Arfer effeithiol Archives - Page 18 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Llangefni yn ysgol uwchradd ddwyieithog i ddisgyblion 11 i 18 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Ynys Môn. Lleolir yr ysgol yn nhref Llangefni yng nghanol Ynys Môn ac mae’n ardal Gymraeg ei hiaith yn bennaf.

Mae 719 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 91 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth. Mae 78.5% yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd. Mae canran y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim tua 18.9% ar gyfartaledd. Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol parhaol a dau bennaeth cynorthwyol dros dro.
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mewn paratoad ar gyfer dyfodiad y Côd ymarfer newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), mae’r ysgol wedi blaenoriaethu paratoi staff i’w galluogi i ddarparu’n hyderus ar gyfer disgyblion ag ADY. Mae hyn wedi digwydd ar sawl lefel sy’n cynnwys y llywodraethwyr, yr uwch dîm rheoli, rheolwyr canol, athrawon, cymorthyddion a staff ategol. Cred yr ysgol fod ADY yn gyfrifoldeb ar bawb a rhoddwyd y cyfrifoldeb i’r CADY i sicrhau fod gan pob aelod o staff y gallu i wireddu hyn.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae’r gofrestr ADY yn ddogfen fyw, gynhwysfawr sy’n cyfeirio’n benodol at rwystrau i ddysgu ac yn cynnwys arweiniad penodol ar sut i’w goresgyn. Yn ychwanegol, ceir dolenni uniongyrchol at broffiliau un tudalen pob disgybl ag ADY. Nodir gwybodaeth am unrhyw ddulliau cefnogi personol sy’n addas i bob unigolyn yn ogystal a chyfeiriad at strategaethau cefnogi cyffredinol.

Mae map darpariaeth yn cyfeirio’n benodol at yr holl ymyraethau sy’n cael eu cynnig gan yr ysgol. Telir sylw penodol i’r meini prawf mewnbwn ac allbwn i bob ymyrraeth unigol. Yn ychwanegol, rhoddir sylw i’r gweithredu pellach fydd ei angen pe na byddai’r ymyrraeth yn llwyddiannus.
Wrth lunio’r cynllun dysgu unigol, rhoddir sylw i ddyheadau disgyblion a cheisir llunio deilliannau sy’n arwain at y dyheadau hynny. O ganlyniad, sicrheir fod unrhyw ddarpariaeth addysgu ychwanegol yn ddisgybl ganolog.

Mae’r ysgol wedi adnabod dirywiad ym medrau sylfaenol disgyblion yn dilyn y cyfnodau clo, ac nid o reidrwydd yn y disgyblion fyddai angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Er mwyn ymateb i hyn nododd yr ysgol flaenoriaeth i sicrhau ‘Addysgu o Safon yn Gyntaf’ (Quality First Teaching) ar gynllun datblygu’r ysgol, sef datblygu strategaethau addysgu sy’n amlygu’r angen am ddulliau dysgu personol sy’n annog blaenoriaethu anghenion disgyblion ag ADY wrth gynllunio. 

Mae’r ysgol ar daith at geisio bod yn ysgol sy’n wybodus am drawma) sydd wedi cynnwys hyfforddiant ysgol gyfan, hyfforddiant UDRh a hwyluso i nifer o staff yr ysgol a’u rhanddeiliaid i gwblhau diploma perthnasol. Golyga hyn fod disgyblion ag ADY yn derbyn cyfleoedd i ddefnyddio dulliau amgen i gyfathrebu eu teimladau gan roi llai o bwyslais ar gyfathrebu geiriol neu ysgrifenedig.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth, mae’r ysgol wedi buddsoddi amser ac arian mewn hyfforddi cymorthyddion dosbarth. Paratowyd cyfleodd hyfforddiant cynhwysfawr megis rhaglen ‘Cymorthyddion Wrth eu Gwaith’, ELSA a ‘Drawing and Talking’. Yn ogystal, mae’r adran ADY wedi creu sbardunau sgwrsio i’w defnyddio gyda disgyblion er mwyn hybu annibyniaeth; gwaith sy’n seiliedig ar ymchwil yr EEF(Education Endowment Foundation).

Yn ddiweddar, mae’r adran ADY wedi gweddnewid eu dull o gynnal cyfarfodydd adrannol. Maent bellach yn cynnal cyfarfodydd ‘Datrysiad’ sy’n cynnig cyfleoedd i rannu arferion da ac arbrofi gydag ystod o strategaethau cefnogi.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

O ganlyniad i’r hyfforddiant a gyflwynwyd i’r holl staff ar y Côd Ymarfer newydd a blaenoriaethau’r cynllun datblygu ysgol, mae pob aelod o staff yn ymwybodol o’u dyletswydd wrth ddarparu’n briodol i ddiwallu rhwystrau at ddysgu disgyblion ag ADY. Mae hyn wedi galluogi adrannau i arfarnu eu darpariaethau ar gyfer y grwp penodol hwn o ddisgyblion. Defnyddir yr arfarniadau gwerthfawr hyn i gynllunio gwelliant i’r dyfodol drwy’r cynllun datblygu ysgol a chynlluniau datblygu adran.

Mae buddsoddiad mewn meddalwedd mapio darpariaeth wedi galluogi’r ysgol i arfarnu llwyddiant a gwerth am arian unrhyw ymyraethau sydd ar waith. Mewn achosion ble nad oes cynnydd, gellir cyfeirio’n ôl at y map darpariaeth i addasu’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. Dengys arfarniadau diweddar fod sgriptiau ymateb y cymorthyddion wedi arwain at leihad mewn cefnogaeth arwynebol sy’n blaenoriaethu ‘cwblhau tasgau’ a chynnydd mewn arferion sy’n blaenoriaethu’r broses o ddysgu a meta wybyddiaeth. Mae’r dangosyddion yma hefyd yn adlewyrchiad cryf o lwyddiannau staff i wahaniaethu’n effeithiol ar gyfer disgyblion ag ADY. Mae arfarniadau o holiadur uwchradd ynghylch trawma hefyd yn dangos effaith cadarnhaol mae’r gefnogaeth a rhoddir i ddisgyblion ag ADY yn ei gael ar eu lles emosiynol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gydag ysgolion cynradd y dalgylch ac yn rhaeadru arferion da drwy gyfarfodydd cydlynwyr ADY y dalgylch. Mae’r ysgol yn cydweithio’n agos gydag ysgolion uwchradd Môn ac yn gwneud defnydd o gynllun cydweithio ‘Cynghrair Ysgolion Môn’ er mwyn rhannu’r arferion gorau ac i gasglu barn cydweithwyr eraill am y gwaith.
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Mynwy (MCS) yn ysgol cyfrwng Saesneg 11-18 oed a gynhelir gan Awdurdod Lleol Sir Fynwy. Mae’n gwasanaethu tref Mynwy ac ardaloedd gwledig Cross Ash, Llandogo, Rhaglan, Trellech ac Wysg, gydag oddeutu 27% o’r myfyrwyr yn teithio o siroedd y ffin, sef Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd. Mae 1,693 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 316 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae tua 15% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Saesneg yw iaith gyntaf bron bob un o’r disgyblion ac maent yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig. Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Mae canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae angen o leiaf addasiadau rhesymol arnynt, yn rhyw 19% o boblogaeth gyfan yr ysgol, gan gynnwys y ganolfan adnoddau arbenigol (y Ganolfan).

Cyfran y disgyblion sydd â chynllun anghenion dysgu ychwanegol statudol (Datganiad / EHCP / Cynllun Dysgu Unigol (CDU)) yw 3.9% (gan gynnwys y Ganolfan).

Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth a 5 pennaeth cynorthwyol.

Caiff gweledigaeth yr ysgol ei chrynhoi yn yr arwyddair ‘Work Hard, Be Kind’, gyda’i gwerthoedd (llwyddiant, sicrwydd, parch, cyfrifoldeb ac annibyniaeth) a diwylliant ysgol yn seiliedig ar barch ymhlith pawb tuag at ei gilydd.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

O 2021 ymlaen, dwysaodd yr ysgol ei hymgysylltiad â fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Cafodd yr uwch dîm arwain ei ymestyn, trwy secondiad, i gynnwys rôl â chyfrifoldeb penodol am ddatblygu meddwl y cwricwlwm, gan weithio’n agos gyda’r pennaeth cynorthwyol sy’n gyfrifol am addysgeg.

Diffiniodd yr ysgol ymagwedd at y cwricwlwm ac athroniaeth sylfaenol trwy gyfuniad o: ymgysylltu â’r fframwaith, ymchwil i egwyddorion dylunio cwricwlwm, profiadau o ddatblygu cwricwlwm mewn ysgolion eraill a myfyrdodau ar addasiadau blaenorol i’r cwricwlwm ysgol gyfan. Seiliwyd datblygu’r cwricwlwm yn yr ysgol ar ymagwedd ‘gwybodaeth gyfoethog’, gan fanteisio ar gysyniad Michael Young o ‘wybodaeth nerthol’. Ategwyd hyn trwy ddatblygu ymagwedd addysgegol ysgol gyfan a allai gyflwyno’r egwyddorion wrth wraidd y math hwn o gwricwlwm disgyblaethol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

“Gwella addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Does dim yn fwy hanfodol na bod pob plentyn a pherson ifanc yn caffael addysg ac yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw…” 

Cafodd yr agoriad hwn i fframwaith y Cwricwlwm i Gymru effaith arwyddocaol ar feddwl yr ysgol, gan gyd-fynd â’r cysyniad bod gwybodaeth nerthol yn llwybr at degwch. Hefyd, ystyriwyd mai caffael gwybodaeth ymrymusol oedd y llwybr at gyflawni’r Pedwar Diben.

Lluniwyd datganiad cenhadaeth y cwricwlwm, y mae rhan ohono fel a ganlyn, “Mae ein hymagwedd yn rhoi pwys ar gwricwlwm gwybodaeth gyfoethog, a gyflwynir gan staff addysgu arbenigol, gwybodus yn addysgegol. Nod hyn yn gyson yw darparu cyfleoedd dysgu effeithiol, diddorol trwy addysgu sy’n angerddol, yn fanwl gywir ac yn bwrpasol.”

  • Mae cwricwlwm gwybodaeth gyfoethog wedi cael sylw sylweddol mewn systemau addysg ledled y byd. Mae’r elfennau allweddol a ddefnyddiwyd yn yr ysgol wrth lunio’i chwricwlwm yn cynnwys: 
  • Safle sylfaenol gwybodaeth a’i gallu i ymestyn dysgu pellach. 
  • Gwybodaeth mewn ffurfiau gwahanol: datgeiniol, gweithdrefnol, trwy brofiad, disgyblaethol. 
  • Mae pynciau unigol yn bwysig. Maent yn dod â chorff sefydledig o wybodaeth, medrau a thraddodiad unigryw. Mae pynciau’n darparu trefn barod, gan gynnig cydlyniant fertigol cryf.
  • Caiff y wybodaeth i’w dysgu ei phennu’n fanwl. 
  • Mae amser y cwricwlwm yn gyfyngedig; rhaid dewis gwybodaeth yn ofalus. Mae’r wybodaeth hon yn bwysig a chaiff ei haddysgu i’w chofio, sy’n gofyn am gymhwyso ymchwil seiliedig ar dystiolaeth.
  • Caiff gwybodaeth ei dilyniannu’n fwriadol ac yn drefnus i saernïo sgema cadarn cymaint â phosibl (rhwydweithiau dysgu niwral).

Ymagwedd cwricwlwm disgyblaethol ydyw, gyda myfyrwyr yn dilyn ystod eang a chytbwys o bynciau. Arweinwyr canol, yn gysylltiedig â mwy o annibyniaeth, sydd â chyfrifoldeb sylweddol am ddylunio’r cwricwlwm. Mae’r annibyniaeth hon (e.e. o ran polisïau adborth, penderfyniadau cwricwlaidd, llunio asesiadau, cynllunio gweithredu) wedi’i meithrin ochr yn ochr â datblygu diwylliant sicrhau ansawdd cadarn.

Mae dysgu proffesiynol wedi’i dargedu i ymestyn y meddwl ynghylch dilyniant ac asesu, gyda phwyslais ar Egwyddorion Dilyniant a Diben Asesu. Mae hyn yn cofleidio’r cwricwlwm fel model dilyniant: dilyniant sydd wedi’i gynllunio yn y cwricwlwm, nid ar wahân iddo. Mae dysgwr sy’n llwyddo yn y cwricwlwm yn gwneud cynnydd da.

Ystyrir y berthynas rhwng y cwricwlwm ac addysgeg yng ngoleuni crynodebau seiliedig ar dystiolaeth o addysgu effeithiol (e.e. ‘What Makes Great Teaching?’ gan Ymddiriedolaeth Sutton). Yr hyn sy’n allweddol yw datblygiad ymarferwyr arbenigol, gwybodus yn addysgegol – arbenigwyr yn eu meysydd pwnc ac yn eu gallu i gymhwyso addysgeg effeithiol. 

Mae darparu strategaethau addysgu ysgol gyfan a datblygu’r athro sy’n arbenigwr pwnc yn digwydd trwy ddwy elfen o ddysgu proffesiynol:

  • Technegau a ddewiswyd yn ofalus sy’n canolbwyntio ar arferion talu sylw a naws yr ystafell ddosbarth: ‘arferion nerthol’ yr ysgol. Mae arferion o’r fath yn symleiddio’r profiad dysgu – lleihau’r baich gwybyddol, yn hoelio sylw dysgwyr yn gyflym ac yn sicrhau bod pawb yn cymryd rhan. Mae amser HMS sylweddol a rolau newydd yr ‘anogwyr addysgu’ yn ategu’r fenter ysgol gyfan hon. 
  • Mae’r holl athrawon yn cael arsylwadau anogaeth hyfforddiadol gan arweinwyr pwnc. Yr athro sy’n penderfynu ar y prif ffocws, sy’n elfen benodol o ymarfer, wedi’i osod o fewn cyd-destun eu disgyblaeth. Mae’r model anogaeth yn cynnwys trafodaeth cyn ac ar ôl arsylwi. Mae’r dull manwl gywir hwn mewn meysydd disgyblaeth yn helpu i ddatblygu athrawon sy’n arbenigwyr pwnc. 

Nod y cwricwlwm a roddwyd ar waith yw sicrhau bod staff yn gallu bod: yn angerddol am yr hyn y maen nhw’n ei addysgu trwy berchnogaeth ar gynnwys eu disgyblaeth; yn fanwl gywir yn eu hymarfer gyda datblygiad proffesiynol parhaus yn ategu hynny; yn bwrpasol wrth benderfynu ar gynnwys ac addysgeg er mwyn sicrhau cynnydd cadarn gan fyfyrwyr.

Wrth ei gyflwyno, cydnabuwyd y byddai dyluniad y cwricwlwm, datblygiad addysgegol a gwaith ar asesu dilys yn gyfamserol. Nid cyfaddawd yw hyn; mae’n broses barhaus o ailadrodd a gwella: nid yw’n ddigwyddiad ‘unwaith ac am byth’ (Y Daith i 2022). Camau nesaf yr ysgol yw: datblygu ei waith ar drefn lorweddol trwy gysylltiadau trawsgwricwlaidd; datblygu sylfaen gadarn o ddysgu proffesiynol wrth ddylunio a defnyddio asesiadau crynodol; parhau â’i gwaith yn cefnogi’r addysgeg orau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Darpariaeth: mae timau pwnc wedi treialu amrywiaeth o ddulliau. Er enghraifft, yn y tîm Saesneg, mae dull ‘pecyn’ ar gyfer adnoddau wedi’i ddatblygu ar y cyd, gyda phob gwers â’i phecyn ei hun. Mae athrawon yn defnyddio’r adnodd hwn i gynllunio sut maent yn gwirio dealltwriaeth yng nghyd-destun anghenion eu dosbarth ac i gywiro camsyniadau. 

Mewn mathemateg, mae dull llyfryn pwnc wedi’i ddatblygu ochr yn ochr â defnyddio delweddwyr yn fynych wrth ddesg sefyll, fel y gall athrawon weithio ar fodelu byw mewn partneriaeth â’r disgyblion.

Mae’r datblygiad addysgegol yn yr ysgol dros y blynyddoedd diwethaf wedi llywio dilyniannu a chynllunio’r cwricwlwm. Mae ymarfer adalw fel gweithred fwriadol yn hytrach na sgil-effaith tasgau eraill yn dechrau gwreiddio yn narpariaeth y cwricwlwm. 

Mae meysydd pwnc eraill yn defnyddio gwahanol fodelau cyflwyno a dulliau o gofnodi gwaith disgyblion megis yn ddigidol, mewn llyfrau gwaith neu hybrid o’r rhain; mae gan arweinwyr pwnc annibyniaeth ac atebolrwydd am y dull a ddilynir. Mae cyfleoedd rheolaidd i gydweithwyr rannu arfer dda.

Safonau Dysgwyr: mae cyflwyno ‘arferion nerthol’ wedi cael effaith sylweddol ar gynnydd myfyrwyr, er enghraifft trwy sicrhau bod eu sylw wedi’i hoelio ar ddysgu yn syth ar ddechrau’r wers. Mae technegau addysgegol i wella’r gymhareb gyfranogi ac i wirio dealltwriaeth wedi cyflymu cynnydd myfyrwyr. Mae datblygiad geirfa wedi bod yn nodedig, gyda disgyblion yn deall iaith gymhleth penodol i bwnc ac yn ei defnyddio’n rheolaidd. Mae gwybodaeth pwnc yn dechrau gwreiddio ac mae disgyblion yn gallu llunio cysylltiadau yn well rhwng gwahanol rannau o sgema pwnc oherwydd bod pynciau wedi’u dilyniannu’n ofalus.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Megis dechrau gweithredu’r cwricwlwm y mae’r ysgol: mae ailadrodd parhaus a mireinio’r meddwl yn mynd rhagddo’n gyflym. Mae wedi rhannu ei dull trwy drafodaeth ag ysgolion cynradd partner, o fewn Grŵp Dylunio’r Cwricwlwm y consortiwm rhanbarthol, a thrwy Sgyrsiau Rhwydwaith Cenedlaethol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gyfun Mynwy (MCS) yn ysgol cyfrwng Saesneg 11-18 oed a gynhelir gan Awdurdod Lleol Sir Fynwy. Mae’n gwasanaethu tref Mynwy ac ardaloedd gwledig Cross Ash, Llandogo, Rhaglan, Trellech ac Wysg, gydag oddeutu 27% o’r myfyrwyr yn teithio o siroedd y ffin, sef Swydd Gaerloyw a Swydd Henffordd. Mae 1,693 o ddisgyblion ar y gofrestr, y mae 316 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae tua 15% o’r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Saesneg yw iaith gyntaf bron bob un o’r disgyblion ac maent yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig. Ychydig bach iawn o ddisgyblion sy’n rhugl yn y Gymraeg.

Mae canran y disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, y mae angen o leiaf addasiadau rhesymol arnynt, yn rhyw 19% o boblogaeth gyfan yr ysgol, gan gynnwys y ganolfan adnoddau arbenigol (y Ganolfan). Cyfran y disgyblion sydd â chynllun anghenion dysgu ychwanegol statudol (Datganiad / EHCP / Cynllun Dysgu Unigol (CDU)) yw 3.9% (gan gynnwys y Ganolfan).

Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, dirprwy bennaeth a 5 pennaeth cynorthwyol. 
Mae 48 o ddisgyblion o flynyddoedd 7 i 13 wedi’u gosod yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol. Mae’r Ganolfan yn ddarpariaeth dysgu ychwanegol yr awdurdod lleol sy’n darparu ar gyfer disgyblion â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig, anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu, anawsterau dysgu difrifol ac anawsterau corfforol a meddygol. Mae’r Ganolfan wedi’i hintegreiddio’n llawn yng nghymuned yr ysgol, o ran ei hamgylchedd a’i strwythur staffio.
Mae’r Ganolfan yn darparu profiad addysgol cynhwysol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol cymhleth yn eu cymuned leol, gan roi cyfleoedd i ddysgu gyda’u cymheiriaid a chanddynt. Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau bod bron yr holl ddisgyblion a osodir yn y Ganolfan yn cael darpariaeth briodol, yn cyflawni’r tu hwnt i ddisgwyliadau rhagdybiedig ac yn symud ymlaen i leoliadau ôl-16/18 priodol. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Agorodd y Ganolfan yn 2017 gyda dau ddisgybl. Tyfodd y ddarpariaeth i 48 o ddisgyblion erbyn Medi 2022. Y bwriad yw datblygu darpariaeth integredig a chynhwysol sy’n gwella’r ddarpariaeth a’r arfer bresennol, gan ganiatáu am ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn bodloni anghenion disgyblion. Crëwyd uwch swydd arwain i ddatblygu a gweithredu gweledigaeth gyffredin a darpariaeth gynhwysol yn y Ganolfan ac ar draws yr Ysgol. Mae’r adolygiad parhaus o’r ddarpariaeth, yr adnoddau ac anghenion carfanau newidiol wedi sicrhau mireinio parhaus, gyda chynhwysiant ac integreiddio yn ganolog i’w datblygiad.
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Gweledigaeth 
Defnyddiwyd HMS ysgol gyfan i archwilio ystyr cynhwysiant i’r ysgol, gan ystyried arfer bresennol ac ymarfer seiliedig ar dystiolaeth yn yr ysgol ac mewn mannau eraill. Datblygwyd astudiaethau achos ar arfer bresennol i ddisgyblion prif ffrwd gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), anhwylderau’r sbectrwm awtistig (ASD) a Syndrom Down. Yn ganolog i’r weledigaeth gytunedig yw bod pob disgybl yn dysgu orau gyda’u cymheiriaid a chanddynt.

Integreiddio yn yr Ysgol 
Mae’r Ganolfan yn cael ei harwain gan bennaeth cynorthwyol ochr yn ochr ag athro arweiniol. Mae polisïau ysgol gyfan yn llywio’r systemau a’r arferion sydd ar waith, gydag addasiadau, fel y bo angen. Dilynir cynllun cwricwlwm ac amseriadau dyddiol yr ysgol, gyda mynediad llawn at amgylchedd yr ysgol. Mae disgybl gynrychiolydd o’r Ganolfan yn aelod o bob Cyngor Blwyddyn.  

Ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn caniatáu am ddatblygu’r ddarpariaeth i fodloni anghenion unigol. Mae mwyafrif y disgyblion yn mynychu grŵp dosbarth prif ffrwd ac elfennau o ddysgu prif ffrwd, fel technoleg, y celfyddydau mynegiannol a gwersi addysg gorfforol, gyda chefnogaeth cynorthwywyr addysgu’r Ganolfan. Mae’r disgyblion hyn hefyd yn mynychu clybiau a gweithgareddau allgyrsiol, ochr yn ochr â chyfoedion prif ffrwd. Mae disgyblion y Ganolfan yn chwarae rhan weithgar yng nghynyrchiadau a gwasanaethau carolau’r ysgol. Mae addasiadau rhesymol yn cynnwys cymorth Cynorthwywyr Dysgu a gwella medrau staff prif ffrwd. Mae’r ddarpariaeth ôl-16 yn cynnwys lleoliadau profiad gwaith yn y gymuned leol ac yn yr ysgol. 

Dosbarth Enfys
Yn ystod blwyddyn academaidd 2022-2023, datblygwyd Dosbarth Enfys i ddarparu ar gyfer disgyblion ag ADY mwy cymhleth ym Mlynyddoedd 7 ac 8, nad ydynt yn gallu manteisio ar unrhyw elfennau o’r ddarpariaeth brif ffrwd. Fodd bynnag, mae’r disgyblion hyn yn defnyddio’r holl ardaloedd cyffredin a’r cyfleusterau arbenigol yn y Ganolfan. Mae hwn yn faes sy’n cael ei ddatblygu’n barhaus oherwydd newidiadau mewn anghenion, gyda chynnydd mewn staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol a dulliau dysgu a chyfathrebu amlsynhwyraidd yn cael eu mireinio’n barhaus. 
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae staff yn y Ganolfan yn cynnwys athrawon cynradd ac uwchradd hyfforddedig, ynghyd â staff â chymwysterau arbenigol neu brofiad ym maes ADY. Mae staff yn lledaenu arfer orau er mwyn datblygu cysondeb yn y Ganolfan ac ar draws ardaloedd y cwricwlwm prif ffrwd.

Mae datblygu cwricwlwm eang a chytbwys sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn arwain at lefelau uchel o ymgysylltu a chynnydd yn y Ganolfan a phan fydd disgyblion yn dilyn gwersi prif ffrwd. Mae disgyblion yn datblygu annibyniaeth a gwydnwch. Maent yn rhyngweithio’n llwyddiannus â chymheiriaid prif ffrwd mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Mae gallu manteisio ar weithgareddau allgyrsiol wedi ymestyn eu profiadau ac wedi cynyddu perthnasoedd cadarnhaol. Mae lleoliadau profiad gwaith ôl-16 yn arwain at welliannau sylweddol i fedrau cyfathrebu disgyblion a’u gwydnwch. Mae bron bob un o’r disgyblion yn cyflawni cymwysterau priodol i symud ymlaen i leoliadau ôl-16/18 priodol.  

Mae gan ddisgyblion y Ganolfan ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn, wedi’i wreiddio yn y ffaith eu bod yn ddisgybl Ysgol Gyfun Mynwy, yn hytrach na’u bod yn aelod o’r Ganolfan.  
 

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Gweithiodd y pennaeth cynorthwyol ar draws de-ddwyrain Cymru yn ystod secondiad a oedd yn canolbwyntio ar weithredu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg. Mae’r pennaeth cynorthwyol a’r athro arweiniol ar gyfer y Ganolfan yn cyfrannu at gyfarfodydd rhwydwaith rheolaidd gyda Thîm Canolfannau Adnoddau Arbenigol yr Awdurdod Lleol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn llywio datblygiad darpariaeth Canolfannau Adnoddau Arbenigol ar draws yr ALl. Mae’r pennaeth cynorthwyol yn arwain cyfarfodydd cydlynwyr ADY gydag ysgolion cynradd partner i fireinio ymagweddau cynhwysol at ADY.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg wedi’i lleoli yn ninas Wrecsam ac yn gwasanaethu dalgylch eang Sir Wrecsam. Mae 857 o ddisgyblion ar y gofrestr, gan gynnwys 79 yn y chweched dosbarth. Daw 80% o’r disgyblion o gartrefi di-Gymraeg ac mae 20% yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim. Mae’r ysgol yn gymuned falch, groesawgar ble mae staff yn cyfleu eu  hangerdd dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ysgol wedi gweld cynnydd yn y disgyblion sydd angen cynhaliaeth lles. Mewn ymateb i hyn, sefydlwyd Hwb Bugeiliol yn 2019 er mwyn sicrhau man canolog i ddisgyblion alw mewn i gael cymorth gydag unrhyw fater bugeiliol boed yn broblem iechyd corfforol neu feddyliol, problem gymdeithasol neu emosiynol. Ar ôl y pandemig, gwelwyd bod yr angen am gymorth o’r fath wedi dwysau a datblygwyd yr Hwb Bugeiliol ymhellach, er enghraifft drwy benodi ail swyddog lles sydd hefyd yn gyfrifol am gynorthwyo rhieni. Yn sgil y pandemig, dwysau hefyd wnaeth y galw am gymorth ac ymyrraeth academaidd i ddisgyblion ac felly fe sefydlwyd ail hwb, sef yr Hwb Dysgu i gynnig cefnogaeth i ddisgyblion gyda’u gwaith ysgol. Rhyngddynt, mae’r ddau hwb yn sicrhau cefnogaeth a gofal i bob disgybl sydd angen cymorth ychwanegol, beth bynnag fo natur a maint y broblem.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae tîm o staff yn yr Hwb Bugeiliol sy’n cynnwys pennaeth cynorthwyol lles ac ymddygiad, penaethiaid blynyddoedd 7-11, dau swyddog lles, swyddog cymorth cyntaf corfforol a meddyliol a swyddog gweinyddol. Rhyngddynt, maent yn cydweithio i sicrhau gofal ac arweiniad i bob disgybl. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys sesiynau un i un i’r disgyblion mwyaf bregus, sesiynau galw i mewn, sesiynau grŵp a sesiynau cymorth gan asiantaethau allanol. 

Mae’r Hwb Dysgu yn hafan y gall disgyblion o bob oed ddod i weithio ynddi. Mae gofod i ddosbarthiadau cyfan yng nghanol yr hafan ac o amgylch yr ochrau mae ‘pods’ gwaith o amrywiol feintiau sy’n ddelfrydol ar gyfer astudio annibynnol, grwpiau ymyrraeth, gweithdai addysgol a chlybiau amser cinio. Mae tîm yr Hwb Dysgu’n cynnwys pennaeth cynorthwyol dysgu ac addysgu, pennaeth cynorthwyol asesu a Chynnydd, dau gydlynydd cynnydd, dau fentor dysgu a’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol. Drwy wefan yr Hwb Dysgu, gall ddisgyblion hunan-gyfeirio am gymorth academaidd cyffredinol neu bwnc penodol. Gall staff a rhieni gyfeirio disgyblion yn yr un modd ac mae tîm yr Hwb Dysgu’n cyfarfod yn wythnosol i drafod y cyfeiriadau a threfnu ymyrraeth bwrpasol. Gall hyn gynnwys sesiynau mentora, ymyrraeth gan adran benodol neu gymorth i ddal fyny gyda gwaith coll. Law yn llaw â’r ganolfan, sefydlwyd gwefan yr Hwb Dysgu sy’n cynnig cyfoeth o adnoddau i gynorthwyo disgyblion gyda’u gwaith ysgol ac annog dysgu annibynnol. Mae ynddi adran i rieni hefyd i gynnig arweiniad ar gefnogi plant ac adran i athrawon rannu arfer dda o ran dysgu ac addysgu.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae gwaith yr Hwb Bugeiliol yn cyfrannu at sicrhau bod gan y disgyblion agweddau iach at ddysgu a’u bod yn ymddwyn a pharch tuag at ei gilydd. Mae’r gefnogaeth a roddir i’r disgyblion mwyaf bregus yn golygu bod pob disgybl yn llwyddo i barhau a’u haddysg tan ddiwedd Blwyddyn 11. Yn ogystal â chreu amserlen wedi’i theilwra i amgylchiadau’r unigolyn, mae’r cymorth ac arweiniad a roddir i ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol dwys yn un o’r rhesymau nad yw’r ysgol wedi gorfod gwahardd disgybl yn barhaol ers sefydlu’r Hwb Bugeiliol. Mae cyfradd presenoldeb yr ysgol yn gyson uwch na’r canran cenedlaethol.

Ers ei sefydlu, mae’r Hwb Dysgu wedi ymdrin â channoedd o gyfeiriadau gan ddisgyblion, staff a rhieni ac mae hyn wedi arwain at gynnydd academaidd pendant yn achos sawl disgybl. Gwelwyd cynnydd pwnc penodol gan rai disgyblion yn dilyn ymyrraeth tra bod eraill wedi gwneud cynnydd cyffredinol yn dilyn sesiynau mentora. Mae’r Hwb Dysgu wedi datblygu i fod yn ganolfan ddysgu effeithiol gyda gweithdai a chlybiau – sawl un ohonynt wedi’u trefnu gan y dysgwyr eu hunain – yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog i ddisgyblion o bob oed a phob gallu. Rhwng y ganolfan a’r wefan bwrpasol, mae’r ysgol yn gallu rhoi pwyslais cynyddol ar feithrin dysgwyr annibynnol.
 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Adnabod gwaith yr Hwb Bugeiliol fel arfer dda a arweiniodd at sefydlu ail hwb yn yr ysgol, sef yr Hwb Dysgu. Bellach, mae arweinwyr yn cydweithio er mwyn sicrhau bod arfer dda yn y naill hwb yn dylanwadu ar effeithiolrwydd y llall. Er enghraifft, mae gwefan yr Hwb Dysgu, sy’n cynnwys toreth o adnoddau i gefnogi dysgu a ffurflen gyfeirio syml at ddefnydd dysgwyr, staff a rhieni wedi cael ei hadnabod fel arfer dda y gall yr Hwb Bugeiliol ei hefelychu. Mae disgyblion a rhieni yn cael cyfle i ymweld â’r ddau hwb mewn nosweithiau agored. Mae gwefan yr ysgol yn cynnwys llawer o wybodaeth a chyswllt i wefan yr Hwb Dysgu ac rydym wrthi’n creu gwefan debyg ar gyfer yr Hwb Bugeiliol. Mae’r ysgol yn croesawu ymwelwyr o sefydliadau dysgu eraill i ddod i weld y ddau hwb ar waith.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Dan y Coed yn ysgol arbennig annibynnol sydd wedi’i lleoli yn ardal West Cross yn Abertawe. Mae’r ysgol mewn eiddo mawr ar wahân gyda mynediad hawdd at forlin Y Mwmbwls a dinas Abertawe. Mae’r ysgol yn rhannu’r safle â’i darpariaeth breswyl, sy’n darparu llety 52 wythnos a agorwyd ym mis Mai 2019.

Ar hyn o bryd, mae 26 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol. Mae gan yr ysgol bump o athrawon dosbarth, chwech o gynorthwywyr cymorth dysgu arweiniol a 21 o gynorthwywyr cymorth dysgu. Yn ychwanegol, mae gweithwyr gofal o’r lleoliad preswyl yn cynorthwyo plant mewn gwersi a gweithgareddau yn ôl yr angen. Mae tîm clinigol, sy’n cynnwys therapydd lleferydd ac iaith a therapydd galwedigaethol, yn cefnogi’r tîm addysg. 

Nod yr ysgol yw ‘darparu amgylchedd ysgol diogel a chadarn sy’n annog unigoliaeth, hyder a hunan-barch’.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Dan y Coed yn dilyn cwricwlwm wedi’i seilio ar fedrau, sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol pob disgybl. O ystyried yr amrywiaeth eang o anghenion a galluoedd disgyblion, roedd angen i’r ysgol sicrhau bod pob cam bach o gynnydd yn cael ei gofnodi ar gyfer pob un o’r disgyblion, beth bynnag fo lefel eu gallu, eu harddull cyfathrebu a’u ffafriaeth o ran dysgu. Roedd angen i’r system asesu gofnodi cynnydd o fewn gwersi, yn ystod adegau cymdeithasol ac wrth ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Roedd angen iddi fod yn berthnasol i’r disgyblion sydd â’r anawsterau cyfathrebu mwyaf, yn ogystal â’r disgyblion hynny sy’n astudio cymwysterau. Roedd angen i’r system grynhoi’r cynnydd a’r effaith trwy gydol taith pob disgybl yn Ysgol Dan y Coed, yn ogystal â darparu data ysgol gyfan a allai ddylanwadu ar ddylunio’r cwricwlwm, dysgu proffesiynol a strategaethau addysgu arloesol. 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Nod strategaeth asesu’r ysgol yw cofnodi gwybodaeth werthfawr yn gyson am gamau bach mewn cynnydd. Mae’r ‘continwwm cyflawniad’ yn ymwneud ag unrhyw fedr a maes pwnc. O ganlyniad, caiff camau cynnydd bach eu nodi’n gyson ar draws y cwricwlwm ac mewn meysydd medrau sy’n bwysig i ddisgyblion yn unol â’u hanghenion a’u galluoedd ychwanegol. Mae’r continwwm yn cynnwys 10 lefel o gynnydd sy’n amrywio o ddod ar draws rhywbeth, diddordeb, atgyfnerthu i gymhwyso. Mae’r continwwm graddedig yn galluogi athrawon i ddarparu ymyriadau a strategaethau addysgu penodol sy’n galluogi disgyblion i symud i fyny’r continwwm hyd nes y gallant feistroli pob medr yn annibynnol yn llwyddiannus.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae safonau ar draws yr ysgol wedi gwella. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion wedi gwneud cynnydd effeithiol ar draws holl feysydd y cwricwlwm yn gysylltiedig â meysydd angen unigol fel annibyniaeth, medrau cymdeithasol a medrau bywyd. Gall disgyblion drosglwyddo medrau o un lleoliad i un arall a chymhwyso’r rhain i ddatblygu medrau pellach o ran eu hanghenion dysgu ychwanegol. O ganlyniad i olrhain yn agos a chofnodi camau cynnydd bach, mae addysgu ar draws yr ysgol yn effeithiol ac ymyriadau addysgu creadigol yn cefnogi datblygiad yn barhaus. Mae cynnydd cryf disgyblion mewn rhai achosion wedi eu galluogi i ddychwelyd i ysgol brif ffrwd, gan elwa ar y cwricwlwm llawn ar ôl blynyddoedd allan o addysg brif ffrwd. Mae llawer o ddisgyblion wedi ennill cymwysterau sy’n briodol i’w cyrchfannau yn y dyfodol. Mae llawer o ddisgyblion sydd wedi gadael Dan y Coed wedi symud ymlaen i leoliadau addysg bellach llwyddiannus neu leoliadau addysg amgen. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae cofnodi camau cynnydd bach ar draws y cwricwlwm wedi cael effaith aruthrol ar gymhelliant a chynnydd disgyblion a’r cynllunio ar gyfer y camau nesaf yn nhaith pob disgybl. Mae Dan y Coed wedi gallu rhannu’r ffordd hon o asesu gyda’r ysgolion eraill o fewn grŵp Orbis, i’w cynorthwyo i asesu camau cynnydd bach ar gyfer pob disgybl ar draws llawer o wahanol gwricwla a phrofiadau dysgu. Yn ei dro, mae hyn wedi galluogi lleoliadau eraill i ddatblygu a gweithredu ymagweddau effeithiol at asesu, cynllunio ac olrhain cynnydd ar lefel unigol ac ysgol gyfan. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Caer Elen yn ysgol bob-oed Gymraeg 3-16 a sefydlwyd yn nhref Hwlffordd yn Ne Sir Benfro yn 2018. Erbyn hyn mae 840 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 93% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim yw 9.88% ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac mae 13% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a thri uwch athro.   

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Gan fod yr ysgol wedi ei lleoli yn Ne Sir Benfro mae canran uchel iawn o’r disgyblion yn dechrau’r ysgol yn y meithrin a’r derbyn heb unrhyw gaffael ar yr iaith Gymraeg. Maent yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Mae’r ysgol am sicrhau bod disgyblion yn hyddysg ac yn hyderus yn eu defnydd o’r Gymraeg erbyn iddynt gyrraedd

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y coleg

Mae Beechwood College yn goleg arbenigol annibynnol ac yn gartref gofal yn Sili, Bro Morgannwg. Mae’r coleg wedi’i berchen gan Beechwood Court Ltd, sy’n rhan o Ludlow Street Healthcare, sydd wedi’i berchen gan Ancala partners.

Mae’r coleg yn cynnig lleoliadau dydd a phreswyl i ddysgwyr 16 oed a hŷn sydd ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth ac sydd, o bosibl, ag anghenion sy’n gysylltiedig â chyflyrau’r sbectrwm awtistig. Mae tir y coleg yn cynnwys gard

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Caer Elen yn ysgol bob-oed Gymraeg 3-16 a sefydlwyd yn nhref Hwlffordd yn Ne Sir Benfro yn 2018. Erbyn hyn mae 840 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae 93% o’r disgyblion yn dod o gartrefi lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd. Canran y disgyblion sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim yw 9.88% ar gyfartaledd dros y tair blynedd diwethaf ac mae 13% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a thri uwch athro. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn hollol ymrwymedig i gyflwyno egwyddorion Cwricwlwm i Gymru yn llwyddiannus gan ganiatáu i bob disgybl gyrraedd ei wir botensial yn academaidd, yn gymdeithasol ac yn bersonol mewn cymuned gartrefol Gymreig. Bydd disgyblion yr ysgol yn meddu ar sgiliau digidol, rhifedd a llythrennedd uchel a fydd yn sicrhau

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae National Star in Wales yn goleg addysg bellach arbenigol dibreswyl sydd wedi’i leoli ym Mamhilad, ger Pont-y-pŵl, sy’n darparu addysg, medrau bywyd, therapïau a gofal dros flwyddyn academaidd 38 wythnos. Mae’r cwricwlwm yn cynnig llwybrau dysgu personoledig gyda nodau ar gyfer dysgu ac annibyniaeth. Cenhadaeth y coleg yw ‘galluogi pobl ag anableddau i gyflawni eu  potensial trwy wasanaethau personoledig o ran dysgu, pontio a chyrchfan’.  

Mae gan bob un o’r dysgwyr raglen bersonoledig, sydd wedi’i chynllunio i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyheadau. 
I lawer o fyfyrwyr, National Star yw’r garreg gamu olaf ar eu taith addysg, ac mae’r llwybrau cwricwlwm yn sicrhau ffocws ar fyfyrwyr yn datblygu’r medrau a’r wybodaeth a fyddai’n cael yr effaith fwyaf ar gyflawni deilliannau cynaliadwy a’r cyfnod pontio o’r coleg. 
 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Cydnabu arweinwyr yn National Star in Wales nad oedd dysgwyr yn cael cyfleoedd wedi’u gwreiddio’n briodol i fewnbynnu i benderfyniadau o ddydd i ddydd, ac agweddau tymor hwy ar gynnal y coleg. Er mwyn darparu’r cyfleoedd hyn, rhoddodd tiwtoriaid nifer o strategaethau ar waith i annog dysgwyr i gael dweud eu dweud a datblygu eu hannibyniaeth.

Mae gwaith y coleg yn y maes hwn wedi eu cynorthwyo ymhellach i gyflawni eu gweledigaeth i gael “byd lle gall pobl ag anableddau gyflawni eu potensial fel dinasyddion cyfartal a gweithredol sydd â rheolaeth dros eu bywydau”. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae National Star in Wales yn mabwysiadu ymagwedd amlweddog at hunaneirioli, sy’n dechrau yn ystod y cam asesu cychwynnol wrth gyfeirio dysgwyr i’r coleg, ac yn parhau trwy eu cyfnod pontio parhaus.

Asesiad cyn-dechrau
Trwy gyfarfodydd asesu cychwynnol, mae tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys rheolwyr y cwricwlwm a rheolwyr gwasanaethau a’r tîm therapiwtig yn cyfarfod â’r dysgwr, ynghyd â’i rieni a’i ofalwyr, er mwyn ffurfio darlun clir o anghenion dysgwyr, eu ffafriaethau, eu lefelau cyrhaeddiad presennol a’u dyheadau yn y dyfodol. Mewn achosion lle mae gan ddysgwyr anghenion iechyd cymhleth, mae tîm y coleg yn gweithio’n agos gydag asiantaethau allanol i sicrhau bod cynlluniau’n cael eu creu i uchafu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiad a phresenoldeb dysgwyr yn y coleg. 

Cynlluniau gofal ac asesiadau risg
Yn dilyn y cyfarfod cychwynnol, caiff cynlluniau gofal drafft ac asesiadau risg unigol eu datblygu. Er mwyn galluogi dysgwyr i gyfrannu’n ystyrlon at eu cynlluniau gofal, cânt eu rhannu â dysgwyr yn unigol, gan ddefnyddio’u dull cyfathrebu ffafriedig. Mae’r cynlluniau gofal a’r asesiadau risg yn amlinellu lefel uchel y gofal a’r cymorth y dylai dysgwyr ei disgwyl yn y coleg ac yn y gymuned ehangach i’w helpu i gadw’n ddiogel a chefnogi annibyniaeth. Mae’r staff sy’n gweithio trwy’r cynlluniau gyda dysgwyr yn gofyn iddynt gydsynio i bob elfen. Caiff y cynlluniau hyn eu hadolygu gyda’r dysgwr bob tymor, ac mae’r dysgwyr yn eu cymeradwyo bob tro â llofnod, ffotograff neu stamp. 

Meithrin dewis 
Mae arweinwyr a thiwtoriaid yn y coleg yn darparu cyfleoedd rheolaidd i ddysgwyr wneud dewisiadau a chyfarwyddo eu gofal eu hunain cymaint ag y bo modd. Gofynnir i ddysgwyr gydsynio i bob elfen o’u gofal a gwneud dewisiadau amdanynt, er enghraifft cydsynio i drefn y gofal ei hun, yr aelod staff yn cynorthwyo, y cynhyrchion a ddefnyddir ac opsiynau dillad. 

Adolygiadau yn canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae National Star in Wales yn dilyn ymagwedd yn canolbwyntio ar yr unigolyn at adolygiadau. Rhoddir cyfleoedd i ddysgwyr lenwi holiadur cyn-adolygiad, gan ddefnyddio’r dull cyfathrebu y maent yn ei ffafrio, i gofnodi’r hyn sy’n mynd yn dda a beth y gellid ei wneud yn well, yn y coleg ac yn y cartref, ac o ran ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol allanol. Gofynnir i ddysgwyr roi diweddariad ar eu dyheadau yn y dyfodol hefyd i sicrhau bod y coleg ac asiantaethau eraill yn gweithio tuag at ffafriaethau’r dysgwyr. 

Senedd Myfyrwyr
Yn ddiweddar, mae’r coleg wedi ffurfio Senedd Myfyrwyr gyda dysgwyr sy’n awyddus i gyflawni dyletswyddau yn rolau cynrychiolwyr. Gan fod dysgwyr yn gyfrifol am feysydd amlwg ar draws cymuned y coleg, bydd penderfyniadau sy’n cael eu gwneud trwy’r Senedd Myfyrwyr yn cael effaith weladwy, gan atgyfnerthu ymhellach fod eu lleisiau a’u dewisiadau yn achosi newid. 

Ymlacio a sgwrsio
Gellir dadlau mai un o’r agweddau mwyaf effeithiol ar ddulliau hunaneirioli’r coleg yw ‘Ymlacio a Sgwrsio’ (‘Chill and Chat’). Mae’r rhain yn sesiynau anffurfiol a gynhelir gan arweinydd diogelu’r coleg. Cynhelir y rhain yn ystod amser cinio, ac mae’r arweinydd diogelu yn treulio amser gyda phob dysgwr ar draws y coleg i wneud yn siŵr eu bod yn iawn. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i’r arweinydd diogelu wirio dealltwriaeth dysgwyr o ddiogelu a gallant siarad ag ef i godi unrhyw bryderon. Caiff adborth o’r sesiwn ei ledaenu ar draws y tîm staff cyfan, i rannu meysydd i’w datblygu y gellir eu hatgyfnerthu, ac i lywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol yn ogystal. 

Cyfryngu cyfoedion
Yn unol â’r rhan fwyaf o leoliadau, ceir gwrthdaro rhwng cyfoedion, weithiau. Yn National Star in Wales, caiff dysgwyr eu hannog i hunaneirioli cymaint ag y bo modd pan fydd y senarios hyn yn digwydd. Er mwyn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu medrau o fewn datrys anghydfod, mae’r coleg yn mabwysiadu dull cyfryngu cyfoedion. Gofynnir i ddysgwyr gydsynio i’r cyfarfod ac fe gânt eu briffio am y strwythur a beth i’w ddisgwyl cyn mynychu. Yn ystod y cyfarfod, mae cyfryngwr diduedd yn gofyn i bob un o’r dysgwyr dan sylw rannu beth ddigwyddodd a sut gwnaeth iddyn nhw deimlo. Wedyn, gofynnir i ddysgwyr awgrymu atebion i osgoi gwrthdaro yn y dyfodol, cyn gwerthuso’r atebion a awgrymwyd, a chytuno iddynt ar y ddwy ochr. Rhennir deilliannau’r cyfarfod gyda’r tîm staff cyfan i’w galluogi i gynorthwyo dysgwyr i ddilyn eu hatebion cytunedig trwy fodelu.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau disgyblion?

Mae gan y coleg brosesau pontio effeithiol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr ar waith. Mae dysgwyr yn teimlo’n ddiogel yn y coleg o ganlyniad i staff yn defnyddio dull unigoledig, gan sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu’n effeithiol. O ganlyniad, mae dysgwyr yn cyrraedd y coleg yn teimlo bod croeso iddynt, a bod pobl yn eu deall, ac maent yn ymgyfarwyddo â bywyd coleg yn gyflym.

Mae staff y coleg yn defnyddio gwybodaeth o’r asesiadau therapiwtig a’r trefniadau pontio i greu cynlluniau gofal a chymorth cynhwysfawr ar gyfer pob un o’r dysgwyr. Mae’r cynlluniau manwl a phersonoledig hyn yn darparu gwybodaeth fuddiol i gefnogi anghenion dysgwyr tra’n cynnal eu hannibyniaeth, ac yn datblygu medrau pwysig. Mae cynlluniau’n cynnwys ymatebion wedi’u sgriptio i staff eu defnyddio pan fydd dysgwyr yn teimlo’n orbryderus. O ganlyniad, mae dysgwyr yn dysgu rheoli eu hymddygiadau a’u hemosiynau eu hunain yn dda.

Mae’r coleg yn hyrwyddo diwylliant cadarn o ddiogelu dan arweiniad staff profiadol. Mae’r coleg yn hynod effeithiol yn galluogi dysgwyr i gael cyfleoedd gwerthfawr i wneud eu cyfraniad eu hunain at drefniadau i’w cadw’n ddiogel, er enghraifft wrth ysgrifennu asesiadau risg ar gyfer ymweliadau y tu allan i’r coleg, neu i gefnogi eu cyfle i elwa ar leoliadau profiad gwaith. Mae sesiynau wythnosol gyda chydlynydd diogelu’r coleg yn galluogi dysgwyr i archwilio agweddau ar ddiogelu mewn ffyrdd sy’n ymwneud â nhw yn uniongyrchol, a nodi eu strategaethau eu hunain i’w cadw eu hunain yn ddiogel. Mae’r pwyslais buddiol hwn yn cryfhau dealltwriaeth dysgwyr o’r materion pwysig hyn ac yn cefnogi datblygiad eu medrau hunaneirioli eu hunain. 
Mae llais y dysgwr wedi cael effaith lwyddiannus ar waith y coleg. Mae dysgwyr yn cyfrannu’n ystyrlon at ystod o gyfarfodydd sy’n eu cynnwys. Caiff bron pob un o’r dysgwyr gyfleoedd buddiol yn y sesiynau “Ymlacio a Sgwrsio” wythnosol i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd yn y coleg. Mae dysgwyr yn falch o’u gwahanol rolau yn Senedd y Coleg ac yn cyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau yn angerddol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Information about the schoo

Llwydcoed Primary School is an English-medium primary school situated in the village of Llwydcoed, near Aberdare, in Rhondda Cynon Taf local authority. The school has 125 pupils from the ages of 3 to 11 organised into five mixed-age classes. The school provides full time nursery provision from the September following the child’s third birthday. Approximately 3% are identified as having additional learning needs and all pupils use English as their first language. Twenty-nine per cent of pupils are eligible to receive free school meals. This figure has increased significantly since the pandemic. 

Context and background to the effective or innovative practice

The pandemic had a significant impact on the well-being and finances of the school’s families. The number of pupils in the school who are eligible for free school meals saw a sharp increase. For this reason, the school engaged in work with the Child Poverty Action Gr