Arfer effeithiol Archives - Page 17 of 67 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r awdurdod lleol yn blaenoriaethu datblygiad proffesiynol staff yr awdurdod lleol ac ysgolion yn dda. Mae wedi ymrwymo i ‘dyfu ei arweinwyr ei hun’ i gefnogi cynllunio olyniaeth a gwella. Er mwyn ymateb i heriau o ran recriwtio penaethiaid ysgol ac uwch arweinwyr o ansawdd uchel, mae’r awdurdod lleol wedi sefydlu Rhaglen Darpar Arweinwyr hynod effeithiol. Modelwyd hyn ar raglen bresennol i uwch arweinwyr ar gyfer staff y cyngor, a oedd wedi’i llywio gan ymchwil ac a oedd yn canolbwyntio’n glir ar arweinyddiaeth ymarferol. Mae’r rhaglen hon wedi helpu i sbarduno datblygiad personol a phroffesiynol a datblygu arweinwyr y dyfodol ar gyfer ysgolion yn RhCT.

Mae’r awdurdod lleol hefyd yn gwneud defnydd cryf o raglenni prentisiaeth a graddedigion i ddatblygu gweithlu tra medrus. Er enghraifft, mae’r Cynllun Graddedigion yn cynnig lleoliad gwaith penodedig am ddwy flynedd a chyfleoedd strwythuredig i ddatblygu medrau rheoli mewn sefydliad dynamig ac amrywiol, ynghyd â Chymhwyster Rheoli Prosiectau Lefel 4.

 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae diwylliant cryf yn y Cyngor o fuddsoddi yn natblygiad proffesiynol ei staff. Mae cynllunio ar gyfer dysgu a datblygiad proffesiynol wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â chyflawni blaenoriaethau’r Cyngor, gan gynnwys y Cynllun Corfforaethol a’r Cynllun Strategol Addysg.

Mae’r ALl yn cefnogi datblygiad darparwyr arweinwyr ysgolion yn dda. Maent yn sicrhau y caiff ystod eang o gyfleoedd eu cynnig i arweinwyr canol ac uwch arweinwyr ddatblygu a gwella eu medrau arweinyddiaeth. Mae Rhaglen Darpar Arweinwyr yr awdurdod lleol yn gryfder penodol. Caiff y rhaglenni hyn eu cynllunio a’u gwerthuso’n effeithiol i fodloni disgwyliadau ac anghenion darpar arweinwyr, a chânt eu hesblygu a’u haddasu i sicrhau eu bod yn parhau’n addas i’r diben.

Mae Rhaglen Darpar Arweinwyr RhCT yn unigryw o ran ei dyluniad a’r modd y caiff ei chyflwyno. Caiff y rhaglen ei chynllunio er mwyn ymateb i anghenion penodol y garfan yn ogystal a blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.  Bu’n arbennig o lwyddiannus o ran hyrwyddo twf personol a phroffesiynol y cyfranogwyr. Bu’n gymorth effeithiol, nid yn unig i arweinwyr newydd benodedig, ond hefyd o ran cynllunio olyniaeth uwch arweinwyr ym mhob ysgol yn RhCT dros y degawd diwethaf.

Mae diwylliant cryf o nodi a chefnogi potensial mewn cyflogeion ac mae’r awdurdod lleol yn buddsoddi’n gryf mewn datblygu ei weithlu. Er enghraifft, gall staff yr awdurdod lleol sy’n dyheu am swyddi rheoli fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dysgu strwythuredig, gan gynnwys ystod eang o raglenni arweinyddiaeth.

Er 2005, mae llawer o staff addysg wedi cymryd rhan mewn ystod o brosiectau trawsgyfarwyddiaeth, gan gynnwys datblygu medrau annog a mentora a chymryd rhan mewn prosiectau ymchwil.

Mae’r ystod eang hon o strategaethau wedi cefnogi cynllunio olyniaeth yn yr awdurdod lleol yn dda. Mae llawer o gyn brentisiaid, graddedigion a hyfforddeion yn mynd ymlaen i gael swyddi parhaol gan gynnwys rolau arweiniol yn y Cyngor.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae arweinyddiaeth ar draws y gyfarwyddiaeth yn gryf ac yn effeithiol. Mae’r ystod eang o hyfforddiant wedi cefnogi arweinwyr ar bob lefel i ddatblygu ystod o fedrau. Maent yn arwain trwy esiampl yn dda ac wedi sicrhau gwelliannau effeithiol ar draws y gyfarwyddiaeth. Er enghraifft, mae’r tîm gwella ysgolion wedi cryfhau’r ffordd y mae’n herio ac yn cefnogi’r consortiwm rhanbarthol i wella cymorth i’w hysgolion.

Mae Rhaglen Darpar Arweinwyr ysgolion yr awdurdod lleol yn uchel ei pharch ymhlith arweinwyr ysgolion ac wedi cefnogi twf a datblygiad y cyfranogwyr hyn yn dda. Mae’r holl staff a gymerodd ran yn y rhaglen ddiweddar wedi cael swyddi arweinyddiaeth.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Bu datblygu systemau rheoli gwybodaeth (SRhG) a defnyddio data a gwybodaeth yn effeithiol yn ganolog i strategaeth gwella’r awdurdod lleol. Yn yr arolygiad diwethaf yn 2012, nododd Estyn fod angen i’r gyfarwyddiaeth ‘wella arfarniadau a dadansoddiadau data ar draws meysydd gwasanaeth a phartneriaethau i ysgogi gwelliannau mewn deilliannau ar gyfer dysgwyr’.

I gefnogi hyn, canolbwyntiodd yr awdurdod lleol yn ofalus ar:

  • sefydlu SRhG canolog sy’n hwyluso mynediad rhwydd at setiau data helaeth sy’n cael eu dadansoddi’n rheolaidd at ddibenion hunanwerthuso a sbarduno gwelliant ar draws gwasanaethau a lleoliadau addysgol yr awdurdod lleol;
  • datblygu setiau data byw, lle bo hynny’n bosibl, sy’n cael eu dadansoddi mewn modd amserol i nodi tanberfformiad yn effeithiol a llywio ymyriadau targedig a deilliannau gwell; a
  • defnyddio data fel offeryn i gryfhau gwaith trawsgyfarwyddiaeth, cynllunio strategol, partneriaethau’r awdurdod lleol ac ysgolion.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Integreiddiodd y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chynhwysiant dair system rheoli gwybodaeth a nifer o ffrydiau data i greu un system ddata wedi’i symleiddio. Mae hyn wedi darparu sylfaen gadarn i ddatblygu setiau data, dangosfyrddau a chapasiti adrodd mwyfwy soffistigedig.

Mae’r system integredig hon yn galluogi swyddogion i fanteisio’n ddi-oed ar ystod eang o ddata a gwybodaeth yn ymwneud ag ysgolion a gwasanaethau. Mae hyn, ynghyd â phrosesau monitro a gwerthuso clir, yn galluogi’r awdurdod lleol i nodi meysydd i’w gwella ac ymateb yn gyflym.

Er mwyn sicrhau’r gwelliant hwn, mae’r awdurdod lleol wedi:

  • adolygu a gwerthuso systemau a ffynonellau data yn strategol;
  • sicrhau y cadwyd swyddogaethau data mewn un Tîm Data tra arbenigol;
  • recriwtio graddedigion a phrentisiaid o ansawdd uchel trwy gynllun arobryn y Cyngor a buddsoddi yn eu dilyniant gyrfa a’u dysgu;
  • meithrin gallu mewnol, gan leihau unrhyw ddibyniaeth ar asiantaethau ac arbenigwyr allanol fel bod gwasanaethau’n parhau’n gost effeithiol ac yn effeithlon;
  • cefnogi ysgolion â’u SRhG, gan gynnwys cysoni systemau’n ddyddiol a chynnal cywirdeb data craidd;
  • comisiynu un system gwybodaeth disgyblion i’r awdurdod lleol, wedi’i chefnogi a’i datblygu gan y Tîm Gwybodaeth Data Addysg dynodedig;
  • sicrhau llif effeithiol o wybodaeth a data gan ysgolion drwy’r system ganolog ac i’r offerynnau adrodd priodol;
  • datblygu adroddiadau awtomataidd i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i gefnogi swyddogion i nodi patrymau cronolegol a daearyddol mewn setiau data;
  • gwella cyfathrebiadau mwy effeithlon a dulliau casglu data syml.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae argaeledd data byw gan 115 o ysgolion, ar draws hyd at 30 o wasanaethau ac â thros 500 o ddefnyddwyr yn galluogi swyddogion i fanteisio ar ystod eang o wybodaeth berthnasol a chyfredol. Erbyn hyn, mae gan y Gyfarwyddiaeth Addysg drosolygon byw o ystod eang o ddata rhyngweithiol.

Mae’r wybodaeth a’r data hyn yn ganolog i’r holl gynllunio strategol ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion, hunanwerthuso gwasanaethau, cynllunio strategol a rheoli perfformiad. Mae adroddiadau i gyfarfodydd y Cabinet a chyfarfodydd craffu wedi’u llywio’n dda trwy allu manteisio ar y setiau data byw hyn.

Mae’r awdurdod lleol yn defnyddio ystod eang o wybodaeth, gan gynnwys tueddiadau demograffig, data ar enedigaethau a datblygiadau tai i ystyried nifer y lleoedd mewn ysgolion a derbyniadau ysgolion yn ofalus.

Roedd gallu manteisio ar ddata perthnasol yn hollbwysig wrth gefnogi’r ymateb i Covid. Cafodd dysgwyr bregus, yn enwedig lle’r oedd problemau cysylltiedig, eu targedu’n dda ar gyfer darpariaeth ac ymweliadau lles a chefnogaeth arall. Sicrhaodd gwaith â chydweithwyr yn y Gwasanaethau Plant fod gan ysgolion ddata cyfredol ar ddysgwyr bregus yn eu hysgolion yn ôl categorïau bregusrwydd gwahanol.

Gan fod staff yn gweithio mewn modd hybrid erbyn hyn, mae darparu data gweithredol i ddyfais addas wedi dod yn hanfodol. Erbyn hyn, gall staff presenoldeb a lles fanteisio ar ddata ar absenoldebau yn uniongyrchol ar eu ffonau symudol a defnyddio hyn i herio ysgolion mewn modd amserol.

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Galluogodd cymorth i’r timau Profi, Olrhain a Diogelu yn ystod y pandemig i ddata cyswllt strwythuredig gael ei ddarparu’n uniongyrchol o systemau ysgolion mewn fformat addas i’w lanlwytho’n uniongyrchol i systemau iechyd. Rhannwyd y broses hon â’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae RhCT yn gweithredu’n rheolaidd fel cyswllt a man cyfeirio ar gyfer gwybodaeth a chyngor technegol a strategol penodol. Mae’r tîm yn cyfrannu’n weithredol at grwpiau defnyddwyr yng Nghymru trwy dechnoleg MS Teams ac, ers yr adferiad Covid, trwy arddangosiadau wyneb‑yn-wyneb i awdurdodau lleol eraill.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Agorwyd Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ym mis Medi 2018. Mae’r ysgol, sydd wedi’i lleoli ar draws tri champws, yn gwasanaethu cymuned wledig yn bennaf. Mae gan yr ysgol ethos cynhwysol cryf a adlewyrchir yn ei harwyddair, sef  “gwnewch y pethau bychain”. Mae 622 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd: 191 yn y sector cynradd a 431 yn y sector uwchradd. Mae tua 11% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 24% angen dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn darparu amgylchedd dysgu unigryw a naturiol ar gyfer yr ysgol, ac mae gan bob campws ei amgylchedd a’i gymuned ei hun. Cyn agor, cynhaliodd y corff llywodraethol dros dro gyfres o gyfarfodydd â rhanddeiliaid cymunedol gan sefydlu gweithgor i ddatblygu’r amgylcheddau dysgu awyr agored. Mae wedi sefydlu cysylltiadau cryf â’r gymuned lle mae disgyblion yn rhyngweithio’n rheolaidd ag artistiaid, grwpiau cymunedol, busnesau fferm, a gwasanaethau cyhoeddus lleol i ymestyn eu profiadau dysgu. Fel aelodau o’r Fforwm Ysgolion Pob Oed, teithiodd staff i Sweden a Gwlad yr Iâ i ymchwilio i fentrau dysgu awyr agored. Mae’r cynnig cwricwlwm ôl-14 yn cynnwys cyrsiau mewn Lletygarwch ac Arlwyo, Amaethyddiaeth, Peirianneg a Gofal Plant er mwyn ymateb i anghenion cyflogaeth lleol. Mae’r Eglwys Gadeiriol yn adnodd unigryw ar gyfer dysgu am hanes, diwylliant, crefydd a chymuned, ac mae clerigwyr yn cyfrannu at ddatblygu cerddoriaeth a gwerthoedd Cristnogol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Defnyddir Cynefin fel cyfrwng i yrru’r dysgu. Er enghraifft, llwyddodd cyllid gan ‘Dysgu drwy Dirweddau Cymru’, i hwyluso dysgu proffesiynol a chaffael adnoddau allweddol ar gyfer adeiladu cuddfannau, offer cynnau tân a chwrs cyfeiriannu. O ganlyniad i ymchwil gan staff, mae strategaethau dysgu yn cynnwys comisiynau dilys. Mae datblygiad medrau disgyblion mewn cysylltiad â chyd-destunau bywyd go iawn wedi’u cysylltu â’r pedwar diben. Mae’r dysgu wedi canolbwyntio ar themâu lleol a chenedlaethol, ac mae disgyblion wedi:

  • Cael eu comisiynu i fod yn grewyr cynnwys i ymchwilio a chreu gwefannau Olympaidd, er enghraifft wrth ysgrifennu am, a chyfweld â’r cyn-ddisgybl Jasmine Joyce, sydd wedi chwarae rygbi yn y Gemau Olympaidd, ac yn rhyngwladol dros Gymru.
  • Dod yn rheolwyr digwyddiadau ar gyfer digwyddiad Olympaidd ar Draeth Porth Mawr. Cafodd y disgyblion eu hyfforddi gan gatrawd y Signalwyr Brenhinol sydd wedi eu lleoli ym Mreudeth.
  • Creu timau cynhyrchu theatr i lansio, marchnata, pennu costau a pherfformio The Lion King a chodi £3000 ar gyfer disgyblion o Wcráin yn yr ysgol.
  • Cynnal nifer o arddangosfeydd yn Oriel y Parc, (canolfan groeso), yn cynnwys arddangosfeydd celf a ‘Beth sy’n Gwneud Cymru’n Rhyfeddol’ (‘What makes Wales Wonderful’) 2022.
  • Gweithio ar gynaliadwyedd, bioamrywiaeth a ffermio heb ychwanegion a oedd yn cynnwys gweithdai gyda Câr-Y-Môr, (y fferm gwymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf yng Nghymru) ac ymweliadau ag Ynys Dewi gyda’r RSPB.
  •  Cwblhau prosiectau gyda Fforwm Arfordir Sir Benfro, Darwin Science a Dŵr Cymru ar newid hinsawdd a llygredd arfordirol.

Mae disgyblion yn ymweld ag Erw Dewi (gardd gymunedol gynaliadwy leol) a Fferm Treginnis Isaf, Farms for City Children yn rheolaidd, i helpu tyfu a phwyso cynnyrch, a’i roi mewn bagiau, sy’n cael ei werthu er budd y banc bwyd lleol. Mae’r dysgu wedi cynnwys dylunio maes chwarae naturiol, ‘bio blitzes’ a dysgu am brosesau bywyd.

Mae disgyblion yn defnyddio adnoddau cymunedol yn ystod ‘Dydd Iau Gwefreiddiol’ (‘Thrilling Thursday’). Mae hyn yn cynnwys sefydlu siopau dros dro i werthu eitemau sy’n cael eu creu yn yr ysgol. Mae ‘ardaloedd di-sbwriel’ mewn cysylltiad â Caru Cymru (Cadwch Gymru’n Daclus) ac mae disgyblion yn cymryd rhan mewn digwyddiadau codi sbwriel cymunedol rheolaidd fel dinasyddion egwyddorol wybodus.

Mae gan gymuned yr ysgol gysylltiadau cryf yn fyd-eang. Cyn ymweliad ag ysgol bartner yn Lesotho, i gydweithio a gyrru dysgu ar nodau datblygu cynaliadwy a lles disgyblion, cynhaliwyd ‘taith gerdded rithwir’ â Lesotho ym mis Gorffennaf 2022 a ‘North Peninsula Big Switch Off’. Bu disgyblion o’r ysgol yn cymryd rhan mewn taith gyfnewid gyda disgyblion o Wexford i ddysgu am y dreftadaeth, y bererindod a’r diwylliant a rennir.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae’r profiadau dysgu hyn yn niwtral o ran cost ar y cyfan, ac felly’n gynhwysol. Mae Cynefin wedi bod yn gyfrwng i ysbrydoli a gwella agweddau at ddysgu. Mae’r gweithgareddau hyn wedi darparu platfform difyr ar gyfer datblygu’r pedwar diben a medrau disgyblion. Pan ymgorfforir ‘Cynefin’ neu ddysgu awyr agored, mae’r cynllunio ar gyfer dysgu yn gadarn ac yn hwyluso cynnydd cryf, mae ansawdd yr addysgu yn gyson uchel, a thros gyfnod, ac mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu. Mae defnydd dychmygus o ‘Cynefin’ yn galluogi disgyblion i ddysgu mewn cyd-destunau dilys. Mae arweinwyr yn cynllunio’r cwricwlwm yn strategol i ddisgyblion hŷn astudio ystod eang o gymwysterau addas sy’n gwneud defnydd gwerthfawr o’r ardal leol, ei hadnoddau a’i chyflogwyr.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr Ysgol

Mae Ysgol Eglwys Bach yn ysgol Gymraeg, wledig gyda 62 o ddisgyblion wedi eu trefnu ar draws 3 dosbarth. Un dosbarth gyda’r plant dan 7 a dau ddosbarth ar gyfer disgyblion hŷn, y naill ar gyfer Blwyddyn 3 a 4, a’r llall ar gyfer Blwyddyn 5 a 6.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae annibyniaeth yn y dosbarthiadau ddisgyblion dan 7 wedi datblygu’n dda dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd lledaenu’r arfer yma i ben uchaf yr ysgol yn bwysig ac yn rhan o weledigaeth yr ysgol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru. Y bwriad oedd sicrhau bod y disgyblion hynaf yn cael mwy o gyfleodd i arwain eu trywyddau dysgu eu hunain, i weithio’n annibynnol ac i ddal ati i oresgyn heriau. Hynny yw, yn hytrach na deall ystyr y 4 Diben ar lafar, bod y disgyblion yn byw a bod ac yn gwireddu egwyddorion y 4 Diben o fewn eu gwaith dosbarth a thrwy waith ‘cynghorau’r 4 Diben.’ 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae disgyblion Blwyddyn 5 a 6 wedi eu rhannu yn 4 grŵp, neu yn gynghorau’r 4 Diben. Mae cyngor ar gyfer pob diben. Bob hanner tymor mae’r 4 cyngor yn cyd-weithio ar un cywaith gyda phob grŵp yn arwain ar weithgareddau, ynghlwm a’u diben, er mwyn ymateb i’r cyd-destun. Er enghraifft, o dan bennawd ‘Yr Wcráin’ penderfynodd un grŵp bod angen casglu arian ar gyfer elusen drwy drefnu taith gerdded. Trefnodd y disgyblion y bws, ar ôl cysylltu â sawl cwmni er mwyn cael y pris gorau. Cysylltodd y grŵp drwy e-byst gydag ysgolion Eglwys eraill er mwyn eu gwahodd ar y daith. Trefnodd y disgyblion lwybr y daith gan ystyried pellter, amser, asesiad risg o ran diogelwch a chyfleusterau. Coginiodd grŵp fisgedi gyda banner yr Wcráin mewn eisin glas a melyn ar gyfer seibiant hanner ffordd. Trefnodd y grŵp olaf bob gohebiaeth, gan gynnwys manylion sut i noddi a rhoi at yr elusen, ar gyfer y rhieni a’r gymuned. Yn ystod gwaith cynghorau’r 4 Diben,  nid ein rôl ni fel athrawon yw arwain, ond yn hytrach i gefnogi’r disgyblion i wireddu eu syniadau, ac i holi ‘Sut mae hyn am weithio?’

I gyd fynd â gwaith cynghorau’r 4 Diben mae disgyblion 7 – 11 oed yn cael dau ‘Brynhawn Prysur,’ yr wythnos. Mae’r athrawon yn cyd-weithio i greu grid o 6 thasg ar gyfer y ddau oedran, sef Blwyddyn 3/4 a Blwyddyn 5/6. Ym Mlwyddyn 5/6 mae’r tasgau wedi eu gosod ar lwyfan digidol yr ysgol ynghyd â dolenni at  wefannau  a thestunau ymchwil y bydd angen ar y disgyblion i gwblhau’r tasgau. Ym Mlwyddyn 3/4 mae llai o ganllawiau ar y llwyfan digidol gan fod mwy o egluro, ar lafar, yn digwydd cyn i’r disgyblion gychwyn ar eu gwaith. Yn ystod y prynhawniau, mae’r disgyblion yn cael dewis pa dasgau i’w cwblhau o’r grid. Mae’r tasgau bob tro yn cynnwys gweithgareddau technoleg, gwyddoniaeth, iechyd corfforol, dylunio ac amrywiaeth o agweddau o’r celfyddydau mynegiannol. Os oes angen dysgu sgil newydd er mwyn gallu ymateb i un o’r tasgau, rhywbeth sydd angen mwy o eglurhad nac y gellir rhannu ar y llwyfan digidol, yna mae’r athrawon yn cynnal gwers ffurfiol ar yr agwedd benodol ar ddechrau’r hanner tymor. Mae’r disgyblion yn cael dewis i gyd-weithio efo ffrind neu weithio’n annibynnol er mwyn cwblhau’r tasgau. Wrth i’r disgyblion weithio ar eu tasgau, heb unrhyw bwysau i orffen mewn un wers neu brynhawn, gall yr athrawon gamu’n ôl gan adael i’r disgyblion arbrofi. Nid yw’r athrawon yn ymyrryd os nad yw pethau’n gweithio. Maent yn gadael i’r disgyblion weithredu eu syniadau ac maent yno i’w cefnogi os ddaw camgymeriadau i’r amlwg. Eto, cwestiynu yw gwaith yr athrawon, gan hwyluso gwaith meddwl y disgyblion. Holi cwestiynau fel, ‘Pam na weithiodd hynny?’, ‘fedri di feddwl am ffordd wahanol i wneud hyn?’, ‘oes ‘na rhywun arall yn y dosbarth sydd â phroblem debyg?’ Os yw’r disgybl yn hapus gyda’r darn gorffenedig yna maent yn gallu symud at dasg arall neu i weithio ar heriau sy’n meithrin eu lles emosiynol.  Ond os nad yw’r darn wedi cyflawni’r disgwyliadau, yna mae’n bwysig bod y disgybl yn cael amser i ail-feddwl a rhoi cynnig arall arni. Mae ethos y dosbarthiadau yn annog y disgyblion i roi cynnig ar eu syniadau, gan ddysgu drwy eu llwyddiannau neu, yn bwysicach, drwy eu camgymeriadau.

Yn ystod yr hanner tymor gall tasgau ymestynol gael eu hychwanegu fel bo’r angen, er mwyn herio’r disgyblion ynmhellach. Er enghraifft, roedd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 wedi dylunio a chreu Tegan symudol gan ddefnyddio pŵer batri. Nawr bod y disgyblion yn deall cylched trydan, maent wedi gweithio ar greu cerdyn Nadolig sydd yn goleuo bwlb ‘LCD’ wrth agor a chau’r cerdyn, a chysylltu â thorri’r gylched.

Ar ddiwedd pob tasg, mae gofyn i’r disgyblion uwch-lwytho eu gwaith neu ffotograff o’u gwaith a’i werthuso ar apiau pwrpasol i’w hoedran. Wedi gwerthuso eu gwaith eu hunain, ar adegau maent wedyn yn gwerthuso gwaith eu cyfoedion fesul par neu ar y cyd fel dosbarth.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae bron bob disgybl yn hyderus wrth ddewis eu tasgau gan eu bod yn cael dewis yr hyn sydd o ddiddordeb iddynt. Maent yn dewis a chasglu eu hadnoddau’n ofalus ac yn ymwybodol o leihau gwastraff. Maent yn gweithio’n ddiogel ac yn hollol annibynnol ac yn gwybod pryd i ofyn am gymorth ac at bwy i droi, pan fo’r angen. Mae bron bod disgybl yn barod i fentro ac yn dal ati er mwyn gwella eu gwaith. Mae creadigrwydd ar draws y ddau ddosbarth wedi blodeuo wrth i’r disgyblion fynd ati i gwblhau’r un dasg mewn ffyrdd hollol wahanol. Oherwydd y gallu i ddewis tasgau sydd o ddiddordeb iddyn nhw, mae pawb ar dasg  ac mae hyn yn cynnal safon uchel o ymddygiad. Wrth werthuso gwaith mae’r disgyblion yn datblygu eu gallu i dderbyn adborth, a’i weld yn beth cadarnhaol. Maent hefyd yn magu hyder gan  gynnig adborth i’w cymheiriaid a  chanolbwyntio ar y pethau pwysig.
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae tair ysgol leol, o’n clwstwr, wedi bod i weld ein Prynhawniau Prysur a gwaith cynghorau’r 4 Diben. Mae ein Consortia, GwE a’r Esgobaeth yn ymwybodol o’n gweledigaeth i foderneiddio a pharatoi’r disgyblion am fyd sy’n newid.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Yn Caban Kingsland, mae hunanwerthuso wedi bod yn asgwrn cefn gwaith y lleoliad. Mae ymarferwyr yn adolygu eu harferion yn barhaus i sicrhau bod y broses yn parhau i adlewyrchu’r gwasanaeth ar hyn o bryd. Maent yn ystyried beth sydd wedi digwydd, ac yn rhannu syniadau i annog deilliannau lles, ymgysylltu ac addysgol ar gyfer pob un o’r plant yn eu gofal. Mae hyn yn cefnogi anghenion unigol pob plentyn ac yn galluogi’r tîm cyfan i ddeall y ffyrdd gorau posibl o greu darpariaeth sy’n ymateb i’r datblygiadau diweddaraf mewn addysg a gofal y blynyddoedd cynnar. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae’n hanfodol fod arweinwyr yn sicrhau perchnogaeth y staff cyfan ar y broses hunanwerthuso. Nid trefn sy’n cymryd amser ac ymdrech yn unig mohoni. Mae’n broses sy’n galluogi pawb i fyfyrio ar lwyddiannau ac agweddau sydd angen eu datblygu ymhellach. Ar y dechrau,

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Agorwyd Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir Penrhyn Dewi ym mis Medi 2018. Mae’r ysgol, sydd wedi’i lleoli ar draws tri champws, yn gwasanaethu cymuned wledig yn bennaf. Mae gan yr ysgol ethos cynhwysol cryf a adlewyrchir yn ei harwyddair, sef  “gwnewch y pethau bychain”. Mae 622 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd: 191 yn y sector cynradd a 431 yn y sector uwchradd. Mae tua 11% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a nodwyd bod gan 24% angen dysgu ychwanegol.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwasanaethu’r ysgol ag amgylchedd dysgu unigryw a naturiol, ac mae gan bob campws ei amgylchedd a’i gymuned ei hun. Cyn i’r ysgol agor, cynhaliodd y corff llywodraethol dros dro gyfres o gyfarfodydd cymunedol â rhanddeiliaid gan sefydlu gweithgor i ddatblygu’r amgylcheddau dysgu yn yr awyr agored. Mae wedi sefydlu cysylltiadau cryf â’r gymuned lle mae disgyblion yn rhyngweithio’n rheolaidd ag arlunwyr lleol, grwpiau cymunedol, busnesau fferm, a gwasanaethau cyhoeddus i ehangu eu profiadau dysgu. Fel aelodau o’r Fforwm Ysgolion Pob Oed, teithiodd staff i Sweden a Gwlad Yr Iâ i ymchwilio i fentrau dysgu yn yr awyr agored. Mae arlwy’r cwricwlwm ôl-14 yn cynnwys cyrsiau mewn Lletygarwch ac Arlwyo, Amaethyddiaeth, Peirianneg a Gofal Plant er mwyn ymateb i anghenion cyflogaeth lleol. Mae’r Eglwys Gadeiriol yn darparu adnodd unigryw i ddysgu am hanes, diwylliant, crefydd a chymuned, ac mae clerigwyr yn cyfrannu at ddatblygu cerddoriaeth a gwerthoedd Cristnogol.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Defnyddir y ‘cynefin’ yn gyfrwng i yrru dysgu. Er enghraifft, fe wnaeth cyllid o ‘Dysgu drwy Dirweddau’, hwyluso dysgu proffesiynol a chaffael adnoddau allweddol ar gyfer adeiladu cuddfan, offer cynnau tân a chwrs cyfeiriannu. O ganlyniad i ymchwil staff, cafodd strategaethau dysgu gomisiynau dilys. Mae datblygiad medrau disgyblion wedi’i gysylltu â’r pedwar diben. Mae dysgu wedi canolbwyntio ar themâu lleol a chenedlaethol, gyda disgyblion:

  • Yn cael eu comisiynu fel crewyr cynnwys i ymchwilio i, a chreu, gwefannau Olympaidd, er enghraifft wrth gyfweld â’r cyn-ddisgybl Jasmine Joyce, sy’n chwaraewr rygbi Olympaidd a Rhyngwladol o Gymru, ac ysgrifennu amdani.
  • Yn dod yn rheolwyr digwyddiadau ar gyfer digwyddiad Olympaidd ar Draeth Porth Mawr. Cafodd disgyblion eu hyfforddi gan gatrawd Corfflu Brenhinol y Signalau sydd wedi’u lleoli ym Mreudeth.
  • Yn creu timau cynyrchiadau theatr i lansio, marchnata, pennu costau, cynhyrchu a pherfformio The Lion King a chodi £3000 ar gyfer disgyblion o Wcráin yn yr ysgol.
  • Yn cynnal nifer o arddangosfeydd yn Oriel y Parc, (canolfan groeso), gan gynnwys arddangosfeydd celf a ‘Beth sy’n Gwneud Cymru’n Rhyfeddol’ (‘What makes Wales Wonderful’) 2022.
  • Yn gweithio ar gynaliadwyedd, bioamrywiaeth a ffermio mewnbwn sero a oedd yn cynnwys gweithdai gyda Car Y Môr, (y fferm gwymon a physgod cregyn fasnachol gyntaf yng Nghymru) ac ymweliadau ag Ynys Dewi gyda’r RSPB.
  • Yn cwblhau prosiectau gyda Fforwm Arfordirol Sir Benfro, Darwin Science a Dŵr Cymru ar newid hinsawdd a llygredd arfordirol.

Mae disgyblion yn ymweld yn rheolaidd ag Erw Dewi (gardd gymunedol gynaliadwy leol) a Lower Treginnis, Farms for City Children, i helpu tyfu, pwyso a phecynnu cynnyrch sy’n cael ei werthu er budd y banc bwyd lleol. Mae dysgu wedi cynnwys dylunio maes chwarae naturiol, ‘bio blitzes’ a dysgu am brosesau bywyd.

Mae disgyblion yn defnyddio adnoddau cymunedol yn ystod ‘Dydd Iau Gwefreiddiol’ (‘Thrilling Thursday’). Mae hyn yn cynnwys sefydlu siopau dros dro i werthu eitemau a grewyd yn yr ysgol. Ceir ‘parthau sy’n rhydd rhag sbwriel’ ar y cyd â Caru Cymru (Cadwch Gymru’n Daclus) ac mae disgyblion yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol rheolaidd i godi sbwriel fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus.

Mae gan gymuned yr ysgol gysylltiadau cryf yn fyd-eang. Cynhaliwyd ‘taith rithwir’ â Lesotho ym mis Gorffennaf 2022 a ‘Diffodd y Pŵer ar Benrhyn y Gogledd’ cyn ymweld ag ysgol bartner yn Lesotho, i gydweithio a gyrru dysgu ar nodau datblygu cynaliadwy a lles disgyblion. Bu disgyblion o’r ysgol yn cymryd rhan mewn taith gyfnewid gyda disgyblion o Wexford i ddysgu am y dreftadaeth, y bererindod a’r diwylliant a rennir.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r profiadau dysgu hyn yn niwtral o ran cost ac felly’n gynhwysol. Mae ‘cynefin’ wedi bod yn gyfrwng i ysbrydoli a gwella agweddau at ddysgu. Mae’r gweithgareddau hyn wedi darparu platfform difyr ar gyfer datblygu’r pedwar diben a medrau disgyblion. Pan ymgorfforir ‘cynefin’ neu ddysgu yn yr awyr agored, mae cynllunio ar gyfer dysgu yn gadarn ac yn hwyluso cynnydd cryf, mae ansawdd yr addysgu yn gyson uchel, a thros gyfnod, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu. Mae defnydd dychmygus o’r ‘cynefin’ yn galluogi disgyblion i ddysgu mewn cyd-destunau dilys. Mae arweinwyr yn cynllunio’r cwricwlwm yn strategol i ddisgyblion hŷn astudio ystod eang o gymwysterau addas sy’n gwneud defnydd gwerthfawr o’r ardal leol, ei hadnoddau a’i chyflogwyr.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Prif nod y ganolfan iaith ydy cynnig addysg drochi lwyddiannus a hwyliog i ddisgyblion newydd yr Ynys. Gwneir hyn trwy gynnig cwrs llawn, cwrs ôl ofal, cwrs cyn canolfan, cefnogaeth wyneb yn wyneb a ddigidol i athrawon ac ysgolion y sir, cynhyrchu a rhannu adnoddau ac wrth gwrs unrhyw hyfforddiant pwrpasol.

Mae’r ganolfan iaith ym Môn yn datblygu darpariaeth ar gyfer newydd-ddyfodiaid i’r iaith trwy;

  • Gynnal cwrs trochi llawn amser mewn dwy ganolfan iaith (Moelfre a Cybi)
  • Paratoi a chyflwyno cynllun newydd ar gyfer dosbarthiadau’r cyfnod sylfaen
  • Paratoi a chyflwyno cefnogaeth i ysgolion uwchradd y sir
  • Cynnig ôl ofal i gyn disgyblion y ganolfan (uwchradd a chynradd)
  • Cyflwyno adnoddau yn ddigidol sydd wedi eu hanelu at newydd-ddyfodiaid; i’w defnyddio yn ein hysgolion ar gyfer disgyblion yn yr ysgolion lleol
  • Adnoddau digidol
  • Cynnig hyfforddiant
  • Ap (wrthi’n cael ei chynllunio).

Cwrs trochi llawn amser

Cynigir  y cyfle gorau bosib i’n newydd-ddyfodiad trwy drefnu lle ar gyfer hyd at 16 o ddisgyblion ymhob canolfan pob tymor. Bydd y disgyblion yn cael eu haddysgu’n llawn amser am hyd at 12 wythnos gan ddwy athrawes, un athrawes i bob 8 plentyn. Cyflwynir cynllun pwrpasol wedi ei strwythuro’n ofalus i gyflwyno’r iaith mewn ffordd fyrlymus a dwys –  “Cynllun y Llan”. Y nod yw bod 80% o newydd-ddyfodiaid wedi cyrraedd Lefel 2 neu uwch (mam iaith) llafar a 75% wedi cyrraedd lefel 2 neu uwch darllen ac ysgrifennu erbyn diwedd y cwrs.

Mae canlyniadau’r ddwy Ganolfan yn gyson gadarnhaol. Ar ddiwedd pob tymor rhennir holiaduron â  phenaethiaid ac mae’r  penaethiaid yn nodi datblygiad amlwg yn lefelau Cymraeg disgyblion sydd wedi bod yn y Ganolfan Iaith.

Ôl Ofal

Fel dilyniant i’r cwrs trochi byddwn yn ail ymweld â newydd-ddyfodiaid y ganolfan yn flynyddol trwy ymweld â’r fam ysgol a chynnig sesiynau ôl ofal. Cyflwynir unedau gwaith ychwanegol o’r cynllun fel gweithgareddau ôl Ofal. Bydd athrawon o’r ddwy ganolfan yn cyflwyno sesiynau byrlymus o hyd at awr, unwaith yr wythnos yn y fam ysgol. Er mwyn mesur effaith y gwaith yma byddwn yn anfon holiaduron i’r ysgolion ar ddiwedd y cyfnod ac yn ymweld ag ysgolion i wirio dilyniant ieithyddol y disgyblion. Mae pob un ymateb yn bositif ac athrawon dosbarth yn gweld hyder y Newydd-ddyfodiaid yn ymestyn ymhellach yn dilyn y sesiynau yma.

Cynigir y cynllun ôl ofal yn arferol yn ystod tymor yr haf.

Bydd yr athrawon sydd ar ôl yn y ganolfan yn cynnig cwrs gloywi i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 sydd yn ddihyder yn y Gymraeg. Dyma’r disgyblion sydd o bosib wedi cyrraedd y Cyfnod Sylfaen yn niwedd Blwyddyn 1 neu ym Mlwyddyn 2 a ddim wedi cael cyfle i lwyr ymdrochi yn yr iaith.

 

Cynllun Newydd Cyfnod Sylfaen

Mae’r awdurdod yn cyfarch barn rhanddeiliaid yn gyson. Er enghraifft wrth drafod gyda chydlynydd iaith ysgolion dalgylch Caergybi,   nodwyd  pryder ynglŷn ag iaith disgyblion Cyfnod Sylfaen yn dilyn y cyfnod clo. O ganlyniad, mae athrawon y Ganolfan wedi creu a chyflwyno cynllun unigryw sydd wedi ei gyflwyno yn nalgylch Cybi yn ystod tymor gwanwyn 2022. Roedd bron bob un ysgol yn nalgylch Cybi yn rhan o’r prosiect. Gwelwyd athrawes o’r ganolfan yn arddangos gwersi trochi byrlymus ar lawr dosbarth gan rannu amrywiol ddulliau a thechnegau trochi yn ystod y gwersi. Roedd athrawon a cymhorthyddion yn arsylwi yn ystod y gwersi ac roedd gan yr ysgol fynediad digidol at yr adnoddau a’r cynlluniau er mwyn datblygu’r gwaith.

Yn dilyn llwyddiant y cynllun fe gyflwynwyd y sesiynau yn ysgolion cynradd dalgylch Syr Thomas Jones yn ystod tymor Hydref 2022. Y bwriad yw cydweithio ac arddangos gwersi ymhob dalgylch ar yr ynys.

Cefnogaeth Uwchradd

Cynigwyd ôl ofal a chefnogaeth i ddisgyblion holl ysgolion uwchradd o dymor y Gwanwyn 2022. Mae athrawon o’r ganolfan yn teithio o gwmpas pob ysgol uwchradd yn cynnig sesiynau yn wythnosol ac yn rhannu cynlluniau a syniadau mewn dosbarth digidol pwrpasol. Mae athrawes o’r ganolfan yn gweithio’n agos efo pob ysgol uwchradd ac yn ymateb i anghenion pob ysgol yn unigol gan gynnig sesiynau ôl ofal neu sesiynau trochi yn ól yr angen. Mae ymateb y penaethiaid uwchradd i’r gefnogaeth yma yn hynod o bositif. Y bwriad yw defnyddio’r arian grant er mwyn ehangu a datblygu’r gefnogaeth yma ymhellach.

Cynllun cyn canolfan

Bydd rhestr aros o ddisgyblion  am fynediad i wasanaeth y ganolfan. Fel cefnogaeth i’r disgyblion a’r ysgolion hynny, rhennir cynllun cyn canolfan. Mae mynediad gan bob ysgol trwy ddolen i ddosbarth digidol. Mae hyn yn golygu bod y cynllun ar gael i’r disgyblion yn ôl yr angen. Cyflwynir chwe uned o waith yn ddigidol gan gynnwys gweithgareddau llafar yn ogystal â gemau. Byddwn yn diweddaru a datblygu’r cynllun yma’n flynyddol. Mae’r unedau gwaith yma yn rhoi sylfaen gadarn i’r disgyblion cyn derbyn cwrs trochi llawn.

 

Adnoddau digidol

Nid oedd cynnal cyrsiau llawn na chynnig ôl ofal wyneb-yn-wyneb yn bosib yn ystod  cyfyngiadau’r pandemig. Fel ymateb i’r cyfnod clo a’r angen am ddysgu o bell, crëwyd dosbarth digidol newydd oedd yn cynnwys adnoddau rhyngweithiol efo cymorth llafar ar gyfer rhieni. Roedd yr adnoddau yma ar gael i holl ysgolion Môn a chafwyd ymateb cadarnhaol i’r adnoddau gan benaethiaid ac athrawon. Mae’r dosbarth bellach yn parhau i dyfu ac yn cynnwys adnoddau thematig yn ogystal ag adnoddau sydd yn cyflwyno ac adolygu patrymau iaith ar lawr y dosbarth.

Mae’r dosbarth bellach ar gael i ysgolion fedru pori a dewis gweithgareddau yn ôl yr angen. Ceir hefyd cynllun syml ac adnoddau fel arweiniad i gyflwyno patrymau iaith trwy’r ‘Ysgol Camau Clebran’. Mae’r ddolen i’r dosbarth yma bellach wedi ei rhannu ag athrawon ar draws y sir yn sgil ymweliadau gan athrawon trochi iaith o wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Hyfforddiant

Yn dilyn y cyfnod clo a’r diffyg cyfleoedd oedd disgyblion ein hysgolion wedi eu cael i ymarfer a defnyddio’r Gymraeg, gwelwyd yr angen am hyfforddiant dulliau trochi i staff ysgolion. Er mwyn i’r hyfforddiant yma fod ar gael yn syml ac yn gyfleus ynghanol amser heriol iawn i staff ysgolion penderfynwyd creu dosbarth digidol newydd. Yn y dosbarth cynigir clipiau hyfforddiant trochi. Mae mwy o glipiau yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd. Mae athrawon y ganolfan yn ymweld ag ysgolion ac yn cynnig hyfforddiant trochi wyneb-yn-wyneb yn ôl dymuniad yr ysgol. Mae canolfan iaith Môn wedi cydweithio efo Canolfan Bedwyr ers sawl blwyddyn wrth gynnig sesiynau hyfforddiant trochi ar gyfer cymhorthyddion siroedd y Gogledd, sef ‘Y Cynllun Sabothol Cenedlaethol.’ Cafwyd ymatebion cadarnhaol iawn i’r sesiynau drwy brosesau gwerthuso y brifysgol.

Ap

Fel ymateb i’r angen am adnoddau cyfoes ar gyfer ein newydd-ddyfodiaid defnyddiwyd rhan o arian y grant trochi i ddechrau creu adnodd newydd pwrpasol ar gyfer dysgwyr. Rhennir arbenigedd athrawon canolfannau iaith Môn efo cwmni lleol er mwyn datblygu ap pwrpasol ar gyfer newydd-ddyfodiaid. Bydd yr ap yma ar gael yn fuan ac yn llawn adnoddau a gweithgareddau byrlymus.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Mae Gwasanaeth Dysgu awdurdod Ynys Môn wedi gwneud camau breision yn ystod y tair blynedd diwethaf. Mae’r ail-strwythuro bwriadus i ychwanegu nifer yr Uwch Reolwyr wedi caniatáu i’r Gwasanaeth Dysgu gyflogi Uwch Reolwr sydd â chyfrifoldeb  penodol ar gyfer cydlynu a gwarchod lles dysgwyr. Mae uwch arweinwyr y Gwasanaeth Dysgu yn gosod pwyslais mawr ar hybu lles plant a phobl ifanc yr ynys; yn cydweithio’n agos a llwyddiannus gyda gwahanol adrannau o fewn yr awdurdod yn llyfn a heb unrhyw ffiniau.

Mae diwylliant cryf o gynllunio gwasanaethau sydd yn cyfateb yn agos â’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Mae’r Gwasanaeth Dysgu wedi datblygu ethos a meddylfryd ‘Tîm Môn’ lle mae cydweithio a chyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, ei feithrin a’i ddefnyddio er budd plant a phobl ifanc yr ynys.

O fewn y Gwasanaeth Dysgu penodwyd Uwch Swyddog i roi sylw penodol ar hyrwyddo llesiant ac i gydweithio ar draws gwasanaethau a phartneriaethau. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolog i holl gynlluniau’r gwaith. Mae ysgolion yn ymwybodol sut mae eu cyfraniadau i arfogi darpariaeth gynhwysol yn eu hysgolion yn cyfrannu o fewn cyd-destun ehangach mewn blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol.  

Mae’r egwyddor o weithio yn ataliol yn greiddiol i holl waith yr awdurdod. Er enghraifft mae dull integredig o gyd weithio wedi sicrhau bod teuluoedd mewn angen yn derbyn mynediad cyflym at fanciau bwyd.

Mae’r cydweithio cryf rhwng gwahanol adrannau ac asiantaethau yn darparu un profiad integredig o gefnogaeth i holl ddysgwyr y Sir gan gynnwys disgyblion sydd mewn perygl o ymddieithrio, a’u teuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Dysgu yn cydweithio’n gynhyrchiol â phartneriaid gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, swyddogion lles, gwasanaeth cynhwysiad Gwynedd a Môn a gwasanaethau ieuenctid.  Maent yn gweithio’n  rhagweithiol i atal problemau yn gynnar er mwyn ymateb i anghenion dysgwyr bregus sy’n arddangos symptomau gôr bryder i annog presenoldeb.

Mae ‘Hwb Ymyrraeth Gynnar’ sy’n cynnwys oddeutu ugain o asiantaethau gwahanol, yn fodd da o gydweithio a chydgynllunio cefnogaeth effeithlon i ddysgwyr bregus a’u teuluoedd, heb ddyblygu’r gefnogaeth yn ddiangen. Mae hyn yn ei dro yn sicrhau bod plant a phobl ifanc Môn yn gallu parhau gyda’u haddysg yn yr ysgol ac mae gwaharddiadau oherwydd ymddygiadau gwrth gymdeithasol yn lleihau.

Mae ffocws cryf ar ddatblygu ymwybyddiaeth holl ymarferwyr o drawma, ac effaith trawma ar blant a phobl ifanc. Mae hyfforddiant yn cael ei gydlynu ar sawl lefel gan gynnwys athrawon a chymhorthyddion mewn ysgolion a lleoliadau nas gynhelir yn ogystal â rhan ddeiliad eraill o fewn y cyngor sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.  Mae’r ymarfer hwn wedi arfogi’r gweithlu i allu cyfathrebu’n glir wrth drafod effaith profiadau niweidiol ar ddatblygiad, hunanddelwedd a hyder unigolion.

Mae’r strategaeth ataliol yn sicrhau bod swyddog ieuenctid ym mhob ysgol uwchradd yr ynys. Maent yn hwyluso’r gwasanaeth ‘galw mewn’ i ddysgwyr ac yn cefnogi darpariaeth addysg bersonol a chymdeithasol. Yn ogystal maent yn paratoi cyrsiau at gyflogaeth i ddysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio er mwyn iddynt ennill cymwysterau a phrofiadau amgen. Darparwyd unedau Agored Cymru, Tystysgrif John Muir a Chymorth Cyntaf.  Mae gweithwyr ieuenctid yn sicrhau fod gan bob ysgol uwchradd grŵp lesbiaid, hoyw, deurywiol  thrawsrywiol a chydraddoldeb +  (LHDTC+)   wedi eu sefydlu ac mae clybiau ieuenctid min nos yn cryfhau’r cyswllt i bobl ifanc o weithgareddau yn y gymuned a chyswllt ysgol. O ganlyniad mae prosiectau fel  ‘Prison Me No Way’ a ‘Gangs Getaway wedi cael dylanwad o fewn y cymunedau. 

Mae cynllun ‘Y Daith i Saith,’ gan y Tîm Cefnogi Teuluoedd yn hyrwyddo datblygiad a lles y plant ieuengaf, ac yn cael ei ddatblygu ar y cyd gydag amrediad o ran ddeiliaid gan gynnwys gwasanaeth iechyd a grŵp o ysgolion cynradd. O ganlyniad mae’r gwaith yma’n cryfhau ethos Ysgol Bro a’r strategaeth ataliol yn gynnar ac yn rhoi’r cyfle gorau i blant ar hyd eu taith dysgu. 

Mae’r Gwasanaeth Dysgu’n sicrhau cyswllt cryf rhwng blaenoriaethau cenedlaethol, rhanbarthol a chorfforaethol ynghylch llesiant a’r gwaith ymarferol ac ataliol sy’n digwydd mewn lleoliadau nas cynhelir ac ysgolion ar draws yr awdurdod. Mae’r cydweithio agos gyda gwahanol adrannau o fewn yr awdurdod yn hwyluso gwaith ysgolion o sicrhau bod y ddarpariaeth gynhwysol ar lawr y dosbarth yn hylaw.   Mae’r strategaeth gorfforaethol o ddarparu hyfforddiant i wella dealltwriaeth ymarferwyr o effaith trawma a phrofiadau niweidiol mewn plentyndod ar gyflawniad a lles disgyblion yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y ddarpariaeth mewn ysgolion a bellach ar draws gwasanaethau.

Un o gryfderau’r gwaith cydlynus yw’r modd mae’r gwasanaeth Dysgu yn llwyddo  cynnwys penaethiaid mewn fforymau gwahanol er mwyn canfod eu barn, dylanwadu,  siapio a chynllunio darpariaeth newydd. Er enghraifft, mae Pencampwyr Diogelu wedi llwyddo i godi statws gwaith ataliol o fewn maes diogelu ar draws eu clystyrau ac o ganlyniad i hynny:

  • mae pob ysgol yn cyflwyno cyfeiriadau diogelu safonol pan mae pryder yn codi
  • mae buddsoddiad mewn platfform electroneg safonol wedi rhoi cysondeb i gofnodi achosion o bryder ar draws y Sir
  • mae pob ysgol wedi mabwysiadu arddulliau wybodus i drawma cadarn sy’n gweddu ag ethos diogelu da.

Yn ychwanegol i hyn mae ysgolion yn gweithredu’n  hyderus i wneud cyfeiriadau at Hwb Ymyrraeth Gynnar Gwasanaethau Plant ar y cyd gyda rhieni pan yn briodol. Mae hyn oll yn cryfhau gwaith ataliol mewn ysgolion ac mae ymrwymiad pharhaus i warchod a gwella lles dysgwyr. O ganlyniad, mae’r disgyblion sydd fwyaf bregus yn derbyn y cyfleoedd gorau i ymgysylltu gyda’u haddysg.

 

 

 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Greenhill yn ysgol arbennig, a gynhelir gan Gyngor Dinas Caerdydd, sy’n cynnig addysg ddydd i 66 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed. Mae gan bob un o’r disgyblion ddatganiad o anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â’u hanawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae gan lawer o ddisgyblion anawsterau dysgu penodol a all gynnwys dyslecsia, dyspracsia neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Mae gan ychydig o ddisgyblion anghenion meddygol penodol hefyd. 

Mae bron pob un o’r disgyblion yn byw yng Nghaerdydd a daw ychydig iawn ohonynt o awdurdodau cyfagos. Ar hyn o bryd, mae pob un o’r disgyblion ar y gofrestr yn fechgyn. Daw tuag un o bob pump o’r disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Mae ychydig iawn o’r disgyblion dan ofal eu hawdurdod lleol. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol. Nid oes unrhyw un o’r disgyblion yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd fel eu hiaith gyntaf. Mae tuag 80% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Gweledigaeth a gwerthoedd yr ysgol yw’r grym y tu ôl i’r holl ryngweithiadau, mentrau a datblygiadau yn yr ysgol. Y weledigaeth yw creu amgylchedd ysgol lle mae disgyblion:

  • yn hapus, yn ddiogel, yn sicr ac yn cael cyfle i ddatblygu eu talentau
  • yn ffynnu mewn cymuned ofalgar a chefnogol
  • wedi’u harfogi â’r medrau i’w helpu i fod y gorau y gallant fod er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol i gymdeithas

Mae’r nodau hyn yn ffurfio sail i werthoedd yr ysgol, sef perthnasoedd, parch a chyfrifoldeb ac yn lliwio pob sgwrs rhwng oedolion a disgyblion yn yr ysgol.

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar y rhan fwyaf o’r disgyblion. O ganlyniad, mae darparu offer sylfaenol a gwisg ysgol yn rhoi pwysau economaidd ychwanegol ar gyllid teuluoedd y disgyblion. Mae’r staff a’r llywodraethwyr wedi penderfynu darparu ystod eang o brofiadau i ddisgyblion lle nad oes unrhyw rwystrau ariannol rhag cymryd rhan. Ym mis Ionawr 2020, penderfynodd y corff llywodraethol ddarparu prydau ysgol am ddim i’r holl ddisgyblion. 
 

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae ystod eang o strategaethau i sicrhau bod yr ysgol yn cynnig y gallu i ddisgyblion fanteisio’n llawn ar bob profiad addysgol. Mae’r uwch dîm arweinyddiaeth wedi chwarae rôl weithredol iawn mewn sicrhau cyllid grant a rhoddion i elusen yr ysgol. Mae arweinwyr a staff yn credu’n gryf fod gweithgareddau addysg awyr agored ac ymweliadau i leoedd o ddiddordeb diwylliannol yn rhan hanfodol o gyflawni gweledigaeth yr ysgol. I’r perwyl hwnnw, mae’r pennaeth, wedi’i gefnogi gan bwyllgor cyllid y corff llywodraethol, yn sicrhau bod rhan sylweddol o’r gyllideb yn cael ei neilltuo i hwyluso hyn ac i dalu i brynu a chynnal a chadw fflyd yr ysgol o bum cerbyd. Mae’r ysgol hefyd wedi datblygu partneriaeth â Chanolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms, gan gyflogi dau o’i staff am dridiau’r wythnos i gynorthwyo ag ymagwedd yr ysgol tuag at y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r holl fwyd yn yr ysgol yn cael ei ddarparu’n rhad ac am ddim ac yn cynnwys brecwast, byrbrydau iach a phrydau amser cinio. Mae’r ysgol yn cyflogi cogydd sy’n darparu bwydlen ddyddiol o fwyd iachus sy’n bodloni gofynion dietegol unigol pob disgybl.

Mae’r wisg ysgol yn ddewisol. Fodd bynnag, mae’n rhad ac am ddim i’r disgyblion sydd eisiau ei gwisgo. Mae hyn hefyd yn ymestyn i’r cit chwaraeon, cit arbenigol ar gyfer gweithgareddau awyr agored a dillad gwaith penodol ar gyfer profiad gwaith. Pan fydd angen dillad newydd ar ddisgybl, cânt eu darparu’n gyfrinachgar a chaiff anghenion unigol eu bodloni. Caiff y disgyblion eu hannog i ymfalchïo yn y ffordd maent yn edrych ac mae barbwr yr ysgol yn torri eu gwallt yn rhad ac am ddim.

Mae cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol yn gryf ac yn gefnogol dros ben. Mae’r ysgol yn cynnal boreau coffi rheolaidd â rhieni i helpu i feithrin perthynas waith gadarnhaol. Mae’r cyfleoedd hyn yn datblygu dealltwriaeth rhieni a chefnogaeth ar gyfer anghenion cymdeithasol ac emosiynol plant yn fuddiol. Pan fydd rhiant yn ei chael hi’n anodd trefnu trafnidiaeth, mae’r ysgol yn ei darparu ar ei gyfer. Yn ystod y pandemig, defnyddiwyd arian a godwyd a rhoddion bwyd a ddarparwyd gan siopau lleol i ddarparu parseli bwyd i deuluoedd mewn angen yng nghymuned yr ysgol. Mae’r arfer lwyddiannus hon yn parhau ar gyfer y teuluoedd hynny sydd mewn angen. Mae’r awdurdod lleol hefyd wedi darparu gliniadur i bob disgybl i gefnogi dysgu.
 

Ymweliadau a phrofiadau addysgol

Mae ‘ymweliadau lles’ bob wythnos i leoedd amrywiol o harddwch naturiol neu ddiddordeb diwylliannol. Ffocws yr ymweliadau hyn yw datblygu perthnasoedd cadarnhaol a medrau cyfathrebu cymdeithasol priodol. Er enghraifft, aethpwyd â disgyblion nad oeddent erioed wedi teithio ar awyren nac wedi aros mewn gwesty i Gaeredin am ymweliad deuddydd fel gweithgaredd pontio o gyfnod allweddol 4 i gyfnod allweddol 5. Ariannwyd hyn yn llawn gan yr ysgol. 

Mae addysg awyr agored yn rhan hanfodol o waith yr ysgol. Mae’r cwricwlwm yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddysgu a mwynhau amgylchedd naturiol Cymru trwy raglen COED (Datblygiad Addysg Awyr Agored Creadigol neu Creative Outdoor Education Development) yr ysgol. Mae pob plentyn yn cael profiad o’r cwricwlwm llawn trwy ymweliadau, gweithgareddau a phrofiadau ledled Cymru. Mae ymweliadau preswyl yn cynnwys alldeithiau i Barc Cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog, canŵio ar afon Gwy, datblygu medrau gwersylla yn Henffordd, pysgota yn Ninbych-y-pysgod, gweithgareddau yn Storey Arms fel ogofa, padlfyrddio, cyfeiriannu, rafftio dŵr gwyn a syrffio. Mae pob un o’r disgyblion yn cael cyfle i fynychu un o’r ymweliadau preswyl sy’n cael eu hariannu’n llawn gan yr ysgol. Mae’r ysgol hefyd yn cynnig cyfle i ddisgyblion astudiaeth cerddoriaeth, coginio prydau bwyd i’r teuluoedd ac astudio cyrsiau galwedigaethol heb unrhyw gost i’r disgyblion.

Adeg y Nadolig, gall pob disgybl ddewis anrheg i fynd adref iddyn nhw’u hunain ac mae’r ysgol yn trefnu raffl lle mae’r holl ddisgyblion yn dewis rhoddion ar gyfer brodyr a chwiorydd neu aelodau eraill o’r teulu. Mae’r ysgol hefyd yn trefnu helfa wyau Pasg adeg y Pasg.

Mae datblygu medrau cymdeithasol yn rhan bwysig o’r gwaith yn Greenhill ac eir â disgyblion i fwytai fel rhan o’r gwaith hwn. Un o nodau eraill yr ysgol yw i bob disgybl gael profiad o’r celfyddydau a theatr – er enghraifft, mae disgyblion wedi mynychu perfformiadau o Matilda a Bugsy Malone yng Nghanolfan y Mileniwm. Caiff yr holl weithgareddau hyn eu hariannu gan yr ysgol.

Cymwysterau a medrau bywyd

Mae’r ysgol yn sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael ystod o brofiadau cadarnhaol i helpu i ddatblygu hunanhyder, sy’n eu paratoi’n dda ar gyfer y camau nesaf yn eu bywydau. Caiff disgyblion eu haddysgu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gyda staff yn mynd gyda disgyblion ar deithiau y bydd yn ofynnol iddynt eu gwneud fel rhan o fywyd bob dydd. Caiff cost y drafnidiaeth hon i staff a disgyblion ei hariannu gan yr ysgol. Mae disgyblion hŷn yn gwneud cais am drwyddedau gyrru dros dro, yn cael eu hyfforddi ar gyfer profion theori gyrru ac yn cael profiadau gyrru heb unrhyw gost i’r teuluoedd.

Mae disgyblion yn ennill cymwysterau mewn dringo a gyrru beiciau modur, yn ogystal â chymwysterau mwy traddodiadol fel medrau coginio’r cartref, medrau sy’n canolbwyntio ar waith fel tystysgrif mewn hyfforddiant Barista, medrau adeiladu a phrofiad gwaith ag Is-adran Parciau’r Awdurdod Lleol mewn cynllunio gerddi. Mae disgyblion hefyd yn cael cyfle i ennill gwobr efydd ac arian Dug Caeredin. Caiff disgyblion eu hannog yn weithredol i ddod o hyd i leoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ar ôl cyfnod allweddol 5 a chânt gymorth ychwanegol â’u dewisiadau gyrfa neu addysg uwch. Caiff disgyblion sy’n dewis peidio ag aros yn narpariaeth cyfnod allweddol 5 yr ysgol eu hebrwng i amrywiaeth o leoedd hyfforddiant neu gyflogaeth nes byddant yn teimlo’n hyderus am eu penderfyniad.
 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Bu effaith yr ymagwedd hon tuag at ariannu yn sylweddol. Caiff lles yn yr ysgol ei fonitro’n ofalus ac mae data’n dangos bod rhwystrau bron pob un o’r disgyblion rhag dysgu wedi lleihau a bod eu medrau rhag gymdeithasol wedi cynyddu. Bu lleihad yn nifer y digwyddiadau negyddol ar draws yr ysgol dros y tair blynedd diwethaf ac mae gwaharddiadau wedi lleihau’n sylweddol.

Oherwydd y perthnasoedd gwell a’r ymddiriedaeth a ddatblygwyd trwy’r profiadau niferus a ddarperir gan yr ysgol, mae bron pob un o’r disgyblion yn dangos mwy o ffocws ar eu dysgu yn y dosbarth ac mae eu sgorau darllen a rhifedd wedi cynyddu. Maent hefyd yn dangos agweddau gwell at ddysgu. Mae disgyblion hefyd yn dangos gallu cynyddol i reoli eu hemosiynau o ganlyniad i’r ffaith yr ymddiriedir ynddynt wrth gymryd rhan mewn campau eithafol a gweithgareddau. Mae disgyblion hŷn yn cynnig cymorth ac yn eistedd â disgyblion iau sydd wedi methu rheoli eu hemosiynau ac yn rhannu strategaethau maent yn eu defnyddio i’w rheoli.

Mae amgylchedd digynnwrf yn yr ysgol ac mae ymddygiad yn ystod amseroedd egwyl a chinio wedi gwella’n sylweddol. Mae perthnasoedd cadarnhaol rhwng staff a disgyblion a pharodrwydd i rannu teimladau. Mae hyfforddiant staff mewn arfer sy’n ystyriol o drawma wedi cefnogi newid diwylliant cadarnhaol ac ethos gwell yn yr ysgol. Mae trin cadarnhaol wedi lleihau dros y tair blynedd diwethaf.
 

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Mae gan yr ysgol ‘Statws Blaenllaw’ ar gyfer y Marc Ansawdd Cynhwysiant ac mae wedi rhannu ei harfer trwy gyfarfodydd Teams rheolaidd â llawer o ysgolion sy’n perthyn i’r rhwydwaith cenedlaethol hwn. Mae gan yr ysgol bolisi drws agored ac mae’n croesawu ymweliadau gan sefydliadau addysgol eraill ac mae ysgolion arbennig ac UCDau eraill yng Nghaerdydd a’r Fro wedi ymweld â hi. Gwahoddwyd yr ysgol i gynhadledd genedlaethol TIS Wales hefyd i rannu ei harfer â chynulleidfa eang ac fe’i cynhwyswyd fel astudiaeth achos ar gyfer arfer sy’n ystyriol o drawma â disgyblion yng nghyfnod allweddol 5. Yn fwy diweddar, gwahoddwyd yr ysgol i rannu ei thaith er wefan TIS UK.
 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Information about the setting

Agorodd Wriggles and Giggles yn 2011. Sefydlwyd y feithrinfa ym 1986 ar safle hen gyfnewidfa ffôn ar un llawr. Mae’r feithrinfa wedi meithrin enw da rhagorol dros y blynyddoedd o ran ymroddiad a phroffesiynoldeb ei staff.

Mae’r lleoliad wedi’i gofrestru ar gyfer 42 o leoedd amser llawn i blant o’u geni hyd wyth oed ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 7.30am a 5.30pm. Mae’n cynnig gwasanaeth cofleidiol sy’n cludo plant yn ôl ac ymlaen o ysgolion cynradd lleol. Adeg yr arolygiad, roedd 16 o b