Arfer effeithiol Archives - Page 21 of 70 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Mynwy (MCS) yn ysgol cyfrwng Saesneg 11-18 oed a gynhelir gan Awdurdod Lleol Sir Fynwy. Mae’n gwasanaethu tref Mynwy ac ardaloedd gwledig Cross Ash, Llandogo, Rhaglan, Trellech ac Wysg, gydag oddeutu 27% o’r myfyrwyr yn teithio o siroedd y ffin, sef Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd. Mae 1,693 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 316 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae tua 15% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Saesneg yw iaith gyntaf bron bob un o’r disgyblion ac maent yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig. Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Mae canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae angen o leiaf addasiadau rhesymol arnynt, yn rhyw 19% o boblogaeth gyfan yr ysgol, gan gynnwys y ganolfan adnoddau arbenigol (y Ganolfan). Cyfran y disgyblion sydd â chynllun anghenion dysgu ychwanegol statudol (Datganiad / EHCP / Cynllun Dysgu Unigol (CDU)) yw 3.9% (gan gynnwys y Ganolfan).

Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth a 5 pennaeth cynorthwyol. 
Mae 48 o ddisgyblion o flynyddoedd 7 i 13 wedi’u gosod yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol. Mae’r Ganolfan yn ddarpariaeth dysgu ychwanegol yr awdurdod lleol sy’n darparu ar gyfer disgyblion â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig, anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau corfforol a meddygol. Mae’r Ganolfan wedi’i hintegreiddio’n llawn yng nghymuned yr ysgol, o ran ei hamgylchedd a’i strwythur staffio.
Mae’r Ganolfan yn darparu profiad addysgol cynhwysol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth yn eu cymuned leol, gan roi cyfleoedd i ddysgu gyda’u cymheiriaid a chanddynt. Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau bod bron yr holl ddisgyblion a osodir yn y Ganolfan yn cael darpariaeth briodol, yn cyflawni’r tu hwnt i ddisgwyliadau rhagdybiedig ac yn symud ymlaen i leoliadau ôl-16/18 priodol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Agorodd y Ganolfan yn 2017 gyda dau ddisgybl. Tyfodd y ddarpariaeth i 48 o ddisgyblion erbyn Medi 2022. Y bwriad yw datblygu darpariaeth integredig a chynhwysol sy’n gwella’r ddarpariaeth a’r arfer bresennol, gan ganiatáu am ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn bodloni anghenion disgyblion. Crëwyd uwch swydd arwain i ddatblygu a gweithredu gweledigaeth gyffredin a darpariaeth gynhwysol yn y Ganolfan ac ar draws yr Ysgol. Mae’r adolygiad parhaus o’r ddarpariaeth, yr adnoddau ac anghenion carfanau newidiol wedi sicrhau mireinio parhaus, gyda chynhwysiant ac integreiddio yn ganolog i’w datblygiad.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gweledigaeth 
Defnyddiwyd HMS ysgol gyfan i archwilio ystyr cynhwysiant i’r ysgol, gan ystyried arfer bresennol ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth yn yr ysgol ac mewn mannau eraill. Datblygwyd astudiaethau achos ar arfer bresennol i ddisgyblion prif ffrwd gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASD) a Syndrom Down. Yn ganolog i’r weledigaeth gytunedig yw bod pob disgybl yn dysgu orau gyda’u cymheiriaid a chanddynt.

Integreiddio yn yr Ysgol 
Mae’r Ganolfan yn cael ei harwain gan bennaeth cynorthwyol ochr yn ochr ag athro arweiniol. Mae polisïau ysgol gyfan yn llywio’r systemau a’r arferion sydd ar waith, gydag addasiadau, fel y bo angen. Dilynir cynllun cwricwlwm ac amseriadau dyddiol yr ysgol, gyda mynediad llawn at amgylchedd yr ysgol. Mae disgybl gynrychiolydd o’r Ganolfan yn aelod o bob Cyngor Blwyddyn.  

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn caniatáu am ddatblygu’r ddarpariaeth i fodloni anghenion unigol. Mae mwyafrif y disgyblion yn mynychu grŵp dosbarth prif ffrwd ac elfennau o ddysgu prif ffrwd, fel technoleg, y celfyddydau mynegiannol a gwersi addysg gorfforol, gyda chefnogaeth cynorthwywyr addysgu’r Ganolfan. Mae’r disgyblion hyn hefyd yn mynychu clybiau a gweithgareddau allgyrsiol, ochr yn ochr â chyfoedion prif ffrwd. Mae disgyblion y Ganolfan yn chwarae rhan weithgar yng nghynyrchiadau a gwasanaethau carolau’r ysgol. Mae addasiadau rhesymol yn cynnwys cymorth Cynorthwywyr Dysgu a gwella medrau staff prif ffrwd. Mae’r ddarpariaeth ôl-16 yn cynnwys lleoliadau profiad gwaith yn y gymuned leol ac yn yr ysgol. 

Dosbarth Enfys
Yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023, datblygwyd Dosbarth Enfys i ddarparu ar gyfer disgyblion ag ADY mwy cymhleth ym Mlynyddoedd 7 ac 8, nad ydynt yn gallu manteisio ar unrhyw elfennau o’r ddarpariaeth brif ffrwd. Fodd bynnag, mae’r disgyblion hyn yn defnyddio’r holl ardaloedd cyffredin a’r cyfleusterau arbenigol yn y Ganolfan. Mae hwn yn faes sy’n cael ei ddatblygu’n barhaus oherwydd newidiadau mewn anghenion, gyda chynnydd mewn staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol a dulliau dysgu a chyfathrebu amlsynhwyraidd yn cael eu mireinio’n barhaus. 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae staff yn y Ganolfan yn cynnwys athrawon cynradd ac uwchradd hyfforddedig, ynghyd â staff â chymwysterau arbenigol neu brofiad ym maes ADY. Mae staff yn lledaenu arfer orau er mwyn datblygu cysondeb yn y Ganolfan ac ar draws ardaloedd y cwricwlwm prif ffrwd.

Mae datblygu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn arwain at lefelau uchel o ymgysylltu a chynnydd yn y Ganolfan a phan fydd disgyblion yn dilyn gwersi prif ffrwd. Mae disgyblion yn datblygu annibyniaeth a gwydnwch. Maent yn rhyngweithio’n llwyddiannus â chymheiriaid prif ffrwd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Mae gallu manteisio ar weithgareddau allgyrsiol wedi ymestyn eu profiadau ac wedi cynyddu perthnasoedd cadarnhaol. Mae lleoliadau profiad gwaith ôl-16 yn arwain at welliannau sylweddol i fedrau cyfathrebu disgyblion a’u gwydnwch. Mae bron bob un o’r disgyblion yn cyflawni cymwysterau priodol i symud ymlaen i leoliadau ôl-16/18 priodol.  

Mae gan ddisgyblion y Ganolfan ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn, wedi’i wreiddio yn y ffaith eu bod yn ddisgybl Ysgol Gyfun Mynwy, yn hytrach na’u bod yn aelod o’r Ganolfan.  
 

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Gweithiodd y pennaeth cynorthwyol ar draws de-ddwyrain Cymru yn ystod secondiad a oedd yn canolbwyntio ar weithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg. Mae’r pennaeth cynorthwyol a’r athro arweiniol ar gyfer y Ganolfan yn cyfrannu at gyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd gyda Thîm Canolfannau Adnoddau Arbenigol yr Awdurdod Lleol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn llywio datblygiad darpariaeth Canolfannau Adnoddau Arbenigol ar draws yr ALl. Mae’r pennaeth cynorthwyol yn arwain cyfarfodydd cydlynwyr ADY gydag ysgolion cynradd partner i fireinio ymagweddau cynhwysol at ADY.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi’i lleoli yn ninas Wrecsam ac yn gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Mae 857 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 79 yn y chweched dosbarth. Daw 80% o’r disgyblion o gartrefi di-Gymraeg ac mae 20% yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn gymuned falch, groesawgar ble mae staff yn cyfleu eu  hangerdd dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi gweld cynnydd yn y disgyblion sydd angen cynhaliaeth lles. Mewn ymateb i hyn, sefydlwyd Hwb Bugeiliol yn 2019 er mwyn sicrhau man canolog i ddisgyblion alw mewn i gael cymorth gydag unrhyw fater bugeiliol boed yn broblem iechyd corfforol neu feddyliol, problem gymdeithasol neu emosiynol. Ar ôl y pandemig, gwelwyd bod yr angen am gymorth o’r fath wedi dwysau a datblygwyd yr Hwb Bugeiliol ymhellach, er enghraifft drwy benodi ail swyddog lles sydd hefyd yn gyfrifol am gynorthwyo rhieni. Yn sgil y pandemig, dwysau hefyd wnaeth y galw am gymorth ac ymyrraeth academaidd i ddisgyblion ac felly fe sefydlwyd ail hwb, sef yr Hwb Dysgu i gynnig cefnogaeth i ddisgyblion gyda’u gwaith ysgol. Rhyngddynt, mae’r ddau hwb yn sicrhau cefnogaeth a gofal i bob disgybl sydd angen cymorth ychwanegol, beth bynnag fo natur a maint y broblem.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae tîm o staff yn yr Hwb Bugeiliol sy’n cynnwys pennaeth cynorthwyol lles ac ymddygiad, penaethiaid blynyddoedd 7-11, dau swyddog lles, swyddog cymorth cyntaf corfforol a meddyliol a swyddog gweinyddol. Rhyngddynt, maent yn cydweithio i sicrhau gofal ac arweiniad i bob disgybl. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys sesiynau un i un i’r disgyblion mwyaf bregus, sesiynau galw i mewn, sesiynau grŵp a sesiynau cymorth gan asiantaethau allanol. 

Mae’r Hwb Dysgu yn hafan y gall disgyblion o bob oed ddod i weithio ynddi. Mae gofod i ddosbarthiadau cyfan yng nghanol yr hafan ac o amgylch yr ochrau mae ‘pods’ gwaith o amrywiol feintiau sy’n ddelfrydol ar gyfer astudio annibynnol, grwpiau ymyrraeth, gweithdai addysgol a chlybiau amser cinio. Mae tîm yr Hwb Dysgu’n cynnwys pennaeth cynorthwyol dysgu ac addysgu, pennaeth cynorthwyol asesu a Chynnydd, dau gydlynydd cynnydd, dau fentor dysgu a’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol. Drwy wefan yr Hwb Dysgu, gall ddisgyblion hunan-gyfeirio am gymorth academaidd cyffredinol neu bwnc penodol. Gall staff a rhieni gyfeirio disgyblion yn yr un modd ac mae tîm yr Hwb Dysgu’n cyfarfod yn wythnosol i drafod y cyfeiriadau a threfnu ymyrraeth bwrpasol. Gall hyn gynnwys sesiynau mentora, ymyrraeth gan adran benodol neu gymorth i ddal fyny gyda gwaith coll. Law yn llaw â’r ganolfan, sefydlwyd gwefan yr Hwb Dysgu sy’n cynnig cyfoeth o adnoddau i gynorthwyo disgyblion gyda’u gwaith ysgol ac annog dysgu annibynnol. Mae ynddi adran i rieni hefyd i gynnig arweiniad ar gefnogi plant ac adran i athrawon rannu arfer dda o ran dysgu ac addysgu.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae gwaith yr Hwb Bugeiliol yn cyfrannu at sicrhau bod gan y disgyblion agweddau iach at ddysgu a’u bod yn ymddwyn a pharch tuag at ei gilydd. Mae’r gefnogaeth a roddir i’r disgyblion mwyaf bregus yn golygu bod pob disgybl yn llwyddo i barhau a’u haddysg tan ddiwedd Blwyddyn 11. Yn ogystal â chreu amserlen wedi’i theilwra i amgylchiadau’r unigolyn, mae’r cymorth ac arweiniad a roddir i ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol dwys yn un o’r rhesymau nad yw’r ysgol wedi gorfod gwahardd disgybl yn barhaol ers sefydlu’r Hwb Bugeiliol. Mae cyfradd presenoldeb yr ysgol yn gyson uwch na’r canran cenedlaethol.

Ers ei sefydlu, mae’r Hwb Dysgu wedi ymdrin â channoedd o gyfeiriadau gan ddisgyblion, staff a rhieni ac mae hyn wedi arwain at gynnydd academaidd pendant yn achos sawl disgybl. Gwelwyd cynnydd pwnc penodol gan rai disgyblion yn dilyn ymyrraeth tra bod eraill wedi gwneud cynnydd cyffredinol yn dilyn sesiynau mentora. Mae’r Hwb Dysgu wedi datblygu i fod yn ganolfan ddysgu effeithiol gyda gweithdai a chlybiau – sawl un ohonynt wedi’u trefnu gan y dysgwyr eu hunain – yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog i ddisgyblion o bob oed a phob gallu. Rhwng y ganolfan a’r wefan bwrpasol, mae’r ysgol yn gallu rhoi pwyslais cynyddol ar feithrin dysgwyr annibynnol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Adnabod gwaith yr Hwb Bugeiliol fel arfer dda a arweiniodd at sefydlu ail hwb yn yr ysgol, sef yr Hwb Dysgu. Bellach, mae arweinwyr yn cydweithio er mwyn sicrhau bod arfer dda yn y naill hwb yn dylanwadu ar effeithiolrwydd y llall. Er enghraifft, mae gwefan yr Hwb Dysgu, sy’n cynnwys toreth o adnoddau i gefnogi dysgu a ffurflen gyfeirio syml at ddefnydd dysgwyr, staff a rhieni wedi cael ei hadnabod fel arfer dda y gall yr Hwb Bugeiliol ei hefelychu. Mae disgyblion a rhieni yn cael cyfle i ymweld â’r ddau hwb mewn nosweithiau agored. Mae gwefan yr ysgol yn cynnwys llawer o wybodaeth a chyswllt i wefan yr Hwb Dysgu ac rydym wrthi’n creu gwefan debyg ar gyfer yr Hwb Bugeiliol. Mae’r ysgol yn croesawu ymwelwyr o sefydliadau dysgu eraill i ddod i weld y ddau hwb ar waith.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Dan y Coed yn ysgol arbennig annibynnol sydd wedi’i lleoli yn ardal West Cross yn Abertawe. Mae’r ysgol mewn eiddo mawr ar wahân gyda mynediad hawdd at forlin Y Mwmbwls a dinas Abertawe. Mae’r ysgol yn rhannu’r safle â’i darpariaeth breswyl, sy’n darparu llety 52 wythnos a agorwyd ym mis Mai 2019.

Ar hyn o bryd, mae 26 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol. Mae gan yr ysgol bump o athrawon dosbarth, chwech o gynorthwywyr cymorth dysgu arweiniol a 21 o gynorthwywyr cymorth dysgu. Yn ychwanegol, mae gweithwyr gofal o’r lleoliad preswyl yn cynorthwyo plant mewn gwersi a gweithgareddau yn ôl yr angen. Mae tîm clinigol, sy’n cynnwys therapydd lleferydd ac iaith a therapydd galwedigaethol, yn cefnogi’r tîm addysg. 

Nod yr ysgol yw ‘darparu amgylchedd ysgol diogel a chadarn sy’n annog unigoliaeth, hyder a hunan-barch’.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Dan y Coed yn dilyn cwricwlwm wedi’i seilio ar fedrau, sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol pob disgybl. O ystyried yr amrywiaeth eang o anghenion a galluoedd disgyblion, roedd angen i’r ysgol sicrhau bod pob cam bach o gynnydd yn cael ei gofnodi ar gyfer pob un o’r disgyblion, beth bynnag fo lefel eu gallu, eu harddull cyfathrebu a’u ffafriaeth o ran dysgu. Roedd angen i’r system asesu gofnodi cynnydd o fewn gwersi, yn ystod adegau cymdeithasol ac wrth ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Roedd angen iddi fod yn berthnasol i’r disgyblion sydd â’r anawsterau cyfathrebu mwyaf, yn ogystal â’r disgyblion hynny sy’n astudio cymwysterau. Roedd angen i’r system grynhoi’r cynnydd a’r effaith trwy gydol taith pob disgybl yn Ysgol Dan y Coed, yn ogystal â darparu data ysgol gyfan a allai ddylanwadu ar ddylunio’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol a strategaethau addysgu arloesol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Nod strategaeth asesu’r ysgol yw cofnodi gwybodaeth werthfawr yn gyson am gamau bach mewn cynnydd. Mae’r ‘continwwm cyflawniad’ yn ymwneud ag unrhyw fedr a maes pwnc. O ganlyniad, caiff camau cynnydd bach eu nodi’n gyson ar draws y cwricwlwm ac mewn meysydd medrau sy’n bwysig i ddisgyblion yn unol â’u hanghenion a’u galluoedd ychwanegol. Mae’r continwwm yn cynnwys 10 lefel o gynnydd sy’n amrywio o ddod ar draws rhywbeth, diddordeb, atgyfnerthu i gymhwyso. Mae’r continwwm graddedig yn galluogi athrawon i ddarparu ymyriadau a strategaethau addysgu penodol sy’n galluogi disgyblion i symud i fyny’r continwwm hyd nes y gallant feistroli pob medr yn annibynnol yn llwyddiannus.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae safonau ar draws yr ysgol wedi gwella. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi gwneud cynnydd effeithiol ar draws holl feysydd y cwricwlwm yn gysylltiedig â meysydd angen unigol fel annibyniaeth, medrau cymdeithasol a medrau bywyd. Gall disgyblion drosglwyddo medrau o un lleoliad i un arall a chymhwyso’r rhain i ddatblygu medrau pellach o ran eu hanghenion dysgu ychwanegol. O ganlyniad i olrhain yn agos a chofnodi camau cynnydd bach, mae addysgu ar draws yr ysgol yn effeithiol ac ymyriadau addysgu creadigol yn cefnogi datblygiad yn barhaus. Mae cynnydd cryf disgyblion mewn rhai achosion wedi eu galluogi i ddychwelyd i ysgol brif ffrwd, gan elwa ar y cwricwlwm llawn ar ôl blynyddoedd allan o addysg brif ffrwd. Mae llawer o ddisgyblion wedi ennill cymwysterau sy’n briodol i’w cyrchfannau yn y dyfodol. Mae llawer o ddisgyblion sydd wedi gadael Dan y Coed wedi symud ymlaen i leoliadau addysg bellach llwyddiannus neu leoliadau addysg amgen. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae cofnodi camau cynnydd bach ar draws y cwricwlwm wedi cael effaith aruthrol ar gymhelliant a chynnydd disgyblion a’r cynllunio ar gyfer y camau nesaf yn nhaith pob disgybl. Mae Dan y Coed wedi gallu rhannu’r ffordd hon o asesu gyda’r ysgolion eraill o fewn grŵp Orbis, i’w cynorthwyo i asesu camau cynnydd bach ar gyfer pob disgybl ar draws llawer o wahanol gwricwla a phrofiadau dysgu. Yn ei dro, mae hyn wedi galluogi lleoliadau eraill i ddatblygu a gweithredu ymagweddau effeithiol at asesu, cynllunio ac olrhain cynnydd ar lefel unigol ac ysgol gyfan. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Caer Elen yn ysgol bob-oed Gymraeg 3-16 a sefydlwyd yn nhref Hwlffordd yn Ne Sir Benfro yn 2018. Erbyn hyn mae 840 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 93% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim yw 9.88% ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac mae 13% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a thri uwch athro.   

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Gan fod yr ysgol wedi ei lleoli yn Ne Sir Benfro mae canran uchel iawn o’r disgyblion yn dechrau’r ysgol yn y meithrin a’r derbyn heb unrhyw gaffael ar yr iaith Gymraeg. Maent yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Mae’r ysgol am sicrhau bod disgyblion yn hyddysg ac yn hyderus yn eu defnydd o’r Gymraeg erbyn iddynt gyrraedd

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y coleg

Mae Beechwood College yn goleg arbenigol annibynnol ac yn gartref gofal yn Sili, Bro Morgannwg. Mae’r coleg wedi’i berchen gan Beechwood Court Ltd, sy’n rhan o Ludlow Street Healthcare, sydd wedi’i berchen gan Ancala partners.

Mae’r coleg yn cynnig lleoliadau dydd a phreswyl i ddysgwyr 16 oed a hŷn sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ac sydd, o bosibl, ag anghenion sy’n gysylltiedig â chyflyrau’r sbectrwm awtistig. Mae tir y coleg yn cynnwys gard

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Caer Elen yn ysgol bob-oed Gymraeg 3-16 a sefydlwyd yn nhref Hwlffordd yn Ne Sir Benfro yn 2018. Erbyn hyn mae 840 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 93% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim yw 9.88% ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac mae 13% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a thri uwch athro. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn hollol ymrwymedig i gyflwyno egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus gan ganiatáu i bob disgybl gyrraedd ei wir botensial yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn bersonol mewn cymuned gartrefol Gymreig. Bydd disgyblion yr ysgol yn meddu ar sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd uchel a fydd yn sicrhau

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae National Star in Wales yn goleg addysg bellach arbenigol dibreswyl sydd wedi’i leoli ym Mamhilad, ger Pont-y-pŵl, sy’n darparu addysg, medrau bywyd, therapïau a gofal dros flwyddyn academaidd 38 wythnos. Mae’r cwricwlwm yn cynnig llwybrau dysgu personoledig gyda nodau ar gyfer dysgu ac annibyniaeth. Cenhadaeth y coleg yw ‘galluogi pobl ag anableddau i gyflawni eu  potensial trwy wasanaethau personoledig o ran dysgu, pontio a chyrchfan’.  

Mae gan bob un o’r dysgwyr raglen bersonoledig, sydd wedi’i chynllunio i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyheadau. 
I lawer o fyfyrwyr, National Star yw’r garreg gamu olaf ar eu taith addysg, ac mae’r llwybrau cwricwlwm yn sicrhau ffocws ar fyfyrwyr yn datblygu’r medrau a’r wybodaeth a fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar gyflawni deilliannau cynaliadwy a’r cyfnod pontio o’r coleg. 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Cydnabu arweinwyr yn National Star in Wales nad oedd dysgwyr yn cael cyfleoedd wedi’u gwreiddio’n briodol i fewnbynnu i benderfyniadau o ddydd i ddydd, ac agweddau tymor hwy ar gynnal y coleg. Er mwyn darparu’r cyfleoedd hyn, rhoddodd tiwtoriaid nifer o strategaethau ar waith i annog dysgwyr i gael dweud eu dweud a datblygu eu hannibyniaeth.

Mae gwaith y coleg yn y maes hwn wedi eu cynorthwyo ymhellach i gyflawni eu gweledigaeth i gael “byd lle gall pobl ag anableddau gyflawni eu potensial fel dinasyddion cyfartal a gweithredol sydd â rheolaeth dros eu bywydau”. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae National Star in Wales yn mabwysiadu ymagwedd amlweddog at hunaneirioli, sy’n dechrau yn ystod y cam asesu cychwynnol wrth gyfeirio dysgwyr i’r coleg, ac yn parhau trwy eu cyfnod pontio parhaus.

Asesiad cyn-dechrau
Trwy gyfarfodydd asesu cychwynnol, mae tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys rheolwyr y cwricwlwm a rheolwyr gwasanaethau a’r tîm therapiwtig yn cyfarfod â’r dysgwr, ynghyd â’i rieni a’i ofalwyr, er mwyn ffurfio darlun clir o anghenion dysgwyr, eu ffafriaethau, eu lefelau cyrhaeddiad presennol a’u dyheadau yn y dyfodol. Mewn achosion lle mae gan ddysgwyr anghenion iechyd cymhleth, mae tîm y coleg yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol i sicrhau bod cynlluniau’n cael eu creu i uchafu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr yn y coleg. 

Cynlluniau gofal ac asesiadau risg
Yn dilyn y cyfarfod cychwynnol, caiff cynlluniau gofal drafft ac asesiadau risg unigol eu datblygu. Er mwyn galluogi dysgwyr i gyfrannu’n ystyrlon at eu cynlluniau gofal, cânt eu rhannu â dysgwyr yn unigol, gan ddefnyddio’u dull cyfathrebu ffafriedig. Mae’r cynlluniau gofal a’r asesiadau risg yn amlinellu lefel uchel y gofal a’r cymorth y dylai dysgwyr ei disgwyl yn y coleg ac yn y gymuned ehangach i’w helpu i gadw’n ddiogel a chefnogi annibyniaeth. Mae’r staff sy’n gweithio trwy’r cynlluniau gyda dysgwyr yn gofyn iddynt gydsynio i bob elfen. Caiff y cynlluniau hyn eu hadolygu gyda’r dysgwr bob tymor, ac mae’r dysgwyr yn eu cymeradwyo bob tro â llofnod, ffotograff neu stamp. 

Meithrin dewis 
Mae arweinwyr a thiwtoriaid yn y coleg yn darparu cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr wneud dewisiadau a chyfarwyddo eu gofal eu hunain cymaint ag y bo modd. Gofynnir i ddysgwyr gydsynio i bob elfen o’u gofal a gwneud dewisiadau amdanynt, er enghraifft cydsynio i drefn y gofal ei hun, yr aelod staff yn cynorthwyo, y cynhyrchion a ddefnyddir ac opsiynau dillad. 

Adolygiadau yn canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae National Star in Wales yn dilyn ymagwedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn at adolygiadau. Rhoddir cyfleoedd i ddysgwyr lenwi holiadur cyn-adolygiad, gan ddefnyddio’r dull cyfathrebu y maent yn ei ffafrio, i gofnodi’r hyn sy’n mynd yn dda a beth y gellid ei wneud yn well, yn y coleg ac yn y cartref, ac o ran ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol allanol. Gofynnir i ddysgwyr roi diweddariad ar eu dyheadau yn y dyfodol hefyd i sicrhau bod y coleg ac asiantaethau eraill yn gweithio tuag at ffafriaethau’r dysgwyr. 

Senedd Myfyrwyr
Yn ddiweddar, mae’r coleg wedi ffurfio Senedd Myfyrwyr gyda dysgwyr sy’n awyddus i gyflawni dyletswyddau yn rolau cynrychiolwyr. Gan fod dysgwyr yn gyfrifol am feysydd amlwg ar draws cymuned y coleg, bydd penderfyniadau sy’n cael eu gwneud trwy’r Senedd Myfyrwyr yn cael effaith weladwy, gan atgyfnerthu ymhellach fod eu lleisiau a’u dewisiadau yn achosi newid. 

Ymlacio a sgwrsio
Gellir dadlau mai un o’r agweddau mwyaf effeithiol ar ddulliau hunaneirioli’r coleg yw ‘Ymlacio a Sgwrsio’ (‘Chill and Chat’). Mae’r rhain yn sesiynau anffurfiol a gynhelir gan arweinydd diogelu’r coleg. Cynhelir y rhain yn ystod amser cinio, ac mae’r arweinydd diogelu yn treulio amser gyda phob dysgwr ar draws y coleg i wneud yn siŵr eu bod yn iawn. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i’r arweinydd diogelu wirio dealltwriaeth dysgwyr o ddiogelu a gallant siarad ag ef i godi unrhyw bryderon. Caiff adborth o’r sesiwn ei ledaenu ar draws y tîm staff cyfan, i rannu meysydd i’w datblygu y gellir eu hatgyfnerthu, ac i lywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol yn ogystal. 

Cyfryngu cyfoedion
Yn unol â’r rhan fwyaf o leoliadau, ceir gwrthdaro rhwng cyfoedion, weithiau. Yn National Star in Wales, caiff dysgwyr eu hannog i hunaneirioli cymaint ag y bo modd pan fydd y senarios hyn yn digwydd. Er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu medrau o fewn datrys anghydfod, mae’r coleg yn mabwysiadu dull cyfryngu cyfoedion. Gofynnir i ddysgwyr gydsynio i’r cyfarfod ac fe gânt eu briffio am y strwythur a beth i’w ddisgwyl cyn mynychu. Yn ystod y cyfarfod, mae cyfryngwr diduedd yn gofyn i bob un o’r dysgwyr dan sylw rannu beth ddigwyddodd a sut gwnaeth iddyn nhw deimlo. Wedyn, gofynnir i ddysgwyr awgrymu atebion i osgoi gwrthdaro yn y dyfodol, cyn gwerthuso’r atebion a awgrymwyd, a chytuno iddynt ar y ddwy ochr. Rhennir deilliannau’r cyfarfod gyda’r tîm staff cyfan i’w galluogi i gynorthwyo dysgwyr i ddilyn eu hatebion cytunedig trwy fodelu.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae gan y coleg brosesau pontio effeithiol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr ar waith. Mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel yn y coleg o ganlyniad i staff yn defnyddio dull unigoledig, gan sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu’n effeithiol. O ganlyniad, mae dysgwyr yn cyrraedd y coleg yn teimlo bod croeso iddynt, a bod pobl yn eu deall, ac maent yn ymgyfarwyddo â bywyd coleg yn gyflym.

Mae staff y coleg yn defnyddio gwybodaeth o’r asesiadau therapiwtig a’r trefniadau pontio i greu cynlluniau gofal a chymorth cynhwysfawr ar gyfer pob un o’r dysgwyr. Mae’r cynlluniau manwl a phersonoledig hyn yn darparu gwybodaeth fuddiol i gefnogi anghenion dysgwyr tra’n cynnal eu hannibyniaeth, ac yn datblygu medrau pwysig. Mae cynlluniau’n cynnwys ymatebion wedi’u sgriptio i staff eu defnyddio pan fydd dysgwyr yn teimlo’n orbryderus. O ganlyniad, mae dysgwyr yn dysgu rheoli eu hymddygiadau a’u hemosiynau eu hunain yn dda.

Mae’r coleg yn hyrwyddo diwylliant cadarn o ddiogelu dan arweiniad staff profiadol. Mae’r coleg yn hynod effeithiol yn galluogi dysgwyr i gael cyfleoedd gwerthfawr i wneud eu cyfraniad eu hunain at drefniadau i’w cadw’n ddiogel, er enghraifft wrth ysgrifennu asesiadau risg ar gyfer ymweliadau y tu allan i’r coleg, neu i gefnogi eu cyfle i elwa ar leoliadau profiad gwaith. Mae sesiynau wythnosol gyda chydlynydd diogelu’r coleg yn galluogi dysgwyr i archwilio agweddau ar ddiogelu mewn ffyrdd sy’n ymwneud â nhw yn uniongyrchol, a nodi eu strategaethau eu hunain i’w cadw eu hunain yn ddiogel. Mae’r pwyslais buddiol hwn yn cryfhau dealltwriaeth dysgwyr o’r materion pwysig hyn ac yn cefnogi datblygiad eu medrau hunaneirioli eu hunain. 
Mae llais y dysgwr wedi cael effaith lwyddiannus ar waith y coleg. Mae dysgwyr yn cyfrannu’n ystyrlon at ystod o gyfarfodydd sy’n eu cynnwys. Caiff bron pob un o’r dysgwyr gyfleoedd buddiol yn y sesiynau “Ymlacio a Sgwrsio” wythnosol i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd yn y coleg. Mae dysgwyr yn falch o’u gwahanol rolau yn Senedd y Coleg ac yn cyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau yn angerddol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Information about the schoo

Llwydcoed Primary School is an English-medium primary school situated in the village of Llwydcoed, near Aberdare, in Rhondda Cynon Taf local authority. The school has 125 pupils from the ages of 3 to 11 organised into five mixed-age classes. The school provides full time nursery provision from the September following the child’s third birthday. Approximately 3% are identified as having additional learning needs and all pupils use English as their first language. Twenty-nine per cent of pupils are eligible to receive free school meals. This figure has increased significantly since the pandemic. 

Context and background to the effective or innovative practice

The pandemic had a significant impact on the well-being and finances of the school’s families. The number of pupils in the school who are eligible for free school meals saw a sharp increase. For this reason, the school engaged in work with the Child Poverty Action Gr

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Information about the schooGwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Llangefni yn ysgol uwchradd ddwyieithog i ddisgyblion 11 i 18 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Ynys Môn. Lleolir yr ysgol yn nhref Llangefni yng nghanol Ynys Môn ac mae’n ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf. 

Mae 719 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 91 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Mae 78.5% yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yw rhyw 18.9%, ar gyfartaledd. Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol parhaol a dau bennaeth cynorthwyol dros dro.
 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

A hithau’n ysgol arloesi ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, mae’r ysgol wedi cymryd rhan yn y paratoadau ar gyfer cyflwyno fframwaith newydd y cwricwlwm ers y dechrau. Mae’r ysgol wedi bod yn dylunio, gweithredu a mireinio model ei chwricwlwm Blwyddyn 7 dros gyfnod estynedig i sicrhau ei fod yn bodloni anghenion disgyblion, yn mynd i’r afael â gofynion y fframwaith, ac yn sicrhau bod y pedwar diben yn cael eu gwireddu.  

Rhan arwyddocaol o’r paratoadau hyn fu datblygu cwricwlwm awyr agored Blwyddyn 7. Mae’r ysgol yn ffodus ei bod yn sefyll ar ryw 20 erw o dir, gan gynnwys darn o dir segur a fu unwaith yn gae pêl-droed tuag un erw. Yn dilyn cyfnodau clo, ynghyd â chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, nododd arweinwyr fod angen rhoi cyfle i’r disgyblion ddilyn cwricwlwm lleol lle y mae astudio yn yr awyr agored yn rhan annatod o’r ddarpariaeth i ddisgyblion Blwyddyn 7.  

O dan faes dysgu a phrofiad iechyd a lles, mae’r ysgol wedi creu model o gwricwlwm sy’n cynnwys gwersi addysg gorfforol, addysg awyr agored, iechyd, lles a garddio. Y cyfleoedd hyn sydd wedi arwain at ystod fwyfwy eang o brofiadau cwricwlaidd sydd wedi ehangu gorwelion disgyblion trwy gwricwlwm sy’n gosod eu hanghenion yn ganolog i’w dysgu.  
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Trwy weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a warden yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Leol, mae’r ardd wedi datblygu’n adnodd pwysig i’r ysgol. Mae trefn yr ardd yn seiliedig ar ddyluniad gan grŵp o ddisgyblion blwyddyn 7 o’r flwyddyn academaidd gynt, a gymerodd ran mewn cystadleuaeth i greu dyluniad yr ardd gymunedol. Yna, dewiswyd y dyluniad buddugol gan brif ddisgyblion yr ysgol ac mae’r ardd bellach yn ymsefydlu ar sail y dyluniad hwnnw. Mae’r ardd yn cynnwys dros erw o dir ac mae wedi’i threfnu mewn ardaloedd penodol: ardal dyfu, ardal gardd synhwyraidd, ardal dôl, ardal bywyd gwyllt a micro fforest, lle mae’r disgyblion wedi plannu dros 500 o goed. Mae’r holl waith a wnaed hyd yn hyn wedi’i gwblhau gan y disgyblion eu hunain ac mae’n gwbl hygyrch i bawb, gan gynnwys ardal â gwelyau uchel sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn.

Mae’r cwricwlwm wedi’i fapio’n ofalus i sicrhau bod disgyblion yn cynyddu’u gwybodaeth ac yn datblygu medrau perthnasol tra byddant yn cymryd rhan yn eu gwers arddio wythnosol. Mae’r gwersi’n cyflwyno disgyblion i arddio ac yn caniatáu cyfle i ddatblygu medrau ymarferol. Mae disgyblion sy’n meddu eisoes ar rywfaint o wybodaeth a phrofiad o arddio o’r ysgol gynradd neu gartref yn cael rolau blaenllaw yn y gwaith i’w gwblhau. Mae hyn wedi bod yn arbennig o effeithiol i’r disgyblion hynny sy’n ei chael hi’n anodd yn yr ystafell ddosbarth ond sy’n cael cyfle i ddisgleirio yn y gwersi awyr agored. Mae’r gwersi’n dechrau gyda chyflwyniad i’r offer gwahanol a ddefnyddir i arddio a thechnegau sylfaenol ar gyfer plannu a gofalu am blanhigion. Yna, mae’r myfyrwyr yn symud ymlaen i blannu, gofalu am eu cnydau eu hunain, a’u cynaeafu. Cânt eu hannog i gydweithio fel tîm ac i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau.  

Mae’r gwersi garddio’n ffordd fuddiol i’r disgyblion ddysgu am hanfodion garddio a garddwriaeth. Trwy weithgareddau a hyfforddiant ymarferol, mae’r disgyblion yn dysgu amrywiaeth o fedrau, o adnabod a gofalu am blanhigion i brofi’r pridd a chompostio. Mewn gwers arddio nodweddiadol, mae disgyblion yn dechrau trwy ddysgu am y gwahanol blanhigion a’u hanghenion, fel gofynion am heulwen a phridd. Ar ôl dysgu am yr hanfodion, mae disgyblion wedyn yn symud ymlaen i bynciau mwy datblygedig, fel tocio, plannu a chynaeafu. Yn ogystal â dysgu’r agweddau technegol ar arddio, mae disgyblion hefyd yn ennill gwell dealltwriaeth o’r ffordd y mae planhigion yn rhyngweithio â’u hamgylchedd. Maent yn dysgu sut i adnabod pryfed buddiol, ynghyd â sut i ddelio â phlâu. Hefyd, mae disgyblion yn dysgu am bwysigrwydd cadwraeth dŵr a sut i greu gerddi cynaliadwy. 

Rhan o’r cytundeb ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yw bod yr ardd yn anelu at fod yn garbon niwtral, sy’n golygu bod y disgyblion wedi bod yn dysgu am effaith y newid yn yr hinsawdd a sut i fyw’n gynaliadwy a ‘lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu’, lle y bo’n bosibl. Mae’r esgidiau glaw y mae’r disgyblion yn eu gwisgo yn ystod pob gwers yn rhai ail-law ac fe’u rhoddwyd gan rieni/gwarcheidwaid a phobl o’r gymuned leol. Yn unol â’r nod o fod yn garbon niwtral, crëwyd llwybr yr ardd gan ddefnyddio graean yn lle tarmac ac mae’r pridd a symudwyd wedi’i ailddefnyddio at ddiben plannu. Mae disgyblion wedi creu gwelyau plannu o deiars ac mae blychau adar a blychau bwydo adar a wnaed gartref wedi’u gosod o gwmpas yr ardd, y mae’r disgyblion yn gofalu amdanynt. 

Mae gwersi garddio’n digwydd boed law neu hindda gan fod cynlluniau dysgu ar waith ar gyfer diwrnodau ‘tywydd gwlyb’ hefyd. Mae disgyblion yn cael cyfle i ddatblygu’u medrau trawsgwricwlaidd yn ystod gwersi dan do sy’n canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, pan fyddant yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys ymchwil i gnydau, datblygu geirfa, llythrennedd ariannol a phlannu dan do. Mae disgyblion wedi plannu blodau i fynd â nhw gartref i’w teulu a rhoddodd yr ysgol goeden i bob teulu Blwyddyn 7 ei phlannu yn eu gardd eu hunain, gan greu cysylltiadau teuluol cadarn gan fod y disgyblion yn awyddus i rannu’r hyn y buont yn ei wneud yn yr ysgol.

Gan fod yr ardd yn adnodd sy’n esblygu drwy’r amser yn yr ysgol, mae cynllunio at y dyfodol yn cynnwys integreiddio a gwreiddio garddio ymhellach yng nghwricwlwm yr ysgol. Mae arweinwyr yn awyddus i grwpiau blwyddyn eraill gael y cyfleoedd a gafodd disgyblion Blwyddyn 7. Bydd ardal yr ardd synhwyraidd yn cefnogi lles ac iechyd meddwl disgyblion, ynghyd â chynnig cyfleoedd cwricwlaidd pwrpasol i’r disgyblion hynny a fyddai’n elwa’n enfawr o dreulio amser yn yr awyr agored, ym myd natur. Er mwyn hwyluso hyn, mae’r cynlluniau’n cynnwys creu mwy o welyau uchel a thyfu amrywiaeth ehangach o blanhigion a llysiau, ynghyd â chyflwyno rhaglenni addysgol fel cylchdroi cnydau, tyfu mewn twneli polythen a chompostio. Bydd yr ardd yn lle i ddisgyblion ddysgu am dwf planhigion a phwysigrwydd amaeth gynaliadwy. Bydd yr ardd yn cael ei defnyddio hefyd i addysgu’r disgyblion am faeth a gwyddor bwyd.  
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r ardd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddarpariaeth a safonau disgyblion yn yr ysgol. Mae’r ardd wedi darparu man dysgu creadigol i ddisgyblion archwilio a darganfod cysyniadau, syniadau a gwybodaeth newydd. Hefyd, mae wedi galluogi disgyblion i ddatblygu’u medrau cyfathrebu a chydweithredu wrth iddynt gydweithio yn yr ardd. Yn ogystal, mae’r ardd wedi rhoi lle i ddisgyblion fod y tu allan a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar les meddyliol a chorfforol y disgyblion.  At hynny, mae’r ardd wedi galluogi disgyblion i gysylltu â natur, sy’n gallu gwella canolbwyntio, perfformiad academaidd ac iechyd corfforol cyffredinol disgyblion, fel y mae ymchwil yn ei ddangos. 

Mae’r disgyblion yn ymddiddori’n fawr yn y gwersi garddio. Maent wedi’u cymell i ddysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel plannu hadau a llysiau, chwynnu a dyfrhau. Maent wedi datblygu ymdeimlad o falchder a llwyddiant trwy wylio’u planhigion yn tyfu a ffynnu, ynghyd â gweld yr ardd yn dod at ei gilydd. Mae gwersi garddio hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ddysgu am yr amgylchedd, natur a phwysigrwydd cynaliadwyedd. Mae’r gwersi garddio wedi helpu disgyblion i ddatblygu’u medrau datrys problemau a gweithio mewn tîm, ynghyd â’u hamynedd, eu gwydnwch a’u hunanddisgyblaeth. Trwy weithio i greu’r ardd, mae’r disgyblion wedi dysgu cydweithredu a gwerthfawrogant bwysigrwydd cydweithio i gyflawni nod cyffredin. 
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol wedi rhannu ei harfer gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru sydd wedi hyrwyddo’r gwaith a wnaed gan y disgyblion yn ystod diwrnodau agored a digwyddiadau lleol. Bydd yr ysgol yn cynnal diwrnod agored i’r gymuned, gan wahodd y gymuned leol yno. Y bwriad yw ymgysylltu â’r gymuned a’u hannog i weithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yng ngardd yr ysgol ar benwythnosau. Hefyd, mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda’i hysgolion cynradd partner i gynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddod i’r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ardd. Ar hyn o bryd, mae disgyblion Blwyddyn 6 ag ADY wedi bod yn dod i wersi garddio Blwyddyn 7 i ymgyfarwyddo â’r ysgol, gan roi cyfle iddynt oresgyn unrhyw ofnau trwy dreulio amser gyda staff a disgyblion Ysgol Gyfun Llangefni yng ngofod diogel gardd gymunedol yr ysgol. 
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Caer Elen yn ysgol bob-oed Gymraeg 3-16 a sefydlwyd yn nhref Hwlffordd yn Ne Sir Benfro yn 2018. Erbyn hyn mae 840 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 93% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim yw 9.88% ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac mae 13% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a thri uwch athro. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn hollol ymrwymedig i gyflwyno egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus gan ganiatáu i bob disgybl gyrraedd ei wir botensial yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn bersonol mewn cymuned gartrefol Gymreig. Bydd disgyblion yr ysgol yn meddu ar sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd uchel a fydd yn sicrhau eu bod yn ffynnu. Er mwyn gwireddu’r amcanion yma mae ffocws parhaol ar greu continwwm effeithiol o safbwynt hyrwyddo’r medrau ar draws yr ysgol. Creïr diwylliant lle mae athrawon yn deall eu cyfrifoldebau o safbwynt datblygu’r medrau. Maent yn sicrhau bod y cynllunio, yr addysgeg, y gwerthuso a’r asesu yn yr ysgol yn helpu disgyblion i wneud cynnydd yn y medrau.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Ar lefel  strategol mae datblygu’r medrau yn flaenoriaeth yn y cynllun gwella ysgol ac yn flaenoriaeth yng nghynlluniau gwella arweinwyr y meysydd dysgu a phrofiad. Mae cynlluniau gwella’r medrau wedi eu halinio’n ofalus â chynlluniau eraill er mwyn sicrhau bod cysondeb yn y modd mae arweinwyr yn gweithredu wrth ddarparu ac asesu’r medrau a bod llinellau atebolrwydd eglur. Mae’r cynlluniau yn cynnwys meini prawf llwyddiant a chyfleoedd cyson i werthuso cynnydd ac effaith. Cydweithia arweinwyr y medrau yn fwriadus â’r athrawon a’r staff cymorth er mwyn cyd gynllunio strategaethau a fydd yn datblygu’r medrau mewn modd cydlynol. 

Mae’r model ar gyfer sut mae’r cymunedau dysgu proffesiynol yn yr ysgol yn gweithredu wedi cael eu strwythuro’n ofalus. Mae’n caniatáu i athrawon a staff cymorth o’r cynradd a’r uwchradd gyd-weithio i ddatblygu dealltwriaeth gadarn a chytûn o’r ffordd mae disgyblion yn datblygu eu hyfedredd yn y medrau o’r meithrin i fyny. Fel rhan o gylch gorchwyl y cymunedau dysgu proffesiynol, mae’n ofynnol i’r staff gwblhau ymchwil gweithredol yn seiliedig ar sut i ddatblygu’r medrau yn effeithiol. Maent hefyd yn cwblhau teithiau dysgu a phrosesau craffu ar y cyd er mwyn deall y daith ddysgu mewn cyd destun ysgol pob oed. Yn ogystal, er mwyn sicrhau cysondeb, mae athrawon a staff cymorth ar draws y camau cynnydd yn cael eu hysgogi i ystyried yn ofalus sut mae’r addysgeg a’r tasgau dysgu sydd yn cael eu cymhwyso yn y dosbarth yn caniatáu i bob disgybl i wneud cynnydd yn y medrau. 

Rhennir tystiolaeth ac enghreifftiau o waith disgyblion ar wefan arbennig sydd wedi ei chreu yn benodol ar gyfer y medrau. Mae’r adnodd hwn yn caniatáu i athrawon i werthuso’r ddarpariaeth, i rannu arfer dda a hefyd i ddatblygu dealltwriaeth o ddatblygiad a chynnydd y dysgwr modd soffistigedig.  Mae’r wefan hefyd yn caniatáu i’r athrawon i gael mwy o ymreolaeth i asesu cynnydd disgyblion. Cynigia’r polisi marcio ac adborth ysgol gyfan arweiniad i’r athrawon ynglŷn â sut i gyflwyno sylwadau sydd yn annog disgyblion i fyfyrio ar eu medrau a sut i wneud cynnydd pellach.  Mae rhannu enghreifftiau o adborth effeithiol yn elfen allweddol o’r polisi.

Defnyddir ystod eang o ddata ansoddol a meintiol  mewn modd deallus er mwyn llunio rhaglenni ymyrraeth pwrpasol i gynnig cefnogaeth bellach i unigolion neu grwpiau o ddisgyblion. Mae athrawon a staff cymorth yn dilyn amserlen sydd wedi’i  llunio’n ofalus er mwyn darparu sesiynau mewn modd hylaw ac effeithiol. Mae disgyblion hŷn yr ysgol yn cynorthwyo’r disgyblion iau yn ystod sesiynau mentora strwythuredig.  

Mae athrawon wedi canolbwyntio ar greu amgylchedd ddysgu ar draws yr ysgol sydd yn sicrhau bod disgyblion yn gwerthuso eu cynnydd yn y medrau yn hyderus ac yn llwyddiannus. Mae’r athrawon yn  cynorthwyo’r broses o wneud hyn trwy sicrhau bod ieithwedd a chanllawiau sydd yn gysylltiedig â hunan werthuso pwrpasol yn weladwy ym mhob ystafell ddysgu. Mae ardaloedd dysgu megis Lloches Llythrennedd, Den Digidol a Rhanbarth Rhifedd yn sbarduno diddordeb a chwilfrydedd y dysgwyr. Cynigir amryw o glybiau allgyrsiol megis Clwb Codio, Clwb Darllen, Clwb Rhifedd sydd yn cynnig cyfleoedd i’r dysgwyr i fireinio a chymhwyso eu medrau mewn cyd destun anffurfiol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r cyd gynllunio bwriadus mae continwwm clir o safbwynt darpariaeth ar gyfer datblygu’r medrau. Mae athrawon a staff cymorth yn deall eu cyfrifoldebau wrth iddynt ganolbwyntio ar ddatblygu medrau rhifedd, llythrennedd a digidol disgyblion Mae’r cyfleoedd mae’r ysgol yn cynnig i athrawon i arsylwi’r ddarpariaeth a’r addysgeg ac i graffu ar waith ar draws yr ystod oedran yn sicrhau bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn o’r dulliau mwyaf effeithiol o ddatblygu’r medrau. Mae ganddynt hefyd ffocws clir ynglŷn â beth sydd angen ei wneud i sicrhau cynnydd ar draws yr ysgol. Mae’r amgylchedd ddysgu mae’r athrawon wedi creu yn helpu i hyrwyddo pwysigrwydd a pherthnasedd y medrau. Mae disgyblion yn datblygu eu medrau dysgu annibynnol yn yr amgylchedd yma ynghyd â’u gallu i hunan werthuso eu cynnydd.   

Mae’r cynllunio cydlynus yn golygu bod disgyblion yn gwneud cynnydd da ar draws yr ysgol yn eu medrau llythrennedd, rhifedd a digidol. Trefna’r athrawon gyfleoedd bwrpasol i ddatblygu medrau llythrennedd, rhifedd a medrau meddwl y disgyblion. Hefyd rhoddir sylw da iawn i ddatblygu medrau digidol y disgyblion ar draws yr ysgol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae arweinwyr y medrau yn Ysgol Caer Elen wedi cael eu gwahodd i rannu syniadau ac arfer dda gydag arweinwyr ac athrawon ar lefel clwstwr a hefyd gydag arweinwyr yn ystod sesiynau hyfforddiant sydd wedi eu trefnu gan gonsortia addysg rhanbarthol. Mae’r arweinwyr wedi cefnogi datblygu’r medrau ar lefel ysgol i ysgol ar draws yr awdurdodau lleol.