staff diduedd a all ddarparu gwybodaeth, cymorth a hyfforddiant, a bod yn gyswllt allweddol rhwng yr ysgol, asiantaethau a theuluoedd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

O ganlyniad i angerdd Maes Hyfryd i wella cyfleoedd dysgu a lles disgyblion yn barhaus, mae ymagwedd yr ysgol at ei chwricwlwm a’r penderfyniad i greu rolau’r tu allan i’r dosbarth i ategu twf gwaith yn ymwneud â’r gymuned ac annibyniaeth, a chysylltiadau â theuluoedd, wedi bod yn arloesol. 

I ddechrau, cafodd cydlynydd profiad gwaith ei gyflogi i gynllunio a threfnu lleoliadau profiad gwaith addas i fodloni dyheadau’r disgyblion a rhoddwyd rhwydweithiau cymorth staff ar waith fel bo’r angen i sicrhau profiadau cadarnhaol i’r disgyblion.  Ychydig flynyddoedd yn ôl, cyflwynodd yr ysgol rôl ‘Gweithiwr Ymgysylltu â’r Teulu’ a’i phwrpas oedd cydgysylltu â theuluoedd ac amlasiantaethau, fel prif bwynt cyswllt.  Hefyd, cafodd cydlynydd hyfforddwr teithio ei gyflogi i alluogi disgyblion i ddatblygu medrau pwysig teithio a diogelwch ffordd er mwyn manteisio ar gyfleusterau cymunedol yn annibynnol ac yn ddiogel.  Mae’r hyfforddwr teithio’n gweithio’n agos gyda’r cydlynydd profiad gwaith, fel y gall lleoliadau a theithio annibynnol ddigwydd i’r gwaith ac ohono i wella annibyniaeth, hyder a hunan-barch disgyblion. 

Y gweithiwr ymgysylltu â’r teulu – FEW:  mae wedi datblygu rhaglen o gymorth teuluol i alluogi rhieni i gynorthwyo’u plentyn â’i ddysgu yn effeithiol.  Mae’r cymorth hwn wedi meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda theuluoedd ac wedi datblygu ymhellach y cysylltiad rhwng y cartref a’r ysgol.  Mae wedi annog rhieni, gofalwyr a theuluoedd i ddod yn rhan weithgar yng nghymuned yr ysgol.  Mae’r rôl yn cynnwys cynorthwyo â’r rhaglen bontio, cwrdd â’r teuluoedd cyn bod y disgyblion yn ymuno ag Ysgol Maes Hyfryd drwy ymweliadau â’r cartref, nosweithiau agored yr ysgol ac ymweliadau â’r ysgol.

Mae’r ‘FEW’ yn rhwydweithio’n llwyddiannus gydag amrywiaeth eang o asiantaethau allanol fel iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol, y tîm o gwmpas y teulu a sefydliadau gofal seibiant, gan ddatblygu a chynnal perthnasoedd gweithio da.  Trwy weithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol, mae’r FEW yn mynychu’r grŵp craidd, cynadleddau achos a chyfarfodydd cynllunio gofal a chymorth, gan sicrhau bod cymorth ar waith ar gyfer y teuluoedd.  Mae’r rôl hefyd yn cynorthwyo teuluoedd i recriwtio cynorthwywyr personol a chael gofal seibiant i’r disgyblion a’r teuluoedd, a chynorthwyo ag ymweliadau preswyl posibl ac ymweliadau posibl â cholegau, fel bo’r gofyn.

I wella a chefnogi hyder disgyblion a’u lle yn y gymuned y tu hwnt i’r ysgol, mae’r FEW hefyd yn cysylltu ag asiantaethau allanol fel Gweithredu dros Blant, Barnardo’s, Keyring, Cymunedau am waith a sawl un arall.  Yn ogystal, yn dilyn ymgynghoriad â rhieni, cyflwynwyd gweithdai i rieni ar raglen dreigl yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar ddatblygu’r ysgol a chipolygon i feysydd fel cyrsiau wedi’u hachredu.  Hefyd, mae’r FEW yn rhoi cymorth i deuluoedd mewn meysydd ehangach, fel llenwi ffurflenni grantiau, ymweliadau â’r cartref a chymorth ar gyfer pontio.

Hyfforddiant cludiant a phrofiad gwaith

Mae’r hyfforddwr teithio wedi hyfforddi disgyblion i lefel cymhwysedd sy’n golygu y gallant deithio’n annibynnol i leoliadau gwaith, i’r coleg ac i fanteisio ar eu cymuned leol.

Ar hyn o bryd, mae gan Ysgol Maes Hyfryd gysylltiadau â thros 20 o ddarparwyr gwaith lleol.  Mae’r ddarpariaeth hon wedi galluogi disgyblion i fynychu lleoliadau profiad gwaith ac mae nifer ohonynt wedi cyflawni swyddi rhan-amser yn y lleoliadau hyn o ganlyniad hefyd.  Mae pob lleoliad yn yr ardal leol ac mae llawer ohonynt yn cefnogi mentrau cymunedol fel caffi cymunedol Buzz, prosiect annibyniaeth Sidewalk a chaffi Age connects.  Mae disgyblion yn mwynhau gweithio ochr yn ochr â’r gymuned ac maent yn cymryd rhan mewn llawer o fentrau a phrosiectau ystyrlon.  Er enghraifft, wrth werthuso rhaglenni gwaith, mae staff o’r lleoliadau wedi datgan: ‘Ni fyddem wedi gallu darparu ar gyfer y grŵp heb eu cymorth nhw.’ ‘Rydym wrth ein bod yn cael y myfyrwyr ar gyfer profiad gwaith ac rydym yn dysgu ohonyn nhw, ac maen nhw’n dysgu am yr amgylchedd gwaith hefyd’. ‘Mae pawb sy’n dod i Share Mold, ac sy’n ddigon ffodus i gyfarfod â’r myfyrwyr hyn, wedi cael eu taro gan waith caled ac ymroddiad y myfyrwyr ym mhob tasg maen nhw’n eu cyflawni.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r rolau cyfunol hyn wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar berfformiad, lles ac annibyniaeth disgyblion, yn ogystal â chryfhau gwaith gyda rhieni, y gymuned ac asiantaethau allanol.  Er enghraifft, mae’r FEW wedi ymyrryd yn gynnar ar gyfer disgyblion y mae pryderon yn dod i’r amlwg am eu presenoldeb ac wedi helpu disgyblion sydd wedi bod yn absennol o’r ysgol am amser hir i ymgynefino eto, yn aml trwy ddarparu cymorth mentora unigol.  Trwy effeithiolrwydd y gweithiwr ymgysylltu â’r teulu, Ysgol Maes Hyfryd yw’r ysgol arbennig gyntaf yng ngogledd Cymru i gyflawni marc ansawdd cenedlaethol sy’n cydnabod y gwaith a wna gyda theuluoedd a’r gymuned.

Mae’r gweithdai i rieni a ddatblygwyd i gynorthwyo’r teuluoedd â’u plant wedi cael effaith gadarnhaol hefyd.  Mae hyn yn cynnwys gweithdai mewn amrywiol feysydd fel rheoli ymddygiad a ‘Sleep Tight’ i rieni â phlant sy’n cael trafferth ag arferion amser gwely a phatrymau cysgu.  Mae’r gweithdai hyn wedi cynnig arweiniad defnyddiol i rieni i reoli ymddygiad eu plant yn y cartref ac yn y gymuned, ac mae wedi cyfrannu at ddealltwriaeth gyffredin o ddisgwyliadau ynghylch ymddygiad.

Yn gyffredinol, mae’r hyfforddiant cludiant a rolau’r lleoliadau profiad gwaith wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr tu hwnt at symbyliad, cyrhaeddiad a dilyniant disgyblion yn y rhaglen 14-19 oed.  Er enghraifft, dros y tair blynedd diwethaf, mae nifer ac ystod y cymwysterau y mae disgyblion yn eu hennill wedi cynyddu ac mae’r holl ddisgyblion sy’n gadael yr ysgol wedi mynd ymlaen i addysg bellach a/neu i ddarpariaeth coleg arbenigol.  Yn bwysig, mae disgyblion wedi datblygu annibyniaeth a medrau bywyd gwerthfawr fel rhan o’r mentrau partneriaeth llwyddiannus hyn i wella ansawdd y ddarpariaeth sy’n helpu i ysgogi’r gwelliannau hyn.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r fenter hon wedi’i chroesawu gan ddarparwyr coleg ac ysgolion prif ffrwd lleol trwy’r gwaith a’r arfer effeithiol y mae’r ysgol yn eu rhannu gyda nhw yn rheolaidd.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awdurdod lleol yn ne Cymru a chanddi gyfanswm poblogaeth o 144,288.  Mae’r sir yng nghanol de Cymru, yn ymestyn 20 cilomedr o’r dwyrain i’r gorllewin ac mae’n cynnwys cymoedd Llynfi, Garw ac Ogwr.  Mae’r awdurdod lleol yn cynnal naw ysgol uwchradd, 48 o ysgolion cynradd (gan gynnwys dwy ysgol fabanod ac un ysgol iau), dwy ysgol arbennig ac uned cyfeirio disgyblion. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r awdurdod lleol yn rhoi pwyslais sylweddol ar bwysigrwydd ymgynghori â phobl ifanc a rhoi ystyriaeth dda i’w safbwyntiau a’u barn.  Caiff eu gwaith ei ategu gan strategaeth gyfranogi effeithiol.

Ym mis Ebrill 2017, penodwyd Gweithiwr Hawliau Plant a Chyfranogi dynodedig gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd.  Prif ffocws y rôl yw datblygu cysylltiadau cryfach rhwng Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a’r cynghorau ysgol a choleg priodol.  Yn sgil llwyddiant y rôl hon, mae’r awdurdod lleol yn cynnal ymgyrch recriwtio am Weithiwr Hawliau a Chyfranogiad Plant dynodedig ychwanegol i ehangu’r gwaith cadarnhaol a gwblhawyd hyd yma, ac adeiladu arno.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ar draws yr awdurdod lleol, mae plant a phobl ifanc yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn at ddylanwadu ar benderfyniadau am y gwasanaethau sy’n effeithio arnyn nhw.  Mae’r pwyslais yn ymestyn y tu hwnt i ymgynghori i’w cynnwys o ddifrif yn y broses gwneud penderfyniadau a rhoi adborth ar y modd y mae eu cyfraniad wedi gwneud gwahaniaeth.  Mae pob un o’r adrannau isod yn dangos enghreifftiau o’r ystod o weithgareddau sy’n helpu gwneud y strategaeth hon yn llwyddiannus.

Mae’r ‘Rhwydwaith Cyfranogi’ ar draws yr awdurdod lleol, sy’n cynnwys y cyngor ieuenctid, yn ethol maer ieuenctid bob blwyddyn.  Caiff grwpiau arbenigol eu sefydlu i weithredu hawliau a chyfranogiad plant ar draws gwasanaethau pobl ifanc.  Mae’r broses hon yn ymwneud â chynnwys plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, sydd ar yr ymylon ac wedi ymddieithrio ar draws yr awdurdod lleol.  Mae gan y rhain rôl weithredol yn y prosesau gwneud penderfyniadau a chyfranogi trwy gyfarfodydd rheolaidd, ac maent yn gweithio’n dda gyda Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae pobl ifanc ym mhob ysgol a choleg yn rhoi adborth i gynrychiolwyr y Cyngor Ieuenctid ar eu blaenoriaethau, er enghraifft cyfleoedd cynyddol i gymryd rhan mewn clybiau a gweithgareddau allgyrsiol, a chodi mwy o ymwybyddiaeth amdanynt. 

Yn ystod yr adolygiad diweddar o addysg ôl-16, bu disgyblion o bob cyngor ysgol uwchradd yn cymryd rhan mewn gweithdai i roi eu safbwyntiau ar yr ‘uchelgeisiau ar gyfer addysg 16 i 18 ar draws Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr’.  Lansiwyd arolwg manwl i sefydlu safbwyntiau dysgwyr am ddarpariaeth bresennol 16 i 18 oed hefyd, ac ymatebodd dros 1,500 o ddysgwyr 16 i 18 oed.  Roedd y lefel hon o ymateb yn eithriadol o fuddiol i’r bwrdd adolygu o ran cefnogi eu safbwyntiau am effeithiau tebygol y cysyniadau a oedd yn cael eu hystyried.

Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn cynnal ‘Gŵyl Ddysgu’ flynyddol, ac mae llais y dysgwr yn ganolog i’r digwyddiad hwn.  Cynhelir Diwrnod ‘Dysgwyr’ – Fforwm Llais y Dysgwr’ fel rhan o’r digwyddiad.  Mae hyn yn cynnwys tua 100 o ddysgwyr ysgolion cynradd ac uwchradd yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau sy’n hyrwyddo cyfranogi ac yn sbarduno trafodaethau wedi eu harwain gan ddysgwyr.  Er enghraifft, yn 2018, bu cynrychiolwyr o bob cyngor ysgol yn ystyried ‘Beth sy’n gwneud plant yn hapus yn yr ysgol?’ cyn y diwrnod, a chofnodwyd eu hymatebion clwstwr mewn ffilm fer.  Fel rhan o’r ffocws ar les yn y digwyddiad, gofynnwyd i’r clystyrau o gynghorau ysgol ystyried beth fydd ‘yn eu gwneud yn hapusach yn eu hysgol a’u cymuned’.  Cofnodwyd safbwyntiau’r dysgwyr (a’r athrawon) trwy nifer o sesiynau gweithdy hynod ryngweithiol gan y Tîm Datblygu Ieuenctid.  Mae’r safbwyntiau hyn yn helpu llywio’r broses gwneud penderfyniadau o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd. 

Mae Gwasanaeth Cynhwysiant yr awdurdod lleol yn adlewyrchu pwysigrwydd dull unigoledig wrth gofnodi safbwyntiau dysgwyr.  Mae timau o fewn y gwasanaeth yn defnyddio strategaethau amrywiol, gan gynnwys: proffiliau un dudalen, dogfennau ‘Amdanaf i’ (‘All About Me’) a ‘Fy Ngweledigaeth’ (‘My Vision’) i hwyluso adolygiadau wedi eu harwain gan ddisgyblion a chyfweliadau wyneb yn wyneb, a thrafod graddfeydd hyder a holiaduron disgyblion.  Rhennir yr arfer dda hon ag ysgolion trwy hyfforddiant, ymgynghoriadau â disgyblion unigol, grwpiau a dosbarth cyfan a modelau rôl yn ystod cyfarfodydd adolygu. 

Cymerodd Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yr awenau ar ran yr awdurdod lleol o ran mynd i’r afael â ‘thlodi mislif’ trwy ei ysgolion.  Ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-2018, defnyddiodd yr awdurdod lleol grant Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn darparu cynhyrchion mislif sydd ar gael am ddim, offer mislif a newidiadau angenrheidiol i doiledau mewn ysgolion.  Rhoddodd aelodau o’r Cyngor Ieuenctid eu safbwyntiau ar sut dylai’r awdurdod lleol ddefnyddio’r cyllid i wneud y gorau o botensial y dyraniad.  Fe wnaethant ddatblygu holiadur byr i’w lenwi gan ddisgyblion i nodi arfer bresennol mewn ysgolion, eu profiadau o’r rhain a’r dull y maent yn ei ffafrio ar gyfer manteisio ar y cynhyrchion.  Ymgynghorodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid ag uwch arweinwyr mewn ysgolion i nodi p’un a oedd angen unrhyw hyfforddiant ar gyfer staff, a’r newidiadau a oedd yn angenrheidiol i ddiwallu anghenion pobl ifanc yn llwyddiannus.

Canfu’r ymgynghoriadau hyn fod yn well gan bobl ifanc gael gafael ar gynhyrchion gan aelod o staff.  Mae hyn yn galluogi iddynt gael gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, yn ogystal â chyflenwad o gynhyrchion.  Gyda’r wybodaeth hon, dewisodd y Cyngor Ieuenctid, ynghyd â rhanddeiliaid perthnasol, ganolbwyntio ar greu mwy o ymwybyddiaeth o argaeledd cynhyrchion am ddim mewn ysgolion.  Trwy weithio gyda chwmni dylunio, datblygodd y Cyngor Ieuenctid boster yn addas i bobl ifanc a oedd yn cynnig man gwybodaeth ddisylw i ddisgyblion ynglŷn â sut gallant gael cynhyrchion.  Rhoesant bosteri ar gefn pob drws ciwbicl mewn toiledau perthnasol ym mhob ysgol uwchradd a chynradd.  Roedd hwn yn gynllun uchelgeisiol a oedd yn cynnwys dros 600 o doiledau.  Bu gweithiwr hawliau a chyfranogiad plant yr awdurdod lleol yn cefnogi gwaith y Cyngor Ieuenctid ac yn cysylltu â’r adrannau perthnasol yn y cyngor i sicrhau bod y syniad yn cael ei wireddu.  

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Y prif ysgogwr ar gyfer y grant ‘tlodi mislif’ oedd galluogi pobl ifanc a allai fod wedi colli’r ysgol fel arall i ddefnyddio cynhyrchion i sicrhau bod eu presenoldeb ddim yn cael ei effeithio o hyd.  Trwy ymgysylltu â phobl ifanc trwy’r cyngor ieuenctid a’r cyngor ysgol, sicrhawyd bod y cyngor yn y sefyllfa orau i bennu’r mecanweithiau mwyaf priodol i gyrraedd disgyblion sydd wedi eu heffeithio.

Yn fwy cyffredinol, mae strategaeth llais y dysgwr yn hynod effeithiol o ran cyflawni dau o’r pedwar diben craidd yn y cwricwlwm i Gymru trwy helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’n:

  • ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Mae ymglymiad gweithredol yn helpu’r plant a’r bobl ifanc sy’n cael eu cynnwys i ddeall sut gellir clywed eu cyfraniadau trwy’r prosesau democrataidd.  Mae’r gwaith hwn yn gwneud cyfraniadau gwerthfawr at iechyd a lles pobl ifanc, ac yn darparu cyfleoedd pwrpasol i ddatblygu medrau llythrennedd. 

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mabwysiadwyd y posteri ‘tlodi mislif’ a deunydd cysylltiedig yn lleoliadau preswyl a chymunedau ehangach yr awdurdod lleol.  Caiff y rhain eu dosbarthu trwy bartneriaethau â banciau bwyd lleol, hybiau cymunedol a grwpiau lleol eraill.

Rhannwyd arfer dda â’r holl ysgolion yn yr awdurdod lleol trwy’r cynghorau ysgol a gydag awdurdodau lleol eraill trwy wahodd swyddogion i’r digwyddiadau hyn.

Rhannwyd Yr Ŵyl Ddysgu gydag ymarferwyr addysg uwch hefyd trwy Gynhadledd y Rhwydwaith Ymchwil Weithredu (CARN) ym Manceinion (Hydref 2018).

Rhannwyd enghreifftiau eraill sy’n dangos arfer dda o ran llais y dysgwr gydag ysgolion, Consortiwm Canolbarth y De a rhanddeiliaid eraill.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Bro Teifi yn ysgol ddwyieithog ar gyfer disgyblion 3-19 oed sy’n cael ei chynnal gan awdurdod lleol Ceredigion.  Agorwyd yr ysgol fel Ysgol Bro Teifi ym mis Medi 2016 yn dilyn cyfuno Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi gydag ysgolion cynradd Aberbanc, Pontsian, Coedybryn a Llandysul.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Wrth sefydlu’r ysgol yn 2016 adnabuwyd yn gynnar yr angen i greu strwythurau a oedd yn hwyluso siwrne’r disgyblion drwy eu cyfnod yn yr ysgol i fod mor esmwyth â phosib.  Sefydlwyd system ffes (Ffês 1 – Meithrin i Flwyddyn 4, Ffês 2 – Blwyddyn 5 i Flwyddyn 8, Ffês 3  – Blwyddyn 9 i Flwyddyn 13) sydd wedi arwain at systemau pontio a rhannu gwybodaeth effeithiol er mwyn sicrhau adnabyddiaeth orau o anghenion  holl ddisgyblion yr ysgol ac felly at ddarpariaeth barhaus ar eu cyfer.  Mae’r ffaith mai un cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol sydd ar gyfer yr ysgol gyfan yn cryfhau’r adnabyddiaeth o anghenion penodol disgyblion unigol a sicrhau teilwra rhaglenni ymyrraeth addas a chynnar ar eu cyfer.  Er mwyn targedu ymyrraeth briodol ac amserol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oed, mae’r ysgol yn gwneud defnydd effeithiol o wybodaeth i olrhain cynnydd, ymddygiad, presenoldeb a lles.  Mae’r ysgol yn ystyried y ddarpariaeth ar gyfer lles disgyblion i fod llawn mor bwysig â’r ddarpariaeth gwricwlaidd ac nad oes posib gwahanu’r ddwy agwedd.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ceir systemau olrhain cyson sy’n adnabod cynnydd a chyrhaeddiad disgyblion ar draws yr ysgol. Fel rhan o’r strategaeth i wella adnabyddiaeth o ddisgyblion ar fynediad i’r ysgol, mae sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu hasesu a hynny drwy ddefnydd o brofion masnachol ac asesiadau mewnol yr ysgol.  O ddefnyddio’r wybodaeth, trefnir darpariaeth maethu ar gyfer disgyblion oed cynradd sydd â sgiliau cymdeithasol ac emosiynol llai datblygedig o fewn y “Clwb Cwtsh”.  Mae’r ddarpariaeth hwn ar gael pedwar diwrnod yr wythnos ac fe’i cynhelir mewn ystafell bwrpasol.  O fewn y sesiynau, mae staff hyfforddedig yn darparu cefnogaeth i ddisgyblion y cyfnod sylfaen yn y boreau a chyfnod allweddol 2 yn y prynhawn. Canlyniad yr ymyrraeth yw bod y disgyblion yn magu hyder, datblygu hunanddelwedd bositif a datblygu’r sgiliau angenrheidiol sy’n caniatáu iddynt i gael mynediad llawn i’r cwricwlwm.  Mae llwyddiant y ‘Clwb Cwtsh’ hefyd yn deillio o’r cyswllt agos a geir rhwng yr ysgol a’r cartref.  Gwahoddir rhieni i mewn yn rheolaidd er mwyn gweld y ddarpariaeth a thrafod gyda’r staff.

Drwy olrhain ymddygiad ac ymdrech disgyblion mewn gwersi, mae penaethiaid ffes yn datblygu trosolwg cadarn o ymagweddau’r disgyblion at ddysgu.  Mae hyn yn caniatáu iddynt i ymateb yn rhagweithiol er mwyn cynnig datrysiad i danberfformiad.  Gwneir hyn drwy drafodaeth agored gyda’r disgybl, eu rhieni a staff yr ysgol er mwyn adnabod y ffordd ymlaen a thargedu ymyrraeth briodol. 

Mae arferion monitro ac olrhain presenoldeb ar draws yr ystod oed wedi eu gwreiddio yn gadarn; trafodir disgyblion sy’n peri gofid yn wythnosol gyda’r dirprwy bennaeth, penaethiaid ac is-benaethiaid ffes, swyddog cynhwysiant yr awdurdod addysg leol a swyddog presenoldeb yr ysgol.  Arweinia hyn at gyfathrebu effeithiol gyda’r rhieni a’r gofalwyr er mwyn ymateb yn syth i ofidiau am bresenoldeb isel.  Golyga hyn bod y rhan fwyaf o’r disgyblion a’i rhieni yn gweld gwerth mynychu’r ysgol yn rheolaidd sydd yn ei dro yn arwain at agweddau cadarnhaol at yr ysgol ac at ddysgu.

Mae gwaith y penaethiaid ffês a’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol traws ysgol yn greiddiol i adnabyddiaeth gadarn yr ysgol o anghenion ei disgyblion.  O’r wybodaeth drylwyr sydd gan yr ysgol arnynt, targedir rhaglen gynhwysfawr o ymyraethau effeithiol gan gynnwys:

  • Cyfeirio at asiantaethau amrywiol gan gynnwys tîm o amgylch y teulu, cwnselydd yr ysgol, gwasanaeth atal a chyfiawnder ieuenctid, gweithwyr cymdeithasol,
  • Addasu’r cwricwlwm i gwrdd ag anghenion unigol y dysgwr
  • Amserlennu sesiynau pwrpasol o fewn yr ‘Hafan’ sy’n ganolfan o fewn yr ysgol i ddarparu gofal emosiynol i ddisgyblion bregus tra hefyd yn darparu rhaglenni o gymwysterau a rhaglen defnydd cymdeithasol o iaith

Rhoddir pwyslais ar weithgareddau o fewn y ffesys wrth i’r disgyblion symud o’r cyfnod sylfaen i Flwyddyn 3, Blwyddyn 6 i Flwyddyn 7, Blwyddyn 9 i Flwyddyn 10 ac o Flwyddyn 11 i’r chweched dosbarth.  Wrth sicrhau’r continwwm o staff ac adnoddau nid oes toriad yn y ddarpariaeth academaidd a bugeiliol y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn eu profi wrth iddynt fynd o un pwynt allweddol yn eu haddysg i’r nesaf.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r systemau olrhain cynnydd trylwyr, mae’r ysgol yn darparu cymorth ychwanegol er mwyn rhoi pob cyfle i ddisgyblion i gyrraedd eu potensial.  Mae’r ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol yn sicrhau lefelau priodol o ymyrraeth sydd yn galluogi’r disgyblion i gael profiadau cwricwlaidd cyfoethog.  Mae natur ofalgar yr ysgol yn golygu fod bron pob disgybl yn ymddwyn yn eithriadol o dda gan ddangos parch a gofal at eraill ac arddangos agweddau cadarnhaol iawn at eu dysgu.

Mae’r ddarpariaeth o fewn yr Hafan, yn ogystal â chefnogaeth cwnselydd yr ysgol yn effeithiol i sicrhau bod disgyblion yn cael mynediad llawn i’r cwricwlwm yn ogystal â sicrhau cymwysterau priodol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Rhennir arferion effeithiol ar draws yr ysgol er mwyn datblygu arfer cyson o un Ffês i’r llall.  Mae’r ysgol hefyd yn rhannu effeithiolrwydd y strwythur ffês a’r ddarpariaeth ar gyfer gofal a lles disgyblion gydag ymwelwyr yn ogystal â fforymau megis fforwm ysgolion pob oed Cymru.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol uwchradd Gymraeg sydd yn darparu addysg ar gyfer 800 o ddisgyblion 11-18 oed yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe. Mae’r ysgol wedi’i lleoli yng ngogledd Abertawe gyda 30.2% o’r disgyblion yn byw yn ardaloedd 20% mwyaf difreintiedig Cymru a 10.6% ohonynt yn gymwys i brydau ysgol am ddim. Mae 24% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion addysgol ychwanegol yr ysgol ac mae 1.8% ar ddatganiad o anghenion addysgol arbennig. Daw tua 10% o’r disgyblion o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd ac mae bron bob un yn rhugl yn y Gymraeg. Mae gan yr ysgol uned iaith, lleferydd a chyfathrebu cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion oedran cynradd ac uwchradd dinas a sir Abertawe.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan yr ysgol weledigaeth glir i ddatblygu medrau digidiol uwch ei disgyblion drwy sicrhau bod pob arweinydd yn rhan o gynllunio’r continwwm dysgu digidol gyda chyngor digidol yr ysgol. Yn ogystal, maent yn ffocysu ar ddatblygu continiwwm dysgu digidol ar gyfer pob disgybl yn eu clwstwr drwy gydweithio agos a chyson gyda’i hysgolion cynradd partner.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Y cam cyntaf oedd i adnabod y cyfleoedd adrannol i ddatblygu uwch fedrau digidol disgyblion a mapiwyd rhain yn erbyn y Fframwaith Digidol.  O dan arweinyddiaeth aelod o’r Uwch Dîm Arwain a chydlynydd digidiol, buddsoddwyd amser i gyd-gynllunio tasgau cyfoethog gyda’r penaethiaid adran.  Ffocws y cynllunio oedd creu tasgau oedd yn bwrpasol i hyrwyddo dysgu pynciol yn ogystal â meithrin uwch fedrau digidol y disgyblion e.e. yn y dyniaethau crëwyd bas data gan ddefnyddio meddalwedd ‘Access’ i ddehongli effaith mewnfudo ym Mhrydain yn 2015.

Gwnaethpwyd awdit o anghenion dysgu proffesiynol staff er mwyn gallu cynnig hyfforddiant iddynt wrth iddynt ddarparu’r cyfleoedd digidol gorau i’r disgyblion.  Er mwyn cefnogi’r anghenion dysgu proffesiynol a godwyd trwy’r awdit, cynhaliwyd sesiynau amser cinio gwirfoddol wythnosol i ddatblygu medrau digidiol staff yn ogystal â hyfforddiant unigol i staff.

Er mwyn datblygu mwy o gysondeb ym medrau digidol uwch disgyblion y clwstwr, cytunodd gweithgor y clwstwr ar y prif uwch fedrau i’w datblygu.  Yn dilyn y cynllunio yma, mae ‘Arweinwyr Digidol’ yr ysgol wedi darparu hyfforddiant llwyddiannus i ‘Ddewiniaid Digidol’ yr ysgolion cynradd i wella eu huwch fedrau digidol hwythau.  Er mwyn osgoi ailadrodd gwaith o’r ysgolion cynradd ar ddechrau blwyddyn 7 a chysoni medrau digidol disgyblion, cynlluniwyd rhaglen o wersi digidol a darparwyd hyfforddiant pwrpasol ar gyfer yr ysgolion cynradd.  Roedd hyn yn sicrhau bod ysgolion cynradd y clwstwr yn datblygu yr un medrau digidol a bod profiadau’r disgyblion cyn iddynt gyrraedd yr ysgol uwchradd yn gyffredin.

Mae gweithgor digidol y clwstwr wedi trefnu a chynnal sesiynau hyfforddiant hwyrnos i staff y clwstwr, gyda rhai asiantaethau allanol hefyd yn cyfrannu’n llwyddiannus.  Roedd y fwydlen o weithgareddau wedi ei selio ar linynnau’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a gofynion dysgu proffesiynol staff y clwstwr.  Fel dilyniant i’r hyfforddiant, gofynnwyd i bob adran ddarparu o leiaf dwy dasg ddigidol gyfoethog a oedd yn datblygu uwch fedrau digidol disgyblion.

Mae’r ysgol yn buddsoddi’n sylweddol yn barhaus i ddatblygu a gwella is-adeiledd, meddalwedd ac adnoddau digidol yr ysgol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r cynllunio manwl ar gyfer gwella profiadau digidol disgyblion wedi cael effaith gadarnhaol ar hyder staff yr ysgol. Yn sgîl hyn, mae’r staff yn darparu cyfleoedd heriol a chyffrous i ddatblygu uwch fedrau digidol disgyblion.  Mae elfennau o’r Fframweithiau Rhifedd a Digidol yn cael eu plethu’n llwyddiannus i’r gwersi.

Mae gwelliant sylweddol wedi bod yn nefnydd y disgyblion o’r uwch fedrau digidol ar draws eu pynciau e.e ffrwythiannu mewn Excel, cynhyrchu graffiau wrth ddadansoddi data, cronfa bas data, codio, dadandsoddi perfformiad, animeiddiadau, e-gyfeillio, creu algorithm, creu a golygu fideo drwy’r sgrîn werdd, ‘flipgrid’ a rhaglenni llif.  Mae disgyblion yn fwy hyderus a medrus yn eu defnydd o feddalwedd amrywiol.  Mae disgyblion yn ymfalchïo yn eu defnydd o’r medrau digidol uwch yn eu gwaith yn ddyddiol yn yr ysgol.

Mae gwaith yr ‘Arweinwyr Digidol’ yn bell gyrhaeddol yn yr ysgol.  Maent wedi hyfforddi ‘Dewiniaid Digidol’ yr ysgolion cynradd yn yr uwch fedrau digidol.  Mae eu gweledigaeth nhw yn cael effaith gadarnhaol iawn ar yr ymgyrch barhaus i wella uwch fedrau digidol disgyblion. Yn sgîl eu gwaith, mae’r ysgol wedi ennill statws ‘Ysgol Microsoft’.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r gweithgor digidol clwstwr yn cwrdd pob hanner tymor i hunanarfarnu gwaith y tymor/ neu’r flwyddyn ac i gynllunio gwelliant ar gyfer dilyniant dysgu’r disgyblion.

Cyflwynodd yr Arweinwyr Digidol eu gwaith i lywodraethwyr yr ysgol fel eu bod hwythau hefyd yn rhan o gynllunio ar gyfer datblygu medrau disgyblion.

Fel rhan o nosweithiau rhannu arfer dda, mae staff yn cael y cyfle i gyflwyno ac i weld enghreifftiau o dasgau digidol ei gilydd.  Mae’r arweinydd digidol ar gael ar adegau cofrestru i gwrdd â staff unigol i ddatblygu eu medrau nhw ymhellach.

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harferion er mwyn datblygu uwch fedrau digidol y disgyblion gyda nifer o ysgolion yn lleol ac yn genedlaethol. 

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Ysgol uwchradd Gymraeg sydd yn darparu addysg ar gyfer 800 o ddisgyblion 11-18 oed yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.  Mae’r ysgol wedi’i lleoli yng ngogledd Abertawe gyda 30.2% o’r disgyblion yn byw yn ardaloedd 20% mwyaf difreintiedig Cymru a 10.6% ohonynt yn gymwys i brydau ysgol am ddim.  Mae 24% o’r disgyblion ar gofrestr anghenion addysgol ychwanegol yr ysgol ac mae 1.8% ar ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Daw tua 10% o’r disgyblion o gartrefi lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd ac mae bron bob un yn rhugl yn y Gymraeg.  Mae gan yr ysgol uned iaith, lleferydd a chyfathrebu cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion oedran cynradd ac uwchradd dinas a sir Abertawe.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn hanesyddol, roedd cyngor yr ysgol yn dilyn strwythur traddodiadol o ethol un bachgen ac un ferch o bob blwyddyn i gynrychioli llais y disgyblion.  Byddai’r disgyblion hyn yn gweithio’n ddiwyd i wireddu amcanion y cyngor, ond roedd pwysau mawr ar oddeutu 15 o ddisgyblion yn unig.  Er bod cynghorau blwyddyn hefyd yn bodoli, teimlodd yr ysgol nad oedd digon o ddisgyblion yn cael eu cynrychioli ar y cyngor ysgol ac o’r herwydd, nad oedd digon o ddisgyblion yn cyfrannu tuag at newidiadau hanfodol ac allweddol o fewn yr ysgol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Penderfynwyd y byddai chwe chyngor gwahanol yn cael eu sefydlu o dan adain y Cyngor Ysgol, gyda phob cyngor yn gweithio ar flaenoriaethau penodol.  Y chwe chyngor ydy’r Cyngor Dysgu ac Addysgu, Cyngor Cymreictod, Cyngor Iechyd a Lles, Cyngor Eco ac Amgylchedd, Cyngor E-ddysgu a’r Cyngor Elusennol.  Mae’r cynghorau i gyd yn ymateb i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac yn benodol, yr hawl i ddweud eich barn ac i rywun i wrando arnoch.

Dilëuwyd yr arfer o ethol disgyblion.  Erbyn hyn, mae pob disgybl sydd yn awyddus i gyfrannu at ac i arwain ar un o’r cynghorau yn ysgrifennu llythyr cais yn nodi sgiliau a phrofiadau perthnasol yn ogystal â’u gweledigaeth ar gyfer gwaith y flwyddyn.  Mae hyn yn galluogi disgyblion i fod yn rhan o gynghorau sydd o ddiddordeb penodol iddynt ac o ganlyniad, mae gwaith y cynghorau wedi bod yn fwy llwyddiannus.

Yn ogystal â’r gwaith gyda’r Cyngor Ysgol, mae gwrando ar lais y disgyblion yn rhan annatod a pharhaus o fyfyrio a chynllunio pob adran a Meysydd Dysgu a Phrofiad.   

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae newid strwythur y Cyngor Ysgol wedi cael effaith drawiadol ar y nifer o ddisgyblion sydd bellach yn ymgymryd yn llawn â rolau a chyfrifoldebau o arwain gwelliannau o fewn yr ysgol.  Yn flynyddol, mae dros 60 o ddisgyblion, gan gynnwys disgyblion sydd yn gymwys i brydau ysgol am ddim a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, yn gweithio’n wythnosol ar faterion sydd o bwys iddyn nhw er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn gymuned hapus a gofalgar sy’n parhau i anelu at ragoriaeth.  Rhennir gwaith y cynghorau yn gyson mewn gwasanaethau ysgol ac mewn cyfarfodydd llywodraethol, gyda’r disgyblion yn arwain ar sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r ffordd y maent yn cael effaith uniongyrchol ar fywyd yr ysgol.

Mae’r Cyngor Dysgu ac Addysgu yn angerddol dros ehangu gwybodaeth ddiwylliannol disgyblion. Trwy gydweithio’n agos gydag adrannau penodol ac athrawon, maent wedi sicrhau pwyslais cryfach ar hanes a diwylliant Cymru ar draws y cwricwlwm ac wedi rhannu eu barn am y profiadau mwyaf buddiol a defnyddiol iddyn nhw mewn gwersi drwy glipiau fideo a chyflwyniadau mewn cyfarfodydd staff.  Mae’r disgyblion hyn yn gweitho gydag adrannau penodol ac yn cael effaith uniongyrchol ar yr hyn sy’n digwydd ar lawr dosbarth.  Cesglir miloedd o bunnoedd yn flynyddol gan y Cyngor Elusennol, gydag elusennau’n cael eu henwebu gan y disgyblion eu hunain, weithiau yn dilyn profiadau personol.  Mae’r Cyngor Eco ac Amgylchedd wedi sicrhau bod cyfleusterau ailgylchu plastig ym mhob dosbarth ac mae’r Cyngor Cymreictod yn cynnal sesiynau ymwybyddiaeth iaith ynghyd â gweithgareddau ehangach gyda disgyblion iau yr ysgol ac ysgolion y clwstwr, sy’n cael effaith gadarnhaol ar agwedd y disgyblion tuag at Gymru a’u Cymreictod.  Yn ogystal, gweithia’r Cyngor E-ddysgu yn agos gyda Dewiniaid Digidol ysgolion cynradd y clwstwr er mwyn datblygu medrau digidol a rhannu arferion da yn ogystal â chynnal sesiynau hyfforddi gwerthfawr i staff a disgyblion.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu gwaith yn seiliedig ar lais y disgybl yn gyson gyda’r rhieni, y llywodraethwyr a’r gymuned leol trwy gyfrwng ei gwefan a chyfrwng trydar yr ysgol.  Gweithia’n agos gydag ysgolion eraill Dinas a Sir Abertawe wrth hyrwyddo llais y disgybl gan fynychu digwyddiadau tymhorol i rannu arferion da y cynghorau ysgol ledled y sir.  Mae’r Cyngor Cymreictod a’r Cyngor E-ddysgu yn benodol, yn gweithio’n agos gydag ysgolion cynradd y clwstwr er mwyn datblygu perthnasoedd cadarnhaol, rhannu arferion da a sicrhau cysondeb wrth bontio rhwng cyfnod allweddol 2 a 3. Yn ogystal mae’r disgyblion wedi cyflwyno eu gwaith yn y cynghorau i benaethiaid rhwydwaith ysgolion cyfrwng Cymraeg y De. 

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Coleg Myddelton yn ysgol breswyl a dydd gyd-addysgol annibynnol ar gyfer disgyblion rhwng 7 ac 18 oed, sydd wedi’i lleoli yn Ninbych, Gogledd Cymru.  Sefydlwyd yr ysgol ym mis Medi 2016 ac fe’i gweinyddir gan IQ Education Limited, sef cwmni sydd ag ysgol arall yn Lloegr, a chysylltiadau â sawl ysgol yn Tsieina.  Mae 215 o ddisgyblion yn yr ysgol ar hyn o bryd.  Mae’r rhain yn cynnwys 34 o ddisgyblion yn yr adran gynradd, a 179 o ddisgyblion yn yr adran uwchradd, yn cynnwys 43 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.  Mae tua 68% o ddisgyblion yn ddisgyblion dydd sy’n byw yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Gonwy ac mae tua 32% ohonynt yn ddisgyblion rhyngwladol sy’n dod o 16 o wledydd gwahanol.  Daw bron i 23% o ddisgyblion o grwpiau ethnig lleiafrifol.  Mae tua 32% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel eu mamiaith, neu i safon gyfatebol.  Nid nod yr ysgol yw gwneud disgyblion yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond mae’n cynnig cyfleoedd i ddisgyblion yng nghyfnodau allweddol 2 a 3 astudio Cymraeg ail iaith.  Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig.  Mae’r ysgol yn cynnig cymorth dysgu ychwanegol i ychydig iawn o ddisgyblion, yn bennaf i gynorthwyo eu datblygiad o ran llythrennedd, neu anawsterau dysgu cyffredinol.  Mae’r ysgol yn disgrifio bod ei hethos yn seiliedig ar ‘ddysgu yn yr 21ain ganrif’ a ‘thri philer, sef gwydnwch, ysgolheictod a chymrodoriaeth’.  Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu’r unigolyn cyfan ‘i fod yn ddysgwyr annibynnol yn yr economi fodern sydd wedi’i globaleiddio’.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nod Coleg Myddelton yw sicrhau bod disgyblion yn gadael addysg gyda diddordeb gydol oes mewn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol er budd eu hiechyd a’u lles.  Pan agorwyd y coleg, roedd arno eisiau annog disgyblion i ddatblygu eu galluoedd trwy feithrin meddylfryd twf trwy eu helpu i ddeall bod gwaith caled, strategaethau effeithiol a mewnbwn gan bobl eraill yn gallu eu helpu i wella.  I gyflawni’r nod hwn, creodd cyfarwyddwr chwaraeon a dysgu yn yr awyr agored y coleg raglen arloesol, sef ‘Dysgu Trwy’r Awyr Agored’ (‘Learning Through the Outdoors’), gan ddefnyddio lleoliad naturiol Gogledd Cymru ac ardal gyfagos Eryri fel amgylchedd dysgu difyr. 

Mae’r rhaglen wedi’i seilio ar ymagwedd Hahnaidd at addysg gyfannol, sy’n gyson ag ethos y coleg ac yn defnyddio ymagwedd ag iddi sawl cam.  Mae’r strategaeth a’r camau yn dechrau â llunio’r profiad dysgu i sicrhau bod disgyblion yn deall yr hyn y maent yn ymdrechu i’w gyflawni tra’n dysgu trwy’r awyr agored, yn hytrach na chymryd rhan mewn gweithgaredd yn unig.  Mae’r ymagwedd hon yn cynnwys ‘medrau dysgu’r 21ain ganrif’, sef hunanreoleiddio, trwy ofalu am eich lles corfforol a meddyliol a rheoli’ch emosiynau eich hun.  Mae’r ysgol yn arsylwi pryder disgyblion yn y cam hwn o’r broses, fel ofni na allant gyflawni’r dasg a osodwyd, na chaiff ei osgoi na’i anwybyddu, gan ei bod yn hanfodol myfyrio ar hyn yng nghamau olaf y gweithgaredd.

Mae’r ail ran yn ymwneud â chymryd rhan, derbyn yr her, gweithio gyda phobl eraill a dal ati, ni waeth beth fo’r tywydd ar y mynydd.  Mae athrawon yn hwyluso’r profiad dysgu trwy weithio gyda dynameg y grŵp a herio unigolion ar sail eu datblygiad eu hunain trwy elfennau fel arweinyddiaeth a datrys problemau.  Yn gyffredinol, cynhelir y trydydd cam yn ôl yn yr ysgol.  Mae’n hanfodol i’r broses fod athrawon yn hwyluso’r adolygiad: beth ddigwyddodd, beth wnaed yn dda, beth fyddai’n cael ei wneud yn wahanol y tro nesaf, pwy fu’n cynorthwyo, a pha mor effeithiol oedd hyn.  Y rhan allweddol yw’r cam terfynol – trosglwyddo – sut gellir gwneud hyn yn berthnasol y tu hwnt i’r awyr agored?  A yw’r deilliannau dysgu hyn yn berthnasol i’r cartref, yr ysgol a’r dyfodol?  Os nad oeddech yn meddwl y byddech chi’n gallu ei wneud, ond eich bod wedi llwyddo, beth mae hyn yn ei ddweud wrthych am bethau eraill na allwch chi eu gwneud, yn eich barn chi?  Mae’r mathau hyn o gwestiynau yn meithrin hunanhyder, hunan-gred a gwydnwch.  Heb hyn, gweithgareddau yn unig fyddai cyfranogi, ac ni fyddai’n dod â’r gwerth llawn, gwir ar gyfer datblygiad pobl ifanc.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae disgyblion yn cymryd rhan yn y rhaglen dysgu trwy’r awyr agored am ddiwrnod cyfan bob yn ail wythnos fel rhan o amserlen y cwricwlwm.  Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol mewn grŵp o fewn amgylchedd awyr agored heriol.  Mae gweithgareddau enghreifftiol yn cynnwys cerdded ar fynyddoedd a mordwyo, medrau alldaith, dringo ac abseilio, byw yn y gwyllt a chwaraeon dŵr.  Fodd bynnag, mae’r gweithgareddau’n eilradd i’r prif amcanion ym mhedair prif elfen y rhaglen, sef:

  • Datblygu medrau
  • Dysgu trawsgwricwlaidd
  • Datblygiad personol a chymdeithasol
  • Creu atgofion

Mae gan ddisgyblion eu cofnod cynnydd eu hunain, sy’n canolbwyntio ar bob un o’r elfennau uchod, a lle maent yn cofnodi ac yn monitro eu datblygiad yn unigol, ac yn ei hanfod, yn personoli eu nodau ar gyfer eu sesiwn nesaf.

Yr hyn sy’n ganolog i’r rhaglen yw bod pob sesiwn a phob grŵp blwyddyn yn gwneud cynnydd ac yn darparu ar gyfer y broses Hahnaidd, sef camau ‘Hyfforddiant, Prif a Therfynol’ i’w hymgorffori mewn safbwyntiau micro (unigol) a macro (ysgol gyfan) o’r adran gynradd trwodd i’r chweched dosbarth.  ‘Hyfforddiant’ yw pan fydd yr ysgol yn addysgu’r medrau sydd eu hangen ar ddisgyblion i fod yn unigolion hyderus a llwyddiannus. ‘Prif’ yw ble mae’r ysgol yn eu cynorthwyo i ymarfer a datblygu’r rhain ymhellach o fewn grŵp, a ‘Terfynol’ yw ble maent yn gwneud defnydd llawn o’r rhain gyda mewnbwn cyfyngedig gan athrawon. 

Mae’r holl ddisgyblion yn dysgu am gymorth cyntaf, ac yn cael hyfforddiant CPR fel rhan o’r rhaglen.  Yn yr adran gynradd, mae disgyblion yn gweithio tuag at y Dyfarniad Cenedlaethol Dysgu yn yr Awyr Agored, gan ddysgu sut i gynnau tân, defnyddio cyllyll, gwneud bara ac adeiladu llochesau.  Mae Blynyddoedd 7 i 9 yn cymryd rhan yng Ngwobr John Muir, gan ganolbwyntio ar gadwraeth ac anturio.  Mae ymgysylltu yn yr awyr agored yn helpu gwarchod yr amgylcheddau hyn ar gyfer y dyfodol, trwy berchnogaeth disgyblion a chysylltiad â natur.  Mae disgyblion o Flwyddyn 9 ymlaen yn cymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin, yn dysgu mordwyo, celfyddyd gwersylla, gan wneud penderfyniadau fel rhan o dîm bach, ac arwain mewn sefyllfaoedd heriol. 

Beth fu effaith y gwaith hwn ar y ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae disgyblion yn mwynhau dysgu ac yn awyddus i ddysgu trwy’r rhaglen dysgu yn yr awyr agored.  Yn ystod y rhaglen, maent yn datblygu medrau bywyd pwysig fel gwydnwch cryf a medrau personol a chymdeithasol buddiol, gan gynnwys cryfhau eu medrau trefnu, amseru a gwaith tîm yn llwyddiannus. 

Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cydnabod y gall sawl gweithgaredd eu gwthio y tu allan i’w mannau cysurus ac maent yn dysgu sut i reoli eu hofn a’u disgwyliadau’n dda.  Mae disgyblion sy’n cael yr anawsterau mwyaf yn yr ystafell ddosbarth draddodiadol yn tueddu i fwynhau’r sesiwn heriol yn yr awyr agored yn fawr, ac maent yn magu hyder fel eu bod yn meithrin agwedd fwy cadarnhaol at ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Trwy’r gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored, mae disgyblion yn datblygu’r gallu i farnu a gwneud asesiad yn rhan o’u bywyd bob dydd.  Maent yn dysgu sut i adnabod peryglon, beth yw’r perygl, a beth y gellir ei wneud i leihau’r risg.  Mae’r medrau trosglwyddadwy hyn yn helpu disgyblion i fentro mewn modd mwy rheoledig yn eu dysgu eu hunain mewn gwahanol gyd-destunau.   

Mae’r holl weithgareddau yn rhai cyd-addysgol, sy’n ffurfio agwedd tuag at gydraddoldeb a chynhwysiant, a ddangosir mewn lefelau cyfranogiad ac adborth gan rieni am yr anturiaethau y mae eu plentyn wedi cymryd rhan ynddynt y tu allan i’r ysgol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


 
 

Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Canolfan Addysg Gwenllian yn ysgol ddydd arbennig annibynnol i blant a phobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth neu gyflwr cysylltiedig. Mae’r disgyblion rhwng 5 ac 19 mlwydd oed.

Mae’r ysgol wedi ymrwymo i ddarparu’r profiadau a’r cyfleoedd addysgol unigol gorau posibl i ddisgyblion, a sicrhau bod y rhain yn gwella eu bywydau. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r holl ddisgyblion yn yr ysgol yn cael anawsterau sylweddol gyda chyfathrebu.  Mae hyn yn amrywio o ddisgyblion heb unrhyw leferydd neu ffurf o gyfathrebu, i ddisgyblion â llawer o fedrau cadarnhaol ac iaith helaeth, ond sy’n arddangos anawsterau wrth ryngweithio gydag eraill a meistroli medrau cymdeithasol, er enghraifft wrth gymryd eu tro, gofyn am gymorth neu gyd-drafod.  Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi dangos ymddygiadau heriol yn flaenorol, fel ymddygiad ymosodol tuag at ei gilydd, dinistrio eiddo a hunan-niweidio. 

I lawer o ddisgyblion yr ysgol, mae ystod eang o ddulliau traddodiadol i ddatblygu’u cyfathrebu (er enghraifft systemau cyfnewid lluniau, arwyddo, gwrthrychau cyfeirio, switshis, dyfeisiau allbwn llais, byrddau dewisiadau, a thechnoleg gynorthwyol lleferydd neu arwyddo) wedi bod yn aflwyddiannus yn y gorffennol yn aml.  O ganlyniad, penderfynodd uwch reolwyr ganolbwyntio ar gryfderau unigol disgyblion a’u dull cryfaf o ddysgu, yn cynnwys dulliau gweledol, cinesthetig a chlywedol, i ysgogi a chymell eu diddordeb mewn cyfathrebu. 

Nodau hirdymor yr ymagwedd hon yw:

  1. Lleihau ymddygiadau sy’n herio trwy gynyddu cyfathrebu gweithredol
  2. Galluogi disgyblion i ofyn yn annibynnol am yr hyn maent ei eisiau a’i angen
  3. Cynorthwyo disgyblion i gyfathrebu gan ddefnyddio lleferydd
  4. Parhau i ddatblygu medrau cyfathrebu disgyblion trwy gynyddu’u geirfa a’u cystrawen
  5. Cynorthwyo disgyblion i ddatblygu cyfathrebu mwy datblygedig, fel gofyn cwestiynau

Disgrifiad o natur y strategaeth neu weithgaredd

Datblygodd yr uwch dîm rheoli fframwaith i gynorthwyo staff i addysgu medrau cyfathrebu i’r disgyblion.  Mae’r fframwaith yn amlygu meysydd allweddol i’w hystyried ar gyfer disgyblion unigol a siart llif o’r camau sy’n ofynnol i ddatblygu’u medrau.  Mae’r model yn sicrhau bod cyfathrebu’r staff yn weithredol ac yn effeithlon er mwyn i ddisgyblion ddatblygu’u medrau yn gyflym.

Asesiad cychwynnol

Mae hyn yn dangos i staff beth yw’r modd cyfathrebu effeithiol mwyaf tebygol ar gyfer pob disgybl. Ar gyfer disgyblion di-eiriau, dull mwyhaol o gyfathrebu yw hyn bron bob amser.

Deall a datblygu cymhelliant disgyblion i ymateb

Er mwyn datblygu cyfathrebu, mae’n bwysig bod amser yn cael ei dreulio yn datblygu hoff eitemau neu weithgareddau y mae cymhelliant gan y disgybl i ymgysylltu â nhw.  Wrth ddatblygu’r eitemau hyn, mae’r ysgol eisiau sicrhau eu bod yn bodloni ystod o gymhellion fel rhai clywedol, gweledol, bwytadwy, yn seiliedig ar symud ac ati.  Mae’n bwysig bod ystod eang o hoff eitemau gan y disgybl, felly os yw’n syrffedu ar un eitem, mae yna eitemau eraill y gall barhau i ofyn amdanynt. 

Rheoli’r amgylchedd

Pan fydd hoff eitemau a gweithgareddau wedi’u nodi, mae’n bwysig bod mynediad y disgybl at yr eitemau yn cael ei reoli. Mae hyn oherwydd na fydd gan y disgybl unrhyw gymhelliant i ofyn am yr eitemau os oes ganddo fynediad rhydd iddynt. Gellir rheoli eitemau drwy eu storio ar silffoedd, mewn bagiau bwyd clir neu focsys plastig, er enghraifft.

Hyfforddiant cyfathrebu

Pan fydd mynediad y disgybl at yr eitemau ysgogol wedi’i reoli, mae’r ysgol yn dechrau hyfforddiant cyfathrebu.  Mae hyn yn cynnwys caniatáu i’r disgybl samplu’r eitemau sy’n cael eu cynnig er mwyn sefydlu pa un y byddai’n well ganddo ryngweithio ag ef.  Bydd y strategaethau penodol a’r math o sbardunau a ddefnyddir yn dibynnu ar y dull cyfathrebu sydd i’w addysgu (h.y. cyfnewid lluniau, arwyddo ac ati).  Mae methodoleg yr ysgol yn cynnwys lleihau’r defnydd o sbardunau’n raddol dros dreialon olynol.  Er mwyn sicrhau llwyddiant yn ystod cyfnod yr hyfforddiant, caiff y disgybl ei amlygu i gannoedd o dreialon trwy gydol y dydd. 

Cyfathrebu fel blaenoriaeth

Mae’r ysgol yn rhoi blaenoriaeth i hyfforddiant cyfathrebu ar gyfer disgyblion yn yr ysgol.  Mae’r rhan fwyaf o sesiynau dysgu yn cynnwys ffocws ar gyfathrebu.  Gall y medrau a’r ffocws amrywio, ond bydd datblygu cyfathrebu yn golygu y bydd goblygiadau pwysig ar gyfer dysgu mewn meysydd eraill.

Cysondeb a chyffredinoli

Caiff staff eu hannog i roi’r hyfforddiant ar waith yn gyson a chywir.  Trwy gydol y dydd, darperir cannoedd o gyfleoedd i’r disgybl ymarfer gofyn am eitemau neu weithgareddau.  Mae’r ysgol yn sicrhau bod y disgybl yn trosglwyddo’r medr o ofyn am yr eitem y mae wedi’i dewis ar draws amryfal amgylcheddau, gyda hoff eitemau neu weithgareddau gwahanol a gydag ystod o staff. 

Monitro cynnydd a defnyddio data i gynllunio camau nesaf

Mae cofnodi a gwerthuso data i gynllunio camau nesaf disgybl yn agwedd allweddol ar ddatblygu’u cyfathrebu.  Mae’r ysgol yn cofnodi nifer y ceisiadau a sbardunwyd a’r ceisiadau annibynnol a wneir fesul diwrnod, ac yn rhoi’r canlyniadau ar graff.  Mae’n dadansoddi’r data i wirio a yw’r ymyriad yn gweithio dros gyfnod.  Dylai fod cynnydd mewn ceisiadau annibynnol a gostyngiad mewn ceisiadau a sbardunwyd.  Os nad oes, caiff unrhyw rwystrau posibl sydd wedi atal y disgybl rhag gwneud cynnydd eu hystyried, a chaiff dulliau neu’r eitemau neu wrthrychau cymhellol eu haddasu. 

Datblygu lleferydd

Pan fydd cyfathrebu wedi cychwyn ac mae’r disgybl yn gwneud cannoedd o geisiadau annibynnol y diwrnod heb gael ei sbarduno, mae’r ysgol yn dechrau datblygu cynhyrchu lleferydd y disgybl. Mae ymagwedd tîm amlddisgyblaeth, yn cynnwys athro dosbarth, therapydd lleferydd ac iaith a dadansoddwr ymddygiad yr ysgol, yn sicrhau bod staff yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio rhaglen unigol er mwyn annog, atgyfnerthu a llywio lleferydd disgyblion a datblygu caffael iaith.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae cyflwyno’r fframwaith cynllunio cyfathrebu wedi effeithio ar y meysydd canlynol:

Cyfathrebu

Mae’r holl ddisgyblion wedi gwneud gwelliant sylweddol gyda’u medrau cyfathrebu.  Gall bron yr holl ddisgyblion symbylu ceisiadau a sgyrsiau gyda llai o gymorth.  Maent yn cyfathrebu’n fwy rheolaidd trwy gydol y diwrnod ysgol.  Maent yn fwy hyderus wrth gyfathrebu ac yn cyffredinoli medrau i gynulleidfa ac amgylcheddau ehangach.

Bu cynnydd yn nefnydd disgyblion o leferydd ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion di-eiriau yn lleisio’n fwy cyson a rheolaidd.  Erbyn hyn, mae ychydig o ddisgyblion yn dweud geiriau’n annibynnol ac yn defnyddio geiriau i gyfathrebu.  Mae’r disgyblion hyn yn fwy ymwybodol o’i gilydd, ac mewn rhai achosion maent yn fwy parod i oddef bod gyda’i gilydd.  Mae ychydig iawn o ddisgyblion wedi gwneud cynnydd sylweddol a bellach gallant fwynhau cwmni eu cyd-ddisgyblion yn y dosbarth.

Ymddygiad

Am fod medrau cyfathrebu disgyblion wedi gwella, ceir gostyngiad amlwg yn eu hymddygiadau annymunol.  Yn gyffredinol, mae disgyblion yn fwy tawel ac yn llai rhwystredig.  Caiff hyn, yn ei dro, effaith gadarnhaol ar draws yr ysgol am fod yr ymddygiad cadarnhaol yn cyfrannu at amgylchedd dysgu cadarnhaol a thawel.

Annibyniaeth

Mae datblygu medrau cyfathrebu yn galluogi disgyblion i gael mwy o reolaeth o ran llawer o agweddau ar eu diwrnod ysgol a thu hwnt.

Cydweithredu, dysgu gwell a datblygu medrau

Wrth i gyfathrebu wella, mae disgyblion yn dysgu ymgysylltu a chydweithredu â staff yr ysgol.  Maent yn cysylltu â’u dysgu’n effeithiol ac yn cyflawni’r wybodaeth a’r medrau i gefnogi eu dyfodol.

Sut ydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhannu ei harfer dda trwy weithdai ar gyfer rhieni a thrwy annog ysgolion eraill i arsylwi’r ddarpariaeth sydd ar waith.  Mae gweithdai agored ar gael i ysgolion, rhieni a lleoliadau eraill i rannu ein harfer dda.  Mae staff arbenigol ar gael i weithio’n uniongyrchol gydag ysgolion a theuluoedd i gynorthwyo â datblygu cynlluniau cyfathrebu yn seiliedig ar ein harfer ni.