Arfer effeithiol Archives - Page 25 of 68 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan y coleg ymrwymiad cryf i ddysgu proffesiynol parhaus i alluogi staff i ddatblygu eu medrau, a chefnogi nod y coleg i gyflwyno profiad ysbrydoledig i ddysgwyr. Mae model dysgu proffesiynol Llwybr Rhagoriaeth y coleg yn annog staff i hunanfyfyrio a hunanasesu ac asesu cymheiriaid i nodi meysydd i’w datblygu er mwyn iddynt allu manteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol priodol ac unigoledig.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Llwybrau Teilwredig ar gyfer Dysgu Proffesiynol – Diwylliant o Chwilfrydedd 
Mae’r coleg wedi ymrwymo i ysbrydoli chwilfrydedd ymhlith pawb sy’n gweithio ac yn dysgu yn y coleg. Mae’r coleg yn cynorthwyo staff i fod yn arloesol, yn greadigol a’u herio eu hunain i ddysgu er mwyn ysbrydoli dysgwyr i wneud yr un fath. Mae’r coleg yn cydnabod bod angen i staff arwain trwy esiampl er mwyn bod yn fodelau rôl i ddysgwyr o ran grym chwilfrydedd.

Mae llwybrau chwilfrydedd y coleg yn gyfres deilwredig o lwybrau dysgu proffesiynol y gall staff ddewis eu cymryd. Mae hyn yn galluogi staff i fanteisio ar gyfres bersonoledig a theilwredig o weithgareddau dysgu proffesiynol sy’n gweddu’n agos i’w hanghenion unigol. Yn dilyn proses fyfyriol hunanwerthuso a thrafodaethau proffesiynol, gall staff ddewis dilyn llwybr am flwyddyn academaidd wedi’i seilio ar feysydd i’w datblygu a nodwyd a’u synnwyr chwilfrydedd naturiol. Cefnogir pob llwybr gan y tîm addysgu a dysgu canolog yn cydweithio â thimau rheoli cyfadrannau a’r uwch dîm arweinyddiaeth. Mae llwybrau’n cynnwys: llwybr ymchwil weithredu, llwybr Technoleg Addysg, llwybr diwydiant, llwybr dechreuwyr newydd, llwybr cymhwyster proffesiynol, llwybr arweinyddiaeth, llwybr llywodraethwyr a llwybr dwyieithog.

Llwybr Ymchwil Weithredu 
Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i bara am y flwyddyn academaidd lawn, gyda phob aelod o staff yn cael ei ryddhau o addysgu am 2 awr yr wythnos.Mae staff yn cyflwyno cynigion prosiect a darperir adborth adeiladol gan banel sy’n cynorthwyo datblygiad y prosiect o’r dechrau. Caiff dawn greadigol ei meithrin a gall staff fynd â’u prosiect yn y cyfeiriad sy’n berthnasol i’w harfer, yn eu barn nhw; gallant benderfynu ar ffocws, methodoleg a natur y deilliannau. Trwy gymorth un i un, mae gan staff berchnogaeth dros sut bydd y prosiect yn esblygu ac yn addasu wrth gaffael dysgu newydd. Mae nodweddion unigryw’r rhaglenni yn cynnwys:

  •    Rhaglen siaradwyr gwadd 
  •    Gweithdai techneg
  •    Cymorth un i un 
  •    Grwpiau adolygu cymheiriaid 
  •    Gŵyl Ymarfer a gwefan 
  •    Rhoddir cymorth i rannu a chyhoeddi gwaith.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr??

Yn 2021-2022, canolbwyntiodd thema Ymchwil Weithredu’r coleg ar Ymgysylltu a Chadw. Yn yr hinsawdd bresennol, ar ôl y pandemig, roedd targed y coleg, sef 90% ar gyfer presenoldeb i ddysgwyr yn drothwy anodd ei gyrraedd. Ym mis Mawrth 2022, y gyfradd presenoldeb ar draws y coleg oedd 86%, ac ers mis Mai, mae wedi gostwng i 84%. Isod, ceir cipolwg ar enghreifftiau o ddata sy’n cefnogi’r effaith gadarnhaol ar bresenoldeb ar gyfer y grwpiau hynny o ddysgwyr sy’n cael eu haddysgu gan staff yn ymgymryd ag ymchwil weithredu. Cymerwyd y data ym mis Mai 2022 wrth i staff gwblhau eu prosiectau. 

Y Prosiect Technoleg Cerddoriaeth sy’n defnyddio presenoldeb presennol yr Amgylchedd Meddwl (Thinking Environment) ar gyfer grwpiau sy’n cymryd rhan yn y prosiect: Lefel 3 Blwyddyn 1 = 92.9%, Lefel 3 Blwyddyn 2 = 92.8%. Presenoldeb presennol y grŵp nad yw’n cymryd rhan = 79.2%.

Darlithydd yn y Diwydiannau Creadigol:

Yn fy ngrŵp Blwyddyn 2 i, aeth y presenoldeb o 83% i 92.9% a effeithiodd ar ymgysylltu a chwblhau’r cwrs yn llwyddiannus. Wedyn, bu gwelliant yn y gyfradd cwblhau yn llwyddiannus o 88% i 100%, gyda 40% o fyfyrwyr yn cyflawni gradd Anrhydedd, o gymharu â 28% yn y flwyddyn flaenorol. Mae rhoi perchnogaeth i ddysgwyr ddewis eu hamserlen eu hunain nid yn unig wedi cynyddu presenoldeb, mae wedi gwella ymgysylltu a brwdfrydedd hefyd.

Mae caniatáu i ddysgwyr gael perchnogaeth o’u hamserlen eu hunain, gan ddewis o blith detholiad o weithdai, wedi galluogi prosiectau i fod yn fwy amlddisgyblaethol. Gallai dylunydd gwisgoedd ddewis dysgu weldio ynghyd â thorri patrymau. Deilliodd y prosiect hwn er mwyn alinio ymhellach â’r byd celf a dylunio, lle mae angen i ymarferwyr fod yn fwy amlddisgyblaethol, hyblyg ac addasadwy i’r economi.

Gŵyl Ymarfer 
Mae’r rhaglen yn gorffen â Gŵyl Ymarfer y coleg, ac fe gaiff gwefan ei chynhyrchu sy’n rhoi platfform i bob ymarferwr rannu eu meddwl a’u cynnydd. Caiff sesiynau’r ŵyl eu gyrru gan weithdai a gall staff ar draws y coleg ddewis sesiynau yr hoffent eu mynychu ar sail eu chwilfrydedd eu hunain. Mae’r sesiynau’n rhyngweithiol ac yn annog y rhai sy’n mynychu i ystyried sut gellir ymgorffori’r syniadau a archwilir yn eu meysydd ymarfer eu hunain. Mae’r wefan yn fforwm agored lle caiff staff eu hannog i fod yn greadigol wrth gyflwyno eu gwaith trwy flogiau, ffotograffau, cyflwyniadau, pecynnau cymorth, pytiau sain o gyfweliad llais y dysgwr a staff, ac ysgrifennu ffurfiol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Yn ystod 2021-2022, roedd y Rhaglen Ymchwil Weithredu yn un o ddwy fenter dysgu proffesiynol a archwiliwyd fel rhan o Brosiect Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru dan arweiniad yr Undeb Prifysgolion a Cholegau. O ganlyniad i’r prosiect hwn, mae’r coleg wedi rhannu datblygu diwylliant ymchwil yn ffurfiol mewn pedwar coleg partner fel rhan o elfen gydweithredol y Gronfa Dysgu Proffesiynol ar gyfer 2022-2023. 
 

Gwybodaeth am y coleg

Daeth Coleg Sir Gâr a Coleg Ceredigion yn goleg integredig ym mis Awst 2017, ac mae bellach yn un coleg, gyda dau frand a saith campws ledled Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae’r ddau gampws sy’n ffurfio Coleg Ceredigion yn Aberystwyth ac Aberteifi. Mae gan Coleg Sir Gâr bum campws yn Rhydaman, Gelli Aur, Ffynnon Job, Pibwrlwyd a Llanelli. Mae’r coleg yn cyflwyno ystod eang o gyrsiau galwedigaethol gyda chyfleoedd dilyniant ar gael ar y rhan fwyaf o gyrsiau i’r lefel nesaf, prentisiaethau ac addysg uwch.  

Ar hyn o bryd, mae gan y coleg 5,505 o ddysgwyr addysg bellach, y mae 2,795 ohonynt yn ddysgwyr amser llawn, a 2,710 yn ddysgwyr rhan-amser. O’r dysgwyr amser llawn, mae 80% yn ddysgwyr yn Sir Gâr, a 20% yng Ngheredigion.
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Barnwyd bod angen gwelliant sylweddol ar Gyngor Sir Powys yn 2019 a thynnwyd y sir o’r categori gweithgarwch dilynol yn 2021. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ailstrwythurodd y cyngor ei wasanaethau ADY a phenododd bennaeth gwasanaeth newydd. Mae cymorth i ddisgyblion ag AAA ac ADY yn flaenoriaeth uchel i’r gwasanaeth addysg ac mae’r pennaeth gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda’r prif weithredwr a’r cyfarwyddwr addysg i ysgogi gwelliannau yn y cymorth a ddarperir i ysgolion a disgyblion. Trefnodd y cyngor gymorth allanol gan ymgynghorwyr a chynghorwyr profiadol i gefnogi’r gwaith hwn. Mae swyddogion yn ystyriol o’r angen i gynnal y gwaith hwn ac adeiladu arno, ac aethant ati i gryfhau prosesau rheoli perfformiad a gwella’r cyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn gwella medrau a datblygu aelodau parhaol y tîm ADY. Mae prosesau hunanwerthuso gwell yn helpu swyddogion i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella yng ngwaith y tîm ADY ac mae disgwyliadau uwch swyddogion ar gyfer gwaith y tîm yn uchel. Mae’r tîm ADY wedi sicrhau’r gwelliannau cyflym hyn yn ei waith ar yr un pryd â chynorthwyo ysgolion ag agenda trawsnewid ADY.  

Mae swyddogion wedi datblygu perthynas waith dda ag ysgolion. Maent wedi ymateb yn dda i safbwyntiau penaethiaid a Chydlynwyr ADY wrth iddynt roi systemau a phrosesau newydd ar waith. Mae swyddogion yn darparu cymorth a chyngor effeithiol, er enghraifft trwy fwletinau wythnosol defnyddiol, cyfarfodydd ac adnoddau ar-lein gwerthfawr. Mae arweinwyr ysgolion yn gwerthfawrogi pwynt mynediad unigol yr awdurdod ar gyfer atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Ysgolion trwy Banel Cynhwysiant Powys (PIP) a Phanel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar, ynghyd â phlatfform a phorth dwyieithog ‘Tyfu’. Mae’r platfform hwn yn adnodd defnyddiol iawn a hawdd cael ato, sy’n sicrhau bod dogfennau ac atgyfeiriadau AAA i gyd ar gael trwy un pwynt mynediad cyfleus. 

Mae’r awdurdod lleol yn cynnig dysgu proffesiynol gwerthfawr i ysgolion a lleoliadau. Er enghraifft, mae’r gwasanaeth wedi ariannu ychydig o athrawon mewn ysgolion arbennig a chanolfannau arbenigol i astudio diplomau ôl-raddedig mewn darpariaeth AAA. Rhennir yr arbenigedd hwn yn fuddiol gyda darparwr eraill. Mae staff eraill mewn ysgolion arbennig wedi ymgymryd â dysgu proffesiynol i sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth dda iawn o angen. Hefyd, sefydlwyd rhaglen hyfforddiant sir gyfan, fel y gall staff addysgu a chymorth ym mhob ysgol ddatblygu medrau yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o AAA, gan gynnwys cyflyrau ar y sbectrwm awtistig; anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu; anawsterau dysgu penodol ac anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ar y cyfan, mae uwch arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau o’r farn bod swyddogion anghenion dysgu ychwanegol a staff gwasanaeth canolog yr awdurdod lleol yn eu cefnogi’n dda. Mae’r awdurdod lleol yn defnyddio amrywiaeth o ddata a gwybodaeth yn effeithiol fel rhan o werthuso gwasanaethau. Mae swyddogion yn myfyrio ar strategaethau sydd wedi gweithio’n dda a’r rhai y buodd eu heffaith ar ddysgwyr yn llai llwyddiannus. Er enghraifft, yn dilyn hyfforddiant diweddar ar ymddygiad cadarnhaol, mae bron pawb a gymerodd ran wedi gwneud newidiadau i’w hymarfer o ganlyniad uniongyrchol i’r dysgu proffesiynol. Dywed llawer o ysgolion a lleoliadau eu bod eisoes wedi dechrau gweld effaith gadarnhaol ar ymarfer, gan gynnwys gwell cysondeb yn ymagwedd staff yn ogystal â llai o ymddygiadau heriol a gwaharddiadau.

Gwybodaeth am yr awdurdod lleol

Mae Cyngor Sir Powys yn sir wledig, fawr yng nghanolbarth Cymru, sydd â phoblogaeth o 132,515 o bobl. Mae’n cwmpasu chwarter tir Cymru a dyma un o’r siroedd mwyaf, ond lleiaf poblog, yng Nghymru a Lloegr. Mae’r awdurdod lleol yn cynnal 95 ysgol. Mae gan yr awdurdod un ysgol pob oed i ddisgyblion 3 i 16 oed. Mae 80 o ysgolion cynradd, gan gynnwys 21 sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae 11 ysgol uwchradd, nad yw’r un ohonynt wedi’i chategoreiddio’n ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae chwech o’r ysgolion uwchradd hyn yn ysgolion dwy ffrwd iaith. Yn ogystal, mae tair ysgol arbennig ac un uned cyfeirio disgyblion

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Penglais yn ysgol cyfrwng Saesneg yn Aberystwyth, sy’n gwasanaethu ardal eang yng ngogledd a chanol Ceredigion. Mae tua 1100 o fyfyrwyr yn yr ysgol, y mae 12.8% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a 34.8% ar y gofrestr ADY. Mae dwy uned arbennig ar y safle: y Ganolfan Cymorth Dysgu ar gyfer myfyrwyr â lefelau uchel o anghenion a’r Ganolfan Adnoddau Clywed. Mae tua 10% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, a siaredir 34 o ieithoedd eraill yn yr ysgol.

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi bod ar daith i wella. Ategwyd hyn gan weledigaeth newydd yr ysgol, sy’n dechrau gyda’r nod i fod ‘yn ysgol hapus, uchelgeisiol sy’n cyflawni’n dda lle mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi’. Mae’r weledigaeth gynhwysol ac uchelgeisiol hon yn ymgorffori’r angen i weithio fel cymuned gyfan ac i bawb fod y gorau y gallant, fel y gall disgyblion fod yn ddinasyddion llwyddiannus yn eu cymunedau, yng Nghymru a’r byd. Mae dysgu proffesiynol wedi bod yn agwedd hanfodol ar y daith gyda ffocws cryf ar addysgu a dysgu. Mae hyn wedi arwain at ddiwylliant agored iawn lle caiff arfer dda ei rhannu’n barhaus. Mae’r gwaith a wnaed yn y ddwy flynedd gyntaf o ran datblygu staff ac addysgeg wedi rhoi’r ysgol mewn sefyllfa dda i ganolbwyntio ar ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae ymchwil wedi bod yn agwedd bwysig iawn ar y gwaith hwn, gyda’r holl ddatblygiadau wedi’u seilio ar ymchwil ac ymholi proffesiynol. Mae gwaith mwy diweddar ar ddatblygu model arweinyddiaeth, lle rhoddir cyfrifoldeb i adrannau neu gyfadrannau unigol am yrru eu gwelliant eu hunain, wedi datblygu diwylliant o hunanwella ymhellach lle mae ymddiriedaeth ac atebolrwydd yn mynd law yn llaw.  

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dechreuodd taith yr ysgol i ddatblygu dysgu proffesiynol ym mis Medi 2017 lle dechreuodd arweinwyr ddatblygu diwylliant mwy agored yn canolbwyntio ar ddatblygiad yn hytrach na barn. Rhoddwyd mwy o berchnogaeth o’u dysgu proffesiynol i gydweithwyr, a chyflwynwyd grwpiau ymchwil gan alluogi’r holl gydweithwyr i gyfrannu at ddatblygiad strategol ym Mhenglais. 

Ym mis Medi 2018, rhoddwyd mwy o berchnogaeth i gydweithwyr addysgu ac arweinwyr canol i arwain ar ddatblygu addysgu a dysgu o fewn eu cyfadrannau a’r ysgol ehangach hefyd. Roedd hyn yn cynnwys: 

  • sicrhau bod pob cyfarfod yn cynnwys ffocws cryf ar addysgu a dysgu
  •  dileu’r holl raddau o arsylwadau gwersi, gan ganolbwyntio ar ansawdd y drafodaeth broffesiynol a gododd o’r arsylwadau 
  •  gweithio mewn cyfadrannau i ddatblygu eu polisïau asesu eu hunain o fewn y fframwaith a roddwyd gan yr ysgol gyfan
  • darparu arweiniad a chyfeiriad i’r ysgol gyfan am flaenoriaethau addysgu a dysgu tra’n datblygu arweinwyr cyfadrannau i gymryd mwy o berchnogaeth dros addysgu a dysgu yn eu cyfadrannau hefyd 
  • annog cydweithwyr i ddechrau cyfrannu a rhannu syniadau yn y briffiau ddwywaith yr wythnos ar gynhwysiant a darpariaeth ADY ac addysgu a dysgu 
  • mwy o gyfranogiad gan gydweithwyr mewn hyfforddiant HMS a chyfarfodydd ar gyfer y staff cyfan
  • cyflwyno rhaglen hyfforddi lle mae hyfforddwr ar gael i bob cydweithiwr addysgu yn ei gyfadran

Nod y rhaglen hyfforddi oedd datblygu agweddau ar addysgeg yn eu maes pwnc. Cafodd amser am adborth effeithiol o sesiynau hyfforddi ei gynnwys mewn amser cyfarfodydd adrannau. Er enghraifft, sefydlodd yr adran ieithoedd sesiwn hyfforddi ac addysgeg yn ystod amser cinio bob dydd Mercher am 30 munud i drafod arfer a hyfforddi proffesiynol a gynhaliwyd.

Ym mis Medi 2019, roedd amcanion rheoli perfformiad, a elwir erbyn hyn yn amcanion dysgu proffesiynol, wedi’u cysylltu ag addysgu ac arweinyddiaeth gyda’r pwyslais ar y safonau proffesiynol, gan gynnwys arweinyddiaeth ar gyfer yr holl gydweithwyr. Er enghraifft, dechreuodd y gyfadran fathemateg dreialu gwahanol ddulliau addysgu wedi’u seilio ar ymchwil wybyddol, a dechrau addysgu rhannau o’u gwers ‘yn dawel’. Rhannodd cydweithwyr y canlyniadau gyda phob aelod o staff trwy friffiau a HMS.

Ym mis Medi 2020, rhoddwyd dulliau ar waith i wneud dysgu proffesiynol yn fwy teilwredig. Defnyddiwyd oriau cyfnos yn unigol neu o fewn adran i ddatblygu eu harfer. Gwnaed hyn trwy  ffurfiau amrywiol gyda rhai ohonynt yn gwneud hyfforddiant ar-lein, rhai yn gwneud ymchwil, a rhai eraill yn ymgymryd â hyfforddiant yn yr adran y gellir ei ledaenu yn ystod cyfarfodydd. Er enghraifft, penderfynodd y gyfadran fathemateg astudio a threialu gwahanol agweddau ar ymchwil i addysgu mathemateg ac adrodd yn ôl am eu canfyddiadau mewn cyfarfodydd cyfadrannau. 

Mae dysgu proffesiynol wedi cael ei alluogi trwy roi amser i athrawon ymgymryd ag ymchwil addysgegol, gan gynorthwyo staff i gymhwyso a gwerthuso addysgeg newydd a rhannu arfer mewn briffiau a chyfarfodydd cyfadrannau. Yn dilyn yr hyfforddiant o fewn cyfadrannau, cyflwynodd yr ysgol rôl athro-hyfforddwr ADY. O fewn y rôl hon, mae hyfforddi wedi bod â rhan bwysig mewn mireinio technegau cyfarwyddol, gwella cymorth personoledig ar gyfer disgyblion ag ADY, ac ymgorffori strategaethau sy’n datblygu darllen, ysgrifennu a llafaredd ar draws adrannau.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer dysgu proffesiynol wedi cael ei haddasu, ei datblygu a’i mireinio’n helaeth, yn enwedig yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys:

  • cylchlythyr wythnosol ar arfer effeithiol gyda chysylltiadau i gydweithwyr arbrofi heb deimlo y byddant ‘yn gwneud camgymeriadau ac yn methu’
  • cydweithwyr, gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso, yn cyflwyno ar arfer orau mewn briffiau ar-lein 
  • cyfadrannau’n gweithio gyda’i gilydd bob wythnos i ddatblygu adnoddau a chefnogi dysgu cyfunol a dysgu byw ac wedyn yn rhannu eu recordiadau i ddatblygu technegau dysgu ac addysgu cyfunol ymhellach; wedyn, rhannwyd arfer orau mewn sgrinlediadau a chyflwyniadau wythnosol ar sut i ddatblygu dysgu byw a dysgu cyfunol
  • datblygu diwylliant agored gyda thryloywder mewn trafodaethau, trwy rannu elfennau nad aethant cystal â’r disgwyl yn yr addysgu 

Mae strategaethau wedi cael eu mireinio i ddatblygu dysgu proffesiynol ymhellach. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • amcanion dysgu proffesiynol sydd wedi’u cysylltu’n glir ag addysgu a dysgu gydag un yn canolbwyntio ar agwedd ar ddysgu proffesiynol pob aelod o staff ei hun. Rhoddir amser i bob aelod o staff ganolbwyntio ar hyn. Mae’r amcan hwn wedi’i gysylltu â datblygu addysgu, arweinyddiaeth neu arfer broffesiynol a fydd yn cael effaith ar safonau disgyblion. Caiff yr amcanion hyn eu trafod yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn gyda’r arfarnwr yn yr hyn a elwir yn ‘gyfarfodydd dal i fyny’. Yn sgil y rhain, mae rhai athrawon wedi ymgymryd ag ymholi proffesiynol yn yr ystafell ddosbarth
  • addasu’r brîff cynhwysiant i beidio â dim ond rhoi gwybod i gydweithwyr am anghenion disgybl, ond hefyd sut i fireinio technegau addysgu ar gyfer deilliannau gwell i ddisgyblion ag ADY 
  • datblygu’r brîff addysgu a dysgu i fod yn sesiwn boblogaidd lle mae llawer o gydweithwyr yn awyddus i rannu syniadau, llwyddiannau a methiannau. Mae hyn wedi bod yn hynod effeithiol wrth rannu gwaith am y cwricwlwm newydd, gan roi dealltwriaeth i gydweithwyr o’r datblygiadau mewn meysydd dysgu a phrofiad eraill a chydnabod bod creu’r cwricwlwm newydd yn broses o dreialu, gwerthuso a mireinio    
  • darparu cyfle i’r holl gydweithwyr brynu llyfr ar addysgu a dysgu neu arweinyddiaeth a fydd wedyn yn cael ei roi yn y gronfa neu’r adnoddau yn ein cornel addysgu a dysgu ar gyfer staff yn y llyfrgell
  • defnyddio recordiadau fideo o wersi i alluogi athrawon i recordio eu harfer eu hunain, rhannu arfer dda â’u cydweithwyr a thrafod cyfleoedd ar gyfer datblygu

Erbyn hyn, caiff unrhyw addysgu a datblygu dysgu yn yr ysgol ei lywio’n drylwyr gan ymchwil addysgegol. Mae’r holl ddysgu proffesiynol yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r ysgol gyfan, sy’n rhoi fframwaith ar gyfer athrawon ac oedolion, ac yn annog cynnydd cyflym yn y meysydd hyn. Ceir diwylliant cefnogol iawn lle mae sicrhau ansawdd a dysgu proffesiynol wedi’u cysylltu’n gadarn trwy arsylwadau gwersi datblygiadol, teithiau dysgu a gweithgareddau eraill. Mae hyn yn arwain at sgyrsiau agored, gonest ac ymddiriedus ar sut i fireinio arfer ymhellach. Mae hyfforddi yn elfen bwysig o hyn, ac mae llawer o athrawon ac arweinwyr yn manteisio ar y cyfle i ddatblygu eu medrau ymhellach trwy gael eu hyfforddi a thrwy fod yn hyfforddwr.   

Yn dilyn ymlaen o grwpiau ymchwil, mae nifer o aelodau staff wedi ymestyn eu profiadau proffesiynol ar y cyd ag asiantaethau allanol. Mae hyn yn cynnwys:

  • manteisio ar gyfleoedd i ddilyn gradd Meistr mewn Addysg 
  • astudio ar gyfer doethuriaethau mewn addysg 
  • cydweithio â phrifysgolion ar brosiectau ymchwil
  • cyflwyno neu weithio gydag asiantaethau allanol, e.e. Prifysgol Aberystwyth, NAEL
  • gweithio gydag ysgolion eraill i ddatblygu medrau arwain

Y flwyddyn nesaf, mae’r ysgol yn bwriadu:

  • parhau â’r model dysgu proffesiynol mewnol gyda’r ffocws ar addysgeg ar gyfer y cwricwlwm newydd a blaenoriaethau’r ysgol 
  • cyflwyno model hyfforddi ychwanegol
  • cyflwyno llwybrau mwy teilwredig ar gyfer staff
     

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ceir tystiolaeth glir fod dysgu proffesiynol a newid mewn diwylliant wedi cael effaith ar yr addysgu a’r dysgu ar draws yr ysgol, sydd yn ei dro wedi cael effaith ar safonau disgyblion. Gellir gweld hyn yn y canlynol:

  • mae gan yr ysgol ymagwedd gydweithredol gref erbyn hyn, ac fe gaiff athrawon ac arweinwyr drafodaethau o ansawdd uchel yn rheolaidd am addysgeg ac arweinyddiaeth. Mae diwylliant cydweithredol, agored ac ymddiriedus yr ysgol a hunanwelliant wedi arwain at welliant mewn addysgu a dysgu ar draws yr ysgol
  • gwelliant cryf yng nghanlyniadau TGAU a chyfnod allweddol 5 yn 2019. Mae’r gwelliant hwn wedi parhau ar bob lefel, ac mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd da erbyn hyn
  • yr arolygon staff blynyddol yn adrodd am welliant clir yn ansawdd, defnyddioldeb a chyflwyno dysgu proffesiynol a nifer uchel y staff sy’n dweud bod ymddiriedaeth ynddynt i arloesi i ddiwallu anghenion disgyblion
  • mwy o staff yn ymgymryd ag astudiaethau ymchwil unigol, grŵp ac allanol a chymwysterau proffesiynol
  • cyfraniadau at sefydliadau allanol ar sut maent yn cyflwyno dysgu proffesiynol

 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ymwelodd cynrychiolwyr o’r consortiwm rhanbarthol â’r ysgol i weld effaith ymchwil ar addysgu mathemateg. Gwnaeth y pennaeth gyflwyniad mewn cynhadledd ranbarthol ar daith yr ysgol i wella trwy’r ffocws ar ddysgu proffesiynol. Mae gwybodaeth am y daith dysgu proffesiynol yn Ysgol Penglais wedi cael ei rhannu â’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru ar eu gwefan.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Agorodd Ysgol Uwchradd Whitmore yn 2018 ar yr un safle ag Ysgol Gyfun y Barri. Ers hynny, cyflawnwyd prosiect trawsnewid sylweddol, gyda’r ysgol yn symud o fod yn ysgol bechgyn yn unig i fod yn ysgol gyfun, gymysg. Symudodd yr ysgol i adeilad newydd yn 2021. Mae 1082 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys tua 160 yn y chweched dosbarth. Mae tuag 20% o’r holl ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Penodwyd y pennaeth yn 2019.
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae athroniaeth Ysgol Uwchradd Whitmore wedi’i seilio’n gadarn ar y ‘pedwar piler’ sy’n rhoi’r sylfaen ar gyfer datblygu’r plentyn cyfan, ac sy’n llunio ‘Gwerthoedd Whitmore’. Mae’r athroniaeth hon yn cael ei choleddu gan bron pob un o’r staff, sy’n gweithio i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gwerthfawrogi ac y gwrandewir arnynt, bod y disgyblion yn cael eu trin fel unigolion a’u bod yn cael cyfleoedd addysgu da yn gyson a chyfleoedd helaeth y tu allan i wersi. Mae hyn yn eu galluogi i lwyddo yn eu dysgu ac yn meithrin eu diddordebau a’u doniau.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ymagwedd ysgol gyfan at ddysgu ac addysgu wedi cael ei defnyddio, ei chyflawni a’i gwreiddio yn Ysgol Uwchradd Whitmore. Gwnaed hyn trwy ddefnyddio ymagwedd syml, gyson, fesul cam, gan sicrhau diben a disgwyliadau clir. Nid darlithio yw dull addysgu uniongyrchol Whitmore, a disgwylir i athrawon rannu dysgu’n ‘dalpiau’ i sicrhau nad oes gormod o orlwytho gwybyddol ar gof gweithredol disgyblion. Yn dilyn y modelu cychwynnol, rhoddir tasgau strwythuredig i ddisgyblion er mwyn ymarfer defnyddio’r medrau neu’r wybodaeth newydd, gan arwain at waith annibynnol. Mae ‘modelu a sgaffaldio tuag at annibyniaeth’ yn nodweddu ‘Ffordd Whitmore’ o ddysgu ac addysgu. 

Yn Ysgol Uwchradd Whitmore, yr athro sy’n rheoli’r bwriadau dysgu. Maent yn egluro’r rhain yn glir iawn i’r disgyblion.  Mae athrawon yn arddangos trwy fodelu, yn gwerthuso trwy holi, yn mynd i’r afael â chamsyniadau ac yn darparu sgaffaldiau dysgu gyda lefelau gostyngol o gymorth hyd nes cyflawnir annibyniaeth. Addysgu uniongyrchol yw ffocws y cyfuniad hwn o ymagweddau. Ymchwil yw sylfaen yr ymagwedd at addysgu a dysgu yn Ysgol Uwchradd Whitmore a chrëwyd yr ymagwedd ar y cyd â staff. Maent yn hyderus bod y dull hwn yn cynhyrchu dysgwyr annibynnol a hyderus: 

Mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cadarn yn eu dysgu ac yn elwa’n sylweddol o addysgu ac asesu effeithiol’ (Estyn 2022).
Mae arweinwyr o’r farn bod y ffordd hon o ddysgu yn un sy’n hyrwyddo disgwyliadau uchel a llawer o her, gan roi mynediad i unigolion at lwyddiant yn y dyfodol. Yn ogystal, mae’n cynnig glasbrint o’r hyn y mae ei angen gan athrawon i fod yn llwyddiannus yn yr ystafell ddosbarth. Mae’r eglurder hwn yn rhoi’r grym i athrawon gyflwyno gwersi sy’n bodloni disgwyliadau uchel yr ysgol. Trwy roi eglurder llwyr i staff, mae’r model dysgu ac addysgu yn galluogi’r addysgu i wella’n gyflym iawn, trwy alluogi athrawon i ddatblygu meistrolaeth ar bob elfen, fel y gwelir yn y dystiolaeth yn adroddiad Estyn. 

Mae’r glasbrint clir hwn yn caniatáu i hyfforddiant staff ganolbwyntio’n fanwl ar yr elfennau o wers sy’n cael yr effaith fwyaf. Mae holl hyfforddiant y staff, gan gynnwys diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, sesiynau briffio boreol a chymell un i un, yn canolbwyntio ar elfennau allweddol ‘gwers Whitmore’. Amcan y rhaglen gymellyn Ysgol Uwchradd Whitmore yw datblygu proses strwythuredig i alluogi trafodaethau ystyrlon rhwng cydweithwyr ar sail model dysgu ac addysgu Whitmore. Mae’r berthynas gefnogol, anfeirniadol hon, rhwng yr anogwr a’r sawl sy’n cael ei annog yn hwyluso rhannu profiad a lledaenu arfer gorau. Mae hyn yn creu diwylliant o arfer myfyriol lle mae athrawon yn agored ac yn barod i ymgysylltu â dysgu ac addysgu.

Yn ogystal, caiff yr holl aelodau staff eu hannog i gwblhau eu cymhwyster Meistr mewn Addysg (Cymru) gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd (mae 13 aelod staff wedi ymrestru ar hyn o bryd), gyda’r holl aseiniadau ymchwil ac ymholi yn canolbwyntio ar elfen o fodel Whitmore ar gyfer addysgu a dysgu. Oherwydd symlrwydd y model, gall yr holl staff fynegi’r disgwyliadau’n glir i gymheiriaid ac mae ganddynt eirfa gyffredin ar gyfer elfennau allweddol gwers. Mae’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn arwain at gydweithredu defnyddiol a llwyddiannus. Mae’r rhaglen dysgu proffesiynol yn yr ysgol yn sylfaen i’r meini prawf gorfodol hyn i athrawon pan fyddant yn cynllunio gwersi. Mae dosbarthiadau meistr mewnol yn cefnogi datblygiad athrawon yn fuddiol trwy roi iddynt y strategaethau addysgegol a’r hyder i wreiddio model dysgu ac addysgu Whitmore.
Mae ansawdd yn cael ei sicrhau trwy bolisi ‘drws agored’ sy’n amlwg ar draws yr ysgol. Mae teithiau dysgu mynych, amserlen arsylwi drylwyr a rhaglen gymelleffeithiol yn caniatáu i arweinwyr lunio barnau cadarn am ansawdd yr addysgu a’r dysgu yn yr ysgol:
‘Mae gan uwch arweinwyr ddull tra ystyriol o gasglu tystiolaeth uniongyrchol am ansawdd yr addysgu. Mae hyn yn cynnwys arsylwi gwersi’n ffurfiol a theithiau mynych o gwmpas yr ysgol i wirio pa mor dda y mae disgyblion yn ymgysylltu â’u gwaith’ (Estyn 2022). 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr??

Mae staff yn croesawu uwch arweinwyr ac anogwyr i’w gwersi gan fod hyder ganddynt yn yr hyn a ddisgwylir. Nid ydynt yn teimlo bod angen iddynt gynhyrchu ‘gwersi sioe’ nad ydynt yn adlewyrchu eu harfer o ddydd i ddydd. Yn hytrach, maent yn dilyn elfennau allweddol model Whitmore, gan wybod yn sicr y bydd unrhyw adborth yn cael ei gysylltu’n glir ag elfennau disgwyliedig ‘ffordd Whitmore’. 

Mae diwylliant cryf o arfer myfyriol yn Ysgol Uwchradd Whitmore, lle mae athrawon yn hapus ac yn barod i ymroi i’w dysgu eu hunain, gan wella’u haddysgu ac maent yn ymrwymo i wneud gwahaniaeth i brofiadau dysgu’r disgyblion. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Agorodd Ysgol Uwchradd Whitmore yn 2018 ar yr un safle ag Ysgol Gyfun y Barri. Ers hynny, cyflawnwyd prosiect trawsnewid sylweddol, gyda’r ysgol yn symud o fod yn ysgol bechgyn yn unig i fod yn ysgol gyfun, gymysg. Symudodd yr ysgol i adeilad newydd yn 2021. Mae 1082 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys tua 160 yn y chweched dosbarth. Mae tuag 20% o’r holl ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Penodwyd y pennaeth yn 2019.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae athroniaeth Ysgol Uwchradd Whitmore wedi’i seilio’n gadarn ar y ‘pedwar piler’ sy’n rhoi’r sylfaen ar gyfer datblygu’r plentyn cyfan, ac sy’n llunio ‘Gwerthoedd Whitmore’: parch, cyfrifoldeb, gwydnwch a gweithio’n galed. Mae’r athroniaeth hon yn cael ei choleddu gan bron pob un o’r staff, sy’n gweithio i sicrhau bod disgyblion yn cael eu gwerthfawrogiac y gwrandewir arnynt, bod y disgyblion yn cael eu trin fel unigolion a’u bod yn cael cyfleoedd addysgu da yn gyson a chyfleoedd helaeth y tu allan i wersi. Mae hyn yn eu galluogi i lwyddo yn eu dysgu ac yn meithrin eu diddordebau a’u doniau. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn Ysgol Uwchradd Whitmore, crëwyd ‘diwylliant ar gyfer dysgu’ ac, ynddo, mae strwythur a threfn yn galluogi disgyblion i ffynnu. Mae ffiniau a disgwyliadau clir, a gyflwynir yn gyson gan bob aelod staff, yn caniatáu i ddisgyblion deimlo’n ddiogel i gymryd risgiau mewn gwersi: 

Mae staff a disgyblion yn gwerthfawrogi ‘Diwylliant Dysgu’  sefydledig ac mae wedi cael effaith arwyddocaol ar agweddau ac ymddygiad cadarnhaol y rhan fwyaf o ddisgyblion’ (Estyn 2022).
Mae’r holl ryngweithiadau o fewn yr ysgol yn troi o gwmpas y pedwar gwerth allweddol, a grëwyd ar y cyd gan y staff a’r disgyblion. Mae cryn barch ac ymddiriedaeth y naill tuag at y llall wedi datblygu rhwng staff a disgyblion, a chyflawnwyd hyn wrth i’r staff fodelu a chyfeirio’n gyson at werthoedd yr ysgol wrth ddelio ag agweddau cadarnhaol a negyddol at ddysgu. I sicrhau cysondeb, crëwyd system ymddygiad ganolog ar sail y pedwar gwerth i sicrhau bod pob enghraifft o ymddygiad cadarnhaol a negyddol yn cael ymdriniaeth gyson a theg. Caiff canlyniadau fel ataliadau sgyrsiau adferol a chyfarfodydd â rhieni eu cynnal gan yr uwch dîm arwain ym mhob achos.

Mae hyfforddiant ar ffurf hyfforddiant mewn swydd, sesiynau briffio i’r staff a chymellwedi canolbwyntio ar ddatblygu geirfa gyffredin ymhlith staff, gan sicrhau cysondeb ymhellach. Caiff agweddau rhagorol at ddysgu eu creu trwy ddatblygu diwylliant lle y mae staff a disgyblion yn arddangos y gwerthoedd craidd bob amser ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain.  
Elfen allweddol o’r ‘diwylliant ar gyfer dysgu’ yw cael gwared ar ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Cyflawnwyd hyn trwy ymagwedd gyson at unrhyw ddefnydd o ffôn. Mae disgyblion a rhieni yn deall canlyniadau defnyddio’r ffôn ac ychydig iawn o ddisgyblion sy’n defnyddio’u ffonau yn yr ysgol o ganlyniad. Cafwyd buddion sylweddol yn sgil yr ymagwedd hon, yn academaidd ac yn fugeiliol, heb unrhyw darfu ym mron pob gwers oherwydd y defnydd o ffonau a disgyblion yn mwynhau gemau bwrdd mewn grwpiau amser cinio, yn hytrach na defnyddio’u dyfeisiau.  

Mae’n bwysig nodi bod Ysgol Uwchradd Whitmore yn cydnabod na fydd system ymddygiad ar ei phen ei hun yn trawsnewid agweddau at ddysgu. Mae’r ‘dull dysgu uniongyrchol’, sy’n cael ei weithredu’n gyson gan yr holl staff, yn darparu awyrgylch cyson a digynnwrf mewn ystafelloedd dosbarth sy’n cyd-fynd yn agos â’r ‘diwylliant ar gyfer dysgu’. Caiff ymddygiadau disgwyliedig eu mapio yn erbyn pob rhan o wers, gan sicrhau eglurder i staff a disgyblion. Mae’r cysylltiad rhwng addysgu o ansawdd uchel ac ymddygiad wedi’i wreiddio yn niwylliant yr ysgol ar gyfer dysgu. 

Elfen hanfodol o ddiwylliant yr ysgol ar gyfer dysgu yw’r ddealltwriaeth nad yw’r strwythur a’r drefn gyson hon yn bodloni anghenion nifer bach o ddisgyblion. Mae ethos cynhwysol a chefnogol yr ysgol yn sicrhau bod y disgyblion y mae angen cymorth ychwanegol arnynt yn elwa’n sylweddol o’r ddarpariaeth gofal, dysgu a lles integredig yn yr ysgol, fel y canolfannau cymorth, y ‘Ganolfan Canlyniadau Llwyddiannus’ (Successful Outcomes Centre) a’r ganolfan adnoddau arbennig i ddisgyblion â chyflwr ar y sbectrwm awtistig. Mae cyfleoedd fel meistroli medrau pobi ym mecws yr ysgol, gweithio ochr yn ochr â dau gi therapi’r ysgol, Daisy a Pilot, chwarae gwyddbwyll a bod yn rhan o dimau chwaraeon cynhwysol yn rhoi cyfleoedd pellach i ddisgyblion ddatblygu’n gymdeithasol ac yn emosiynol, gan ganiatáu iddynt ddod yn ddysgwyr gwydn, annibynnol ac uchelgeisiol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae llawer o ddisgyblion yn datblygu’u medrau cymdeithasol a bywyd yn gadarn drwy’r rhaglen gyfoethogi helaeth yn Ysgol Uwchradd Whitmore. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o glybiau ar ôl ysgol, gan gynnwys codi pwysau Olympaidd, gwydnwch corfforol a chlybiau Newyddiadurwyr Ifanc y BBC, ynghyd â llawer o gyfleoedd cerddoriaeth, drama a chwaraeon. Mae cyfradd uchel o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Mae’r medrau a’r hyder sy’n cael eu hennill yn y gweithgareddau hyn wedi trosi’n agweddau gwell o lawer at ddysgu yn yr ystafell ddosbarth.

O ganlyniad i gyflwyno’r ‘diwylliant ar gyfer dysgu’, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymddwyn yn dda mewn gwersi ac o gwmpas yr ysgol, a disgrifir yr ymddygiad ym mwyafrif y gwersi yn rhagorol. O ganlyniad i’r awyrgylch hwn, lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel i gymryd risgiau, mae llawer o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cyflym a chadarn.
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol gymunedol, benodedig Gymraeg, gymysg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin. Mae wedi ei lleoli yng Nghroesyceiliog, Caerfyrddin. Mae ynddi 912 o ddisgyblion gyda 190 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth. Mae gan 4.2% o ddisgyblion yr ysgol yr hawl i brydau ysgol am ddim. Daw llawer (tua 70%) o ddisgyblion o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ond mae pawb yn medru’r Gymraeg.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn nodir bod gan bob plentyn yr hawl i gael llais yn y pethau sy’n effeithio arnynt.  Roedd yr ysgol am wneud yn siwr bod pob disgybl yn teimlo eu bod yn medru defnyddio eu llais i yrru gwelliannau a chynlluniau ysgol gyfan. Roedd y cyngor ysgol eisoes yn ymwneud â phrosiectau ar ran y disgyblion, yn rhan o gynlluniau gwella’r ysgol, yn mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu a chyfrannu at apwyntiadau staff ond roedd arweinwyr yn awyddus i gynnwys mwy o’r disgyblion mewn penderfyniadau er mwyn sicrhau bod pawb â rhan i’w chwarae yn natblygu ‘teulu Bro Myrddin’.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Er mwyn gyrru gwelliannau ysgol gyfan, gosodwyd datblygu cyfleoedd ‘Llais y Disgybl’ yn flaenoriaeth yng nghynllun datblygu’r ysgol. Aethpwyd at i weithredu’r weledigaeth mewn amrywiol ffyrdd:

  • Sicrhawyd bod llais y cyngor ysgol a’r pwyllgor dyngarol yn cael ei ledaenu ar draws yr ysgol trwy wasanaethau perthnasol a digwyddiadau amrywiol
  • Cynhaliwyd cyfarfodydd wythnosol rhwng y Pennaeth a’r prif swyddogion er mwyn gwrando ar lais yr arweinwyr ifanc
  • Datblygwyd fforymau lles i bob blwyddyn ar gais y Cyngor Ysgol o dan ofal blwyddyn 12/13 er mwyn ehangu llais y disgybl, ac roedd hyn yn golygu gosod agenda’r cyfarfodydd ac adrodd nôl i’r Uwch Dîm Arwain ar ddiwedd pob cyfarfod. Cyfnewidiwyd aelodau’r fforymau yn rheolaidd er mwyn sicrhau amrywiaeth o safbwyntiau a chynrychiolaeth deg a chytbwys ar draws yr ysgol.  
  • Sefydlwyd bocs llythyron lles sydd bellach yn cael ei ddefnyddio gan lawer iawn o’r disgyblion er mwyn i unigolion ddatgan eu gofid neu eu barn yn uniongyrchol
  • Gosodwyd linc penodol ar wefan yr ysgol i ddisgyblion leisio barn a rhannu gofidiau yn gyfrinachol gyda phenaethiaid blwyddyn
  • Trefnwyd fforymau disgyblion fesul blwyddyn i fynegi barn i’r Uwch Dîm Arwain a’r penaethiaid bugeiliol ar faterion cwricwlaidd a lles
  • Gyrrwyd holiaduron ysgol gyfan i’r dysgwyr yn gofyn am eu barn ar nifer o bynciau gan gynnwys lles, diogelwch, bwyta’n iach, gwersi ar-lein ac effeithiolrwydd y ddarpariaeth gwricwlaidd  
  • Sicrhawyd bod pob adran yn gosod ‘llais y disgybl’ yn uchel ar eu hagenda a rhoddwyd cyfle i ddisgyblion leisio eu barn ar themâu a strategaethau addysgu’r adrannau  
  • Mynychwyd cynhadledd gan y Comisiynydd Plant er mwyn rhannu arfer dda

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr??

Yn sgîl ’gwrando’ ar lais y disgybl’ gweithredwyd ar nifer o’r syniadau: 

  • Addaswyd cynlluniau Addysg Bersonol a Chymdeithasol 
  • Darparwyd gwersi lles ychwanegol i ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 a’r cynnwys yn cael ei arwain gan y disgyblion.  
  • Addaswyd y cwricwlwm 
  • Addaswyd arlwy y gwersi ‘chwaraeon’ 
  • Sicrhawyd mwy o ddefnydd o liniaduron gan gynnwys cynllun peilot offer 1:1 gyda blwyddyn 7, Medi 2022
  • Datblygwyd gofod allanol yr ysgol i fod yn fwy disgybl gyfeillgar a defnyddiol. 
  • Datblygwyd y ganolfan fwyta newydd ‘Blas tu Fas’
  • Addaswyd bwydlenni’r ffreutur 
  • Crëwyd ystafell astudio newydd i’r chweched dosbarth
  • Datblygwyd mwy o weithgareddau i godi arian i achosion perthnasol i’r disgyblion.

Mae gan y disgyblion ‘lais’ yn yr ysgol ond yn bwysicach mae’r ysgol yn clywed llais y disgyblion ac yn gwrando. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddynt.  sydd yn adeiladu cymuned a chynefin yr ysgol gyfan.  

Bellach, teimla arweinwyr , trwy lais grwpiau, fforymau a phwyllgorau penodol, bod llais y disgybl yn cael lle blaenllaw yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Mae’r cyfan wedi arwain at newidiadau cwricwlaidd a newidiadau i amgylchedd a threfniadaeth ddyddiol yr ysgol. Teimlant bod hyn wedi datblygu a dyfnhau gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau’r disgyblion ar draws yr ysgol ac wedi ychwanegu at eu lles personol. Gobeithiant bod pob disgybl bellach yn teimlo yn rhan o ‘deulu Bro Myrddin.’    
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi codi ymwybyddiaeth o’r arferion trwy wasanaethau arbennig, cyfarfodydd llywodraethwyr, gwefannau cymdeithasol amrywiol a thrwy gyfathrebu gyda’r rhieni.  Mae’r ysgol hefyd yn ran o ymchwil Llywodraeth Cymru ar lais y disgybl a’r pandemig, sy’n gyfle i rannu yr arferion da.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn ysgol gymunedol, benodedig Gymraeg, gymysg i ddisgyblion 11-18 oed ac yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin.  Mae wedi ei lleoli yng Nghroesyceiliog, Caerfyrddin.  Mae ynddi 912 o ddisgyblion gyda 190 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth. Mae gan 4.2% o ddisgyblion yr ysgol yr hawl i brydau ysgol am ddim. Daw llawer (tua 70%) o ddisgyblion o deuluoedd lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gartref ond mae pawb yn medru’r Gymraeg.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Yn dilyn y cyfnod clo cydnabu yr ysgol bod cynnal a sicrhau ethos Gymreig yr ysgol yn her gynyddol.  Er bod yr holl bynciau bellach yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, roedd angen sicrhau bod y disgyblion yn defnyddio’r iaith yn rheolaidd yn enwedig gan bod 30% o ddisgyblion yn dod o deuluoedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad. Yn dilyn y cyfnod clo roedd adborth gan staff a disgyblion yn awgrymu’n glir bod dirywiad wedi bod yn y defnydd o’r Gymraeg yn gymdeithasol a bod angen ymateb i’r her honno yn syth.  Roedd angen ail adeiladu hyder y disgyblion yn eu defnydd ohoni. Penderfynwyd mynd ati yn syth, yn dilyn y cyfnod clo, i ail-afael yn eu cynlluniau blaenorol ac i symud ymlaen.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gosodwyd ‘datblygu Cymreictod yn dilyn y cyfnod clo’ yn un o flaenoriaethau cynllun datblygu’r ysgol. Crëwyd gweledigaeth newydd i’r ysgol ar y cyd rhwng y disgyblion, y llywodraethwyr a’r staff a oedd yn rhoi pwyslais gynyddol ar bwysigrwydd Cymreictod a phwysigrwydd ‘perthyn’ i deulu a chymuned yr ysgol.  Rhoddwyd pwyslais cryf ar arddel a dathlu Cymreictod a threftadaeth Gymreig yr ysgol gan bob un aelod o staff a nodir y cyfrifoldeb hwnnw yn nisgrifiad swydd pob un ohonynt.  

Aethpwyd ati i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith yn y dosbarth ac yn allgyrsiol trwy nifer o gynlluniau. Sicrhawyd bod pob adran yn yr ysgol yn dathlu diwylliant a Chymreictod yn eu cynlluniau gwaith adrannol er mwyn sicrhau dealltwriaeth y disgyblion o bwysigrwydd eu hiaith a’u traddodiadau.  Bu hyn yn rhan allweddol o gynllunio hefyd ar gyfer Cwricwlwm i Gymru fydd ar waith yn yr ysgol o Fedi 2022. Aethpwyd ati i frandio Cwricwlwm i Gymru gyda chymeriadau Cymreig lleol i ddathlu eu cynefin a’n treftadaeth sirol. Crëwyd murlun i ddathlu diwylliant lleol ar y cyd gyda’r arlunydd Rhys Padarn a defnyddiwyd y murlun fel addurn parhaol ar un o waliau’r ysgol ac fel cefndir ar gyfer platfform digidol yr ysgol i’r cwricwlwm newydd. Ail frandiwyd pwyllgor Cymreictod yr ysgol gan hepgor un pwyllgor a chreu’r pwyllgor Torri Arfer.  Cynlluniwyd gweithgareddau gan gynnwys Eisteddfod rithiol, gwasanaethau niferus, cyngherddau, Maes B Bach, cystadlaethau arbennig a chyflwyniadau allanol ar fanteision y Gymraeg. Codwyd ymwybyddiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol lleol hefyd megis Gorymdaith Gŵyl Ddewi y dref, cyngerdd enillwyr yr Urdd, trefniadau Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr a Gŵyl Canol Dref. 

Rhoddir pwyslais mawr ar gynorthwyo’r disgyblion i werthfawrogi treftadaeth a diwylliant Cymru, gan roi cyfleoedd parhaol iddynt roi eu hiaith ar waith a’i ddathlu gyda balchder. Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu fforwm disgyblion i drafod y ffordd o symud ymlaen, gweithgaredd theatr mewn addysg gan y chweched dosbarth a digwyddiadau allgyrsiol niferus. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr??

Ymfalchïa’r ysgol yn y ffaith bod eu harolwg diweddar wedi nodi – ‘mae bron pob un o’r disgyblion yn ymfalchïo yn eu Cymreictod ac yn manteisio ar y cyfleoedd eang sydd ar gael i ddysgu ac i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.’ Mae hynny, yn ei hun, yn dangos bod eu cynlluniau wedi dwyn ffrwyth a’u bod yn dechrau ad-ennill y tir a gollwyd yn sgîl y niwed a achoswyd yn ystod y cyfnod clo. Mae’r ysgol yn cydnabod bod y frwydr ymhell o gael ei hennill ond mae’r cynlluniau niferus yn sicr wedi adfer y sefyllfa. Mae datblygu a hyrwyddo Cymreictod yn frwydr barhaol hyd yn oed mewn ysgol sydd yn adnabyddus am ei hethos ‘Gymreig’.
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar ddathlu llwyddiannau’r ysgol ar ei gwefannau cymdeithasol niferus ac yn y wasg leol. Mae’r arfer dda, felly, yn cael ei ledaenu’n eang.  Maent hefyd yn cynllunio eu cwricwlwm newydd i ganolbwyntio ar gymeriadau lleol adnabyddus a fydd eto yn pwysleisio pwysigrwydd eu diwylliant, eu treftadaeth a’u Cymreictod. Crëwyd cyfres o bodlediadau lles Cymraeg gan ddysgwyr yn trafod materion cyfoes a bydd y gyfres yn cael ei rhannu yn gyhoeddus yn y dyfodol agos.  
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Penglais yn ysgol cyfrwng Saesneg yn Aberystwyth, sy’n gwasanaethu ardal eang yng ngogledd a chanol Ceredigion. Mae tua 1100 o fyfyrwyr yn yr ysgol, y mae 12.8% ohonynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a 34.8% ar y gofrestr ADY. Mae dwy uned arbennig ar y safle: y Ganolfan Cymorth Dysgu ar gyfer myfyrwyr â lefelau uchel o anghenion a’r Ganolfan Adnoddau Clywed. Mae tua 10% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, a siaredir 34 o ieithoedd eraill yn yr ysgol.  

Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi bod ar daith i wella. Ategwyd hyn gan weledigaeth newydd yr ysgol, sy’n dechrau gyda’r nod i fod ‘yn ysgol hapus, uchelgeisiol sy’n cyflawni’n dda lle mae pawb yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi’. Mae’r weledigaeth gynhwysol ac uchelgeisiol hon yn ymgorffori’r angen i weithio fel cymuned gyfan ac i bawb fod y gorau y gallant, fel y gall disgyblion fod yn ddinasyddion llwyddiannus yn eu cymunedau, yng Nghymru a’r byd. Mae dysgu proffesiynol wedi bod yn agwedd hanfodol ar y daith gyda ffocws cryf ar addysgu a dysgu. Mae hyn wedi arwain at ddiwylliant agored iawn lle caiff arfer dda ei rhannu’n barhaus. Mae’r gwaith a wnaed yn y ddwy flynedd gyntaf o ran datblygu staff ac addysgeg wedi rhoi’r ysgol mewn sefyllfa dda i ganolbwyntio ar ddatblygu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae ymchwil wedi bod yn agwedd bwysig iawn ar y gwaith hwn, gyda’r holl ddatblygiadau wedi’u seilio ar ymchwil ac ymholi proffesiynol. Mae gwaith mwy diweddar ar ddatblygu model arweinyddiaeth, lle rhoddir cyfrifoldeb i adrannau neu gyfadrannau unigol am yrru eu gwelliant eu hunain, wedi datblygu diwylliant o hunanwella ymhellach lle mae ymddiriedaeth ac atebolrwydd yn mynd law yn llaw.  
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi darparu cyfle i ddatblygu cwricwlwm sy’n adeiladu’n glir ar weledigaeth a gwerthoedd yr ysgol, ac yn rhoi cyfleoedd i’r holl fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth, eu medrau a’u dealltwriaeth tuag at y pedwar diben. Mae’r ysgol wedi canolbwyntio’n gryf ar wella safonau addysgu a dysgu dros y tair blynedd ddiwethaf trwy newid diwylliant, gan werthfawrogi pwysigrwydd dysgu gydol oes, arweinyddiaeth a llwyddiant ar gyfer staff a myfyrwyr. Mae hyn wedi creu diwylliant agored gyda ffocws ar ddysgu proffesiynol lle mae staff yn teimlo’n ddiogel i ddatblygu eu harferion a threialu a gwerthuso gwahanol ddulliau. Mae dysgu proffesiynol wedi cael ei gefnogi trwy ddarparu amser i athrawon ymgymryd ag ymchwil addysgegol, cynorthwyo staff i gymhwyso a gwerthuso addysgeg newydd, a rhannu arfer mewn briffiau a chyfarfodydd cyfadrannau. Mae hyfforddi wedi bod yn rhan o fireinio technegau cyfarwyddol, gwella cymorth personoledig ar gyfer myfyrwyr ag ADY, ac ymgorffori strategaethau sy’n datblygu darllen, ysgrifennu a llafaredd ar draws pynciau. Mae’r ffactorau hyn wedi darparu platfform pwysig i ddatblygu ‘Cwricwlwm Penglais’ arno.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Dechreuodd taith ‘Cwricwlwm Penglais’ â’r cwestiwn ‘Pam?’. Rhoddwyd amser i gyfadrannau archwilio dogfennau’r Cwricwlwm i Gymru, gwerthuso darpariaeth bresennol y cwricwlwm a mireinio dulliau adrannol i adlewyrchu’r pedwar diben yn eu pynciau. Ffurfiwyd Grŵp Ymchwil y Cwricwlwm ac Asesu i ymchwilio i theori ac arfer cwricwlaidd ac edrych ar fodelau posibl ar gyfer y cwricwlwm ac asesu; darparodd hyn yr arbenigedd ar gyfer y gwaith cwricwlwm ar lefel uchel i ddod. Bu’r grŵp yn gweithio’n helaeth gyda rhanddeiliaid i werthuso’r ddarpariaeth bresennol a sefydlu pum piler ar gyfer Cwricwlwm newydd Penglais, sef: Gwybodaeth, Diwylliant Creadigol, Cyfathrebu, Lles a Chynwysoldeb. 

Aethpwyd i’r afael â chwestiwn ‘Beth?’ y cwricwlwm gyda ffocws ar nodi cysyniadau’r trothwy, gwybodaeth am y trothwy, medrau trothwy a phrofiadau trothwy yr oedd pynciau eisiau eu cyflwyno yng nghyfnod allweddol 3. Amlinellodd y ‘trothwyau’ hyn y dysgu allweddol y dylai disgyblion ei gaffael cyn astudio cyrsiau TGAU. Gwnaed cyfeiriad manwl at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a chamau cynnydd, ac anogwyd arweinwyr i ddefnyddio’r adnoddau sydd ar gael gan gymdeithasau proffesiynol eu pynciau i nodi gwybodaeth newydd. Archwiliwyd dealltwriaeth o bwysigrwydd dyfnder y dysgu a chyflawni ‘meistrolaeth’ mewn cyfarfodydd datblygiad proffesiynol; roedd hyn yn bwysig i osgoi gorlwytho cynnwys, a ffocws ar ddysgu dwfn sy’n meithrin sgema bwerus a hirbarhaus (gwybodaeth a fydd yn aros). Cyflwynwyd gwaith ar bwysigrwydd a gwerth cysylltiadau rhyngddisgyblaethol o fewn meysydd dysgu a phrofiad; rhannodd cydweithwyr mewn gwahanol bynciau o fewn meysydd dysgu a phrofiad eu cysyniadau, gwybodaeth a medrau trothwy, a nodi ble y gellid creu cysylltiadau pwrpasol a dilys. Gellid cefnogi’r cysylltiadau hyn trwy adfer a chysylltu ar draws pynciau, gan ddatblygu ymholi ar y cyd neu ddatblygu creadigrwydd a datrys problemau ar ôl meistroli. Fe wnaeth cyfadrannau ddatblygu a threialu’r defnydd o gysylltiadau rhyngddisgyblaethol fel ymholi ar y cyd (y Dyniaethau), cysylltiadau ar draws pynciau (Ieithoedd a’r Gwyddorau Cymdeithasol) a chreadigrwydd a datrys problemau (Gwyddoniaeth a Thechnoleg a Mathemateg).

Roedd cwestiwn ‘Sut?’ y cwricwlwm newydd yn cynnwys ymchwil i naratifau’r cwricwlwm a ffyrdd o sicrhau trefn i’r cwricwlwm. Ar yr adeg hon, fe wnaethom hefyd adolygu pwysigrwydd creu gofod a chydblethu i uchafu cof a dysgu. Datblygodd yr holl bynciau naratif cwricwlwm a mapio cwricwlwm cyfnod allweddol 3 trwy ddefnyddio cysyniadau, gwybodaeth, medrau a phrofiadau trothwy, tra’n cyfeirio hefyd at y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig a chamau cynnydd. Cafodd cysylltiadau rhyngddisgyblaethol a nodwyd yn y cam blaenorol eu hychwanegu at y map hefyd. Mae mapiau wedi cael eu rhannu i alluogi dealltwriaeth well o’r cwricwlwm ym mhob maes dysgu a phrofiad a datblygu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol pwrpasol ymhellach. Er mwyn datblygu continwwm dysgu, bydd cysylltiadau â chwricwlwm cyfnod allweddol 2 mewn medrau a geirfa pwnc yn cael eu datblygu ar y cyd â chyfleoedd i staff addysgu uwchradd gael profiad o wersi Blwyddyn 6 mewn ysgolion cynradd. Cyflwynwyd addysgeg i gefnogi’r cwricwlwm newydd fel datblygu ‘ymhelaethu’ (‘cyflymu’ a ‘rhwymo’), a bydd hyn yn rhan o’r rhaglen datblygiad proffesiynol wrth i’r cwricwlwm newydd ddatblygu. 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Trwy gydol datblygiad yr ysgol o’r cwricwlwm, mae gwella addysgu wedi parhau i fod yn ffocws canolog. Mae arweinwyr yr ysgol yn deall y byddai datblygiadau cwricwlaidd yn debygol o gael effaith fach iawn heb addysgu o ansawdd uchel. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu gwelliannau sylweddol yn ansawdd yr addysgu.

Mae cyfadrannau ac adrannau wedi achub ar y cyfle a ddaeth yn sgil ‘Cwricwlwm newydd Penglais’ i werthuso darpariaeth ac ymchwil bresennol, treialu a gwerthuso profiadau dysgu newydd. Mewn Dylunio a Thechnoleg, mae rhaglen ddysgu Blwyddyn 7 wedi cael ei hailddylunio i ganiatáu ar gyfer llai o brosiectau a mwy o ffocws ar brofiadau ymarferol a meistroli medrau. Mae cwmni dylunio lleol wedi darparu brîff pensaernïaeth sy’n rhoi cyd-destun bywyd go iawn i fyfyrwyr gymhwyso eu medrau. Mae’r deilliannau wedi dangos gwelliant nodedig yn ansawdd dylunio a chymhwyso cynnyrch. Mae myfyrwyr wedi dod yn fwy annibynnol o lawer hefyd yn datblygu eu dyluniadau gan eu bod wedi meistroli’r medrau sydd eu hangen, ac yn meddu ar wybodaeth amdanynt. Mae myfyrwyr wedi dangos mwy o gymhelliant â dylunio eu cynnyrch hefyd am fod ganddynt ‘gleient’ i greu cynnyrch ar ei gyfer. Yn y Dyniaethau, mae’r ymholi ar y cyd ym Mlwyddyn 7 rhwng Hanes a Daearyddiaeth wedi datblygu’r cysylltiadau cysyniadol rhwng y ddau bwnc wrth ymdrin â’r cwestiwn ‘Pam ydym ni’n byw ble rydym ni?’. Mae hyn wedi galluogi myfyrwyr i ddod â chysyniadau Lle (safle, anheddiad) a Gofod (mudo) at ei gilydd mewn podlediad sy’n esbonio pam mae pobl wedi ymgartrefu yn Aberystwyth. Roedd myfyrwyr wedi’u cymell i gwblhau’r podlediad a byddant yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr Blwyddyn 6 mewn gweithgareddau pontio. Mewn Saesneg, mae’r dewis i ddefnyddio nofel fwy heriol ym Mlwyddyn 9 – ‘Things Fall Apart’ gan Chinua Achebe – wedi diweddu mewn darn arddangos terfynol lle mae myfyrwyr yn adrodd stori wahanol am Gymru; mae hyn yn adeiladu ar y ddealltwriaeth a gafwyd o’r nofel o berygl un stori. Mae’r darnau arddangos yn hynod unigoledig ac yn dangos dealltwriaeth a gwerthfawrogiad gwell o Gynefin fel lle o feddiannau lluosog. Mae cyfleoedd yma i ddatblygu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol gydag Ieithoedd a’r Dyniaethau. Mewn Mathemateg, mae ailgyflwyno dulliau i ddatblygu medrau metawybyddiaeth disgyblion wedi effeithio ar allu myfyrwyr i newid o feddwl diriaethol i haniaethol, datblygu eu rhesymu geiriol a mynegi syniadau yn gryno ac yn rhesymegol. Yn y gwersi hyn, mae ysgrifennu yn cynorthwyo meddwl ac nid yw’n ddiben ynddo’i hun.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Yn yr ysgol, mae pob un o’r cyfadrannau wedi cyflwyno eu gwaith ar ddatblygu’r cwricwlwm mewn briffiau. Defnyddiwyd cyfarfodydd rhwydwaith sirol i rannu arfer rhwng ysgolion yng Ngheredigion. Mae cyfarfodydd diweddar ar y safle gyda chynrychiolwyr o ysgolion bwydo cynradd wedi galluogi sgyrsiau proffesiynol ynghylch ymagwedd a chynnydd gyda’r cwricwlwm newydd. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Stanwell yn ysgol gyfun sylfaen gymysg 11 i 19 cyfrwng Saesneg, sydd wedi’i lleoli ym Mhenarth, Bro Morgannwg. Mae 1,984 o ddisgyblion ar y gofrestr (Rhagfyr 2021), y mae tua 470 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau Penarth a Sili, a hefyd yn denu tua thri o bob 10 disgybl o’r tu allan i’r dalgylch. Mae tua 6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.5%. Mae ychydig dros 6% o ddisgyblion yn byw yn y 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae gan ryw un o bob 10 disgybl angen addysgol arbennig. Mae tua 15% o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol heblaw gwyn Prydeinig. Caiff cyfran fechan o ddisgyblion gymorth i ddysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (4%). Mae 3% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae llais y dysgwr wedi bod yn hanfodol i ddiwylliant yr ysgol ers blynyddoedd lawer. Datblygwyd llais y dysgwr dros gyfnod trwy gyngor ysgol ffyniannus ac ymroddgar, ynghyd â llawer o is-grwpiau eraill. Yn sgil cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, rhoddwyd cyfle i’r ysgol ail-lunio ffocws ei gweithgareddau llais y dysgwr i sicrhau mai ffocws unrhyw weithgaredd llais y dysgwr oedd darparu cyfle helaeth i ddatblygu arweinyddiaeth disgyblion ymhellach. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi creu systemau ac arferion sy’n cynorthwyo disgyblion i ymgymryd â rôl weithredol mewn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw. Mae cyfleoedd arweinyddiaeth disgyblion wedi bod yn hanfodol yn yr ymagwedd ysgol gyfan at ddylunio’r cwricwlwm, cydweithio, a datblygu dealltwriaeth ysgol gyfan o’r themâu trawsbynciol fel amrywiaeth a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cynhaliodd uwch arweinwyr ac arweinwyr canol nifer o drafodaethau myfyriol lle buont yn archwilio eu dealltwriaeth o’r hyn y mae arweinyddiaeth disgyblion yn ei olygu iddyn nhw, pam mae’n bwysig a sut mae’n cysylltu â dysgu, ymgysylltu, gwella’r ysgol a chyflawni diwygio cenedlaethol. Gwerthuson nhw’r ddarpariaeth bresennol, ac o ganlyniad, creon nhw nifer o systemau newydd i gryfhau cyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth disgyblion ymhellach yn yr ysgol. 

Mae cyflwyno Grŵp Ymgynghori ar y Cwricwlwm wedi bod yn hanfodol wrth sicrhau bod arweinyddiaeth disgyblion yn cael ei datblygu gyda ffocws penodol ar ddylunio’r cwricwlwm. Mae’r ysgol wedi penodi 47 o ddisgyblion i weithredu fel Ymgynghorwyr y Cwricwlwm ar draws pob grŵp blwyddyn. Maent wedi gweithio gyda staff addysgu, uwch arweinwyr, cyd-ddisgyblion a rhanddeiliaid, gan ffurfio a dylunio ymateb yr ysgol i’r Cwricwlwm i Gymru a holl elfennau Cenhadaeth ein Cenedl. Ffurfiwyd tîm o Ymgynghorwyr y Cwricwlwm i sicrhau ei fod yn cynrychioli cymuned yr ysgol, ac yn ddiweddar, mae wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu ymateb yr ysgol i themâu trawsbynciol trwy sicrhau bod cynlluniau dysgu yn dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb. Mae Ymgynghorwyr y Cwricwlwm yn cyfarfod bob hanner tymor ac wedi ennill gwybodaeth ymarferol fanwl am broses dylunio’r cwricwlwm. Maent wedi mynychu diwrnodau cynllunio rheolaidd ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad gydag arweinwyr canol, ac fe gânt eu cynnwys yn rheolaidd mewn prosiectau cynllunio ac ymholi cydweithredol. Mae ymgynghorwyr y cwricwlwm yn sicrhau bod gan ddisgyblion rôl ddilys mewn dylunio’r cwricwlwm, ac wedi bod yn allweddol mewn creu gweledigaeth yr ysgol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Er mwyn datblygu ei hymagwedd ysgol gyfan at amrywiaeth ymhellach, mae’r ysgol wedi creu grŵp PRIDE a grŵp Niwroamrywiaeth hefyd. Mae’r grwpiau hyn yn creu cyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth disgyblion gyda ffocws penodol ar gynrychiolaeth, cynhwysiant ac amrywiaeth. Mae dysgwyr yn cyfarfod yn rheolaidd ac wedi ymgymryd â rôl arweiniol mewn gwerthuso’r ymateb cychwynnol i ddylunio’r cwricwlwm, ac wedyn yn cydweithio â staff i drafod cyfleoedd ar gyfer datblygu amrywiaeth o fewn dylunio’r cwricwlwm ac ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.

Mae grwpiau Ymgynghorwyr y Cwricwlwm, Pride a Niwroamrywiaeth yn ychwanegu at y cyngor ysgol sydd eisoes wedi’i sefydlu’n gadarn, grwpiau llais y dysgwr sy’n benodol i bwnc a’r rhaglen mentora cymheiriaid i gymheiriaid. Gwnaed gwaith i sefydlu rolau clir ar gyfer pob llwybr arweinyddiaeth disgyblion. Ailedrychwyd ar ddatganiad cenhadaeth y cyngor ysgol i adlewyrchu’r ffyrdd y byddai’r gwahanol gyfleoedd arwain i ddisgyblion yn triongli ac yn cydweithio. Mae’r cyngor ysgol wedi canolbwyntio ar werthuso a chyfrannu at ddylunio’r cwricwlwm gyda ffocws ar ddatblygu CCUHP, ac yn fwyaf diweddar, gellir ei gydnabod am ei rôl yn ennill gwobr am waith yr ysgol ar barchu hawliau plant a phobl ifanc. Mae is-grwpiau o’r cyngor ysgol yn cymryd rôl arwain weithredol mewn datblygu dysgu ac addysgu gan fod pob adran wedi penodi swyddogion sy’n benodol i bwnc sy’n ymgynghori’n rheolaidd â dysgwyr a staff addysgu i sicrhau bod safbwyntiau’n cael eu cynrychioli’n briodol. Mae hyn yn bwydo i gylch monitro a gwerthuso’r ysgol gyfan. Datblygwyd arweinyddiaeth myfyrwyr ymhellach trwy greu Is-Grwpiau Amgylchedd, Cymuned, Elusen a Lles. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae datblygu arweinyddiaeth disgyblion wedi cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth, yn enwedig o ran dylunio’r cwricwlwm. Mae arweinyddiaeth myfyrwyr a chydweithio â staff wedi sicrhau ymdriniaeth well, fwy ystyrlon a dilys â’r holl themâu trawsbynciol. Mae arweinyddiaeth disgyblion wedi cyfrannu at y ddealltwriaeth a’r ymagwedd ysgol gyfan at amrywiaeth, cynrychiolaeth a chynhwysiant, ac wedi effeithio ar benderfyniadau ysgol gyfan yn ymwneud â strwythur a chyflwyno’r maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles. Mae cyfleoedd arwain myfyrwyr wedi cael effaith gadarnhaol ar allu disgyblion i feddwl yn strategol a chyfathrebu’n huawdl ag ystod o randdeiliaid. Mewn prosiectau ymholi diweddar a wnaed i werthuso effeithiolrwydd cyfleoedd arwain disgyblion, dywedodd y disgyblion fod ganddynt ymdeimlad gwell o berthyn, ac yn gwerthfawrogi’r cydweithio dilys a grëwyd o ganlyniad i’r gwaith hwn. Mae disgyblion wedi datblygu i fod yn gyfathrebwyr, yn gydweithwyr, yn arloeswyr ac yn strategwyr effeithiol. Mae cyfleoedd arwain i ddisgyblion wedi cael effaith gadarnhaol ar lefel ddiwylliannol.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Caiff gwybodaeth am yr holl gyfleoedd arwain ar gyfer disgyblion a’r gwaith a wnânt ei rhannu’n rheolaidd yng nghymuned yr ysgol trwy ddiweddariadau bwletin. Rhennir diweddariadau rheolaidd gyda rhieni, gofalwyr a’r gymuned ehangach hefyd trwy wefan yr ysgol a chylchlythyrau wythnosol.

Mae gwaith yr ysgol yn datblygu cyfleoedd arwain i ddisgyblion yn ymwneud â dylunio’r cwricwlwm, yn fwyaf arbennig yng ngwaith Ymgynghorwyr y Cwricwlwm, wedi cael ei rannu mewn llawer o ddigwyddiadau dysgu proffesiynol a drefnwyd gan y consortia rhanbarthol. Fe’i rhannwyd yn nigwyddiadau Llywodraeth Cymru hefyd, gan gynnwys cynhadledd ARC 2019, ac yn fwyaf diweddar, cyflwynodd Ymgynghorwyr y Cwricwlwm eu gwaith mewn ymweliad â Llywodraeth Cymru ar gyfer grŵp o Uwch Arweinwyr gwadd ac aelodau o Weinyddiaeth Addysg Lithwania.
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Stanwell yn ysgol gyfun sylfaen gymysg 11 i 19 cyfrwng Saesneg, sydd wedi’i lleoli ym Mhenarth, Bro Morgannwg. Mae 1,984 o ddisgyblion ar y gofrestr (Rhagfyr 2021), y mae tua 470 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae’r ysgol yn gwasanaethu cymunedau Penarth a Sili, a hefyd yn denu tua thri o bob 10 disgybl o’r tu allan i’r dalgylch. Mae tua 6% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd ymhell islaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 17.5%. Mae ychydig dros 6% o ddisgyblion yn byw yn y 20% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae gan ryw un o bob 10 disgybl angen addysgol arbennig. Mae tua 15% o ddisgyblion o gefndir ethnig lleiafrifol heblaw gwyn Prydeinig. Caiff cyfran fechan o ddisgyblion gymorth i ddysgu Saesneg fel iaith ychwanegol (4%). Mae 3% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae gan Ysgol Stanwell amserlen gydlynus i roi arweiniad a chyngor i fyfyrwyr, a phrosesau trylwyr i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cynorthwyo’n llawn i wneud dewisiadau gwybodus ynglŷn â phynciau, gyrfaoedd a dewisiadau yn y dyfodol. Mae gwaith Cynghorwyr Gyrfaoedd, Cydlynydd Addysg yn Gysylltiedig â Gwaith ac arweinwyr bugeiliol wedi cael ei drefnu’n ofalus a’i gynllunio’n strategol i sicrhau bod dysgwyr a’u rhieni / gofalwyr yn cael gwybodaeth ddefnyddiol mewn modd amserol, a’u bod yn gallu cael arweiniad teilwredig i ddilyn amrywiaeth o ddiddordebau. Mae’r ddarpariaeth hon yn amlwg ym mhob cyfnod allweddol ac yn cynorthwyo disgyblion ar wahanol adegau yn eu haddysg trwy ddarparu arweiniad cyfoes a defnyddiol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae gweithgareddau yn yr ysgol yn cynnwys trafodaethau un i un am opsiynau disgyblion ar ddiwedd cyfnodau allweddol 3 a 4, a neilltuir tiwtor personol profiadol a hyfforddedig i bob myfyriwr chweched dosbarth i’w cefnogi trwy broses UCAS a phrosesau ymgeisio eraill. Mae’r ysgol wedi penodi Cydlynydd Addysg Uwch profiadol sy’n darparu rhaglen strwythuredig sy’n galluogi myfyrwyr i ystyried gyrfaoedd, llwybrau addysg uwch posibl, ac yn eu cynorthwyo nhw a’u tiwtoriaid i ysgrifennu datganiadau personol a CVau. Yn ychwanegol, mae Cynghorydd Gyrfa Cymru dynodedig ar gyfer myfyrwyr y chweched dosbarth, a threfnir ffug gyfweliadau rheolaidd, sy’n cael eu cynnal gan gyflogwyr a phobl broffesiynol leol, i sicrhau bod myfyrwyr wedi eu harfogi i ymdopi â’r cam nesaf. Caiff ffeiriau yn gysylltiedig â gwaith a ffeiriau gyrfaoedd ar gyfer pob cyfnod allweddol eu trefnu ar ôl gweithgareddau llais y dysgwr i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu manteisio ar yr arbenigedd mwyaf perthnasol a’u bod yn gallu archwilio llwybrau posibl yn y dyfodol. Yn ychwanegol, mae’r ysgol yn cynnal nifer o Nosweithiau Opsiynau lle gall dysgwyr a rhieni / gofalwyr gyfarfod â staff yr ysgol i archwilio’r ystod eang o bynciau a chymwysterau a gynigir gan yr ysgol. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae cyfraddau presenoldeb eisoes wedi cael eu hadfer yn sylweddol i rywle yn agos at lefelau cyn y pandemig, sy’n awgrymu bod y cynnig cwricwlwm a’r dewisiadau opsiynau pwnc yn briodol i ddiddordebau ac anghenion dysgwyr. Yn yr un modd, mae deilliannau’n parhau i fod yn uchel iawn ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion, ac mewn gweithgareddau llais y dysgwr, dywed y rhan fwyaf ohonynt eu bod yn teimlo bod y cyngor, yr arweiniad a’r cymorth a roddir iddynt yn eu paratoi’n dda ar gyfer symud ymlaen i’r cam nesaf yn eu dysgu a’u gyrfaoedd.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Ar hyn o bryd, mae Ysgol Stanwell yn Ysgol Rhwydwaith Dysgu ar gyfer y GCA ac yn Ysgol Arweiniol Dysgu Proffesiynol CCD, sy’n rhannu enghreifftiau o arfer dda yn y rhanbarthau, a thu hwnt.