Adroddiad thematig Archives - Page 15 of 31 - Estyn

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

 
  • A1 Gwneud yn siŵr bod gwersi gwyddoniaeth yn herio pob disgybl, yn enwedig y rhai mwy abl, a lleihau’r bwlch rhwng cyflawniad disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u cyfoedion
  • A2 Gwneud yn siŵr bod disgyblion yn cael cyfleoedd i ddysgu am holl feysydd y cwricwlwm dylunio a thechnoleg, yn enwedig ‘systemau a rheolaeth’
  • A3 Sicrhau bod asesu yn helpu disgyblion wybod beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn gwella
  • A4 Sicrhau bod prosesau hunanarfarnu yn gadarn ac yn canolbwyntio ar wybodaeth bynciol, dealltwriaeth a medrau disgyblion, ac ar ansawdd yr addysgu
  • A5 Darparu hyfforddiant i athrawon ym meysydd gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg lle ceir diffyg gwybodaeth a hyder

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

 
  • A6 Darparu mwy o gymorth penodol i bwnc i athrawon er mwyn gwella’r addysgu a’r asesu mewn gwyddoniaeth a dylunio a thechnoleg a hwyluso rhannu arfer dda
  • A7 Darparu mwy o gymorth i ysgolion arfarnu’u cwricwlwm a chynllunio ar gyfer datblygu maes dysgu a phrofiad gwyddoniaeth a thechnoleg

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

  • A1 Sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael trafodaethau rheolaidd am eu cynnydd, eu dyheadau a’u llwybrau dysgu posibl, yn enwedig ym Mlwyddyn 9 a Blwyddyn 11
  • A2 Rhoi gwybodaeth gywir a chyfoes i ddisgyblion am ystod lawn y cyfleoedd chweched dosbarth, addysg bellach a phrentisiaeth sy’n agored iddynt
  • A3 Arfarnu eu darpariaeth GBG i sicrhau ei bod:
    • a. yn cael ei chyflwyno gan staff wedi’u hyfforddi’n dda, a bod y ddarpariaeth yn cynnwys adnoddau cyfoes
    • b. yn darparu profiadau perthnasol sy’n canolbwyntio ar waith ar gyfer disgyblion
    • c. yn defnyddio gwybodaeth yn well i fonitro ac olrhain tueddiadau yng nghyflawniad a dilyniant disgyblion er mwyn cynllunio gwelliannau yn y ddarpariaeth
    • ch. yn cael ei hintegreiddio mewn prosesau hunanarfarnu, cynllunio gwelliant ac atebolrwydd ysgol gyfan
  • A4 Cynnwys llywodraethwyr yn fwy mewn goruchwylio GBG yn strategol

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • A5 Helpu ysgolion i ddatblygu eu defnydd o wybodaeth i arfarnu effeithiolrwydd eu darpariaeth GBG

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Hyrwyddo partneriaethau cryfach rhwng ysgolion, darparwyr, cyflogwyr a phobl eraill i wella’r ffordd y caiff cyngor ac arweiniad diduedd eu cyflwyno
  • A7 Adolygu’r fframwaith GBG a diweddaru arweiniad yng ngoleuni egwyddorion diwygio’r cwricwlwm a nodwyd yn Dyfodol Llwyddiannus

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai ysgolion:

 
  • A1 Cynllunio a darparu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu a chymhwyso’u medrau ariannol ar draws y cwricwlwm
  • A2 Monitro ac arfarnu ansawdd y dysgu a’r addysgu ar gyfer addysg ariannol
  • A3 Darparu hyfforddiant priodol i staff er mwyn gwella’r ddarpariaeth ar gyfer addysg ariannol

Dylai Awdurdodau Lleol / Consortia:

  • A4 Hwyluso trefniadau effeithiol i ysgolion rannu arfer dda ac adnoddau ar gyfer addysg ariannol
  • A5 Adolygu’u rhaglenni hyfforddi ar gyfer rhifedd i sicrhau eu bod yn galluogi athrawon i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn o addysg ariannol

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Adolygu a hyrwyddo’i deunydd arweiniad ar gyfer cyflwyno addysg ariannol yn effeithiol, i gynnwys cronfa ddata o adnoddau a sefydliadau defnyddiol i ysgolion
  • A7 Cefnogi datblygu adnoddau addysg ariannol ddigidol dwyieithog
  • A8 Sicrhau bod addysg ariannol wedi’i chynnwys wrth ddatblygu’r maes dysgu a phrofiad newydd ar gyfer iechyd a lles, yn ogystal â mathemateg a rhifedd

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Argymhellion

Dylai colegau addysg bellach:

  • A1 Weithio’n fwy effeithiol gydag ysgolion uwchradd i nodi dysgwyr sy’n siarad Cymraeg cyn iddynt drosglwyddo i’r coleg a sicrhau bod yr holl wybodaeth am gymorth sydd ei hangen arnynt gan ddysgwyr er mwyn eu galluogi i ddewis i barhau â’u dysgu yn Gymraeg
  • A2 Cryfhau cynlluniau strategol Cymraeg er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dysgu yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, yn enwedig yn y meysydd galwedigaethol y mae galw cynyddol am fedrau dwyieithog ynddynt gan gyflogwyr
  • A3 Sicrhau bod digon o staff ar gael ym mhob coleg i ddarparu cyrsiau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog a chefnogi staff sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella’u Cymraeg
  • A4 Gwella hyfforddiant staff ar y fethodoleg addysgu’n ddwyieithog, a sicrhau bod digon o adnoddau a deunyddiau dysgu ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog
  • A5 Sicrhau bod gwybodaeth am allu iaith dysgwyr, cymwysterau blaenorol yn Gymraeg a gweithgareddau dysgu wedi’u cofnodi’n gywir yng Nghofnod Dysgu Gydol Oes Cymru

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • A6 Helpu colegau i wella ansawdd cynlluniau strategol iaith Gymraeg, gan gynnwys defnyddio data i osod targedau heriol er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr sy’n dilyn eu cyrsiau yn Gymraeg neu’n ddwyieithog
  • A7 Cynnal adolygiadau rheolaidd o’r cynnydd a wneir gan golegau yn erbyn y targedau yn eu cynlluniau strategol
  • A8 Gwella meysydd casglu data, a’u canllawiau cysylltiedig, er mwyn sicrhau bod colegau’n cofnodi gwybodaeth gywir am alluoedd ieithyddol dysgwyr ac iaith dysgu ac asesu yn ôl gweithgaredd
  • A9 Datblygu strategaeth genedlaethol i gynyddu ymwybyddiaeth dysgwyr o fanteision dewis parhau i ddysgu yn Gymraeg pan fyddant yn trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg
  • A10 Sicrhau bod digon o adnoddau a deunyddiau dysgu ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog

Math o Adnodd Gwella: Adroddiad thematig


Prif ganfyddiadau

  1. Mae cyfranogiad disgyblion yn gryf mewn ysgolion sydd â’r nodweddion canlynol:
    • Mae cyfranogiad disgyblion a meithrin perthnasoedd cadarnhaol yn rhan annatod o weledigaeth ac ethos yr ysgol. Mae gan arweinwyr a rheolwyr strategaeth glir ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad ac ar gyfer meithrin perthnasoedd da. Maent yn cefnogi ac yn annog cyfranogiad agored a gonest. Mae arweinwyr yn creu ethos lle mae disgyblion yn parchu hawliau pobl eraill ac yn deall pwysigrwydd amrywiaeth a chydraddoldeb.
    • Mae rolau a strwythurau clir ar waith ar draws yr ysgol i gofnodi safbwyntiau disgyblion ar ystod eang o faterion yn ymwneud â gwella’r ysgol. Mae staff yn cymryd safbwyntiau disgyblion o ddifrif ac yn gweithredu yn unol â nhw. Mae disgyblion, staff a llywodraethwyr yn deall eu rolau a’u cyfrifoldebau mewn perthynas â chyfranogiad. Gall arweinwyr ddangos effaith cyfranogiad ar gynllunio gwella ysgol.
    • Caiff disgyblion gyfleoedd eang i gymryd rhan yn yr ysgol a thu hwnt, i gyfrannu at drafodaethau a dylanwadu ar benderfyniadau ar draws ystod eang o faterion sy’n effeithio arnyn nhw. Mae’r cyfleoedd hyn yn annog disgyblion i ddatblygu’r medrau sydd eu hangen i fod yn ddinasyddion gweithredol.nbsp;
    • Mae disgyblion a staff yn elwa ar hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus o ansawdd da sydd wedi ei dargedu’n dda i ddatblygu’r medrau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i sicrhau bod llais disgyblion yn cael ei glywed mewn trafodaethau ac wrth wneud penderfyniadau.
  2. Pan fydd cyfranogiad disgyblion yn gadarn, mae disgyblion yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at wella’r ysgol trwy ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch lles, profiadau dysgu, ac ansawdd yr addysgu, a thrwy helpu i nodi blaenoriaethau’r ysgol yn y dyfodol. Dywed llawer o ysgolion fod cyfranogiad disgyblion yn cyfrannu at amgylchedd ac ethos ysgol gwell, ac at berthnasoedd gwell rhwng pawb yng nghymuned yr ysgol.
  3. Mae manteision i ddisgyblion hefyd mewn cyfranogiad gwell, gan gynnwys iechyd a lles gwell, ymgysylltu ac ymddygiad gwell, a gwelliannau mewn dysgu, cyflawniadau a pherfformiad yn yr ysgol. Trwy eu hymglymiad gwell mewn gwneud penderfyniadau, mae disgyblion yn datblygu medrau personol a chymdeithasol gwerthfawr, fel gwrando, cyfathrebu, trafod, blaenoriaethu a gweithio gydag eraill. Maent hefyd yn ennill dealltwriaeth well o hawliau aelodau eraill o gymuned yr ysgol ac o ganlyniadau gweithredoedd sy’n effeithio ar bobl eraill. Caiff disgyblion eu paratoi’n well i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus a gweithredol Cymru a’r byd, a daw eu hagweddau tuag at ddinasyddiaeth weithredol yn fwy cadarnhaol.
  4. Mae bron pob un o’r ysgolion a arolygwyd rhwng Medi 2013 a Gorffennaf 2016 yn cydymffurfio’n llawn â’r Rheoliadau Cyngor Ysgol. Bron ym mhob ysgol, mae’r cyngor ysgol yn gwneud cyfraniad gwerth chweil tuag at wella amgylchedd dysgu’r ysgol. Yn yr ysgolion hyn, ystyrir safbwyntiau disgyblion ac maent yn dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch bywyd yr ysgol.  
  5. Mae Estyn yn casglu safbwyntiau disgyblion trwy holiadur a gyhoeddir cyn arolygu pob ysgol, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau nas cynhelir. Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn teimlo bod staff yn eu parchu ac yn eu helpu i ddeall pobl eraill a’u parchu. Caiff y rhan fwyaf o ddysgwyr eu hannog i wneud pethau drostynt eu hunain a chymryd cyfrifoldeb. Mae llawer o ddysgwyr yn teimlo hefyd fod staff yn eu trin yn deg ac yn eu parchu a bod yr ysgol yn gwrando ar eu safbwyntiau ac yn gwneud newidiadau y maent yn eu hawgrymu. Mae crynodeb o ganfyddiadau’r holiaduron yn Atodiad 1.