Adroddiad thematig Archives - Page 4 of 31 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai Gyrfa Cymru:

  • Ddatblygu systemau a meini prawf priodol i werthuso’r effaith a gaiff gwasanaethau ar effeithiolrwydd a gwydnwch pobl ifanc wrth iddynt gynllunio gyrfa a gwneud penderfyniadau
  • Sicrhau bod gwerthuso effeithiol, wedi’i seilio ar dystiolaeth gywir, gynhwysfawr a pherthnasol, yn llywio cynllunio strategol a gwella ansawdd
  • Cryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau gyrfaoedd eraill i wella cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a datblygu arfer dda
  • Parhau i sicrhau bod dadansoddi o weithgareddau sicrhau ansawdd yn cael ei fwydo’n ôl i ysgolion unigol i gryfhau addysg gyrfaoedd ac addysg yn gysylltiedig â gwaith
  • Sicrhau bod pob un o’r staff yn hyrwyddo ymwybyddiaeth pobl ifanc o werth y Gymraeg fel medr cyflogaeth
  • Sicrhau bod pob un o’r staff yn deall trefniadau a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer diogelu pobl ifanc

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r canfyddiadau o ymweliadau a galwadau arolygwyr cyswllt a wnaed â’r holl golegau addysg bellach, a’r rhan fwyaf o bartneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2021. Mae’r adroddiad hwn wedi’i seilio ar y wybodaeth a drafodwyd yn ystod cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein gydag uwch arweinwyr ac arweinwyr canol a grwpiau bach o ddysgwyr.

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Mae’r adroddiad hwn yn ystyried achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ym mywydau pobl ifanc oedran uwchradd, ac yn adolygu’r diwylliant a’r prosesau sy’n helpu gwarchod a chynorthwyo pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru. Mae aflonyddu rhywiol yn digwydd pan fydd person yn ymgymryd ag ymddygiad digroeso o natur rhywiol sydd gyda’r bwriad neu’r effaith o:

  • amharu ar urddas rhywun; neu
  • greu amgylchedd bygythiol, cas, diraddiol, ymosodol neu sy’n cywilyddio
  • iddynt

Mae aflonyddu rhywiol yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn ein gwaith gyda disgyblion, dyma sut y diffinir aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion:

  • gwneud sylwadau neu jôcs rhywiol naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • codi sgertiau neu dynnu llun o dan ddillad rhywun heb yn wybod iddi/iddo
  • gwneud sylwadau cas am gorff, rhywedd, rhywioldeb neu olwg rhywun i
  • achosi cywilydd, gofid neu fraw iddo/iddi
  • camdriniaeth yn seiliedig ar ddelwedd, fel rhannu llun neu fideo o rywun yn noeth / hanner noeth heb gydsyniad y sawl sydd yn y llun
  • anfon ffotograffau / fideos rhywiol, cignoeth neu bornograffig digroeso at rywun

Ysgrifennwyd yr adroddiad i ymateb i gais gan y Gweinidog Addysg ym mis Mehefin 2021. Mae’r adolygiad hwn yn berthnasol i ddysgwyr, rhieni ac ysgolion yn ogystal â Llywodraeth Cymru, gwasanaethau statudol a sefydliadau’r trydydd sector sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc.