Arfer effeithiol Archives - Page 16 of 69 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Tŷ Gwyn yn rhan o’r Western Learning Federation sy’n gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Riverbank ac Ysgol Woodlands. Mae Ysgol Tŷ Gwyn yn ysgol arbennig yn awdurdod lleol Caerdydd. Mae 222 o ddisgyblion 3-19 oed ar y gofrestr. Nodir bod gan bob un o’r disgyblion anghenion dysgu ychwanegol. Mae anghenion dysgu ychwanegol y disgyblion yn amrywiol; mae tua 36% o ddisgyblion yn awtistig ac mae gan 35% arall anawsterau corfforol a meddygol. Mae gan weddill y disgyblion amrywiaeth o anawsterau dysgu, gan gynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau dysgu difrifol, ac anawsterau dysgu cymedrol a chyffredinol. Yn ychwanegol, mae gan ychydig o ddisgyblion namau ar y synhwyrau.

Mae 29 o ddosbarthiadau yn yr ysgolion, ac mae un ohonynt yn ddosbarth meithrin. Mae 45.8% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Mae 32% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, sydd gryn dipyn uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 6%.

Cyd-destun a chefndir

Y nod y tu ôl i’n Prosiect Celfyddydau Mynegiannol oedd defnyddio’r celfyddydau, yn enwedig drama, i helpu lleihau gorbryder ynghylch apwyntiadau meddygol, digwyddiadau bywyd go iawn a datblygu medrau bywyd ar gyfer y disgyblion yn Ysgol Tŷ Gwyn.

Mae gan lawer o’n disgyblion anghenion dysgu ac anghenion iechyd cymhleth, ac maent yn aml yn mynychu amrywiaeth o apwyntiadau yn gysylltiedig ag iechyd. Gall hyn fod yn gyfnod hynod bryderus i ddisgyblion a rhieni, fel ei gilydd, fel y gall apwyntiadau fel ymweld â’r siop trin gwallt, y deintydd a’r optegydd, hefyd. Yn ychwanegol, mae gweithgareddau bob dydd fel gwisgo a mynd i siopa yn gallu bod yn her i rai o’n disgyblion. Mae cynorthwyo disgyblion i ddatblygu medrau bywyd yn flaenoriaeth allweddol ar draws yr ysgol.

Rydym yn darparu cyfleoedd i ddisgyblion archwilio’r gwrthrychau y gallent ddod ar eu traws yn ystod yr ymweliadau hyn. Rydym yn defnyddio drama a gweithgareddau creadigol eraill i’w paratoi ar gyfer apwyntiadau yn y dyfodol.

Disgrifiad

Datblygwyd ein dull ar y cyd â seicolegwyr, nyrsys ysgol a chydweithwyr o’r tîm dysgu ac anableddau. Trafodom yr heriau y mae ein disgyblion a’n teuluoedd yn eu hwynebu wrth fynychu apwyntiadau, a sut gallem ni wneud eu profiadau yn llai   trawmatig. 

Creom gronfa o weithgareddau ac adnoddau a ddefnyddiwyd i ddadsensiteiddio disgyblion ar gyfer ymweliadau â’r meddyg, y deintydd, y siop trin gwallt a thripiau siopa, er enghraifft. Roedd y gweithgareddau a grëwyd yn cynnwys sgriptiau drama synhwyraidd, syniadau ar gyfer chwarae rôl, gweithgareddau celf, sesiynau synhwyreg, cylchedau synhwyraidd, storïau cymdeithasol a gweithgareddau cerddoriaeth. Hefyd, helpodd tîm nyrsio’r ysgol greu fideos i ddangos rhywun yn cael ei bwyso a’i fesur, cymryd tymheredd a monitro pwysedd gwaed.

Mae’r gweithgareddau ar gael i bob dosbarth eu defnyddio mewn ffordd sy’n gweddu orau i’w dosbarthiadau.

Roedd rhai o’r adnoddau a archebom yn cynnwys doliau wedi’u creu yn arbennig a oedd yn adlewyrchu rhai o gyflyrau meddygol ein disgyblion, er enghraifft doliau â gastrostomïau trwynol, bagiau stoma, a chitiau diabetes. Defnyddiom gopïau o rai o’r offer a ddefnyddir gan y nyrsys ysgol hefyd, fel siartiau taldra a chlorian, dillad doli, clipwyr triniwr gwallt, bwyd ac adnoddau siopa a llawer mwy! Roedd y nyrsys yn gallu darparu offer wedi dyddio, nad oeddent yn cael eu defnyddio, fel chwistrellau, tiwbiau bwydo a blychau meddyginiaeth gwag i ddisgyblion eu harchwilio yn ystod sesiynau, ac mae staff a rhieni yn garedig wedi rhoi amrywiaeth o ddillad gwisg ffansi, hefyd.

Effaith

Mae’r ystafell ddrama wedi darparu gofod i ddisgyblion gymryd rhan mewn drama synhwyraidd, sesiynau chwarae rôl ac ystod eang o adnoddau yn seiliedig ar yr hyn y gallent ddod ar ei draws yn ystod apwyntiadau go iawn. Gallant wneud hyn mewn amgylchedd diogel a rhagweladwy, ac rydym yn gobeithio, gydag amser, y bydd newid cadarnhaol yn lefel y gorbryder ar gyfer disgyblion sy’n mynychu apwyntiadau.

Rydym wedi cryfhau’r berthynas â’n cydweithwyr ym maes iechyd. Mae hyn yn ei dro yn cael effaith fuddiol ar y disgyblion yn Ysgol Tŷ Gwyn.

Yn sgil cyflwyno gweithdai hyfforddiant, rhoddwyd cyfle i staff drafod sut gallent ddefnyddio ein dull, ein gweithgareddau a’n hadnoddau ar gyfer disgyblion o fewn eu dosbarth, a sut gallen nhw elwa, hefyd.

Mae’r prosiect yn esblygu o hyd, ac mae llawer o gyfle ar gyfer twf a pharhad syniadau newydd. Rydym yn annog ac yn edrych ymlaen at y twf parhaus a geir o fewn y prosiect ac at yr effaith gadarnhaol barhaus y gall ei chael ar ddisgyblion, eu teuluoedd ac Ysgol Tŷ Gwyn.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Rachael’s Playhouse yn Aberdâr yn wasanaeth gofal dydd llawn sy’n cynnig gofal ac addysg i blant rhwng 18 mis a 5 mlwydd oed. Mae’r lleoliad yn ddwyieithog. Mae’n lleoliad cofrestredig Dechrau’n Deg ac yn ddarparwr addysg nas cynhelir. Mae’r lleoliad yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn cynnig llif rhydd parhaus sy’n galluogi plant i gael mynediad bob amser at yr amgylchedd dysgu y maen nhw’n ei ffafrio. Mae Rachael’s Playhouse yn rhoi lle plant a staff yn ganolog i’w arferion.

Dechreuodd Hannah a Rachael, sef yr unigolion cyfrifol, eu menter gofal plant yn warchodwyr plant yn gweithio o dŷ Rachael. Wedyn, aeth y ddwy ohonynt ymlaen i gwblhau gradd mewn Gofal Plant ac Addysg Gynnar. Maent wedi pwysleisio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth a gawsant o’r cymhwyster a sut mae hyn wedi dylanwadu ar eu harfer. Ar ôl iddynt gwblhau’r radd, cododd cyfle i ehangu’r busnes. Agorodd Hannah a Rachael eu meithrinfa gyntaf yn Aberdâr ym mis Mehefin 2018. Roedd yr arweinwyr yn rhannu angerdd i blant dderbyn gofal ac addysg o’r safon orau, i sicrhau bod sylfeini cryf yn cael eu gosod, sy’n ysbrydoli dysgu a datblygiad parhaus yn y dyfodol. Cyn hir, sefydlwyd gweledigaeth glir ar y cyd, un sy’n hyblyg ac yn parhau i ddatblygu er mwyn ymateb i ymchwil ac addysg ddiweddar.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r lleoliad wedi creu dull sy’n cynnwys elfennau o wahanol addysgegau, damcaniaethwyr a safbwyntiau rhyngwladol. Mae’r dull yn sicrhau bod plant yn elwa ar adnoddau a phrofiadau bywyd go iawn, chwarae mentrus a darnau rhydd. Caiff annibyniaeth ei hyrwyddo’n gryf ac mae gan staff ddisgwyliadau uchel ond realistig o’r plant. Mae Rachael’s Playhouse yn gwerthfawrogi pob cyfle fel cyfle i ddysgu. Caiff y plant eu hannog i gynnal eu ‘hasesiadau risg’ eu hunain a meddwl yn feirniadol pan fydd problemau’n codi. Caiff unrhyw adnoddau a allai achosi risg uwch i’r plant eu cyflwyno’n raddol. Mae staff yn rhoi pwys mawr ar feithrin perthynas gref â’r plant a chael dealltwriaeth fanwl o lefel y cymorth sydd ei hangen ar gyfer pob plentyn. Er enghraifft, mae’r lleoliad yn defnyddio llestri Tsieina a gwydr go iawn yn ystod amser byrbryd, ac os yw’n disgyn ar lawr ac yn torri, mae’n rhoi cyfle i staff siarad â’r plant am beth ddigwyddodd a pham. Mae cwestiynau fel “ydy unrhyw un yn gwybod pam dorrodd y plât hwn?”, “ydych chi’n gwybod o ba ddeunydd mae’r plât wedi’i wneud?”, “ydy unrhyw un yn gallu dangos sut i gario’r plât yn ddiogel ac yn gywir?”, yn hyrwyddo meddwl yn feirniadol a datrys problemau ac yn helpu datblygu hunan-barch plentyn wrth iddo ddod yn ddysgwr hyderus a medrus.

Er y bu’r lleoliad yn hyrwyddo ystod eang o gyfleoedd i blant ddatblygu eu medrau a’u gwybodaeth trwy gydol y dydd, roedd yn glir fod y cyfleoedd hyn yn cael eu colli yn ystod amser byrbryd ac amser cinio. Roedd y lleoliad eisiau amser byrbryd a oedd yn brofiad cymdeithasol, lle mae’r plant yn dysgu medrau newydd ac yn myfyrio ar eu diwrnod. Fodd bynnag, roedd amser byrbryd ac amser cinio yn adegau prysur iawn ac yn gallu bod yn eithaf di-drefn. Wrth nodi bod angen newid, arsylwodd y tîm yn Aberdâr amser byrbryd am ychydig ddyddiau i geisio sefydlu beth oedd yn digwydd a pham roedd amser byrbryd yn fwy prysur a mwy swnllyd na rhannau eraill o’r diwrnod. Ar sail arsylwadau a thrafodaethau, roedd y staff yn gallu myfyrio ar yr arfer bresennol. Roedd yn glir nad oedd pob un o’r plant yn barod yn ddatblygiadol i eistedd i lawr am ychydig o funudau i gael byrbryd, a oedd yn achosi iddynt redeg o gwmpas, a’r rhan fwyaf o blant yn dilyn a chopïo. Arweiniodd hyn i gyd at amser byrbryd gwyllt, pan nad oedd ymarferwyr yn gallu defnyddio strategaethau cyfathrebu effeithiol gan eu bod yn rhy brysur yn ceisio annog pob un o’r plant i eistedd i lawr. 

Mae’r plant bellach wedi’u rhannu’n grwpiau gwahanol, a chynigir darpariaeth byrbrydau parhaus i’r ddau grŵp. Nid oes mwy na chwech o blant yn eistedd wrth y bwrdd ar unrhyw adeg benodol. Mae hyn yn galluogi staff i sicrhau bod amser byrbryd yn brofiad cymdeithasol hamddenol, lle rhoddir cyfleoedd i blant elwa ar eu gwybodaeth a’u medrau presennol ac ymestyn y rhain bob tro.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cyn i amser byrbryd ddechrau neu cyn dosbarthu unrhyw fwyd neu ddiodydd, mae staff yn gofyn i’r plant am alergeddau. Mae ffotograffau’r plant ag alergeddau, anoddefiadau neu hoffterau bwyd yn cael eu harddangos ger yr ardal byrbrydau gyda gwybodaeth mewn coch am fwydydd y mae’n rhaid iddynt eu hosgoi ac mewn gwyrdd ar gyfer dewisiadau amgen y gellir eu cynnig. Mae’r staff yn gofyn i’r plant a oes gan unrhyw un wrth y bwrdd unrhyw alergeddau; maent yn gofyn i’r plentyn ag alergeddau beth allai ddigwydd pe bai unrhyw groes-halogi a pha ddewisiadau amgen y gallent eu cael yn lle. Wedyn, mae’r staff yn gofyn i bob un o’r plant pa weithdrefnau y mae’n rhaid i ni eu dilyn i gadw eu ffrindiau sydd ag alergeddau yn ddiogel. Yn ystod amser byrbryd, caiff plant gyfle i blicio, torri, taenu a thywallt yn annibynnol. Rhoddir plicwyr go iawn a chyllyll miniog iddynt allu gwneud hyn. Cyn dosbarthu’r offer, gofynnir i’r plant am beryglon a pha weithdrefnau y mae angen iddynt eu dilyn i’w cadw eu hunain yn ddiogel. O ganlyniad i sefydlu perthnasoedd cryf, mae staff yn gymwys o ran gwybod pa lefel cymorth sydd ei hangen ar bob plentyn yn ystod amser byrbryd. Mae angen cymorth un i un ar rai ohonynt, ac mae rhai plant yn gwbl annibynnol. Cynigir canmoliaeth adeiladol trwy gydol yr amser, er enghraifft “diolch am d’amynedd yn aros i sedd fod ar gael”, “rwyt ti’n dangos medrau dyfalbarhad da iawn fan’ na” ac “rwyt ti wedi torri’r afal yn annibynnol, da iawn!”.

Caiff chwilfrydedd ei hyrwyddo’n gryf yn ystod amser byrbryd, bob bore a phrynhawn, a chynigir bwyd anarferol i’r plant ofyn cwestiynau amdano a rhagfynegi beth maen nhw’n meddwl allai fod y tu mewn i’r ffrwyth neu’r llysieuyn pan gaiff ei dorri ar agor. Enghraifft o hyn yw pomgranad. Mae plant yn trafod lliw’r ffrwyth ar y tu allan, ac yn meddwl am b’un a yw lliw’r ffrwyth yn wahanol ar y tu mewn. Maent yn rhagfynegi beth allai fod y tu mewn i’r ffrwyth ac yn dyfalu ble mae’r ffrwyth yn tyfu, gan roi rhesymau am eu hatebion. Gellir ymestyn y dysgu wedyn, hefyd. Er enghraifft, y diwrnod canlynol, os ydynt yn dod o hyd i hadau y tu mewn i ffrwyth, efallai y byddant yn siarad am blannu’r hadau a rhagfynegi beth fydd yn digwydd os byddant yn plannu’r hadau. Gallai hyn arwain at ofyn i’r plant beth sydd ei angen ar hadau neu blanhigion i dyfu’n iach. Yn ystod amser byrbryd, caiff plant a staff gyfle i fyfyrio ar eu diwrnod. Efallai y byddant yn siarad am yr hyn a fwynhaont y bore hwnnw ac amlygu unrhyw beth na wnaethant ei fwynhau, efallai. Gellid defnyddio’r wybodaeth hon i lywio cynllunio ar gyfer y prynhawn neu’r diwrnod canlynol.  

Tuag at ddiwedd y byrbryd, mae’r aelod o staff yn amlygu unrhyw sbwriel sydd yno ac yn gofyn i’r plant am y sbwriel neu’r gwastraff bwyd. Mae pob byrbryd yn wahanol, a bydd yr aelod o staff sy’n arwain byrbryd yn dilyn arweiniad y plant. Er enghraifft, ar un achlysur, gofynnodd yr aelod o staff i’r plant pam mae’n bwysig ailgylchu plastig. Atebodd y plant trwy ddweud bod plastig yn llygru’r blaned ac yn mynd i mewn i’n cefnforoedd. I orffen y profiad byrbryd, mae plant yn crafu eu gwastraff i mewn i’r bin gwastraff bwyd yn annibynnol ac yn gosod eu platiau a’u cwpanau budr ar y troli. Wedyn, maent yn mynd i’r ystafell ymolchi i olchi’u dwylo a’u hwynebau fel eu bod yn lân ar gyfer y prynhawn. Yn ystod byrbryd, mae aelodau o staff yn eistedd i fwyta’r un bwyd a ddarperir gyda’r plant.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae amser byrbryd wedi bod yn ffactor dylanwadol o ran y ffaith fod y rhan fwyaf o blant yn y lleoliad yn egwyddorol a gwybodus o oedran ifanc. Mae’r plant yn hyderus yn eu hatebion pan fyddant yn siarad am helpu planhigion i dyfu, ac ailgylchu. Defnyddir geirfa helaeth bob amser gan y plant gan mai dyma’r iaith y cânt eu hamlygu iddi yn gyson. Mae medrau iaith wedi gwella ymhlith y rhan fwyaf o blant. Nodwyd hyn mewn asesiadau, ac mae rhai plant yn defnyddio geirfa fwy helaeth. Mae’r plant yn dangos dealltwriaeth fanwl o ystyr yr eirfa. Er enghraifft, maent yn siarad am groes-halogi a beth mae hyn yn ei olygu. Maent yn trafod y ffaith nad yw plastig yn fioddiraddadwy a beth mae hyn yn ei olygu, ac maent yn deall y gweithdrefnau y dylid eu dilyn i’w cadw nhw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel. Mae amser byrbryd yn brofiad mwy dymunol erbyn hyn, lle mae plant yn awyddus i eistedd i lawr a chymryd rhan. Mae lles plant a staff wedi gwella yn ystod amser byrbryd ac amser cinio. Mae’n creu ymdeimlad o berthyn oherwydd gall plant drafod materion sy’n effeithio arnyn nhw yn agored, a siarad am aelodau o’u teulu a beth maent yn ei wneud gartref. Mae wedi dod yn adeg sefydlu perthnasoedd ymhellach rhwng plant a staff. Mae oedolion yn dirnad bod plant yn ddysgwyr medrus, sy’n modelu medrau cyfathrebu da, gan gynnwys ymgysylltu â meddwl cynaledig ar y cyd a defnydd effeithiol o gwestiynau penagored i gefnogi meddwl. Mae staff yn gwneud defnydd effeithiol o gwestiynau penagored, sy’n sicrhau cydbwysedd â sylwadau, i gefnogi meddwl ac yn defnyddio modelu i gefnogi ac ymestyn cysyniadau a datblygiadau geirfa. Mae medrau annibyniaeth plant wedi gwella, sy’n amlwg trwy arsylwadau ac asesiadau.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Rhannwyd yr arfer gan rai lleoliadau sydd wedi ymweld â Rachael’s Playhouse.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr Ysgol: ​

Mae Ysgol Gyfun Aberaron yn ysgol gyfun ddwyieithog 11-19 oed a gynhelir gan awdurdod lleol Sir Geredigion. Mae 581 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae tua 27% o’r disgyblion ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY), sydd uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol (dros dair blynedd) mewn ysgolion uwchradd, sef 16.1%. 

Mae tua 30.5% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg gartref, 50.1% ddim yn siarad Cymraeg gartref a 19.4% ddim yn gallu siarad Cymraeg. Mae bron pob disgybl yn dod o gefndir gwyn, Prydeinig. Mae’r uwch dîm arwain yn cynnwys y pennaeth, y dirprwy bennaeth, dau bennaeth cynorthwyol ac un uwch athro.  

Mae gan yr ysgol ganolfannau dysgu arbenigol ar gyfer disgyblion yn cynnwys: 

  • Canolfan y Môr – Canolfan arbenigol sy’n darparu ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion lleferydd a chyfathrebu dwys ynghyd a disgyblion sydd ag anghenion awtistiaeth, synhwyraidd a meddygol. 

  • Canolfan Croeso –  Canolfan sgiliau bywyd sy’n rhoi darpariaeth unigol i ddisgyblion ynghyd a’u cynnal (yn ddibynol ar oed a gallu) trwy ddarpariaethau prif ffrwd. 

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol:

Gweledigaeth yr ysgol yw ‘sicrhau bod ein myfyrwyr yn barod i wynebu heriau’r 21ain Ganrif a’n bod yn cefnogi holl aelodau ein cymuned i ddatblygu eu potensial yn academaidd, yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.’ Yn y canolfannau dysgu arbenigol, mae amrywiaeth eang a chyfoethog o brosiectau ac ymyraethau yn cael eu darparu er mwyn sicrhau ymglymiad, lles a chynnydd ym medrau a sgiliau personol a chymdeithasol y disgyblion. Cyflwynwyd sesiynau therapi celf er mwyn datblygu medrau Llythrennedd Emosiynol y disgyblion a ‘chlwb clai’ er mwyn datblygu medrau motor llawysgrifen disgyblion ynghyd ag ymyraethau mwy traddodiadol. Sefydlwyd sesiynau ‘Tylino Stori’ yn ogystal â sesiynau Ioga a Meddwlgarwch. Mewn partneriaeth a’r theatr leol cynlluniwyd prosiectau perfformio er mwyn hybu medrau cyfathrebu disgyblion.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Er mwyn cefnogi disgyblion ag amrywiaeth eang o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY),  defnyddir ymyraethau sy’n cynnwys: 

  • Clwb Clai: Clwb i ddatblygu medrau motor a llawysgrifen disgyblion yw’r Clwb Clai. Mae grwpiau o ddisgyblion yn cymryd rhan mewn ‘clwb clai’ hyd at 3 sesiwn yr wythnos – ymarferion clai i ddatblygu medrau motor disgyblion yn cynnwys defnydd o gerddoriaeth, symud a thrafod.   
  • Therapi Celf: Mae disgyblion yn derbyn y sesiynau yma er mwyn datblygu eu medrau personol a chymdeithasol ynghyd a’u lles. Mewn grwpiau bach neu fel unigolion, mae disgyblion yn cwblhau gwaith gyda’r therapydd celf arbenigol. Ceir arddangosfa o’u gwaith yn yr ystafell therapi ac mae’r disgyblion yn falch iawn o hyn. 
  • Celf ac Enaid / ‘Art and Soul’ – Mae’r CADY ynghyd a chymorthyddion arbenigol yr ysgol yn rhedeg sesiynau celf therapiwtig ar draws y canolfannau a grwpiau mynediad. Mae’r sesiynau yn dechrau gyda gwirio emosiynol, datganiad y dydd a thrafodaeth ac yna gweithgareddau celf. Mae’r gweithgareddau wedi eu gwahaniaethu yn ôl gallu, deallusrwydd a lefel medr y disgyblion. Y nod yw i ddatblygu medrau llythrennedd emosiynol, mewn awyrgylch diogel a thawel. 
  • Tylino stori – Sefydlwyd sesiynau tylino stori ynghyd a sesiynau ioga a meddwlgarwch i ddisgyblion fel modd o gyflwyno themâu cwricwlaidd ac o gefnogi eu lles. Mae staff wedi cael hyfforddiant penodol ac yn defnyddio sgriptiau gan gynnwys stori, darnau o farddoniaeth, deialog neu erthygl, sy’n cyd-fynd gyda’r symudiadau. Mae’n fodd effeithiol o addysgu agweddau penodol o destun i ddisgyblion ag ADY, yn enwedig y rheini sy’n dysgu mewn modd sensori. Mae hwn yn hybu lles a dysgu disgyblion y canolfannau.   
  • Performance project – This programme was developed to develop learners’ personal and social skills, communication skills and independent learning skills. Through weekly theatre experiences: movement, dance, role play, sensory play and filming, pupils develop a range of skills. By working with Theatr Felinfach, performances and workshops have been run to coincide with termly themes e.g., Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat, The Red Dragon, Space.
  • Prosiect perfformio – Datblygwyd y rhaglen yma er mwyn datblygu medrau personol a chymdeithasol, medrau cyfathrebu a sgiliau dysgu annibynnol y dysgwyr. Trwy brofiadau theatr wythnosol: symud, dawns, chwarae rôl, chwarae synhwyraidd a ffilmio mae’r disgyblion yn datblygu ystod o sgiliau. Drwy gydweithio gyda theatr Felinfach mae perfformiadau a gweithdai wedi rhedeg i gyd-fynd gyda themâu tymhorol e.e.Joseff a’r Gôt Amryliw, Y Ddraig Goch, Y Gofod.  

          Llythrennedd a Rhifedd:

  • Ymyraethau fel Dyfal Donc a Geiriaduron Personol i ddatblygu medrau disgyblion 

  • Ymyraethau darllen estynedig wedi eu gwahaniaethu’n sylweddol – gweler astudiaeth achos ar raglen yr ysgol i ddatblygu medrau darllen 

  • Cyfri Ceredigion ac ymyraethau eraill i ddatblygu medrau rhifedd disgyblion. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Drwy’r gweithgareddau a’r ymyraethau amrywiol, mae’r ysgol yn gweld ymglymiad uchel a mwynhad wrth ddysgu gan bron bob disgybl. Mae hunanhyder disgyblion a’u parodrwydd i ymdrechu â gweithgareddau newydd wedi datblygu’n dda. Trwy’r gweithgareddau, mae disgyblion yn dyfnhau eu deallusrwydd o’r themâu neu’r testunau a astudir. 

Wrth graffu ar waith ddysgwyr, mae’r ysgol yn cydnabod cynnydd cam-wrth-gam ym medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion. Mae’r disgyblion, yn nodi eu bod yn mwynhau’r ymyraethau yma ac yn nodi bod y gefnogaeth yn eu helpu i ddatblygu yn yr ysgol.    

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

Ar hyn o bryd mae Ysgol Gyfun Aberaeron yn rhannu’r arferion da yn y rhanbarth trwy Wefan Iechyd a Lles, newyddlen yr Adran ADY a thrwy rhwydweithiau CADY. Mae’r CADY wedi cydweithio gyda therapydd celf i gynhyrchu llyfrynnau arweiniol ar weithgareddau celf sy’n hybu lles emosiynol disgyblion. Mae llwyddiant y prosiect perfformio theatr wedi arwain at ehangu’r prosiect ar draws yr awdurod i ganolfanau arbenigol eraill. 

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Agorwyd Ysgol Cybi yn Medi 2017 yn dilyn cau tair o ysgolion, fel Ysgol Eglwys yng Nghymru dan Reolaeth Wirfoddol. Mae’r ysgol wedi ei threfnu yn ddau o ddosbarthiadau ar gyfer pob blwyddyn ysgol ar wahân i flynyddoedd 2 a 6 sydd wedi’i trefnu yn dri dosbarth. Sefydlwyd dosbarthiadau anogaeth ar gyfer disgyblion 3–7 oed ac 7-11 oed yn ffocysu’n benodol ar ddatblygiad sgiliau rhyngbersonol, emosiynol ac ymddygiadol, yn ogystal â dosbarth ôl-gynnydd yn targedu sgiliau sylfaenol disgyblion cyfnod allweddol dau. Mae’r ganran o ddisgyblion sy’n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim (27.5%) a’r ganran sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (35%) yn sylweddol uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Ychydig iawn o ddisgyblion sydd o gefndir ystyrir yn lleiafrif ethnig ac ychydig iawn hefyd sydd yn dod o aelwyd ble siaradir y Gymraeg.  

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae adnabyddiaeth drylwyr a chydnabyddiaeth o’r heriau sydd yn atal ac/neu yn amharu ar gynnydd addysgol disgyblion yr ysgol. Yn  benodol –  

  • Presenoldeb ac/neu brydlondeb isel. Mesuryddion difreintedd sylweddol uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol.
  • Nifer arwyddocaol o ddisgyblion mewn gofal.
  • Nifer arwyddocaol o ofalwyr ifanc. 
  • Nifer arwyddocaol o deuluoedd yr ysgol ar agor i wasanaethau cymdeithasol ac/neu yn derbyn cymorth asiantaethau lles allanol.
  • Canran uchel o ddisgyblion ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol a charfan sylweddol â chanddyn nhw anghenion ystyrir yn ddwys.  

Mae cydnabyddiaeth hefyd o bwysigrwydd gwarchod, cynnal a blaenoriaethu lles pob disgybl yn cynnwys sicrhau datblygiad eu sgiliau personol, cymdeithasol ac emosiynol fel bod pob un yn barod i wneud cynnydd cadarn yn eu dysgu.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Mae cydweithio gofalus gyda rhanddeiliaid allweddol yr ysgol er mwyn (i) datblygu a chyflwyno gweledigaeth sydd yn blaenoriaethu lles yn effeithiol (ii) sefydlu isadeiledd cadarn, dibynadwy sy’n cefnogi lles pob disgybl (iii) annog a chefnogi’r dyhead i ddatblygu a gwella yn barhaus. 

(i) Gweledigaeth ysgol yn blaenoriaethu lles 

Darperir cyfleoedd blynyddol i ymgynghori gyda phlant, staff, rhieni a llywodraethwyr ar gynnwys gweledigaeth yr ysgol a’r camau ymarferol angenrheidiol er mwyn ei gwireddu. 

Ysgol Cybi

Ysgol Cybi fel ….. 

Ysgol Ofalgar sy’n blaenoriaethu iechyd, lles a diogelwch. 

  • Isadeiledd a trefniadau ysgol sy’n blaenoriaethu iechyd, lles a diogelwch disgyblion yn llwyddiannus ac yn sicrhau eu bod yn barod i ddysgu.
  • Cwricwlwm ysgol sy’n plethu llais y disgyblion yn effeithiol gyda disgwyliadau a gofynion statudol (e.e.’Iechyd a Lles’, ‘Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb’,)  
  • Darpariaeth ysgol gyfoethog sy’n manteisio’n llwyddiannus ar gyfleoedd awyr agored, adnoddau ac arbenigedd lleol a cyfleoedd tu hwnt i’r amserlen ysgol traddodiadol.  
  • Isadeiledd a trefniadau ysgol sy’n cefnogi a cynnal lles staff ysgol yn llwyddiannus.  
  • Diwylliant o ymchwilio ac ymholi yn esgor ar welliannau parhaus i ddarpariaeth ar gyfer disgyblion a staff.  

(ii) Isadeiledd cadarn, dibynadwy yn cefnogi lles pob disgybl 

Swydd ddisgrifiadau manwl gyda chyfrifoldebau pendant wedi’i neilltuo, yn cynnwys –  

  • Dirprwy Bennaeth yn gyfrifol am agweddau lles e.e. disgyblion, staff, teuluoedd 
  • Athrawes Grwpiau Anogaeth yn bennaf gyfrifol am ddau ddosbarth anogaeth ac ethos anogaeth ysgol gyfan.  
  • Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Dilyniant a chysondeb effeithiol ym mhrofiad pob disgybl wth iddynt gyrraedd yr ysgol yn sicrhau gafael dda gan staff dysgu ar les unigolion a chyfleodd priodol i ymateb i unrhyw bryderon. Yn benodol –  

  • Croesawu disgyblion yn ddyddiol, wrth iddynt droedio ar dir yr ysgol.  
  • Cyfleoedd da i rannu teimladau ar gychwyn a diwedd diwrnod ysgol.  
  • Defnydd effeithiol o ardaloedd tawel ym mhob dosbarth er mwyn hyrwyddo hunan reoleiddio, adfyfyrio, rhannu teimladau neu gynnal ymyraethau penodol. 
  • Nodweddion anogaeth effeithiol yn bresennol ym mhob dosbarth yn cyfrannu’n llwyddiannus at ethos ysgol gyfan e.e. defnydd amserlen weledol, strategaethau hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, defnydd llwyddiannus o gorneli ac adnoddau pwyllo.

Dosbarthiadau anogaeth disgyblion 3-7oed (Y Nyth) a disgyblion 7-11 oed (Yr Hafan) yn darparu cymorth arbenigol a phenodol i anghenion unigolion a grwpiau. Mae strwythur y ddarpariaeth yn sicrhau cyfleoedd da i ddisgyblion ddatblygu sgiliau mewn grŵp llai am hyd at hanner diwrnod â chyfleoedd pellach i ddisgyblion gymhwyso ac atgyfnerthu yn ôl yn eu dosbarthiadau prif lif.  

Pob aelod o staff wedi’i hyfforddi’n effeithiol i ddefnyddio arddull bwyllog, addfwyn a chynhaliol wrth ymdrin â phob disgybl. Mae strwythur staffio’r ysgol yn sicrhau bod pob un yn ymwybodol at bwy ddylid troi am gefnogaeth pe cyfyd yr angen. Mae aelodau o staff penodol wedi’i uwchsgilio er mwyn ymateb yn effeithiol i anghenion penodol unigolion a/neu grwpiau o ddisgyblion. 

Darperir cyfleoedd da iawn i ddisgyblion gyfrannu tuag at gyfeiriad eu dysgu drwy gefnogi a hyrwyddo eu llais yng nghynllun thematig dosbarthiadau a chyfleoedd aml i adfyfyrio, adolygu a mireinio. Manteisir ar bob cyfle rhesymol i hyrwyddo perchnogaeth plant o’i profiadau yn yr ysgol ac i bwysleisio gwerth mwynhad, wrth i blant ymgymryd â’i dysgu.  

Mae grŵp lles staff dysgu’r ysgol yn ddatblygiad diweddar pwysig sydd yn cyfrannu’n llwyddiannus at ymledu’r ethos gofalgar a’r pwyslais ar les ar draws yr ysgol. Mae’r grŵp yn cynnwys cynrychiolaeth o wahanol swyddogaethau strwythur staffio’r ysgol ac yn ymgynghori’n effeithiol gyda’r uwch dim rheoli ar faterion lles staff. 

(iii) Dyhead i ddatblygu a gwella yn barhaus 

Mae’r uwch dim rheoli yn gwneud defnydd effeithiol o’r wybodaeth sydd ar gael ac â systemau effeithiol mewn lle i gyrchu gwybodaeth bellach. Defnyddir unrhyw wybodaeth a dealltwriaeth newydd arwyddocaol i yrru datblygiadau yn natur ac ansawdd y ddarpariaeth gan sicrhau o hyd ei fod yn gweddu i gyd-destun ac anghenion yr ysgol. Yn gryno –  

Cam 1: Hunan arfarnu ac adfyfyrio – yn cynnwys ar unrhyw feysydd datblygol newydd.   

Cam 2: Hyfforddiant ac ymchwil  

Cam 3: Darparu a monitro – gyda’r pwyslais ar gyd-destun ac anghenion yr ysgol.  

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth a safonau dysgwyr?

Mae holiaduron disgyblion a thrafodaethau gyda grwpiau disgyblion yn cefnogi’r farn fod… 

  • rhan fwyaf yn hapus ac mewn lle da i wneud cynnydd cadarn yn eu dysgu. 
  • rhan fwyaf yn teimlo bod staff dysgu yn gwrando arnyn nhw a bod llais cryf ganddynt yn gyrru cyfeiriad eu dysgu.  

Mae rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n mynychu grwpiau anogaeth yn gwneud cynnydd cadarn yn erbyn llinyn mesur priodol asesiadau Boxall, ac mae llawer yn medru cymhwyso’r sgiliau maent wedi’i datblygu yn dda yn cyd-destun dosbarthiadau prif lif.   

Mae’r gweithdrefnau sydd mewn lle er mwyn cefnogi presenoldeb a phrydlondeb disgyblion yn gynhwysol a chefnogol. Defnyddir y gweithdrefnau er mwyn targedu cymorth i deuluoedd ochr yn ochr ag asiantaethau allanol ac mae hyn wedi meithrin perthynas agos a chynhyrchiol rhwng yr ysgol â theuluoedd sydd angen cymorth. 

Mae bron pob staff dysgu wedi ei hyfforddi i lefel briodol ac yn ymgymryd â’i dyletswyddau yn llwyddiannus. Mae cydbwysedd rhesymol yn arddull rhan fwyaf o staff dysgu rhwng cynnal synnwyr o ddilyniant a chysondeb ar un llaw a’r angen i ymateb i anghenion penodol disgyblion a grwpiau ar y llaw arall.  

Mae strwythur staffio’r ysgol a’r fforymau a ddarperir i staff dysgu gyfranogi tuag at drafodaethau am ddarpariaeth lles disgyblion a’u hunain, yn effeithiol. Mae datblygiad diweddar y grŵp lles staff dysgu wedi tyfu i fod yn gorff ymgynghori llwyddiannus, yn cynnig sicrwydd bod llais pob un yn derbyn sylw da ac wedi arwain at newidiadau pwysig.  

Mae ethos anogaeth, ofalgar gryf drwy’r ysgol sydd yn cyfrannu’n llwyddiannus iawn at barodrwydd bron pob disgybl i ymgymryd â’i dysgu ac i wneud cynnydd da yn unol â’i potensial.  

Sut ydych chi wedi mynd ati i rannu eich arfer dda?

  • Croesawyd ysgolion eraill y Sir i ymweld â’r ysgol.  
  • Cydweithio agos dalgylch yn cynnwys aelodau o’r Cydbwyllgor Anghenion Dysgu Ychwanegol Sirol.  
  • Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cyflwyno sesiynau hyfforddiant penodol yn cynnwys amrywiaeth o ymyraethau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol o fewn y Sir ac yn All-Sirol.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Rhaeadr yn ysgol gynradd ffrwd ddeuol yn Rhaeadr, Powys, sydd wedi’i lleoli ar gyrion Cwm Elan. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal nad yw’n ddifreintiedig nac yn freintiedig. Mae niferoedd y disgyblion yn yr ysgol wedi tyfu’n sylweddol yn y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar dir helaeth gyda gofodau gwyrdd a choetir.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Nod y staff yw sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion pob un o’u disgyblion i’w galluogi i lwyddo a sicrhau lles gwell. Mae’r ysgol yn ysgol gynhwysol sy’n darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol. Bum mlynedd yn ôl, roedd yr ysgol yn pryderu am ymgysylltiad a phresenoldeb disgyblion, a dechreuodd gymryd rhan mewn prosiect Celfyddydau Creadigol i ymchwilio a allai cwricwlwm wedi’i arwain gan ddisgyblion wella deilliannau dysgwyr. Mae’r ysgol wedi’i lleoli ar dir helaeth nad oedd yn cael ei ddefnyddio’n llawn oherwydd cyfyngiadau iechyd a diogelwch. Trwy waith gydag ymarferwr creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, gofynnodd y staff i ddisgyblion nodi sut oedd yn well ganddynt ddysgu. Arweiniodd hyn at gwricwlwm wedi’i arwain gan ddisgyblion a defnydd llawn o’r ardaloedd yn yr awyr agored. Ffurfiodd astudiaeth am y defnydd o’r amgylchedd awyr agored ran o’r prosiect, ac fe gafodd gofodau ar gyfer addysgu a dysgu eu cynllunio a’u creu gan staff.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Mae’r ysgol wedi sefydlu ardaloedd dynodedig ysgol goedwig ac ardaloedd dosbarth awyr agored. Roedd ffocws ysgol gyfan ar hyfforddi staff i gynllunio a chyflwyno dysgu yn yr awyr agored bron ym mhob gwers. Ymgorfforwyd hyn trwy’r ysgol gyfan, ac mae pob dosbarth yn cael sesiynau ysgol goedwig rheolaidd. Mae defnyddio’r awyr agored yn rhan annatod o’r diwrnod ysgol ac ym mhob tywydd. Mae’r gweithgareddau awyr agored hyn yn annog y disgyblion i ddefnyddio offer, cynnau tân, dringo coed ac adeiladu llochesau yn rheolaidd, yn ogystal â defnyddio’r awyr agored ar gyfer mwy o sesiynau rhifedd a llythrennedd wedi’u seilio ar y cwricwlwm. Defnyddir yr ardaloedd hefyd ar gyfer amseroedd ffocws ar les i ddisgyblion gael amser tawel, a defnyddir technegau pwyllo ar gyfer unrhyw ddisgyblion sydd eu hangen. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Mae’r gweithgareddau a gynlluniwyd yn galluogi’r disgyblion i fentro, meithrin gwydnwch, ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles ar ôl pandemig COVID-19. Trwy ddefnyddio’r awyr agored bob dydd mewn gwersi rheolaidd, mae’r disgyblion yn dod yn fwy hyderus a hunanymwybodol. Mae bod mewn byd natur wedi dangos ei fod yn helpu rheoli emosiynau a chydweithredu ag eraill yn fwy effeithiol. Mae’r amgylchedd awyr agored distrwythur yn hyrwyddo addasrwydd yn y plant ac yn hybu eu cymhelliant i lwyddo. Cyn pandemig COVID, mae defnyddio’r awyr agored wedi cael effaith gadarnhaol ar bresenoldeb yn yr ysgol. Mae athrawon yn gweld bod canolbwyntio a ffocws yn yr ystafell ddosbarth yn well ar ôl sesiynau dysgu yn yr awyr agored.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae’r ysgol yn hyrwyddo’r defnydd o’r awyr agored gyda’r lleoliadau cyn-ysgol ar safle’r ysgol. Mae gweithio gyda sefydliadau lleol, fel Cambium Sustainable, wedi ymestyn defnydd o’r ysgol goedwig mewn ysgolion lleol eraill. Cyn COVID-19, roedd yr ysgol yn rhannu arfer orau a hyfforddiant gydag ysgolion eraill y clwstwr. Cynhalion nhw ddiwrnod dysgu yn yr awyr agored ar gyfer y gymuned, a gwahoddwyd ysgolion yr esgobaeth. Mae swyddog addysg yr esgobaeth wedi creu fideo yn arddangos dysgu yn yr awyr agored i’w rannu ag ysgolion eraill yr esgobaeth.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Coed Glas yn gwasanaethu cymuned Llanisien yng ngogledd Caerdydd. Mae gan yr ysgol 535 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gan yr ardal o amgylch yr ysgol gymysgedd o eiddo cymdeithasol, eiddo wedi’i rentu ac eiddo ym mherchnogaeth breifat. Mae poblogaeth yr ysgol yn adlewyrchu’r dalgylch cyfoethog ac amrywiol hwn. Mae tua 36% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfartaledd yr awdurdod lleol yn 21.5%. Mae’r ysgol o fewn yr ardal sydd 20-30% fwyaf difreintiedig yng Nghymru yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae nifer y plant â Saesneg fel Iaith Ychwanegol wedi codi i 28%. Oherwydd niferoedd cynyddol y plant sydd angen lle ysgol yng ngogledd Caerdydd, mae’r ysgol wedi derbyn hyd at 90 o blant ym mhob grŵp blwyddyn dros y saith blynedd diwethaf, gan arwain at dri dosbarth fesul grŵp blwyddyn mewn sawl achos

Mae 18 dosbarth prif ffrwd o grwpiau oed unigol, gyda dosbarth meithrin â 48 lle a chanolfan adnoddau arbenigol sy’n darparu ar gyfer hyd at 16 o blant o bob rhan o Gaerdydd, sydd â nam ar eu clyw.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Mae’r ysgol yn ystyried bod lles yn ganolog i bob dim mae’n ei wneud. Ei nod yw darparu amgylchedd diogel a chynhwysol lle mae pawb yn cael eu croesawu, eu dathlu ac yn gallu ffynnu. Mae’r ysgol yn credu mewn grym gwerthoedd a’i nod yw grymuso’r plant i gyflawni eu potensial fel aelodau caredig a pharchus o’r gymuned. Mae’r ysgol yn sicrhau bod yr amgylcheddau dysgu yn fannau sy’n ysbrydoli chwilfrydedd a chreadigrwydd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r ysgol wedi gweld bod ar fwy o ddisgyblion angen cymorth emosiynol nag erioed o’r blaen. Yn ystod y cyfnod hwn, sicrhaodd yr ysgol fod yr holl aelodau staff yn cael hyfforddiant ar les a chynyddodd nifer yr ymarferwyr lles. Fodd bynnag, cydnabu’r ysgol hefyd fod ar nifer o ddisgyblion angen ymagwedd wahanol. Dechreuodd y tîm arwain archwilio’r ffordd orau iddynt allu cefnogi’r disgyblion hyn trwy greu darpariaeth anogaeth bwrpasol. Fe wnaeth hyn gynnwys: · trafodaethau â thimau addysg arbenigol · ymweliadau ag ysgolion eraill â llunio cysylltiadau dysgu proffesiynol gyda’u staff · hyfforddi aelodau o staff Coed Glas ei hun · creu swydd â chyfrifoldeb addysgu a dysgu er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’r ddarpariaeth lwyddo a sicrhau ei hirhoedledd · defnyddio’r gyllideb bresennol i staffio’r ddarpariaeth

  • ei gwneud yn flaenoriaeth yng Nghynllun Datblygu’r Ysgol
  • use of the existing budget to staff the provision 

  • making it a priority on the School Development Plan  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Dros y blynyddoedd diwethaf, fe wnaeth yr ysgol feithrin ac annog perthnasoedd cefnogol a gofalgar â theuluoedd, gan ychwanegu ymhellach at y perthnasoedd hyn yn ystod COVID. Cydnabu’r ysgol fod adnabod teuluoedd yn fanwl yn allweddol nid yn unig i ddatblygu perthnasoedd cryf ond hefyd i wella canlyniadau i ddisgyblion.

Buddsoddodd arweinwyr a staff yn sylweddol mewn dod i adnabod y disgyblion a bodloni eu hanghenion lles yn effeithiol. Er enghraifft, yn y sesiynau lles ar ddechrau pob dydd, mae disgyblion yn dewis eu gweithgareddau eu hunain i’w helpu i dawelu a pharatoi at ddysgu. Mae’r sesiynau hyn yn galluogi staff i arsylwi disgyblion a chefnogi’r disgyblion y gwelant fod angen cymorth emosiynol, meddyliol a chorfforol arnynt. I wella hyn ymhellach, defnyddiodd y tîm arwain rywfaint o gyllideb ddirprwyedig yr ysgol i ariannu a hyfforddi aelodau staff i gyflwyno darpariaeth anogaeth yn y ‘Nyth’. Ers agor ym Medi 2022 a hyd at Fawrth 2023, cefnogodd y cyfleuster un o bob pump o ddisgyblion yr ysgol trwy grwpiau bach a sesiynau unigol wedi’u cynllunio’n ofalus, a system hunanatgyfeirio lwyddiannus. Sefydlwyd y system hon i roi cyfle i ddisgyblion siarad ag aelod hyfforddedig o staff am unrhyw anawsterau, neu bryderon yr oeddent am eu rhannu. Yn wreiddiol, cynigiodd yr ysgol hyn i ddisgyblion Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6, ond oherwydd ei llwyddiant, fe wnaethant ei gyflwyno i ddisgyblion Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4, hefyd. Mae disgyblion yn gofyn am slot unigol yn ystod amser cinio, y mae eu hathro dosbarth yn ei drefnu ar system archebu ganolog. Mae’r rhain yn sesiynau anffurfiol, un i un, lle mae’r disgyblion yn chwarae gemau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol tra’n siarad am eu pryderon neu eu hanawsterau. Mae staff yn cadw slotiau i unrhyw ddisgyblion sydd angen apwyntiad mwy brys, yn eu barn nhw. Mae staff yn cofnodi manylion y sesiynau hyn ac yn eu defnyddio i ennill dealltwriaeth fwy cyfannol o’r disgybl. Lle y bo’n briodol, mae’r ymarferwyr lles yn rhannu’r wybodaeth hon gydag athro dosbarth y plentyn ac yn trafod a oes angen cymorth ar y plentyn yn y dosbarth.

Mae staff yn rhoi cyfle i ddisgyblion sy’n troi at y system hunanatgyfeirio yn rheolaidd fod yn rhan o grŵp sy’n cymryd rhan mewn sesiynau cymorth lles emosiynol mwy dwys. Cynhelir y sesiynau hyn yn ddyddiol ac maent yn para hanner tymor. Mae ffocws y sesiynau yn bwrpasol i anghenion y disgyblion sydd wedi amlygu eu hunain trwy’r system atgyfeirio. Mae hyn yn caniatáu i staff weld y disgyblion hynny na fyddent o reidrwydd yn gwybod bod angen cymorth emosiynol ychwanegol arnynt.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Ers cyflwyno’r system hunanatgyfeirio, mae nifer y plant sy’n troi at y ddarpariaeth wedi cynyddu’n sylweddol ac mae plant bellach yn fwy hyderus i ofyn am gymorth ar gyfer eu lles emosiynol ac maent yn gwybod sut i wneud hyn.

Mae data o’r asesiadau lles a gynhaliwyd ar ddechrau ac ar ddiwedd y bloc hanner tymor yn dangos cynnydd ymhob maes i bob plentyn. Mae holiaduron disgyblion a staff yn amlygu’r effaith gadarnhaol y mae darpariaeth y ‘Nyth’ wedi’i chael ar ddisgyblion unigol.

Mae arsylwadau gan athrawon dosbarth yn dangos bod disgyblion yn dechrau trosglwyddo’r hyn y maent wedi’i ddysgu i’r ystafell ddosbarth ac i sefyllfaoedd cymdeithasol ehangach. Er enghraifft, mae un plentyn bellach yn dangos lefelau uchel o hunan-barch wrth gwblhau tasgau.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae Coed Glas yn ysgol arweiniol ar gyfer addysg gychwynnol athrawon (AGA) ac mae’n darparu hyfforddiant i fyfyrwyr o ysgolion eraill. Mae’r myfyrwyr hyn wedi elwa o ymweld â’r ‘Nyth’ i weld y ddarpariaeth ar waith.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Gynradd Coed Glas yn gwasanaethu cymuned Llanisien yng ngogledd Caerdydd. Mae gan yr ysgol 535 o ddisgyblion ar y gofrestr. Mae gan yr ardal o amgylch yr ysgol gymysgedd o eiddo cymdeithasol, eiddo wedi’i rentu ac eiddo ym mherchnogaeth breifat. Mae poblogaeth yr ysgol yn adlewyrchu’r dalgylch cyfoethog ac amrywiol hwn. Mae tua 36% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sydd wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyfartaledd yr awdurdod lleol yn 21.5%. Mae’r ysgol o fewn yr ardal sydd 20-30% fwyaf difreintiedig yng Nghymru yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Mae nifer y plant â Saesneg fel Iaith Ychwanegol wedi codi i 28%. Oherwydd niferoedd cynyddol y plant sydd angen lle ysgol yng ngogledd Caerdydd, mae’r ysgol wedi derbyn hyd at 90 o blant ym mhob grŵp blwyddyn dros y saith blynedd diwethaf, gan arwain at dri dosbarth fesul grŵp blwyddyn mewn sawl achos.

Mae 18 dosbarth prif ffrwd o grwpiau oed unigol, gyda dosbarth meithrin â 48 lle a chanolfan adnoddau arbenigol sy’n darparu ar gyfer hyd at 16 o blant o bob rhan o Gaerdydd, sydd â nam ar eu clyw.

Cyd-destun a chefndir i’r arfer effeithiol neu arloesol

Aeth yr ysgol ati i ddatblygu gwybodaeth a medrau tîm y blynyddoedd cynnar trwy gydweithredu, ymchwil a symbylu newid. Maent yn ystyried bod yr amgylchedd dysgu yn chwarae rôl y trydydd athro ac fe weithion nhw i greu dosbarth meithrin sy’n ddeniadol, yn ddigynnwrf ac yn ysbrydoli dysgu.

Ganed y plant a ddechreuodd yn y dosbarth meithrin yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol yn ystod pandemig Covid. Sylwodd ymarferwyr fod gan nifer gynyddol ohonynt oedi o ran iaith a lleferydd a bod eu medrau echddygol bras a manwl wedi’u tanddatblygu. Cydnabuon nhw fod angen ymagwedd newydd at helpu mynd i’r afael â hyn a bod angen trefnu’r dosbarth meithrin mewn ffordd sy’n annog a datblygu’r medrau hyn ac yn hybu annibyniaeth.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgaredd

Yn amgylchedd y dosbarth meithrin, mae ymarferwyr yn rhoi cyfleoedd i blant ddefnyddio adnoddau o fywyd go iawn i wneud dewisiadau annibynnol ac i ddatrys problemau. Yn lle teganau plastig mewn lliwiau llachar, mae adnoddau pen agored o fywyd go iawn a ‘rhannau rhydd’. Bydd ymarferwyr ond yn ymyrryd yn chwarae’r plant pan fyddant yn teimlo bod cyfle da i ehangu ar eu dysgu a’u dealltwriaeth.

Mae gan staff ddisgwyliadau uchel ar gyfer yr holl blant ac maent yn dathlu meddylfryd twf. Mae ymarferwyr yn chwarae rhan allweddol wrth fodelu a meithrin medrau annibynnol. Mae hyn i’w weld yn narpariaeth byrbrydau dyddiol y dosbarth meithrin. Mae bron pob un o’r disgyblion yn arllwys eu diod eu hun, yn defnyddio cyllyll, plicwyr ac offer arall yn ddiogel, ac yn golchi eu cwpan a’u plât eu hunain. Mae ymarferwyr hefyd yn defnyddio’r amser hwn i ddatblygu defnydd a dealltwriaeth y disgyblion o’r Gymraeg.

Mae sesiwn y dosbarth meithrin yn dilyn ‘rhythm’ y plentyn ac nid oes tarfu ar eu dysgu i gynnal gweithgareddau â ffocws. Yn ystod y sesiwn dwy awr a hanner, nod ymarferwyr yw sicrhau cydbwysedd, lle y caiff plant gyfle i ddatblygu medrau bywyd pwysig ond, hefyd, dilyn eu diddordebau a phethau maen nhw’n angerddol amdanynt. Pan mae disgybl yn gwneud darganfyddiad neu pan mae’n gofyn cwestiwn, mae’r ymarferwyr yn dilyn ei arweiniad ac yn rhoi amser, lle a chymorth i ymchwilio i’w feddyliau a’i syniadau ymhellach, a’u harchwilio. Mae’r dull hwn yn cyfeirio dysgu’r holl ddisgyblion.

Lle y nododd yr ysgol bod ysgrifennu yn weithred ysgol gyfan yng nghynllun gwella’r ysgol, dechreuodd yr ymarferwyr meithrin ymchwilio i’r medrau cyn ysgrifennu yr oedd eu hangen ar blant er mwyn ysgrifennu. Nod yr holl ddysgu yn y dosbarth meithrin yw adeiladu’r sylfeini y mae eu hangen yn barod i ysgrifennu, fel datblygu cyhyrau craidd plant trwy chwarae yn yr awyr agored, a chyfleoedd i ddatblygu cydsymud trwy baentio ar raddfa fawr ar wahanol uchderau ac onglau.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar ddarpariaeth ac ar safonau dysgwyr?

Trwy roi adnoddau bywyd go iawn, pen agored i’r plant, sy’n tanio chwilfrydedd, mae plant wedi dod i chwarae rhan fwy gweithgar yn eu dysgu. Mae plant yn cymryd rhan yn eu chwarae am gyfnodau hwy wrth iddynt adeiladu, casglu, didoli a chyfuno adnoddau â deunyddiau eraill.

Mae plant sy’n dechrau’r dosbarth meithrin gydag oedi i’w hiaith a’u lleferydd wedi dangos cynnydd sylweddol. Mae’r cyfnodau hir o chwarae dilys, ystyrlon gyda chefnogaeth fedrus ymarferwyr yn sicrhau bod y medrau hyn yn cael eu modelu a’u datblygu.

Trwy addasu sesiynau’r dosbarth meithrin yn ôl rhythm y plentyn, rydym wedi sylwi bod plant yn gwneud cysylltiadau dyfnach yn eu dysgu ac yn meistroli medrau penodol.

Mae’r ysgol yn disgwyl gweld effaith y ffocws ar barodrwydd cyn ysgrifennu wrth i’r plant symud ymlaen drwy’r ysgol, gan ddatblygu angerdd tuag at ysgrifennu a hyder disgyblion yn eu galluoedd ysgrifennu eu hunain.

Sut rydych chi wedi rhannu’ch arfer dda?

Mae’r ysgol wedi cael ymweliadau gan athrawon newydd gymhwyso o ysgolion eraill, i arsylwi’r arfer effeithiol.

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cefndir

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol Gymraeg yn awdurdod Penybont. Mae oddeutu 683 o ddisgyblion yn yr ysgol, tua 118 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae bron i 16% o’r disgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim, sydd yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 20.2%. Mae tua 30% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn y cartref. 

Strategaeth

Wrth ymateb i  anghenion bugeiliol disgyblion, a lefelau is o bresenoldeb yn dilyn cyfnod COVID, aeth yr ysgol ati i ehangu ei darpariaeth lles a chynhwysiant er mwyn lleihau ar y rhwystrau posib rhag i ddisgyblion dderbyn mynediad llawn i’w haddysg. Crëwyd Tîm Cynhwysiant a Lles pwrpasol o dan ofal aelodau’r uwch-dîm arwain. Bu trafodaethau gyda rhanddeiliaid amrywiol er mwyn cryfhau gweledigaeth yr ysgol a’r clwstwr. Yn y trafodaethau hyn, adeiladwyd ar ethos ‘Tîm Llan’ a ‘Theulu Llan’ i sicrhau bod pob aelod o gymuned Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn teimlo’n gyfforddus i fod yn bresennol. Y dyhead oedd i sicrhau bod pawb  yn deall eu rolau a chyfrifoldebau er mwyn cadarnhau yr ymdeimlad o berthyn i’r ysgol trwy ffocysu ar les.  

Beth wnaeth yr ysgol

Sefydlwyd Tîm Cynhwysiant a Lles gyda chyfrifoldebau pendant, gan gydweithio ar bob lefel, megis angenion dysgu ychwanegol (ADY), dysgu ac addysgu, diogelu, a lles. Trefnwyd cyfarfodydd rheolaidd a hyfforddiant priodol i bob aelod o’r tîm iddynt allu cynorthwyo anghenion penodol disgyblion/grwpiau o ddisgyblion ac er mwyn sicrhau cysondeb cytunwyd ar ganllawiau ymateb graddedig.  

Buddsoddodd yr ysgol mewn meddalwedd i greu systemau cytûn i rannu gwybodaeth perthnasol. Trefnwyd hyfforddiant trylwyr fel bod pob aelod o staff yn cael mynediad i drosolwg cynhwysfawr pob disgybl a bod ganddynt strategaethau cyfredol er mwyn ymateb i’w hanghenion.  

Wrth gynllunio, creu a darparu sesiynau boreol bugeiliol (gwasanaethau, Lles Llun a Chodi Llais) gyda’u tiwtoriaid, anogwyd pob un o’r disgyblion i fyfyrio ar eu hymdeimlad o berthyn a thrafod eu profiadau a theimladau yn yr ysgol ac o fewn y gymuned leol. I ymateb i’r adborth ac anghenion cynyddol y disgyblion, cytunwyd, gyda chefnogaeth y llywodraethwyr, i greu ‘Llannerch’, sef ardal sy’n sicrhau man diogel i ddisgyblion drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt tu fewn neu thu allan i’r ysgol gyda staff penodol. Mae ‘Llannerch’ yn caniatáu i ddisgyblion dderbyn ymyraethau amrywiol (e.e. mentora, ELSA, rhaglen gefnogi lles emosiynol a iechyd meddwl, llythrennedd a rhifedd, a chefnogaeth emosiynol). Yn ogystal, defnyddir yr ardal yn effeithiol wrth ail-gyflwyno disgyblion gorbryderus i’r ysgol, gan gynnig cwricwlwm addasedig dros dro i’w hymgartrefu yn ôl i fywyd llawn yr ysgol.   

Mewn ymateb i broblem genedlaethol o bresenoldeb isel yn sgil COVID, datblygwyd rôl Pennaeth Cynorthwyol Cynhwysiant a Lles a phenodwyd Uwch Swyddog Cefnogaeth Arbenigol i gyd-weithio yn wythnosol gyda Swyddog Addysg Lles y sir. Maent yn gweithredu system dracio trylwyr ar draws yr ysgol fel bod modd adnabod unrhyw bryderon yn gynnar ac i ymateb yn syth (er enghraifft, drwy gyswllt gyda rhieni wyneb i wyneb/galwad ffôn; cyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol; gweithredu cwricwlwm amgen dros dro; cyfeiriadau mentora a chwnsela; trafodaethau mewn gwasanaethau, a chwricwlwm amgen hir dymor- EOTAS/prentisiaethau).   

Mae pob aelod o ‘Dîm Llan’ yn ymwybodol o’r systemau ac yn hyderus o’u defnydd a’u rôl nhw wrth gyfrannu at gefnogi pawb ar draws yr ysgol. Golyga hyn hefyd bod cefnogaeth addas mewn gwersi ac ymyraethau yn cefnogi pob unigolyn i fod yn bresennol yn yr ysgol er mwyn iddynt gael mynediad llawn i’w haddysg.   

Mae’r tracio a chyfathrebu’n gyson, trwy gynlluniau cynnydd unigol a data presenoldeb, yn sicrhau bod yr ysgol yn ymwybodol o unrhyw rwystrau neu anghenion yn syth, gan gynnwys rhai disgyblion ysgolion cynradd y clwstwr. O ganlyniad i’r strategaethau a chyda pharodrwydd disgyblion a rhieni i gyd-weithio gyda’r ysgol a Swyddog Addysg Lles y sir, mae lefelau presenoldeb wedi codi trwy sicrhau bod pawb yn dilyn y cwricwlwm cywir ar gyfer eu hanghenion ar draws pob cyfnod allweddol. 

Effaith

Mae’r strategaethau amrywiol i ddisgyblion a’r ffocws ar gefnogi lles staff (cyswllt UDA a mewnbwn cwmni cymell), yn golygu bod pob unigolyn yn yr ysgol yn teimlo fel bod eu llais yn cael eu clywed. Mae hyn wedi magu’r ymdeimlad o berthyn i ‘Dîm Llan’ ymysg disgyblion, staff, rhieni, Llywodraethwyr, y clwstwr ac asiantaethau allanol. O ganlyniad i’r holl strategaethau hyn, mae lefelau presenoldeb wedi cynyddu’n sylweddol er nad ydynt, fel yn llawer o ysgolion Cymru eto gystal ag oeddent cyn y pandemig.  

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Cefndir

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol Gymraeg yn awdurdod Penybont. Mae oddeutu 683 o ddisgyblion yn yr ysgol, tua 118 ohonynt yn y chweched dosbarth. Mae bron i 16% o’r disgyblion yn gymwys i brydau ysgol am ddim, sydd yn is na’r cyfartaledd cenedlaethol o 20.2%. Mae tua 30% o’r disgyblion yn siarad Cymraeg yn y cartref. 

Cyd-destun

Wrth ymgorffori egwyddorion Cwricwlwm i Gymru mae’r ysgol wedi rhoi ffocws ar gysoni a datblygu addysgeg effeithiol. Er mwyn gwireddu hyn mireiniwyd cyfundrefnau datblygiad proffesiynol staff ynghyd â’r prosesau monitro ac arfarnu er mwyn eu halinio a sicrhau cylch cyson o werthuso a gwella ac er mwyn cynnig y profiadau dysgu gorau ar gyfer y disgyblion.  

Beth wnaeth yr ysgol

Sylweddolodd arweinwyr bod caffael ar ddarlun cywir a chyfredol o safonau’r ddarpariaeth bresennol yn holl bwysig er mwyn gallu dylunio a gweithred

Math o Adnodd Gwella: Arfer effeithiol


Gwybodaeth am yr ysgol

Mae Ysgol Uwchradd Woodlands yn rhan o Ffederasiwn Dysgu’r Gorllewin ac yn gweithio ochr yn ochr ag Ysgol Riverbank ac Ysgol Tŷ Gwyn. Mae’r ysgol yn darparu addysg ddydd ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 19 mlwydd oed. Mae mwyafrif y disgyblion o oedran ysgol statudol a thua 40% ohonynt mewn addysg ôl-orfodol. Mae anghenion dysgu amrywiol y disgyblion yn amrywiol, ac mae gan bob disgybl ddatganiad anghenion addysgol arbennig. Mae gan ryw 44% o ddisgyblion anawsterau dysgu difrifol, mae gan 20% arall anghenion corfforol a meddygol ac anawsterau lleferydd, ac mae gan 20% arall anawsterau cyfathrebu ac iaith. Mae ychydig o ddisgyblion yn awtistig neu mae ganddynt anhawster dysgu cyffredinol. Mae gan ychydig iawn o ddisgyblion namau synhwyraidd ac anawsterau dysgu dwys a lluosog.

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Mae Ysgol Uwchradd Woodlands yn ysgol arbennig sydd wedi’i lleoli yn Nhrelái, Caerdydd, sy’n un o’r 10% uchaf o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru. Mae hanner disgyblion yr ysgol yn byw yn yr ardal leol a 56% o ddisgyblion yn derbyn prydau ysgol am ddim. Oherwydd y ffactorau hyn, mae llawer o ddisgyblion yn dioddef o effaith tlodi.

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

  • Mae’r ysgol yn ymgysylltu’n llawn â’r ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol (WSAEMW), sy’n gofyn i ysgolion ddatblygu proses barhaus o fyfyrio a gwella.

  • Datblygwyd ethos o ganmol lle defnyddir “cyfarchion” (“shout outs”) gan staff i ddiolch i’w gilydd a llongyfarch ei gilydd yn gyhoeddus am eu gwaith a’u cymorth ar ddiwedd cyfarfodydd y bore, a thrwy negeseuon e-bost ar gyfer pob aelod o staff.

  • Caiff cynllun angylion gwarcheidiol ei reoli gan staff yr ysgol. Caiff staff eu pennu’n ddienw i fod yn angel gwarcheidiol ar gyfer cydweithiwr. Ar ôl ei bennu, mae’r angel gwarcheidiol yn rhoi negeseuon o gymorth ac anogaeth ac yn gwobrwyo’i gydweithiwr trwy roi anrhegion bach iddo trwy gydol y flwyddyn ysgol.

  • Mae gwasanaeth seicoleg addysg yr awdurdod lleol yn cynorthwyo staff trwy sesiynau goruchwylio grŵp ac unigol. Cynigir goruchwyliaeth i staff ac arweinwyr. Mae seicolegydd addysg yr ysgol yn trefnu sesiynau unigol a chyfrinachol ar gyfer yr aelodau staff hynny sydd fwyaf mewn perygl o ddioddef trawma trwy eu rôl yn yr ysgol. Mae hyn yn aml yn cynnwys arweinwyr diogelu ac ymarferwyr therapiwtig. Mae’r sesiynau hyn yn darparu gofod diogel lle gall staff fyfyrio a phrosesu eu meddyliau, eu hemosiynau a’u teimladau mewn gofod cyfrinachol.

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth?

  • Defnyddiodd yr ysgol WAAEMW fel rhan o’i hunanwerthusiad ysgol. Helpodd hyn i nodi fod angen iddi ganolbwyntio ar y canlynol: dulliau cyfathrebu, tryloywder ei gwaith, ymgysylltu a chysylltu â rhieni a’r gymuned leol fel rhan o’i thaith adfer o COVID. O ganlyniad, sefydlodd yr ysgol gynllun datblygu â ffocws cymunedol. Canolbwyntiodd hyn ar y canlynol: cyfathrebu’n well â rhieni trwy blatfform asesu digidol; datblygu fforwm rhieni sydd bellach wedi datblygu i fod yn gymdeithas rhieni a ffrindiau; gwella’r arlwy profiad gwaith ar gyfer disgyblion ar ôl COVID-19; a meithrin cysylltiadau â grwpiau cymunedol lleol.
  • Yn yr arolygon diweddaraf ar les staff, mae’r rhan fwyaf o staff yn cytuno bod yr ysgol yn lle cadarnhaol i weithio. Mae’r ethos o ganmoliaeth ymhlith staff yn cefnogi hyn ac mae pob un o’r staff yn dweud eu bod yn gwybod at bwy i droi os oes angen cymorth arnynt.
  • Yn aml, mae angylion gwarcheidiol yn gadael negeseuon ar adegau anodd i’w cydweithwyr. Effaith hyn yw sicrhau bod staff yn teimlo gwerthfawrogiad o’r rhai o’u cwmpas pan fyddant yn aml yn teimlo’u bod yn cael eu herio fwyaf.
  • Dywedodd cant y cant o staff fod eu sesiynau goruchwylio wedi bod o fudd i’w hiechyd a’u lles, a oedd, yn ei dro, yn gwella’u gwydnwch a’u gallu i weithio gyda phlant sydd angen cymorth cymhleth a dwys. Dywedodd cant y cant o staff y byddent yn argymell goruchwylio i gydweithiwr.

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

  • · Mae’r ysgol wedi rhannu ei dulliau o ddefnyddio’r WSAEMW fel offeryn hunanwerthuso mewn digwyddiadau ysgolion iach a gynhelir gan Gyngor Caerdydd ar gyfer pob ysgol yn yr awdurdod.

  • Mae postiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn amlygu llwyddiant y gymdeithas rhieni a ffrindiau a’r cyfleoedd i’r holl rieni ymuno â’r fforwm rhieni.

  • Rhennir gwybodaeth ar draws y ffederasiwn a gyda’r corff llywodraethol.