Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Disgwylir i’r arolwg thematig hwn gefnogi Llywodraeth Cymru trwy gyflawni’r amcanion canlynol:
- Canolbwyntio ar heriau a llwyddiannau’r model pob oed
- Darparu adroddiad am gyflwr y genedl ar ysgolion pob oed
Mae’r sector ysgolion pob oed yn sector sy’n tyfu, gyda mwy na dwywaith nifer yr ysgolion yn agor yn 2020 o gymharu â 2017. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar dri maes eang, sef:
- Y rhesymeg ar gyfer sefydlu ysgol bob oed
- Sefydlu ysgolion pob oed
- Effaith model ysgol bob oed
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai ysgolion uwchradd:
- A1 Gydnabod bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fynych iawn ym mywydau disgyblion ifanc a mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan ataliol a rhagweithiol i ddelio â’r mater. Rhan bwysig o hyn yw ei bod yn cynnwys darparu sicrwydd i ddisgyblion y bydd staff ysgol yn cymryd pob achos o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion o ddifrif ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni ac asiantaethau allanol.
- A2 Darparu cyfleoedd dysgu digonol, cronnol a buddiol ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oedran gyfan am berthnasoedd iach, addysg rhyw a rhywioldeb. Mae hyn yn cynnwys darparu amgylchedd diogel, cefnogol a galluogol ar gyfer trafodaethau agored a gonest.
- A3 Gwella’r ffordd maen nhw’n cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu a bwlio. Dylai cofnodion gynnwys manylion am y math o achosion, a’u natur, yr effaith ar y dioddefwr a chamau gweithredu priodol i ymateb i gyflawnwyr a dioddefwyr, fel ei gilydd. Dylai arweinwyr sicrhau eu bod yn adolygu cofnodion yn rheolaidd, ac yn gwerthuso effaith eu gweithredoedd ar les disgyblion.
- A4 Sicrhau bod holl staff ysgolion yn cael cyfleoedd dysgu proffesiynol rheolaidd a phwrpasol ar faterion addysg bersonol a chymdeithasol, yn cynnwys perthnasoedd, rhywedd, amrywiaeth a thrawsnewid. Mae hyn yn cynnwys darparu awyrgylch diogel, anogol a chefnogol ar gyfer trafodaethau agored ac onest.
Dylai awdurdodau lleol:
- A5 Weithio gydag ysgolion i gasglu, categoreiddio a dadansoddi’r holl ddata ar fwlio ac aflonyddu yn gywir ac yn gynhwysfawr. Yn ychwanegol, cynorthwyo ysgolion i ddadansoddi’r wybodaeth hon yn rheolaidd i nodi tueddiadau a rhoi trefniadau adferol ar waith.
- A6 Cynllunio ymyrraeth a chymorth addas ar faterion rhyw ar lefel ysgol ac awdurdod lleol a gwerthuso effaith hyn ar les disgyblion yn rheolaidd.
- A7 Darparu dysgu proffesiynol angenrheidiol ar gyfer staff ysgol i’w galluogi i fabwysiadu ymagwedd ragweithiol tuag at aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, yn cynnwys bwlio ac aflonyddu homoffobig, deuffobig a thrawsffobig. Dylai hyn ddigwydd mewn cydweithrediad â’r consortia rhanbarthol lle y bo’n briodol.
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A8 Weithio gydag awdurdodau addysg lleol er mwyn gwella’r ffordd y maent yn casglu gwybodaeth am fwlio ac aflonyddu gan ysgolion a sicrhau bod awdurdodau lleol yn adnabod ac yn ymateb i batrymau a thueddiadau mewn ymddygiad. Mae hyn er mwyn cynllunio arweiniad, hyfforddiant a chefnogaeth addas i ysgolion.
- A9 Sicrhau bod ysgolion yn cael diweddariadau rheolaidd a llawn gwybodaeth ar arferion gorau ac adnoddau addas sydd ar gael i’w cynorthwyo i gyflwyno addysg cydberthynas a rhywioldeb
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A1 Gynnal adolygiad strwythurol o ddarpariaeth AGA AHO, sy’n ystyried y themâu sy’n dod i’r amlwg a nodir yn yr adroddiad hwn ac anghenion datblygu ehangach y gweithlu
- A2 Sicrhau y caiff data sy’n ymwneud â nifer, deilliannau a chyrchfannau hyfforddeion ar raglenni AGA AHO ei gasglu a’i gyhoeddi’n rheolaidd
- A3 Brocera cyfleoedd i arweinwyr cyrsiau a staff cyflwyno mewn SABau a SAUau i ddatblygu rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar addysgeg AGA AHO
- A4 Datblygu cymhelllion i annog hyfforddeion i addysgu ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
Dylai darparwyr:
- A5 Wella darpariaeth mentora i hyfforddeion AGA
- A6 Cynyddu’r cyfleoedd i hyfforddeion ymgymryd â’u profiad addysgu a chwblhau agweddau ar eu rhaglen hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg
- A7 Sicrhau bod pob hyfforddai yn cael lleoliadau profiad addysgu o ansawdd uchel sy’n cynnig cyfleoedd iddynt arsylwi arfer addysgu gref a datblygu medrau addysgu cynhwysfawr
- A8 Sicrhau bod pob rhaglen AGA AHO yn ddigon hyblyg i fodloni anghenion yr ystod lawn o hyfforddeion
- A9 Sicrhau y caiff rhaglenni eu llunio ar y cyd, gan ystyried anghenion hyfforddeion mewn SAUau a SABau, ac mewn ymgynghoriad â chyflogwyr AHO.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Yn dilyn y digwyddiadau yn ystod haf 2020 a mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, cytunodd Estyn â Llywodraeth Cymru y dylai’r adolygiad ystyried hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru a’r cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ehangach.
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig
Argymhellion
Yn achos grantiau tebyg yn y dyfodol, dylai arweinwyr mewn ysgolion a cholegau:
- A1 Sicrhau bod ganddynt weledigaeth glir ar gyfer y deilliannau y maent yn dymuno eu cael o wariant ychwanegol
- A2 Gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddatblygu strategaethau i gefnogi cynnydd a lles dysgwyr
- A3 Olrhain a gwerthuso’n effaith unrhyw wariant ychwanegol yn aml er mwyn addasu cynlluniau cyfredol lle mae angen, a llywio eu cynllunio dyfodol
- A4 Ystyried adeiladu ar newidiadau llwyddianus wnaethon i’w harferion yn ystod y pandemig
- A5 Sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg yn flaenoriaeth, ni waeth beth yw cefndiroedd ieithyddol dysgwyr
Dylai consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol:
- A6 Olrhain a gwerthuso llwyddiant gwahanol fodelau sy’n darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr ar draws eu hardaloedd, gan gyfeirio at y dangosyddion a awgrymir yn yr adroddiad hwn
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A7 Sicrhau bod amodau ar gyfer unrhyw wariant o’r grant dal i fyny yn y dyfodol yn briodol hyblyg, ac yn hafal ar gyfer ysgolion a cholegau
Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig

Argymhellion
Dylai colegau addysg bellach, darparwyr dysgu yn y gwaith a phartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned:
- A1 Dargedu adnoddau i hybu iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol yn ofalus er mwyn osgoi gorlwytho dysgwyr a staff â gormod o wybodaeth
- A2 Nodi’n ofalus y dysgwyr hynny sydd â’r risg fwyaf o ymddieithrio rhag dysgu neu gael profiad o broblemau iechyd meddwl a lles emosiynol, a monitro eu lles yn rheolaidd
- A3 Blaenoriaethu darparu cymorth yn ôl yr angen i sicrhau bod pob un o’r dysgwyr y mae angen cymorth brys arnynt â’u hiechyd meddwl a’u lles emosiynol yn cael cymorth cyn gynted ag y bo modd
- A4 Cydweithio mor agos ag y bodd modd ag asiantaethau allanol i sicrhau bod cymorth cyffredinol ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol mor ddi-dor ag y bo modd a lleihau, neu osgoi yn ddelfrydol, yr angen am nifer o fannau cyswllt
- A5 Ei gwneud yn glir sut y gall pob dysgwr fanteisio ar gymorth ar gyfer iechyd meddwl a lles meddyliol, gan gynnwys y rhai sy’n astudio ag isgontractwyr neu ddarparwyr partner
- A6 Sicrhau bod yr holl staff cwnsela, ac aelodau staff eraill mewn rolau tebyg, yn cael goruchwyliaeth neu fentora priodol, ac yn ymgymryd â dysgu proffesiynol penodol ar sut i ddarparu cymorth o bell yn effeithiol
Dylai Llywodraeth Cymru:
- A7 Sicrhau y caiff deilliannau prosiectau iechyd meddwl a ariennir gan Lywodraeth Cymru eu gwerthuso’n llawn, a rhannu’r canfyddiadau ar draws pob sector ôl-16